Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y COLEG NEWYDD YN Y BALA.

News
Cite
Share

Y COLEG NEWYDD YN Y BALA. At Olygwyr y TYST CYMIIEIG. Foneddigion,—Darllenais ysgrif Mr P. M. W. yn y TYST am yr wythnos cyn y ddiweddaf, ac yr oedd teimlad cymysgiyd yn fy meddianu wrth ei darllon. Bydd yn dda genyf ddarllen ysgrifau Mr W. bob amser, gan y byddant yn arddangos craffder ac ym- chwiliad at bob pwno y bydd yn ysgrifenu arno; ond yr oedd yn ddrwg genyf ddarllen ei ysgrif yr wythnos cyn y ddiweddaf. Nid wyf yn credu fod llythyr Mr R. E. W. yn werth y sylw a roes iddo, ac yn enwedig nad oedd yn werth Mr P. M. W. i gymeryd mantais oddiwrtho i enyn y tan o'r newydd yn erbyn y mudiad. Addefa pawb fod camgymer- iad pwysig wedi ei wneud yn y gwahoddiad i'r gyn- hadledd yn Aberystwyth, ond beth enillir wrth guro ar hyny eto? Yr oedd yn handle gref i Mr Lewis a Mr P. M. W. yneu gwrthwynebiad yn Aberystwyth, a gwnaethant iawn ddefnydd o hono, ac yr oeddym yn gallu gwerthfawrogi eu sel; ond wrth godi yr un peth eto i'r gwynt, nis gellir llwyddo ond i gloffi y miidiad,-N-is GELLIR EI LADD. Hyn sydd yn an- urddo ein holl symudiadau cyhoeddus fel enwad,— rhyw Simei o hyd yn melldigo pob mudiad yn ein plith mae un Simei yn ddigon i ni fel enwad heb i neb arall godi i fyny i beri fod dau yn ein plith. Yr wyf yn credu y buasai yn anrhydeddus yn Mr P. M. W. i adael Ilonydd i'r mudiad fyned yn mlaen, neu syrthio yn ei nerth ei hun, wedi y gwrthwyn- ebiad yn Aberystwyth ac yn wir yr oeddwn yn meddwl mai felly yr oedd i fod pan welais Mr W. yn ymgymeryd a'r gorchwyl—yn un o saith-i drefnu y Pwyllgor G-weithiol; ond drwg genyf weled mai nid felly y mae i fod ac y mae yn wir ofidus genyf weled Mr W. yn cymeryd mantais oddiwrth yr hyn a gymerodd le pan yn trefnu y Pwyllgor Gweithiol, i geisio creu rhagfarn yn erbyn arweinwyr y mud- iad. Buasai yn llawer iawn mwy boneddigaidd yn Mr W. i gadw y peth iddo ei hun yn hytrach na dynoethi uurhyw wall yn yr arweinwyr.' Nid oedd genyf fi yn bersonol unrhyw deimlad ffafriol i'r Bala ond yn hytrach i'r gwrthwyneb, hyd nes y clywais rai oedd mewn gwell mantais na mi i wybod yn rhoi y fath gymeradwyaeth i'r lIe ond faint bynag allasai fy ngwrthwynebiad i'r Bala fod, —wedi y penderfynwyd ei gael yn y G ogledd ac yn y Bala,—fy nheimlad wedi hyny oedd mai i'r enwad y byddai y gwarth os na lwyddid i'w gario allan. Os oes rhyw rai eto yn teimlo yn wrthwynebus, da chwi gadewch lonydd i'r rhai sydd yn dewis ei adeiladu. Nid oes neb yn meddwl am geisio cyf- raith i'ch gorfodi i roi dim ato. Yr wyf yn gobeithio y goddefwch chwithau, Mri. Golygwyr, i mi gyfeirio un sylw byr ar y mater hwn atoch chwi. Yr wyf fi bob amser wedi, ac yn teimlo yn selog dros lwyddiant y TYST, a byddai yn ddrwg genyf weled dim yn effeithio er ei aflwydd- iant; ond y mae y gair yn cael ei daenu yn y wlad, ar ol cynhadledd Aberystwyth, mai ar gais Golyg- wyr y TYST y daeth Mr P. M. W. yno i wrthwynebu y mudiad. Yr wyf yn mhell iawn o gredu hyny fy hun yr wyf yn credu eich bod chwi yn llawer iawn uwchlaw hyny, a bod Mr W. yn ormod boneddwr i wneud y fath beth ar gais neb; ond y mae y gair yn cael ei daenu a'i gredu gan lawer. Er mai y ni Gol.' ydych eto y mae eich enwau yn ddigon hysbys i'r wlad, ac nid gormod peth yr wyf yn meddwl fyddai i chwi ddod allan i draethu eich lien eich hun ar y mater a symud ymaith bob amheuaeth oddiar feddwl pawb. Yr eiddoch yn gywir, W. J. PARRY. Bethesda, Tach. laf, 1869. [Y mae i ninau air a'n Gohebydd. Peth hawdd iawn yw taenu' chwedlau, a llawn mor hawdd ydyw cael gan lawer eu creduond pan y gelwir am eu proji y maent yn syrthio i'r llawr fynychaf. Wedi y mynegiad a vnaethom yn ein rhifyn diweddaf—ac y mae yn gywir i'r liytlnjrcn—nid ydym yn golygu yraostwng i wneud sylw o'rchwedlau disail a daenir. Os ydyw ein G-ohebydd parchus yn ein hadnabod (ni Gol.), ac yn adnabod Mr P. M. W" nid oes dim peryg y bydd iddo roddi coel i'r fath wrachiaidd chwedlau.-GOL.1 ]

AT OLYGWYR Y " TYST CYMREIG."

ATHROFA Y GOGLEDD.

DECHREU DA.

[No title]