Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
NODI ON ADA.
News
Cite
Share
NODI ON ADA. Waeth i mi ddyweyd wrth ddechreu fy mod yn. byw gyda f' ewyth, yr hwn sydd lien langc rtght hapus, yn byw ar e1 arian yn y pentref bach glan hwn—ei bentref genedigol. Gan ei tod yn cadw morwyn, fy ngorchwyl i yn benaf yw gwneud cartref cysurus iddo ar nawn ddydd el oes. Myfi yw ei amanuensis ef, ac yr wyf wedi dechreu ar y nosweithiau hirion hyn ddar- lIen allan iddo, yn fwyaf neillduol o'r papurau newyddion, gan fod yn well ganddo ddarllen ei eibl mawr a llyfrau crefyddol yn ddistaw a ■^yfyrgar wrtho ei hunan. Ei arfer ydyw dy- weyd, wedi i ddistawrwydd y nos ddechreu teyrnasu yn ein pentref, Wel, dyro heibio dy ^"aith, Ada, a gad i ni weled beth sydd yn y jYSt heddyw,' neu weithiau y Faner a'r Dydd. *emw ei bibell hir, estyna ei draed ar huling aelwyd gynhes vn y parlwr bychan cosey, ^ania ag-yspil a gedwir mewn llestr Chineaidd ar y mantle-piece uwch y tan, caua ei lygaid, a ^chreua bwffio gyda'r boddhad mwyaf. Os, Pa fodd bynag, y bydd f' ewyth' yn flinedig, a'r erthygl a ddarllenir yn faith a lied sych, syrthia gysgu, a byddaf finau yn ail ddechreu ar fy ogwaitli, neu yn ysgrifenu. Gan nad oes genyf lawer iawn o flas ar gwer- yion. mewn papurau newyddion, cymerais i fyny an t5' a'r Cyntaf a'm tarawodd oedd eich erchiad at eich cefnogwyr a'ch derbynwyr. r. 0edd yn flasus iawn darllen fod cynifer o aterers mor rhagorol wedi addaw arlwyo seig- d^V/i0r iachus yn ystod y misoedd duon oerion yioaol. Nid oes amheuaeth na fydd dalenau rnpr^fTTyn 61 newydd yn llawnion o olud ^yliol gyda'r fath restr o ysgrifenwyr rnlfr?!' welaf er ^yny enw "menyw yn mintai, yr hyn sydd, yn ol fy lXlddwl i-ni wnaf fod mor hyf a defnyddio y wlr (jyno^ barn—sydd gryn draw bach. Ond i nS: y cyfwng i fyny, yr wyf yn cynyg fy gwasanaeth 1 chwi, drwy anfon Nodion' Vn c^lw^ ar bethau fyddaf yn ystyried os i .1?1 i langciau yn gystal a merched ac I rei.ntiwch fi a lie yn mysg eich gohebwyr, Hp J3 erbyn eich rhifyn yn ei blygiad y, fy Nodion' cyntaf ar Ymddyqiad aclclas /)d^- Ymddengys fod ilawer yn £ v<s+ i Pe^bau wedi newid yn eu natur yn ac v,aj a u dan oruchwyliaeth yr efengyl, YJ, ■. oes haner cymaint o fanylder yn ofynol Grwir fSe{10^ oec ^an yr ^en oruchwyliaeth. yn nl +° serem°ni a'r cysgodau wedi darfod Vddnl Pet'hau, ond nid yw addoliad cref- cldd olna gwoddeidd-dra mewnlleoedd o addol- oldebT^1 newi<^ yn eu natur. Mae presen- Pan v h yn yr oes 11011 yn gystal a'r oesau difrifT -u611 oruchwyliaeth yn galw am yr un arfer Parc^us> ofn, a gochelgarwch. Nid Wrth vh aiWnaGth 1 oses Aynu ei esgidiau ei hod i (^in yn anialwch Arabia, ac nid am Esau Jas^onMe, y dywedodd y prophwyd canys darfu am danaf; olwr- UVo.n--i ^Wr nalogedig ei wefusau ydwyf fi—fy deb TV a W ant yr Arglwydd.' Na, presenol- i un Q iVa Synyrchodd y fath barchedig ofn' tvn'q j nUnan"g°ndemniad yn y llall. Mae yr bob £ WWl 0dcl pregethwyr yn perthyn i ac oes) Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i dy Dduw.' Yn wync-b hyla, mor anweddaidd. os nad pechadurus ydyw yr