Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
[No title]
[Nid ydym yn gyfrifo! am syniadn e-"n G -a° yW eu diad yn em ?o.ofau )'n dqü allanheb g'Rel ein eu cymmeradwvo. Nis srallwm p;i xrT? n cyhuddo o geisio cyfynguar ^asg.-YGoLYawrB.]
AT OLYGWYT Y I TYST CYMREIG.'
AT OLYGWYT Y I TYST CYMREIG.' Foneddigion. "Gwelr.is yn y TYST am Hydref 15, flylw byr garan W. Williams, Aberdar, ar air o'm llith ar FvilOhaethau Eglwysig sir Ffliat. Cred- wyf v dwn osod i lawr yma y paragraph y cyf- eiria y -yfaill ato, fel y gallo y darllenydd weled ei amca-i:— 'Hynod wahanol ydyw y drefn a ordeiniodd Crist er cynhaliaeth ei weinidogion i'r hon a arferir gan yr Eglwys Sefydledig. Yn ol un, y mae y gwein- idog i gael ei gynal trwy rym cariad yr eglwys, eithr yn ol y llall y mae yn cael ei gynal trwy rym cyfraith y tir; yn ol y naill efe a ddylai gael ei gynal gan gredinwyr, eithr yn ol y Hall efe a gyn- helir gan Babyddion, Undodiaid, Anilyddiaid, a'r afradloniaid mwyaf diras; yn ol un efe a ddylai gael ei gynal gan y rhai a gyfranent o'u heiddo eu hunain, eithr yn ol y llall y mae y Wladwriaeth wedi pleidleisio eiddo eraiil i'w gynal. Yn ol y naill dylai yr hvn oil a offrymir tuag at ei gynhal- iaeth gael eu rhoddi yn wirfoddol, ond yn ol y llall fe'u telir dan arswyd atafaeliad,' Dyna ddyfyniad cywir o'n hymadrodd yn yr ys- grif y cyfeirir ati, a chredwn fod yr ystyr a'r amcan a berthyn iddo yn eglur. Gellir meddwl fod Mr W. yn elyn anghymodadwy i ormes ac anghyfiawndBr gwladwriaethoi ac eglwysig. Gellir tybied ei fod o'r farn fod y drefn a arferir yn yr Eglwys Sefydl- edig er cynhaliaeth ei gweinidogion yn hollol an- Ysgrythyrol, afresymol, a gwaradwyddus. Diau, gan hyny, yr addefa yn rhwydd fod gorfodi Eglwys- wyr ac Ymneillduwyr, Protestaniaid a Phabyddion, Trindodiaid ac Undodiaid, Presbyteriaid ac Anni- byniaid, Anffyddiaid a'r Afradloniaid mwyaf diras, i gynal offeiriaid yr Eglwys Sefydledig yn ein gwlad yn Annghristionogol, anegwyddorol, anwlad- garol gorthrymus, a niweidiol. A gwel y darllen- ydd mai prif nod y paragraph dyfynedig ydyw dysgu y pwnc pwysic yna, ac nid arwain i unrhyw ddadl ar Undodiaeth, &c. Yn wir gall pob dyn pwyllog, diragfarn, a gonest weled nad wyf wedi bod mor anlwcus' wrth enwi Pabyddion, Undod- iaid, ar yr un rhestr, nac yn wrthwynebol i mi fy hun, nae ychwaith yn euog o dybied fod pawb yn anffyddwyr ac yn afradloniaid diras am eu bod o gydwybod yn wahanol i mi yn eu golygiadau cref- yddol. Gwelir yn eglur nad amcenais ddangos teb- ygolrwydd yr Undodiaid i'r Pabyddion, nac anheb- ygolrwydd y Trindodiaid iddynt; am hyny nid oes eisiau i mi dreio eto' ar y pwnc yna gan na ddech- reuais arno o gwbl. Yn wir, Mr W., gellir meddwl fod rhywbeth wedi gorchuddio eich llygaid chwi nes y tybiwch fod pethau lie nad ydynt. Tyner ymaith y gorchudd fel y gweloch bethau fel y maent. Ac na thybiwch y beiddiaf olygu yr Undodiaid yn mysg gwahanol bleidiau uniawngred ein gwlad, er fod iddynt ryddid i farn bersonol, a hawl deg i gydradd- oldeb crefyddol ar yr egwyddor wirfoddol fel pleid- iau eraill. Nid awgrymais fod yr Undodiaid yn arfer unrhyw drais na gorfodaeth er cynhaliaeth eu gweinidogion, ond dangos a wnaethum fod "yr Eg- lwys Sefydledig yn arfer hyny er cael cynhaliaeth. i'r offeiriaid. Gwn hanes y Pabyddion a'm henwad fy hun i fesur lied helaeth, a phwy bynag a fu euog o erlid yr Undodiaid nid wyf yn cymeradwyo hyny. Bu yr enwogion Luther a ChalfLn yn perthyn i'r Eglwys Babaidd, ond daethant allan o'i chanol. Gwyddent yn dda am athrawiaeth y Drindod, yr hon a bregethai Crist i'r apostolion, &c. Gwelir na ddywedais nad yw yr Undodiaid yn woithwyr mor egniol yn ac allan o senedd-dy Prydain a rhyw enwad arall o blaid diwygiadau yr oes. Tra yn credu fod cadarn sail Duw yn sefyll, ni byddai yn fuddiol ac anrhydeddus i mi ymdrechu am sail gad- arnacb, oblegid nid oes un felly i'w chael. Mwy 11a thebyg mai gaubrophwyd ydyw Mr W. gyda golwg ar yr amser 'pan y bydd yr enw Trindod wedi myned yn ffieidd-beth,' &c. Nid amcen- ais yru pleidiau i ymrafaelio a'u gilydd wrth gyd- ymdrechu ymryddhau o lyffetheiriau cysylltiad crefydd a'r llywodraeth. Yr wyf yn dra awyddus am gydymdrech yn mhlaid dadgysylltiad a dad- waddoliad y dyddiau hyn. Y mae genym dir lawer i'w feddianu, ond y mae y fuddugoliaeth yn sier o droi o'n tu, am hyny byddwn wyr, yn unig ymgryf- hawn, ac ymwrolwn yn lew. W. WILLIAMS. Nefyn, Hydref 21ain, 1869.
