Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
CEINEWYDD.
News
Cite
Share
CEINEWYDD. Cafwyd cyfarfod nos Wener yn y Tabernacl, yn yn yr hwn yr oedd E. M. Richards, A.S. yn an- nerch yr etholwyr, ac yn rhoddi cyfrif o'i oruch- wyliaeth yn y senedd, yn nghyda chyflwyno ei syniadau ar wabanol bynciau y dyfodol; ac yr oedd y derbyniad caredig a brwdfryclig a gafodd yn profi ei fod yn wir dderbyniol. Llywyddid y cyfarfod yn fedrus gan Stephen Evans, Ysw., LlundainJ a chaf- wyd anerchiad ganddo yn llawn o dan; caed an- crchiad gan y "Gohebydd" hefyd—digon yw dweyd ei fod ef fel efe ei hunan-yn ei hwyliau goreu. Cafwyd anerchiadau gan y Parchn. J. M. Prydderch, Wern Evans, Penrhywdyrch, (un a ormeswyd); Jones, Tabernacle; Roderick, (B.) J. Parry, Ysw. Ffynon Lefrith. Cafwyd anerchiadau i bwrpas gan- ddynt oil. Gall trigolion y Ceinewydd ddweyd fod hyn yn beth newydd, ac yn rhoddi rhyw flaenbrawf fod y Ceinewydd i fyned rhagddo, disgwilir y bydd gweithio o ddifrif wrth y mwn plwm yma yn mhen ychydig o ddiwrnodau; a cheir Railway i'r lie yn ddiamau os try y gwaith allan yn llwyddianus.— loan Baclt.
LLANELLI.
News
Cite
Share
LLANELLI. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus mewn cysylltiad a sefydliad y Parch. T. Johns (Taborfryn), yn Nghapel Als, ar yr 22ain a'r 23ain o Tach. Am 7 y noson gyntaf, darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. E. Jones, Dolgellau. Yna rhoddwyd siars alluog i'r gweinidog gan y Proffeswr Morgan, Caer- fyrddin, a chanlynwyd ef gan y Parch. E. Evans, Caernarvon. Am 10 dranoeth, darllenwyd a gweddi- wyd gan y Parch. T. Davies, Siloa, Llanelli. Pre- gethwyd ar Natur Eglwys gan y Parch. R. Thomas, Bangor. Yna rhoddwyd anerchiad, gofynwyd ar- wydd, ac offrymwyd y weddi gan y Parch. E. Evans. Prcgethwyd i'r eglwys gan y Parch. E. Jones, Dolgellau, a therfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. J. Thomas, Bryn. Am 2, dechreuwyd gan y Parch. R. Thomas, a phregethwyd gan y Parchn. W. Davies, Aberteifi, ac E. Jones, Dolgellau. Am haner awr wedi 6, darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. T. P. Evans, Dock, Llanelli, a phre- gethwyd gan y Parchn. E. Evans, ac R. Thomas, a da oedd bod yno. Dyna gynulleidfaoedd! Dyna bregethau a dyna wrandawiad Rhoddwyd tystiolaethuchel a chymeradwyol iawn am dalent a chymeriad Mr Johns gan y gwahanol weinidogion. Dywedai y Parch. E. Evans, Caernarfon, ei fod bob amser yn ei gael yn ddyn, yn Gristion, a phre- gethwr, a'i fod yn wastad yn edrych arno (cyn iddo glywed gair am ei symudiad i Llanelli) fel un oedd yn aeddfedu i gylch helaeth a safle bwysig yn y weinidogaeth. Dywedai y Parch. R. Thomas, Bangor, fod hiraeth arno ar ol Mr Johns ei fod yn teimlo gwagle wedi ei achosi gan ei ymadawiad, a'i fod yn ofni na len- wir mo hono yn hir. Dywedai y Proffeswr Morgan—Mor bell ag yr oedd wedi adnabod Mr Johns yn bersonol, achlywed am dano gan ereill, ei fod yn hollol gredu ei fod y dyn iawn yn yr iawn le.' Mae yn ymddangos fod eglwys luosog a pharchus Capel Als wedi ethol olynydd teilwng i'r enwog weithgar David Rees. Mae yn ddyn ieuangc o dal- entau cryfion, o ddysgeidiaeth eang, a chymeriad diargyhoedd. Mae yn ddirwestwr cadarn—addurn neillduol yn y weinidogaeth y dyddiau hyn. Mae y ffaith fod yr eglwys wedi dewis un i weinidogaethu a llafurio yn eu plith ag sydd yn ddirwestwr yn ar- wydd o barch i'r hwn sydd yn huno, yr hwn a fu am flynyddoedd lawer-ie, yn ystod ei holl fywyd cyhoeddus, yn un o brif bleidwyr yr achos dirwestol. Bendith yr Arglwydd fyddo ar yr Undeb, a bydded i lawer o eneidiau gael eu cadw fel ffrwyth y weini- dogaeth.-ludoch.
