Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
- AT AWDTJRDO'R I TYST.)
News
Cite
Share
AT AWDTJRDO'R I TYST.) Fonddigions, Rydach chwi chwedi poeni llawer arna i o dro i dro, drwy anwon ata i hefo hwn a'r llall, i geisio gen i sgyrfenu rhwbeth i'r TYST, ac yn y dwaetha, mi wela'ch bod chi 'coeddi ar goedd gwlad a thre mod i chwedi addo gneyd. Ddewis i ddim pellach na hwrach y sgyrfenwn i rw bwt ne ddau, a hyny i ydrachgawn i lonydd gynthoch chi. Mae narw o beth na cha hen gryadur wel fi lonydd bellach. Mi ydawn i lonydd i bawb pe cawn i lonydd gen bawb. Mae arnoch chi eisio i mi sgyrfenu, mae arna ine eisio gwbod pwy sy dalu. Ydach chi'n disgwil i mi sgyrfenu ar y mwyd ffun i chi, tybed P A blaw hyny, on does gynthoch chi list cyd a'r ffordd fawr o enwe rhai i sgyrfenu i chi; a mi ddyliwn i bydd raid i chi gael seet o bapur gimint a llenllian fawr y Postol Peder i brintio'r TYST arni hi i gael digon o le i gyn-wys yr hollt wystwilod, a'r pedwar cyrn- olion, a'r sgrublied, a'r mlusgied rheini o sgyrfen- wrs, bod ag un, a gadel llonydd i mi. A mi rydach chi'n addo y gna i sgyrfenu yn ffarddull gwreiddiol ffun. Be ydach chi'n feddwl wrth hyny tybed ? Ai meddwl i mi sgyrfenu ar y pechod gwreiddiol rydach chi P Na, tydw i ddim mor benwan a hyny, beth bynag. Mae llywerodd o rai callach a mwy sgedig na fi chwedi bod yn sgyrfenu ar hwnw o bryd i bryd, ac medde'r darllenwrs mawr yma wrtha i, y mae nhw i gyd chwedi gadel y pwne yn yr un fan yn inion ag y gydawodd Adda fo, pen oedd o'n ga- del gardd Eden, ac ono y ceith o fod o ran dim agyr- fena i arno fo. A mi rydach chi'n cymryd y'ch cenad i ddeyd hefyd y gna i sgyrfenu ar byncie'r dydd. Be ydi rheini ? Be wyr hen wr wel fl., ynghanol y wlad, am byncie'r dydd ? Os oes gen y dydd byncie hefyd, sgyrfenwch y'ch hinen arnyn nhw. Os mynwch chi, mi sgyrfena i ar rw bwnc drawo yn y mhen i, os sgyrfena i hefyd. Y gwir yw, rydw i chwedi mynd yn hen, a rhy garbwl a thrwsgwl, i sgyrfenu dim ar bwnc yn y byd. Y fath gnewidiad sy arna i ac ar y byd er pan oeddvra i narfer sgyrfenu i'r hen Amsere es talwm. Mae pum gaia ar higen chwedi mynd trost y mhen i er hyny, ac y mae o chwedi mynd yn llawer gwynach a gwan- ach erbyn hyn, er na leiciwn i neb arall ddeyd hyny chwaith; ond mae o'n ddigon gwir er hyny. Y mae ffen ddarllenwrs i yn ramsere, lawer iawn o honyn nhw, chwedi mynd a madel o'r byd yma, a chen- hedleth newydd o ddarllenwrs, na wydda nhw ddim byd am dana, chwedi codi ar 'u hoi nhw,—lywerodd o honyn nhw heb i geni i'r byd pen oeddwn i yn scriblo i'r A-msere. Mi roeddwn i'n gallud gneyd yn birion hefo'r hen ddarllenwrs. Pobol simpil, ddyniwed, wel fi ffun, oedde nhw. Ond y mae'r genhedleth yma'n bobol gall a gwbodus trost ben, a wna ddim ond ysgwyd 'u pene mewn doethineb uwch ben fysgrifeniade i a math. Y mae gen i, er hyny, amal un o ffen gweillion gynt yn aros yma ac acw eto, a hwrach y bydd yn birion ganddyn nhw gwar- fod a fi eto er mwyn yr amser gynt-y