ST. CLEARS.
ST. CLEARS. Ai Weiniclogion a dciliaid yr Itsgolion Sabbothol sydd yn perthyn i Undeb Bethlehem, Saint Clears, a'r cylchoedd. Foneddigion,—Wedi darllen hanes y cyfarfod chwarterol diweddaf a gynhaliwyd yn Capel Cowyn, canfyddais fod y cyfarfod nesaf i gael ei gynal yn Bethlehem. Gan ein bod wedi ein hamddifadu o'n diweddar weinidog, meddyliais mai priodol fyddai i mi i ddwyn sylw yr ysgol at hyny. A chan fod trefniad y cyfarfod i ryw raddau yn disgyn i ran gweinidog a phobl y lie y cynhelir y cyfarfod, aw- grymais ddoe yn yr ysgol yn Bethlehem y carwn yn fawr pe cawn gorau holl ysgolion yr Undeb i ddysgu wyth neu ddeg o donau o Lyfr Tonau ac Emynau Mr E. Stephens, Tanymarian, ac i ddyfod yma i'w canu dydd Nadolig nesaf. Os gwnewch gydsynio, byddaf yn disgwyl o leiaf, o'r pedair ysgol ar ddeg, o chwech i saith cant o gantorion yn medru darllen naill ai yr hen neu y newydd nodiant. Gan nad oeddwn yn bresenol yn eich cyfarfod di- weddaf i gynyg hyn, ac i roddi cyfleusdia i ehwi i gael rhan yn newisiad y tonau, a chaniatau eich bod dros y cynyg, yr wyf yn cymeryd yr hyfdra i gynyg i'ch sylw y tonau canlynol:—1, Hampton, ar emyn 18. 2, Bedford, 27. 3, St. Asaph, 130. 4, vVin- chester, 180. 5, Gwladys, 205. 6, Edeyrnion, 222. 7, Bethesda, 235. 8, Geneva, 264. 9, St. Simon, 291. 10, Lyons, 321. 11, Dismission, 342. Yr wyf wrth ddewis y rhai uchod wedi amcanu at eu bod yn rhai newyddion i'n hardaloedd ni, yn rhwydd i bob cor yn yr Undeb i'w dysgu; ac os gwna pob ysgol yn yr Undeb ymdreeh briodol i ddyfod i fyny a'm dymuniad a'm cais, ac i weinidog- ion yr Undeb gael yr un hwyl i bregethu ac arferol, yrwyfynsicry cawn gyfarfod y bydd pawb yn teimlo yn ddedwydd ynddo, ac y bydd yn fywyd newydd i'n Hundeb. Gobeithlo y daw hvn 0 Iythyr i'ch Haw oil, ac y caiff eich ystvriaeth ddifrifolaf, ac y caf glywed oddi wrthych yn fuan pa un a gydsyniwch ai peidio. Yr eiddoch yn gywir, JOSEPH DAVIES. D.S.—Os byddoch yn cydsynio o gwbl, gobeithio y dechreua pob ysgol gyda brys, ac y rhoddweh wybod i mi rif y cantorion a'r cantoresau a berthyn i bob cor, fel y gallwn yma benodi lie pob un y diwrnod hwnw.—J. D.
LLYGRIAD YR IAITH GYMRAEG.
LLYGRIAD YR IAITH GYMRAEG. .At Olygvjyr y TYST CYSIREIG. ■ Foneddigion,—Gyda eich caniatad, yr ydym am geisio rhoddi ychydig o'n meddwl ar dudalenau y TYST ac yr ydym yn credu y cydsynia pob dyn ystyriol a diduedd a ni ar yr ychydig a ysgrifenir, sef yr anmhriodoldeb o arferyd geiriau a brawddegau Seisnig afreidiol wrth ysgrifenu, areithio, a phre- gethu Cymraog. Nid oes angen am draethawd =<It-e¡;$r.:L"'Z:==. maith a, rhoolaidd, wedi ei wau a rhesymau cryfion, i foddloni y Oymro trwyadl a gwladgarol ar y pen hwn, ac nid ydym am geisio gwneud hyny, ond yn unig alw sylw at y peth. Y mae llawer o bregethau Cymreig a draddodir y dyddiau hyn yn. cael eu llvchwino o ran cyfansoddiad, drwy arferj'd geiriau a brawddegau Seisnig afreidiol, pan ac y buasai -y geiriau Cyinraeg Hawn mor adnabyddus i'r gwran- dawvr, ac mor briodol ac effeithiol i esod allan y meddwl, Yn lie drychfeddwl' ceir idea,' a lleng o eiriau cyffelyb. Y mae ein llenvddiaeth yn yr un cyflwr, yn enw- edig y newj-ddiaduron, y maent yn frith o eiriau a aw brawddegau Seisnig. Nid ydym yn rhoddi y dyfyn- iadau o weithiau barddonol awduron Seisnig a diar- hebion i mewn yn y rhestr (nid cyfiawnder bob am- ser ydyw cyfieithu y gwreiddiol), ond yn unig y brawddegau cyfansoddedig gan ein gohebwyr eu hunain, a dywediadau Seisnig heb unrhyw ragor- iaethau ynddynt. Nid ydym yn gwybod yn iawn pa ddyben sydd ganddynt pan yn arferyd cymaint o eiriau a brawddegau Seisnig ond y mae yn natur- iol i ni gasglu eu bod yn naill ai yn fyr o eiriau Cymraeg i csod allan eu meddwl, trwy ddiffyg as- tudio yr iaith, neu v mae arnynt eisieu dangos eu gwybodaeth eaIJg o'r iaith Seisnig. Byddai hyny yn dangos ychydig o