Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

HWNT AC YMA YN YR AMERICA.-

News
Cite
Share

HWNT AC YMA YN YR AMERICA. Yn union ar fy nglaniad yn New York cefais lythyr oddiwrth y Parch, R. Gwesyn Jones yn fy llongyfarch ac yn fy ngwahodd dros y frawdoliaeth yn Oneida i'w Oymanfa. Addewais fyned. Yr oedd arnaf awydd mawr i weled Utica a'r amgylch- oedd, He yr oedd amryw o weinidogion a adwaenwn, a llu o berthynasau a chydnabyddion i mi a'r wraig. Felly cychwynais yn foreu dydd Llun, Medi 13eg— diwrnod Seiat Fawr Cymanfa Liverpool a Birken- head, am yr hon y meddyliwn lawer. Yr oeddwn yn myned trwy Rochester pan yr elai llu a adwaen- wn i gapel Grove Street, ac yr oeddwn yn ceisio dyfalu pwy oedd yn siarad, a theimlwn awydd cryf i wybod beth a ddywedid. Yr oeddwn yn pasio y sefydliad Cymreig Saron pan y deuid allan o'r Seiat. Er fy mod filoedd o filldiroedd oddiwrth gapel Grove Street teimlwn ryw brudd-der yn myned droswyf pan y daeth adeg terfynu un o'r cyfarfodydd mwyaf hyfryd yn nglyn a'r Gymanfa. Ceisiwn ddychmygu fy mod yn clywed Ilais treiddiol hwn, a sylwadau coeth a miniog y Hall, ond nid oedd ond pwff, py, pw, yr agerbeiriant yn fy nghlustiau o hyd a jerc- Z, iadau anmherseiniol y cerbyd yn effeithio ar fy nerves, A chyn myned yn mhellach, gofynaf yn myw llygad y TYST, Paham na fuaset ti yn rhoi rhagor o hanes y Gymanfa eleni ? Ni waeth i mi heb ddisgwyl yn awr am yr atebiad. Yn mlaen yr wyf yn cael fy nghludo, ac yr wyf yn fuan YN NGOLWG UN O'B LLYNOEDD MAWRION. Rhwng agen yn un o'r coedwigoedd gwelwn gronfa fawr o ddwfr, gryn dipyn mwy na Mor y Bala,' ac wedi myned ryw filldir neu ddwy yn bellach dyma olygfa ardderchog yn ymagor—y Llyn Erie, Edr- ychwn yn mlaen ac yn mlaen ac ni welwn ni ddim ond' y mor croew' o hyd, a llongau bychain a mawrion arno. Gwahana hwn rhwng yr Unol Dal- aethau a Canada. Fel yr oeddym yn nesu at Buffalo ymgulhai y Llyn a gwelem dir Canada yn eithaf eglur. Ar y dde i ni, aethom heibio i filoedd o erwau o dir, a hen fonion coed ar hyd-ddynt, a chanoedd o goed uchel wedi eu Ilwyr risglo yn disgwyl am ystorm gryfach na'u gilydd i'w taflu i lawr neu dan i'w llosgi. Gwir ddarlun o lawer aelod diffrwyth yn Eglwys Dduw-y mae yno, ond nid oes na dail na ffrwyth arno, ond crina i dan. Pan ar fin y nos dyma y cyhoeddwr eras ei lais yn ein rhybuddio ein bod yn ymyl Buffalo, a deuai un gwr ystwyth-dafod heibio i gynyg tocyn i ni gael Bus i'n elude i fan i gael llety yn y ddinas. Gwrthodasom y cynyg. Aethom allan i'r dref heb adnabod neb ynddi, na gwybod dim am ei threfniadau. Croch waeddai rhyw ddwsin o ddynion gwyddelig beth bynag os nad dieflig eu golwg arnom i ddilyn eu eyfarwyldyd hwy i fyned i'r Hotel yma. Aethum heibio iddynt oil, a chanlynais rhyw hen gyd-doithiwr tew a thai, a thybais fod hwnw am roi pob