Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

HEN EISTEDDFOD.

News
Cite
Share

HEN EISTEDDFOD. Agos i gan mlynedd yn ol, sef yn 1772, cyn- haliwyd Eisteddfod yn Llanidloes, a cheir hanes am dani yn Almanac Gwilym Hywel, o Lanidl- oes, am y flwyddyn 1773, fel hyn:- Yn y llyfr hwn am y flwyddyn ellynedd, rhoddwyd gwahawdd am gyfarfod Beirdd yn Llanidloes, dydd Llun y Sulgwyn diweddaf; ond odid na bydd y rhai yn disgwyl clywed pa beth a ddygwyddodd yn ganlynol i hyny; ni ddaeth yno ond un proffeswr cerdd, sef loan Siencyn o Aberteifi; ac er na thraethwyd yno nemawr o farddoniaeth ag oedd o adeiladaeth, doethineb, na difyrwch, er boddloni rhai Cymry ymofyngar, rhoddwn i lawr yma ryw ychydig o ddynwarediad prydyddiaeth fel y dygwydd- odd:— i GWAHODDIAD I'R BEIRDD. Pencerddwyr dowch pyaciwch don—cyfeiriwch Cyfarfod a'r Beirddion, 0 Dre ffin i Dreffy iion, Glyn Conwy, Mynwy, a Mon. CyiW na 'meddwn i'n mysg—Cymreigwyr Cym'radwy diderfysg; Er eidd1"' a fo'r addysg, Bydded dawn,-boddivy a eu dysg. Rhowll bcrwaith glydwaith yn glos-gan hylaw, Gviia-lwaith i'r achos; Llaniwxi odl-,tuln Llanidlo's, Canu a wnawn cyn y nos. G. H. loan Siencyn, yr hwn eilw ei hun yn mysg ei frodyr, y Bardd Coch, yn cyfarch,— 0 Dreu'r Deheu ar daith-be givelech, Bu galed fy ymdaith, 1 Lanidloes swj n odliaith I'ch gwydd i gly wed eich gwaith. I. S. Yna traethodd Gwilym,— Sion a daw..1 sy' ddyn da-lluosog, A Ilesol mewn tyrfa; Sion yw'r Paun a'r swn pena', Mewn rhinwedd rhyfedd mae'r ha'. G. H. Araith Sion,- Iechyd heb glefyd na gloeJ-fo'n dilyn Fw il deulu Llapidloes A Howel i A yn hael ei foes, Sy'n fardd anwyl ar f'einioes. J. S. Dymuniad Gwilym,— Hirfyd hardd fo i'r Bardd wr bach G. H.-a mawr I'r Almanacwr harddach; [lwe Gwr o roddiad gwareiddiach, Mwyn iawn dymunwJ. yniach. J. S. John Rhys, llanc o dan bymtheg oed, oedd yn gwrandaw, ac yn rhesymu yn wych, ebr loan,— Draw langc wr ifangc o afiaeth J. s,-mae'i ddys- Am ddysgu barddoniaeth, G. H. [gwyl 'Mofyniad am ei famiaith, i. s. 0 ddawn mawr fe ddaw'n ddyn maith. G. H. Ebr Llanc,— Llange ifangc wyf llwagc ofer I.E.—da d'wedaist Dydi eist i'r dyfnder i. s. E-gydiwia y Bardd i'r Gader, Rhown iddo swydd,—rhifo ser. G. H. Yna dywedodd John,- Da wyr mwyn nid wy' wr maith-ond bwngler, A'r benglog anmherffaith; Hoffi'l' Gymraeg a'i heffaith, A threfn hen athrawon iaith. J E. ':cr Bydded hysbys i'r Cymry,—Yr Eistedd- fod a gynhelir y flwyddyn nesaf, drwy wahodd- iad John Jenkin, yn Aberteifi, dydd Llun y Sulgwyn, Mai 31, yn nhy John Davies, y Got, ar Benyporth yno. C) iinydd Awenydd ddi warth A dawn ber i'r Deheubarth.' Dyna Eisteddfod ryfedd Rhaid fod cyflwr Llenorawl Cymru yn druenus o isel gan mlyn- edd yn ol. Dyn o Lanrhaiadr Mochnant oedd y John Rhys a nodir. Dyn diallu, yn cerdded wrth ffynbaglau, yn wehydd ac athraw ysgol. Yr oedd llawer o'i ysgrifau gan ei weddw 50 mlynedd yn ol. Nid yw y rhigymau uchod yn werth nemawr heblaw dangos fod 'gwybodau Cymruaidd yn llawer uwch yn awr nag oeddynt y pryd hwnw. CYNDDEIAV.

ACHOS Y PARCH. N. THOMAS A'R…