hunanoldeb, y mae yn wir ond nis gailwn la.i na'i gredu nes cael rheswm digonol dros hyny, os oes y fath beth i'w gael. Pe digwydd- ai i Sais edrych ar newyddiadur Cymraeg, a gweled y fath lu o eiriau yn ei iaith ef ynddo, y casgliad a dynai iddo ei hun fyddai, nad ydyw yr iaith Gym- raeg ya ddigon cvfoethog o eiriau i osod allan y meddwl yn ddealladwy i'r darllenydd heb gynorth- wy yr iaith Saesneg. Y mae y fath arferiad yn prysuro trangcedigaeth yr hen iaith Gymraeg. Y mae yn cael ei gwenwyno a geiriau Seisnig nes nychu ei chyfansoddiad, ac y mae y gwenwyn yn ymgais at ei chalon, sef ei bardd- oniaeth. Yr oedd yn ofid genym weled enghreifft- au o hyn yn ddiweddar. Os marw wna, gadawer iddi farw yn ei chymeriad cynhenid, yn bur oddi wrth eiriau estronol, rhag y bydd hyny yn cymylu ei chvmcriad yn ei dyddiau olaf, ac yn tynu gwarth ami pan y bydd yn gorwedd yn ei bedd. Peth gwych fyddai cael yr Eglwys yn Nghymru wedi ei dadgysylltu oddi wrth y Llywodraeth, a llawn mor wych a dymunol fyddai dadgysylltiad yr iaith Saisneg oddi wrth lenyddiaeth Cymreig. Ni a'i gadawn ar hyn yna y tro hwn ac os can- iata Meistri Gol., hwyrach y bydd genym air neu ddau i'w ddyweyd rhyw dro eto. BBYTHON, Ger Clawdd Offa.
YR ADRODDIAD 0 GYNHADLEDD…
YR ADRODDIAD 0 GYNHADLEDD ABER- YSTWYTH. At Olygivyr y TYST CYMREIG. Foneddigion,—Diau y disgwylir i mi wneud rhyw sylw o'r cyfeiriad a wnaed ataf yn llythyr Mr R. E. W. yn y TYST diweddaf. Mae y gwr parchedig wedi addef cymaint fel mai prin y gadawodd i mi ddim i'w ateb a themtir fi i ofyn, yn enw synwyr cyffredin, i ba beth yr ysgrifenodd o gwbl. Gallaf dystio yn ddibetrus mai at y cylchlythyr y cyfeiriais i wrth gefnogi gwelliant Mr Lewis, Henllan, a chy- nwysiad y llythyr hwnw yn unig oedd fy rheswm dros gysylltn eynhadledd y Bala a chynhadledd Aberystwyth oblegid dywedir ynddo yn ddifloesgni nad oedd yr olaf yn ddim amgen na gohiriad o'r flaenaf. Neidiodd Mr R. E. W. ar ei draed i'm gwrth- wynebu, ond yr oedd yn amlwg i'r cyfarfod nad oedd yn deall y point a godasid. Wrth ei weled yn y niwl, rhoddodd yr Ysgrifenydd (chwareu teg iddo am fod mor gandid) eglurhad ar y mater ag oedd yn cvfateb yn hollol i'r hyn a ddywedais, a phan ddeall- o'dd Mr R. E. W. wir sefyllfa pethau, addefodd fel dyn gonest mai camgymeriad anffodus oedd hyny.' Myn R. E. W. yn awr hollti y blewyn a dangos gwahaniaeth lie nad oes gwahaniaeth yn bodoli, ac apelia ataf fi fel boneddwr' i dosturio wrtho a chymeradwyo ei waith. Y mae yn wir ddrwg genyf nas gallaf ei gynorthwyo y tro hwn. Ni waeth genyf fi pa un ai y gwaith o basio rhyw benderfyn- iad yn y Bala, ai ynte rhoddi sylwedd y penderfyn- iad hwnw yn y oylclilythyr oedd yr hyn a alwai Mr R. E. W. yn gamgymeriad anffodus.' Yn ol fy marn i, nid oes modd gwahanu y naill a'r llall oddi wrth eu gilydd, ac y mae yn eithaf priodol i ni gy- mhwyso dedfryd y cyfaill ffyddlon hwn i'r achos at y ddau fel eu gilydd. Beio y cylchlythyr yr oeddwn i, am ei fod yn galw y gynhadledd yn un ohiriedig o'r Bala, a phan eglurwyd i Mr R. E. W. fod y cylchlythyr yn berffaith gyson a'r penderfyniad a basiwyd yn y Bala, beiodd yntau bob un o'r ddau trwy ddywedyd mai 'camgymeriad anffodus' yd- oedd. Mae adroddiad y TYST felly yn gywir yn nghylch yr addefiad. Yn awr am report Mr R. E. W. ei hun o'r rhan hono o'i araeth:— Pwyllgor lleol oedd un y Bala, ond cynhadledd gyffredinol yw y cyfarfod hwn, Felly y golygid iddo fod gan y Pwyllgor lie y penderfynwyd arno, ac yn yr un goleuni yr edrychwyd arno gall y wlad. Y mae y cyfarfod hwn gan hyny mor constitutional ag y gall cyfarfod o'r fath fod.' Y fath ymresymiad uwchraddol a gauwyd allan yn unreported speech eich gohebydd! Profa y gosod- iad mai cynhadledd gyffredinol oedd un Aberys- twyth trwy ddyweyd rnai felly y golygid iddi fod gan Bwyllgor lleol y Bala, yr hwn, yn ol addefiad yr Ysgrifenydd, a geiriad y