Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

-----CRYNHODEB YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

CRYNHODEB YR WYTHNOS. Nid oes genym unrhyw gyfnewidiad neill- duol i'w hysbysu am sefyllfa masnach. Yn Illaiiehester y mae pethau yn edrych i fyny. mae prysurdeb mawr yn y gwahanol weith- haiarn, ond y mae masnach y gwlan a r lliain yn parhau yn farwaidd. Cymerodd ychydig ostyngiad le yn mhris y gwenith a'r peilliaid, ac y mae pob sail i feddwl y bydd Y bara yn rhad yn ystod y misoedd dyfodol. 330rell dydd Gwener, yn Marlborough House, esgorodd Tywysoges Cymru ar ferch. Y mae ^oddiadau y meddygon o barth iechyd y y^ysoges yn hollol foddhaol. Cymerodd P*iodas Tywysog Cymru le ar y lOfed o a"Wrth, 1863. Y mae ganddo yn awr bump blant,—y Tywysog Albert, y Tywysog y Dywysoges Louisa, y Dywysoges ^ictoria, a'r Dywysoges a anwyd boreu dydd a mlid pryder trwy yr wythnos ddiweddaf e-VeChyd ^rchesg°k Canterbury, a gwnaeth ft111 y Prenhines yxaofyniadau hynaws a o gydymdeimlad am ei arglwyddiaeth dan ei iechyd. Mae y newyddion am iol ° wy^nos hon yn llawer mwy gobeith- eg' mae yn amheus a ddaw yr Arch- j)^-7 Wneud ei waith fel cynt. Dywed y gQ1 y News ddarfod i'r Archesgob ysgrifenu 0 lythyrau y diwrnod cyn iddo gael ei ^ryd yn glaf, yr^lMi ?n tynu sylw neillduol trwy Cyfar°^ yn ydyddiau hyn. Cynhelir r&ir c° raawr^on gan bleidwyr y Cyng- Ceni a chan bleidwyr yr TJndeb j j6 ac o'r ddau y blaenaf sydd yn br0ll !?g°S yn eni11 tir- Dygir y mater ger ac yn. ^nar yn eistsddiad nesaf y Senedd, ^esur &W/i i barotoi er cael y 0 addysg sydd yn ateb angen y wlad. Gwelir crybwylliad mewn colofn arall am gynhadledd a fwriedir gynal yn Aberystwyth yn gynar yn Ionawr nesaf er cymeryd i ys- tyriaeth pa adranau neillduol y dylai Cymru hawlio eu cael yn y mesur. Mae arbenig- rwydd yn perthyn i Gymru fel gwlad Ym- neillduol, nad yw yn perthyn i un cwr arall o'r deyrnas; a dylem ddatgan ein barn yn eglur dros gael yr addysg o leiaf yn hollol rydd ac ansectaraidd. Mae gwthio Ysgolion Eglwysig ag arian y Llywodraeth ar wlad o Ymneillduwyr y sarhad mwyaf arnom. Haedda cyfeillion Caerdydd gael diolch gwresocaf holl Gymru am feddwl am hyny, ac nid rhaid iddynt ofni eu bod yn ymwthio at beth na pherthyn iddynt, oblegid rhaid i ryw rai ddechreu gyda phob peth. Bwriedir cael cyn- hadledd i gael barn a theimlad y wlad am y Brif Y sgol yr un wythnos yn Aberystwyth. Mae yn bryd bellach i'r pwnc cenedlaethol yma i gael ei ddwyn yn ymarferol ger bron y wlad, a gwneyd rhywbeth o ddifrif o'r adeilad eang a chyfleus sydd wedi ei frwrcasu i fod yn gartrefle y sefydliad. Mae parotoadau yn cael eu gwneyd gan y Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig, at gael cyfarfod mawr yn Liverpool i amlygu cydym- deimlad ar dyoddefwyr yn rhai o siroedd Cym- ru, oblegid eu pleidleisiau yn yr etholiad diweddaf. Buasai amser y cyfarfod wedi ei hysbysu oni buasai fod rhai boneddigion yr ystyrir eu presenoldeb yn hanfodol i lwyddiant y cyfarfod yn methu nodi yn gywir yr amser y gallent ddyfod. Bydd Mr. H. Richard, a Mr. E. M. Richards yn y cyfarfod, a gwneir pob peth a ellir er sicrhau presenoldeb Mr. Morley, Mr. Dillwyn, a Mr. 0. Morgan. Ni byddai un petrusder am yr olaf pe gallesid taflu y cyfarfod hyd ddiwedd Rhagfyr. Ond rhaid ei gael fel y byddo ei hanes wedi ei