arferiad meyvn llawer man yn cia hanwyl wlad ddyfod yn hwyr i'r addoliad, o wrando yn wamal a didaro pan yno, ac o fyned allan oddi yno yn clrystio, gyda'r 'Amen' ar ddiwedd y weddi, fc1 pe yn gadael arwerthfa Cheap ar ol rhoddi heibio werthu am y nosoti. Mae ymddygiad fel hyn yn gwneud f' ewyth' mor afrywiog ar adegau fol y petrusa yn ami fyned i'r capel, gan, meddai, eu bod yn myned allan fel haid o hwyaid trystiog.' Yr oecLd un yn areithio ar Manners yn ddiweddar yn agosi'r pentref yma, ac yr oedd yn dda genyf na Avyddai am fanners llawer o Gymru wrth gymeryd ar- nynt addoli, a myned allan o le addoliad—hwy, y dynion, yn codi eu penau yn swdyn, yn estyn am eu hetiau, ac yn trystio a'u traed—a'r merch- ed hwythau, rhaid i mi addef, yn edrych o'u hamgylch, yn sia,rad a'u gilydd, ac yn edrych yn chwer thin gar. Dylai llawer o wrandawyr Cymru diiolch nad ydynt yn byw yn yr un oes a gwyr Bethsemes. A wna aelodau eglwysi ganiatau i mi aw- grymu iddynt y dymunoldeb o roddi esiampl i'r gwrandawyr o weddeidd-dra, astudrwydd, a difrifwch priodol, yn enwedig ar ddiwedd y moddion, drwy beidio codi eu penau na symud dim cyn clywed y pregetliwr yn y pulprul. Pe gwnai crefyddwyr roddi esia.mpl dda, nid oes amheuaeth na cheid diwygiad buan gyda'n haddoliad yn Nghymru, ac yr ychwanegid at respectability ein cynulleidfaoedd. ADA.
MANTOL Y BEIRDD.
News
Cite
Share
MANTOL Y BEIRDD. Tyclain.-Ni(I yw eich englynion i'r Toriaid yn gywir, nac yn arddangos llawer o athrylith farddol. Y mae genych T i ateb D, yr hyn sydd yn anrnhri- odol— Direol yw y Toriaid.' Fel hyn y buasai yn ei lie,— Y direol Doriaid. Y mae genych P i ate biB, yr hyn sydd yn troseddu y rheol a grybwyllwyd— Yr hen shioliawg benglawg pwl.' Buasai yn ei lie fel hyn,— Y gwegilog benglog baw. Hugh Morris.—Y mae genych rai llinellau rhag- orol i'r Lleuad, ac y mae y lleill yn llawn trwsgl- eiddiweh.— Y Lleuad gron llwyd ei grudd.' Dyna linell dhvs a rheolaidd; ond wele linell ang- helfydd yn ei hymyl-. 'Lleuerog wena'r Lloer geinlwys.' Fel hyn y buasai yn gywir.— Lleuerawg wena y lloer ganaid. Tafwysion.—Y mae eich penillion i afon Tafwys, gan ddued o wallau ag yw dyfroedd yr afon hono. Bwriasoch bob rhyw ysbwrial iddynt, yr hyn na ddylasech ei wneud ar un cyfrif. Dysgwch feddwl a chyfansoddi yn Ian, onide rhaid bwrw eich gwaith gydag ysgarthion y Thames i ddistryw. Dafydd Jones.—Nid yw eich awdl yn worth dim. Y mae eich iaith yn anghywir, eich cynghaneddion yn wallus, a'ch meddyliau yn weiniaid, ac yn ar- ddangos cryn lawer o hurtrwydd. Cofiwch beidio a'n blino gyda y fath ystwff byth eto; oblegid nid oes genym amser i edrych ar y fath sothach. Y Ddalluan.—Y mae eich llygaid yn rhy weiniaid i edrych ar Eryr y Wyddfa, yr hwn sydd yn gallu ehedeg i wyneb haul y nefoedd, ac sydd yn gallu disgyn at ei ysglyfaeth i ddyfnder y ffosydd aflanaf. Rhaid i chwi ddysgu ehedeg wrth liw dydd, ae nid wrth liw nos, cyn y byddweh yn ddigon galluog i roddi yr Eryr dan eich adenydd, er nad yw hyny yn llawer o orchest i hen ddalluanod profiadol. Y lie tebycaf i chwi gael gafael ar yr Eryr, yw yn y lie y byddo mwyaf o furgunod i'w cael: Canys pa le bynag y byddo y gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod.' Hiraethlawn.