CWMWYSG, GER TRECASTELL.
News
Cite
Share
CWMWYSG, GER TRECASTELL. Nos Wener, y 19eg cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod cyhaeddus yn y capel uchod, ar ymadawiad Mr Daniel Howells, Allt-y-fan, i America. Erbyn 7 o'r gloch, yr oedd tyrfa o'r gymydogaeth a'r cylchoedd wedi ymgasglu i'r lie i ddangos eu parch a'u dy- muniadau da tuag at y brawd a'i deulu ar eu hym- adawiad o'n plith. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. W. Jones, Cefn- arthen. Ac wedi cael ychydig o sylwadau agoriadol ar natur y cwrdd, ynghyd a chyfeiriad at rinweddau lluosog ac amlwg Mr Howells, gan Mr Evans, y gweinidog, rhoddwyd drws agored i bawb i draethu eu barn, i ddatgan eu teimlad, ac i amlygu eu dy- muniadau tuag at y teulu oedd yn gwynebu ar Wlad y Gorllewin. Gallwn ddyweyd i ddegau, os nad ugeiniau, i siarad rhyw gymaint yn y cyfarfod, a hyny i bwrpas, mewn yspryd gwresog, a than deim- ladau hiraethlon. Dygai pawb dystiolaeth uchel am gymeriad da Mr Howells fel dyn ac fel Cristion, yn y wlad ac yn yr eglwys. Cyfeiriai y siaradwyr at ei allu meddyliol cryf, ei dymher fwynaidd, ei ysbryd haelionus, a'i ymdrech a'i ffyddlondeb gydag achos y Gwaredwr. Dywedai y rhai oedd yn ei adnabod er pan oedd yn blentyn ei fod wedi arwain bywyd diargyhoedd, ac nad oedd ysmotyn ar ei gymeriad. Yr oedd wedi bod yn ddiacon yn eglwys Cwm- wysg am flynyddau, ac fel y dywedai un am dano- Yr oedd ef yn anrhydedd i'w swydd, yn gystal ag yr oedd y swydd yn anrhydedd iddo yntau.' Yn ystod y cyfarfod, cafwyd anerchiadau bywiog a gafaelgar gan y Parchn. Jones, Cefnarthen; Will- iams (T. C.), Trecastell; a Stephens, Brychgoed. Credai y cyfeillion yn Nghwmwysg fod gweith- redoedd yn fwy sylweddol na geiriau, ac felly pen- derfynasant gasglu ar ddiwedd y cyfarfod er cael tysteb iddo, fel arwydd gweledig eu bod yn gwerth- fawrogi ei wasanaeth, ac fod eu calon yn eu geiriau. Fel y dywedodd yr enwog Caleb Morris, Llundain, unwaith wrth yr ysgrifenydd, pan wedi bod yn treulio diwrnod yn ei gyfeillach, ac yn derbyn ei wersi aruchel, Here is a mite for you, to show that I meant what I have said a beth oedd yr hatling oedd ef yn ei roddi ond punt felen! Dyna beth oedd geiriau wedi eu goreuro ag aur. Er nad oedd eisieu dim cymhorth felly ar Mr D. Howells, eto yr oedd y swmyn go lew a gafodd yn brawf diymwad iddo ein bod yn meddwl yr hyn oeddem yn ddyweyd mewn geiriau am dano. Ar ddiwedd y cyfarfod, cyfododd yntau ar ei draed mewn teimladau drylliog, a siaradodd yn ddifrifol ac effeithiol am y cwlwm gwladol, cwlwm teuluaidd, a'r cwlwm eglwysig oedd yn cael eu datod yr adeg hono, ac yr oedd ei appel at y rhai digrefydd, a'i gyfarch- iad i'w gydgrefyddwyr yn tori at y byw. Terfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mr Stephens, ac ymadawodd pawb mewn teimladau cymysgedig o hiraeth a boddhad. Erbyn hyn y mae ein cyfaill anwyl a'i deulu hoff ar eu taith tua'u cartref newydd. Gobeithio y cant fordaith ddiogel a chysurus, ac y cyrhaeddant ben eu taith heb i ddim anymunol eu cyfarfod. Diolch am gymaint a hyn yna o ofod y TYST, Mri. Gols., yr hwn sydd mor dderbyniol yn y gymydog- aeth hon, ac yn neillduol yn ei blyg newydd. Os yw ein papyrau newyddion yn cael eu llenwi a hanesion yspeilwyr a lladron, llofruddion a mwrdd- wyr, a phob erchyllwaith, myner lie i gofnodi ao i arddangos cymeriadau disglaer a gweithredoedd da y ddyuoliaeth,—Gilbert.
