Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
26 articles on this Page
CAERDYDD.
CAERDYDD. Cyflwynodd Eglwys Hannah Street, Caerdydd, er ys ychydig amser yn ol, anrheg i'w gweinidog-y Parch. J. Davies, o Destament Groeg Dean Alford, yn bedair cyfrol. Mae Mr Davies yn myned yn mlaen yn llwyddianus yn y lie, a'r bobl yn eglur ddangos eu bod yn gwerthfawrogi ei lafur. Os oedd ei golli yn golled i'r Cymry mae wedi bod yn enill i'r%aeson,.ac y mae Cymru eto yn cael llawer o'i wasanaeth. Hir oes iddo. [Aeth yr uchod trwy ryw amryfusedd ar goll dros amser. Drwg genym hyny.—GOL.]
YSTRAD RHONDDA.
YSTRAD RHONDDA. CYFAEPOD TE.-Rhoddoclcl y Meistri Cory Bros. & Co., Caerdydd, gyfarfod te mawreddog i'r glowyr a weithiant yn nghloddfeydd yPentre, dydd Mercher, y 13eg o Hydref, yn yr Ysgoldy Cenedlaethol. Per- thynai y gwaith hwn i Meistri James Ware & Co., a gweithiwyd ef yn mlaen yn gyson a rheolaidd drwy'r blynyddau hyd mis Medi diweddaf, pryd y gwerthwyd ef i Meistri Cory Bros. & Co., ac ar eu dyfodiad i gymeryd y gwaith, gwnaethant an- rhegu y gweithwyr yn nghyda'u gwragedd a'u Iplant a phryd o de cysurus, a gwnaeth oddeutu 600 o honynt eitbaf cyfiawnder a'r danteithion a rodd- wyd ger eu bron. Ac i ddangos eu parch yn mhellach tuag atynt, penderfynasant gael cyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr, i ddatgan eu teimladau car- iadlawn a'r borthynas oedd rhyngddynt fel meistri a'u cydweithwyr. Cynhaliwyd y briodas yn nghapel yr Annibynwyr, pryd y gweinyddwyd y seremoni gan y Parch. W. Lewis, Ficer Parch. W. Jones, Jerusalem; Parch. R. Williams, Nebo a'r Parch. J. Davies, Caerdydd; a chafwyd areithiau ac an- erchiadau pwrpasol a galluog iawn gan bob un o honynt. Cafwyd hefyd areithiau grymus, ac yn llawn teimlad da at eu gweithwyr, gan Mr John Cory, Mr Richard Cory, a Mr S. W. Kelly; dywed- asant y byddai iddynt hyd eithaf eu gallu astudio lies eu gweithwyr gymaint a'r eiddo eu hunain, ac y gwnaent eu gorew. i gadw yr undeb hwnw yn mlaen yn y dyfodol. A gobeithient y gwnai y gweithwyr hwythau yr un modd; ac os byddai rhywbeth "yn cyfodi yn eu mysg, fel y byddai yn debyg o wneud, y gwnaent roddi perfect understand- ing am y peth hwnw er rhagflaenu pob anghydfod yn eu plith.—Abynys Davies.
CAERNARFON.
CAERNARFON. Y mae cwmni y London & North Western wedi rhwygo ein hen dref ar ei thraws, wedi dadsylfaenu hen dai, ac agor hen ffosydd, a datguddio hen gil- fachau a chwterydd yn y gwaelodion oeddynt wedi eu cau a'u cuddio er's ugeiniau o flynyddoedd. lechyd i'w calon! Son am drainio a glanhau trcf, dyma lanhau a charthu iawn sydd wedi bod o Castle Square i Turf Square. Y mae y dref yn hynod o iach byth er y glanhad ar ol y cholera, ond ychwa- nega hyn lawer at ei glanweithdra eto. Yr oedd llawenydd mawr yma boreu Sadwrn, am fod ein maer wedi derbyn telegram oddi wrth y cwmni yn addaw adeiladu gorsaf arall yn ymyl Castle Square. Cyst filoedd o bunau i'r cwmni, ond bydd yn hwyl- usdod mawr i'r dref. Y CARCHABDY NEWYDD.—Y mae hwn yn tyfu yn raddol. Y mae i fod yn adeilad mawr. Trueni na wnaethai un llai y tro i sir grefyddol fel Arfon. Pe gellid cau pob tafarn ar y Sabboth, a phob nos arall am 6 o'r gloch, gellid ei droi yn Temperanc Hall, a darllenfa i'r dref. Penderfynwyd yn y Chwarter Sessiwn a gynhaliwyd dydd Iau diweddaf mai gwr o'ch tref chwi syddi fod yn llywydd i'r ty newydd, Mr Richard Roberts, Warder, Carchardy Walton. Y PARCH. D. ROBERTS.-Y mae efe wedi dychwel- yd o'r America, a deallwn fod y ddarlith ar ei Ym- weliad ar fod yn barod, ac yr ydym yn sicr y bydd yn werth ei chlywed, ar ol yr holl ddarlithiau ar America. Ceir y newydd mewn ffordd newydd eto gan Mr. Roberts.-X.
BODEDEYRN, MON.
BODEDEYRN, MON. RIIYFEDDODAU ANIAN.N os Fercher, Hydref yr 20fed, traddodwyd darlith ar y testyn uchod yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, gan y Parch. W. Williams, (Gwilym ab Gwilym Lleyn), Aber- ystwyth. Y llywydd oedd y Parch. E. Evans. Caf- wyd darlith ragorol, a gwnaeth y llywydd ac eraill eu rhan yn gampus.—Gwrandaior.
WAEN GOLEU GOED.
WAEN GOLEU GOED. TEA PARTY.-Cynhaliodd yr eglwys Annibynol yn y lie uchod eu Te Party ar yr 22ain o Hydref; a'r dyben oedd mewn golwg gan yr eglwys hon, fel llawer o eglwysi eraill, oedd arddangos eu cydna- byddiaeth i'r plant am eu ffyddlondeb fel deiliaid yr ysgol Sabbothol. Gwnaeth y boneddigesau eu rhan yn dda. Cafwyd diwrnod hyfryd iawn i fwyta ac yfed o ffrwyth y ddeilen de ac yr oedd golwg ar bawb oedd yno, feddyliwn i, wedi eu cyflawn ddigoni. Am 6i, traddodwyd darlith gan Mr. D. Roberts, (British Hiraethog), Nantglyn, ar Gyfnewidiadau yr Oes." Cymerwyd y gadair gan y Parch. W. Griffiths, gweinidog y lie. Yr oedd yno gynulliad da, a darlith ddifyrus ac addysgiadol dros ben. Siaradai y darlithydd rnor naturiol a phe buasai ar yr aelwyd. Nid gormod yw dyweyd i bawb oedd yno gael eu boddhau yn fawr.—T. J.
