Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Family Notices

[No title]

[No title]

CYMDEITHAS YR ACHOSION SEISNIG…

News
Cite
Share

CYMDEITHAS YR ACHOSION SEISNIG YN NGHYMRU. Yr ydym yn dymuno galw sylw Eglwysi Annib- ynol Cymru at y Gymdeithas hon eleni fel arfer, a hyny y tro hwn yn y modd taeraf a difrifolaf. Amlwg yw, fod cyfnewidiad pwysig a chyfivm yn cymeryd lie yn iaith ein gwlad, yn neillduol yn ein trefydd a'n cymydogaethau gweithfaol. Mewn llawer o fanau, yn Morganwg a Mynwy yn neilldu- ol, ugain mlynedd. yn ol, nid oedd angen darllen y testyn yn Saesonaeg, yn awr nid 008 angen ei ddar- llen yn Gytnraeg. Mae amryw gymydogaethau wedi cyfnewid yn hollol a thrwyadl, ac oni buasai i'r eglwysi ddangos mwy o ysbryd cristionogaeth nag o ysbryd ieithgarol, buasai y capelau wedi eu gwaghau erbyn hyn, a'r cymydogaethau hyny heb un achos Annibynol o'u mewn. Er troi achosion Cymreig i fod yn Saesonig, nid yw hyny wedi profi yn ddigonol i gyfarfod a chynydd yr iaith Saesonaeg yn Nghymru. Mae profiad y blynyddoedd diweddaf a sylw ar arwyddion yr amserau yn ein gorfodi i gredu, a chymhell y grediniaeth hono ar yr eglwysi, mai dyledswydd fiaenaf a phenaf Annibynwyr Cymru, os mynant gadw Annibyniaeth yn y wlad, yw darparu lleoedd i addoli, a gweinidogaeth Saes- onaeg yn y manau hyny lie y preswylia Saeson digrefydd, ac y siaredir y Saesonaeg gan blant y Cymry. Oni buasai y Gymdeithas hon, ni buasai genym, fel enwad, gynifer o eglwysi ac aelodau Saesonig yn Nghymru ag y sydd. Mae cynifer o eglwysi ne- wyddion wedi eu ffurfio yn ystod y flwyddyn hon, heblaw y rhai fwriedir eu ffurfio o hyn i ddechreu yr haf nesaf, fel y mae yn anmhosibl i'r Gymdeithas gyfarfod a'r holl ofynion heb ychwanegiad mawr at y cyllid presenol, goddefer i ni felly, dros y Gym- deithas, yn enw ein Meistr, ac er mwyn eneidiau anfarwol, eich cymhell chwi, frodyr, sydd wedi eich bendithio a da y byd hwn, a'r eglwysi yn gyffredin- 01, i gymcryd y mater hwn dan eich hystyriaeth ddifrifolaf, ac i wneyd yr hyn a alloch yn y gwaith pwysig hwn. Tra y mae enwadau ereill yn effro ac yn gweithio, na fydded i ni gYSgll nes colli y maes a'r safle a enillwyd i ni gan ein tadau. Mae i bob oes ei gwaith neillduol. Ein gwaith ni yw, gofalu na byddo i ddy- lifiad ein gwlad gan iaith estronol yrnlid Annibyn- iaeth o'r tir. Mae amryw bersonau ac eglwysi yn gwneud yn rhagorol. Ai gormod fyddai gofyn casgliad at y Gymdeithas o hyn hyd ddiwedd mis Mawrth nesaf, gan bob eglwys nad yw hyd yma wedi gwneyd dim. Ddiaconiaid a Gweinidogion, yr ydym yn attolygll amoch, dygwch y mater ger bron yr eglwysi yn ddioed, yna credwn y caiff y Gymdeithas y cydymdeimlad a'r cymhorth a deil- ynga. Dros y Pwyllgor, D. SEYS LEWIS, Cadeirydd. D. JONES, Ysgyifenydd. T. WILLIAMS, Trysorydd. T. REES, Abertawy. Anfoner y casgliadau a'r cyfraniadau i'r Trysor- ydd, T. WILLIAMS, ESQ., Goitre, Merthyr Tydfil. r tY.!I,

Y EAHCIINAD YD.

Y FARCHNAD ANIFEILIAID.

GWER.

IMARCHNAD GWLAN.

Advertising

LLYTHYR GOHEBYDD.

AT Y CYHOEDD.