Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
% ®jrst Cirtm'ttg,
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Cirtm'ttg, DAN OLYGIAETIT, Y Parchedigion W. Rees, D.D., J. Thomas, N. Stephens, a IV. Roberts, Liverpool; a J. Davies, Caerdydd. Cyfrifa yn mysg ei ohebwyr rai o lenorion blaenaf ein canedl—rhai o honynt yn rheolaidd, ac eraill yn achlysurol. Mae y rhai a ganlyn yn mysg ei feddian- wyr, neu wedi ysgrifenu erthyglau ar destynau gwladol neu eglwysig, ac yn addaw gwneud hyny hefyd eto: —Y Parchedigion J. R. Kilsby Jones; W. Ambrose (Emrys), Portmadoc; R. Thomas (Ap Vychan), Ban- gor; D. Roberts (Dewi Ogwen), E. Evans (Herber), R. Ellis (Cynddehv), Caernarfon; D. Griffiths, Port- dinorwic; R. Williams (Hwfa Mon), Llundain A. J. Parry, Liverpool; D. Jones, B.A., Merthyr; E. Ste- phen, Tanymarian W. Evans, Aberaeron; O. Evans, Llanbrynmair; J.Lewis, Ilenllan J. Peters, Bala; T. Johns (Taborfryn), Llanelli; W. Thomas (Gwilym Gwenffrwd); T. Rees, D.D,, Abertawe; R. W. Grif- fitli, Bethel; D. Oliver, Llanberis; W. J. Morris, Pont- ypridd; H. Oliver, B.A., Newport; D. Rowlands,B.A., (Dewi Mon), Trallwm E. Owen, Clydach O. Jones, Ystaiyfera H. Rees, Caer; W. Griffith, Caergybi; H. Jones, Cemaes; J. M. Prytherch, Wern; S. Evans, Hebron; W. Morgan, Caerfyrddin; W. Roberts, Aberhondclu J. B. Jones, B.A.,Penybont; J. Davies, Taihirion; L. Probert, Bodringallt; T. Ll. Jones, Machen; W. Nicholson (Eldad Mon), Treflys; W. Thomas, Whitland; T. Thomas, Glandwr; R. Hughes, Cendl; E. Hughes, Penmain; W. Jones, o India; 11. E. Thomas, o America; T. Thomas, o Africa; Mri. P. Mostyn Williams; J. Ceiriog Hughes; C. R. Jones, Llanfyllin; J. Williams, Trecynon; W. Tegerin Hughes, G weirydd ap Rhys, R. Herbert Williams (Corfanydd), Pont Menai; T. Williams, Goitre, yn nghyda lluaws o woinidogion a lleygwyr galluog eraill. «'ó?'I1l1'i"öA:i..a.:L"tA¡¡¡¡-iJ5d.'
AT EIN GOHEBWYE.
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYE. Dwrn Caled.—Drwg gcnym fod y fath beth wedi digwydd, ond nid yclym yn gweled yr atebai dynoethi ypleidiaudrwy y wasg ddim daioni, Rhaid i ddrygau fel yna gael eu rhoddi i lawr trwy anghymeradwyaeth y bobl sydd yn gwybod am danynt. Castellau.—Cyhoeddwn yr eiddoch mor fuan ag y medrwn. Granellian.—Rhy debyg i Sweet Oil; gwell i chwi ysgrifenu ar ryw beth arall; yr ydym yn gweled y gellweh. Dafydd o'r Cwmglas, a Chynghorau Cyffredinol.-Yn ein nesaf. Ymfudiaeth i America gan Gwesyn, Robin Goch, Newydd o'r Wladfa, Pwffyddiaeth Enwadol,-a gyhoeddir cyn gynted ag y gallwn wneud lie iddynt. Chwareu teg.—Heb enw priodol. Undeb Cynulleidfaol i Gymru a'r Goleuad.—Yn ein nesaf. Morlaisfab, Cyfarfud Sefydliad y Parch. J. Lloyd James, Cyf- arfod chwarterol undeb gorllewinol Morganwg, Undeb Cerddorol Bethel, Urddiadau yn New York a Beaver Mea- dow America.