CYNHADLEDD FAWR ABERYSTWYTH.
News
Cite
Share
CYNHADLEDD FAWR ABER- YSTWYTH. Yr ydym yr wythnos hon gyda hyfrydwch mawr yn cyhoeddi y llythyr canlynol a anfonwyd gan y Parch. 0. Thomas, i gynhadledd Aberystwyth; yn gystal ag areithiau y Parchedigion E. Evans, Caernarfon, a J. Davies, Caerdydd, y rhai a addaw- som yn y rhifyn diweddaf. Buasai yn dda gennym allu cyheeddi yr holl lythyrau a anfonwyd, ar areith- iau hyawdl a draddodwyd, ond y mae ein gofod yn rhy gyfyng. Da genym ddeall y cyhoeddir hwy oil yn fuan gyda'u gylydd. 286, NETUEHFIELD ROAD NORTH, LIVERPOOL, Tachwedd, 15fed, 1869, Fy ANWYL SYR, Y mae yn ofidus genyf na byddaf yn alluog i ddy- fod i Gynhadledd Aberystwyth yfory, o berthynas i'r gorthrwm a arferwyd, am resymau politicaidd yn unig, mewn amryw barthau o'r Dywysogaeth, ac yn enwedig yn Sir Aberteifi. Ymddengys i mi, pa fodd bynag, fod amcan y cyfarfod mor bwysig, fel y teimlwyf ei bod yn ddyledswydd arnaf ysgrifenu atoch i ddywedyd mor galonog yr wyf yn ei gymer- adwyo. Y mae yn ymddangos i mi nad yw ond dyledus tuag at y rhai sydd mewn ystyr wedi eu gwneud yn ferthyron dros ryddid yn ein gwlad, fod eu brodyr sydd wedi bod yn ffodus, y rhai na alwyd arnynt i fyned drwy yr un treialon, yn gwneud rhywbeth tuag at wneud i fyny eu colledion, a chydymdeimlo a hwynt yn eu hadfyd. Ond yr wyf yn gobeithio yr amcana y Gynhadledd wneud rhywbeth mwy nag estyn cynorthwy i'r rhai sydd eisioes wedi gorfod dioddef, neu sicrhau amddiffyniad arianol i'r rhai a ddichon ddioddef yn gyffelyb rhag llaw; sef, cychwyn symudiad a ddwg oddi amgylch fesur a wna y fath ymddygiad gorthrymus ar ran tir-feistri, ag sydd wedi bod yn achlysur o'r Gyn- hadledd hon, yn hollol ammhosibl o hyn allan. Yn awr, fy anwyl syr, y mae yn hollol afresymol, ae yn beth na ddylid ei oddef, fod dynion o argyhoedd- iadau gonest ac uniawn, dynion crefyddol- y dynion goreu yn ein gwlad-yn cael en gyru o'r hen dai lie y tynasant yr anadl gyntaf-oddi ar yr hen dir sydd bron yn gysegredig gan eu teimladau, ar yr hwn y darfu iddynt sangu gyntaf erioed—a'r hen feusydd y buont yn eu hamaethu mor ddiwyd, ac yn llafurio cymmaint i'w gwellhau, i ymofyn noddfa mewn rhyw wlad estronol; a hyn oil am ddim ond ymarfer, megys yn nghwydd Duw, a chydag ymdeimlad dwfn o'u cyfrifoldeb iddo ef- hawlfraint a ganiatawyd iddynt gan gyfansoddiad eu gwlad. Yn wir, fy anwyl syr, y mae o'r bron yn ddigon