hyfforddiant i ni ochel y sharpers, ond wedi i ni fyned rhyw haner milldir yn mlaen dywedai yn sych dros ben ei ysgwydd, I guess I'll leave you now,' ac yn mlaen ag ef. Yn wir yr oeddwn yn barod i roi nodwydd teiliwr ar ben fy ffon a rhoi 'Needle charge' iddo. On I ymaith yr aethum ar hyd llwybr Rhagluniaeth nes I y daethom i'r Courier House, yn agos i'r station lie yr oedd y tren yn myned at y Niagara Falls.' Cawsom letty ardderchog yno. Wrth gyfeirio i'r orsaf boreu dranoeth gwelwn fy nghyfaill y Parch. Sebastian Jones, Newark, (gynt o Castellnedd,) a chan ein bod yn myned ein dau i Gymanfa Oneida cawsom gwmniaeth ein gilydd. Aethum rhvw ddwy filldir ar hugain o'n llwybr er mwyn cu,d golwg ar Y 'NIAGARA FALLS.' Yr oeddwn wedi darllen a chlywed am y Rhaia!r hwn er yn blentyn fel yr edrychwn ar y munudau hyn yn gysegredig iawn—teimlwn fy mod yn min cael golwg ar un o brif ryfeddodau y byd. Disgyn- asom o'r tren, a gwrthodasom gymeryd ein cario mewn un math o gerbyd, er mwyn i ni gael edrych yn hamddenol o'n deutu ac arbed y doleri. Dymq, ni wrth ochr y lie. Myned yn ddistaw, ddistaw Edrych ar y llif dwfn gwastad yn ymdywallt yn ddirybudd ar amrantiad llygad dros ymyl serth y graig gant a thriugain a phedair o droedfeddi i'r dyfnder islaw, gan droi o wyrdd claerwyrdd i droch- ion claerwyn oddiwrth :yr hwn y codai tarth ac ar ymyl isaf yr hwn yr oedd llatheni o enfys deg, chwythai y gwynt heibio i ni gan gario y tarth yn wlaw distaw i ochr Canada. Wedi ychydig o ddwy3 sylwi, troisom at ein gilydd a dywedasom ein bod yn- union yr un deimlad a'r Parch. J. Thomas, Liver- pool, am addoli y Niagara. Yr oedd yn amhvg i ni nad oeddym wedi gweled yr olygfa yn ei llawn a,r- ucheledd, felly penderfynasom fyned DROSODD I CANADA. Talasom bum. cent ar hugain bob un, a ff wrd-d a ni dros y Suspension Bridge. Teimlwn wedi croesi fel pe buaswn wedi dychwelyd i fy hen gartref, ond yr oedd fy mrawd Jones yn hytrach yn shy a deallais cyn hir ei fod ef wedi cymeryd llw i beidio gwneud dim mwy dros y Frenhines a dyna y dirgelwch. Ffwrdd a ni ar hyd ymyl yr afon fawreddog gan basio dan y gawod a ddisgynai o'r cwmwl tarth, a safasom ac eisteddasom drachefn i gael llawn olwg ar y Rhaiadr ofnadwy. O'r ochr yma o ddigon y mae yr olygfa mwyaf mawreddog i'w chael. Edrych, dal i edrych, a theimlem fod y Rhaiadr hwn yn gorpholiad o holl ryfeddodau. y byd—dyna yr hardd a'r swynol, y gwyrdd a'r gwyn, yr erchyll a'r ofnad- wy, y cryf a'r taranllyd o flaen ein llygaid. Yr oeddym yn barod i ddyweyd gyda Sigourney: I Flow on for ever, in thy glorious robe Of terror and beauty. Yea, flow on, Unfathomed and resistless. God hath set His rainbow on thy forehead, and the cloud Mantled around thy feet, And he doth give Thy voice of thunder power to speak of Him Eternallybidding the lip of