rhen amser gynt; ac yn 'u mysg nhw, dene'r hen Bio Nono o Rufen; y mae naw byw cath yn rhen gryadur hwnw. Mae o'n gwbod am dana i'n reit da: mi sgyrfenis i amal lythyr ato fo ystalwm, a mi rois lawer cyngor da iddo fo taswn i nes er hyny, wrandawe fo ddim arna i; a mi rydw i'n oael ar ddallt i fod ynte, wel fine, yn mynd yn wrionach fel mae o'n mynd yn hynach. Ond wel y dwedis i o'r blaen, y fath gnewidiade sy chwedi cymryd lie yn y byd yma er ramser hwnw! Ni faswn i na Pio Nono byth yn credu y cowsen fyw i weld y pethe mawr a rhyfedd sy chwedi digwydd yn Ewrop, tase rywun yn deyd wrtho ni tua'r adeg hono. Ond mae pethe rheini yn ffeithio yn bur ewahanol arno ni'n dau. Mae Pio'n crio, a mine'n canu, wrth feddwl am danyn nhw. A mi hoffwn i i mi ag ynte gael byw nes y gwelo ni'r Babeth chwedi marw'n gelen, a mi nawn ine farnad iddi hi, a mi gae Pio 'i chanu hi i gael oeniog oddiwrthi hi. Dene ddigon tro yma. RiIEN FFARSCWB.
--_---!LLYTHYR Y MEUDWY.
News
Cite
Share
LLYTHYR Y MEUDWY. (O'N MEUDWYDY RHWNG BRYNIAU GARTH MADRYN.) Mae gwellten, er ysgafned ydyw, yn ddigon i ddynodi y cyfeiryd yn mha un y rhed y dwfr; a'r un modd bwt o lythyr a ymddangosodd yn y Welsh- man, bythefnos yn ol, ac wrth ei gynffon yr enw I Cai-di,' ac yn cyfeirio at y mudiad ar droed er cy- northwyo yr erlidiedigion yn Nehau a Gogledd Cymru oblegid beiddiaw pleidleisio yn yr etholiad diweddaf yn groes i ewyllys eu meistri tiroedd. Os Cardi a ysgrifenodd y llythyryn dan sylw, yr ydym yn tosturio dros y tad a'i cenhedlodd a'r fam a gaf- odd y boen a'r drafferth o esgor ar ei fath. Buasai yn ddigon o gosb i fleiddast i fwrw ei fath, wedi ei genedlu gan hyena. Nid vmysiaroecicl, ond yr hyn sydd o'r tu fewn i fochyn sydd gan ysgrifenwr y pwt llythyr yma. Fe osodwyd ymysgaroedd tosturi o'r tu mewn i greadur rhesymol ar y oyntaf, ond y maent wedi dirywio i—(fe wyr y darllenydd yr enw roddir ar y dirywiad)—yn mherson y Cardi cry- bwylledig. Dechreua ei lythyr trwy gyhoeddi yr hyn, ysywaeth, nid yw wir, sef fod 60,000 o bunau i gael eu casglu yn mhlith ffarmwyr tlodion Cymru er mwyn cynorthwyo y cyfryw o ddeiliaid y meistri tiroedd a ddygwyddasant bleidleisio yn erbyn eu dewis ddynion hwy yr hydref blwyddyn i'r diwedd- af. Gwyn fyd na fuasai yr anwiredd hwn yn wir- ionedd: a gwyn fyd na chawsai Cardi a'i fath y fraint o gyfranu yn helaeth tuag at wneud i fyny y symyn haelionus yma. A chwedi hyn awgryma Cardi fod y Farth. Henry Richard A.S. wedi gwneud oymwynaa fawr a'r tirfeistri trwy gymhell eu deil- iaid i wneud casgliad mor ogoneddus, gan y oyf- iawnheir hwynt i godi rhenti pobl sydd yn medru cyfranu cymaint o arian at angenrheidiau eu brodyr gorthrymedig. Os nad cythreul-waith digymhar ydyw cyhoeddi awgrym o'r fath, mae yn aros i Cardi i roddi i ni esponiad mwy eglur ar y pwnc cythreul- ig. Ai un o olynwyr yr apostolion ydyw Cardi? A ydyw efe yn un G baderwyr huriedig yr eglwys sefydledig yn Ngheredigion P Duw helpo yr ychydig (ac