Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Y PARCH. J. WILLIAMS, CASTELLNEWYDD…

News
Cite
Share

Y PARCH. J. WILLIAMS, CASTELL- NEWYDD WEDI MARW. Ie ddarllenwyr, brawddeg bur liynod onide ? Williams Castellnewydd wedi marw. Un a anwyd mewn ffarmdy o'r enw Ffrwdwen, yn Mblwyf Llandeilo-fawr, ac a fagwyd yn Brown lIllI, yn mhlwyf Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin, Wedi marw. Un a ddechreuodd ar ei ddyled- swyddau cyhoeddus fel crefyddwr a phregethwr leuanc gyda sel a brwdfrydedd diail. Wedi illarw. Un a ymsaethodd i'r golwg yn ffurfaf- On yr Eglwys Gymreig fel seren lachar a goleu nes yr oedd yn hawdd ei ganfod o bell ac o agos. Wedi marw. Un a gododd obeithion ^yinru i sefyll ar flaenion en traed ac i ofyn Irlewn syndod beth fydd y bachgen hwn. Wedi ?narw. Un deitliiodd fro a bryn—tir a mor— twyr a boreu, heb achwyn erioed, am a wn i, ei fod wedi blino. Wedi marw. Un weithiodd yn galed mewn lluaws o gyfeiriadau mewn amser ac allan o amser. Wedi marw. Un siar- adodd—un bregethodd—un ddarlithiodd—un daniodd ac un wefreiddiodd gymanfaoedd a chynulleidfaoedd lluosog Cymru, nes yr oedd- yit fel dail crynedig y goedwig o flaen yr awel, Yn symud ol a gwrthol wrth sigliad ei law a ^Wareuad ei dafod. Wedi marw. Un yr oedd oywyd yn dawnsio ar bob ysgogiad a pliob Slgliad pob gewyn yn ei gyfansoddiad. Wedi marw. Un oedd wedi ei gyfansoddi gan natur y fath fel yr oedd yn medru byw mwy mewn bhvyddyn nag a fedr nifer luosog o ddynion ei fTvv mewn pedwar ugain xnlynedd. Wedi marw. ^n o'r dynion mwyaf byw a fuodd byw erioed ar wyneb y ddaear, wedi darfod byw yn ei ffurfwedd ddaearol, ac wedi ei symud o'r byd "Wil i randiroedd tywyllion ac anadnabyddus wriogaethau y byd ysbrydol. Ac y mae y ffalth fod Williams Castellnewydd tuedi marw Y tystio yn bur uchel mai ein dyledswydd niiiau yw trefnu ein tai, canys marw fyddwn ac byddwn byw. Ydyw mae ein cyfaill Williams Castellnewydd wedi huno. Ac fel y dywedodd 1111 yn Capel Iwan dydd yr angladd, yn ddigon Priodol, yr oedd yn gyfaill. Yr oedd darlun byw o gyfeillgarwoh yn ei ysgogiadau. Yr oedd arogl cyfeillgarwch yn ei eiriau. Ac wrth u.fuddhau i'w egwyddor gyfeillachol aethai ar ten i ofid ei bun er mwyn diofidio ei gyfaill. *a beth bynag oedd ei gryfder, a pha beth bynag oedd ei wendid; pa beth bynag ganmol- adwy, a pha beth bynag oedd heb fod ynddo, S^daf y cyduna pob un oedd yn adnabod Mr. Williams yn weddol dda ei fod yn gyfaill cynes a thwymgalon iawn. Yr oedd caredigrwydd, bonder a serchowgrwydd yn elfenau ag oedd Wedl eu cydwau a'i natur y fath fel yr oeddent yn dyfod i'r golwg yn mhob gair, pob gweith- y) a phob ysgogiad o'i eiddo yn hollol natur- a diymdrech. Collodd gweinidogion ieu- lngc, ac yn neillduol pregethwyr ieueingc oedd yn bwriadu am y weinidogaeth, gefnogydd ^yo-dlon a chyfaill twymgalon iawn pan goll- Sant Mr. Williams. Gwn am luaws o ddynion enangc llafurus, talentog, a chyfrifol, yn llanw yiehoedd pwysig yn y weinidogaeth Gymreig eddyw, yn ddigon boddlon i dystio i sylwedd- irwydd y gosodiad uchod. Ac o'r braidd y /ddwn yn foddlon ildio fy mod yn myned yn ffty bell pe dywedwn nad oes un gweinidog eadyw yn fyw wedi bod mor active ac ym- recnol i godi dynion ieuangc i'r weinidogaeth, c yn ol ei allu, i gael lleoedd iddynt ar ol eu a Mr. Williams, Castellnewydd. Cefnog- ej Uaws ar eu eychwyniad allan, darlithiodd °ysur arianol, siaradodd drostynt o flaen yllgorau y colegau, cymeradwyodd hwy i bv -in°l eg]wysi> a rhoddodd ei bresenol deb ^ywiog gyda hwy ar ddyddiau eu hurddiadau. U byddwn yn dweyd yr un newyddwrth ddar- ^J*yr y TYST CYMEEIG pe dywedwn fod Mr. siaradiuyr mwyaf ffraeth, arp'fi e^eithiol, a didaro a esgynodd erioed i'r yn ■ gymreig. Yr oedd wedi ei eni a'i fagu j^aradwr. Y mae y gallu siaradol yn nod- a<j -arbenig o deulu Brown