Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

[No title]

LLANELLI.

TALSARN.

LLANIDLOES.

CAERSWS.

MERTHYR TYDFIL.

ABERAYRON.

CORWEN.

DINAS POWYS, GER CAERDYDD.

LLANBEDR, CEREDIGION.

PWLLDU, GER BLAENAFON.

FFESTINIOG.

News
Cite
Share

FFESTINIOG. DIBWEST.—Y mae achos sobrwydd a rhinwedd ar gynydd i racldau helaeth yn y gymydogaeth y dydd- iau presenol. Y mae ein heolydd yn fwy tangnef- eddus, y llwon a'r rhegfeydd a glywid amser yn o4 a hyny ar bob adeg o'r nos, wedi myned yn anaml- ach yn awr. Dichon fod ymweliad yr afiechyd sydd yn ein plith wedi creu peth ofn ac arswyd ar y dyn- ion mwyaf anystyriol. Oncl both bynag am hyny, y mae yn llawen genym weled fod dirwestwyr yr ardal yn bendorfynol o sefyll yn erbyn yr arferiad peehadurus o ddiota, cyfeddach a mecldwdod, ac i arfer eu holl ddylanwad er perswadio y meddwon i IT'oi o afaelion eu gelyn inarwol; ac er mwyn rhoddi eithaf cyfleusdra iddynt i ymuno a'r Gymdeithas Ddirwestol, yr ydym fel gwalianol enwadau cref- yddol, wedi penderfynu cynal cyfres o gyfarfodydd dirwestol, a hyny ar gylch yn y gwahanol gapelau. Nos Lun, y ,I ydcl cyfisol, cynhaliwyd un o'r cyfryw gyfarfodydd yn y Capel Gwyn. Yr oedd y lie yn orlawn. Siaradwyd ar ddirwest gan amryw o'r cyfeillion, ond yn fwyaf neillduol gan Mr. T. Morris, pregethwr ieuane gyda yr Annibynwyr, yr oedd yno bawb yn teimlo yn hynod selog a phonderfynol i fyned rhagddynt. Dylem dclyweyd hefyd fod y ddau Band of ITope wedi gwneuthur eu rhan tuag at ddwyn y cyfarfodydd yn mlaen yn effeithiol a dyddorol. Gobeithio ceir cefnogaeth pob gradd a sefyllfa. JJudwy.

BANGOR.

BLAENAU FFESTINIOG.