Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

CYNHADLEDD FAWR ABERYSTWYTH.

News
Cite
Share

7 i dybied y bydd i'r fath sefyllfa ar bethau "Wvf aU + wyf yn siarad yn gryf. Ond yr Qy teimlo fod rhai o denantiaid amaothyddol a'u >wl d!oddef gorthrymderau lluosog a mawr, gar °i Wed* dioddef yn rhv liir ac yn rhy amynedd- 7 tuV^ ac y mae yn ^awn bryd i'r rhai sydd eu o-Wynt gryrhaedd ysgriw pob meistr tir, agor *?enau dros y mud, yn achos boll blant dinystr.' tir-f 6-^awenydd genyf feddwl nad ydyw y iSTo-vf1"1 any styriol hyn ond yr eitbriadau yn tonp^rU' a k°d corpb mawr ein pendefigion a'n eu t yr y11 awyddus i gefnogi lies a llwyddiant riada,na^ Ond yr ydym yn gweled fod yr eith- luosr»U n wed* bod yn alluog i ddwyn trueni ar aHai °o° deilwng, ac i dori i fynu am byth, fe fla Sysur daearol llawer o doulueedd oeddynt yn W aenorol, er nad yn gyfoctbog-, yn gymmharol dded- hvn a° &wbl foddlawn i'w sefyllfa ac oblegyd ^edf' yn Uawenhau am fod ein Cynhadledd ^ejlli ac yn disgwyl y bydd daioni mawr yn Ydwyf, fy Anwyl Syr, Yr eiddoch yn ffyddlawn. OWEN THOMAS. for Parch. J. Davies, Cadeirydd, a ddywedodd ei disgyn i'w ran ef i lanw i fyny fwlch a borp yn agored oberwydd gormod gwaith yn y Jjf u' a byny ydoedd dwyn Penfro, Brycheiniog, ^ei yy' a Morganwg i mewn i derfynau cydym- brxv a cbynorthwy y gynhadledd hon. Nid oedd ■Benf 'Wedi bod yr etholiad diweddaf yn Swydd eti iro' ond yn ddiddadl yr oedd mwyafrif mawr rv (1^yr y swydd bono yn ddynion goleuedig ac yn tadl garwyr egwyddorol. Ni cbawsant neb i gys- teiml Jn etholiad diweddaf; ond bydd gweled °edd a y.w^ad yn crynhoi o gylch ac yn noddi y rhai °alo Wed* dyoddef mewn siroedd ereill yn magu hi on a gw-roldeb yn Mhenfro i ddyfod allan cyn bo Cofi Mwrdeisdrefi Penfro bu brwydro caled. UU ^wrdeisdref) ac enillwyd un arall. chei • dd Haverfordwest yn gampus. Yn Mry- °lc;iaf1?f ^c^lwaith ni bu brwydr yn y sir, er fod Wj —L1,0 bob pedwar o'r etbolwyr yn Ymneilldu- ac j ddaeth neb allan o blaid y rhyddgarwyr, ddsiftrt n* °hafwyd ymdrechfa. Ond paham na a eh a^an Gwyddid mai pleidwyr rhyddid reu /nydd oedd y bobl, ond ofnid na chawsent chwa- oe^6^ bleidleisio yn ol eu hegwyddorion, ac nad feddi ynddynt ddigon o yni a gwroldeb i herio y tir- byddaj1Wyr' a defnyddio eu hawl er eu gwaethaf, Wya Jr y canlyniadau y peth a fyddont (cymerad- dderc>, yn Aberhonddu bu ymdrechfa ar- rbyddVi^" Ymladdwyd yn galed gan gyfeillion A etholiad, ond a^th arian a llwgrwobr- derf6 drech na hwy. Ac etc, y fath oedd pen- tynJ^lad a gwroldeb pobl dda Aberhonddu, fel y hr? vXlt na ddy°ddefent y haerllugrwydd a iad Vr deisebasant y senedd yn erbyn dychwel- ^yiuad*^ We^ Gwyn- a thaflwyd ef allan; a'r can- ddv]„ dychwolyd rhyddgarwr. Rhyddgarwr a (°lyw8^1 °ywilydd fod yn Aberystwyth heddyw a thraff c^Wck)- Trwy aberth mawr mewn amser ae nid yr enillwyd yr eisteddle yn Aberhonddu, ^eddy ^°rmod oedd i Lord Hyde fod yn bresenol Un yw- Yn Maesyfed yr oeddynt wedi dychwelyd Yn "r Weiiyddiaeth, ond yr oedd eisieu enill y sir yn y .a* a'r