—Y mae genych rai penillion pryd- ferth yn eich marwnad, ond y mae genych lawer o rai gwaelion. Penill gwael ywhwn:— Mae fy nghyfaill heddyw'n huno, Ar ei ol "rwyf finau'n wylo Llifo mae fy nagrau heilltion, W rth ei gofio gyfaill tirion.' Gallai fod y teimlad hiraethol a ddangoswch yn eich marwnad, yn ddigon pur, ond rhaid i chwi gofio mai nid teimlad i gyd ydyw barddoniaeth. Y mae yn rhaid i chwi ddysgu meddwl yn gystal a theimlo; ac os llwyddwch i gael meddwl cryf, a theimlad dwfn i'ch gwaith, byddweh yn sicr o gynhyrchu barddoniaeth dda. Cofiwch y pethau hyn erbyn y tro nesaf y teimlwch awydd am farwnadu ac ym- drechwch i gyfansoddi yn gryf, ac yn wastad. Gofalwch am wastadrwydd, a pherseinedd yn eich gwaith bob amser. 1 Grwilym Cynon.—Ni thai llinell fel hon ddim byd Carodig yw y gwr Grwnaetliai y tro fel hyn,— Y Nicl yw y llinell lion eto, yn werth dim:- Y gwr doethaf mewn cymdeithas;' Fel hyn y buasai yn iawn,— Y doethaf inevin cymdeithas. Da. chwi Grwilym, dysgweh y rheolan, cyn anfon eich gwaith i ni eto oblegid y mae darllen y fath gynghaneddion rhingclyd, yn ddigon i wylltio pob dyn ac y mae gwelecl y beirdd mor hwyrdrwm yn dysgu y gworsi cyntaf mewn barddoniaeth, yn ddigon i beri i ni ysgrifenu anathema, nwch eu pen- au. Feirdd, agorwcli eich llygaid, dysgwch eich gwersi, cyfansoddwch yn well, a ffraewch lai.
CYFARFOD CENHADOL DOSBARTH…
News
Cite
Share
CYFARFOD CENHADOL DOSBARTH GOELLEAYINOL SIR GAERFYRDDIN. A gynhaliwyd yn Blaenycoed, ar y Mercher a'r Ian, y 3ydd a'r 4ydd o Dachwedd. Llywytldwyd y Gynhadledd gan Mr Davies, y gweinidog. Pender- fynwyd— 1. Fod cylchres y Cyfarfod Chwarterol, yr hon a barotowyd yn Llanybri, i gael ei mabwysiadu. 2. Fod y Cyfarfod Chwarterol nesaf i gael ei gynal yn Bethlehem. Mr Davies, Blaenycoed, i bregethu ar Gyfarfod Gweddi-ei bwysigrwydd,' &c. 3. Dymunwyd ar Mr Thomas, Bwlchnewydd, i barotoi papur erbyn y cyfarfod nesaf i ddangos y biiddiokleb o gael ystadegau eyflawn o'r eglwysi perthynol i'r cyfundeb unwaith yn y flwyddyn, yn nghyda'r amgylchiadau pertliynol i bob eglwys a a fyddo yn taflu goleuni ar ei sefyllfa foesol ac ys- brydol. 4. Ein bod yn mawr lawenhau wrth weled ar- wyddion vr amseran fod y cysylltiad anachaidd sydd rhwng eglwys Dduw a'r llywodraethau gwladol yn debyg yn fuan o gael ei ddileu. Nad ydym yn gweled un rheswm dros ddadgysyll-iad a dadwadd- oliad yr eglwys esgobaethol yn yr Iwerddon, nad ydyw hefyd yn llawn mor rymns dros wneuthur yr unrhyw a'r Eglwys Loegr yn Nghymru. Nad yw y sefyllfa oddefol y mae Cymru hyd yma wedi ei ddangos ddim yn rheswm digonol fod y wlad yn loddlawn i'r sefyllfa bresenol, namyn yn cyn- hydda y rhwymau sydd ar ein seneddwyr i ddwyn ein sefyllfa o dan sylw mor fuan ag y gellir. 