Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
'="=-Øo- FFURFIAU NEWYDDION AM 1869. UEQUHAET & ADAMSON, U GWNEUTHURWYR DODREFN, GWERTHWYR GWELYAU HAIARN, CYLCH- LEDAU, A DODREFN 0 BOB MATH, 13 A 15, BOLD-STREET, LIVERPOOL. mae y Cwmni uchod yn dymuno galw sylw y Cyhoedd sydd eisiau Dodrefn i dalu ymweliad a'r Swyddfa uchod. Mae ganddynt wahanol fathau o Ddodrefn, &c., gweddus i DINING a DRAWING ROOMS,P ARLWRAU,LL YFR- DAI, YSTAFELLOEDD GWELYAU, HALLS, CEGINAU, OFFICES, a CHABAN- AU LLONGAU. URQUHART & ADAMSON, SWYDDFA DODREFN ANEDD-DAI A THY GWELYAU GOGLEDD LLOEGR, 13 A 15, BOLD-ST., LIVERPOOL. Gweithdai, lard Goed, a lleoedd addas i gadw Dodrefn, 24 a 26, Concert-street, a 26 a 28, Fleet-street. Gwerthir i'r Trade. Sypynir eirchion yn barod i'w hanfon i'r wlad am ddim. Bydd i eirchion tramor a morwrol gael y sylw manylaf. WM. SELLERS & CO., Manufacturers and Exporters of ALL KINDS OF SEWING MACHINES, 59, WHITECHAPEL, LIVERPOOL. G. J. JONES, MAN AGER. The SEMPSTRESS Patent Silent Lock Stitch SEWING MACHINE, Price, 16 6s. Hand Machines, from 30s. THE LARGEST SEWING MACHINE IN THE WORLD. Works 80 needles at once. Price X950. Every description of SEWING MACHINES made and repaired. Agents wanted. Bydd pob peiriant a brynir genym ni wedi ei war- antu am 7 mlynedd. Adgyweirir pob un a a allan o drefn o fewn blwyddyn i adeg y pryniad. SEFYDLIAD Y PARCH. JOHN ELIAS YN SALEM, PENGAM. CYNHELIIl Cyfarfod er sefydlu y Parch. J. Elias yn Salem. dydd Sabboth a dydd Llun, y 31ain o Hydref a'r laf o Dachwedd, a byddyn llawen gan yr eglwys a'r gweinidog weled brodyr y sir ac er- eill ar yr achlysur. I ADEILADWYR A CHONTRACTORS. CAPEL NEWYDD YR ANNIBYNWYR YN BETTWS-Y-COED. DERBYNIR TENDERS' am y Capel uchod hyd dydd Mawrth, y 9fed p Dachwedd nesaf. Y cynlluniau (sef y plans, &c.) i'w gweled gan Mr D. M. Davies, Bank Llugwy, Bettws-y-Coed; a T. Hathaway, Ysw., Mount, Bangor. Y Tenders i'w hanfon cyn neu ar y 9fed o Dachwedd, i ofal Mr D. M. Davies, Bank, Llugwy, Bettws-y-Coed. Nid yw y Pwyllgor yn ymrwymo i dderbyn yr iselaf nac unrhyw Dender. CYFARFOD CHWARTEROL DOSBARTH ISAF SIR GAERFYRDDIN. CYNHELIR y cyfarfod nesaf yn Blaenycoed, ar y dyddiau Mercher a Iau, Tachwedd y 3ydd a'r 4ydd. Hefyd, y mae i fod yn Gyfarfod Cenhadol. Bydd y Gynnadledd am haner awr wedi deg y dydd eyntaf (Mercher). Y Cyfarfod Cenhadol am 2 yn y prydnawn; caiff pawb eu llwybr eu hunain i draethu ar y Genhadaeth. Cofied pob brawd yn y cylch ei wneud yn fater cydwybod i fod yn bresenol ar hyn o rybudd. W. M. DAVIES. HEBRON, CLYDACH. CYNHELIR EISTEDDFOD YN Y LLE UCHOD Dydd Nadolig, 1869, Pryd y gwobrwyir yT Ymgeiswyr buddugo1 ar y Testynau canlynol:— 1. I'r cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 30 o rif, a gano oreu Then round about the starry throne,' o Samson, gan ffandel. Gwobr, 8p. 2. I'r cor a gano orau I'r ffynon ger fy mwth gwel Cerddor rhif 37. Gwobr, 3p. 3, rr cor o blant o dan 16 oed a gano oreu Cawnni gwrdd; tri penill, gwel Melodydd. Gwobr, lp. 10s. 4. Am y Traethawd goreu ar I Iawn gynrychiolaeth Cymru.' Gwobr, lp. 10s. 5. Am y Bryddest Goffadwriaethol oreu i'r diweddar Llewellyn Llewellyn, Ysw., Ynyspenllwch. Gwobr, 2p. 2s. 6. Am y Farwnad