Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Y COLEG NEWYDD YN Y BALA.
News
Cite
Share
Y COLEG NEWYDD YN Y BALA. At Olygwyr y TYST CYMIIEIG. Foneddigion,—Darllenais ysgrif Mr P. M. W. yn y TYST am yr wythnos cyn y ddiweddaf, ac yr oedd teimlad cymysgiyd yn fy meddianu wrth ei darllon. Bydd yn dda genyf ddarllen ysgrifau Mr W. bob amser, gan y byddant yn arddangos craffder ac ym- chwiliad at bob pwno y bydd yn ysgrifenu arno; ond yr oedd yn ddrwg genyf ddarllen ei ysgrif yr wythnos cyn y ddiweddaf. Nid wyf yn credu fod llythyr Mr R. E. W. yn werth y sylw a roes iddo, ac yn enwedig nad oedd yn werth Mr P. M. W. i gymeryd mantais oddiwrtho i enyn y tan o'r newydd yn erbyn y mudiad. Addefa pawb fod camgymer- iad pwysig wedi ei wneud yn y gwahoddiad i'r gyn- hadledd yn Aberystwyth, ond beth enillir wrth guro ar hyny eto? Yr oedd yn handle gref i Mr Lewis a Mr P. M. W. yneu gwrthwynebiad yn Aberystwyth, a gwnaethant iawn ddefnydd o hono, ac yr oeddym yn gallu gwerthfawrogi eu sel; ond wrth godi yr un peth eto i'r gwynt, nis gellir llwyddo ond i gloffi y miidiad,-N-is GELLIR EI LADD. Hyn sydd yn an- urddo ein holl symudiadau cyhoeddus fel enwad,— rhyw Simei o hyd yn melldigo pob mudiad yn ein plith mae un Simei yn ddigon i ni fel enwad heb i neb arall godi i fyny i beri fod dau yn ein plith. Yr wyf yn credu y buasai yn anrhydeddus yn Mr P. M. W. i adael Ilonydd i'r mudiad fyned yn mlaen, neu syrthio yn ei nerth ei hun, wedi y gwrthwyn- ebiad yn Aberystwyth ac yn wir yr oeddwn yn meddwl mai felly yr oedd i fod pan welais Mr W. yn ymgymeryd a'r gorchwyl—yn un o saith-i drefnu y Pwyllgor G-weithiol; ond drwg genyf weled mai nid felly y mae i fod ac y mae yn wir ofidus genyf weled Mr W. yn cymeryd mantais oddiwrth yr hyn a gymerodd le pan yn trefnu y Pwyllgor Gweithiol, i geisio creu rhagfarn yn erbyn arweinwyr y mud- iad. Buasai yn llawer iawn mwy boneddigaidd yn Mr W. i gadw y peth iddo ei hun yn hytrach na dynoethi uurhyw wall yn yr arweinwyr.' Nid oedd genyf fi yn bersonol unrhyw deimlad ffafriol i'r Bala ond yn hytrach i'r gwrthwyneb, hyd nes y clywais rai oedd mewn gwell mantais na mi i wybod yn rhoi y fath gymeradwyaeth i'r lIe ond faint bynag allasai fy ngwrthwynebiad i'r Bala fod, —wedi y penderfynwyd ei gael yn y G ogledd ac yn y Bala,—fy nheimlad wedi hyny oedd mai i'r enwad y byddai y gwarth os na lwyddid i'w gario allan. Os oes rhyw rai eto yn teimlo yn wrthwynebus, da chwi gadewch lonydd i'r rhai sydd yn dewis ei adeiladu. Nid oes neb yn meddwl am geisio cyf- raith i'ch gorfodi i roi dim ato. Yr wyf yn gobeithio y goddefwch chwithau, Mri. Golygwyr, i mi gyfeirio un sylw byr ar y mater hwn atoch chwi. Yr wyf fi bob amser wedi, ac yn teimlo yn selog dros lwyddiant y TYST, a byddai yn ddrwg genyf weled dim yn effeithio er ei aflwydd- iant; ond y mae y gair yn cael ei daenu yn y wlad, ar ol cynhadledd Aberystwyth, mai ar gais Golyg- wyr y TYST y daeth Mr P. M. W. yno i wrthwynebu y mudiad. Yr wyf yn mhell