LIVERPOOL.!
LIVERPOOL. Nos Fawrth diweddaf, yr oedd Deon Alford yn traddodi darlith yn y Collegiate, ar Cristionogaeth y presenol a'r dyfodol,' i gynulleidfa luosog a pharchus iawn; ac yr oedd y ddarlith yn mhob ystyr yn deilwng o'r Deon parchedig. Yr un noson, yr oedd Cymundeb Cyffredinol o holl eglwysi Annibynol Liverpool, Seisnig a Chymraeg-, yn nghapel Great George Street. Yr oedd llawr y capel eang yn llawn, a chafwyd cyfarfod da iawn. Llywyddai y Parch. J. Kelly, a chymerid rhan yn y gwasanaeth gan amryw o weinidogion y dref.
BLAENAFON.
BLAENAFON. URDDIAD.-Hydref yr 20fed a'r 21ain, urddwyd y Parch. D. Thomas, gynt o Goleg Caerfyrddin, yn weinidog i'r Eglwys Gynulleidfaol Seisnig yn y lie hwn. Nos Fercher am 7, dechreuwyd gan y Parch. T. Griffiths, a phregethoddy Parch. H. Jones, Ffald- ybrenin, a'r Proff. Morgan, Caerfyrddin. Am 10 boreu dranoeth, dechreuwyd gan y Parch. W. Griffiths, Abersychan, a phregethodd y Parch. H. Oliver, B.A., Casnewydd, ar Natur Eglwys. Hol- wyd y gofyniadau gan y Parch, H. Jones, gweinidog yr eglwys i ba un y perthynai y brawd ieuanc, yr hwn a roddodd atebion boddhaol, ac arwyddwyd ar gyhoedd eu huniad gan yr eglwys a'r gweinidog. Yna gweddiwyd am fendith y Nefoedd ar eu huniad gan y Parch. P. W. Darnton, B.A., Casnewydd a phregethwyd ar Ddyledswydd yr Eglwys a'r Gwein- idog gan y Parchn. Proff. Morgan, a J. Davies, Caerdydd. Yr oedd amryw weinidogion yn bresenol o wahanol enwadau, a chawsant oil wahoddiad cynes i'r ciniaw a barotowyd yn y 'White Hart.' Am 7 y nos, dechreuwyd gan y Parch. J.Jones, M.A.,M.C., a phregethodd y Parchn. Edwards, Heol-y-felin, Casnewydd, a J. Jenkins, Pontypool. Cafwyd cyf- arfodydd da. CYFARFOD BLYNYDDOL.—Sabr.otii, Hydref y 2i-ain, cynhaliodd yr Eglwys Gynulleidfaol Gymreig yn y lie uchod, ei gwyl flynyddol mewn cysylltiad a'r ysgol Sul, yn Bethlehem. Pregethwyd ar yr ach- lysur am 10-J, 2, a 6, gan y Parch. J. Hughes, Cendl. Am 2, pregethodd y Parch. D. Thomas (y brawd a urddwyd yr wythnos flaenorol) yn Saesneg. Dech- reuwyd y gwahanol oedfaon gan y Parchn. T. Griffiths, gweinidog y lie, a H. Jones, Ffaldybrenin. Cawsom gyfarfodydd da, pregethau a chynulliadau da, yn enwodig am 2, a 6: cawsom hefyd g-asgliad go lew at drysorfa yr ysgol.—J. E. W.
EBENEZER,ARFON.
EBENEZER,ARFON. CYFARFOD ADLONIADOL GWYR IEUAINC DEINIOLEN. —Cynhaliwyd y cyntaf o'r cyfarfodydd hyn am eleni yn Ysgoldy Brytanaidd Deiniolen, nos Wener, Hydref 22ain. Bwriedir eu cynal bob pythefnos ar hyd y gauaf hwn. Llywyddwyd y cyfarfod hwn gan y Parch. W. Rowlands, Cefnywaen. Cafwyd darllen, adrodd, areithio, dadleu, a chanu, a'r cyfan yn chwaethus, ac o duedd i loni y meddwl. Credwn nad hawdd oedd cael gwell ceiniogwerth am gein- iog. CYNGHERDDAU.—Mae yma amryw gyngherddau wedi eu cynal yn y cymydogaethau hyn yr wyth- nosau diweddaf, ac y mae yma amryw eto wrth y drws yn disgwyl eu tro. Cynhaliwyd dau yn Ys- goldy Gwladwriaethol Llandinorwig yn nghorff y cldau fis diweddaf. Y Llanrug Brass Band and Llandinorwig Brass Band oedd yn cynal un, o dan lywyddiaeth Mr Owen Parry, Bron Elidir. Yr o yr elw oddiwrtho er budd i Mr Thomas Roberts (Twm Stiniog), fel cydnabyddiaeth iddo am ei ffydd- londeb bob amser gyda chyfarfodydd o'r nodwedd hwn yn yr ardal. Yr oedd y Hall er budd i'r Lluu- dinorwig Brass Band.' Cynhaliwyd hwn gan y 'Peiirhyn Brass Band,' y Penrliyll Glee Society,' a'r • Llandinorwig Brass Band, Synwyd ni yn fawr pan glywsom fod y Ponrhyn Band a'r Penrhyn G-lee Society wedi codi 8p. fel tal am duod i gynal y cyngherdd hwn, a hwythau eu hunain wodi awdur- dodi Twm Stiniog i ddyweyd yn gyhoeddus yn y cyngherdd eu bod yn rhoddi eu gwasanaeth rn.rhad. Os ydynt yn meddwl cael cyngherdd Yilla, fel yr awgrymasant yn y cyfarfod, credwn y cant eu siomi, oblegid iddynt wneud y tro hwn. Gwell iddynt aros adref, onide yr un dynged a dderbyniant ag a dderbyniodd y Portdinorwig Brass Band yma er ys llawer dydd. Yr wythnos ddiweddaf, cynhaliwyd cyngherdd yn addoldyr Dinorwig, er budd Mr Owen Williams, Yspytty, yr hwn sydd wedi bod yn an- alluog am fisoedd oblegid iddo golli ei lygad yn y gloddfa. Llywyddwyd hwn gan Mr Owen Parry, Bron Elidir. Derbyniwyd dros 12p. o elw oddi- wrtho.-Golieblldd.
jPENNORTH, GER ABERHONDDU.