oreu i'r diweddar Mr Benjamin Bees, Clydach. Gwobr, lp. 7. Am y datganiad goreu o unrhyw gan i anerch yr eisteddfod. Gwobr, 4s.; &c, &c, &c. Beirniad-Tydfylyn. Llywydd-Parch W. E. Jones, Treforris. Cynhelir Cyngherdd yn yr hwyr. Ceir y Programme o'r amodau ond asifou dau Stamp i'r Ysgrifenydd—■ JOHN GRIFFITHS, Ynyspenllwch, Swansea. DYDDIADUR, YR ANNIBYNWYR AM 1870. Dan olygiaeth y Parchedigi on J. Thomas, Liverpool, W. Williams, Birwaun. (YMOEDDIR ef fel y blynyddau or blaen V mewn dwy fiurf-un mewn llian am 6c, a'r Hall mewn croen hardd, gyda chauad, a llogellau, a phapur gwyn llinelledig at gadw cofnodion, ar ei ddiwedd, am Is. 6c. Bydd ynddo agos bob peth a geir yn y Dyddiadur am y flwyddyn hon a rhoddir ynddo wyth tudalen yn ychwanegol er cael lie i'r pethau y bu raid eu gadael allan o IJdyddiadur y flwyddyn hon. Rhoddir papur gwell ynddo, a gwneir rhwymiadyr un Is. 6c. yn gryf- ach. Bydd yn barod ddiwedd Tachwedd nesaf. Bydd y Golygwyr yn ddiolchgar am bob cynorthwy i wneyd y dyddiadur yn gyflawn a diwall. Dymunir cael pob hysbysiaeth am farwolaethau gweinidogion, urddiadau, agoriad capeli, symudiad gweinidogion, eglwysi newyddion, gweinidogion heb ofal eglwysig, Pregethwyr Cynorthwyol, cyfeiriad llythyrau at wein- idogion, y Sabbath Cymmundeb yn Ionawr 1870 yn mhob lie, ynghyd ag unrhyw beth pwysig arall cy- sylltiedig a'r Eglwysi. Bydd raid i bob gwybodaeth ar yr holl bethau hyn fod mewn Haw erbyn Hydref 12fed, 1869, onide bydd yn rhy ddiweddar. Cyfeirier y cwbl i Rev. J. Thomas, 11, The Willows, Liverpool. iW Er arbed pob camgymeriad dymunir hysbysu, na roddir i mewn o newydd enw unrhyw weinidog heb gael gair i'r perwyl oddiwrth ysgrifenyddy eyfundeb lie y byddo ac na thynir yr un enw sydd eisoes i meivn, y allan heb i'r ysgrifenydd hefyd yn swyddogol orehymyn hyny A'r un modd ni ehyhoeddir enwau Pregethwyr Cynnorthwyol heb gael gai»• oddiwrth weinidogion yr eglwysi lie y maent yn aelodau; neu oddiwrth y Diacon- iaid os na bydd gweinielog yn y lie. JLnfoner pob arch- chiou (orders) i Mr. W. Hughes, Dysgedydd Office, Dolgettey, a noder yn eglur pa nifer o bob un a ddewiser gael. JOHN STARKEY AND CO., 12 & 14, PARKER STREET, LIVERPOOL. AGENT FOR THE FLORENCE SEWING MACHINE. Many important advantages possessed by no others. THE Reversible Feed enables the operator, to sew either way; to fasten ends of seams, saving time and thread; to strengthen the seam, where extra strain is liable to come, without stopping or turning the work. The Self-adjusting Shuttle Tension enables the operator to shew goods of different thickness, making in all, without stoppage or change, the same uniform and elastic stitch to sew over heavy seams without breaking thread or dropping stitches. It makes four kinds of stitches with as much ease as ordinary machines make one, and with as little machinery. The sav- ing of thread over machines making the chain or embroidery stitch will in one year be more than the cost of the machine. A machine sews easily 300 yards in a day of ten hours. This will take on the Florence 750 yards of thread, and on the chain stitch machine 1,800, making a difference at the pre- sent price of thread of at least one