cylchlythyr, a basiodd benderfyniad hollol groes i hyny, gan ei galw yn gynhadledd ohiriedig; a dywed mai yn yr un goleuni yr edrychwyd arno gan y wlad, pan mewn gwirionedd na wyddai y wlad ddim yn ei gylch! Dichon fod l'hyw floatiug idea am gynhadledd gy- ffredinol wedi nofio trwy feddwl Mr R. E. W., yn nghwsg neu yn effro, a'i fod wedi breuddwydio rnai dyna. oedd penderfyniad y Pwyllgor. Dichon fod rhyw oleuni llachar wedi tori allan uwchben Beau- maris, ac i'n cyfaill feddwl fod yr holl wlad wedi ei bendithio a'r un hud-lewyrch; o ganlyniad, y casgl- iad naturiol oddiwrth yr hyn a ddywedwyd yw,— Y mae y cyfarfod hwn, gan hyny, mor constitutional ag y gall cyfarfod o'r fath fod.' Buom yn holi llawer ar y rhai a ddylasent wybod beth oedd gwir natur y cyfarfod yn Aberystwyth. Dywedai un blaid, ac yn eu plith un dyn a ddylai fod yr awdurdod uchai ar y mater, mai cynhadledd o Bwyllgor y Bala ydoedd, wedi ei chyfyngu i fJon- stituency y Coleg presenol yn y Bala. Dywedai eraill mai cynhadledd gyffredinol o'r holl enwad yd- oedd. Gallwn brofi, erbyn hyn, nad ydoedd y naill na'r llall, ac o ganlyniad ei bod mor unconstitutional ag oedd modd i gyfarfod o'r fath fod. Os cyfarfod ydoedd o Bwyllgor Coleg y Bala, wedi ei alw yn ol constitution y sefydliad hwnw, ni ddylasai neb fod yn bresenol na phleidleisio yno heb fod naill ai yn weinidog yn cynrychioli eglwys sydd yn cyfranu punt yn y flwyddyn, neu ynte berson unigol sydd yn cyfranu deg swllt yn y flwyddyn tuag at draul y Coleg. Ni thalai i neb gynrychioli eglwys ond y gweinidog. Wrth edrych dros restr y gwyddfodol- ion, a chymeryd y list ddiweddaf o'r tanysgrifwyr, gwelaf fod o leiaf 45 yn bresenol nad oeddynt yn dyfod i fynu a'r telerau, ac yn eu plith y mae Mr R. E. W. Er fy mod i wedi tanysgrifio 10s. y flwyddyn ddiweddaf, ni dderbyniais gylchlythyr; ac y mae genyf sail i ofni pe chwilid i mewn i'r achos yn fanwl, y ceid allan na wahoddwyd ond nifer fechan o'r eglwysi sydd yn cyfranu y swm gofynol. Yn ol rhestr y gwyddfodolion a gyhoeddwyd yn y JDydd, a'r unig restr a gyhoeddwyd, hyd y gwelais i, yr oedd 102 o bersonau yn bresenol. Allan o'r nifer hwnw yr oedd 57 yn bleidleiswyr a 45 heb fod I yn bleidleiswyr, yn ol Rules and Regulations y Bala. Dyma fel y safant:— I =,Ç;L_W.J:æ."Gi.A:I'M!I;C-'V'==:' Y DEHEUBABTH. Voters. Non-Voters. Total. Aborteifi 5 7 12 Caerfyrddin 3 2 5 Morganwg 7 4 11 Penfro 3 1 4 Mynwy 1 0 1 Brycheiniog 2 0 2 Y GOGLEDD. Mon 1 3 4 Caernarfoii 3 2 5 Dinbych 1 1 2 Fflint 0 0 0 Maldwyn 7 2 9 Meirion 18 23 41 LLOEGR. Liverpool. 3 0 3 Caer 1 0 1 Llundain 2 0 2 57 45 102 Nid oes eisiau esboniad ar y daflen uchod. Yr oedd Meirion wedi ei chynrychioli a digon o bleid- leiswyr, pe na buasai un o'r cvfeillion brwdfrydig eraill o'r sir hono wedi dyfod yno. A oedd y cyf- eillion hyn yn gweithredu oddiar yr egwyddor, Charity begins at home ?' Pa fodd bynag, nid oedd y cyfarfod yn constitutional, oblegid goddefwvd i bawb yno bleidleisio fel eu gilydd. Nid oedd modd iddo fod yn gyfarfod cyffredinol o gynrychiolwyr yr enwad Annibynol, oblegid ni an- fonwyd ond 170 o wahoddiadau allan, pan y mae genym 900 o eglwysi yn Nghymru a threfydd Lloegr. A chaniatau fod rhai o'n gweinidogion yn pluralists, a chanddynt fwy nag un eglwys i ofalu am dani, ac y buasai un circular mewn case o'r fath yn ddigon i ddwy neu dair o eglwysi, y mae yn ffaith fod genym 500 o weinidogion ac yn agos i gant o leoedd gweigion; dylasid felly anfon 600 o gylehlythyrau o leiaf cyn y gallesid roddi galwad gyffredinol. Dylasid hefyd gyhoeddi hysbysiadau yn y newyddiaduron, a rhoddi gwahoddiad i bawb a deimlent ddyddordeb yn y gwaith i ddyfod i'r gynhadledd. Ymddei'igys fod rhyw ofn slafaidd wedi meddianu cyfeillion y mudiad. Cyfyngasant en gwahoddiad i bersonau a dybient hwy yn ffafriol i gael y Coleg yn y Bala, a phenderfynasant gau allan bawb a fydd- ent yn debyg o'u gwrthwynebu. Cyfeirier at y daflen uchod eto, a chymharer y gwahanol siroedd a'u cyfraniadau at Go: • y Bala, ac yna ceir gweled beth oedd gwerth cydmariaethol pob pleidlais Yn bre- Gwerth pob senol. pleidlais. £ s. c. £ s. c. Aberteifi 34 11 3 ..12 2 17 7 Caerfyrddin.. 