Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
Nid yw ein newyddion tramor yr wythnos hon ond ychydig, a lied ddibwys ar y cyfan. Bydd Camlas Suez yn barod i gael ei agor ar yr 17eg o'r mis hwn. Dywedir fo(I Caclben M'Rillup wedi dychwelyd i :Alexandria y 13eg o'r mis di- weddaf, gyda dwy o longau o lynges llywodraeth yr Aipht, y rhai a gymerodd cyn belled ag Ismailia. Dywed fod y gamlas o 24 i 26 o droeclfeddi o ddyfn- der yn y canol oddiyno i Port Said. Y mae paroto- adau yn cael eu gwneud er dyfnhau y gamlas o Is- mailia i Suez, a disgwylir y bydd y rhan hwnw wedi ei derfynu mewn ychydig ddyddiau i ganiatau llestr y Viceroy sydd yn tynu 24 troedfedd o ddwfr i fyned drwodd. Disgwylir y bydd yn barod i longau masnach fyned drwodd yn ddioed. Mae y cefnogwyr yn y Cortes Yspaenaidd o blaid cael y Due o Genoa i'r orsedd yn dal yn galonog o hyd. Credant y llwyddir i'w gael cr gwaetha'r gwrthwynebwyr sydd yn anmhleidiol iddo. Mae dirprwyaeth wedi ei hanfon gan lywodraeth Yspaen i Florence i agor cydymgynghoriad ffurfiol gyda golwg ar apwyntio y Due o Genoa i wisgo y goron. Ond gan fod y Brenhin yn wael, dichon na ddeuir i un cytundeb buan, drwy fod sylw yr holl deulu brenhinol yn cael ei ddwyn ato ef. Dywedir ei fod yn gwella, a disgwylir y bydd wedi cael ei adferu yn hollol yn bur fuan. Mae y newyddion diweddaraf am iechyd Brenhin Itali yn ffafriol i'w adferiad. Mae y ffaith fod y Tywysog Napoleon, yr hwn sydd yn briod a merch Victor Emmanuel, yn aros yn Sanrossore yn profi fod iechyd y brenhin wedi bod yn beryglus iawn. Mae y gwrthryfel yn Dalmatia yn cael ei roddi i lawr yn araf. Mae cymydogaeth wrthryfelgar Zappa wedi taflu eu harfau i lawr. Distrywiwyd amddiffyufa Stanjerich gan y gwrthryfelwyr, wedi iddynt ei meddianu am bythefnos o amser.
"SARAH JACOBS."
News
Cite
Share
"SARAH JACOBS." Gwelaf yn y British Medical Journal' am yr wythnos ddiweddaf, y sylw hwn-I I Ar gais amryw feddygon a boneddigion eraill yn Nghymru, y mae tair nurse y gollir ymddiried ynddynt, o Guy's Hospital, Llundain, ar gael eu hanfon i wylio yr eneth sydd yn ddiweddar wedi achosi cymaint o gywreinrwydd, ac felly unwaith am byth i exposioW twyll, yn mha un y mae wedi cael ei chefnogi am gyhyd o amser." Hawyr bach, beth a ddaw o'r "Gohebydd" os ydyw'r Medical Journal yn gywir, fod y peth ar gael ei exposio unwaith ac am byth ? ar ol yr araeth hyawdl yn nghapel y West End, a'r ddau lythyr medrus, talentog i'r Faner, wedi dyfynu Syr Wm. Hamilton, a'r holl athronwyr i lorio'r meddygon, beth a ddaw o hono os bydd raid i Sarah druan gael tamaid a llymaid neu farw os yw'r nurses, fel y dywed y Journal hwn, yn myned once for all to expose the imposition, in which she has been so long ENCOURAGED. 0 ie, encouraged, fe ddywedantbobmeddyg o honynt yn awr mae'r Go- hebydd oedd yn encouragio, a'i fod yn cael rhan o'r llyfrau. Gwell iddo barotoi ei writing case yn wir, a ffwrdd ac ef i agor y Suez Canal; rhaid iddo wneyd hyny neu ynte myned i lawr a phriodi'r tair nurse, a ffwrdd ac ef i gymeryd lie Brigham Young i'r Salt Lake City. Rhywbeth Gohebydd anwyl yn hytrach nac aros yma i glywed byth a hefyd Y Gohebydd wedi wneyd, fuasai yn well iddo beidio deehreu ysgrifenu ar ferched," &c., a chyn pen deu- fis fe fydd Mr. Watkin Williams wedi rhyddhau yr Eglwys Gymreig am byth, ac wedi gwneyd Gomer ac Adda Jones-un yn ffeirad a'r Hall yn glochydd yr Eglwys Rydd--dau fethiant yr un flwyddyn- nagwell iddo ffoi o lawer.-X.