shilling and ninepence in value per day-over E25 per year. With silk, the difference is, of course much greater, £10 and upwards all found. BP.ITANNIA SEWING MACHINE COMPANY. These Machines combine the best parts of other machines by avoiding their defects, and with recent special improve- ments which no others possess, render them not only the cheapest but the best Lock-stitch machines manufactured. PRICE-(complete with Ornamental Bronze Stand and Polished Circular Table)—6g GUINEAS. Also THE GRESHAM LOCK-STITCH SEWING MACHINE COMPANY. These machines have advantages possessed by no others. They have the reversible motion, and are the only hand mach- ines fastening the ends of seams both at the commencement and finish without removing the work. PRICE-E4 10s.; with Table and Tredle-motion, F,5 10s. Hand Machines 55s. Likewise THE TUDOR NOISELESS LOCK-STITCH SEWING MACHINE FOR TAILORS AND SHOEMAKERS. OXTON &- CO.'S 114, BOLD STREET, LIVERPOOL. YR uchod ydyw yr unig Sefydliad yn Lloegr lie y cedwir dros ugain math o Beirianau Gwn'io i'w gwerthu, a lie y gellir cael w MACHINE L KINDS GYDA GOSTYNGIAD MAWS YN Y PRISIAU. Anfonwch am Restr Newydd sydd i'w chael yn rhad trwy y Post. TELIR CLUDIAD pob peiriant i unrhyw Railway Station yn Mhrydain Fawr, a fyddo wedi ei dalu am dano, heb goel. GWERTHIR I'R TLODION ar delerau esmwyth i dalu. OXTON 0 CO.. 114, BOLD STREET, LIVERPOOL. IMPORTANT TO LADIES. IF YOU WANT A WHEELER & WILSON OR A WILLCOX & GIBBS' SEWING MACHINE, You will save £2 by purchasing it at 0 19, RENSHAW STREET, 19, LIVER POOL. The undersigned have reduced the prices of their stock of WHEELER and WILSON'S own make of SEWING MACHINES, as under:— The SO 0 0 Machine reduced to L7 0 0 „ 10 0 0 do do 8 0 0 11 0 0 do do 9 0 0 12 0 0 do do 10 0 0 „ 15 0 0 do do 13 0 0 &c., &c., with or without the Silent Peed, The "RAYMOND," a First-class Chain-stitch Hand- machine, with tools, ouly £2 10s. WILLCOX & GIBBS' Chain-stitch Machine reduced to 16 5s, Hand or Treadle. Needles for WILLCOX & GIBBS' Machine reduced to 2d. each. Needles for WHEELER & WILSON'S Machine reduced to 2d. each, and all marked to fit. Every other requisite and appliance equally cheap. For Prospectuses and Testimonials, apply to SHAKESPEAR & CO., Agents for the Celebrated ROYAL Sewing Machine, 19, RENSHAW STREET, Liverpool; 32, UNION STREET, Birmingham; or to their Manufactory, BISHOP STREET, Birmingham. The oldest-established Sewing Machine Dealers, except "THOMAS & Co," in England. CAUTION. Wishing for a Wheeler and Wilson Sewing Machine, and seeing one advertised at a Sewing Machine place, at a, great reduction in price, I called to see it with a vis■ of purchasing; I was shown the machine, and intormed that I could have it, but at the same time was told by the salesman, that another make he kept was a great deal better than the Wheeler and Wilson, and on his recommedation I purchased one of the make he recommended. Soon after getting it home, I became convinced that it was not equal to the Wheeler and Wilson, and returned to the place to exchange it for the Wheeler and Wilson, although it was evidently one that was made years ago. The party would not exchange the Machine, though he was offered a pre- mium to do so. I am now convinced that the Wheeler and Wilson Machine advertised at under price, is used as a "decoy duck" by which te sell an inferior article. IIENRY HARRIS. 