Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
----NEWYRTH ZACHRY 0'1 GADAIR'…
News
Cite
Share
NEWYRTH ZACHRY 0'1 GADAIR WELLT. "Wycldoch chwi beth benderfynwyd yn Cwrdd Eglwys heddyw, Newyrth P" meddwn i wrth Newyrth Zachry ar fy nychweliad i'r ty heno ar ol bod yn y Cwrdd Eglwys y boron. Na wn yn siwr," ebe ynte, rhyw bwnc o fusnes mae'n debyg, oblegid dyna sydd fynycha genych y dyddiau yma." Wei, fe benderfyn- wyd gwneyd Diaconiaid newyddion, ac fe rowd hyd y Cwrdd Eglwys nesaf, mis i heddyw, i ystyried pa gynllun a gymerir i'w dewis. Beth ddywedwch chwi am hyny Newyrth 2" "Na nis gwn i pa beth i'w ddweyd yn iawn ond gyda hyny dodai y papur oedd yn ei law ar y bwrdd ar y dde, a thynai y gwydrau oddiar ei lygaid, a rhoddai hwy yn y case, yr hyn sydd arwydd sicr bob amser ei fod mewn hwyl i siarad. 'Dych chwi ddim yn coflo Hwmffrey dyrnwr," meddai-" ryw Northman mawr fu yma yn dyrnu ryw aua, ddeunaw neu ugain mlynedd yn ol? "YdwyÎ o'r goreu—Hwm- ffre Sir Fon y byddem yn ei alw—yr wyf yn cofio iddo fy nghario I a William fy mrawd, un dan bob braich, drwy ryd y Ddolfach ar ryw lif mawr, ac yntau yn cana yn llawen— 11 Y Northman mawr, a'r Hwntws bach, Drwy'r llif a'r llaid ddaw adre'n iach; Yn iach i dre' ni ddown ein tri; 'Nawr cenwch chwithau gyda mi." "Wel," ychwanegai Newyrth Zachry, dyna un o'r dynion callaf, a mwyaf gwybodus a wel- ais i erioed. Ni wn i yn y byd beth oedd e, ac nid oedd modd cael ganddo ddweyd. Yr oeddwn yu casglu arno ei fod wedi gweled byd gwell, ac mai oblegid iddo fyned i ryw ddrys- weh y daeth i'r wlad yma. Methodus oedd e yn ei wlad mi wn, ac ni ryfeddwn I ddim na bu e yn flaenor gyda hwy. Un o'r darllenwyr goreu ydoedd a glywais erioed, yr oedd ei glywed yn darllen pennod yn well nag esboniad llawer un, ac fe wnaeth lawer sylw ar y naill beth a'r Hall oedd yn dangos ei fod yn ddyn deallus iawn. Yr amser yr oedd e yma y dewiswyd Diacon- iaid yma o'r blaen. Dyna y pryd y gwnaed Dafydd Jones, Tyuchaf; ac Evan Thomas, Elidir-ganol, a Mr. Davies, Shop; a dau arall na waeth heb son am danynt, oblegid ni ddaeth dim daioni o honynt. Bu un o honynt farw yn druenus, ac y mae y llall yn wrthgiliwr er's blynyddau, ac eto y ddau hyny oedd yn fwyaf eu twrw ynghylch dewis Diaconiaid. Dywed- odd yr hen Northman bethau y pryd hyny yr wyf wedi meddwl am danynt ganwaith, a pha fwyaf feddyliaf am danynt mwya i gyd wyf yn ei wel'd ynddynt. Dywedodd mai pan fyddai yr achos yn isel a marwaidd mewn eglwys y byddai mwyaf o dwrw ynddi am weithio blaenoriaid" ys dywedai yntau-ei bod yn hollol wahanol gyda chodi pregethwyr-fod codi pre- gethwyr, fel rheol, yn ffrwyth crefydd yr eg- lwys, ac mai ar ol adegau o ddiwygiad ar gref- ydd y byddai mwyaf o son am ddynion am fyned i bregethu, ond mai effaith adfeiliad a marweiddiad mewn crefydd oedd ysbryd I, gweithio blaenoriaid" fynychaf. Dywedai mai y dynion mwyaf digrefydd yn yr eglwys fyddai yn ymyraeth fwyaf yn y mater. Dynion am fyned i'r swydd eu hunain, neu a chyfeillion ganddynt y mynent eu cael i mewn. Ac nad oedd yr eglwysi yn gwneyd dim yn fwy dan lywodraeth ysbryd plaid, ac yn mhellach o ys- bryd crefydd na gweithio blaenoriaid-fod