[No title]
News
Cite
Share
CABLE, GElz ABERTAWE.-Mae y Parch. W. H. Thomas, Fochriw, wedi derbyn galwad o Cadle, ger Abertawe; ac wedi ei hatteb yn gadarnhaol. CAERNARFON. Y GYNHADLEDD YN ABERYSTWYTH.—Cynhaliwyd Cynhadledd bwysig o Ryddfrydwyr ydref yr wyth- nos hon, er apwyntio dirprwywyr i'r Gynhadledd uchod. Gobeithio fod trefydd ereill yn gwneuthur yr un peth, ac y bydd yno gynrychiolwyr, nid yn unig o'r Uefydd a orthrymir, ond o bob lie arall, i ddangos eu cydymdeimlad, ac hefyd eu protest yn erbyn y fath orthrwm ac y mae rhai o'n cydwladwyr yn dioddef oddi tano. Y mae rhai o dirfeddianwyr Arfon wedi edifarhau, a chlywsom fed llythyr a gy- hoeddwyd yn y TYST wedi effeithio yn fawr ar un o honynt, ynghyd a dychryn Oynhadledd Aberys- twyth. Peth pur ddifrifol i dirfeddianwyr, a newydd iawn i rai yn Nghymru, yw exposure fel hyn, oddi wrth rai a ddioddefent trwy'r blynyddoedd heb feiddio cwyno, heb son am ddwrdio a son am en hawliau. Gellir lladd erledigaeth o'r fath yn Nghymru am byth, os cynorthwya pob arda I drwy'r dywysogaeth yr aelodau Cymreig sydd wedi addaw cyfarfod yno, i greu public censure mor losgadwy fel na feiddia yr un tirfeddianwr byth ond hyny i chwa- rae a'r fath fflam. Dewch yno o bob man i gyd- chwythu fflam, nid erledigaeth, ond public censure am erledigaeth, ncs ei gwneuthur saith gwaith poethach nac o'r blaen.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau. GENEDIGAETHAU. Hydref 29ain, priod Mr Thomas Morgan, Brickflat Row, Consett, ar ferch. Tachwedd laf, priod Mr J. Morgan, Puddler's Row, Consett, ar fab. 3ydd, yn 28, Saxon Street, Liverpool, priod Mr W. Jones, ar ferch. 3ydd, yn 51, Ogwen Street, Liverpool, priod Mr Peter Parry, ar fab. 4ydd, yn 11, Sefton Square, High Park Street, Liverpool, priod Mr J. H. Williams, ar ferch. 5ed, yn Upper Hill Street, Liverpool, priod Mr R. Jones, ar fab. 5ed, yn 1, Mount View, Prenton Square, Higher Tranmere, priod Mr John Coberts, ar fab. 8fed, priod Mr Robert Evans, cigydd, Henllan Street, Dinbych, ar ferch. PRIODASAU. Yn nghapel yr Annibynwyr, Llandudno, gan y Parch Evan Owen, Llansantffraid, yn mhresenoldeb y Parch R. Parsy. Cofrestrydd, Mv Lewis D. Williams, General Post Office, Liverpool, 3. Miss Catherine Roberts, ail ferch Mr E. Roberts, Llansantffraid Glan Conwy. Hydref 23ain, yn Eglwys y Plwyf, Wallasey, gan y Parch. T. E. Espin, Mr Robert Evans, Cadben yr Ann Pritchard, o Pwllheli, 2L Miss Ann Davies. 29ain, yn Aberhonddu, Mrs Jones, nain Mrs Jones, Soar, Merthyr; yr oedd yn 100 mlwydd oedmis Mai diweddaf 30ain, yn y Tabeanacl, Caerfyrcldin, gan y Parch Jervis, gweinidog y lie, Mr J. M. Lewis, mab hynaf Mr T. Lewis, Maesdulais fawr, &. Miss A. L. Rees, merch Mr W. Lees, Porthyrhyd, V. newydd, a chwaer Mr S. Rees, o Goleg y Bala. Tachwedd 3ydd, yn nghapel y Trefnyddion Calfin- aidd, Abermaw, gan y Parch. E. Evans, Caernarfon, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. F. Jones, B.A., a'r Parch. D. Davies, D. Roberts Pugh, Ysw., meddyg Machynlleth, a threngholydd Sir Drefaldwyn, & Mrs Evans, Morben isaf, Trefaldwyn. 