Hide Articles List

3 articles on this Page

---_:Æ! 'RHEN' FFARMWR.

News
Cite
Share

_:Æ! 'RHEN' FFARMWR. Mae'r sprydieth sgyrfenu chwedi disgyn arna i 'r fynud yma, a rhag own iddo fo fynd i ffwrdd a ngadel i, dyma fi 'n taro ati hi rhag blaen. Mi fydd hwn yn glamp o lythyr marciwch chi, cadwch le iddo fo, mi fydd yn dal pyrthynas a phyncie 'r dydd, chwedel chithe: pwnc y nos hwrach y dylid ei ahv o, canys am wthredoddy sos a'r twllwch, trais ac anghyfiawncler, y bydd o 'n son, sef achos y tyn antied drien sy'n cael u gothrymu gen y mistred tir a'r stiwardied ar hyd sirodd Cymry "r dyddie hyn, am rfygu votio nol u cydwybode u hunen yn groes i wllys y mistar tir a'r stiward. Mae 'r dyn doniol iawn ene sy gynthoch chi, be ydach chi 'n i alw o— Klisby-ne rwbeth tebig, mae hwnw, ieehidi'w galon o, chwedi deydyd y drefn, yn wych ry- feddol, ar y mater. Mi rydw ine 'h styried bod gen i rite, wel hen ffa-imwr, i siarad tipin ar y mater yma, beth bynag. Wel dwn, fhen frodyr y ffarmwrs, medda i. Mi rydw i 'n falclx o honyn nhw. Mi fydde chi, pobol fawr, sgedig, a gwbodus y trefydd ene, narfer deyd mae'r set o bobl sala'ny bydoedde ni 'r ffarmwrs-y cymren ni 'n towys wth y'n trwyne, gen y mistar tir a'r stiward, i'r fan fyd fynen nhw. Na, na, rhoswch dipin, tyda ni ddim felly bod ag un chwaith. Mi safodd ffarmwrs Cymru at u giddil cystal ag un class o bobl, yn amser y lecsiwn, er hollt fygwthion y mistar a'r stiward, wel rydach chi'n gweld. Mae'n dda iawn gen i weld ych bod chi 'r bobol fawr yma chwedi deffro ati hi i neyd rhwbeth o ddifri er cnogi a chnorthwyo y rhai sy'n diodde, a mi rydw i 'n disgwil, a mae llaw- er yn disgwil, y gneir rhwbeth fo'n werth son am dano, ar ol y cwarfod mawr yn Berystwyth. Ond mi ddylid styried hefyd bod eisio gneyd rhwbeth i'r gothrymwrs yn gystal ag i'r diodd- efwrs. Ond be neir iddyn nhw ? dene'r cwest- iwn. Mi wn i hyn, pe tase nhw'n y Werddon, ac yn chware ono run strancie ag mae nhw'n chware yNghymru, ni fase'r Gwyddel fawr o dro yn rhoid twll bwled trwyddyn nhw; ond nid dene 'r ffordd i'w trin nhw beth bynag. Mae'n dda iawn gen i na ddaru'r Cymro ddim dysgud trie y Gwyddel, a gobeithio rydw i na ddysgith o byth mo hono fo chwaith. Na, na, Gymru anwyl, peidiwch byth ag iwsio'r gwn, beth bynag neloch chi, na gneyd dim arath fotho'n groes i gyfreth y wlad a chyfreth moese da. Mi ddyrllenis yn yr hen lyfr, am un o farn- wrs Isrel pen oedd o nymlid ar ol y Midanieds, oedd wel locustied chwedi nhreithio'r wlad, iddo fo fynd at bobol rhw dre, a'i wladwrs i hun hefyd, a gofyn iddyn nhw roid chydig o fara a dwr iddo fo, a'r chydig sowldiwrs oedd yn i ganllyn o, a ni roe nhwthe na thamed o fara na llwnc o ddwr i'r trienied oedd chwedi blino a dyffygio, wrth ymladd trost u gwlad. O'r gore be'r barnwr, mi dala i ichi pen ddelw i 'n fol chwedi i mi orphen setlo'r pwnc efo'r Midanieds ene. A setlo'r pwnc hwnw naeth o toe y da, ag yn i ol y daeth o; a be naeth o, ond cymryd drain ranialwch, a mi ddysgodd bobol y dre hono a nhw, medde'r hanes. Sut roedd o'n dnyddio'r drain, dwn i ddim, a hwrach na wyddoch chithe ddim, ond mi gafodd pobol Sucoth wbod mi fyddyliwn, mi gawson wers bur bigog beth bynag, a mi roeclden nhw'n i haeddut hi'n rite da; mi naeth i hoi ar u cnawd nhw am beth amser, yn