Hill. Yr wyf yn Rvfl °d ° honynt sydd yn siarad mor y^ nes y maent braidd yn ymylu ar fod yn ^ed^f Wy. Gwir nad yw hyny yn un rhin- odd °nd y mae yn brawf i'r neb a wrandaw- arnynt yn siarad eu bod yn feddianol ar SyffY speech, neu beirianau ymadrodd di- 'Wilv Ond er mor gyflym y siaradai Mr. ^ealia?S' oe(^ yn ddigon pell o fod yn an- yn f y* Yr oedd yna rywbeth mor nodedig rawddegau byrion, ei ysgogiadau bywiog, ei aceniaeth groyw, ei bwysleisiau cynaniaethol, a seiniadol, a'i gwnaiynun o'r siaradwyr mwy- af bywiog, effeithiol, boddhaol, a dylanwadol a fum yn wrando erioed. Nid yn yr areithfa yn unig yr hynodai Mr. Williams (i hunan fel siaradwr. Adwaenwyf luaws y mae yn dda gan fy nghalon i gael y pleser o wrando arnynt yn y pulpit, ond mor fuan ag y deuont tu allan i ddrws y lie cysegredig hwnw, y maent yn hollol ddilun a diawdurdod fel siaradwyr. Ond am Mr. Williams, pa un bynag ai ar y stage am ddeg o'r gloch boreu dydd y gymanfa, ai yn darlithio Dyn yn Arglwydd y Greadigaeth," ai yn y Town Hall yn dadleu hawliau gwleid- yddol ei gyd-ddyn, ai yn gwerthu neu brynu anifail ar ben ffair, ai yn adrodd hanesyn difyr a diniwed yn y cornel wrth y tan mawn, nid oedd wahaniaeth ar y ddaear pa le, yr oedd ei allu siaradol diail fel ffynon yn byrlymu i'r golwg yn ddidor didrai a didrwbwl. Yr oedd yn ddyn cyflawn iawn mewn ardal, a theimlir colled fawr ar ei ol yn y cyfeiriad hwn. Ond nid fy mwriad wrth ddechreu ysgrifenu oedd rhoddihanes by wyd Mr. Williams, ondynhytrach ychydig o hanes ei farwolaeth a'i gladdedig- aeth. Teg yw dyweyd ei fod yn ddiweddar wedi ymddrysu ychydig yn ei amgylchiadau bydol. Yr oedd lluaws o betbau yn cydgyfar- fod a'u gilyddiddwyn hyn oddiamgylch, megis caredigrwydd ei natur, teulu lluosog, gormod o heiyrn yn y tan ar yr un pryd;' yn nghyda meddwl yn bur debyg byw rai blynyddoedd yn mhellach. Ond y mae yn dda iawn genyf fod yn alluog i ddyweyd oddiar dystiolaeth y rhai oedd gyfarwyddaf ag amgylchiadau mas- nachol Mr. Williams mai yr unig drueni yw, iddo gael ei gymeryd yn wael i'w wely yn yr adeg y cymerwyd ef. Mae yn fwy na thebyg pe cawsai rodio oddiamgylch yn y mwynhad o'i iechyd arfercd y buasai pobpeth yn wastad a boddhaol. Nid oedd mor iach a hoew ag arfer- 01 er ys wyth neu naw mis. Cafodd gystudd trwm am y pum' neu chwech wythnos diwedd- af y buodd byw. Bu farw, fel y dywedasom o'r blaen, tua naw o'r gloch boreu dydd Mawrth, y 9fed cyfisol. Hebryngwyd ef y dydd Sad- wrn canlynol gan dyrfa luosog anarferol i dy ei hir gartref, yn mynwent Capel Iwan, lie y gorweddai ei briod er ys yn agos i saith mlynedd yn flaenorol. Darllenwyd a gweddiwyd yn y ty yn hynod o effeithiol a thoddedig gan y Parch. W. E. Jones, Treforis. Dechreuwyd yr oedfa yn y capel gan y Parch. D. Evans, Pant- ycreigiau. Ar gais Mr. Williams ei hun ryw fis cyn ei farw, yn nghyda dymuniad y teulu ar ol hyny, pregethais inau ychydig oddiwrth y frawddeg-" Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith." Cyn mynecl dywedoddy Parch. O. Thomas, Brynmain, ychydig eiriau taraw- iadol a thoddedig. Ar lan y bedd siaradodd y Parchn. Philips, Horeb, a Williams, Trelech. Cyn ymadael canwyd, ar gais y teulu, yr emyn canlynol—"Ymadael wnaf a'r babell 'rwy'n trigo ynddi'n awr, &c.; yr emyn mae'n debyg a ganwyd ganddo ef ei hun y nos cyn ei ym- adawiad, a gobeithio erbyn hyn ei fod wedi syl- weddoli y rhan ddiweddaf o hono yn ogystal a'r rhan flaenaf. Ac yria i gysgu rhowd Williams anwylgu, Hyd foreu y codi caiff orwedd mewn hedd, Boed Duw y ffyddloniaid yn dad i'w amddifaid, Yn eu tyner wylied mewn nodded a hedd; Pe gallem fe'i nliofiem i fynu a'n dagrau, Er cael ei gyfeillach a gweled ei wedd, Ond dyna-gwell tewi a'i adael i gysgu- Distawrwydd sy'n gweddu i breswyl y bedd. T. SELBY JONBS. Trewen, Tach. 19, 1869.

CYFARFOD YMADAWOL.