6ed, yn Salem, Porthmadog, gan y Parch. W. Ambrose, Ann, merch Mr Evan Roberts, Jbforfa bychan, a Mr Griffith Roberts, Clerc. MARWOLAETHAU. Hydref 17eg, Miss Amy Thomas, Pentre-wyn, plwyf Llanstephan, yn 42 oed. Dydd Iau, Hydref 21ain, ymgasglodd tyrfa luosog'o berthynasau a chyfeillion yr ymadawedig i'w hangladd, pryd y darllenwyd ac y gweddiwyd gan y Parch. W. Jenkins, Cydweli, ac y pregethwyd gan y Parchn. D. T. Davies, Llanybri; a D. Evans, Nazareth; a therfynwyd trwy weddi gan y Parch. A. Jenkins, Cana. Blaenorwyd yr angladd gan y Parchn. D. Evans, Nazareth; Jones, Ffywnon Pedr; D. Jones, Heol-geryg A. Jenkins, Cana; W. Jenkins, Cydweli; Jervis, Penygraig; Williams, Capel newydd; a D. T. Davies, Hen Gapel, Llanybri. Claddwyd yr hyn oeddfarwolohoni yn mynwent Llanstephan. Aeth periglor y plwyf trwy y ddefod arferol wrth gladdu. Bydded i engyl y nef wen wylio ei bedd hyd foreu yr adgyfodiad. Tachwedd 5ed, yn 2, Castle View, Garth, Bangor, yn 69 oed, Cadben Owen Hughes.
MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA.
News
Cite
Share
MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA. Medi 6ed, yn Fairhaven, Thomas D. Humphreys, yn 37 mlwydd oed. Aeth i'r America oddeutu chwech wythnos yn ol. Bu am wythnos yn Canada aeth i'r wlad uchod i weled ei frodyr. Ba farw yn nhy ei frawd; ei glefyd oedd y Dysentery. Gadawodd weddw a chwech o blant ar ei ol yn Corris, Meirionydd, Gog- ledd Cymru. 15fed, yn Wallaceville, Pa., o'r Parlys, Theo- philus Lewis, yn 71 mlwydd oed. Ymfudodd o'r wlad hon yn Gorphenaf 1862, o' Twynyffald, yn mhlwyf Bedwellty, Sir Fynwy.
I Y FARCHNAD YD.
News
Cite
Share
Y FARCHNAD YD. LLUNDAIN, DYDD LLUN.—Ychydig o gyflenwad o wenith Seisnig oedd yn y farchnad heddyw, y farch- nad yn farwaidd, galwad araf am fathau cechion a gwynion gyda gostyngiad o Is yn y chwarter. Yr oedd cyflenwad da o wenith tramor yn y farchnad, y prisiau yn ffafriol i'r prynwyr. Cyflenwad gweddol o haidd, yn gwerthu yn farwaidd. Brag yn gwerthu yn araf am y prisiau diweddaf. Dangosiad da o geirch, yn gwerthu am y prisiau blaenorol. Y pys a'r ffa yn gwerthu yn araf heb gyfnewidiad yn y prisiau. Ychydig oedd y fasnach a wnaed gyda y blawd am y prisiau blaenorol. Galwad gweddol am hadau am- aethyddol. LIVERPOOL, DYDD jJfA. WRT:rI.- Y fasnach yn parhau yn farwaidd, y gwenith yn cael ei gynyg am brisiau yn is, ond y prynwyr yn cadw draw. Y grawn Indiaidd yn gwerthu yn sefydlog heb gyfnewidiad yn y prisiau. Yr oedd cynulliad da yn y farchnad heddyw, ond yr oedd galwad araf am y gwenith gyda gostyngiad o 3c i 4c y cant. Blawd Is y baril yn is. Ceirch a blawd ceirch yn sefydlog. Ffa yn ychydig esmwythach i'r prynwyr.