iawn o gredu hyny fy hun yr wyf yn credu eich bod chwi yn llawer iawn uwchlaw hyny, a bod Mr W. yn ormod boneddwr i wneud y fath beth ar gais neb; ond y mae y gair yn cael ei daenu a'i gredu gan lawer. Er mai y ni Gol.' ydych eto y mae eich enwau yn ddigon hysbys i'r wlad, ac nid gormod peth yr wyf yn meddwl fyddai i chwi ddod allan i draethu eich lien eich hun ar y mater a symud ymaith bob amheuaeth oddiar feddwl pawb. Yr eiddoch yn gywir, W. J. PARRY. Bethesda, Tach. laf, 1869. [Y mae i ninau air a'n Gohebydd. Peth hawdd iawn yw taenu' chwedlau, a llawn mor hawdd ydyw cael gan lawer eu creduond pan y gelwir am eu proji y maent yn syrthio i'r llawr fynychaf. Wedi y mynegiad a vnaethom yn ein rhifyn diweddaf—ac y mae yn gywir i'r liytlnjrcn—nid ydym yn golygu yraostwng i wneud sylw o'rchwedlau disail a daenir. Os ydyw ein G-ohebydd parchus yn ein hadnabod (ni Gol.), ac yn adnabod Mr P. M. W" nid oes dim peryg y bydd iddo roddi coel i'r fath wrachiaidd chwedlau.-GOL.1 ]
AT OLYGWYR Y " TYST CYMREIG."
News
Cite
Share
AT OLYGWYR Y TYST CYMREIG." Foneddigion,—Yn y rhifyn cyn y diweddaf o'r TYST, y mae rhywun yn gwneud defnydd o'm ffug- enw, Bardd Aled a chan fy mod wedi arfer yr enw hwnw er's deuddeng mlynedd o leiaf, yn ol deddfau araohelaf a phwysicaf y dduwies Ceridwen, yr wyf yn honi fod genyf gyflawn hawl iddo. Dywedwch da chwi wrth y Bardd Aled newydd hwn am ddewis rhyw enw arall; a hwyrach y goddefa i mi aw- grymu iddo rhyw ffugenw newydd. Os oes ganddo rhyw gysylltiad a glenydd Aled, cymerer dyweder Gwybedyn Aled, Twrch Aled, Brythyll Aled, Dryw Aled, neu os yn fwy dewisol gall ddefnyddio fy enw i wedi ei droi o chwith fel hyn, Drab Aled. Y mae yn llawn ddigon i bob bardd gynal ei feiau ei hun, ac nid wyf yn awyddus i orwedd o dan y gwarth o fod yn gelwyddwr.' Yr eiddoch, heb na llid na malais, Lerpwl. BARDD ALED.
ATHROFA Y GOGLEDD.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
ATHROFA Y GOGLEDD. At Olygwyr y TYST CYMREIG. Foneddigion,—Rhaid i mi eto erfyn arnoch o'ch hynawsedd i roddi lie i mi i ateb llythyr Mr E. Williams, Ysgrifenydd Athrofa y Bala. A chyn myned trwy wahanol ranau ei lythyr o un i un, can- iatewch i mi ddatgan fy edmygedd o'i wroldeb di- rodres, er ei fod yn lied drwm arnaf ar brydiau. Credwyf fod Mr E. W. mor awyddus am ddweyd y gwir, ac mor eiddigeddus dros lwyddiant Annibyn- iaeth, a minau, ac nis gallaf roddi iddo uwch clod na hyny. Yn awr am y llythyr a'i raniadau:— 1. Am fy enw a'm tanysgriiiad, edrycher i report y flwyddyn ddiweddaf, yr hwn sydd yn awr gcr fy mron, ac ar tu dalen seithfed, yn y golofn gyntaf, ar y llaw chwith, o dan y penawd MANCHESTER, pump ar hugain o linellau o'r top, rhwng enwau fy nghyfeillion Ellis Pughe, Esq., a Mrs Davies, Clif- ford Street, gwelir yr hyn y bu Mr W. yn chwilio yn ofer am dano, a hyderaf y bydd hyn o brawf yn derfyn ar yr ymryson yna. Fy seiliau dros ofni na wahoddwyd pawb o'r tanysgrifwyr oeddynt yn (1.) Am nad oeddwn wedi derbyn