i beri i waed un ferwi i feddwl fod yn Mhrydain Fawr, yn yr hanner diweddaf o'rbedwar- edd ganrif ar bymtheg-o dan deyrnasiad y Fren- hines Victoria-William Ewart Gladstone yn Brif Weinidøg-Robert Lowe yn Ganghellydd y Drysorlys-le, a John Bright yn Llywydd Bwrdd Masnach-y fath ormes yn cael ei ymarfer. Y mae y deyrnas wedi ei deffro i deimlo dros yr anghyfiawn- derau y dioddefa yr Iwerddon oddi wrthynt. Ond nid oes dim yn yr Iwerddon yn waeth na hyn. Ac am fod y Gwyddel yn troi yn Ffeniad, yn ddiofal am gysegredigrwydd bywyd dynol, ac yn deall y gallu rhyfeddol sydd mewn cyffroad gwladwriaethol, y mae yn cynyrfu cydymdeimlad cyffredinol o'r bron: tra y mae y Cymro, druan, yn deyrngarol, yn llon- ydd, yn ufuddhau i gyfreithiau y wlad, yn bur yn ei galon i bendefigion ei wlad; ao heb law hyny, am Na lecha byth tu ol i'r gwrych, I dalu ei rent a phlwm', -y mae yr anghyfiawnder a dderbynia efe yn cael myned heibio yn ddiystyr, neu ei wadu neu, hwy- rach, yn cael ei amddifyn gan rai. Nid wyf fi yn gyfreithiwr ond byddaf yn meddwl weithiau y gallai ein grasusaf Frenhines, trwy wneud defnydd llai gorthrymus o'i hawliau nag a ymarferir gan y tir-feistri hyn ag yr ydym yn cwyno o'u herwydd, benderfynu eu hachos mewn byr amser, a dwyn rhyddhad i'wdeiliaid ffyddlawn a erlidir ganddynt. Os nad wyf yn camgymeryd, y mae yn egwyddor ddiamheuol yn nghyfraith Lloegr, fod yr holl dir yn Lloegr yn cael ei ddal trwy gyfryngwriaeth, neu yn ddigyfrwng gan y goron gan hyny, y mae yr holl fan ormeswyr hyn eu hunain yn denantiad i'r penadur; ac nid ydynt, ac nis gallant feddianu un gyfran o'u hetifeddiaethau, ond fel peth deilliedig oddi wrth y penadur. Hwyrach nad ydyw hyn ond math o ffyg mewn cyfraith Seisnig ond y mae llawer o'n tirfeistri yn y dyddiau hyn yn gosod temtasiwn gref o flaen y bobl, gan fod y fath allu yn eu dwylaw, i droi y ffug yn sylwedd, mewn trefn i weled a ddichon i ryddhad ddyfod iddynt oddi yno. Bu amser pan yr ymunai y pobl ar barwniaid yn erbyn y brenin edryched ein barwniaid yn awr na byddo iddynt demtio y bobl i ymuno a'r penadur, o dan ryw deyrnasiad dyfodol, yn eu herbyn hwy eu hunain. Y mae y bobl mewn rhai manau, yn en- wedig mewn parthan gwledig, yn dioddef braidd yr oil o anghyfleusderau yr hen gyfundrefn wriogaeth- ol, ond heb fwynhau dim un o'u manteision; ac y mae yn wallgofrwydd ar ran y rhai sydd yn gormesu
ABERSYCHAN, MYNWY.