13, RUSSELL STBEET, LIVERPOOL. RHYBUDD- Y dydd o'r blaen, gwelais hysbysiad fod peir- ianau gwnio Wheeler & Wilson yn cael eu gwerthu mewn un ystordy gyda gostyngiad mawr yn y prisiau. Galwais yno gyda'r bwriad o brynu, gan fy mod eisieu un o'r rhai uchod. Dangoswyd y peiriant imi, a mynegwyd y gallwn ei gael, ond mynegwyd imi yr un amser gan y gwerthydd fod ganddo un o wneuthuriad arall oedd yn tra rhagori ar un Wheeler & Wilson-ac ar ei gymeradwyaeth prynais un olr gwneuthuriad a gymeradwyai. Yn fuan wedi ei gael adref, argyhoeddwyd fi nad oedd yn gystal a rhai Wheeler & Wil- son; aethum yn ol i'r lie i gael ei newid am un Wheeler & Wilson, er ei fod yn un a wnasd flynyddoedd yn ol. Ni ne- widiai y gwerthydd, er cynyg arian iddo am wneud hyny. Yr wyf wedi fy argyhoeddi yn awr nad yw yr hysbysiad fod peir- iant Wheeler & Wilson yn cael ei werthu dan y prisiau ar- fero yn ddim ond rhywbeth i dynu sylw, ac i werthu peiriant gwaelach.-HENRY HABBIS, 13, Russell St., Liverpool. PEIRIANAU GWNIO DYSTAW. MAE Y cwirsrc ENWOG WHEELER & WILSON Yn cynnyg yn awr i'r cyhoedd, welliant cyff- redinol mewn PEIRIANAU GWNIO, DYSTAW YN EU GWAITH, Yr hyn sydd yn welliant rhagor ar eu Peirianau sydd yn barod yn enwog drwy yr holl fyd. DAN AMDDIFFYN BREINT-YSGRIF BRENHINCL ) POB PEIRIANT WEDI EI WAEAXTU. CYFARWYDDYD YN BRAD. Anfonir Prospectus a Samples yn ddidraul gyda'r Post. WHEELER & WILSON COMPANY, 73, BOLD-STREET, LIVERPOOL. TYSTEB Y PARCH. E. EVASTS, LLANGOLLEN. A gydnabyddwyd eisoes 91 17 10 Mr Evan Evans, Llys, Oswestry 0 10 0 Richard Evans, Betrice St., do. 0 2 6 „ John Evans, Joiner, do. 0 2 6 T. A., Liverpool .050 Revd. W. Morgan, Carmarthen. 0 5 0 „ John Peter, Bala 0 3 0 Mr Moses Roberts, Bootmaker, do. 0 2 6 Griffith Griffiths, Driver, do. 0 2 6 R. Rowlands, Tinman & Glazier, do. 0 2 6 „ John Williams, Smith, do. 0 2 6 DOLGELLAU, NADOLIG 1869. T)HODDIR Gwobr o £ 2 2s am y Farwnad oreu i'r JLU diweddar Barch. C. Jones, Dolgellau. Y cyfan- soeldiadau i'w hanfon i Ap Vychan, Bangor, erbyn Rhagfyr 4. Y GYMDEITHAS DDIWYG- IADOL GYMREIG. PENDERFYNIAD y cydunwyd arno yn X Nghyngor y Gymdeithas uchod Hydref 7, 1869. "Fod y Cyfarfod hwn yn cydymdeimlo yn ddwys a'r Ten- antiaid yn Sir Aberteifi a Siroedd eraill yn Nghymru, y rhai sydd yn dyoddef oblegid eu hymlyniad wrth eu hegwyddorion gwladyddol yn ystod yr Etholiad diwerldaf ac yn cymerad- wyo yr awgrym o gynal Cynnadledd gyda'r amcan o gynllunio pa fodd i gynorthwyo y rhai sydd yn cael eu colledu, ac yn dymuno amlygu ei barodrwydd i gydweithredu gydag unrhyw foddion y cytunir arno er cyrhaedd yr amcan." JOHN ROBERTS, Llywydd. J. LLOYD JONES, Ysgrifenydd. :'r.r;?,(.W:¡1 AT EIN GOHEBWYR. Undeb Cynulleidfaol Cymyeig.-Nid oedd yn bosibl gosod ysgrif ragorol Berber ar y mater yma yn ein rhifyn hwn. Daw yn ein nesaf. Da genym ei weled yn cymeryd y mater i fynu o ddifrif. Yr oeddym wedi ysgrifenu gair i'r perwyl cyn gweled yr eiddo ef. e Y Parch. J. Thomas, Liverpool, at y Parch. E. Williams, Dinas, yn ein nesaf. Gyfarfod Cymreig yn Llanofer.