5. Fod unrhyw gyfundraeth enwadol neu sect- yddol o addysg, yr hon a gynhelir gan y llywodraeth, yn anghywir o ran egwyddor, acyn anghyfaddas i anghenion y wlad. 6. Ein bod yn mawr lawenhau yn wyneb lledaen. iad cyflym llyfr tonau y Parch. E. Stephen a Mr J. D. Jones, ac yn dymuno galw sylw cyffredinol yr eglwysi ato. 7. Ein bod yn cymeradwyo yr amcan i gynorth- wyo y rhai sydd yn dyoddef yn eu hamgylchiadau, oherwydd eu ffyddlondeb dros eu hegwyddorion fel anghydffurfwyr yn yr etholiad diweddaf. 8. Fod y papur a ddarllenwyd ar y gymanfa dair sirol i gael ei gyhoeddi. Awgrymwyd y priodoldeb o gael trysorfa perth- ynol i'r Cyfarfod Chwarterol, a dymunwyd ar y gweinidogion ymgynghori a'u heglwysi yn ei chylcli erbyn y cyfarfod nesaf yn Bethlehem. Awgrymwyd hefyd y byddai yn briodol iawn i'r lleygwyr ym- drechu bod yn bresenol yn y Gynhadledd. Y GYNHADLEDD BRYDNAWNOL. Llywyddwyd gan y Proffeswr Morgan. Cafwyd areithiau difrifol, gwresog, a dyddorol iawn ar y genhadaeth ynei gwahanolganghenau gan y Parchn. Jones, Abergwili; Jenkins, Cana; Davies, Peniel; Thomas, Bwlchnewydd; Evans, Philadelphia; Lewis, Henllan Mr Williams, Llanelli; a Mr Jones, Pen- ddol. Dechreuwyd y Gynhadledd trwy weddi gan Mr Jones, Ffynonbedr. PEEGETHAU. Am 6, gweddiodd Mr Jones, Penheolgerig, aphre- gethodd Proffeswr Morgan, Caerfyrddin; a Mr Jones, Abergwili. Am 9} dydd Iau, dechreuwyd gan Mr Jenkins, Cana; a phregethodd Mr Williams, Llanybri, ar Barhad mewn gras,' y pwngc penod- ,/edig a Mr Lewis, Henllan. Yna cafwyd cymun- aeb cenhadol, a hyfryd oedd gweled gweinidogion ac aelodau o wahanol enwadau yn amgylcbynu bwrdd yr Arglwydd. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr Evans, Philadelphia; a Mr Davies, Peniel. Dyg- wyd yr elfenau oddiamgylch gan ddiaconiaid yr eglwys, yr hyn oedd yn fwy prydferth ac ysgryth- yrol na'r hen drefn o osod gweinidogion i weithredu yn lie y diaconiaid. Am 2, gweddiodd Mr Williams, Trelech, a phregethodd Mr Rogers, Panteg; a Mr Thomas, Whitland. Am 6, gweddiodd Mr Job (T. C.), Conwil, a phregethodd Mr Davies, Llanybri; a ,nheol,-eri-. Mr Jones, Penheolgerig. Cafwyd cyfarfod rhagorol—da o'i ddechreu i'w ddiwedd.— L.
'YR YSBRYD SYDD YR AWRHOX.'
News
Cite
Share
ensyniadau dynion drwg, o barthed cymeriadau a dybenion gweithrediadau rai o'n dynion mwy- af anrhydeddns. Yr ydym dan demta-siwn i nodi engreifftiau, ond fe allai mai gwell ydyw ymatal. Gyfeillion, gochelwn y dosbarth enllibgar fel y goclielwn nadroedd gwenwynllyd. Os gwran- uawii arnynt, dinystriant ein gweithgarwch crefyddol, gwenwynant ein meddyliau at bob niudiad daionus, lladdant ein parch i'n cyfeill- i°n goreu, a gadawant ni yn ysglyfaetli i ysbryd arulxeugar o bob peth—yr ysbryd mwyaf digysur a all byth feddianti mynwes dyn. Na fydded i ni fod mor barod i gredu pob peth drwg a awgrymir am ddynion ereill. Y Evae yn syndod mor barod ydym i gredu pob clrwg a glywn am bersonau, ac mor anmharod i gredu y da am danynt. Mae yr athrodwr, boed ef yn wisgedig a chadach gwyn neu ddu, yn greadur i'w ochelyd gyda'r un pryder ag a go- chelwn y llew rheibus. Unwaith eto dywedwn, bydded i ni fod yn amheugar o'r dynion hyny na fyddant bytli yn gwcithio en hunain, ond a ydynt bob amser yn drwgliwio ac yn enllibio y rhai hyny ag sydd yn gweithio. DlWYGlWR.