man Keep silence, and upon the altar pour Incense of awe-struck praise.' Ychydig a gawsom weled o Canada, ond yn yr ychydig gwelsom ddigon i ddangos ei bod yn wlad braf iawn, a'r preswylwyr yn hynod o loyal i'r fam- wlad. Ymaith a ni fel plant wedi bod yn ymdroi yn lie myned i'r ysgol mewn pryd, ao anfonasom delegram y byddem yn Utica rhwng deg ac un ar ddeg y noson hono, a chyrhaeddasom yn agos i'r adeg. Cwrddwyd a ni yn y station gan y Parch. R. Gwesyn Jones a'i anwyl briod a'u mhab, a Cadben Griffiths ein llettywr caredig, a dau o fechgyn Bir- kenhead (teiliwr oedd un bid sicr) Joseph a John Edwards, ac amryw eraill. Aethom i'n llety a chawsom y croesaw mwyaf. Cysgasom yn dawel a chodasom yn weddol foreu. Pan oeddwn ar frec- wast dyma fy nghefnder i mewn, nid y General Thomas, ond un a fu yn ymladd yn ddewr fel hwnw. Cefais adroddiad byr o'i helynt ac addewais fyned rhyw haner can milldir o idiyrna i edrych am dano. Holo! dyna lais cryf bywiog, treiddiol wrth y.drws —Pwy ydyw ? YR HYBABCH MORRIS ROBERTS. Ysgydwyd llaw yn galonog fel y medr gwyr Meirion Bydd yn dda gan ganoedd wybod ei fod yn edrych yn gampus, ac yn ddigon ieuengaidd a gwrol ei feddwl i gycbwyn am daith eto i Gymru. Aethum allan gydag ef i weled ychydig ar y dref a chyfeill- ion, wedi hyny aethom i'r oedfa. Y mae y ddwy eglwys oedd yn y dref wedi ymuno, a phenderfynir codi addoldy newydd mewn safle fanteisiol iawn. Ymgynullid heddyw yn yr hen addoldy oedd gan eglwys barchus y Parch. James Griffiths-adeilad coed helaeth iawn ond pur drwm i siarad yncldo. Yr oedd y lie yn llawn yn y boreu, ond yr oedd yn orlawn am ddau. Edrychais oddeutu-yr oeddwn yn adnabod degau yma. Dyna fy ewythr William Williams o'r Gloig-dyna fy hen gyfaill Gwynedd- fardd (Mr T. B. Morris)—wele acw Philos o'r Cwm' a'i briod hoff-dacw Griffith Jones, gynt o Tranmere, a'i fab-dacw eto Mrs Roberts, merch yr hen Lewis Thomas, Ty'n-y-pren, ger y Bala. Bobl anwyl, nis gallaf byth eu nodi i gyd. Rhai o'r Bala a Llan- uwchllyn ydynt bron i gyd, ambell i un o Arfon, ac ychydig eraill o Faldwyn. Ie, yn wir, dyma weddw Tegai. Da oedd genyf ddeall er ei bod wedi cwrdd a llawer o dreialon chwerw ei bod mewn bywoliaeth gysurus. Meddyliais na chawn ymadael o byrth y capel gan gynifer o hen gydnabyddion a pherthyn- asau oeddynt yn ysgwyd llaw a mi. Ni welais neb yn dlawd yma, ond deallais fod y rhan fwyaf er nad yn gyfoethog yn gysurus eu hamgylchiadau. Wrth fyned a dod gyda chyfeillion cefais gyfle i weled y rhan fwyaf ar y dref. Hoffais hi yn fawr. Tref ag oddeutu deng mil ar hugain o drigolion, lan, a bon- eddigaidd ydyw. Nid wyf yn gwybod i mi weled yn ami ei harddach. Dyma esgobaeth Gwesyn. Pittsburgh. H. E. THOMAS. (I'w barhau.)

UNDEB CYNULLEIDFAOL CYMKEIGr.

CYFARFODYDD CYSTADLEUOL AR…

-..-_--------------------:-…