Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Hide Articles List
12 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
BHTTTHYN A BRYN Sio-T.-Y mae yr eglwysi An- nibyiiol uchod wodi rhoddi gal wad unfrydol i'r Parch. D. Ll. Jones, Manchester. Y mae yntau wedi eu hateb yn gadarnhaol, a bwriada ddechreu ei weinidogaeth. yn eu plitli y Sabboth cyntaf yn lonawr, 1870.
PENFRO.
News
Cite
Share
PENFRO. VVYN CYSTAB.—Tachwedd yr 28ain, daeth dafad jperfchynol i Mr G. Evans, Trefelon, ger Llandysilio, 'Penfro, a clau oen. Y mae y Saeson yn barod iawn i ymffrostio eu bod ar y blaen ar y Cymry fel am- aethwyr, y,n gystal a phethau ere-ill. Diau y bydd- ani; yn anion i'r papuraa yn mhen mis eto i ddweyd fod hwn aa arall wedi cad wynhynod gynar. Ond lien Gymro parchus, 70 oed, bia y flaenoriaeth eleni. Y mae gan Mr Evans ffarm dda, ac y mae ar y blaen gyda phob poth perthynol iddi. Ond er ei fod yn ddiwyd a ilwyddianus gyda phethau tymorol, eto y mae wedi dysgu arfer y byd heb ci gam orfer.' Ycljydig sydd wedi gwneud y I goreu o'r ddau fyd.'
V 'GWMDAE. - - ;-'.'
News
Cite
Share
V GWMDAE. F: GWOBEWYO TEILYNGDaD.N os Fawrth, Tachwedd 23ain, dangoswyd parch lie yr oedd parch yn ddyled- tts i gyfaill. o'r enw Thomas Waltcrs, gan weithwyr y Bwllfa, a chart amryw weithwyr o weithfaoedd eraill, am ei fod bob amser yn barod fel meddyg da Y,, yn yr ardal. Cynhaliwyd y-cyfarfod yn addoldy y Bedyddwyr. Etholwyd Mr James Williams i'r gaclair, ac wedi cael araeth bwrpasol, aed yn mlaen a'r cyfarfod. Cariwyd y cyfarfod yn mlaen gan amryw feirdd, cantorion, ac areithwyr. Dangoswyd gwir deimlad at y cyfaill hwn gan bawb ag oedd yno. Areithiwyd gan Mri Thomas Thomas, (gynt o Gwmdar), William Gwilym, George Edwkrds, ac amryw eraill y byddai yn rhy faith exi henwi. Ac lief yd yr cedd y Beirdd yn eu hwyliau goreu yn dylifo eu cyfausoddiadau barddonol yn burdeimlad- ol.— G-wilym Dar.
BUALLTF . 'V' J''
News
Cite
Share
BUALLTF 'V' J YMEYSONFA ARu, Dio-A gymerodd lo ar dir Llwyn- piod, ger Garth Station, ar y Central Wales Rail- way, dydd Gwener, y 26ain cynfisol. Yr oeddtriar- ddeg weddau ar y maes yn ymryson am y gamp. EniUwyd y wobr flaenaf mewn un dosbarth gan J. Jones, Tynewydd, ac yn y llall, gan R. Powell, Llwynhowel; a'r ail gan J. DaYies, Dolaeron-oll o gymydogaeth Beulah. Y mae y sefydliad yn gwneu-, thur daioni i'r gang-en yma 0 amaothyddiaeth yn ein gwlad. Llwydd iddo. TYLQSGIAD.—Oddeutu pum milldir o Lanwrtyd, mewn ardal fynyddig, ar gyffima<u Tywi, cymerodd ffermdy bychan o'r enw Clynglas dan, min yr hwyr nos Fercher, y 24ain cynfisol, a Hosgodd i:r Hawr; ac) iel mae yn alarus eofnodi, llosgodd gwraig y ty ac un o'r plant i farwolaeth Nid oedd y gwr gartref ar y pryd, ac ymddengys fod y wraig wrth y --or- ehwyl o ollwng y gwartheg allan o'r beudy pan y gorchfygwyd hi gan y tan, Cafwyd ei gwecldillion yn y preseb.
