Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

IIWNT AC YMA YN YR AMERICA.

News
Cite
Share

IIWNT AC YMA YN YR AMERICA. (Farhacl.) ITY HDD A Wrth fyned o fan i fan teimlwn fod y ffyrdd yn aethus o ddrwg. Nid mor hawdd yw eu cadw yn dclt-y mae y gwlawogydd mor drymion, a'r llifeiriant ar ol y gwlaw a'r meiriol yn y gwanwyn iiior ysgubol nes andwyo pob peth braidd. Bum mewn wageni a^bugies ar hyd ffyrdd na fuasai yr un cerbyd yn Nghymru yn cynyg mynec1 ar hyd-ddynt. Amcenir gwella. y ffyrdd yn y wlad a'r dref agos yn mhob man y bum, ond nis [gellir disgwyl eu cael o bosibl y ganrif hon beth bynag gystal a ffyrdd Cymru. SEFYLLFA Y CYMRY. Amaothwyr a welais fwyaf, ac y maent agos oil yn gwneucl yn dda' Clywais amryw yn dweyd nad oedd ganddynt ddim pan y daethant 11 -tdon', ymaugain a dengmlyneddar hugain yn ol, ond y maent erbyn heddyw yn berchenogion ffermydd braf. Peidied neb a chamsynio, cofier mai trwy lafur dyfal y daethant i'r sefyllfa yma. Yn wir yr oeddwn yn falch o'u gweled. Dyna hwy yn dod yn eu cerbydau hardd at yr addol- dai, gallasech feddwl mai pendefigion oeddynt bob un. Nid rhyw gerbydau trwsgl wedi eu gwneud y ffordc1 agosaf ond rhai na welir mo'u gwychach braidd yn Llundain, a go-ahead horses ynddynt. Y WEINIDOGAETH GYMREIG. Yr oedd chwech o honom newydd ddod o'r Hen Wlad yn Ngliymanfa Oneida, ac yr oodd hyny yn ddigon o drwydded i ni gael pob sylw a chroesaw. Ni welwyd nemawr erioed gynifer. Nid wyf wedi gweled digon ar yi- eglwysi iwybod am eu sefyllfa, ac nid hawdd iawn iun ar Gymanfa neu ymweliad brysiog a cliymydogaethau ffurfio barn gywir. Yr wyf yn deall oddiwrth frodyr mwy profedig na fi mai ychydig o leoedd mawrion sydd yn wag o weinidogion, ond fod amryw fan leoedd, a dywedir fod yma gyflawn- der mewn rhif beth bynag ar eu cyfer, Gwn fod yma ambell i un erys dros flwyddyn ar gordded trwy yr eglwysi heb le, a chyda Haw y mac yr ymweliadau didor hyn yn mynec1 yn feichus mewn manau. Bum yn yrnddfddaii a rhai dynion craff a phrofedig a chydfarnent y dylid cael gwell dealltwriaeth rhwng Cyfarfod- ydd Chwarterol a Chymanfaoedd y wlad hon a rhai yr Hen Wlad er atal siomedigaeth i rai. Y CY3IIIYSGEDD SEISOXIG. Teimlir yn drwm mewn manau oddiwrth y llifeiriant Seisonig. Yr oedd Oneida yn hynod o Gymreig, eto clywir swn y llanw yn dod yno, Y mae yn anhawdd gwybod beth i wneud gyda y Seisoneg a'r Gymraeg. Hyd y gellir gwell eu cadw yn llwyr ar wahan. Fel rheol felly y gwna y Methodistiaid Calfinaidd. Problem, ddyrys ydyw yn wir. Mewn amryw fanau y mae canu cnul y Gymraeg wedi bod yn ganu cnul crefydd hefyd. Gocheler rhag bod yn rhy frysiog i ysgymuno y Gymraeg. Nicl peth i'w wneud mewn mympwy falch ydyw os oes gen- ym wir ofal am grefydd. AGWEDD GREFYDDOL Y WLAD. Lied farwaidd yw yn gyffrcdin, ac y mae Anffyddiaeth Germany a Phabyddiaeth yr Iw- ertldon a gwahanol wledydd eraill yn ymdaenu yn ddifrifol yma. Da Gymry anwyl, deuwch yma yn mrwdfrydedd eich calon dros yr Hen Feibl. FY IHIROFIAD FY HUN. Yr wyf yn leicio yn first rate yma—dyna derm Yanciaidd i chwi, ond y mae arnaf hir- aoth mawr weithiau am fy mrodyr a'm cyfeill- ion. Gadewais ganoedcl a hoffwn fel fy enaid fy hun ar ol. Dyma fi yn tewi. Bum yn faith, ond os ydych yn blino ni chewch glywed am dipyn eto. Y mae genyf lawer o waith yma. Byddwch wych. Pittsburgh. H. E. TIIOJIAS.

Advertising

NEWYRTH ZACHRY 0'1 GADAIR…

DARLUNIAU 0 MAIR MAM YR IESU.