bwrdeisdrefi. Eu Mynwy yn brwydro yn erilr a r bwrdeisdrefi. Drwy ymdrechfa galed ^asnewn^0r^aet^ ac ar8'lwyddiaeth leol enillwyd sir on,! ,,a Mynwy. Ymladdwyd yn galed yn y Un'ujgj ,Co^Wyd y dydd, a hyny drwy orfodaeth. Bu iynau i a^arn—dyn ag oedd wedi gwneud ei fil- ac *nioZy^hV? ei weithwyr—yn ddigon haerllug Pleidle"1^ eis^edd o'r bore hyd y nos yn y ddryc}!8,^ i er fenyylio P°b etholwr, a'i nodiynwrth- Yr oedd v, 08 na phleidleisiai yn ol ei fympwy ef. fel n yn yn rhy ddrwg, ac yn beth mor ddrwg ^eddwoVi *esid fyny°bn yn ami heb beryglu ^Vyrf y Swliid, neu lwyr ladd dynoliaeth er ethol- yw nife 11 -^ynwy, Ymneillduwyr a Ehyddfrydwyr ^^beth mawr y bobl, a dim ond cael y ballot, neu y cynrv v^.n d°byg i chwareu teg, rhyddgarwyr fydd Ar»l„'C11? wyr (cymeradwyaetli). Mae yn ddigon BaiCTdd Tredegar, Duke of Beaufort, a Mr C. hawl hef anu Y tir a'r gweithfeydd, heb honi (uchei o-v 1 ^ydwybodau y rhai sydd oddi tanynt yn gaugYmeradwyaeth). Am Forganwg, yr oedd hi °edd yr ar thraed ei hun. Rhyddgarwyr Vt, 0 a°lodau ac yr oedd ei chwe aelod sen- r Talbr!^dedd i Gymru. Sonid am ddyrchafu yn Uawn Vi1 y.r -A-rglwyddi, ac yr oedd y Toriaid ond ?Wyd.i 8"yd er ceisio dychwelyd Tori yn (thwart} asai cystal iddynt geisio hedfan a hyny bun a n, rnawr). Cymer Morganwg ofal o honi bresenla chmer ofal hefyd na cha Tori am yr oes senedd v dd"a eistedd i'w chamgynrychioli yn yr ymdreoh yd warth i'r aelodau rhyddgarol gU80diOD wyd cymaint drostynt i wnaud man es- etbolWyr vm habsenoldeb heddyw. G-allasai yr yr etholjajn ver mwy priodol esgusodi ar ddydd artorig T I A -Pr10 gwnaethent hyny, pa le fuasai eA^oliad'eto > yde' "^ove ^arry> ac ereill. Daw ^bery8fw ,'va r dydd hwnw fe gofiram Gynhadledd Y (cymeradwy aeth) ajierchodd ¥van8' Caernarfon, oedd y nesaf a y cyfarfod. Dywedodd fel y canlyn Mr. Cadeirydd, foneddigesau, a boneddigion, y mae y- ddadl pa un ai Cymro ai Sais yw Mr. Morley yn dwyn ar fy nghof eiriau ardderchog M. Provost Paradol, yn Edinburgh, yr wythuos ddiweddaf, sef, 'ei led. ef yn ystyried yr hyn sydd wir oleuedig yn mhob cenedl yn rhan o ryw genedl ardderchog nad oes dim enw arni; pobl yr hon, er heb fod mewn undeb a'u gilydd drwy waed, sydd wedi eu huno mewn ysbryd, wedi eu gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear, gan deimlo bob amser yn ddyledswydd ar- nynt gynorthwyo y naill y llall, a helpu eu gilydd yn mhob daioni.' Yr wyf fi yn sicr fod Mr. Mason, yr hwn a anfonodd i ni y can' punt cyntaf tuag at y symudiad hwn, ac fod Mr. Morley, a boneddigion Saesnig ereill, a gydymdeimlasant a'n cenedl yn nydd ei chyfyngder, yn perthyn i'r genedl ardderch- og hono sydd heb yr un enw, yr hon sydd yn teimlo y naill dros y llall, ac yn barod bob amser i gyn- orthwyo eu gilydd yn mhob daioni' (cymeradwy- aeth). Nid yw Cymru wedi bod yn flaenllaw yn y gwaith o alw sylw y senedd at ei dioddefiadau; y mae rhanau ereill o deyrnas ei Mawrhydi, y rkai, fe allai, a ddioddefant lawer llai-ond y maent wedi bod yn dal i fyny eu profedigaethau a'u cyfyngder- au i sylw y