Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
FFESTINIOG.
News
Cite
Share
FFESTINIOG. DAMWAIN BTFEKD.—Nos Iau, y 25ain o Tachwedd, syrthiodd darn anferth o graig, yn Chwarel y Llech- wedd, sef topyr agor, a chladdodd 2 ddyn o'r golwg yn hollol. Enw y naill ydoed William Griffith, gened- igoloSirFon; a'r Hall, Griffith Evans, brodor o Beddgelert—dau fachgen ieuange, o ddwy i bedair ar hugain oed. Gan ein bod yn llygaid-dyst o'r amgylchiad o'r dechreu i'r diwedd, dichon na fyddai yn anmhriodol i ni roddi ychydig o'r manylion. Gan ei bod yn agos i bump o'r gloch, yr oedd y rhan lu- osocaf o'r gweithwyr wedi cychwyn tuag adref. Yr oeddym wedi bad yn y lie ychydig o funydau yn ol, ond yn sefyll o fewn ychydig o latheni iddo, pan glywsom dwrw y cwymp. Cyfeiriassm ein camrau yn ol mor gyflym ag y gallem a chyn braidd i'r swn fyned o'n clustiau, clywem un o'r dynion yn gwaeddi 0 0 amryw weithiau. Gofynasom iddo pa le yr oedd. Atebodd ni gan ddyweyd, Yr wyf yn y fan yma, yn sownd o dan faen mawr.' Cyfeiriasom tuag ato yn nghanol y perygl, pryd yr oedd rhai darnau o'r graig yn disgyn yn ein hymyl. Ond nid oedd dim o hono i'w ganfod. Dyma olygfa wir ddifrifol. Canfyddem yn f uan fod fod yno ugeiniau, os nad canoedd, o dunelli o graig wedi disgyn amo ac o'i ddeutu, a rhai darnau an- ferth eu maint, ae mewn lie cyfyng. Ond wedi galw am ragor o ddynion i'n cynorthwyo, dechreuasom a gweithio a'n holl egni. Daeth ei lais yn adnabydd- us i ni yn lied fuan, a deallwyd mai Griffith Evans oedd. Nid oedd genym hyd yn hyn un amcan yn mha gyfeiriad yr oedd William Griffith; ond yr oeddym yn hollol argyhoeddedig ei fod wedi ei ladd ar y tarawiad cyntaf. Wedi nesu amryw ddarnau mawr- ion o'r graig tuag i lawr, gallasom wthio ein braich trwy agen gyfyng, a theimlo llaw Griffith Evans, a thrwy yr un lie dodasom ychydig o ddiod iddo am- ryw weithiau. Erbyn hyn, daethom i ddeall ychydig am ei sefyllfa. Yr oedd yn gorwedd ar ei hyd ar graig, a'i wyneb i lawr, a darn arall o graig oddi a rno yn cyrhaedd rai Ilatheni i bob cyfeiriad, a'r gwagle yr oedd Griffith Evans ynddo yn mesur yn y lie eangaf arno o 9 modfedd i 11, ae yn myned yn gyfyngach at y cwr pellaf; ae felly nis gallai ys- gogi dim ond ei ddwylaw a'i ben, ac ychydig ar un troed. Parodd deall ei sefyllfa fel hyn dipyn o bryder i ni, oherwydd ofnem wrth droi y meini oddeutu gyn- hyrfu yr un oedd Griffith Evans dano; a phe buasai hwnw yn gwyro i lawr un fodfedd yn ychwaneg, buasai yn gwasgu ei anadl allan o'i gorff mewn eil- iad, oherwydd credem ei fod yn pwyso o ddeuddeg i ugain tunell. Ond nid oedd dim i'w wneud ondym- roi i weithio—' Cadw einioes neu golli.' Penderfyn- asom gloddio gydag ochr y maen; ac yn y fan yma y daethom o hyd i gorff William Griffith, ond