CAERSWS.';'
News
Cite
Share
CAERSWS. CYFAXiFOD CENHADOL.—Dydd Sul, wythnos i'r di- wedddaf, yn addoldy y Wesleyaid yn y He hwn, pre- gethodd y Parch. J. Nichlin, Beriw, bregeth ragbar- otaol ar yr achlysur hwn. Y nos Lun oiynol, yn yr Ysgoldy Brytanaidd, 0 dan olygiaethMrE. Wooloy, cynlialiwyd cyfarfod cenhadol. Anerchwyd y gwydd- fodolion lluosog gan y Parchn. G. Roid, a J. W. Thomas, Dafofnowydd, yn nghyda'r Parch. J. Nicho- las, gweinidog y Bedyddwyr yn y lie hwn. Yr oedd yr areithiau oil yn bwrpasol iawn. Y BBDYDDWYE.—Dydd Sul diweddaf, yn nghapel y Bedyddwyr yma, traddododd Mr D. R. Owen, mab y Parch. E. Owen, Ceri, a myfyriwr yn Hwlffordd, bregeth ragorol 0 bwrpasol mewn cysylltiad a'r athrofa uchod i gynulliad lluosog. SILO, PONTDOLGOCH.—Nos lau diweddaf, yn'yr addoldy hwn, cynhaliwyd cyfarfod cenhadol. Y rhai a gymerasant ran yn y gwaith oeddynt y Parchn. H. Parry (Harri Ddu), Llanidloes, a H. Wilcox, Trefeglwys. Yr oodd hwn yn gyfarfod lluosog a dyddorol.
DOLGELLAU.'-:'
News
Cite
Share
DOLGELLAU. CYFARFOD ADRODDIADOL. -'Cvnliali,wycl y trydydd, a'r olaf am y flwyddyn hon, o'r cyfarfoclydd uchod yn yr Hou.Gapol,o dan lywyddiaetli. y Parch. S. Roberts. Elid i mown trwy, dalu 2g., a chafwyd cymilliad gweddol dda, o dan yr amgylchiadau. ÜVlYN CAMDYSTIOLAETH,—-Digwyddodd amgylch- iad lied liynod yn y dref hon ddydd Sadwrn diwedd- ai, yr hyn a fu yn dostun siarad cyfxredinol ymhlith y trigolion. Am oddeutu deg o'r gloch y boreu, hysfeysodd y town crier, Mr Robert Lloyd, fod oddeu- tu 200 o dorthau chwecheiniogau i gael eu rhanu i'r tlodion, mewn He a elwir Domen Fawr, am haner awr wedi deuddeg; ac yn mhellach, darllenodd bapuryn yn cynwys hysbysiad i'r perwyl canlynol:- Yr wyf fl., John Williams, butcher,, Bontfawr, drwy hyn, yn hysbysu yn gyhoeddus, mai au ] eddus oedd yr hyn a ddywedais am Mr Isaac Hum- phrey Evans, clerk, yn ngwasanaeth W. Griffith, Ysw., cyfreithiwr, eifod wedi lladrata Hechi perth- ynol i mi yn Penucha'rdref ac yr wyf, yn ngwydd amryw dystion, yn tynu fy ngeiriau yn ol, ac yn rhoddi 5p. fel iawn am yr hyn a ddywedais.' Barnodd y boneddwr a gylmddasid yn oreu ranu y swm a dderbyniodd yn iawn yn mhlith y dosbarth iselaf yn y modd a nodwyd, yn hytrach na'u cadw iddo ei hun. Dylai hyn fod yn rhybudd i bawb i fod yn ochelgar iawn rhag taenu anwireddau am eu gilydd, os. na bydd ganddynt dir safadwy i sefyll arno-I Na feddwl ddrwg am dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.'—Tyst.
CAERDYDD.