—Anfonwyd i ni hanes. maith o gyfarfod dyddorol a gadwyd yn Llanofer. Cadawsom golofn hyd boreu Mercher i ddisgwyl am dano; ond erbyn ei ddyfod i law, gwelsom y cymerai o leiaf bedair o'n colofnau. Rhaid i ni ei adael allan yr wythnos hon. Cawn weled erbyn yr wythnos nesaf pa beth a ellir wneud o hono. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i'n gohebydd ffyddlon, ond y mae ein terfynau mor gyfyng fel nas gallwn hebgor lie i ysgrifau meithion. Pererin ac E. Jones, Ffynonbedr, yn ein nesaf. Adolygiad y Wasg.-Bydd y Beirniad a Ohodi'n For- mal yn ein nesaf. AT Y BEIRDD. e- Et: arbed traul a choll amser, cyfeirier y Farddon- iaetholli REV. R. WILLIAMS (Hwfa Mon), 10, Clayland Road, Kennington, LONDON, Oyfeiriery Gohebiaethau oll-To the Editors of the TYST Cnt- BRIG, 8, Brooks Alley, Old Post Office Place, Liverpool; a'r holl archebion a thaliadau am y TYST i'w gwneud i Mr. O. THOMAS, i'r cyfeiriad uchod.
YR UNDEB CYNULLEIDFAOL.
YR UNDEB CYNULLEIDFAOL. Cynhaliwyd ail eisteddiad yr Undeb Cynulleidfaol ddydd Mercher, Hydref 20fed; ac wedi i'r Parchn. Mr M. Owen, o Audover, a Mr Cotlhart, o Ryde, weddio, darllenodd y Cadeirydd anerchiad a anfon- wyd i'r Gynhadledd oddi wrth Gymdeithas Ddir westol Dosbarth Birmingham a Wolverhampton. Cynwysai yr anerchiad apeliad at yr Undeb o blaid achos sobrwydd—cymhellai fod Cymdeithas Ddir- westol a Band of Hope i gael eu sefydlu ynglyn a phob cynulleidfa-ac erfyniai ar fod sylw neillduo 1 yn cael ei dalu i'r mesurau a ddygir ger bron y senedd yn yr eisteddiad nesaf er cau y tafarnau, yn enwedig ar ddydd yr Arglwydd. Darllenodd y Cadeirydd yr anerchiad yn dda, a rhoddodd y cyfar- fod gymeradwyaeth uchel iddo ond ystyriai amryw y dylesid gwneud mwy na hyny, ac wedi cael amser i wneud hyny yn rheolaidd. Cynhygiodd Mr S. S. Mander benderfyniad i'r perwyl Fod y Gynhadledd gyda boddlonrwydd mawr yn derbyn yr anerchiad, ac yn gorchymyn iddi gael ei hargraffu gyda chof nodion yr Undeb-yn cydnabod yn llawen y daioni mawr sydd wedi ei effeithio trwy y Cymdeithasau Dirwestol, ac yn dymuno iddynt gynydd parhaus — ac yn mhellach yn gwahodd sylw yr Undeb at un rhyw fesurau a ddygid ger bron y senedd er cyfyngu neu roddi i lawr werthu diodydd meddwol ar ddydd yr Arglwydd; yn gystal ag unrhyw fesurau a gyn hygir er lleihau y cyfleusderau i anghymedroldeb ar holl ddrygau cysylltiedig ag ef. Cefnogwyd y cyn- hygiad gan Mr Craven, a siaradwyd yn gynhes arno gan Mr Morley, Mr Grimwade, o Ipswich, a'r Parch. T. G. Horton; a phasiwyd ef heb un llais yn groes. Darllenodd y Parch. J. C. Gallaway adroddiad y Pwyllgor a benodwyd yn nghyfarfod yr Undeb yn Mai diweddaf i ystyried beth a ellid wneud gyda golwg er sefydlu Cymdeithas i Yswirio Capeli yr enwad, yn gystal a phob eiddo arall a berthyn iddynt. Dywedai yr adroddiad fod atebiad wedi ei gael o 1,297 o gapeli mewn canlyniad i gylchlythyr a anfonwyd allan—fod gwerth eiddo y capeli hyny yn 3,108,000p.