PENNORTH, GER ABERHONDDU. Cynhaliwyd Cymanfa flynyddol y He uchod y | ?abbath diweddaf, pryd y pregethwyd gan dr o ^yrwyr Aberhonddu, sef Meistri J. Joseph, W. J. ^vans, a J. Davie?. Yn y boreu Mr Evans, yn y Drydnawn Mr Joseph (yn Seisnig), a Mr Davies; ac 44 chwech, Mr Joseph, a Mr Evans. Cafwyd oed- 8.on da, a gwell casgliadau nac a gafwyd er s blyn- Yddau. 0
|ABERTAWY A'R CYLCHOEDD.
ABERTAWY A'R CYLCHOEDD. 5" peth y siaredir fwyaf am dano yn y lie yma yw I ffrwydriad yn nghapel newydd Walter's E,oad. ^fodd ddiangfa brin rhag llwyr ddinystr; ond cLi- ^odd wrth ychydig niwed mewn cymhariaeth l r ?6rygl. Dydd Iau, bu gas jitters yn gwneud rhyw- x'r fjas pipes, a rhyw ffordd neu gilydd gadawyd modfedd yn agored a phan ddaeth ceidwad y j^Pel i gyneu goleu erbyn cyfarfod yr hwyr, dariu droi y gas i mewn wrth y meter, ac aeth a goleu ei law yn mhen ychydig funydau i gyneu y goleu. ^d erbyn hyny yr oedd y gas wedi croni yn y ty, pan ddaeth goleu i gyffyrddiad ag ef iddo ^Wydro, a chwythu partition y lobby allan, ynghyd ^.dfyllio'r drysau a'r ffenestri. Cafodd y ceidwad ^i^eidiau tost yn nghanol y cwbl.* Mae y capel ^di derbyn ysgydwad trwyddo, pa un bynag a wedi cracio ai peidio, y paent wedi ei drochi yes mae y niweidiau yn llawer mwy na'r hyn welir. l' oedd wedi ei yswirio am bedair mil o bunnau. Bu cyngherdd gan y Volunteers nos Sadwrn yn sembly Room y Bird in Hand, pryd y gwasan- ^thodd seindorf y 3rd ynghyd ag arn- gerddorion y gymydogaeth. Amcan v cy- ^Sterdd oedd cael arian i dalu traul amryw o ael- P^au y seindorf sydd yn byw mewn pellder i ddyfod 1 U\pr i'r eisteddfod ddyfodol yn y Music Hall. ?rydnawn dydd Gwener, cynhaliwyd y pumed cyf- a*fod blynyddol cyfrinfa yr Heart of Oak, o undeb crefflwyr, yn y Wyndham Arms. Yr oead yr ys- Mell wedi ei haddurno a banerau gwahanol gen- g ,6dloedd, ynghyd a dail bytholwyrdd, ac arwydc 6lfiau pwrpasol i'r amgylchiad. Gwledd i r corpn gyntaf, yna llwngcdestynau, y rhes arferol yn fyntaf, ac yna rhai cartrefol a pherthynol i r gym- Trueni na ellid yfed y llwngcdestynau -Vraa mewn rhywbeth heblaw diod gadarn, ni fyddai terygi wedy'n yn lluosogrwydd y testynau. Sonir llawer gan Brotestaniaid mai mamaeth duw- loldeb gan y Pabyddion yw anwybodaeth ond medr Y Pabydd gyfaddasu ei hun ar gyfer yr amgylchiad- 8,11 yn gystal a dim a wna. Pan na all wrthsefyii c^Hydd addysg, ceisia ei rheoli; a phan na^ all ei ^eoli, gwna yr hyn a all i daflu y bobl oddiar eu twyliadwriaeth. Mae Pabyddion y dref hon wedi darlleniadau poblogaidd ar nosweithiau ^rion y gauaf yma, o dan reolaeth yr offeiriaid. ni fydd dim perygl i'r ffyddloniaid gael eu jfygro gan yr hereticiaid. Bu y diweddaf nos Lun ^^Peddaf. Darllenwyd amryw ddarnau yno, a PWareuwyd darnau o'r music goreu ar yr Harmon- l<ll& gan ei organist. Eelly mae blaenoriaid y bobl ei blaenori mewn gwirionedd.
|RHYDYWERNEN, GER Y BALA.
RHYDYWERNEN, GER Y BALA. Yn y capel dywededig nos Fawrth, y 19eg o Hyd- cynhaliwyd cyngherdd, dan lywyddiaeth y J-Veh. H. Ellis, gweinidog y lie. Mynediad i mewn '^Vfy docynau chwe cheiniog-. Yr elw at adgyweirio y Capel. Canodd Cor Dimel, dan arweiniad eu hen 4tWw Mr E. Owen, Gwnodl-bach, saith neu wyth °dbnaugycla chj-meradwyaeth maw. Canwyd y Wahanol solos gan Mr T. Roberts, Llawr y Bettws; IMr W. Eoberts, a Miss Eoberts, Glanllyn, Dimel. oedd y don o flaen gwyntoedd' yn canu yn dda 2jjfwyd dwy don gan Derfel, ac wyth neu naw gan jr-r W. W. Thomas, Pentrevoelas, ar yr hwn yr oedd ygad, a chlust, a disgwyliad y cyfarfod, ap"1.? S^d neb eu siomi. Canodd Meistri E. Williams, ^ysgain, a W. Eoberts, Glanllyn, a Mr Thomas, yr A- B. C. gyda boddhad mawri'r gynulleidfa. Eyw l'yd tua chanol y cyngherdd, cafwyd araeth ddoniol Mr D. Eoberts, Tyddyn y Eelin, Llangwm, yn ^atvg08 ei hoffder o gerddoriaeth, ac o'r cyngherdd y ^0s°n hono. Terfynwyd y cyfarfod trwy dalu di- .^chgarwch i'r Llywydd, i Mr Thomas, a'r cantor- ac i Mr W. Eowlands, Penffordd, am fenthyg j.,Harmonium. Yr oedd Mr Thomas, a chantorion ltnel, ac ereill wedi bod yn y Bettws y noson flaen- yn cadw cyngherdd; yr oedd y lie yn fwy na a"Wn o bobl, yr oedd yn anghysurus felly- Y mae Cor dywededig yn haeddu y diolchgarwch mwyaf I'oddi eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim, a ^olli eu hamser yn flaenorol i ddysgu y tonau P. ^erdded drachefn yn lied bell, hyd ffyrdd clegai ,^dron, i gyfarfodydd i roddi eu gwasanaeth yn- ^ynt. Wrth derfyiiu, dywedaf yn iaith y bobJ j-^th fyned adref—prysured Mr Thomas a r cor i ydyweren eto.- -Goluhydri.
