Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

[No title]

"SARAH JACOBS."

News
Cite
Share

"SARAH JACOBS." Gwelaf yn y British Medical Journal' am yr wythnos ddiweddaf, y sylw hwn-I I Ar gais amryw feddygon a boneddigion eraill yn Nghymru, y mae tair nurse y gollir ymddiried ynddynt, o Guy's Hospital, Llundain, ar gael eu hanfon i wylio yr eneth sydd yn ddiweddar wedi achosi cymaint o gywreinrwydd, ac felly unwaith am byth i exposioW twyll, yn mha un y mae wedi cael ei chefnogi am gyhyd o amser." Hawyr bach, beth a ddaw o'r "Gohebydd" os ydyw'r Medical Journal yn gywir, fod y peth ar gael ei exposio unwaith ac am byth ? ar ol yr araeth hyawdl yn nghapel y West End, a'r ddau lythyr medrus, talentog i'r Faner, wedi dyfynu Syr Wm. Hamilton, a'r holl athronwyr i lorio'r meddygon, beth a ddaw o hono os bydd raid i Sarah druan gael tamaid a llymaid neu farw os yw'r nurses, fel y dywed y Journal hwn, yn myned once for all to expose the imposition, in which she has been so long ENCOURAGED. 0 ie, encouraged, fe ddywedantbobmeddyg o honynt yn awr mae'r Go- hebydd oedd yn encouragio, a'i fod yn cael rhan o'r llyfrau. Gwell iddo barotoi ei writing case yn wir, a ffwrdd ac ef i agor y Suez Canal; rhaid iddo wneyd hyny neu ynte myned i lawr a phriodi'r tair nurse, a ffwrdd ac ef i gymeryd lie Brigham Young i'r Salt Lake City. Rhywbeth Gohebydd anwyl yn hytrach nac aros yma i glywed byth a hefyd Y Gohebydd wedi wneyd, fuasai yn well iddo beidio deehreu ysgrifenu ar ferched," &c., a chyn pen deu- fis fe fydd Mr. Watkin Williams wedi rhyddhau yr Eglwys Gymreig am byth, ac wedi gwneyd Gomer ac Adda Jones-un yn ffeirad a'r Hall yn glochydd yr Eglwys Rydd--dau fethiant yr un flwyddyn- nagwell iddo ffoi o lawer.-X.

[No title]

Family Notices

MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA.

I Y FARCHNAD YD.

Y FARCHNAD ANIFEILIAID.

Advertising

EBENEZER, PONTYPOOL.

TYSTEB Y PARCH. E. EVANS,…