Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y GOFADAIL AITFEDD CALEDFRYN.

LLITII GvVYNN YAUGHAN".

EIN HESGOBIQN.

HWNT^AC YMA YN YR AMERICA.

News
Cite
Share

addysg y wlacl hon. Aethum. yn ol oddiyma i bregethu i Utica nos Lun, ac oddiyno cychwyn- ais yn foreu i Holland Patent, ac wedi pregethu yn oedia. y boreu aethum yn syth tua'r Gogledd i Turin i edrych ani fv nghefnder. Cefais lon'd y capel o bobl yno. Dechreuwyd yr oedfa. gan y Parch. Mr Isaacs, T.C. (brodor o Gwvddel- wern, a mab yn nghyfraith Mr Robert Roberts, Tranmere). Ar y diwedd dyina lu a'm had- waenai yn dod yn mlaen—teulu Lewisiaid o'r Cloddiau, ger y Bala, oedd yma fwyaf. Gwel- ais yma hen GaIfin iachus fu am dymhor yn nhy ei fodryb Mrs Thomas Cadwaladr,Bala, sef Mr John Jones, Cwmpenaner. Parha yn bleid- iwr eiddgar i'w ffydd. Cefais olwg ar Y BLACK FORREST. Dywedir fod y goedwig hon rhwng pedwar ugain a chan milldir o hyd, a rhwng triugain a phedwar ugain milldir o led. Clywais Hwfa -pan yn darlithio yn Llundain Mehefin diweddaf ar Goron Bywyd,' yn dyweyd y buasai, yn caru gweled natur yn ei harutliredd lie nad oedd Haw dyn -wedi bod yn cyfnowid dim, ac y bu- asai wrth ei fodd yn gweled y Llew yn noethi ei ddanedd yn yr anialwch. Wei, pe deuai am da-ith i'r America rhoddwn bob eyfarwyddyd iddo gael ei ollwng'i'r Goedwig Ddu lie y cai weled amryw o Eirth y rhai a ddeuent gydag ef yn finteioedd yr amser yma ar y flwyddyn i hel mafon duon ar hyd ochr y Black River, a gallai weled ambell Lewpart, a faint a fynai o Punthers ffyrnig. Yn sicr y 1-iite goliN, fltwr- eddog ar y goedwig hon. Buasai yn dda, genyf n -?,D gael mwy o amser i fyned i'w chyffiniau, ac i bysgota i .'rllyiioeddcylcliyiiol. Ymaith a fi yn foreu i Gymanfa Remsen. Caed oedfaon hwyl- iog yma-perffaith Gymreig. Taniai Mr Ro- berts ei gynulleidfa trwy ddyblu y gan ac ysgwyd ei fraich gref i gadw yr amser. Dran- oeth y boreu dyma y Parch. D. Jones, Hermon, a Mr Lewis, o Lanelli, yn dod i mewn gyda y Parch. Gwesyn Jones. Wedi y gynhadledd y boreu caed oedfa y prydnawn er mwyn cael cyfle i glywed y gwr dyeithr o'r Hen Wlad ac arogl Cymru ar ei wefusau. Pregethodd Mr Jones er o dan anfantais fawr wecli lhtddedu gan y daith yn hynod bert a bywiog. f I'w harhau. )