—24 o'r capeli hyny a aeth ar dan yn -r.:Jf!" holl ystod eu hanes; a derbyniwyd tua 3,00 Op. o Gymdeithasau Yswiriad ar gyfer rhyw 5,000p. a dal- wyd i mewn. Ni chafwyd unrhyw atebiad o 400 o'r capeli i'r rhai yr anfonwyd. Bernid cyn y gellicI sefydlu Cymdeithas y dylesid cael gwarantiad am 10,000; ac yr oedd yn agos i 9,000 wedi eu cael. Yr oedd Syr Titus Salt, Mr S. Morley, a Mr J. Crossley yn barod i roddi mil bob un. Bernid y gellid cael elw mawr oddi wrth y Gymdeithas, ond ei gweithio allan yn briodol; ac y gellid defnyddio yr elw hwn i leihau tal yr ysweiriad, neu i gynorihwyo unrhyw achos a fernid yn oreu. Cynhygiodd Mr S. Morley fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. Dywedai fod llwyddiant y Gym- deithas yn ymddibynu ar y gefnogaeth a roddid iddi gan yr eglwysi; os na wnant, y syrthiai i'r llawr cyn pen ychydig wythnosau. Dywedid wrtho ef mai y rhwystr mwyaf ar ffordd cael yr eglwysi i ys- wirio eu capeli yn y Gymdeithas hon fyddai fod llawer iawn o ddiaconiaid yn oruehwylwyr mewn Cymdeithasau ereill; ac oblegid hyny, y rhoddent eu holl ddylanwad yn ei herbyn, Oredai ef y gellid ei gwneud i dalu, ac y byddai elw da oddi wrthi; a gogwyddai ef o ran ei feddwl i roddi yr elw hwnw at leihau y tal blynyddol am ysweirio fel y peth tebycaf i atal pob cynen gyda golwg ar ddosbarthiad yr arian. Cefnogwyd ef gan Mr Grimwade. Siaradodd Mr Glover, Mr Daniel Pratt, Mr Henry Lee, ac amryw weinidogion ar y mater. Yr oedd Mr Pratt yn teimlo yn wrthwynebol i'r amcan, am ei fod yn dwyn yr Undeb i fod yn fath o gwmni masnachol; ond sicrheid na fwriedid dim o'r fath beth. Y byddai cwmni yr ysweiriad yn hollol Annibynol ar yr Un- deb ond yn unig fod yr Undeb yn rhoddi pob cefn- ogaeth i'r eglwysi ysweirio eu heiddo ynddo, a'r holl elw i fyned at wasanaeth crefydd, naill ai mewn rhoddion at gapeli, neu i leihau y tal blynyddol am yswirio. Pasiwyd y penderfyniad, a chyflwynwyd ef i Bwyllgor yr Undeb i wneud ymofyniad yn ddioecl ydyw yr eglwysi yn debyg i gefnogi y fath Gym- deithas trwy ysweirio ynddi. Dygodd y Parch. W. Guest ger bron adroddiad y Pwyllgor neillduol a benodwyd i ystyried a ellir ffurfio yr hyn a elwir yn Ministerial Sustentation Fund'-hyny ydyw, trysorfa er cynorthwy cynhal- iaeth y weinidogaeth. Dygid llawer o engreifftiau o weinidogion yn llafurio am gyfiogau bychain iawn; a'r amcan ydyw sicrhau na byddo yr un gweinidog o dan ryw swm penodol—dyweder 80p., lOOp., neu 150p.-yn ol y lie y byddo yn llafurio. Bu siarad maith ar y mater gan y Parch. W. Roberts, Hollo- way; Parch. R. Macbeth, Mr Davies, Oswestry; Parch. J. Kennedy, Parch. J. H. Wilson, Mr Morley, a llawer ereill. Mynai rhai alw Cynhadledd yn ddi- oed o ryw rai o bob cyfundeb trwy y deyrnas i gael eu barn ar y mater; ond dadleuai ereill fod mwy o anhawsderau i gario y peth allan nag a dybiai llawer o honynt; ac oblegid hyny, mai gwell oedd gadael i ddoethineb y Pwyllgor alw y Gynhadledd pan y barnont oreu; ac ar hyny y cytunwyd, ond ar y de- alltwriaeth fod Cynhadledd i'w galw pan fyddo y cynllun yn addfed i'w osod ger bron. Am dri o'r gloch yr oedd y prawf cyntaf yn cael ei wneud ar y cyfarfodydd adranol (sectiorul meetings). Cynhaliwyd cyfarfod yn ystafell Snow Hill, dan lywyddiaeth Mr W. H. Groser, pryd y darllenwyd papur galluog iawn gan Mr Neville Goodman, M. A., 'ar y moddion goreu i ddiogelu i ni ein hunain fanteision Prifysgolion Cambridge ac Oxford