yr hen flaenoriaid am gael rhywrai i mewn fuasai yn fwyaf at eu llaw hwy, rhyw rai hawdd eu gwneyd yn dools yn eu dwylaw; ond fod eraill am ddewis y rhai, yn ol eu meddwl hwy, fuas- ai yn fwyaf o ddrain yn ystlysau yr hen flaen- oriaid. Ac yr oedd ganddo ryw adnod ryfedd iawn-wyddwn ni ddim cyn hyny ei bod hi yn y Beibl-I I Pwy bynag a elo i fynu i'r gwter, ac a darawo y Jubusiaid, a'r cloffion, a'r deillion, y rhai sydd gas gan enaid Dafydd hwnw fydd y llaenor." Mae y bwli mwyaf mewn eglwys yw yr un tebycaf i gael ei wneyd yn flaenor-y dyn nad oes yr un gwter yn rhy fudr ganddo fyned i fyny iddi-sydd yn barod i ruthro i bob peth -yn gosod ei hun i fyny fel amddiffynwr iawn- derau yr eglwys-ae, yn neillduol os teifl am- heuaeth ar gywirdebcyfrifon yr hen swyddogion hivnw fydd y blaenor.' Ond fod y radicals mawr yma cyn myned i'r swydd yn myned yn dories ac yn dyrants ar ol ei chael hi, ac mai y rhai sydd yn son mwyaf am ormes yw y gor- meswyr mwyaf os rhoddir hwy mewn eyfle i ormesu." Nis gallaf gofio holl sylwadau yr hen Northman, ond wrth feddwl am danynt ar ol hyny yr wyf wedi eu cael yn wirionedd per- ffaith. Os na ellir dewis diaconiaid mewn gwell ysbryd nag y gwneir yn gyffredin, gwell bod hebddynt. Ac y mae dynion yn dcliaconiaid mewn cglwysi heb i un ran o bedair o'r eglwysi hyny eu dewis—dim ond am mai hwy gafodd fwyaf o votes. Pa fodd y gellir disgwyl i ddyn gael dylanwad fel diacon mewn eglwys o 300 o aelodau pan na phleidleisiodd 45 o honynt drosto. Dywedodd gweinidog wrthyf fod un yn ddiacon yn ei eglwys ef na votiodd ond 36 drosto, er fod yr eglwys yn cyfrif dros 300. Os ydych chwi am gael diaconiaid fedr arwain yr eglwys, dylent gael beth bynag haner yr eglwys o'u plaid, ac os na cheir hyny dros neb, gwell cyhoeddi yr eleetion yn null and void; ac aros nes y daw yr eglwys yn fwy unol yn ei barn." Dyna farn Newyrth Zachry ar y pwnc, ac yr oedd yn cyhoeddi ei ddedfryd o'i gadair wellt gyda mwy o frwdfrydedd na chyffredin. Llysceninen. Ei NAI.
ETIFEDDIAETH Y FAENOL.
News
Cite
Share
ETIFEDDIAETH Y FAENOL. CRYBWYLLION YCHWANEGOL AM Y DI- WEDDAR T. A. SMITH, YSW. Wele ni yn awr yn hwylio at orphen yr hyn a ddechreuasom er ys llawer o wythnosau yn ol, drwy wneud ychydig grybwyllion ychwanegol am y boneddwr uchod, yr hwii -a ystyrid gan lawer, fel un o ddynion hynotaf ei oes. Per- chenogai athrylith ag oedd yn dra amrywiaeth- ol. Heblaw ei fod yn ysgolhaig gwych, yr ydoed hefyd yn sylwedydd craff, ac yn meddu deall oedd yn gyflym a meistrolgar iawn. Beth bynag yr ymailai ei law ynddo, fe'i gwnai a'i holl egni. Nid fel heliwr yn unig yr oedd ef yn enwog, ond hefyd fel aelod Seneddol, fel tir- feistr, fel gwladwr, fel adeiladydd llongau, ac fel dyrnodiwr hefyd os byddai achos, oblegid pan wylltiai yn arw, nid oedd ymddiried na tharawai ef gam-fucheddwr nes byddai yn synu. Ni bu erioed yn ffafriol i redegfeydd ceffylau, er na bu neb erioed yn fwy ffafriol nag ef i hela. Am fwy na haner canrif, buwyd yn edrych ar Mr Smith fel yr heliwr penaf yn Ewrop. Yr oedd hefyd yn farchogwr, na cheid neb tebyg iddo yn un man. Llawer march ffromwyllt, ar ol meistroli pawb arall, a ddofwyd i ddefnyddiol- deb