cylchlythyr fy hun. (2.) Am nad allwn gael allan fod yr eglwys o ba un yr wyf yn aelod wedi derbyn cylchlythyr. (3.) Am yr addefid nad oedd ond 170 o eglwysi a 30 o berson- au unigol wedi eu gwahodd allan o yn agos i 200 o eglwysi a thros 60 o bersonau oedd yn cyfranu y symiau gofynol. (4.) Am nad oedd fawr dros haner y Cynhadleddwyr yn Aberystwyth nac yn danys- grifwyr nac yn gynrychiolwyr eglwysi; a'm bod yn tybied nad oedd y non-electors a ddaethent yno yn llu felly wedi meiddio dyfod heb eu galw. (5.) Am y buasai tynu allan nifer yr interlopers o gyfanrif y gwahoddiadau yn gwneud nifer y cylchlythyrau a anfonwyd at yr eglwysi yn llai o lawer nag yr ym- ddangosai ar y cyntaf. Dyna oeddynt seiliau fy ofn. Yr wyf yn awr yn ymostwng i air sicr Mr E. W., ac yn barod i gredu ei fod wedi anfon at bawb ean belled ag yr oedd efe yn eu gweled, ac mai ei amryfusedd ef yn unig oedd gadael neb allan. 2. Beiir fi am alw y Pwyllgor Cyffredinol newydd yn sham. Ni fwriadwn yr anmharch lleiaf i neb o aelodau y Pwyllgor wrth ei alw felly, oblegid gelw- ais ef hefyd yn addurn yn yr un frawddeg. Cyn- wysai ddynion penaf a mwyaf dylanwadol yr en wad, ac yr oedd yn fy ngolwg i yn addurn ar ryw olwg. Meiddiais ar yr un pryd ei alw yn sham, oblegid nid oedd arno un rhwymedigaeth, ae nid oedd ganddo ddim i'w wneud. Ystyr y gair sham ydyw, peth sydd yn siomi disgwyliad. Gwyr pob un sydd gwedi gwneud rhywbeth gyda mudiadau cyhoeddus mai oferedd fyddai disgwyl dim bron oddiwrth y Pwyllgor Cyffredinol. Ar y Pwyllgor Gweitbiol yr erys y baich, ac wrtbo ef yn unig y disgwylir am gyflawniad yr amcan fyddo mewn golwg. Heblaw hyny, yr oedd etholiad y Pwyllgor yma yn Aberystwyth yn hollol afreolaidd yn ol ffeithiau ac ymresymiad yr Ysgrifenydd. Os cyfarfod o Bwyllgor Cyffredinol y Bala oedd yno, pa ham yr oedd eisiau ail etholiad ? Onid oedd pob un a gyf- ranai y swm penodedig, a phob cynrychiolydd awdurdodedig, yn aelodau eisioes ? Yr oedd genyf reswm dyblyg ynte dros alw y Pwyllgor newydd yn sham, a themtir fi i ddweyd nad oedd y fath ethol- iad yn ddim amgen na farce—hyny yw, a thing ab- surdly deceptive and nonscnsical-peth digrifol dwyll- odrus a gwirionffol. 3. Gwada Mr E. W. yn gryf nad oedd dim an- mhriodoldeb yn y list gyntaf o'r Pwyllgor Gweith- iol a enwyd, ae nad yw fy narluniad i o'r I little game' yn gywir. Yr wyf yn edmygu diniweidrwydd syml yr Ysgrifenydd. Byddai cyhoeddiad o'r list a ddarllenwyd i'r cyfarfod, a'r hon a gondemniwyd ar unwaith gan y cyfarfod, yn well atebiad i Mr W. na dim a allaf fi ysgrifenu. Mewn cynhadledd lie nad oedd dim ond wyth neu naw yn meiddio pleidleisio o du yr opposition, gwrthodwyd hi yn y dull mwyaf unfrydol a phenderfynol. Cyfciria Mr W. at yr hyn a basiodd mewn cyfarfod cyfrinachol ar ol hyny. Nid yw yn rhydd i mi ddweyd yr hyn a gymerodd le yno, ond yn unig hysbysu nad oedd efe yn bre- senol pan gymerodd yr ymddiddan mwyaf pwysig le yno. Gwyr Mr W. o'r goreu, ac y mae yn cyf- addef hyny mewn