Hide Articles List

3 articles on this Page

---_:Æ! 'RHEN' FFARMWR.

LLYTHYR LERPWL.

News
Cite
Share

LLYTHYR LERPWL. BOREU MERCHER. Bu dirprwyaeth bwysig iawn ger bron Mr Forster yn y dref hon ddydd Mercher, wythnos i heddyw, gyda golwg ar agoriad y Prifysgolion. Cyflwyn- wyd y ddirprwyaeth iddo gan Mr W. Rathbone, A. S.; ac wedi i Mr Macrea, a'r Parch. J. Kelly, a Mr Wright ddyweyd en neges, a pba both oedd eu dy- muniad, cafwyd araeth ragorol gan Mr Forster. Dywedai ei fod ef yn cydymdeimlo yn drwyadl a chais y ddirprwaeth gyda golwg ar agoriad y Prif- ysgolion i Ymneillduwyr, a dilcu y prawflwon, y rhai sydd yn awr yn gorfaelu y manteision i Eg- lwyswyr. Ystyriai ef fod y mesur yn awr yn y dwylaw priodol; ac y byddai i'r Weinyddiaeth ei gymeryd o law Mr J. T. Coleridge yn anffafriol i'w lwyddiant. Dangosai yn dda iawn fel y mae yn rhaid i aelod mown tref i fod yn llwyddianus gydag unrhyw fesur feddu hyder y Ty; a bod Syr J. T. Coleridge yn meddu ei ymcldiried Ilawnaf, heblaw ei fod yn un o'r areithwyr goreu a fedd Ty y Cyffredin. Amcan y ddirprwyaeth oedd cael gan y Weinydd- iaeth ei gymeryd i fyny, gan na feiddiai Ty yr Ar- glwyddi ei daflu allan wedi hyny. Sylwai Mr Forster yn briodol iawn mai tri pheth sydd gan y Weinyddiaeth i'w hystyried cyn cymeryd unrhyw fesur i fynu-a ydyw y peth ynddo ei hun yn iawn —a yw y wlad yn addfed iddo-ac a oes gan y Sen- edd amser i'w gymeryd i fyny. Nid oedd dim pet- rusder yn marn y Weinyddiaeth am y ddau both cyntaf ond am yr olaf, fod yr eisteddiad nesaf wedi ei blocio i fyny a gwaith, fel nad oedd fawr o obaith y gallant ymgymoryd a dim ychwanegol. Diolchodd Mr Melly, A.S., i Mr Forster dros y ddirprwyaeth, ac ymadawodd pawb wedi eu cwbl foddhau yn ymddygiad y boneddwr gwir anrhyd- eddus. Bu Mr Rathbone ger bron oi otholwyr yn rhoddi cyfrif o'i oruchwyliaeth nos Iau, yn Hengler's Circus.' Yr oedd yno gynulliad mawr; ac yr oedd ei araeth yn gyfryw nas gallasai beri tramgwydd i neb. Er nad yw yn areithiwr hyawdl, eto rhoddai adroddiad llawn a helaeth mewn dull clir a dyddorol o'r mesurau a fu ger bron y Senedd yr eisteddiad diweddaf, a'r gwaith sydd o'u blaen yr eisteddiad nesaf. Aeth drwyddynt o un i un, a pha fodd yr oedd ef wedi pleidleisio arnynt i gyd. Yr oeckl y dif- rifweh hwnw o'i gwmpas y mae gan Mr Gladstone y medr i'w daflu i'w holl ddilynwyr. Dywedai fod ymchwiliad y Pwyllgor sydd wedi bod yn eistedd i edrych i mewn i lygriad yr etholiadau yn sier o esgor ar y Ballot; a bod y dynoethiadau a wnaed gan Mr Richard o'r gormes a ddioddefir yn Nghym- ru ynhelp mawr tuag at brysuro hyny ocldiamgylch. Yr oedd brwdfrydedd mawr drwy y cjrfarfod oil. Llywyddid gan F. A. Clint, un o arwyr rhyddid yn y dref. Pasiwyd penderfyniad o ymddiried yn Mr Eathbone fel cynrychiolydd, ac o ddiolchgarwch iddo am ymddangos fel hyn ger bron ei etholwyr, am fod hyn yn beth newydd yn Liverpool. Pasiwyd hefyd benderfyniad cryf o ymddiried yn y Wein- yddiaeth bresenol fel uii o'r gwc,.inyddiactli,,tu cryfaf, gonestaf, a