wlad gyda llawer mwy o sel nag y mae Cymru erioed wedi gwneud; ac nid oes neb wedi synu mwy oblegid ein bod ni wedi meiddio dyrch- afu ein llef yn erbyn ein gorthrwm presenol na'r boneddigion hyny a oddefwyd yn y blynyddoedd o'r blaen i sathru a gorthrymu yn ol eu mhympwy a'u hewyllys. A phe na buasai yr aelod anrhydedd- us dros Ferthyr wedi codi ei leferydd o'n plaid ger bron yr awdurdodau goruchel,' wedi meiddio llef- aru y frawddeg Gymraeg gyntaf erioed a swniodd o fewn muriau Ty y Cyffredin-I Trech gwlad nag arglwydd'—ac oni buasai ei fod ef wedi galw sylw ein seneddwyr at y cwestiwn Cymraeg cyntaf ericed, mae'n ddiamau genyf y cawsai ein cenedl ddioddef fel cynt mewn anghofrwydd ac heb fawr gydym- deimlad. Pe buaswn i yn cael caniatad i arfer fy iaith ddesgrifiadol fy hun, buaswn yn cael geiriau, os oedd geiriau i'w cael—a buaswn yn datgan y teimladau diolchgar a deimla ein cenedl tuag ato ef (Mr. R.), a'r rhai eraill a'i cynorth- wyasent tuag at gyneu y fflam o eiddigedd a deim- lir dros egwyddorion uniondeb yn ein gwlad, ag sydd yn awr wedi cynhyrfu cymaint ar ormeswyr cyfoethog ein tir (cymeradwyaeth). Fel cenad dros sir Gaernarfon, nid yw ond iawn i mi ddyweyd fod llawer o'r rhybuddion i ymadael a roddwyd i ni yn y sir hono wedi cael eu galw yn ol. Buasai yn ar- ddangos yr anngharedigrwydd mwyaf i mi ddyweyd fod y fflam angerddol o public sensure a gyneu- wyd saith waith poethach nac o'r blaen yn erbyn y fath ormes wedi eu gorfodi i wneud hyn. Pa fodd bynag, nid oes ar hyn o bryd ond ychydig iawn yn ein Sir ag sydd yn debyg o gael eu troi allan o'u meddianau. Yr wyf yn siarad am ffermwyr neu denantiaid (clywch, clywch). Y mae yn dda genyf gael y fraint i ddyweyd fod tirfedd- ianwyr mawr ein sir wedi cydnabod eu gorchfygiad gyda theimlad gwrol ac ymostyngol. Pob anrhyd- edd i bob dyn o fath Arglwydd Penrhyn! mab yr hwn a gollodd ei eisteddle, nid oblegid fod teulu y Penrhyn yn anmhoblogaidd yn y wlad, ond oblegid nad oedd yr Anrhydeddus Filwriad Pennant yn foddlawn i ddwyn yn mlaen a chefnogi y mesurau a gymeradwywyd gan y mwyafrif o'r etbolwyr, a chefnogi y gwleidyddwr mwyaf a fu yn Mhrydain Fawr erioed (cymeradwyaeth). Pob anrhydedd, meddaf, i'r rhai a ymladdasant frwydr wrolfrydig, ond ar ol colli a ddangosasant fod eu gweitbred- oedd yn gystal a'u cyfoeth a'u llinach yn hawlio iddynt le yn mhlith pendefigaeth Lloegr (uchel gy- meradwyaeth). Buasai galw y personau hyn a ddarostyngasant eu hunain drwy droi tenantiaid o'u ffermydd am bleidleisio yn ol llais eu cydwybod— buasai galw y rhai hyn, meddaf, yn bendefigion yn ddirmyg ar synwyr cyffredin, ac yn wawdiaith mwyaf llosgedig (cymeradwyaeth). Gall dyn fod yn feddianol ar deitl teuluaidd urddasol ond a hanes personol pur ddirmygedig. Gall dyn gael ei alw yn filwriad; ond os lletha y gwan, y mae yn gweithredu fel llwfrddyn (uchel gymeradwy- aeth). Y mae y gwir urddasol yn dirmygu ym- osod ar y gwan, neu wenieithio i'r uchel (cym- eradwyaeth). A ydyw yn angenrheidiol, Mr. Cadeirydd, i roddi rheswm arall