geiriau amhwys, fod y pender- fyniad gwreiddiol a ddarparwyd yn nghwt y list wrthodedig yn rhoddi awdurdod i'r Pwyllgor Gweithiol hwnw i brynu y tir. Pe caniateisid i'r penderfyniad hwnw basio fel yr oedd ar y cyntaf, a phe cawsid allan yn mhen rhyw dymhor wedi hyny fod prynwyr a gwerthwyr y tir yn dal cysylltiad agos iawn a'u gilydd, a fuasai arweinwyr y mudiad yn debyg o enill cymeradwyaeth ac ymddiriedaeth y wlad am y fath weithred ? Mae barn gwlad ar bynciau fel hyn yn haeddu sylw, a dylid ymogelu rhag yr achos lleiaf o ddrwgdybiaeth. Nid dychym- yg ydyw rhagflaenu drwg trwy atal yr hyn sydd yn arwain yn anocheladwy iddo. 4. Nid oes gan yr Ysgrifenydd hawl i newidrheol, nac i'w hesbonio yn groes i'w hystyr gramadegol. Buasai scrutiny yn Aberystwyth yn gyru allan agos i haner y cynulliad, er eu bod wedi eu gwahodd yn swyddogol; ac yr oedd undeb a brwdfrydedd cyfar- fod o'r fath yn wenclid yn hytrach na nerth i'r achos. 5. Gobeithia Mr W. y cyfrana yr eglwysi yn haelionus at y Coleg newydd, er na chawsant hwy laisyn y byd yn y penderfyniad o'i godi. Amser a ddengys. Nid yr un peth ydyw yr anturiaeth hon a chynal y Coleg presenol. Barna Ilawer o ddynion mwyaf deallus a dylanwadol yr enwad na ddylid gwario cymaint ar goed a cherig pan y mae cvf- newidiadau mor bwysig yn ein sefyllfa gymdeith- asol gerllaw. Yr wyf fi, gan hyny, dros gael cynhadledd gyffrodinol o'r holl enwad cyn symud cam yn mhellach. Gwn fy mod yn hyn yn groes fy marn i Mr Thomas, Liverpool, yr hwn a ysgrifen- odd yn wresog yn y TYST diweddaf dros gyfyngu yr achos i bleidleiswyr y Bala. Credwyf nad allant hwy eu hunain byth godi coleg heb gymhorth y rhai sydd oddiallan, ac nid wyf yn meddwl y byddai yn deg disgwyl cymaint wrth rai nad oedd ganddynt lais yn y byd ar y mater. Yr wyf yn gweled lluaws mawr yn cyfranu yn ol eu gallu yn rheolaidd at y Coleg ac heb bleidlais, ac nid cyfiawnder a hwynt ydyw gwrthod rhoddi cyfle iddynt i ddatgan eu barn. At wasanaeth yr enwad y bwriedir y Coleg, ■—anrhydedd i'r enwad fydd llwyddiant yr amean, a disgrace i'r enwad fydd iddo droi yn failure. Oni ddylid, ynte, ymgynghori a'r holl enwad hyd y gellir cyn ymgymeryd a'r anturiaeth ? Nid wyf yn beio cychwynwyr y mudiad am gyf- yngu Cynhadledd Aberystwyth, gan mai un ohir- iedig o'r Bala ydoedd; ond yr wyf yn eu beio am fod mor esgeulus gyda'r cylchlythyrau, am gynyg erioed ei galw yn Gynhadledd Gyffredinol, am basio ynddi benderfyniadau terfynol, am ethol Pwyllgor newydd ar wahan oddiwrth yr un presenol, ac yn enwedig am gynyg ethol Pwyllgor Gweithiol o dan y fath amgylchiadau. Nid quibbles a technicalities ydyw condemnio gweithrediadau croes i bob trefn, gwrthwynebol i bob syniad o briodoldeb, heb eu sylfaenu ar reswm na pbrofiad. Pa fodd y gellir cywiro y camgymeriadau hyn, a rhoddi cychwyniad teg a hwylus i'r mudiad ? Galwer yn nghyd gynhadledd gyffredinol o'r holl enwad. Gosoder o'i blaen y penderfyniadau a basiwyd gan Bwyllgor y Bala, fel y cyfryw, a myner wybod ei barn ar bob cwestiwn ar wahan:— 1. A fyddai yn ddoeth ar yr adeg bresenol godi Colegdy newydd at wasanaeth Athrofa. y Gogledd ? 