Y FARCHNAD ANIFEILIAID.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y FARCHNAD ANIFEILIAID. LLUNDAIN, DYDD LLUN.—Yr oedd y cynulliad heddyw yn cynwys 3,961 o anifeiliaid, 16,210 o ddefaid ac wyn, 147 o loi, a 125 o foch. Yr oedd g am y mathau gereu am brisiau yn uwch. Prislaa:- anifeiliaid, 3s 6c i 5s 8c, defaid, 3s 4c i 6s 8c, lloi, 3s 4c i 5s 4c, pore, 4s i 6s 4c. LIVERPOOL, DYDD LLUN.—Y cynulliad yn cynwys 3,050 o anifeiliaid, a 11,600:0 ddefaid. Yr oeddycyuull- iad yn llai na'r wythnos ddiweddaf, y prisiau yn agos yr un fath. Yr oedd rhai o'r anifeiliaid o'r mathau goreu a ellid gael. Gweddol ydoedd ansawdd y defaid, galwad araf am danynt o herwydd y prisiau uchel a ofynid am danynt, ond cliriwyd yn dda ar y diwedd Prisiau:—anifeiliaid goreu, ne i 7!c, ail oreu, (5Jc i 7c, gwaelion, 5c i 6c; defaid, 6c i 8jc. MARCHNAD GWLAN. LLUNDAIN, Tach. 8.—Ni chymerodd un eyfnewidiad pellachle yn mhrisiau gwlan trefedigaethol. Gwlan cartrefol yn gwerthu yn fywiog am y llawn brisiau blaenorol. GWER. Town Tallew, 48s 6c y cant; rough fat, 2s 4c yr 8 pwys; Russian candle, 60s 6c y cant; melted stuff, 35s 0c.
Advertising
Advertising
Cite
Share
"Dylanvsad Merch ar Gymdeithas." TRADDODIR DARLITH Ar y testyn uchod yn HEBRON, CLYDACH, Nos Sadwrn, Tachwedd 20fed, 1869, GAN BRYTHONFRYN." Cymerir y gadair am 6!, gan y Parch. E. Oww. Y MERTHYRON POLITICAIDD CYMREIG. Cynhelir cynhadledd yn y Neuadd Ddirwestol, Aber- ystwyth, dydd Mawrth nesaf yr 16eg. Cymerir y gadair am 11, yn y boreu, gan E. M. Richard, Yaw., A.S. Cynhelir cyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr, am 7 o'r gloch. G. Osborne Morgan, Ysw., A.S., yn y gadair CYFARFOD CHWARTEROL DOSBARTH GORLLEWINOL MORGAN WG. /CYNHELIR y cyfarfod uchod yn Bethel, \J Cwmaman, ar y dyddiau Mercher a Iau, Tach- wedd yr 17eg a'r 18fed. Y gynhadledd i ddechreu am 2 o'r gloch y dydd cyntaf. Y moddion cyhoeddus am 6, yn yr hwyr. Yr odfeuon ar y dydd canlynol am 10, 2, a 6. Taer ddymunir presenoldeb gweinidogion Mor- ganwg a sir Gaerfyrddin. JOHN DAVIES, Gweinidog.
EBENEZER, PONTYPOOL.
News
Cite
Share
EBENEZER, PONTYPOOL. Cynhelir cyfarfod sefydliad y Parch. R. Hughes, (diweddar o Adulam, Tredegar), yn y lie uchod ar y Mawrth a Mercher, yr 16eg a'r 17eg o'r mis hwn. Y cyfarfed cyntaf yn dechreu am 7 nos Fawrth, ac am 10, 2 a.7 dydd Mercher. Bydd presenoldeb gweinid- ogion y Cyfundeb yn dderbyniol iawn ar yr achlysur. Dros yr Eglwys, JOHN DAVIES, Ysgrifenydd.
TYSTEB Y PARCH. E. EVANS,…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
TYSTEB Y PARCH. E. EVANS, LLANGOLLEN. Wedi eu cydnabod eisoes 93 16 10 Meistri W. a J. Prichard, Wrexham 110 Mr T. Jones, Schoolmaster, Mancott 0 2 6 „ Hugh Davies, Grocer, Hawarden 0 2 6 Symiau dan 2s 6c 0 7 6 Parch. J. Roberts, Brymbo 0 5 0 Mr Edward Evans, do. 0 5 0 „ John Roberts, do. 0 2 6 „ Seth Roberts, do 0 2 6 „ William Capper, do 0 2 6 David Evans, do. 0 2 6 Miss Catherine Jones, Shop do 0 2 6 Symiau dan 2s 6c 0 17 6 Symiau ychwanegol o Lalldegla,- Mr Robert Jones, Pont'styllod 0 2 6 „ Edward Edwards, Lletty.. 0 2 6 „ Thomas Williams 0 4 0 Symiau dan 2s 6c 0 13 0 Parch. R. M. Jones, Bagillt 0 0 5 0 Mr Isaac Williams, 6, Strand, London 0 6 0 Parch. R. O. Evans, Glanhafren 0 2 6 John Lewis, Corwen 0 3 0 Miss M. J. Owen, Ty'nycelyn do 0 2 6 S.Owen, do do 0 2 6 Symiau dan 2s 6c do 0 4 0 Dr. Pau Jouee 0 2 6