---_--NAZARETH, LLANLLYFNI.
NAZARETH, LLANLLYFNI. Y mae yr aches yn y lie hwn wedi bod o flacn y cyhotrld amryw weithiau yn ddiweddar, oherwydd fod yrhen addoldy wedi mynedynwael, acyn hollol anghyn.wys i addoli ynddo ac wrth ganfod cynydd graddol t pharhaus y gymydogaeth, a'r ystyriaeth fod yno dr ddigonedd yn feddiant bythol i'r enwad, penderfynwyd adeiladu addoldy newydd, a thy cyf- leus i'r gwsinidog. Aeth y draul oddeutu 700p., ac agorwyd ef ryw ddwy flynedd yn o o dan yr am- gylehiadau nwyaf ffafriol. Ar y pryd, yr oodd y cyfeillion yn y lie yn hyderus y gallent ymsymud yn mlaen yn anrliT-deddus ond yn fuan iawn dechrea- odd y cymylau (uon ymgasglu, daeth angau i blith yr aelodan, a sjmudodd ymaith rai o'r cyfeillion ffyddlonaf i'rbedd; wedi ymdrechu yn galed am yn agos i flwyddyn gvelodd yr ychydig gyfeillion oedd yn ngweddill eu bed yn analluog i gadw y llestr ar wyneb y tonau. GlJwyd am gyfarfod o'r ymddir- iedolwyr a'r meichiafon. Cymerwyd y gadair gan y Parch, Wm. Ambrose. Archwiliwyd y cyfrifon a chafwyd eu bod wedi eu cadw yn fanwl, eglur, a theg, a dangosid hefyd fod yno ymdrechion teilwng wedi eu gwneud i gadw y llestr rhag suddo ond gwelid yn amlwg, oni ddeuai cynorthwy ac ymwared prydlonol o le arall, mai suddo a wnai. Addawodd Mr Ambrose yn garedig osod y mater o flaon ei fro- dyr yn y eyfarfod chwarterol, yr hyn a wnaeth yn effeithiol iawn. A phan y daeth at y geiriau, ei fod yn ofni fod yn rhaid i'r enwad ollwng ei afael o'r lie, torodd allan yn daranfloedd o bob cwr o'r llys, Na, na, ni fynwn ollwng ein gafael o gapel hardd Nazar- eth, boed a fyno. Yn awr, y mae Cyfarfod Chwar- terol Lleyn ac Eifionydd, a'r gweinidogion ffyddlon a thalentog perthynol iddo, wedi cymeryd gaf ac-I o ddifrif yn y case, ac y maent yn casglu yn egniol ato. Ac y mae Cyfarfod Chwarterol Arfon wedi dangos eu cydymdeimlad llwyraf a'r cyfeillion yn Nazareth yn eu distress, ac wedi nodi ar y mis nesaf, Tach- wedd, i unrhyw frodyr i dalu ymweliad a'r eglwysi; a da; genym ddeall fod y Parchn. D. Griffith, Port Dinorwig; R. Griffith, Bethel; a J. Davies, gwei- nidog Nazareth, wedi penderfynu ymweled a holl eglwysi Arfon yn yr achos. Hyderwn y rhoddir i'n hanwyl frodyr dderbyniad croosawgar, ac y siriolir hwy a chasgliadau da. Caiff yr holl dderbyniadau eu cydnabod ar amlen y Dysgedydd yn gynharol y flwyddyn nesaf.
.BETHESDA, ARFON.
BETHESDA, ARFON. Nos Sadwrn, Hydref 23ain, anrhegwyd hollddeil- iaid yr ysgol Sabbothol yn Treflys a the a bara brith. Yr oedd darpariadau helaeth wedi eu gwneyd ar eu cyfer, a gwnaeth pawb gyfiawnder a'r danteithion blasus oedd wedi eu harlunio iddynt. Yn yr hwyr, cafwyd cyfarfod adroddiadol, o dan lywyddiaeth y Parch. W. Nicholson, gweinidog y lie. [0 ddiffyg lie, nis gallwn roddi y programme i mewn.] Cafwyd adroddiadau da, a chanurhagorol. Yr oedd y canu oil o dan lywyddiaeth Eos Idwal, yr hwn sydd yn haeddu canmoliaeth am ei sel a'i ffyd llondob gyda'r canu. Yr oedd ol llafur mawr i'w weled yn y cyfarfod hwn. Nid rhaid i'r Eos wrtb ganmoliaeth fel dadganwr, o herwydd y mae wedi sefydlu iddo ei hunan ganmoliaeth uchel trwy yr ardal yn gyffredinol. Chwareuwyd yn fedrus ar yr harmonium gan R. Richard, Braich melyn. Y mae un peth eto ag y carwn ei hysbysu, sef y bodd- lonrwydd a roddodd Mr Nicholson yn ei ddull medrus yn llywyddu y cyfarfod. Y mae yn hysbys i luaws o ddarllenwyr y TYST o'i ddyfodiad i'n plith, ac y mae yn dda genyf hysbysu yn mhellach ei fod yn rhoddi boddlonrwydd mawr yn ei bregethau Sabbothol, a bod golwg lewyrchus ac addawol iawn ar yr eglwysi sydd dan ei ofal—llwyddiant a'i dilyno. Wedi talu diolchgarwch i bawb oedd yn teilyngu hyny, terfynwyd trwy ganu yr hen don Moriah. Felly y terfynwyd un o'r cyfarfodydd goreu y bum ynddo erioed ac os hwn oedd y cyfarfod cyntaf, yr wyf yn sicr nad hwn fydd y diweddaf.—Derwenydd.
LIBANUS, PONTNEWYDD.