52 15 8 5 10 11 1 Morganwg ..103 6 0-| 11 9 7 10 Penfro. 35 3 6 4 8 15 10 Mynwy. 28 0 8 1 23 0 8 Brycheiniog.. 16 14 1 2 8 7 0 Mon 21 10 1 4 5 7 6 Caernarfon.. 56 14 6 5 ..11 6 11 Dinbych 36 11 7 2 ..18 5 9 Fflint 14 19 6 0 0 0 0 Maldwyn. 36 15 81 9 4 1 9 Meirion Ill 18 7 ..41 2 14 7 Lloegr 87 11 101 6 14 11 11 636 13 1 102 6 4 10 Gwelir eto fod Meirion wedi monopolisio y cyfar- fod yn mhell tu hwnt i'r cyfartaledd. Yr oedd Aberteifi, Mon, a Maldwyn hefyd yn gryfach nag oedd yn gweddu iddynt yn ol y cyfrif yna, tra yr oedd pob rhan arall o Gymru a threfydd Lloegr ol) yn mhell islaw y cyfartaledd yn ol mesur eu hael- ioni. Ateber y cwestiwn eto gan restr y Pwyllgor Cy- ffredinol a gyhoeddwyd yn y Dg&d. Etholwyd ar hwnw gan gyfeillion y mudiad 172 o aelodau, o ba rai nid oedd ond 49 yn bresenol; ac er nad oedd hwnw yn cynwys un ran o dair o weinidogion a Ucygwyr cymhwys yr enwad, gwelir fod tair rhan o bedair o honynt hwy yn absenol. Pa ffordd bynag yr edrychwn, nid oes ond dyryswch ac unochraeth i'w weled. Ni osodwyd erioed fusnes o flaen y wlad mewn dull mwy unbusiness-like. Nid yw bod yr eglwysi yn annibynol yn gwneud yr enwad yn an-unol. Dylai unrhyw sefydliad a goder yn enw ao i ddybeniou yr enwad gael holl nerth yr enwad wrth ei gefn, a chyn y gellir cael y nerth hwnw rhaid iddo gael cyfle priodol i ddatgan ei farn a'i deimlad ar y mater. Yn lie hyny dyma gyfeill- ion y Bala yn galw cynhadledd afreolaidd ac anghyf- rifol, heb fod yn ol trefn constituency y Bala, nac yn gynrychiolaeth deg o'r enwad. Dymt. y gynhadledd hono, mewn byrbwylldra annoeth, ac yn ngwyneb protest caredig rhai a farnent yn wahanol, yn pen- derfynu llcoli y Coleg yn y Bala, a gwario ar yr adeilad o wyth i ddeng mil o bunau, neu o'r hyn lleiaf, i godi hyny o arian at yr amcan mewn pum mlynedd o amser. Dyma yr un cyfarfod diawdur- dodedig yn apwyntio personau o bob cwr i'r wlad i fod ar y Pwyllgor Cyffredin ol i fod yn addurn ac yn sham, ac ar yr un pryd yn cynyg fod i Bwyllgor presenol Coleg y Bala yn ei grynswtii gael ei ethol yn Bwyllgor Gweithiol y Coleg newydd, ac fod awdurdod yn cael ei roddi iddynt hwy i brynu y tir ar unwaith. Nid dymunol i deimladau yr arwein- wyr oedd rhoddi atalfa ddiseremoni ar y little game yna. Yr oedd yr amryfusedd hwn yn myned braidd yn rhy bell, ac felly de.viswyd dynion o gylch eang- acb, ac o olygiadau mwy cyffredinol. Mae genyf ofn yn wir, pan y gwneir apeliad at yr eglwysi tu allan i'r etholedig 170, y gofynir i'r casglwyr 'Beth sydd i ni a wnelom a chwi P' Os mynech chwi, heb ymgynghoriad a ni, brynu tir ac adeiladu coleg mewn rhyw fan penodol, a gwario miloedd o bunau heb wybod o ba le y deuent, Beth yw hyny i ni, edrychwch chwi.' Y mae fy ngwrth- wynebiad i o'r dechreu i'r diwedd yn dyfod i'r fan yna. Dywedir fod trethiad heb gynrychioliad (tax- ation without representation) yn ormes anoddefol. Dywedaf finau fod gofyn i'r holl eglwysi Annibynol gynorthwyo i gario allan fympwy yr ychydig yn hyfdra anfaddeuol. Gwn fod lluaws yn cydweled a mi yn hyn, ac yr wyf yn sicr na wnant ddim gyda'r fusnes hyd nes y byddo amryfusedd y Bala ac Aber- ystwyth wedi ei gywirio. Rhydd Mr R. E. W. awgrym cas fod y TYST yn unochrog, a chlywais fod eraill o'r un dosbarth yn dywedyd yr un peth. Yr wyf fi yn gweled yr adroddiad yn y TYST mor gywir ag oedd modd iddo fod, a chan belled ag y gallaf fi farnu y mae wedi gwneud cyfiawnder a'r ddwy blaid. Gadawyd allan lawer o'r sothach a lefarwyd, ond y mae sylwedd yr areithiau wedi eu cofnodi yn ofalus. Yr eiddoch yn gywir, P. MOSTYN WILLIAMS. Hydref 23ain, 1869.