er addysgu ein gweinidogion.' Cafwyd ymddiddan ar y papur yn yr hwn y cymerai Mr Dale, Mr Charles Reed, Mr Morley, Mr Bruoe o Huddersfield, ac eraill ran. Yr un awr, yn nghapel Snow Hill, yr oedd cyfar- fod lluosog dan lywyddiaeth Mr F. J. Hartley, lie y darllenwyd papur gan y Parch. J.. B. Paton, M.A., ar y seiliau y mae undeb yn bosibl rhwng y Pres- byteriaid a'r Cynulleidfawyr.' Cymerodd Dr. Puls- ford, a'r Parch. J. Kennedy, ran arbenig yn y ddadl. Yr un awr yr oedd cyfarfod yn ysgoldy Temple Street, dan lywyddiaeth Mr H. Wright, pan y dar- llenodd y Parch. E. R. Conder, M.A., bapur ar- dderchog ar yr Eglwys a'r gynulleidfa.' Bu yma ddadl frwd iawn, ond brawdol hollol. Mae y prawf cyntaf ar y cyfarfodydd adranol hyn wedi bod yn llwyddiant hollol. Mae y gynhadledd oil yn rhy luosog o lawer i gael rhydd ymddiddan ar unrhyw fater. Nos Fercher, yr oedd amryw gyfarfodydd. Am haner awr wedi chwech, yr oedd pregeth i blant gan y Parch. J. Curwen yn nghapel Queen Street; a chyfarfod yn y Town Hall, Birmingham, dan lyw- yddiaeth Mr Charles Reed, ;A.S.; ond cyfarfod mawr y noson hono oedd cyfarfod i'r gweithwyr fel y gelwid ef, yn yr Agricultural Hall, dan lywyddiaeth Mr S. Morley, A.S., ac yr oedd yno dyrfa fawr; as areithiwyd yn rhagorol ar gyfaddasder a manteision Cristionogaeth i'r dosbarth gweithiol, gan Mr Henry Lee, o Manchester y Parch. H. Farrant, o Leeds; a'r Parch. T. Davies, Darwen. Cafwyd araeth alluog iawn gan Mr Davies, Darwen; ond eiddo Mr Farrant oedd yn cydio yn y dorf fawr. Cyfarfod rhagorol yn mhob ystyr. Boreu dydd Iau, am haner awr wedi naw, oyfarfu y gynhadledd drachefn yn nghapel Snow Hill. Dywedai y Parch. R. W. Dale, wrth agor y cyf- arfod, fod llythyr wedi dyfod i law oddiwrth yr Anrhyd. Arthur Kinnaird, yn yr hwn yr oedd y boneddwr hwnw yn gofyn am i sylw gael ei wneud gan yr Undeb o'r llythyr a gyhoeddwyd gan Dr. Merle D'Aubigne mewn perthynas i'r Cynghor Cyff- redinol yn Rhufain. Yr oedd Dr. D'Aubigne wedi awgrymu y cynhelid Cynghor Cyffredinol Protest- anaidd, yn ebrwydd ar ol y Cynghor Rhufeinig, yn Geneva, ac y dylai gweinidogion efengylaidd Pro- testanaidd o bob enwad drwy Ewrop yn ystod mis Rhagfyr alw sylw eu cynuileidfaoedd at egwyddor- ion mawrion Cristionogaeth, y rhai oedd yn gwahan- iaethu rhyngddynt hwy ag Eglwys Rhufain. Yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, meddai Mr Dale, ni bu cyfeiriadau mynych yn cael eu gwneud at y ddadl fawr Brotestanaidd; ond yr oedd efe yn meddwl, er hyny, nad oedd y ddadl wedi ei hang- hofto (cymeradwyaeth). Nid oedd raid i'w cyfar- wyddiadau i'r cynulleidfaoedd gymeryd gwedd ddadleugar, ond dylai pob gweinidog roddi cyfar- wyddiadau clir i'w bobl ar y pynciau athrawiaethol ae eglwysig y byddont yn sefyll mewn angen am eu deall. Dylent hefyd weddio ar i Dduw roddi i ddynion yn Eglwys Rhufain wybodaeth gliriach am dano ei hun, fel y gwnaeth i rai yn yr Eglwys hono yn yr oesoedd o'r blaen. Yr oedd galwad y Cyng- hor hwn wedi creu gryn g-ynhyrfiad yn Eglwys Rhufain. Gobeithiai efe y byddai i bob Cristion weddio nid yn erbyn, ond am ddychweliad Eglwys Rhufain (cymeradwyaeth). Y Parch. H. Farrant, o Leeds, a gynhygiodd:— 'Fod yr Undeb yn croesawu y