News
Cite
Share
CAERDYDD. Nos Fawrth, Tach. 30ain, traddododd Mr Handel Cossham, Bristol, ddarlith gampus yn ysgoldy capel Hannah-Street, ar 'Arwyddion yr amserau.' Mr W. Marychurch yn y gadair. Yr oedd y gynulleid- fa yn lluosog a pharchus, y ddarlith yn wir dda, a'r elw at yr ysgol Sabbothol. Y nos Fercher ar ol hyny, cynhaliwyd cyfarfodydd adlonawl—mewn darllen, canu, ac adrodd, yn yr un ysgoldy, ac hexyd yn y Grange Town. Yr oedd cy- nulleidfaoedd da yn y ddau le, a'r cyflawniadau yn foddhaus a derbyniol. Dydd lau, daeth i mewn yma yr agerlong fwyaf a fu yn y porthladd erioed. Mae ei maintioli wedi denu canoedd er oered yw yr hin i ymweled a hi. Parha masnach y glo i amlygu arwyddion bywyd a phrysurdeb, ac yr ydym yn ceisio coelio bod amser da y Colliers yn neshau. Nos Wener diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod blyn- yddol y gangen Gymreig o'r Feibl Gymdeithas, yn nghapel Seion. Yr oedd y cynulliad yn weddol ar nos Wener a'r nos Wener hono yn nos Wener oer. Dr. Phillips ei hun oedd yr ymwelydd y tro yma, ac yr oedd yn ei lawn hwyliau.
CWMYGLO.
News
Cite
Share
CWMYGLO. DIRWEST.-Y mae yn dda genyf allu hysbysu dar- llenwyr y TYST fod yr achos dirwestol yn tynu cryn sylw yn y Cwm y dyddiau yma. Deallwyf fod am- ryw o'r rhai meddwaf yn y lie wedi ardystio i ym- wrthod a phob gwirodydd meddwol. Cedwir cyfar- fodydd dirwestol yn ami yn y ddau gapel er dwyn y pwnc i fwy o sylw. Meddwdod ydyw drwg mawr yr ardal hon. Dyma'r achos braidd o'r holl ang- hysur a thlodi a welir yn ein cymydogaethau. Y mae masnach yn fywiog iawn yma. Y mae pawb yn cael digon o waith, a chyflogau da am weithio; ond etc, er yr holl fanteision hyn, y mae amryw mewn tlodi a hyny yn unig 0 herwydd meddwdod. Gwyddom am amryw o fechgyn ieuainc yn Cwmy- glo a Llanberis sydd yn gwario braidd yr oil o'u cyflogatx ar gwrw a gadawant y masnachwr i ym- daro fel y gallo. Oes y mae yma (y mae yn ddrwg genyf orfod addef hyn) rai mor eithafol 0 anonest a drwg a hyn. Ac y maent fel melldith yn ein har- daloedd. Nid yn unig y maent yn mynu byw fel hyn eu hunain, ond ymdrechant hefyd i hudo eraill gyda hwy. A chan fod yma .rai mor benwan a chredu eu bod yn fwy 0 ddynion wrth yfed cwrw nid ydyw yn anhawdd eu hudo. Y mae yn dda iawn genyf weled arwyddion fod dynion goreu ein hardaloedd yn dyfod allan i ymdrechu darbw);;llo ein hieuenctyd i ymadael a'r drwg hwn sydd yn, gwneud cymaint o niwed yn ein gwlad.
LLANBERIS.
News
Cite
Share
LLANBERIS. Y mae golwg flodeuog iawn ar addysg yn yr ardal hon yn bresenol. Y mae yma oddeutu 250 0 blant 0 dan addysg. Y diffyg mawr ychydig yn ol oedd ein bod yn methu cael cydweithrediad yr ardal mewn dwyn yr ysgol yn mlaen. Yr oedd llawer 0 rieni mor ddifater am addysgu eu plant fel yr oedd yn amhosibl eu cael i anfon eu plant i'r ysgol. Y mae yn beth rhyfedd fod cymaint o csgeuluso hyn yn yr ardaloedd hyn, lie mae addysg i'w chael mor rhad, rhagor flynyddoedd yn ol, ond y mae yn dda genyf ddweyd fod hyn wedi gwella yn fawr yma er ys ychydig, fel y mae golwg fwy lewyrchus arni nag a fu er's llawer blwyddyn. Y mae hyn yn galondid mawr i'r ardal, ac yn glod i'r athraw. Y mae yma hefyd ysgol nos yn yr hon y mae yn agos i gant yn cael eu haddysgu, ac y mae yn warth nid bychan ,a'r bechgyn ieuaingc sydd yn gorfod myned i weithio cyn cael ond ychydig iawn o fan- teision addysg. Y mae un peth y dymunwn ddwyn sylw y bobl ieuaingc ato, sef cael News Room, neu rhywbeth cyifelyb, a chael y newyddiaduron Cymroig, ac am- bell i newyddiadur Seisnig, a'r misolion, a'r chwar- terolion, a llyfrau da eraill, a hyriy er ymgydnab- yddu mwy a hanes y byd moesol a llenyddol, yn lie bod fel y mae ngeiniau, fel y mae gwaethaf dweyd, yn gwario eu hamser a'u harian i oferedd. Feallai y byddai hyny yn gychwyniad i gael Free Library iawn yma.G.