LIBANUS, PONTNEWYDD. Cynhaliwyd Pwyllgor yn y lie uchod, Hydref yr 20fed, mewn cysylltiad ag ysgolion dosparth Caer- narfon, i ffurfio ryw gynlhmiau i ddwyn y cyfarfod- ydd chwarterol, ynghyd a threfniant yr ysgolion Sabbothol, ymlaen yn fwy effeithiol a dylanwadol. Penderfynwyd yn laf-Fod ysgol Rhostryfan yn cael ei derbyn i mewn i'r Undeb. 2il—Fod i bob ysgol yn y cylch i ranu yr ardal yn ddosbarthiadau, a chodi dynion i fyned trwy bob dosbarth i chwilio am bobl i ddyfod i'r ysgol. 3ydd—Fod i bob ysgol lie y cynhelir y cyfarfod ysgolion i ofalu am un gweinidog i fod yn bresenol, ac iddo roddi pregeth ar yr ysgol Sabbothol noson y cyfarfod. 4ydd— Fod holi ar rhyw bwngc yn lie areithio i gael ei wneud yn y cyfarfodydd 10 a 2, a'r gynhadledd rhwng y ddau gyfarfod. 5ed—Fod i'r ysgol lie y cynhelir y cyfarfod i ddewis y pwng-e i holi, ac i anfon hyny yn brydlon i bob ysgol yn y Dosbarth. 6ed-Fod y cyfarfod yn rhoddi anogaeth i bob ysgol i ffurfio y cynllun goreu i addysgu plant, ac iddynt gario y cynllun hwnw i'r cyfarfod nesaf. Ein dymuniad ydyw am i'r hyn fu dan sylw gael eu cario i weithrediad. OWEN EVANS, Ysgnfenydd.
CAERGYBI.
CAERGYBI. Nos Lun a dydd Mawrth, y 18fed a'r 19eg cyfisol, cynhaliodd Y BEDYDDWYK eu cyfarfod cenhadol blynyddol. Y pregethwyr oeddynt Cynddelw Thomas, Blaenywaen; a James, Llangefni. Cafwyd gan y gweinidogion hyn breg- ethau ardderehog a hynod bwrpasol. Caiwyd hefyd gasgliadau da. Nos Fercher, yr 20fed, yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd (Hyfrydle), rhoddwyd CYNGHERDD gan Mr James Hughes a'i Gor. Fe gofir i'r Cor hwn ymgystadluynEisteddfodLlanerchymedd mewn canu Y Gwanwyn.' Yn ol dywediad y leader, cyn- haliwyd y Cyngherdd dan sylw 1 roddi cyfleustra l bobl Caergybi i ffurfio barn ar aeilyngdod y Cor. Canasant yn dda, a rhoddwyd encore brwdfrydig i amryw o'r Tonau; ond er i'r cantorion wneud eu rhan yn foddhaol iawn yr ydym yn credu y gwerth- fawrogid y Cyngherdd yn fwy gan y gwrandawyr pe buasai ychydig mwy o amrywiaeth, megis I In- strumental Music' yn nghyd a'r < Vocal. Er hyny rhaid cofio mai first attempt oedd hwn, ac y gallant y tro nesaf lwyddo i gael cyngherdd nid yn unig cystal a'r un diweddaf ond gwell o lawer.-Go- hebydd.
TALSARN.
TALSARN. CYEARFOD LLENYDDOL.—Cynhaliwyd yr uchod Hydref 25fed, yn yr ysgoldy newydd. Llywydd, Mr John Owens. Darllenwyd beirniadaethau, a chawsom amryw ganeuon ac adroddiadau da iawn.
[No title]
Y dydd o'r blaen bu tanchwa yn mhwll Newbury, ger Radstock, Somerset, perthynol i gwmni haiarn Westbury. Llosgwyd 15 o fwnwyr yn dost iawn, o ba rai dygwyd 7 i fyny yn foirw, a bu farw 2 eraill wedi hyny. CafNi, d pibell tobacco ar un o'r cyrph. Y BRIF YSGOL I GYMBU.—Da genym hysbysu fed y boneddigion canlynol wedi cyfranu yn ddiweddar y symiau canlynol tuag at y Brif Ysgol iGymru: Evan M. Richards, Yaw., A.S., 50p. John Lloyd Jones, Ysw. Baladanlyn, Nantlle, Sir Gaernarfon, 60p.; a Hugh Pugh, Ysw., Pwllheli, 50p. Gob- eithiwn y cymer ein holl aelodau senoddol ynghyd a boneddigion Cymru yn gyffredinol esiampl oddi- wrthynt. Deallwn fod y symudiad yn cerdded yn mlaen yn llwyddianus. Y mae y symiau uchod, yn nghyd a rhai llai, yn dwyn cyfanswm y cyfran- iadau addawedig i fynu at yn agos i 16,000p heb son am ffrwyth gweithrediadau canoedd o gasglyddion ffyddlawn sydd wedi ymgymeryd a'r gwaith da o gasglu, ag sydd eto heb ei ddwyn i'r cyfrif. O'r 241 personau a gymerwyd i garchar yn y dref hon yn ystod nos Sadwrn a Sabbath diweddaf, yr oedd 191 yn feddwon. Yr oedd 63 ag arian gan- ddynt, o 2g. i 25p. Cyfanswn cyfoeth yr oil yn agos i 44p. Yr oedd un o'r carcharorion benywaidd wedi bod yn ngharchar yn flaenorol 17 o weithiau. Nos Sabboth diweddaf lladdwyd tri o bersonau yn Welwyn Junction ar y rheilffordcl. Mae Mr. Stansfield wedi derbyn y swydd o ysgrif- enydd arianol i'r drysorfa. Crea hwn le gwag nghynrychiolaeth Halifax. Dydd Sadwrn diweddaf hwyliodd y Great East- ern o Sheernes am Portland, a'r rhaff bellebrol tan- forawl Anglo-Indiaidd ar y bwrdd. Cyrhaeddodd 350 o Formoniaid Seisnig i Omaha ar yr lleg o'r mis hwn ar eu ffordd i Utah. Mae haint y genau a'r traed wddi tori allan yn nghymydogaeth Bristol. Fel yr oedd saermaen yn gweithio ar ben simndde 130 o droedfeddi o uchder, ger Bristol, llithrodd ei droed a syrthiodd i lawr tu fewn i'r simndde, yr oedd wedi ei ddryllio braidd yn chwilfriw pan y cafwyd ef. Drwy farwolaeth Iarll Derby, bydd i'w fab, Arg. Stanley, gael ei symud i Dy yr Arglwyddi. Ym- ddengys fod Arg. Claud John Hamilton wedi anfon ei anerchiad allan at etholwyr King's Lynn ddydd Llun diweddaf. Y mae teulu yn cynwys deg o bersonau wedi cael eu gwenwyno yn Ffraingc, drwy fwyta ryw fath o ")nttslbroo)i?s oedd yn cynwys gwenwyn ynddynt. LLADRAD o 700p YN WEEXHAM.