2. A fyddai yn briodol gwario swm o wyth neu ddeng mil o bunau ar adeiliad o'r fath yn ngwyneb y cyfnewidiadau pwysig sydd yn ymyl P 3. Ai y Bala yw y lie mwyaf manteisiol i Goleg duwinyddol o'r fath ag sydd yn angenrheidiol i bregethwyr Cymru, ar wahan oddiwrth bob addysg gyffredinol a ellir gael mewn manau eraill ? Pa beth bynag a gytunir arno, bydded i ni oil gydweithredu yn galonog i gario yr amcan allan. Fel y dywedais yn Aberystwyth, dywedaf eto, can gynted ag y deallaf fod yr enwad o blaid eodi adeilad yn y Bala, er mor groes i'm barn bersonol y dichonhyny fod, ymroddaf o lwyrfryd calon i wneud fy ngoreu drosto. Beth bynag ydyw barn y cyhoedd am danaf, ac am animus y llythyr a ysgrifenais, ys- tyriaf fy hun yn ormod o ddyn i gymeryd fy llusgo na'm gyru gan neb oedd yn Aberystwyth, na neb sydd yn y Bala, nac yn Liverpool ychwaith. 6. Mae Mr E. W. wedi gadael allan yr amod ar ba un y cydsyniais i'm henw fod ar y Pwyllgor Gweithiol, sef fod i hwnw gael ei wneud yn hollol rydd oddiwrth Bwyllgor presenol y Bala. Yr wyf eisioes wedi dangos y dyryswch chaosaidd yr aeth- pwyd iddo. Wrth gydsynio i wneud i fynu list newydd o'r Executive, nid oeddwn yn bwriadu ei gwneud ynddim amgen narecommendation i'r Pwyll- gor Cyffredinol. Felly y saif yn awr, ac felly y saif eto hyd nes y ceir cyfarfod cyffredinol. Nid oedd y dwsin a gyfarfyddodd yn y Capel Seisnig wedi yr oedfa yn competent i ethol Pwyllgor Gweithiol, na swyddogion ychwaith, a byddai meddwl i'r cyfryw weithredu fel pe byddent wedi eu hethol yn rheol- aidd yn gwneud confusion ivorse confounded. Drwg genyf fy mod trwy ddadansoddi llythyr Mr R. E. W. wedi colli cymeradwyaeth Mr E. W.; ond efallai y deuwn i ddeall ein gilydd yn well wedi i'r awyr glirio tipyn. Yr unig amcan sydd genyf mewn golwg ydyw gwasanaethu yr enwad yn hy- trach na phlaid, a thynu achos y Coleg o'r dyryswch i ba un y taflwyd ef gan frwdfrydedd direol i ryw- beth tebyg i drefn a rhecleidd-dra. Yr eiddoch yn gywir, P. MosTYN WILLIAMS.
DECHREU DA.
News
Cite
Share
DECHREU DA. At Olygwyr y TYST CYMEEIG. Foneddigion,—Trwy eich cenad mae genym air o gysur i lawer. Wedi ein apeliad at Eglwysi Anni- bynol Cymru y dydd arall drwy y TYST, ar ran Trysorfa'r Gweddwon, y mae amryw wedi danfon cyfraniadau go lew yn wir, a da iawn genym weled yr enwad lluosog a pharchus ag oedd dipyn ar ol yn ei gyfraniadau at y sefydliad teilwng hwn yn deffro, Yn hytrach na chymeryd gormod o eofndra ar eich caredigrwydd, Mri. Gol,, goddefer i mi grybwyll am haelioni a charedigrwydd parodol y Parch. S. Evans, Hebron, ger St. Clears, a'r Eglwysi dan ei ofal, yn
[No title]
News
Cite
Share
[Nid ydym yn gyfrifol am svniadau ein Gohebwyr; ac nid yw eu cyhoeddiad" yn ein oolofnau yn-ddigon i brofi em bod yn eu cymmeradwyo. Nis gallwa ell can allan heb gael oil, cyhuddo 0 geisio cyxyngu arryddid