NANTGAREDIG.
News
Cite
Share
NANTGAREDIG. MAE'R TOEIAID ETO'N PYW.—Ami a lluosog yw Y profion a geir yn y dyddiau hyn fod y Toriaid eto'n fyw. Er iddynt fod yn hynod aflwyddianus yn Y brwydrau celyd a ymladdwyd yn ddiweddar gan- ddynt, eto i gyd dangosant arwyddion bywyd yn eglur iawn. Nid oes wahaniaeth i ba ran o'r Dyw- ysogaeth y taflwn ein golygon lIe bynag y byddo- Toriaid yn preswylio, meddianir hwynt gan yr yS- bryd jcamelaidd hwnw, dan ddylanwad pa un, Y maent hyd eithaf eu galln. yn ceisio dial ar e1.1 gwrthwynebwyr. Fel y mae mewn cymydogaethau eraill, felly mae o gwmpas Nantcaredig. Y dydd o'r. blaen, ysgrif- enwyd llythyr at ysgrifenydd cwmpeini Rheilffordd Caerfyrddin a Llandilo, gan grach-foneddwr Tori- aidd o'r plwyf hwn (Llanegwad), pa un oedd yn llawn o'r anwireddau mwyaf noeth. Beiddiwn ddweyd nas gallasai tad y celwydd ei hunan gyfan- soddi eu gwell. Yr amcan mewn golwg oedd, ceisio taflu Mr Evans, ceidwad gorsaf Nantgaredig, ben- dramwnwgl o'i swydd. Mae yn ymddangos i IJJl fod Mr Evans yn Rhyddfrydwr ben a chalon, ac wedi pleidleisio dros Mr Sartoris yn yr etholiad di: weddaf, ac nid hyn yn unig, ond gwnaeth ei, oreu l gael eraill i roddi eu votes yn yr un cyfeiriad. A" er hyny hyd yn awr, pentyra y Toriaid bob mellditb a allant ar ei ben. Ond da genym hysbyisu fod 31r Evans gymaint yn ffafr y cwmpeini hyn, fel na aU yr un Tori, er eu holl gyfrwysdra, wneuthur dip1 niwed iddo. Mae llythyr y boneddwr hwn ger ein bron yn bresenol, a chredwn y byddai yn anrheg 1 ddarllenwyr y TYST i'w weled fel yr ysgrifenwyd ef gan yr awdwr ei hunan. Yn y dyfodol gwnaw" hyn, os iach a byw fyddwn, a chael caniatad 1tfrl Gol.; bydd hyny yn wers i'r Toriaid i adael eu tric- iau o'r neilldu, a bod yn debyg i fodau rhesymol eraill. Hefyd cymerodd CYFNEWIDXAD PWYSIGT arall le yma, yr hyn a achoswyd gan rai o'r Toriaid- Arferid derbyn y degwm perthynol i'r plwyf hw,4 er ys blynyddoedd bellach, yn ngwesty y CresseUf Arms, lie y preswylia Mr D. Jones, yr hwn oto syd^ yn Rhyddfrydwr yn mhob ystyr o'r gair. Ond cy- merodd cyfnewidiad le, aethpwyd eleni i westy t Salutation, lie y preswylia Mr James, yr hwn sydf1 o ran ei olygiadau poHticaidd yn Geidwadwr. G<»' ynwyd i un o'r partion a dderbynient y degwm, bett1 oedd yr achos am y fath gyfnewidiad ? Pryd yr atebwyd ef, mai am nad oedd Denis Jones yn mynj ychu eglwys y plwyf. Atebiad hynod dda, onide • hollol deilwng o'r Toriaid. Gwawried y boreu ]aå y bydd y degwm wedi darfod o'r tir, y gwladol crefyddol wedi ei dori drwy'r byd. Yna (J y Toriaid a'r uchkeglwyswyr dalu a derbyn, pryd, a'r man a'r lie y gwelont hwy yn dda. Bydd ge11' ym air o'r parthau hyn eto yn fuan. Felly gO phwysaf y tro hwn.—J. F. J.