nid oes yn bosibl eu bod yn :rhy ychydig) sydd yn gorfod neu yn dewis gwrando ar y blaidd-gi hyenaidd hwn yn darllen y gorchymyn—' Car dy gymydog fel ti dy hun.' Fel y canlyn yr ysgrifena cyfaill amryw-ddawn o Aberystwyth attom yr wythnos bresenol mewn per- thynas i sefyllfa erlidiedigion Sir Aberteifl, Mae achos yr erledigion yn wir druenus, gan fod cynifer o honynt am ddim ond atteb cydwybod trwy voto yn groes i'r meistri tiroedd, yn gorfod gadael eu fferm- ydd cysurus, ac yn awr wedi myned i fyw i dy bach." Mae rhai o'r dynion hyn ar ddechreu, ac eraill ar hanner magu eu plant: ond ar law eu gorthrymwyr yr oedd gallu—a hwythau heb neb i'w cysuro," a gallaf ddywedyd fel y gwr doeth,' ac mi a welais ddagrau y rhai gorthrymedig. Yn awr os oes gan arian rywbeth i'w wneud, yn awr am dani hi. Mae llawer iawn yn dweud eu bod yn cydym- deimlo-ond os gellir casglu—a chael casgliad da, byddai yn grand o beth helpu tipyn arnynt. A chalon y weddw fydd Ion ac a gan." Mae ofn y gynadledd sydd i gael ei chynnal yn Aberystwyth dydd Mawrth nesaf o flaen llygaid holl dirfeddianwyr ao offeiriaid Toryaidd y Dywysog- aeth, a mwy o ofn easgliad haelionus ar ran y gorth- rymedigion na hyny. 4 Arian da wrandewir.' Nid yw gweinidogion yr Ymneillduwyr yn arfer preg- ethu politics ar y Sabboth, ond bydd yn eithaf apos- tolaidd i bob genau eyhoeddus y Sul nesaf i bregethu un bregeth o leiaf oddiar eiriau a geir wedi eu hys- grifenu amryw ganrifoedd yn ol gan lago yn yr ail benod o'i lythyr at y I deuddeg llwyth oedd ar was- gar,' ao yn y bymtheg adnod a'r un ganlynol iddi yn y benod hono. Beverendiaid anwyl o bob enw yn Nghymru, maddeuwch i ni am ddewis testyn i chwi am unwaith. Dyn ardderchog ydoedd yr apostol Iago, a dywedai ei feddwl yn ddidderbyn-wyneb iawn. Nid ofnai neb dynion. Un peth ar y tro, ddarllenwyr anwyl. Cyfarfod Aberystwyth ydyw i fod brif bwnc 0 y diwraodau nesaf. Yr un peth hwn a wnawn ni yr wythnos hon a'r nesaf, sef pleidio achos gwroniaid a mer- thyron etholiad 1868. Gobeithio, yn mysg amryw bethau eraill, y cydunir yn eu cylch yn Aberyst- wyth-y penderfynir gwneud casgliad ar ran y gorthrymedigion ar un Sul trwy hyd a lied y Dy- wysogaeth. Bydd hyn yn offerynol i yru current o electricity dros yr holl wlad. Mae yn rhaid i bob casgliad tuag at bob achos arall roddille i'r casgliad cenedlaethol hwn ar y diwrnod y penodir i'w wneud. Yr ydym yn sicr na fydd un casgliad arall mewn perigl o fod un hatling yn llai oherwydd gwneud hwn. Tlodion ydym ni, yr hen Gymry, o ran meddianau bydol, mae'n wir, ond nid oes dim angen i ni fod yn dlodion mewn edmygedd o wraniaid a merthyron, a diolchgarwch iddynt am ddyoddef yn ein lie ao am- ddiffyn ein hetifeddiaeth. Yr ydym, fel cenedl, wedi arfer edmygu pregeth- wyr, siaradwyr, ysgrifenwyr, beirdd ao hyd yn od rygymwyr, ond nid ydym mewn un modd wedi bod yn rhy hael ar ein h edmygedd o wroniaid a merthyr- on. Y nhwy sydd wedi gadael i ni etifeddiaeth deg,' ac o'u plegyd