'HYSBYS Y DENGYS Y DYN 0 BA…
'HYSBYS Y DENGYS Y DYN 0 BA RADD Y BO EI WREIDDYN.' At Oh/gwyr y TYST CYMEEIG. Foneddigion,—Felly mae gyda thirfeddianwyr Cymru y dyddiau cynhyrfus hyn. Hawdd canfod ar ba allor y cawsant eu haddysgu, a pha fath fodau oedd y rhai fu yn eu hyfforddio yn nhymor eu hieu- enctyd. Mae liadau yr egwyddorion hyny yn awr yn bwrw eu ffrwyth ar eu canfed. Nis gallai y diafol roddi egwyddorion fuasai yn bwrw allan ffrwythau mwy melldigedig. Agorasant eu llygaid y tro cyntaf erioed yn nghanol trais a gormes; dyna y geiriau cyntaf a swniodd ar eu clustiau hwyrdrwm -y geiriau cyntaf a ddiferasant drcs eu gwefusau halogedig oeddynt yn llawn gwenwyn aspaidd. Pan ddaethant yn alluog i gerdded, yr oeddynt yn ym- daith yn mlaen yn yr un cyfeiriad a'u cyndadau =!==£:r.II:="r-y:'J!'tl1::¡r!=.=: gormesol a chreulawn. Pan gyrhaeddasant ¡¡edd- fedrwydd oedran, gosodwyd hwynt ar orsedd pormes a thrais, yn cael eu hamgylchynu ar bob lbw gan weithredoedd y tywyllwch a'u cynghorw/r wedi hen galedu mewn pechod. Gosodwyd yn eu dwy- law deyrnwialen anghyfiawnder, wedi ei gwneud yn ngweithdy eu tad, a'i thymeru yn ngeiail yr un drwg, a'i tbrachi yn nghanol crochan berwedig yn llawn o wenwyn a llid, sydd yn berwi er's oesoedd yn nherfynau y pwll diwaelod. Seriwyd eu cyd- wybodau, a chaledwyd eu calonau fel maen isaf mewn melin. Yr oedd eu myfyrdodtu ddydd a nos ar faterion cysylltiol a theyrnas y d'afol, a'u geneu- au yn arllwys geiriau tanllyd yn Pawn o anathemau uwchben eu cyd-greaduriaid; aJ awyrgylch eu bywyd wedi ei chymylu fel nas gallai haul llachar cyfiawnder a barn ymddangos o foreu hyd hwyr uwch eu penau. Yn awr, yn ngoleuni llachar gwareiddiad y bed- waredd ganrif a'r bymtheg, pan y mae y byd oil yn terfysgu, a thonau cynhyrfiol ei chwildroadau yn galw yn uchel am lieddweh a chyfiawnder-pan y mae y byd moesol yn cyflymu yn mlaen yn mhob rhan o'r belen ddaearol gyda chyflymdra angerddol -gwledydd ag oedd wedi eu. hamgylchynu ar bob Haw gan dywyllwch paganaidd yn dod i deimlo gwerth egwyddorion pwysfawr yr efengyl, ac yn ymuno gyda chenhedloedd gwareiddiedig y byd yn ngorymdaith ogoneddus rhyddid,-er cymaint yw gogoniant ac anrhydedd y gwaith da a ddechreu- wyd, mae meistri tiroedd Cymru lonydd yn gwingo yn erbyn y symbylau' er y cwbl. Cyflawnasant y gweithredoedd ysgeleraf a mwyaf melldigedig ag oedd yn ddichonadwy i'r gwr drwg roddi yneu pen- au-gweithredoedd fydd yn ysmotyn du ar gymer- iad Cymru yn mysg oesoedd cred tra bo dwr yn rhedeg. Yn mhen canrifoedd i ddod, pan fydd yr efengyl wedi cyrhaedd ei hamcan yn mysg pagan- iaid tywyll-leoedcl y ddaear, tynir ymaith y Ueni oddiar erchylldra y gweithrodoedd ysgeler hyn, a chyfeirir at y gormeswyr gwargaled gyda dirmyg a gwawd. Os oedd rhyw urddas yn perthyn i'r teu- luoedd anrhydeddus (P) syeld yn gosod eu hunain yn destyn cabledd i'r estroniaid dienwaededig, y mae wedi cael ei gymylu gan drwch tew a sawrus o wawd. Os bu eu cydwybodau erioed yn agored i dderbyn daioni, maent wedi eu serio gan bechod ac ysgelerder. Mae sefyllfa y trueiniaid sydd yn gorfod teimlo oddiwrth y ddyrnod yn ofnadwy a gresynus i'r eithaf, ond nid haner mor ddychrynllyd ag yw sef- yllfa y meistri. Mae meddwl am y cyfyngdra ag y geill llawer o'r fEermwyr yma fod ynddo yn ddigon a tbynu deigryn o lygaid y dyn mwyaf haiarnaidd ei galon; ond byddai y ddaear yn baradwys dawel a heddychol, a'i drigolion yn angylion glan bob un, i'r gorthrymedig, pe y gorfodid ef i gardota ei fara o dy i dy, a chydmaru ei gyflwr a'r sefyllfa ag y mae y meistri ynddi. Cafwyd buddugoliaeth anrhydeddus yr etholiad diweddaf. Bydd adsain y fuddugoliaeth yn swnio yn soniarus ar bob clust yn mhen canrifoedd i ddod. Ond gan fod cysylltiad mor agos rhwng yr etholiad a'r erledigaeth Gymreig, bydd y gorthrwm yn gwmwl ar ogoniant y fuddugoliaeth hono os na bydd i feibion rhyddid wneud eu goreu er dwyn y merthyron Cymreig o gadwynau a gefynau haiarn- aidd eu meistri tiroedd. Er cymaint a wnaed yr amser a aeth heibio, mae eto le. Dangoser i'r byd inae 'trech gwlad nac arglwydd.' Mae digon o le i amaethwyr Cymru i g-ael eu cynhaliaeth heblaw ar eu tir hwynt. Er cymaint a feddant, ac er cymaint yw eu hawdurdod, nid oes ganddynt gymaint a llathen o dir o fewn un diriogaeth lie y trig cyfiawn- der a heddwch. Tra yr erys dyn o fewn y tir y maent hwy yn ceisio dangos i'r byd ei fod yn eidd- ynt, rhaid iddo ymgynefino ac anadlu awyr afiach a sawrus gwenwyn, a chymeryd ei gyhuddo o dres- pasu ar diriogaeth rhywun yn barhaus. Ond pan ymedy a therfynau eu daear hwynt, ca anadlu awyr iachusol rhyddid a chyiiawnder, a chamu cyn frased a'r brawd Jonathan heb fod yn myned ar draws coesau heglog neb, na chael ei gyhuddo gan un gwr byw bedyddiol. Bydded i Dad y trugareddau fendithio y gwron- iaid sydd yn ceisio lleddfu y trueiniaid merthyredig. Byddant yn sicr o dderbyn cefnogaeth y genedl, ac ni bydd iddynt fod yn ol o dderbyn taledigaeth y gwobrwy. Portmadoc. AB OWAIN.