—Drwg iawn genym orfod gadael y rhai hyn ac amryw eraill allan o'r rhifyn hwn. Nis gwyddom yn y byd na beth i'w wneud oddieithr i'n goliebwyr ysgrifenu yn fyrach. Nid ydym am ddigio ein gohebwyr ffyddlon, ond yn wir rhaid i ysgrifenwyr newyddion fod yn fyrach o'r haner, oraide nis gallwn eu cyhoeddi. Mae pethau dyddor- ol i'n darllenwyroll yn cael eu gwthio allan bob wythnos oblegid meithder newydidon lleol. Yr ydym am lwyr lan- flau ein Bwrdd, a llosg-i yr us cyn diwedd y iiwyddyn, fel y gallom ddechreu y flwyddyn newydd a Bwrdd glan. Yr Anerchiadau Dirwestol.-Anfonwyd i ni i'w cyhoeddi an- erchiadau Dirwestol o eiddo y Parchedigion R. Thomas, a D. Rowlands, M.A., Bangor, at Weinidogion yr Efengyl ac un arall at Swyddogion Eglwysig ac Atnrawon yr ysgol Sabbothol. Gan fod yr anerchiadau hyn wedi eu lledaenu yn helaeth eiscses nid ydym yn gweled yr atebid un dyben uniongyrchol o'u hadgyhoeddi yu y TYST. Gobeithio y dar- llenir hwy yn ystyriol gan bawb sydd wedi eu derbyn. Mae cu cynwysiad yn rhwym o gael sylw buan ein Gweinidogion a'n Heglwysi, onide bydd canlyniadau difrifol i foesau ein gwlad.
AT Y BEIRDD.
News
Cite
Share
AT Y BEIRDD. gJgpDa chwi Feirdd, peidiwch a'n gorlwytho a'ch cyfansodd- iadau, a diolch yn gynes i chwi am eich cefnogaeth galon- ogol. "I Er arbed traul a choll amser, eyfeirier y Farddon iaeth oil i REV. R. WILLIAMS (Hwfa Mon), 10, Clayland Road, Kennington, LONDON.
Y 'WESTERN MAIL' A'R 'TYST…
News
Cite
Share
Y 'WESTERN MAIL' A'R 'TYST CYMREIG.' Nid rhyw lawer yn Lloegr sydd yn gwybod am fodolaeth y TYST CYMREIG, a llai na hyny yn Nghymru sydd yn gwybod am fodolaeth y Western Mail. Lied ieuangc yw y TYST ond ieuangach a gwyrddach na hyny o lawer yw y Mail. Mae y TYST yn gynhenid—yn gynyrch meddwl, teimlad, calon, ac arian y Cymry eu hunain ond rhyw dramoryn mewn ffarf, syn- iad, amcan, ac arian yw y Mail. Gwyddys pwy bia y TYST-gwyddys o ba le y daeth, beth yw ei amcan, a phwy sydd yn ysgrifenu iddo; ond ni wyddys pwy yw perchenog y Mail, na phwy sydd ddydd ar ol dydd yn llanw ei golofnau aneglur ag enllib ac athrod berson- ol. Buwyd yn dywedyd fod gan Ardalydd Bute ran helaeth yn ei berchenogaeth. Pa faint o wirionedd sydd yn hyn anhawdd gwy- bod, Y gred gyffredin yn awr yw-bod ei arglwyddiaeth, os bu ganddo law ynddo o gwbl, wedi llwyr gefnu arno. Hawdd iawn genym gredu hyn; oblegid mae chwaeth uchel, boneddigaidd, diledryw, a chrefyddolrwydd dwfn yn neillduolion amlwg yn nghymeriad Ardalydd Bute. Nis gall boneddwr yn meddu y nodweddau hyn byth ddarllen yr ymosod- iadau personol bryntion a geir ddydd ar ol dydd yn y Mail, heb ei daflu ymaith gyda dirmyg, a chanu yn iach am byth i bapur o chwaeth mor isel, o honiadau mor hunanol, o yspryd mor ddrwg, ac o allu mor eiddil. Mae un peth yn sier-sef, mai byr fydd