—Boreu Llun di- weddaf, lladratawyd 700p oddiar gigydd o'r enw Edward Partin. Dywed Partin, yr hwn sydd yn adnabyddus iawn am ei arferion eybyddlyd, ei fod wedi gadael y ty gycla'i chwaer, gyda'r hon y mae yn trigo ac ar eu dychweliad, cawsant fod lladron wedi tori i'r ty, g-ydag ysgol ac wedi agor tair cist, a chario ymaith 700p mewn sovereigns. Mae dau o bersonau wedi eu carcharu ar amlieuaeth. Gwnaed arddanghosiad lluosog iawn am ryddhad FfeiniaidynHydePark, Llundain, y Sabboth diwedd- af. Yr oedd niter luosocach yn y Park nae awelwyd yn un o gyfarfodyddy Cyngrhair Diwygiadol. Mr. J. J. Merriman yn llywyddu; rhoddodd anerchiad faith. Dywedai fod y rhai hyny a geisiant ryddhad y carch- arorion Ffeniaidd ar yr achlysur presenol yn appelio at drugarogrwydd y goron. Cynhygiodd Mr Council- lor Claphan, o Leeds y penderfyniad canlynol:—"Fod y cyfarfod hwn yn ystyried fod sefyllfa boliticaidd yr Iwerddon yn galw am ryddhad yr oil o'r carch- arorion politicaidd, ac y bydd eu carchariad pellach yn creu rhagfarn a drwg-deimlad yn erbyn llyw- odraeth a phobl Lloegr. Eiliwyd y penderfyniad gan Mr. Ryan, a chariwyd ef yn unfrydol. Dar- llenodd Mr. J. L. Daniel gofeb i'r goron i eiriol am ryddhad y carcharorion, yr hon a gymeradwywyd. Mae pla yr anifeiliaid wedi tori allan eto yn Neheu- barth Rwssia, ac y mae yn para eto yn Galicia. Y dydd o'r blaen, fel ag yr oedd lluaws o bobl yn ymdrechu am eisteddleoedd yn y gerbydres yn ngorsaf Greenock, syrthiodd bachgen bychan 14 mis oed o freichiau ei fam, o dan y gerbydres pan wedi eyebwyn, a thorwyd ei ddwy goes ymaith. Er dechreu y mis presenol, mae dros 200 o ber- sonau wedi eu gwneyd yn feth-dalwyr yn Llundain, ac y mae nifer y meth-dalwyr yn y wlad yn lluosog iawn. Y dydd o'r blaen syrthiodd Negesydd y Frenhines i lawr yn farw, yn y swyddfa gartrefol, yr oedd yn cael ei flino gan glefyd y galon. Ychydig ddyddiau yn ol bu farw Mrs. Williams, ceidwad y King William's Tower, ger Ruabon, yn 102 oed. Nos Fawrth diweddaf, yn Hickmondwike, dinys- triwyd gorsaf jiwyddau y Lancashire & Yorkshire Railway, Dinystriwyd gwerth oddeutu 20,000p. Cychwynodd y tan trwy i ryw ddyn daflu tan yn mysg gwellt ar y llawr. Y mae dau o bersonau wedi eu hanafn yn dost drwy i'r mur ddisgyn ar- nynt pan yn ceisio diffoddi y tan. Ni ddisgwylir i un o honynt fyw.
Advertising
ADVICE TO MOTHER.—Are you broken of your rest by a sick child, suffering with the pain of cutting teeth, go at once to a chemist and get a bottle of Mrs Wins- low's Soothing Syrup. It will relieve the poor sufferer immediately; it is perfectly harmless; it produces natural quiet sleep, by relieving the child from pain, and the little cherub awakes as bright as a button." It has been long in use in America, and is highly re- commended by medical men. It is very pleasant to take; it soothes the child; it softens the gums, allays all pain, relieves wind, regulates the bowels and is the best known remedy for dysentery and diarhsea, whether arising from teething or other causes. Be sure and ask for Mrs Winslow's Soothing Syrup. No mother should be without it. Sold by all medicine dealers, at Is Itd per bottle. London Depot, 205, High Holborn.— (ADVT.) MODERN INVENTIONS.-That, g-reat invention the Chronograph," which times all the principal events of the day, and has revolutionized and superseded the clumsy old-fashioned Stop-watch," seems likely to be eclipsed in fame by that still greater and more use- ful invention the "Keyless Watch." The fact of no key being require renders these Watches indispensable to the traveller, the nervous, and invalids. The enor- mous number sent even by post to all parts of the world, is a convincing proof of their great utility. The prices at which they are sold range from 5 to 100 guineas. Thousands of them are manufactured by Mr. J. W. BENSON, of Old Bond Street, and the Steam Factory, Ludgate Hill, London, who sends post free for 2d. a most interesting historical pamphlet upon watch- making.
Family Notices
• -aedi^etiiau, Priodasan, Marwolaetliau. — —: — t -ENEDIGAETHAIT. LISPOOH^MIV^^S^011 EDGE oR Tilliam Jones ar fab. e -Jl, t: h'k noad, Liverpool, priod Mr GriEith Jones ar tan ma?-. A' 21 nriod Mi- »•: -rv u>berts, masnac/iwr coed, Dmbycb., ar fab. n, ndTMr Sa,1illlel Roberts, 78, Squires otreet, Jiidge iiill, .Liverpool, ar tai. 23, yn 16, Thackeray Street, Liveroool, Mrs Tnomas BÜwards ar fab. v 10, yn 16, Brunswick Street, Tra.meve rrriod Mr Lloyd Roberts ar fab. 'i PRIODASAU. I Hydref 13, yn nghapel y Methodistiaid yn Nghor- wen, yn ngwydd y cofiestrydd, Mr II. Jones, gan y Parch. W. Williams, gweinidog, Mr John Roberts, Factory,. Cefnddwysarn, Llandderfel, a Miss Jane Jones, Pentre-llawen, Llangwm. 20, yn Salem, Caernarfon, gan y Parch. E. Evans, y Parch. David Rhys Davies, Waunfawr, a Miss Sarah Thomas, Rochdale. 21, yn Abney Chapel, Mossley, gan y Parch. Edward Minton, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. Hughes, Everton, Mr Hugh Hughes, masnachwr cotwm, Liverpool, a Alice, ail ferch "Hobert Buckley, Ysw., Albert House, Mossley. 