dros ddyfod i'r cyf- arfod hwn, heb law yr hwn a roddwyd i mi gan fy nghyd-drefwyr ? Os ydyw, nis gallaf ond dyweyd fy mod wedi cymeryd rhan onest yn yr etholiad di- weddaf-ie, yr wyf yn dyweyd drachefn, rhan onest, er gwaethaf y cableddau a bentyrwyd ar ein penau fel gweinidogion Ymneillduol drwy y wasg Dory- aidd, gan ddynion oeddynt eiddigeddus o'n gallu ymresymiadol—oblegid nid oeddym yn arfer un arf ymosodol arall (cymeradwyaeth). Wel, ynte, ar ol i ni wneyd ein goreu i berswttdio ein cydwladwyr i weithredu yn gydwybodol yn yr achos hwn, buas- em yn teimlo ein hunain yn ddiffygiol mewn dynol- iaeth pe buasai enllibion dyfodol yr un wasg, a'r un dynion, yn gallu ein dychrynu rhag bod yn bresenol yn y lie hwn heddyw (uchel gymeradwyaeth). Y fath gynhwrf y maent wedi ei gadw o berthynas i ryw bregethau politicaidd a bregethwyd ar ryw adeg, nad oes neb yn gwybod am danynt. Dyn anwyl! os gwnaiff ddefnyddio y gair Daniel, yn ei bregeth, y mae yn rhwym, yn ol barn y ty- lwyth hwn, o fod yn un boliticaidd ac os gwneir sylw wrth fyned heibio ar dri Ymneillduwyr Babi- lon, aiff llawer o amser heibio cyn y clyw y pregeth- wr y gair diweddaf ar y pwngc (chwerthin a chy- meradwyaeth). Yr ydym ni wedi dyfod yma, er gwaethaf yr holl gableddau hyn, oblegid yr ydym yn teimlo dros ein gwlad. Y mae cynghor parhaus yn cael ei roddi i'r teuluoedd erlidiedig hyn i ymfudo-am fod digon o dir yn Amcrica. Y mae hyny yn eithaf gwir; eithr onid yw yn anffawd fawr i wlad i weled pobl onest, gwrol, a chyfiawn, yn gadael tiriogaethau ?-i weled eu hen gartrefle- oedd yn cael ei llanw gan ei hiliogaeth ystwythach a llai anhyblyg eu cydwybodau—i weled cartrefleoedd ein gwlad yn cael eu rhoddi i fyny i bobl o gydwybodau wedi ei gwneud o India rubber ? (uchel gymeradwyaeth). Dynion a allant ymgeisio am gartrefleoedd yr erledigaethus—dynion a allant fwynhau y golud a enillasant drwy fod teuluoedd wedi cael eu gyru allan o'u tai. Y mae plant y cyfryw bobl yn rhwym o fod yn hiliogaeth pobl ddirmygedig-babanod ac eiddilod mewn cydwy- bodau, yn gystal ac mewn moesoldeb. Ai mater bychan, gan hyny, ydyw i ni, y rhai sydd yn caru ein gwlad mor anwyl, i weled ein pobl oreu yn cael eu halltudio allan o honi ? A allwn ni edrych ymlaen heb gyffroi, ar fywyd ein cenedl yn cael ei sugno ymaith fel hyn? Nas gallwn mewn moddyn y byd (cymmeradwyaeth). Buasai yn anffawd o'r mwyaf i ni weled gwytheini cyfoethog ein glo yn darfod yn eigionatt ein daear-buasai yn anffawd alarus i ni weled y maen diweddaf wedi ei godi allan o'n chwarelydd godidog eithr nid yw hyn yn ddim wrth ei gymmharu a'r dybiaeth fod cyfeillion gwir- ionedd, ac amddiffynwyr cyfiawnder yn darfod allan o'r tir. Yr ydym yma fel rhai yn credu fod nerth gwlad yn ymddibynu ar nerth rhinwedd ei haelwyd- ydd-ac i ragflaenu y galanastra o'u trosglwyddiad drosodd i ddynion a edrychant ar eu cydwybodau yn gymaint eiddo eu meistriaid a rhent eu fferm- ydd. Yr ydym wedi dyfod yma, o blegid ein bod yn teimlo dros ein cydwladwyr gorthrymedig; bydd i'r cyfarfod