ei yrfa, oblegid mae y wlad yn rhy buragoleuedigi'w dderbyn ac os nad yw Ardalydd Bute yn ei gefnogi, nid oes neb arall o'i gylch a llogell ddigon dwfn i'w ddwyn allan yn hir. Eto, dichon iddo wneud drwg gwleiclyddol anferth mewn amser bychan; oblegid yr ydym yn sicr fod gwawd ac athrod y wasg Seisnig wedi gwneud mwy na'r holl ddeddfau annheg i chwerwiacestroneiddioy Gwyddelod. Gwawd- iwyd, dirmygwyd, ac enllibwyd hwy gan y Saeson a phapyrau Seisnig nes eu gwneud yn Sais-gasawyr. Mae dygasedd at y Sais wedi meddianu gwroiddiau eu bodolaeth; ac y mae yn amheus a ellir ei dynu oddi yno cyn i'r Sais gael teimlo ei chwerwedd chwerwaf. Dyma yn gywir beth mae y Western Mail yn sicr o wneud yn Nghymru, os ca fyw yn ddigon hir. Pobl dawel, heddychol, a theyrngarol i waelod calon yw y Cymry; ac eto, nicl yw yn anmhosibl eu hestroneiddio a'u chwerwi hwy, pan mae papurdyddiol yn arllwys allan ddydd ar ol dydd y camddarluniadau mwyaf gwarthus am gref- ydd, am arferion, am gynulliadau, ac am athraw- on crefyddol y bobl. Nid yw golygydd y Western Mail yn gwybod gair o iaith ein gwlad; ac nid oes dyn yn y swyddfa a wyr fwy na thwrch daear am ddefodau crefydd, gwleidiadaeth, ac awyddfrydau y genedl. Ac eto dyma y bobl sydd yn ein difenwi. Ie, dyma y dynion yn unig a all ein difenwi. Cyn y gellir gwir athrodi gwlad fel Cymru, rhaid cael Eglwyswr, Tori, a Sais wedi cyfarfod yn yr un dyn, a'r un dyn hwnw heb ei eni na'i ddwyn i fyny yn ein plith. Dichon fod y Mail yn boddloni ei hun, a dichon ei fod yn boddloni ychydig dwrneiod yn Nghaerdydd, ac ychydig Eglwys- wyr yma a thraw, wrth geisio gwasgar gwrei- chion i deimladau y wlad. Mae y Mail wedi ein dirmygu ni drwy gyfeirio atom, oblegid dirmyg i ni yw cael ein henwi ar ei golofnau. Wrth reswm, rhaid i ni geisio talu y gymwyn- as yn ol, drwy wneud caredigrwydd ag yntau, a dyma a wnawn—neillduo allan ei ymosodiadau personol, a'u cyhoeddi yn gyfrol, a chyflwyno un yn anrheg i bob tirfeddian-w r yn Nghymru ac i bob aelod seneddol, fel y gwelont y bon- eddigeiddrwydd, y grefydd, y chwaeth, a'r dueddfryd a amlygir yn mhapur yr Eglwys- wyr a'r tirfeddianwyr. Yr erthygl gyntaf yn y gyfrol fydd yr ymosodiad ar Col. Stuart tra- noeth i gyfarfod gwleidyddol diweddaf Caer- dydd. Yr oedd hono y fath nas gallasai dyn, boneddwr, na Christion byth ei chyfansoddi. Dylai sylw neillduol Ardalydd Bute gael ei dynu at yr erthygl hon. Cefnder i'r Ardalydd yw Col. Stuart. Gyda'i gefnier yr oedd y Milwriad yn aros y noson y cyfansoddwyd ac yr argraffwyd yr erthygl frwnt hon. Ac ar fwrdd yr Ardalydd yr oedd y Milwriad yn bwyta ei foreufwyd y dydd y cyhoeddwyd hi. Tybed ei bod yn bosibl i fwrdd Ardalydd Bute roesawu Col. Stuart, ac i'w arian yr un pryd gyflogi estron i'w gablu ? A ellir credu fod yr Ardalydd ieuangc yn chwareu y ffon ddwybig