meth- asom a'i gael yn rhydd, oherwydd yr oedd rhan o hono o dan yr un maen a Griffith Evans, ac mewn lie mor gyfyng a thair modfedd. Gwedi cloddio mor ddwfn a'r graig yr oedd Griffith Evans yn gor- wedd arni, yr oeddym bellach wyneb yn wyneb ag ef. Pan gafodd oleuni ar ei sefyllfa, a chanfod rhan o gorff ei gyfaill gerllaw iddo, torodd allan i wylo am beth amser. Yr hyn a wnaethom yn nesaf oedd, gwthio coed o bob tu iddo, can dymd ag y gallem, er cadw y pwysau oddi arno os digwyddai i rywbeth gynhyrfu y maen. Yr oeddym yn teimlo erbyn hyn yn lied ddiogel na wnaem ei niweidio beth bynag. Ond pa fodd i godi ychydig ar y fath dunelli o graig, er llacio ychydig oddiar gefn y truan, dyma oedd gen- ym o'n blaen yn awr. Ond daeth i'n meddyliau am gael dau bar o ivedges coed cryfion, a'u cynio i mewn un yn mhob ochr iddo. Yr hyn oedd yn creu ofnau ynom ar y pryd yd- oedd, y buasai y maen yn codi yn un ochr, ae y buasai yr ymyl bellaf oddiwrthym yn gwyro i lawr, ac felly dynhau ar y rhan isaf o gorff y bachgen. Yr oedd yn wir gyfyng arnom yn"awr, oherwycld pe buasem yn methu yn y ffordd hon, cymerasai ddau ddiwrnod neu ychwaneg o'n hamser i glirio at yr ochr arall i'r maen. Ac nid oes arnom gy- wilydd cyfaddef wrth holl ddarllenwyr y TYST, os darfu i ni erioed, yn ystod ugain mlynedd o gref- ydda, anfon ochenaid i'r nefoedd at yr Hwn a ddichon waredu mewn cyfyngder, gwnaethum dan yr amgylchiad presenol. Pa fodd bynag, pan oedd dau o'r cyfeillion yn cynio ar y wedges, dywedodd un o honynt fod ei wedge ef wedi myned at ei phen. Gofynodd yr ysgrifenydd iddo roddi un cnoc yn ychwaneg, am ein bod ar y pryd agos a chael yn rhydd y rhan o gorff William Griffith, yr hwn oedd yn sownd o dan yr un gareg (fel y dywedasom uchod), rhodd- odd yntau ddau gyniad, ac yr eiliad hono gwaedd- odd Griffith Evans ei fod yn RHYDD. Aeth y gair fel trydan trwy gyfansoddiad yr holl edrychwyr, a chyfnewidiodd ugeiniau o wynebau yn y fan. Tynasom ef allan, ac aethom ag ef i lawr. Nid oedd wedi derbyn unrhyw niwed o bwys. ond yn nnig o herwydd ei fod wedi ei gadw yn yr ystum a nodasom am bum awr, yr oedd y.rhan isaf o'i gorff wedi oeri a stiffio yn arw. Wedi hyny, casgl- asom gorff yr ymadawedig, ae aethom ag ef allan. Yr ydym yn teimlo yn fawr dros ei berthynasau galarus. Ond y mae ein llythyr wedi myned yn anferth o faint, er nad ydym wedi rhoddi haner y manylion. Y mae yr amgylchiad wedi creu ynom hyder diysgog yn y dynion oedd yn eydweithredu a ni, fel eyfeillion gwrol a^chy wir mew J. adegau ogyf- yngder. Hefyd, os digwydd i Griffith Evans weled y llin- ellau hyn, hyderwn y bydd iddo ef ddefnyddio gweddill ei oes i wasanaethu Duw, a'i gydnabod yn ddiolchgar am y waredigaeth ryfedd agafodd megis o safn marwolaeth.Ab Dudwy.
Y FARCHNAD YD.