22, yn Salem, Caernarfon, gan y Parch. E. Evans, Mr John Griffith Jones, Talysarn a Miss Ellin Williams, Bryncroes. 22, yn Pencae, gan y Parch. J. M. Prytherch, Captain Thomas a. Miss Jones, merch Mr J. Jones, Shop, o'r un lie. 26, yn nghapel y 11-etliodistiaid, Prince's Road, Liverpool, gan y Parch. John Thamas, Taber- nacl, Mr Evan Roberts, a Miss Mary Jones. MARWOLAETHAU. Hydref 7. Mrs Gwenllian Hopkins, anwyl briod y Parch. W. Hopkins, Cymarglyncorwg, yn 45 oed. Ar yr lleg canlynol, rhoddwyd ei gweddillion marwol i orphwys yn hen fynwent yr Alltwen. Yr oedd Mrs Hopkins yn ferch i'r diweddar Mr W. Evans, mineral agent, Ystalyfera, yn chwaer i'r Parch. T. Evans, Tal- garth, ac yn nith i Mrs Griffiths, Alltwen. Yr oedd y trancedig yn enwog am ei sirioldeb, ei lletygarwch, a'i gofal am achos y Gwaredwr. Dangosodd ei chymyd- ogion a'i chydnabod eu parch iddi hi a'i phriod galarus trwy ymgasglu yn llu mawr ar ddydd ei hangladd i dalu y gymwynas olaf. Cyn cychwyn, wrth y ty, dar- llenodd a gweddiodd y Parch. Mr Phillips, (B.), ac anercliwyd y dorf yn bwrpasol a thoddedig iawn gan y Parch. W. Morgan, Maesteg. Gweinyddwyd yn yr Alltwen gan y Parch. W. Watkins, Maesteg. Yr oedd yn bresenol hefyd y Parchedigion Griffiths, Alltwen Evans, Britton Ferry; Davies, Fforchdwm; Evans, Talgarth a Rees, Maesteg. Hydref 14, yn 48 mlwydd oed. Mrs S. Thomas, an- wyl briod Mr W. Thomas, L onmonger, Ceinewydd, ar ol pedair blynedd o gystudd. Yr oedd yr ymadaw- edig yn ferch-yn-nghyfraith i'r Parch. O. Thomas, Brynniair, Ceredigion, ac yn aelod rheolaidd yn eglwys y Towyn, Ceinewydd. Gadawodd briod a thri o blant amddifaid i alaru ar ei hoi. Yr oedd yn teimlo yn dawel a boddlongai yn ei holl gystudd, a bu farw gan ymddiried yn yr Hwn yr oedd wedi credu ynddo yn ei bywyd.-J. 0. IJ. 19, yn Mackenzie Street, Everton, yn 85 oed, w(. Catherine, gweddw y diweddar Mr Evan Evans, Ban- gor, Gogledd Cymru. 19, yn 9, St. Mary's Street, Birkenhead, yn 44 oed, Mr John Jones. 21, yn Glenrafon, ger Cemmaes, Mon, yn 78 oed, Mr Richard Owen. 21, yn 11 wythnos oed, Edward Owen, plen- tyn Mr Hugh Hughes, Draper, Ifolyhead. MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA. Gorphenaf 3, yn Oak Ilill, Swydd Jackson, Ohio, Elizabeth Edwards, priod Mr John Edwards. Ganwyd hi yn y Bw!ch, yn agos i Langeithio, Sir Aberteifi. Yr oedd yn ferch i John a Mary Evans. Aeth i'r wlad hono gyda'i rhieni yn y flwyddyn 1849. Hydref 2, yn Providence, Pa., Daniel Blackwell, yr hwn a gyfarfyddodd a'i ddiwedd yn ngwaith y Dia- mond. Brodor ydoedd o Dowlais, _1III'Ct"
Y FARCHNAD YD.
Y FARCHNAD YD. LLUJSDAIN, DYDD LLUN.—Nid oedd y cynulliad o felinyddion yn y farchnad heddyw yn lluosog, ar gwerthiant yn farwaidd ar bob mathau. Yr oedd cyflenwad da o wenith tramor, y fasnach yn llonydd am y prisiau blaenorol. Cyflenwad gweddol o haidd gyda ychydig o alwad am dano, haidd at fragu yn cadw at y llawn prisiau, brag yn gwerthu yn araf a sefydlog yn y prisiau. Cyflenwad da o geirch gyda chodiad o 6c y chwarter. Ffa yn sefydlog ac yn gwerthu yn araf. Pys yn gwerthu yn araf am y prisiau blaen- orol. Grawn Indiaidd yn sefydlog. Blawd yn sefyd- log. Prisiau yn sefydlog. LIVERPOOL, DYDD .MAWRTH.—Jfae yr yd wedi bod yn gwerthu yn araf iawn drwy yr wythnos: prisiau y gwenith yn tueddu i ostwng. CynulliacJ. bychan oedd yn y farchnad heddyw, gwenith yn gwerthu yn araf gyda gostyngiad o 3c y cant. Blawd yn 6c y baril a'r sach yn is. Ceirch a blawd ceirch yn gwerthu yn araf heb gyfnewidiad yn y prisiau. Ffa yn llonydd am brisiau yn is. Grawn Indiaidd yn gwerthu yn sefydlog am 6c y chwarter yn is na'r Mawrth blaenorol.
MARCHNAD ANIFEILIAID.
MARCHNAD ANIFEILIAID. LLUNDAIN, DYDD LLUN.—Yr oedd y cyflenwad yn cynwys Seisnig 5,498 o anifeiliaid, 17,925 o ddefaid, 198 o loi, 265 o foch. Tramor 2,728 o anifeiliaid, 2,520 o ddefaid, a 1,704 o loi. Prisiau yr 8 pwys:—anifeil- iaid gwaelion, 3s 2c i 3s 8c, ail fathau, 3s 8c i 4s 4c, ychain mawrion da, 4s 6c i 6s 2c, prime Scots, &c., 5s 4c i 5s, defaid gwaelion, 3s 4c i 4, ail fathau 4s 2c i 5s, goreu, 5s i 5s 4c, prima Southdown, 5s 4c i 5s 6c, lloi mawrion, 4s i 5s, bychain da, 5s 4s i 6s, pore bychan, 5s 6c i 6s 2e. LIVERPOOL, DYDD LLUN.—Yr oedd y cyflenwad yn cynwys 3,375 o anifeiliaid, a 14,225 o ddefaid. Y pris- iau yn ffafriol i'r prynwyr. Yr oedd galwad da am anifeiliaid a defaid. Cliriwyd yn dda ar y diwedd. Prisiau:—anifeiliaid goreu, 6fc i 7jjc, ail oreu, 6e i 6ie, 1 4 z 1 4 zell gwaelion, 4c i 6c, defaid, 6c i 8J.
GWER.
GWER. Town Tallow, 48s 6c y cant; rough fat, 2s 4c yr 8 pwys; Russian candle, 60s 6c y cant; melted stuff, 35s Dc.
MARCHNAD GWLAN.
MARCHNAD GWLAN. LLUNDAIN, Hyd. 25—Ni chymerodd un cyfnewidiad pellach Ie yn mhrisiau gwlan trefedigaethol. Gwlan cartrefol yn gwerthu yn fywiog am y llawn brisiau blaenorol.