ganddo ef. Rhoddai braidd unrhyw bris am geffyl o'r iawn ryw. Gwariodd fyrddiynau ar geffylau a chwn yn ystod ei oes. Yr oedd yn gryn gyfaill i lwynogod hefyd, er iddo ladd mwy o honynt na neb o'i gyfoeswyr. Yn y coedwigoedd a'r bryniau oddeutu Tedworth, yr oedd lie da i feithrin y creaduriaid hyn, a rhag i'r amaethwyr o amgylch eu difa yn rhy lwyr, cytunai ar fod i ad-daliad gael ei wneud yn wyneb unrhyw golledion a gaent drwy ymwel- iadau nosawl yr eppil gastiog. Ar ddydd hela, efe fyddai yr agosaf at gynffou y pry' o bawb. Gollyngai ei farch i neidio afonydd a chamles- ydd dyfnion, mewn manau, nas meddyliai neb ond efe am wneud felly. Nid oedd odid lidiart na chlawdd yn unman a safai o'i flaen. Llawer gwr a gafodd ddillad llaith, ac esgyrn briw, wrth ollwng ei farch i ddilyn yn nghamrau yr eiddo ef. Oherwydd hyn, mwynhaodd y fraint, a diau ei bod yn fraint fawr yn ei olwg ef, o gael tori cynffonau cryn bymtheg cant o lwyn- ogod o gwbl, a hyny a'i gyllell ei hun, yr hon a gollwyd ganddo o'r diwedd, mewn rhyw fan nad ydym yn awr yn cofio yr enw. Wrth reswm, efe oedd biau yr holl gynffonau hyn,— ei drophies ef oeddynt mewn gwirionedd, nid yn unig fel meistr helwriaeth, ond hefyd am mai efe oedd y marchogwr penaf, a'r cyntaf felly i gydio yn y gyntaf bob tro. Cafodd godymau uwchlaw rhif yn ystod ei fywyd, ond y fath oedd ei fywiogrwydd a'i hoywder, fel na dder- byniodd braidd ddim niwed erioed yn y ffordd hon. Bu yn eistedd yn y Senedd am gryn nifer o flynyddoedd; i ddechreu dros Andover, ac wedi hyny dros sir Gaernarfon. Cyn bod y rheil- ffyrdd i ddiddymu pellder fel yn awr, llwyddai Smith drwy ei yni rhyfeddol, i lenwi ei gylch- oedd fel heliwr a Seneddwr, yn well na llawer. Ar ddiwedd diwrnod o garlamu prysur yn y maes, ami waith y gwelwyd ef yn cychwyn o'i balas yn swydd Hants rhyngddo a Westminster, ac yna ar ol gwrando y dadleuon, a votio gyda'i blaid, ymaith ag ef drachefn ar garlam gwyllt, yn ei gerbyd pedwar, yn ol i Tedworth, a byddai ar ei farch tua chanol dydd yn hela llwynog, yn ol ei ymrwymiad i'w ffrindiau, cyn cychwyn i Lundain y prydnawn blaenorol. Cyn myned i mewn dros Andover, bu yn ymgais am gyn- rycliiolaeth Nottingham, a hyny ar ddau ach- lysur, ond collodd drwy fwyafrif bychan bob tro. Bu yn helynt fiin arno yno, y waith gyntaf y bu yn cynyg sef yn y flwyddyn 1818, oherwydd fod teimlad y bobl mor gryf yn ei erbyn. Hyd y parwydydd yn mhob cyfeiriad, gosodasid i fynu hysbysleni mawrion, ac yn ar- graffedig arnynt mewn llythyrenau breision, 'No Fox-huntiug M. P.' Pan wnaeth ei ym- ddangosiad ar yr hustings ddiwrnod y nomina- tion, aeth yn waeddi ac yn derfysg ofnadwy yno. Ond yn y man cafodd egwyl i ofyn, os na wrandawent arno yn egluro ei egwyddcrion politicaidd, a wnaent hwy ddim gwrando arno yn gwneud cynyg fel hyn, sef y byddai iddo ymladd ag unrhyw ddyn o honynt, bychan neu fawr, wedi iddo adael yr hustings, ac y cai y neb a ddelai yn mlaen round y funud hono, os dewisai, er mwyn cyfeillgarwch! Hit ardder- chog oedd hwn, oblegid yn y fan, hi aeth yn chwerthin ac yn hwre cyffredinol drwy y lie, ac ni chynhygiodd neb ei sarhau mwyach yn Nottingham. (Ilw barhau.)