gof- nodi yn yr holl newyddiaduron Cymreig mewn pryd cyn y Casgliad y Sabboth cyntaf yn Ionawr. Disgwylir am bresenoldeb Mr. Richard Davies, a Mr. Jones Parry. Mae rhai Toriaid yn parhau i haeru nad oes neb wedi eu troi o'u lleoedd am eu pleidleisiau. Parotoir list erbyn cyfarfod mawr Liverpool o'r rhai a fwriwyd o'u tai, a bydd yr holl ffeithiau mor amlwg nas gall neb eu gwadu ond y dynion sydd mor ddibris o wirionedd fel nad gwaeth ganddynt beth a haerant. Ysywaeth y mae lliaws o deuluoedd yn gwybod trwy brofiad mai gwir yw y cwbl. Ond, SEFIXIFA YR IWERDDON ydyw pwnc mawr y dydd, a chyfyngder penaf Mr. Glad- stone a'i Weinyddiaeth. Soniasom gymaint am yr Iwerddon yn ystod y ddadl fawr ar ddadgysylltiad yr eglwys Wyddelig, nes oedd- ym o'r diwedd wedi blino ysgrifenu enw yr Ynys Werdd. Wedi i Mr. Gladstone ddwyn cwestiwn yr eglwys i derfyniad mor ogonedd- us, yr oeddym yn gobeithio y caem ymdrin a. chwestiynau mwy cydweddol a chwaeth pobl Cymru, na phethau Gwyddelig. Ond fel arall y mae a gall holl olygwyr, a holl ohebwyr, a holl ddarllenwyr y newyddiaduron Seisnig, beth bynag am y rhai Cymreig, wneyd eu meddyliau i fyny, mai sefyllfa yr Iwerddon fydd yn cael y sylw penaf am beth amser eto. Gallasid meddwl fod y Gwyddelod wedi dangos eu hanfoddlonrwydd a'u gwrthwynebiad i lyw- odraeth Lloegr yn mhob modd ag yr oedd hyny yn ddichonadwy. Gallasid meddwl fod eu dyfais a'u doniau i wrthwynebu ein llywodr- aethwyr wedi eudysbyddu. Gallasid meddwl na buasai Mr. Gladstone yn cyfarfod a rhwystr o natur newydd yn ei ymdrech egniol i ddwyn pethau i well trefn yn yr Iwerddon. Ond yn hyn oil yr ydym wedi cael ein siomi yn hollol. Canys y mae peth newydd wedi cymeryd lie ar y ddaear. Y mae O'Donovan Rossa, yr hwn sydd yn Ffeniad, ac yn garcharor, ie, yn garcharor am Treason-felony, wedi ei etholyn aelod o Dy Cyffredin Prydain Fawr, dros Swydd Tipperary. Ni bu dim cyffelyb yn y wlad hon yn nghof neb sydd ar y ddaear. » Yn gynar yn nheymasiad George y Trydydd etholwyd Jack Wilkes, yr hwn o'r blaen oedd wedi digio y Brenhin, a herio Ty y Cyff- redin. Ceisiodd Ty y Cyffredin ei gau allan, ond yn aflwyddianus. Ymgododd teimlad y wlad o'i blaid ac yn erbyn y Ty. Rhodd- wyd swydd a chyflog dda i. Jack Wilkes, yr hwn dan ddylanwad y swydd a'r cyflog da a newidiodd ei farn, aeth y radical anghymed- rol yn Dori rhonc. Mewn cyfnod diweddar- ach etholwyd Daniel O'Connel dros swydd Clare. Yr oedd O'Connell yn Babydd, ac nis gallasai Pabydd fod yn aelod o Dy y Cyffredin. Ac yn nghof llawer o'n darllenwyr, ethol- wyd Syr David Solomons, yr Iuddew, pan nad oedd y gyfraith yn caniatau i Iuddew fod yn seneddwr. Nid oedd dim yn berson- ol yn erbyn O'Connell a Syr David Solomons, ond yn unig fod y gyfraith megis ag yr oedd y pryd hwnw, yn eu cau allan o Dy y Cyff- redin. Ond dyn gwahanol hollol i'r bargyf- reithiwr ffraeth, a'r dinesydd cyfoethog, ydyw O'Donovan Rossa. Y mae efwedi ei ddedfrydu i penal servitude am gyflafan fradwrus. Wrth reswm y mae yn anmhosibl iddo gymeryd ei le yn Nhy y Cyffredin, gan ei fod yn rhwym yn y carchar. Ond y peth sydd yn ddifrifol o ddigalon ydyw y ffaith fod y Gwyddelod yn dangos y fath ddrwg ysbryd pan y mae y Weinydcliaeth alluocaf a gonestaf a fu. yn y wlad hon er ys oesau, ar ei goreu yn astudio cysur a llesiant yr Iwerddon.

-...,' CYNNWYSIAD: