Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

----=='lilt>..'11 Y SER GWIBIOG.

FFRAINGC.

ITALY.

YR AIPHT.

UNDEB CERDDOROL BETHEL, ARFON.

CYFARFOD CHWARTEROL MON.

ABERTAWE A'R CYLOHOEDD.

FFESTINIOG.

News
Cite
Share

FFESTINIOG. CYMDBITHAS Y BEIBLALt. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y Feibl Gymdeithas yn Neuadd y Farch- nad nos Lun, Tachwedd Sfed. Llywyddwyd y cyf- arfod diweddaf gan y Parch. Robert Parry (T. C.). Wedi dechreu trwy ddarllen a gweddio, galwodd y llywydd ar y Parch. Z. Mathers (A.) i anerch y cyf- arfod, yr hwn a wnaeth ychydig o sylwadau yn lied fywiog, ond miniog a phwrpasol dros ben. Wedi hyny, galwyd ar y Parch. William Ambrose (Em- rys), Porthmadog, i gynrychioli y fam-gymdeithas. Hwyrach y dylem gryhwyll mai y Parch. John Mills oedd wedi ei benodi i hyn, ond rywfodd lludd- iwyd ef. Ond beth bynag am y siomedigaeth a gawsom yn y gwr parchedig uchod, gallwn sicrhau darllenwyr y TYST ein bod wedi cael ein boddhau yn y goleuni a roddodd Mr Ambrose i ni ar weithred- iadau y gymdeithas ar y cyfandir, a'r anogaethau effeithiol a gawsom i'w chynorthwyo rhagllaw yn ein cyfraniadau. Y 'TYST' YN EI FFURF NEWYDD.—Pan ddaeth gyntaf i'n Haw, yr oeddem yn myned braidd o'n pwyll, oherwydd ein bod yn methu a chael pin na nodwydd ac ede i sicrhau ei ddalenau ynghyd, er cael gweled beth oedd ynddo. Buasai yn well genym ar y munud hwnw yr hen blygiad, onddaeth- om i ymgymodi ag of yn bur fuan. Bu y cymydog- ion yma yn mesur ac yn pwyso ei wisg allanol, ac yn ei gymharu a newyddiaduron ereill, y rhai sydd gymaint arall eu pris; a da oadd genym ei fod yn dal ei dir yn yr ystyr yma. Wedi hyny, barnwyd ei gynwysiad tufewnol. Yr ydym yn eithaf sicr y saif ar uchelfanau y maes Ilenyddol yn ei erthyglau hefyd ac yr ydym yn foddlawn i'n cymydogion fod yn farnwyr, ond iddynt beidio rhoddi rhagfarn- peidio barnu o flaen gwybodaeth. Cynghorem hwy i ddyfod a gweled cyn ei gondemnio. Diolch i'r perchenogion am beidio codi ei bris, er nad ydyw dimai neu geiniog yn ychwaneg yn yr wythnos yn edrych ond ychydig; ond pan ystyriom amgylch- iadau y gweithiwr sydd yn magu tuad o blant, y mae yn rhaid bod yn ofalus i allu rhanu enill un rhwng wyth neu naw, a bydd gystal gan y rhai hyn gael papur newydd a'r boneddwr penaf. Ond mae rhadlonrwydd y TYST yn eu cyfarfod yn eu ham- gylchiadau isel, a gellir dyweyd gyda phriodoldeb, y mae y tylodion yn cael hanes y byd,' Gobeithio y bydd ei gylchrediad yn gymaint arall, a thrwy hyny gall ei berchenogion gael ychydig o dal am eu gwasanaeth gwerthfawr. Gofalweh chwithau, Mri. Gol., am fod ei gynwysiad y fath ag a baro iechyd meddylioli'w ddarllenwyr.— Dudwy.