NODION ADA.
News
Cite
Share
NODION ADA. Dyro y reset hon ar y file,' meddai f' ewyth' prydnawn heddyw newydd iddo dalu treth y tlodion, ac ychwanegai—' fel hyn mae yr arian yn myn'd. Wedi bod wrthi yn gweithio yn galed am flynyddau yn Lerpwl yna, meddyliais y buaswn yn cael llonydd gyda'm tipyn arian ond yn lie hyny, mae rhyw alw o hyd, ac am drethi ac incwm tax nid oes diwedd arnynt. Dyma dreth y plwy' yn ddau swllt y bunt, yn lie bod tua'r haner hyny. Mae pob peth fel hyn yn ddigon i dori y mint i fyny; ac er mwyn gwastadhauychydigar y wrinkles oedd wedi codi ar ei dymher, hwyliodd i'w gadair ddwyfraich ar yr ochr dde i'r tan wrth ddyfod drwy y drws i gael mygyn.' Felly ni chawsom fawr o ym- gom heno. Tra yr oedd adfyfyrdodau f' ewyth' yn dilyn y ffurfiau amryfath a gymerai y mwg a ymddyrchai o safn ei bibell hir-goes, cymerais i fyny fy ngwaith' o wneud dau fat i roddi dan ddau addurn-gawg hyacinth, a ddisgwyliaf fyddant yn llawn blodau tua'r Nadolig. Yr oeddwn ar Idyweyd wedi dechreu ar fy ngwaith,' aethum inau hefyd i synfyfyrio ar- beth feddylier wel trethi y tlodion, '.bid siwr, oeddynt wedi cynhyrfu cymaint ar f' ewyth'. Yr oeddwn yn gwybod eisoes fod y trethi yn cael eu gwneud gan overseers yplwyf- ydd yn y gwahanol Undebau sydd dan arolyg- iaeth Bwrdd y Tlodion, er cyfarfod agangenion y dosbarth lluosog sydd yn y deyrnas a elwir tlodion. Yr oeddwn hefyd yn gwybod fod llawer o swyddogion yn cael eu cadw ynglyn a chario allan drefniadau Cyfraith y Tlodion, megis assistant overseers, relieving officers, ys- grifenyddion i'r golygwyr, cyfrif-olygwyr, a nifer fawr o swyddogion yn y swyddfa uchaf yn y brif ddinas, a rhaid addef fod cyflogau mawr- ion yn cael eu talu i'r bobl hyn; ond deallwn mai amcan codiad a chasgliad y trethi oedd dar- paru ar gyfer y tlawd, yr afiach, a'r angenog. Wadi hyn, ymgynhygiodd a ganlyn i fy meddwl —Paham mae cymaint o bobl yn myned i 'bwyso ar y plwy'P fel y byddaf yn clywed rhai yn dy- weyd. Gwelwn yn amlwg fod maint y trethi yn cael ei reoleiddio gan nifer y bobl oeddynt yn gofyn cymhorth plwyfol, ac hefyd mai y bobl ddiwyd a gonest sydd yn gorfod dioddef yn eu heiddo wrth dalu y trethi. Yr oeddwn yn cael fy arwain i gredu fod y rhan fwyaf o dlodi yn cael ei achosi gan y bobl eu hunain, ac yr oedd- wn yn medru olrhain yr achos i ddwy ffynonell fwrlymolnodedig—esgeulusdra rhieni a meddw- dod. Gwir adddefadwy yw fod meddwdod a thlodi yn gymdeithion ond mae llawer yn ed- rych heibio i esgeulusdra rhieni fel achos sydd yn cyfranu mewn gwahanol ffyrdd lawer at y tlodi enfawr sydd drwy y deyrnas. Cytoerodd fy meddwl, pa fodd bynag, gyfeiriad af rhan sydd gan fy nghydryw yn y gwaith o wneud y baich sydd yn pwyso mor drwm ar gefn y bobl ofalus a sobr o gymdeithas. Mae llawer o rieni sydd yn byw ar ddiwrnod gwaith yn euog o ddau fai pwysig gyda eu genethod-un ydyw peidio eu hanfon i ysgol, ac un arall eu cadw hwy gartref i ymollwng i ddiogi, yn lie eu