brwdfrydig hwn wefreiddio eu teimladau, a llanw eu cajon a brwdfrydedd a gobaith yn enwedig gan nad yw ein cydymdeimlad yn debyg o derfynu mewn geiriau, fel y mae llawer o bender- fyniadau cyffelyb wedi terfynu yn Nghymru. Fe ddywedwyd "Sympathy without relief is mustard without beef." Nid ydym ni yn bwriadu eu cyn- cynnysgaeddu a mwstard yn unig, eithr a "beef" hefyd (chwerthin). Eithr nis gallwn ni adfer idd- ynt eu cartrefi-ie, cartrefi wedi eu cyssegru gan adgofion o'r amser aeth heibio-cartrefieoedd yr oedd eu plant wedi eu geni ynddynt, a rhai wedi marw ynddynt. Yr wyf wedi gwrandaw gyda theimladau cymmysgedig o lawenydd a gofid ar yr holl bethau a ddywedwyd yma heno; ond pan ddy- wedodd yr aelod aurhydeddus dros Ferthyr, am dad a mam, a 7 o blant—tad a mam a 6 o blant, &c., wedi eu troi allan o'u cartrefi, yr oeddwn yn teimlo yn drallodus i'r eithaf wrth feddwl am deimladau y rhai hyny gyda golwg ar y cartrefleoedd a gollwyd. Nid yw y cartrefleoedd hyn ddim amgen na cheryg a mortar i chwi, dirfeddianwyr gorthrym- us Cymru f ond iddynt hwy y mae pob careg a chilfach wedi eu sancteiddio. Yno y cawsant eu geni; yno y chwareuasant ddyddiau hoenus eu mebyd ymaith yno y dysgodd eu mamau eu gwersi crefyddol cyntaf iddynt; ac yno yr anadlodd eu rhieni eu heneidiau i gol Duw (cymmeradwyaeth). Nid yw yr hen gareg aelwyd yna yn ddim i chwi ond careg o'r chwarel, ond iddynt hwy, y mae yn llanerch gysegredig-ar hona y penliniodd tad a mam pan yn offrymu taer weddiau ar eu rhan-y gareg yna a fedyddiwyd lawer gwaith a dagrau. Nid yw yr hen ystafell gefn yna yn ddim i chwi ond ystafell gyffredin, mewn ty cyffredin iawn; ond iddynt hwy, dyna'r ystafell lie yr arferai eu mham osod y dillad yn y box y noson cyn i un plentyn ar 01 y llall adael ei gartref i ymladd brwydr bywyd, gan guddio y Beibl Cymraeg wedi ei fedyddio a dagrau yn nillad pob plentyn. Y mae yr holl dy wedi ei gysegru iddynt hwy-er gwaeled ydyw, car- tref ydyw, a'r adgofion mwyaf serchiadol yn ym- glymu o'i gylch, a chreulondeb o'r mwyaf yw eu troi allan-eu troi allan heb un achos; am eu bod yn ddynion!—dynion na fynent eu prynu. Ac yr ydym yma fel gwlad i brotestio yn erbyn y creu- londeb, ae yn erbyn eu gorthrymwyr. Nid oes eis- iau cynghori ein cydwladwyr i beidio cymeryd eu cynhyrfu i un weithred o ad-daliad, na, gwyddom y medrant ddioddef cam heb ymddial. Pobl dawel dangnefeddus ydym ni, Syr; yr ydym yn caru ein gwlad ac yn anwylu ein cenedl, ond yr ydym yn loyal i waelod ein calonau, a'r oil ydym yn geisio ydyw Rhyddid. Rhyddid gwladol, yr ydym yn diolch i wroniaid y dyddiau gynt am ei enill a'i estyn i ni. Rhyddid gwladol yr ydym yn gofyn i chwi aelodau seneddol am dano, mynweh ef i ni. Cariwch lais y cyfarfod cyhoeddus hwn i'r senedd ymerodrol, a gadawer iddo ymuno a dylanwadau eraill, nes cyfansoddi un don ymchwyddol—un tidal wave i ysgubo am byth bob anghyfiawnder a gor- mes oddiar wyneb tlws ein gwlad anwyl. Eisteddodd y boneddwr parchedig i lawr yn nghanol cymmeradwyaeth uchel a hir barhaol.