IABERTAWE A'R CYLCHOEDD.ef
News
Cite
Share
ABERTAWE A'R CYLCHOEDD. ef Bu achos o gryn bwys ger bron ynadon y dr honddydd Mercher diweddaf, a hyny yn ddim Ilai 11" chyhuddiad o anudoniaeth yn erbyn un o heddgeid' waid y sir. Mae'r New Beerhouse Act' we 1 rhoddi gwaith i'r heddgeidwaid mewn eyfeiriacl"o nag oeddynt yn arferol o'i gael, ac o un o'r <&se, hyny mae'r achos presenol yn codi. Yr oedd Llangyfelaoh yn ddifereb am ei feddwdod a'i
LLOFFIQN O'R DEHEUDIR.
News
Cite
Share
LLOFFIQN O'R DEHEUDIR. I gystadleuaeth mewn Eisteddfod yn Nghasnew- ydd ar Wysg yn ddiweddar, anfonwyd 121 o donau, a barnodd Dr. Wesley, organydd Caerloyw, mai ton D. Emlyn Evans, Ysw., Penybont-ar-Ogwy, ydoedd yr oreu. Y wobr ydoedd un- Qini, Yr orsaf salaf, fudraf, a mwyaf anghyfleus yn Y chwe sir ddeheuol ydyw un Cledrffordd Deheudif Cymru yn Llansawel, sir Forganwg. Y mae YD; druenus ar dywydd gw\yb, ac oer, a gwyntog. Dylal y trigolion ddeisebu y Owmni am gael gorsaf new ydd yn ddioed. Yn ddiweddar, traddodwyddarlith ar I America,' gan y Parch. T. Levi, yn Ferndale, Cwm Rhondda. Y cadeirydd ydoedd D. Davies, Ysw., gynt o Faes- y-ffynon. Yr elw at addoldy y Trefnyddion yn Y He- Boreu dydd lau, syrthiodd gyrwr Cerbydres oddi ar ei beiriant pan yn teithio yn gyflym gerlla"W Marshfield, a chafodd friwiau mawrion. Cludwyd ef i glafdy Caerdydd. Nid oes end gobaith gwaJl am ei adferiad. Yr oedd yn hen yrwr gofalus. Mae ein newyddiadur dyddiol Toriaidd, y Western Mail, wedi galw Dr. Sandwith, Llwyn-y-wermod, yn athrochvr brwnt ac enllibus. Mae y Dr. wedi y5- grifenu at y Golygydd am ymddiheurawd cyhoedd' us, neu y bydd raid iddo dalu y gwadau. Mae yn debyg fod 12 0 bolicemen yu gofalu ant heddwch a dyogelwch tref Caerfyrddin. Tybiodd rhai 0 aelodau y Cyngor Trefol yno fody nifer yn ormod, ond methasant yn eu cynyg i leihau eu rhif- Yr wythnos ddiweddaf, bu farw Mr R. C. f • Carne, Nash Manor, maer Pontfaen, a bargyfreitb- iwr enwog yn nghylchdaith Deheudir Cymru, ar ol cystudd ipaaith. Mae Mr J. D. Thomas, mab v Parch. T. ThomaS, Glandwr, wedi enill y radd o Wyryf Meddyginiaetb mewn arholiad yn Mhrif Ysgol Llundain, gyda 'r anrhydedd uwchaf. Enillodd ddau fedal aur ar "J pryd, ac ysgoleigiaeth arianol yn y Brif Ysgol- Campus yn wir, y Cymro ieuanc.—Lloffwf..