Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

LLYTHYR Y MEUDWY.

News
Cite
Share

LLYTHYR Y MEUDWY. (O'N MEUDWYDY RHWNG BRYNIAU GARTH MADRYN.) Wele ni, yn ol ein haddewid, yn disgyn ar unwaith ar destun ein llythyr presenol, sef y dymunoldeb, yr angenrheidrwydd, a'r possibl- rwydd o gael Prif Goleg er cyfranu y fath oreu o addysg i fechgyn dosparth canol trigolion y dywysogaeth. Mae genym ryw frith gof i ni ddarllen llyth- yr, ychydig flynyddau yn ol yn un o newydd- iaduron Saisonig Cymru, oddiwrth Ben Thom- as Williams, Ysw., M.A., barrister at law, a mab i ddiweddar weinidog Annibynol yn Pem- broke Dock, yn honi tadogaeth y drychfeddwl o gael y cyfryw Goleg ar gyfer addysgu bech- gyn Cymru. Efallai fod hyny yn wir, ac os felly, rhodder i Mr. Williams yr anrhydedd a'r parch ydynt ddyledus iddo: ond Dr. Nicholas rocldodd ffurf allanol iddo, ac a'i bedyddiodd yn gyntaf yn 'Welsh University,' a chwedi hyn, oblegid rhesymau nad oes genym amser i'w henwi, yn 'University College for Wales.' Dywedir mai un o brif ddiffygion y Cymro twymwaed ydyw eisiau dyfalbarliad, neu ym- lyniad digyfnewid a digyffro wrth unryw gyn- ny llun neu amcan hyd nes llwyddo gydag ef. Fe wyr pawb sydd yn gadnabyddus a Dr. Nicholas taw I Holdfast' ydyw, ac y medr ym- ladd mewn gwaed oer a fygytha ond cael yr annogaeth leiaf, rewi, dros unryw bwnc neu gynllun y byddo yn ei ffordd ddidaro ef wedi dygwydd cwympo mewn gariad ag ef. Plucky hyd y carn a'r coch ydyw y Doctor, a phe cai ei dalfyru i ddim ond ei gorph, fe ymaflai fel gwaedgi yn ei ysglyfaeth a'i ddannedd, ac heb ei ollwng yn rhydd—os daliai asgwrn ei en heb lacio yn yr ymdrech. Yn yr olwg hyn ar gymmeriad ein cydwladwr mae ynddo lawer mwy o'r Sais na'r Cymro yn ei gyfansoddiad. Nid oes neb a aned o Gymraes a fedr ysgrifenu gwell llythyr nag ef, yn Saisoneg neu Gymraeg, oblegid nid yw wahaniaeth iddo na chanddo yn mha un yr ysgrifena. Diffyg mawr cyfan- soddiadol Dr. Nicholas ydyw-eisiau brwdfryd- edd (enthusiasm), ac heb hwnw nid oes dim yn bosibl gwneud rhyw lawer, heblaw siarad ac ysgrifenu, gydag un mudiad yn Nghymru. Pe caem ddyfalbarhad a brwdfrydedd wedi cydgyfarfod yn yr un person, a hwnw mewn ychwanegiad at hyn yn medru siarad yn hy- awdl a nerthol, byddai genym ddyn anarferol, a chaffaeliad nid bychan fyddai ei fath i Gy- mry yn Nghymru. Fe ddylasai Dr. Nicholas ddeall cymmeriad ei gydwladwyr mor belled a gwybod mai tra byddo'r haiarn yn boeth, mae taro, hwnw yn enwedig gyda'r fath fatter anenwadol, ond cenedlaethol, a. chael Coleg at wasanaeth pawb bechgyn ifeinc yn Nghymru ag ydynt awyddus am fanteision yr addysg 0 uchelaf. Nid ydym yn sicr i'r Doctor i lwyddo hyd yn od i boethi yr haiarn, heb son am ei daro; ac os heb ei boethi, ni fydd fawr 61 taro arno, hyd yn od po cawsid un o hen gawri y cynfyd i ymaflyd yn yr ordd. Heb ymdroi yn mhellach gyda hanes boreuol y mudiad dan sylw, rhoddodd y Doctor ei swydd i fynu fel ysgrifenydd a chasglwr addewidion at y Coleg, ar ol llwyddo i gael llawer o addewidion tuag at yr un amcan, ond heb lwyddo i gyfodi llaniv o sel a gweithgar- weh o blaid y sefydliad. Dewiswyd y Parch. David Charles, B.A. i fod yn ganlyneidydd i'r Doctor, a buan y cafodd ar ddeall trwy brofiad taw nid chwareu-beth ydoedd y tasg a ym- aflasai ynddo. Mae gan Mr Charles ffiydd a gobaith yn ei feddiant, ac y mae eisoes wedi gorfod lawer gwaith wn3uthur defnydd go feunyddiol os nid beunosol o'r grasusau hyn wrth fyned o gylch y wlad i ofyn cymhorth arianol tuag at gael Coleg yn iawn i ni yr hen Cymry. Yr ydym yn edmyga pluck Mr Charles yn ymgymeryd a'r cyfryw dasg ar adeg mor Z3 anfanteisiol, pan yroedd gan bob enwad crefydd- ol lond eu breichiau o waith gyda chodi a thalu am golegau iddynt eu hunain. A pheth arall, a'r rhwystr mwyaf hefyd, fel