galluocaf a fu mewn gwladwriaeth er- ioed. Areithiwyd ar y penderfyniadau gan Meistri T. D. Hornby. J. n. Jeffery, T. Holden, J. Patter- son, Maurice Williams, a G. Melly. Yr oedd y cyf- arfod yn bob peth a ellid ddisgwyl i gyfarfod o'r fath fod. Mae Ehyddfrydwyr Everton Ward yn teimlo yn ddiflas ar ol yr etholiad diweddaf, ac yn benderfynol na chtiff y fath beth ddigwydd eto. Y farn gyffrediii ydyw nad yw y peth yn awr yn y dwylaw priodol, ac y bydd yn rhaid cael chwyldroad trwyadl ar beth- au cyn y gellir enill y dydd. Heblaw fod yn rhaid cael mwy o amser i barotoi, y mae yn rhaid gosod pob adran o'r Ward dan ofal rhyw un a fyn weled fod y bobl yn pleidleisio. Mae Mr Whitley wedi darostwng ei hunan yn fawr yngolwg y Ward ar ol yr etholiad diweddaf. Yr oedd llawer iawn o Jesu- itiaeth yn ei ymddygiadau; ond y mae wedi gorfod galw yn ol y cyhllddiaclall a. ddygodd yn erbyn ein cydwladwr gweithgar Mr n. 0. Evans. Nid oedd yn bosibl fod dim yn fwy bustlaidd a drygionus na'i gyfeiriad at gapel yr Annibynwyr yn Netherfield Road, yn ysgoldy yr hwn yr oedd y Ehyddfrydwyr yn cyfarfod—' We will nut be dictated by the party in tlt (it -ijl(tee,' ineddai gyda sneer; ond fe gaiff e' deimlo fod y party hwnw yn rhy gryf i'w roddi i lawr. Y mae y Toriaid wedi inyned yn annhrafodadwy yn y Cynglxor Trefol wedi gweled y mwyafrif a gawsant. Ond y mae y diwrnod yn dod y gostyngir eu crib. Nid ixythle Toriaeth ydyw hyd yn nod Liverpool i fod byth. Y Sabboth diweddaf, yr oedd pregethau i'r ieu- engctyd yn cael eu traddodi mewn nifer mawr o eg- lwysi a chapeli gan Gymry a Saeson. Mae yr 1 Young Men's Christian Association' yn arfer anfon cais bob blwyddyn at wcinidogion y dref o bob enwad, ar iddynt bregethu i'r ieuengctyd. Gwneir hyny hyd y gellir yr un Sabboth. Buaswn yn disgwyl gweled y Cymry wedi ei gymeryd i fyny yn fwy cyffredinol-a. dylasai fod placard gwahanol i hys- bysbysu y pregethau Cymreig. Oni ellid cael pre- geth ar ryw noson waith yn ystod y gauaf yma i ieuengctyd—neu, yn wir, pe cawsid dwy, un yn mhob pen i'r dref. Pwy gymer hyn i fynu ? Y Sabboth diweddaf, yn ol yr arfer, aeth y maer newydd ac aelodau y Cyngor i Eglwys St. Peter. Yr oedclwn yn synu gweled Ymneillduwyr fel Mr W. Rathbone, A.S., a'i frav, d Mr S. G. Rathbone, ac Annibynwr fel Mr T. B. Job, a Methodus fel Mr W. Williams, yn inyned i'r Eglwys ar y Sabboth i gynffona i'r Maer. Beth y mae Rhyddfryclwyrwedi gael gall. y Maerod Toriaidd fel y mae yn rhaid iddynt fel hyn eu dilyn yn wasaidd. Gymaint yn fwy anrhydeddns oedd ymddygiad Mr Parker, Maer newydd Trallwm, yr hwn, gan ei fod yn Annibynwr, a wrthododd fyned i'r eglwys ond fel arfer a aeth i'w gapel ei hun, i wrando ei weinidog ei liun-Dewi Mon. Anfonwyd dirprwyaeth gref a dylanwadol ato i geisio ganddo fyned i'r Eglwys ond ofer fu y cwbl. Dywedai mai i'w gapel ei hun yr iii, a gwnant hwythauyr un fynont ai ei ddilyn neu beidio. Bravo maer newydd Trallwm. Mae dyn fel yna yn gredyd i Ymneillduaeth, ac yn gredyd iddo ei hun. AB OWAIN.

Advertising