Hide Articles List

3 articles on this Page

--__-----_---; NEWYRTII ZACHRY…

LLONG-LWYTH RHYFEDD.

News
Cite
Share

LLONG-LWYTH RHYFEDD. Mae llawer math o Iwytlii llongau yn gadael afonLerpwly naill wythnos ar ol y llall. Byddai rhestr o'r gwahanol nwyddau mor anghydnaws ag ydoedd y sign fythgofiadwyhono a ddarllenid yn ami gan Caledfryn (coffa da am dano), lieyr oedd bacon a brushes, penwaig a Thestamentau, &c. wedi eu taflu blith draphlith a'u gilydd. Ond o bob llwyth a gludwyd ymaith erioed, credwn na bu yr un mwy rhyfedd na'r llwyth a ddygwyd ymaitli yn yr Hibernian, perthynol i'r Montreal Co., ddydd Iau diweddaf. Pegofynid iddi ar ei mordaith i ba le y mae yn myned, a beth sydd ganddi ar ei bwrjd, byddai raid iddi ateb—Ehwym i St. Lawrence, gyda llwyth o blant amddifaid.' Ymddengys fad: Miss Rye, yr hon sydd wedi cyssegru ei bywyd at wella amgylchiadau gwa- hanol ddosbarthiadau cymdeithas yn y wlad hon, trwy eu symud i < wlad sydd well i fyw,' er m wedi cymeryd yn ei phen i symud niter o bla-nt I amddifaid o'r trefydd mawrion yma i ryw sef- ydliad yn Nghanada. Amlygodd ei bwriad i fwrdd y Guardians yn Lerpwl, y rhai a gasgl- asant ynghyd rhyw haner cant o enethod o'r ysgolion rhad. Casglodd hithau ei hun o Lun- dain, Wolverhampton, a threfydd ereill, chweeh ar hugain o blant ereill, heblaw rhai mown oed. Erbyn casglu y cyfan at eu gilydd, yr oedd ganddi dan ei gofal bedwar ugain a phymtheg o ymfudwyr, pedwar ar bymtheg wedi tyfu i fyny, ac un ar bymtheg a thriugain o blant rhwng saith ac un ar ddeg oed. Bu pobl Ler- pwl yn hynod o gymwynasgar gyda'u cyfran hwy. Darparwyd cist fechan yn llawn o ddi- llad clyd ar gyfer pob un. Talwyd eu passage money, sef wyth punt y pen, yn llawn, a gofal- wyd am eu cysur yn mhob modd. Golygfa effeithiol ydyw yr ymadawiad di- weddaf a chyfeillion ar fwrdd llong—yr ysgwyd dwylaw caredig, y wylo clagrau oynhes, y .cofion a'r dymuniadau fyrdl, a chyhwfan cadachau ac anfon cusanau gyda'r gwynt. Scenes i'w cofio byth ydyw y rhai hyny. Ond, yr oedd rhyw- beth mwy tarawiadol, rhywbeth mwy treiddiol i ddyfnder calon, rhywbeth mwy eang i fyfyr- dod dyn yn yr olygfa ddystaw, semi, ar fwrdd yr Hibernian. Nid oedd yma na mam na thad, na brawd na chwaer, nac ewythr na modryb, na chefnder na chyfnither i ganu ffarwel ac i ddymuno daioni i'r pethau bach diniweid. Nid oedd dim rhwymau rhyngddynt a'r hen fyd i'w tori, ac ni wyddent ddim oil am y byd yr oedd- ynt.yn gwyneba arno. Pob un a bun fawr yn un llaw, a llyfr pictiwrs yn y Haw arall-ym- ddangosent mor ddedwydd a phe buasent yn Mharadwys ytylwythion teg. Yr oedd hyd yn nod Jack Tar yn teimlo drostynt-ymaflai ynddynt yn dyner wrth eu trosglwyddo i'r llong, peidiai a rhegu tra yr oeddynt yn ei glyw, chwarddai gyda hwynt yn eu difyrion. Yn wir, edrychai pawb arnynt gyda llygad o ddsturi o'r cadben i lawr i'r cabin boy. Bwriedir Cadw y pethau bach mewn sefydliad pwrpasol hyd nes y byddant yn bymtheg oed, pan y gadewir iddynt fyned allan i wasanaeth. neu gael eu mabwysiadu mewn teuluoedd, neu i ymgymeryd a rhyw orchwyl penodol. Pan y cyrhaeddant y ddeunawfed llwydd o'u hoedran, byddant yn rhydd i wneud fel y mynont. Pwy na ddymunai iddynt bob lhvyddiant! Y mae y byd mawr llydan o'u blaenau. Bendith arnynt, meddwn ni. Bydded i dad yr amddi- faid ofalu am danynt, fel y gallont yn mhen blynyddau eto i dd'od edrych o ben pinacl sef- yllfa llawer uwch ar yr adeg ddieithr hono pan y daethant gyda'r Hibernian o Lerpwl. Dymunwn i Miss Bye hefyd bob llwyddiant yn ei gwaith hunan-ymwadol. Nid yw hi yn disgwyl nac yn gofalu am ddim elw ineivn aur nac arian. Bydded iddi dderbyn taledigaeth llawer uwch, yn yr ymwybyddiaeth ei bod wedi dyrchafu bywydau o dlodi a gwarth i ddefnydd- ioldeb ac urddas, ac wedi cadw eneidiau bychain yn bur a dilwgrutrwy roddi digon o Ie a digon o awyr iach iddynt dyfu yn ei ganol.

HWNT^AC YMA YN YR AMERICA.