News
Cite
Share
Y FARCHNAD YD. LLTJNDAIN DYDD LLTTN.—Gwerthai gwenith am brisiau yr wythnos ddiweddaf. Marwaidd oedd y fasnach mewn haidd; ac o'r braidd y ceid 41s. y chwarter am y mathau goreu at fagu. Ychydig oedd o ofyn am haidd at falu a distylltio. Marw- aidd oedd brag am brisiau yr wythnos ddiweddaf. Ni chymerodd un cyfnewidiad le yn mhrisiau ceirch. Cadwodd ffa a phys at brisiau blaenorol. Ni chym- merodd un cyfnewidiad le yn mhrisiau blawd. LIVERPOOL DYDD MAWRTII,—Yr oedd yma gyn- nulliad lied dda yn y farchnad. Gwnaed masnach dda mewn gwenith am godiad o 2g. i 3c. ar bris- iau dydd Gwener. Blawd yn dal yr un fath. Yr oedd grawn India yn uwch.
Y FARCHNAD ANIFEILIAID.
News
Cite
Share
Y FARCHNAD ANIFEILIAID. LLTJNDAIN DYDD LLUN.-Nifer yr holl anifeiliaid tramor a ddaeth i Lundain yn ystod yr wytbnos ddiweddaf oedd 12,471. Gwartheg.—Yr oedd y mathau goreu mewn galw, a thalwyd y llawn bris- iau. Defaid.—Yr oedd y cyfleywad yn gj mmedrol, a gwerthid y mathau goreu am y lawn brisiau. Lloi.—Yr oedd galw da am loi bychain, a chedwid at y prisiau blaenorol. Moch.—Yr oedd galw cym- medrol am foch, a chedwid at brisiau blaenorol. LIVERPOOL DYDD LLUN.—Yr oedd y cyflenwad yn cynwys 3,200 o wartheg; a 8,769 o ddefaid. Yr oedd y stoc oedd ar werth o ansawdd ganolig. Defaid da yn brin iawn. i kYr oedd y fasnach yn fywiog, a thrwy fod nifer dda o brynwyr wedi dyfod ynghyd, cliriwyd y farchnad yn dda cyn y diwedd. Cig eidion da, Hc. i 8c. ailraddol, 6ie. i Hc.; gwael, 5c. i 61c.; cig defaid, 7c. i 9tc. y pwys.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau. GENEDIGAETHAU. Tachwedd 17eg, yn Mount Pleasant, Porthmadog, priod Cadben J. 'Rohexts^Brigantine Amanda, ar fab. 24ain, priod Mr John Parry, Joiner, Dinbych, ar ferch. 28a, n, yn' Albert Villa, Elm Grove, Birkenhead, priod Mr Elias Pierce, ar_ferch. PRIODASAU. Tachwedd 23ain, trwy drwydded. yn Swyddfa y Cofrestrydd yn Aberayron, Mr Jenkin Rees, Tanygris- iau, Ffestiniog, & Miss Rachel Davies, Cryngoed, Llan- arth, Ceredigion. 25ain. yn Tyrhos, Penfro, gan y Parch. J. M. Davies, Mr Samuel Luke, Saer, Cwmle, & Miss Ann Griffiths, cook, Rhosygilwern. MARWOLAETHAU. Tachwedd 12fed, yn Eisteddfa, gerllaw Porthmadog, Anne, trydedd ferch y Parch Thomas Jones, Tabor, yn ddwy flwydd a haner oed. 14eg, ya bur sydyn, yn 22 mlwydd oed, Miss Ann Davies, merch hynaf Mr Zephaniah Davies, Union Inn, Treforis, ger Abertawe. Bu yn aelod ffyddlawn a diargyhoedd o'i mebyd yn nghapel Horeb, Treforis, a gellir dyweyd oddiar seiliau cedyrn fod marw yn elw iddi. Y dydd Mercher canlynol, pregethwyd yn y ty gan y Parch Thomas Davies, Horeb, cyn cyfodi'r corff, yna hebryngwyd ei gweddillion i orphwys yn mynwent Llangyfelach. 