siwr ddigon. Wel rwan, dene sy arno eisio-ydi dysgud gothrymwrs Cymry rwbeth yn debig wel y dysgodd y barnwr hwnw y bobol frwnt rheini yn Isrel—u dysgud nhw a drain; ond peidiwch chi a nghamddyallt i rwan, nid drain naturiol ydw i Tn feddwl, ond drain moesol, canys y mae drain moesol yn gys- tal a drain naturiol i'w cael yn y byd yma, ac y mae rhai pobol na ddysgwch chi byth monyn nhw i byhavio wel y dyle nhw, os na chymrwch chi ddrain atyn nhw. Be fyddyliech chi am gynig gwobor dda am y gan ore i othrymwrs, a'i chraffu hi, a'i theynud, a'i chanu hi trw'r wlad y'mhob man ? Mi ddysgodd Twin o'r Nant, coffa da am dano, lawer o othrymwrs i ddydd o, yn feistred tir, a stiwardied, a pher- sonied hefo'r drain yma, a mi naeth i wersi dreiniog o lawer o les iddyn nhw. Dene ddraenen arath faswn i 'n comendio gneyd deunydd o honi hi-tewch chi a siarad rwan tra bothw i n gluro mhwnc i'r pen; ond rhaid i mi gael rhoid pwt o ragmadrodd yn y fan yma eto. Rydwi n cofio mod i yn Lerpwl, (do, mi fum ine yn Lerpwl.) Wel, pen oeddwn -.4. -W' i yn Lerpwl, ngorff ramser byddwn in sgyrfenu i'r Ramsere, mi alwis i ydrach am ffen ffrynd, Mistar-J. Jones, pyrehenog a phriutiwr Rain- sere roedd rhen ffrynd chwedi cael ei daflud dipin oddiar i echel y bore hwnw gen rw oheb- ydd anstawallt oedd chwedi sgyrfenu yn bur frwnt ato fo, am wrthod gadel i'w waith o myddanos yn Ramsere Yn y man, mi welwn Mistar Jones yn taflud y llythyr brwnt o'i .7 law, gan ddeudyd, "Mi sJeyna i mys ato fo'r munud yma." Mi roedd gyntho fo yn y papur lun bys hir wel hyn = a phen fydde rhw un chwedi i ddigio fo hefo'i fryntwch mi roe i enw fo yn y papur, a mi styne'r bys hir hwnw ato, a mi ro i ewin yn bur ddyfn yn i gnawd o, Wel dyma be fynwn i chi neyd yn y papure Cymraeg bod yg un, ydi rhoid list o enwe'r dioddefwrs yn ddwy golon ar un tu, ag onwe'r gorthrymwrs run fath gwerbyn a'r Hall, ac ystyn bys arnyn nhw, wel hyn Dyma nh-flbw rhownh barcli iddfeflyn nhw. Y Dioddefwrs. i T. P.; W. LI.; j J. J.; D. D.; J N.W.;P.P.&c I I JJ/ao'r llaw ag'ored yn ar- j wyddo ystyn eymhortli sgyd- v.-ch ych pene ar- nyn )j nhw Y GortlifSrymwrs. E. D. O.; W. R. A. G. P. E., &c. i Y bys yn galw sylw o anghymer- a&wyaoth. .L Ond y dylid rhoid yr enwe priodol ar bob un, a chadw'r list i mddanos ymhob papur, am chwe mis o leia. Draenen go bigog fydde hona yn i slyse nhw, a mi nae les idd yn nhw, toes dim dout. Ond wedi 'r cwbwl rhaid i ni gofio a styried bod cyflwr y gorthrymwrs yn llawer mwy truonus na chyflwr y dioddefwrs, er tra nad allwn ni lai na theimlo'n ddig wrthyn nhw am'u trawster, mi ddylen dostirio wrthyn nhw wel dynion yn y syfyllfa fwya enbydus. Ydi, ydi, mae'r hen lyfr yn ystyn i fys arnyn nhw, a pheth ofnadwy iawn ydi bod yn nod i fys i anghymeradwyaeth o. Mae o'n deyd pethe trymion arswydus wrtheu am y gorthrymwrs mewn llwerodd o fane—yn i galw nhw'n fleidd- ied ac yn llewod, a gwystwilod, ac yn son am dori'u danedd nhw, a'u dryllio nhw, a dial cam y rhai y buon nhw yn u gorthrymu, ar u pene nhw. Wth feddwl am y pethe hyn, mi ddyle'n digofent ni atyn nhw, droi'n dostiri trostyn nhw, a dmuno fod iddyn nhw gael u gleuo i weled y perig, a difarau, a dwigio mewn pryd cyn i'r gosb i dal nhw. 'EHEN FFARMWR. i^nrnrvyTfar 'F: 11111'

LLYTHYR LERPWL.

Advertising