PWYLLGOR ATHROFA Y BALA YN…
PWYLLGOR ATHROFA Y BALA YN ABERYSTWYTH. At Olygivyr y TYST CYMEEIG. Foneddigion,-Caniatewch i mi ddweyd gair ar y mater crybwylledig. Meddyliais I unwaith mai cynhadledd gyffredinol yn cynwys cynrychiolwyr o holl eglwysi Annibynol y Deheudir a'r Gogledd oedd i gael ei chynal yn Aberystwyth; ond fod ychydig eglwysi trwy anghof neu esgaulusdra heb gael cymaint a circular o wahoddiad. Erbyn edrych a gwrando a holi cefais mai Pwyllgor gohiriedig y Bala oedd i gwrdd yno yn unig. O'm rhan fy hun nid oeddwn yn anfoddlon i Bwyllgor y Bala gyfar- fod yn Aberystwyth, nac ychwaith i bob eglwys oedd yn cyfaanu punt ac uchod i gael yr anrhydedd a'r tegweh o anfon cynrychiolydd i gyd-drefnu a'r Pwyllgor yn nghylch adeiladu Colegdy newydd ond yr wyf am ddweyd fy marn yn onest a gostyng- edig nad yw yn iawn i aelodau y Pwyllgor hwnw i ysgrifenu ar g'oedd gwlad fod y cynulliad cyfyng- edig hwnw yn gynhadledd gyffredinol. Yn y TYST am Hydref yr 22ain, dywed y Parch. R. E. Williams, Beaumaris, fel y canlyn:—' Yna, meddwn inau, camgymeriad anffodus oedd hyny. Pwyllgor lleol oedd un y Bala, ond eynhadledd gyff- redinol yw y cyfarfod hwn. Felly y golygid iddo fod g-an y Pwyllgor lie y penderfynwyd arno, ac yn yr un goleuni yr edrychwyd arno gan y wlad. Y mae y cyfarfod hwn gan hyny mor constitutional ag y gall cyfarfod o'r fath fod.' Dyna eiriau Mr Wil- liams yn ol ei addefiad ei hunan. Yr wyf yn hollol gytuno a Mr W. mai pwyllgor lleol oedd un y Bala, ond yn annghytuno yn nghylch y pethau y mae yn ddweyd. 1. Nid oedd cynhadledd Aberystwyth yn un gyff- redinol, ac y mae yn syn genyf i gael ar ddeall gan Mr Williams mai dyna ddrychfeddwl y Pwyllgor ei hun. Er bod yn gyffredinol dylasai yr holl eglwysi trwy y Deheudir a'r Gogledd gael eu gwahodd trwy gynrychiolwyr iddi. Yn lie hyny ni chafodd ychwaneg na 170 o eglwysi allan o 900 circular i fod yn bresenol. Pe buasai 730 wedi cael gwahoddiad, a dim ond 170 wedi eu hesgeuluso, yn sicr fe fuasai cynhadledd Aberystwyth yn nes at fod yn gyffredinol. Y mae yn rhaid fod gan Mr W. a'r Pwyllgor ddrychfeddwl newydd am I eyffredinol' os oeddynt yn meddwl fod cydgyfarfyddiad mor lleied yn cyfansoddi cynhadledd gyffredinol. 2. Nid oedd cyfarfod Aberystwyth mor constitu- tional ag y myn Mr W. i ni gredu. Nid yw yn gyfansoddiadol yn mysg yr Annibynwyr i gynrych- iolwyr 170 o eglwysi i benderfynu mater sydd yn perthyn i 900 o eglwysi. Pe buasai yr 170 eglwysi hyny yn adeiladu y Colegdy ar eu traul eu hun bu- asai pob peth yn burion; ond y mae yn chwithig myned at 730 o eglwysi i ymofyn arian heb roddi yr un cyfieusdra iddynt hwy i ddweyd eu barn ar y mater a'r lleill. Y mae yn sicr nad oes un eglwys na gweinidog yn hoffi cael eu hesgeuluso ar gych- wyniad mudiad cyhoeddus. Nid yw yn gonstitutional i'r lleiafrif i basio penderfyniadau sydd yn tynu y imwyafrif i drafferth heb eu cydsyniad gwirfoddol. Os ydyw, y mae Henaduriaeth beryglus a gormesol yn dechreu amlygu ei hun yn mysg Annibynwyr Cymru. 3. Nid yw y 'wlad' yn edrych ar y gynhadledd yn gyffredinol a chyfansoddiadol ychwaith fel y myn Mr W. i ni gredu. Creded Mr W. neu beidio, y mae y wlad' yn lied effro i'r pwnc. Wrth fyned i gasglu, bydd yn rhaid gwynebu yr holl eglwysi ig- noriwyd ar gychwyniad y mudiad. Fe gafodd yr — "f"è< holl eglwysi gyfle i ddweyd eu barn yn nghylch, Coleg Aberhonddu; ond nid felly Coleg y BaJa. Cymir.r go;-mod o hyfdra ac eir yn rhy eofn ar y Amser a esbonia ei barn hi. Nid oes genyf un eiddigedd at y Bala. Nid hyny S'm cymhellodd i ysgrifenu y llythyr hwn, ond awydd unioni ymadroddion loote yn nglyn «• mudiad, neu gael esboniad boddhaol gan yrhai a'u dei„v<j^ant. Gyda chofion cynhes at Bwyllgor Aberystwy-h, a chefnogwyr pob daioni trwy y dywysogaeth, 71 gorphwys, Yr eiddoch yn ddidwyll, W. THOMAS. Whitland, Hydref 22ain, 1869. Mri Gol.Na chaniatewch i neb ateb hwu Illb" ei enw priodol. Y mae hyny yn deg, onid ydyw. [Yr ydym wedi penderfynu na chaiff dim ymddang- i os ar yr achos hwn yn ngholofnau y TYST heb enw priodol yr ysgrifenydd wrtho. Bydd i IS- grifenwyr roddi eu henwau yn debyg o'u cadtf rhag dyweyd dim afyddo yn anfrawdol, ac an- foneddigaidd.—Y GOL YGWYR.]