16eg, yn 42 mlwydd oed, wedi hir gystudd, Mary Davies, priod Mr B. Davies, factory man, ger Llan- gathen. Y dydd Gwenercanlynol, hebryngwyd yr hyn oedd farwol i gladdfa y Bedyddwyr, Llanfynydd, gan ganoedd lawer o'i chyfeillion, pryd y gweinyddwyd gan weinidog y lie. Gadawodd briod a saith o blant i alaru ar ei hoi, ac amryw o'r rhai bach heb eu magu. 18fed, yn 56 mlwydd oed, J. Griffiths, Ysw., Tandderwen, Mydroilyn. Claddwyd ef ydydd Iau canlynol, yn mynwent y lie uchod. Boed nodded Duw ar ei weddw a'i blant. 22ain, ar ol ychydig ddyddiau o gystudd trwm, Esaiah Williams, yn 18 mlwydd oed. Claddwyd ef y dydd Mawrth canlynol yn mynwent yrAlltweu, of own chwe mis ar ol ei dad a'i fam. 23ain, Mr Francis Owen, Tremadog yn 31 ml. oed. 24ain, yn 20 mlwydd oed, Elizabeth Lloyd, nith Mr E. Lloyd, Love Lane, Dinbych. 24ain, yn 18 mlwydd oed, Robert Wynne, mab Mr Robert Wynne, crydd, Tower Terrace, Dinbych. 24ain, Mr Morris Griffith, Llwynmafon uchaf, ger Dolbenmaen, yn 67 mlwydd oed. —— 25ain, yn 47 mlwydd oed, Mr Phillip Davies (Phylip Rhydyfro), Tailor and Draper, Pontardawe. Y mae iddo air da fel crefyddwr, tad, a chymydog. Cafodd yr eglwys yn Rhydyfro golled am grefyddwr a swyddog ffyddlon, a saith o blant golled am dad tyner a gofalus. Claddwyd ef y Sadwrn canlynol yn Saron, Rhydyfro; ac yr oedd yn hawdd gwybod ar y gynull- eidfa fawr fod dyn gwir barchus yn cael ei ddodiyn y bedd. Pregethwyd gan y Parchn. John Jones, Llan- giwc a Ph. Griffiths, Alltwen. 27ain, ar ol hir gystudd, yn 61 oed, Mrs Dorothy Roberts, Ffestiniog (chwaer y Parch E. Stephen, Tan- ymarian). 28ain, ar ol byr gystudd, Eliza, merch Mr John Parry, Joiner, Dinbych, yn wyth mlwydd a phedwar mis oed. 29ain, yn dra disymwth, Mr Edward Williams, Manchester House, Penrhyndeudraeth, yn 25 oed. Yr oedd y brawd ymadawedig yn ddiacon ffyddlon o'r eg- lwys gynulleidfaol yn y Penrhyn, ac yn chwareuydd yr Harmonium. Yr oedd yn y capel dair gwaith y Sabboth. Yr oedd mewn hwyl neillduol yn gweddio y nos; ae yn canu gydag effeithioldeb tarawiadol yr emyn- 'Rwy'n edrych dros y bryniau pell,' &c. Tua thri o'r gloch boreu dranoeth, tarawyd ef yn sal: ac yn mhen tua chwarter awr, yr oedd ei ysbryd wedi ehedeg <9 fyd y trallod. Cleddir ef ddydd Gwener nesaf yn mynwent Utica.