MASNACH METTELOEDD, &c.
MASNACH METTELOEDD, &c. PLWM. English Pig, 19p Os i 19r, 7s 6c y dynell. Spanish pig, 18p 10s i lSp 10s. Oc. Plwm coch, o 20p 10s i 21p Os; plwm gwyn, 27p Os Oc i 30p Os 00 y dynell. CYMREIG.-Rails, 7p 5s 00.1 7p 10s y dynell yn y gwelth- iau; Common bars, 6p Os Dc i 6p 5s 0c.
MARCHNADOEDD CYMREIG.
MARCHNADOEDD CYMREIG. ABERGELE, Hydref 23.-Gwenith, 14s 9c i 15.5 60 yr hob; haidd 10s 6c i 12s Dc yr hob; ceirch, 6s 9c i 7s 6c yr hob; ffa, 16s0c'i 16s 00 yr hob; blawd ceirch, 36s Qc i 37s 00 y 240 pwys. BALA, Hydref 23.-—Gwenith, 24s 0c i 24s oc ypwn; blawd ceirch, 40s i 42s 00 y pwn haidd, —s oc i —s Oc yr hob; ceiroh, o 9s Oc i 10s 00 yr hob: cig eidion, o 60 i So y pwys cig dafad, 8c i 9c y pwys ymenyn ffres, 14c i 15c y pwys; ymenyn llestri, Cc i Oe y mvys. BANGOB, Hyd. 22.-Gwenith, o 45" Oc i 47s Oc y chwarter: haidd, 34s 00 i 36s 0c; ceirch, 20s 6c i 22s Oe; blawd ceirch, 34s i 36s y 240 pwys.; ymenyn ffres, 19c i 20c y pwys; cig eidion, 60 i 80 y pwys cig dafad, 7c i 8c y pwys; hwyaid, 3s Oc i 3s 6cycwpl; cywion ieir, o 3s oc i 3s 6c y cwpl; wyau, 0 am Os. CAERNARFON, Hyd. 23.—Gwenith,; 44s c6 i 46s 6e y chwar- ter; haidd, 32s 60 i 34s 00 chwarter; ceirch, 20s 6c i 22s 6c y chwarter; blawd ceirch, o 34s 0c i 36s 0c y 240 pwys. CONWY, Hyd. 22.—Gwenith, 15s 6c i 16s 6c yr hob; haidd, lis 6c i 12s Oc yr hob ceirch, 7s 6c, i 8s 6c yr hob ffa, 16s 6e i 17s 06 yr hob; blawd ceirch, o 37s 0c i 38s 0c y 240 pwys.
YR UNDEB CYNULLEIDFAOL.
"7' ^edyddwyr a'r Wesleyaid, at Mr Giaasoone, i °fyn iddo wneud v mesur hwn yn fesur y llyw- odraeth. Cyflwymvyd y penderfyniad i bwyllgor detholed- 19, yr hwn a benlrfynodd na byddai i ddirprwyaeth gael ei happwyntio hyd nes y gelwid am weithrea- Mdunol ar rail yr Angtydffurfwyr. Yna, Mr J. Cooper. Birmingham, a ddarllen- 0<11 bapuT "r Gadw yr ysgolheigion hynai yn ein hysp-aun Sabbothol.' _Jiaradodd Mr 0. Reed, A.S., y Parch. Mr Murphy, -Lambeth, ac amryw eraill, ar y mater hwn. -Uarllenodd y Parch. II. Balgarnie, o Scarborough, aPur ar G-ynydd bywyd ysbrydol yn ein. heglwysi 1 STfarfod ag agweddau newyddion cymdeithas.' -Falwyd diolchgarwch i breswylwyr Wolverhamp- .,0l' arrj. y derbyniad lletygar a charedig a roddasant r Undeb, i'r pregethwyr a darllenwyr y papurau, Cvr ^yw3rdd am ei araeth agoriadol. in yr hwyr, cynhaliwyd oyfarfod ymddiddanol \c°ftversaziore) yn y Corn Exchange. 13oren dydd Gwener yr oedd y frecwast arferol yn ag addysg yn St. George's Hall; ond yr oedd yn wahanol i arfer. Cyfeillion a chefnogwyr y fiwrdd Addysg Cynulleidfaol a fyddai yn arfer cyfarfod, ond eleni gwahoddwyd cyfeillion addysg gyffredinol i gael ymddiddan pa fodd i fyned yn af5n rhagllaw a'r cwestiwn pwysig yma. Yr oedd lawer iawn yn nghyd. Yn unol a'r rhaghys- ysiad llywyddwyd gan Mr S. Morley, A.S.; ac yr °edd Mr Dixon a Mr J. S. "Wright, fel cofnogwyr Juiabyddus Oyngrair Addysg. yno trwy wahoddiad. arllenwyd papur gany Parch. Mr Alliott, o Bishop Retford, ar Addysg y dosbarth canol.' Siaradodd Dixon, yr aelod dros Birmingham, yn helaeth egluro cynllun addysg y cyngrair cenedlaethol. -?arch. Mr'Tapping o "Woolwich, Mr S. S. Mander, y Parch. E. "W. Dale, y Parch. T. Binney, Dr. Un- o Homerton, a gymerasant ran yn y ddadl. T arch. Dr. Park, Llywydd Coleg Andover, yr hwn oedd yn bresenol, a roddodd gyfrif pa fodd yr oedd e1), eyfundrcfti hwy o addysg yn gweithio yn Massa- usetts. Yr oedd dau beth y teimlai y rhan fwyaf ol 'r Siaradwyr yn lledgryf arnynt. Un peth ydoedd ?%lai yr ysgolion fod yn hollol ansectaraidd. Ni .^ywedant na ddylid cynorthwyo yr ysgolion sydd ^oes wedi eu codi gan enwadau, ond y dylai y rhai yny fod yn gwbl agored i bawb fyned iddynt; ond l' ddylid estyn -cynorthwy i unrhyw ysgol newydd &odir ond a fyddo yn hollol anenwadol—a pheth arall y dylid eu cynal trwy drethiad lleol. Teimlai "Oadeirydd gwbl hyder yn Mr Forster, y byddai y T^sur a ddygid i mewn ganddo yn sicr o wneud y a oe^ yn bosibl dan yr amgylehiadau. Yr y teimlad yn unol mai yn awr yw yr adeg i %dlu ar gynllun cyffredinol o addysg dda .ar yr oWyddorion. mwyaf anmhleidiol.