LLYTHYRENAU NEWYDD I'R GYMRAEGI,
LLYTHYRENAU NEWYDD I'R GYMRAEGI, At Olygivyr y TYST CYMEEIG. Fone,d(ligion,Mae un gwall go gas yn fy llythyf a ymddangosodd yn eich rhifyn diweddaf ar y pWBj j uchod. Byddaf yn ddiolchgar i chwi os goddefwcD i mi ei unioni. Yn lie rhoddi yr 1' a'i phen i lawr fel hyn, l< dylasai fod fel hyn—I. Am Gwenllian a Llywer* llyd, nid Gwenpan' a I zcywerlyd,' ond GwenTiss a £ ywerlyd—Gwenlian, £ yiverlyd. Yr eiddoch, Liverpool, GWENDOLEN. Hydref 23, 1869.
Advertising
J I BUST O'R DIWEDDAR BAROH. HENRY REES i'w GAEL GAN E. GRIFFITH, SCULPTOR, Flookersbrook, Chester, Wedi ei wneuthur yn hardd, ac addefir ei fod yn ddarlun ardderchog, PRIS SAITH A CHWECH. Gellir gweled specimen trwy ymofyn a gwylwyr capeli Chatham Street a Prince's Road, Liver- pool, ac yn Swyddfa y TYST CYMEEIG. SECOND CHATHAM PERMANENT BUILDING SOCIETY. ESTABLISHED, SEPTEMBER, 1867. TBUSTEES. CHARLES W. BOOTE, ESQ. WILLIAM PARRY, ESG. WILLIAM ROBERTS, ESQ. PEESIDENT. JOHN ROBERTS, ESQ. TREASURER. HENRY WILLIAMS, ESQ. The SECOND ANNUAL REPORT is just issued, and shows that the Subscribed Capital is X56,997 Amount outstanding on Mortgages 62,415 Balance of profit after paying the expenses and a dividend of X6 per cent. 5,404 Number of Invested Shares 5,826 Ditto of Members 634 In addition to the Ordinary Shares, PREFBBENCB SHARES are also issued, bearing a guaranteed dividend of 15 per cent. Copies of the Report and any other information may be obtained, and shares taken, on application to the Secretary. JV LLOYD JONES, 6, Lord-street. SECOND STANDARD BENEFIT BUILD- ING SOCIETY. (SEFYDLWYD TACHWEDD, 1864.) YMDDIRIEDOLWYR. Mr. W. C. Miller. Mr. Robert Price. „ Timothy Rj'an. „ William Hood. LLYWYDD—Mr. Seth Bennett. TEYSORYDD-Mr. J. E. A. Rogers. ARCIIWILYDD-Mr. B. J. Owens. OYFREITIIIWR-Mr. James Rowe. PWYLLGOR. Mr. Edward Parkin. I Mr. George Owen. John Morris. Thomas Roberts. Thomas Bullock. „ Charles Smith. David Jones. John Heap. Mr. James Smith. Cynhelir cyfarfodydd y Gymdeithas ar y nos Fawrth olaf yn mhob mis, o haner awr wedi saith haner awr wedi wyth o'r gloch. Llog-elw (yr hwn sydd wedi bod yn ol aaith punt y cant er sefydliacl y Gymdeithas) yn daladwy yo flynyddol yn mis Tachwedd. Y mae holl Gyfarwyddwyr y Gymdeithas hon yn hollol adnabyddus, ao yn brofoclig fel cyfarwyddwyr Building Societies. Gellir cymmeryd Shares newyddion, a chael pob gwybodaeth angenrheidiol trwy ymofyn a WILLIAM WILLIAMS A'I FAB, Y sgrif enyddion, 77, Mill-street, Toxteth Park, LIVERPOOL. IN REFERENCE To WINE, it is a fact that many persons are pleased if they can say, We import our own." They have an impression that by so doing they not only get it cheaper but purer, and besides, there is the honour of importing. They overlook altogetherthat those Foreign Dealers who seek them out are quite aware of this amiable weakness, and do not fail to take advantage of it to add some shillings to the price. To assist the impression, they judiciously insinuate that their article is purer than what usually comes to England, and thus they lull that that desire for comparison which would soon dispel the delusion. These remarks apply especially to GERMAN WINES, And, in proof of tliem, we would ask those GentlemeB who buy such Wines to compare our STILL HOCK AT 20a with their own importing at 24s 24s Do. do. 28s 33s Do. do. 36s 428 Do. do. 46s to 489 48s Do. do. 54s to 60S SPARKLING HOCK AND MOSELLE. 36s Do. do. 42s 48s Do. do. 54s to 60S 60s and 66s Do. do. 66s to 728 Even supposing- the value to be equal, there is this advantage in buying here, that any quantity can be got when wanted: whereas, in importing, a quantity Qf money is locked up, probably for years, in an article not of every day consumption. JAMES SMITH AND COMPANY, "rINg MERCHANTS, 11, LORD-STREET, LIVERPOOL 26, MARKET-STREET, Manchester. 28, HIGH STRKET, Birmingham. A GENTLEMAN CURED of the Results of -OL Debility, Premature CURED of the Results of -OL Debility, Premature Decline, Disease, &c., after years of suffering, will be happy to send a Copy of the Prescriptions used on receipt of Two Stamps for expenses in transmission.—' Address ARTHUR JONES, Wot dslcy, Staffordshire.