Advertising
Advertising
Cite
Share
ADVICE TO MOTHERS.—Are you broken of your rest by a sick child, suffering with the pain of cutting teeth, go at once to a chemist and get a bottle of Mrs Wins- low's Soothing Syrup. It will relieve the poor sufferer immediately; it is perfectly harmless; it produces natural quiet sleep, by relieving the child from pain, and the little cherub awakes as bright as a button." It has been long in use in America, and is highly re- commended by medical men. It is very pleasant to take; it soothes the child; it softens the gums, allays all pain, relieves wind, regulates the bowels and is the best known remedy for dysentery and diarhaoa, whether arising from teething or other causes. Be sure and ask for Mrs Winslow's Soothing Syrup. No mother should be without it. Sold by all medicine dealers, at Is lid per bottle. London Depot, 205, High Holborn.— (ADVT.)
Advertising
Advertising
Cite
Share
WANTED a Turn-over at Case. Apply at t T ths Office of this paper. BYWYD AC OL-WEITHIAU CALEDFRYN. YN barodi'r Wasg ac a gyhoeddir allan o law mewn un gyfrol, neu yn rhanau o 450 i 500 tu dalen. Pris mewn lliain 7s. 6c.; yn cynwys Rhagym- adrodd a Thraethawd ar ei Athrylith, gan Scorpion; Cofiant Beirniadaethau, Traothodau; Darlithiau; Pre- gethau; Barddoniaeth; yn nghyda dau ddarlun o'r Awdwr o'r Groes Wen. Derbynir enwau gan Ab Caledfryn, 135, Ledbury Road, Bayswater, London. W. MUSIC HALL ABERTAWE. (lyubelir Cystadleuaeth Gerddorol, yn y lie \J uchod, dydd Gwener y Groglith, 1870, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugolary darnau Cerdd- orol canlynol. 1 I'r Cor Cynnulleidfaol heb fod dan 60 o rifedi a gano oreu Y Gwanwyn," gan Mr. D.Emlyn Evans, fGwel Gerddor). Gwobr. £ 15 15s. Od. I'r Cor Cynunlleidfaol, heb fod dan 40 o rifedi, (y rhai na ennillasant wobr o gyfartal swm o'r blaen) a gano yn oreu "Yr Haf," gan Gwilym Gwent. Gwobr, 8p. 3. I'r party o 12 a gauo oreu The Turkish Drink- ing Song," gan Mendellsohn. Gwobr, 3p. Cynhelir Cyngherdd yn yr hwyr. Ceir Programme a'r amodau ond anfon stamp i'r Ysgrifenydd. DAVID JONES, 15, Mansel Street, Swansea. YN BAROD, PRIS 3c., Y 5ED RAN 0 GOR Y PLANT; YN cynwys cynwys Tonau a Geiriau, gwr- eiddiol a detholedig, at wasanaeth yr Ysgolion Sabbothol, cyfarfodydd llenyddol, &c. Y mae y 'CoR' yn boblogaidd, ac wedi derbyn cymeradwvaeth uchel, ac yn mysg eraill, gan Brinley Richards, Ysw., Llun- dain. Gkxrphenir ef mewn 8 Rhifyn. Rhoddir yr elw arferol am ddosbarthu. Cyhoeddwr—W. Morgan Evans, Publisher, Carmarthen. YN BAROD. pOFIANT y diweddar Barch. T. D. JONES \J Gwernogel, ynghyd a rhai o'i BREGETHAU A'l HYMNAU, gan W. Hughes, (Gvilym Clydach) Gwem- øgel, ger Caerfyrddin. I'w gaeijgan yr awdwr ar dderbyniad o 7 Stamps. CYFARFOD CHWARTEROL MYNWY. Cynhelir Cyfarfod Chwarterol Mynwy, yn c Nghapel y Garn, Abercarn, ar y Mawrth a'r Mercher, y 7ed, ar 8ed o Ragfyr. Y gynhadledd am 3 o'r gloch y dydd cyntaf, a'r eyfarfod cyhoeddus fel arferol. Mr. Roberts, Rhymney, i bregethu ar y pwngc sef ADDOLI. Dymunir i'r brodyr oil i ddyfod ar hyn o hysbysiad. W. WILLIAMS.