hwy y mae' ein llinynau ni wedi syrthio mewn llefydd hyfryd.' Nid oes obaith am genedl 800 a esgeulusa ddysgu i'w phlant wron-add- oliaeth. Yr ydym ni, y Oymry, yn euog o ddiystyru gorchestion, a gadael yn ddigolofn feddau ein gwr- oniaid. Rhyw ffrit o I gi byw' a ddyrchafwn ni cyn claddu a ohwedi claddu ein 'llewod meirwon.' Rhad yw siarad, a digost y geiriau mwyaf detholedig, ond drudion ebyrth arwyr pob gwlad. Mae un aberth yn werth llwyth pedwar ceffyl o eiriau. Yn wnt yn ami, ao yn aithaf priodol hefyd, yr ant heibie eiriau, end gweithredoedd o aberth-onid ydynt hwy yn barhaol fel bryniau a mynyddoedd hen Walia ? Yn awr am dani hi, chwi' areithwyr hyawdl' ae yr adroddai y papyrau yn hydref 1868 bod eich geiriau a myn'd ynddynt, a'ch bod yn medru gwe/r- eiddio yr etholwyr yn ngwahanol ranau y wlad, yr ydym yn atolygu amoch i wneud defnydd yr un mor hyawdl, yr un mor nerthol, a'r un mor wefreiddiol o'ch offer llafar ar y Sul appwyntiedig i wneud casgliad ar gyfer y gorthrymedigion sydd wedi cael eu troi allan o'u ffermau am wneud eich cais chwi, 800 ufuddhau i Dduw a chydwybod yn hytrach nag i'w meistri tiroedd. Cofied pawb ofyniad yr hen Grynwr gynt-pa faint wyt ti yn deimlo-yn dy boced, pan ddel dydd y casgliad. Bibl i bawb o bobl y byd' medd y Bardd o Nantglyn, a beef i bawb o bobl y byd' medd John Bull—gwr caredig iawn, fel y gwyr pawb, os nad yw yn enwog am ei farddoniaeth. Calenig dda i'r political martyrs meddwn ni, o waelod ein calon, a dyweded pawb o bobl Cymru a'r byd, os clyw, Amen.
[No title]
News
Cite
Share
Tbaethxwd An FLYNYDDOEDD Cyntaf Cbistiokoq- aeth, gan E. do Pressense, D.D. Wedi ei gyf- ieithu gan Annie Harwood. Mae y duwinydd Ffrengig hwn yn dra adna- byddus bellach fel awdwr y llyfr I iesu Grist: Ei Amserau, ei Fywyd, a'i Waith.' Cynwysai hwnw yr atebiad goreu a gaed eto i 4 Fywyd Iesu' gan Renan, a sefydlodd gymeriad ei awdwr ar unwaith fel dyn o feddwl craff, o ddysgeidiaeth uchel, ac o dduwiolfrydedd diamheuol. Ysgrifenwyd y llyfr dan sylw er mwyn gwrthwynebu hawliau uwch- raddol y Babaeth ar un llaw, a rhyddid dibendraw Anffyddiaeth ar y llaw arall. Tra yn oydnabod dy- lanwad yabryd ymchwilgar yr oes, myn efe edrych yn ol ar yr adeg symlaf a phuraf yn hanes yr Eglwys, sef adeg planiad oyntaf Cristionogaeth yn oes yr Apostolion; ac o'r safle hwnw y mae yn edrych yn mlaen at yr amser pan y bydd y cysyllt- iad anachaidd sydd rhwng yr Eglwys a'r Wladwr- iaeth wedi ei dori, a'r Eglwys wedi ei hadferu eto i rywbeth cyffelyb i'w phurdeb eyntefig. Rhenir y llyfr i dair rhan. Cymer y oyntaf yr adran o ddydd y Pentecost hyd y Cyngor yn Jeru- salem yr ail, o'r amser hwnw hyd farwolaeth yr Apostol Paul; a'r trydydd hyd farwolaeth loan. Mae yr oes apostolaidd fel hyn yn cael ei dosranu rhwng Pedr, Paul, ac loan. Yn y gyntaf, medd ef, yr elfen Ddwyfol a amlygir benaf. Yn yr ail a'r drydedd gwelir mwy o'r elfen ddynol, er ei bod bob amser yn oael ei rheoli a'i phuro gan y Ddwyfol.