Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

----=='lilt>..'11 Y SER GWIBIOG.

FFRAINGC.

ITALY.

YR AIPHT.

UNDEB CERDDOROL BETHEL, ARFON.

CYFARFOD CHWARTEROL MON.

News
Cite
Share

CYFARFOD CHWARTEROL MON. Ymgasglodd y brodyr yn lied gryno i Bodffordd, ar y Llun a'r Mawrth, y laf a'r 2il o Dachwedd, i gynal y cyfarfod hwn. Y gweinidogion yn bresenol oeddynt y Parchn. W. Griffith, a Davies, Caergybi; R. E. Williams, Beaumaris Hughes, Gwalchmai; Jones, Cemaes Roberts, Niwbwrch; Owen, Llan- gefni; Lewis, Pentraeth; Owen, Berea; Davies, a Hughes, Rhosymeirch; Roberts, Llanfachreth; a Rees, CapelMawr. Pregethwyr:—Meistri Roberts, Treban Thomas, Llangefni; Jones, Bodedern Jones, Rhosymeirch; Jones, Caergybi; a Vulcan Davies. CenhadauMeistri Roberts, Penymyn- ydd; Williams, Rhosymeirch; Griffith, Cana; Hughes a Parry, Llanerchymedd Parry, Gwalch- mai; Owen, Llanfairyborth; Hughes, Glan'rafon; Williams, Sion; Thomas, Moelfro; Owen, Menai Bridge a Jones, ac eraill, o Bodffordd. Darllenodd y Cadeirydd lythyr oddiwrth y Parch. J. Thomas, Liverpool, mewn perthynas i gyfrifon y gwahanol eglwysi yn ein sir tuag at yr ymdrech Dau-can'- mlwyddol, a chafodd arwydd gyhoeddus o barod- rwydd y cyfeillion i gydsynio a'i gais, yr.hyn a daer gymerir genym. Hefyd llythyr oddiwrth Mr H. Lewis, Liverpool, yn ymesgusodi ac yn gofLdio o herwydd ei absenol- deb, ac yn adgoffa i ni y drysorfa a fwriedir ei gwneud genym tuag at ddileu dyledion ein capelau. Bu ymddiddan cyfcillgar ar y pwne pwysig hwn, a chafwyd addewidion ychwanegol at y rhai oedd eis- oes ar y llechres, yn nghyda phenderfyniad fod i bob eglwys jongyrtghori beth a allent ei wneud, ac anfon y manylion o hyny i ofal y Parch. W. Grif- fith, Caergybi, yn ddioed. Y mae amryw eglwysi yn bwriadu casglu lp. ar gyfer pob aelod ynddynt. Y Cadoirydcl wrth g-yflwyno y Parch. Mr Rees, Capel Mawr, i sylw a chariad y frawdoliaeth, a ddy- wedai fod yn hyfrydwch mawr ganddo weled y cyf- newidiad gwerthfawr oedd wedi ac yn cymeryd lie yn yr eglwysi oedd heb weinidogion, a bod lie i gredu y bydd y bylchau hyn yn cael eu llenwi yn fuan. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Bryngwran, ar y Llun a'r Mawrth, y 7fed a'r 8fed o Chwefror, 1870. Manaw. THOS. WILLIAMS, Ysg.

ABERTAWE A'R CYLOHOEDD.

FFESTINIOG.