fel hyn ? Na, na, mae yn anmhosibl. Dyna yr erthygl ynte a fydd gyntaf yn y gyfrol, ac at yr hon y cymerwn ofal i alw sylw neillduol Ardalydd Bute. Wedi y cwbl, mae yn amheus a yw y Western Mail a'i holl enllibau yn werth y papur a'r inc a dreuliwn arno. Cicauon ydyw-y ddoe nid oedd, ac yfory ni bydd. Y mae rhywbeth yn ddamegol ac awgrymol hyd yn nod yn ei swyddfa. Mae ei sign yn uwch na phen ei dy, yr hyn sydd yn arwyddo feddyliom fod ei honiadau yn uwch na'i allu. Muriau ar eu haner-wedi cynyg myned yn uwch, a raethu- sydd o gylch ystafell y golygydd; eithaf arwydd- lun o honiadau uchel ac eiddilwch mawr ei gyn- nyrchion. Mae yr ystafell hefyd gerllaw gor- saf y rheilffyrdd, fel y bydd yn gyfleus iawn os bydd i'w ffoedigaeth gymeryd lie yn y gauaf neu ar y dydd Sabboth. Ac eto, mae hwn, ïe hwn, yn cymeryd arno farnu pobl na wyr ddim am danynt, ac yn collfarnu llenyddiaeth, heb wybod gair o'r iaith mae y llenyddiaeth hyny ynddi. Yr ydym yn tosturio wrtho-un iaith a wyr ef, tra yr ydym ni yn gwybod dwy; rhaid iddo ef gyflogi cyfieithwr cyn y gall ddeall gair o'n heiddo ni, tra yr ydym ni heb gyfieithwyr yn deall ei gynyrchion ef, ac yn ei ddeall ynte hefyd drwyddo. Yr oedd y TYST yn bodoli cyn geni y Mail, ac fe fydd y TYST yn fyw ac yn iach pan fo y Mail wedi marw, ac heb neb yn galaru ar ei ol, ond un twrne a'r ychydig sydd yn enill bara a chaws yn y swyddfa. A dyma y papur sydd yn myned i ladd ymneillduaeth a rhyddfrydedd Cymru; wel, yn wir, maent yn gulach na gwartheg culion Pharaoh, os gall hwn ei lladd, a bydded Llawdden fwyn yn farnwr.
AT EIN DOSBARTHWYR.
News
Cite
Share
AT EIN DOSBARTHWYR. Bydd y Chwarter hwn yn terfynu gyda'r rhifyn nesaf. Disgwyliwn y bydd ein holl Ddosbarthwyr ffyddlon yn gwas- tadhau eu cyfiifon yn ddioed; ac erfyniwn yn daer ar iddynt oil wncud eu goreu i ychwanegu rhif y derbynwyr erbyn y Chwarter nesaf. Mae yn llawen genym ddyweyd fod archeb- ion newyddion yn dyfod i'r swyddfa bob dydd; ac y mae ein derbynwyr rai canoedd yn lluosocaeh nag oedd>nt fis J n ol; ac am y eymeradwyaethau, y maent yn dyfod atom o bob cyfeiriad.
TELERAU Y 'TYST.'
News
Cite
Share
TELERAU Y 'TYST.' Anfonir un rhifjn o'r TYST diwy y post i unrhyw le am chwarter am 2s 2g. Danfonir tri rhifyn i unrhy w fan am 3.3 3c y chwarter ac anfonir chwech am 5s 6c y chwarter, a ilioddit clquy ge.iniog y swllt i'r Dosbarthwjj.'am unrhyw L';fer a weitinr llwch1aw hyny. Byddwn ddiolchgar iawn i'n Dopbarthwjx' sydd yn cymeryd 9 os cyfodant y rhif i 10, a'r rhai sydd yn cjmeryd 12 os cyfedant i 13, gan mai yr un gost fydd i ni i'w hanfon trwy y po'.t. Cyfeirier y Gohebiaethall oll-To the Editors of the TYST CYM- REI(L, 8, Broolcs Alley, Old Post Office Place, Liverpool; a'r j holl archebion a thaliadau am y TYST i'w gwneud i Mr. O. THOMAS, i'r cyfeiriad uchod.