News
Cite
Share
phwrpasol iawn. Cyn cyflawni y ddefod o osod y gareg sylfaen i lawr, yr hyn a wnaed gan Charles Lewis, Ysw., Casnewydd, yn ddeheuig iawn, galwyd ar y Parchn. J. Davies, Caerdydd, ac H. Oliver, B.A., Casnewydd, i anereh y "gynulleidfa. Cyfeiriai Mr Davies at ymweliad Mr Morley, A.S., a Deheudi Cymru rhyw ddwy flynedd yn ol, pan y rhoddodd addewid o 5000p. at adeiladu capeli Cynulleidfaol Seisnig, mewn lleoedd [nad oedd rhai o'r blaen, yn Neheudir Cymru a sir Fynwy, ar yr amod fod i 20 (os nad ydym yn camgymeryd) o'r cyfryw gael eu codi yn ystod y tair blynedd dilynol. Dywedai mai yr un prcsenol oedd y degfed o'r cyfryw gapeli oeddynt eisoes wedi en codi, neu ar waith, a'i fod yn hyderu y buasai yr 20fed wedi ei adeiladu neu ei ddechreu cyn canol yr haf nesaf pan y byddai amser penodedig Mr Morley ar ben. Dywedai Mr Oliver ei fod wedi dyfod yno i ddangos ei hyder a'i ymddir- ied yn Mr Griffiths, a'i gydymcleimlad ag ef a Mr Daniel yn eu hanturiaeth. Ei fod yn golygu yr amgylchiad presenol yn un o'r rhai pwysicaf yn holl hanes Abersychan. Meiddiai ddyweyd yn ddi- betrus mai Cynulleidfaoliaeth ydyw yr unig ffurf wirioneddol o eglwys yn ol cynllun y Testament Newydd, ac mai hwy fel Cynullcidfaolwyr oeddynt yr unig wir gynrycbiolwyr yr eglwys gyntefig fel yr ydoedd yn nyddiau yr Apostolion. Estynai cy- nulleidfaoliaeth Air Duw i ddyn fel y mae heb dynu dim oddiwrtho nag ychwanegu ato, gan ddyweyd wrtho lam 'ffurfio ei farn :Annibynol ei hun yn ol ei ddeall a'i oleuni gan weddio Duw am ei gym- horth, a dywedai wrth bob eglwys am ffurfio ei rheolau a'i deddfau ei hun heb edrych am un awdurdod a gallu tu allan iddi ei hunan. Dywedai hefyd fod yn angenrheidiol i eglwys, er bod yn wir a phriodol eglwys Annibynol, fod yn hunan-gynhaliol. Yna estynodd Mr Daniel botel, yn cynwys rhyw gymaint o arian y wlad a gwahan- ol bapurau a chofnodolion perthynol i'r enwad, i Charles Lewis, Ysw., yr hwn a gyhoeddodd fod y gareg sylfaen wedi ei gosod i lawr yn gywir, a'i fod yn gobeithio pan orphenid yr adeilad y gwnelai Duw ei hun yn amlwg yn y lie. Y mae safiad ycapel yn y lie prydferthaf a mwyaf amlwg a chyfleus yn yr holl ardal, a diau y bydd yn harddwch i'r lie pan orphenir ef canys nid oes yma gapel nag eglwys i'w gydmaru mewn harddwch allanol a mewnol a'r hyn ydyw ef i fod. Deallwn ei fod i gostio lOOOp. neu ragor, a dywedai Mr Daniel fod yr addewidion tuag ato trwy rodd Mr Morley yn cyrhaedd tua 600p. Hyderwn yr agorir ef yn ddiddyled, ac y bydd gweinidogaeth Mr Griffiths yn y capel Seisnig yr un mor lwyddianus ac y mae wedi bod yn Siloh gyda y Cymry. Yn ychwanegol at y gweinidogion a enwyd gwelsom y rhai canlynol hefyd yn y lie,—P. W. Dornton, B.A., a W. Edwards, Casnewydd; T. Griffiths, a D. Thomas, Blaenafon; R. Lumley, Elim a D. M. Davies, Varteg. Casglwyd yn y diwedd at yr adeilad a deallwn iddynt gael casgliad da.-Un oedd yno. [0 herwydd prinder gofod bu raid i ni adael yr adr- oddiad uchod allan hyd yr wythnos hon.-GoL. ]