y mae gwaetha'r modd-anenwadol ydyw y Coleg i fod, a'r hyn ydyw, ac a fydd ei brif ragoriaeth, sef bod yn unsectarian, ydyw ei brif faen tramgwydd. Sectgarol ydyw pawb nid gwiw cynyg gwadu hyn. Mawr gymaint sydd wedi eisoes gael ei wneyd, a mawr gymaint sydd yn parhau i gael ei wneyd, er mwyn dwyn ein 1 Pobl NI, a'n henwad NI' i'r golwg. Mae yn eithaf sicr o fod yn wir, ac o ganlyniad ofer fyddai ceisio ei gelu-fod enwadaeth yn derbyn mwy o arian na Christnogaeth, ac y rhydd miloedd y flaenor- iaeth i'r cyntaf. Mae yn drugaredd fod yr haul yn I unsectarian.' Mae yn ddigon tebygol y byddai y I eawr redegwr' lawer mwy cymeradwy gan ambell enwad pe medrent son am dano fel I ein haul ni.' Sut mae toddi neu losgi y ffiniau sydd rhwng y gwahanol enwad- au ydyw yr anhawsder mewn cysylltiad a'r ymdrechion unedig raid i'r holl enwadau wneyd cyn byth y perswadir y Llywodraeth i waddoli, fel y dylai, ac fel, efallai y teimla duedd, y Coleg Cymreig. Wrth reswm nid yw y mud- iad wrth fodd calon eglwyswyr. Yr hyn hoff- ent hwy fyddai gwneyd Coleg Llanbedr yn gnwyllyn Prif-ysgol Gymreig, a chondemnio y sectariaid i chwareu yr ail delyn. Mae rhai, fodd bynag, o'r lleygwyr mwyaf rhyddfeddwl a goleuedig o blaid y sefydliad. ac yn hyn yr ydym yn mawr lawenhau. Yr ydys yn golygu fod yn Mr Charles gym- hwysderau neillduol er bod yn ysgrifenydd i'r Coleg. Yn gyntaf, y mae efe ei hun wedi cael ei ddwyn i fynu yn Rhydychain, a chwedi graddio yno. Mae hyny yn llawer o beth wrth ymwneyd ag eglwyswyr, ac yn enwedig cyf- ryw o honynt ac ydynt ysgoleigion. Yn ail, y mae yn Fethodist, ac y mae hyny yn fantais fawr, yn enwedig yn y Gogledd, lie mae y Corph, fel y gwyr pawb wedi myned a hufen pob man. Yn drydydd, y mae yn wyr i un o brif addysgwyr Cymru, ac y mae yr enw Charles yn basport at bawb sydd yn bleidiol i addysg. Yn bedwerydd, y mae yn foneddig o ran ymddangosiad a moesau, ac y mae hyn yn ei gymhwyso i alw ar 'ei well' ys dywed pobl sir Aberteifi. Os oes ynddo ddiffyg fel gofyn- wr addewidion neu arian, cyfoda y diffyg hwn oddiar ei foneddigrwydd, sef anghymwys- der i fod yn daerfaiih, fel medr gwyr y gras began. Ond fe gynydda yntau bob yn dipyn yn y gras hwnw hefyd, hyd nes o'r diweddpan welid ef yn dynesu at dy, y dywedir—4 Dyma Mr Charles yn dyfod, ac os na chaiff e arian, dyma lie bydd e tan y foru.' Nid ydym yn golygu fod eisiau dwyn llawer o resymau yn mlaen er'profi y dymunoldeb, yr angenrheidrwydd, a'r posiblrwydd o gael Coleg o'r fath oreu ar gyfer bechgyn y dosbarth canol ein cydwladwyr. Nid ydym yn gwybod fod gan yr anghydffurfwyr ragor nac un sefydliad addysgiadol o radd uchel yn Neheudir Cymru, os yn y Gogledd—oddieithr y Normal College, yn Abertawy, yr hon a sefydlwyd gan Dr. Evan Davies, ac a ddygir yn mlaen yn effeithiol a llwyddianus gan Mr W. Williams, mab y Parch. W. Williams, yn bresenol o Gru ghywel, ond gynt o Abertawy-un o weinidogion parch- usaf a mwyaf doniol y Methodistiaid Calfinaidd. Mae amryw o ddisgyblion Mr Williams wedi gwneud yn odidog yn examinations y London University: ac yn lle gyru ei ysgoleigion i Lun- dain i gael eu holi, arbedid hyny o draul a thra- fferth iddynt pe byddai y Coleg bwriadedig wedi ei sefydlu yn Aberystwyth, gan y cai holwyr eu hanfon dros yr University i bwyso a mesur y bechgyn a addysgir yn ngwahanol ysgolion a cholegau y Dywysogaeth, os yn awyddus am gynffoni eu henwau a llythrenau, yn cyhoeddi pa faint y bwysent pan y gosodwyd hwynt yn y cloriannu, neu'r dafal, yn iaith sathredig pwyswyr gwlan, a'r caws hwnw y gellir gwneyd Câ8 spectal o'i grofen e druan. Dyna ni wedi myned trwy ein rhagymadrodd, ac os cawn ni ond y mymryn lleiaf o rwyddineb heb ryfygu son am hicyl, ni godwn benau y tro nesaf, ac efallai y tynwn ni ychydig gasgliadau.

MORGANWG A MYNWY.