dirprwywyr o'r Iwerddon a'r Alban, ac yn amlygu cydymdeimlad gwresog gyda'r Cynulleidfaolwyr yn y gwledydd hyny.' Wedi pasio y penderfyniad hwn, a rhai pethau eraill, Cynhygiodd y Pare. Jh. Harrison y penderfyniad canlynol, a chariwyd ef :— 'Fod y Gynhadledd hon yn edrych gyda boddhad mawr ar yr ymdrechion parhaus a wnaed yn y Senedd i agor Prifysgolion Rhydychain a Chaer- grawnt, ac i symud y prawflwon crefyddol hyny oedd yn ymarferol yn cyfyngu y budd oddiwrthynt i un blaid yn unig yn y Wladwriaeth.' Dywedodd Mr Neville Goodman ei fod ef wedi ei genhadu i ofyn i'r Undob Cynulleidfaol anfon dirprwyaeth, gyda dirprwyaethau eraill oddiwrth y
IYR WYTHNOS
YR WYTHNOS DIODDEFWYR 0 ACHOS CYDWYBOD. Y mae Cynhadledd bwysig i gael ei chynal yn Aberystwyth, yn dechreu dydd Mawrth, Tachwedd 16eg, i gymeryd i ystyriaeth pa fesurau a gymerir er cynorthwyo y rhai o achos pleidleisio yn ol eu cydwybodau a drowyd allan o'u lleoedd mewn gwahanol barthau yn Nghymru. Disgwylir cynulliad pwysig a dy- lanwadol iawn. Bydd y rhan fwyaf o'r aelod- au rhyddfrydig Cymreig yno, ac y mae S. Morley, Ysw., A.S., wedi addaw bod yn bres- enol. Gwyr pawb ei fod ef yn gyfaill trwyadl i Gymru, ac y mae yn barod ar yr achlysur presenol i estyn cymhorth sylweddol. Y mae cydymdeimlad dwfn yn cael ei broffesu a'r dy- oddefwyr, a gobeithio y dangosir hyny trwy estyn cynorthwy iddynt. Bwriedir cael cyf- arfod mawr yn Liverpool yn ddioed wedi Cyn- hadledd Aberystwyth. Buasai y Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig wedi symud yn y mater, ond ei bod yn teimlo mai y cyfeillion yn Aber- ystwyth sydd yn fwyaf hysbys o'r amgylch- iadau a ddylai gymeryd y blaen. MR. GLADSTONE A'R FFENIAID. Mae Mr Gladstone, yn enw y Llywodraeth, wedi ateb yr erfyniadau am ryddhau y Ffen- iaid sydd yn ngharchar. Y mae ef wedi dy- wedyd yn eglur wrth Bwyllgor Limerick fod y Llywodraeth yn barnu yn benderfynol y byddai rhyddhau y carcharorion yn peryglu heddwch y wlad, ac y mae wedi dyweyd rhes- ymau y Llywodraeth dros y fath benderfyn- iad:—Nad oes un sail i feddwl fod y carchar- orion wedi newid eu bwriadau, drwy fod gan y Llywodraeth seiliau i farnu nad ydyw Ffen- iaeth ddim wedi darfod yn y wlad hon nac yn America, a bod rhai o'r newyddiaduron Gwy- ddelig, y rhai a ofynant am ryddhad y car- charorion, yn parhau i lefaru mewn modd ag sydd yn tueddu i aflonyddu ar heddwch y wlad. Y mae y rhesymau yn rhai digonol i bobl gall; ond yr anffawd ydyw, fod y bobl gall yn brin yn yr Iwerddon, fel mewn llawer gwlad arall. Er mor deg a phenderfynol yr ymddangosai atcbiad Mr Gladstone, i bobl ddiragfarn, nid oedd wrth fodd y Ffeniaid. Cynhaliasant gyfarfod mawr yn Hyde Park y Sul diweddaf, pryd y penderfynwyd anfon erfyniad at y Llywodraeth ar ran y carcharorion. Dywedir fod 50,000 yn bresenol yn y cyfarfod. Gall Mr Gladstone a'r Llywodraeth fforddio bod yn benderfynol ar y mater hwn, oblegid eu bod eisoes wedi rhoddi profion boddhaol eu bod am lywodraethu yr Iwerddon yn deg a chyfiawn. 7 Yr ydym yn gobeithio y daw y Gwyddelod yn fuan yn ddiolchgar am yr hyn y maent eisoes wedi ei gael gan y Llywodraeth bresenol, acy dysgant ddisgwyl yn bwyllog ac amyneddgar am y gweddill o'u hiawnderau gwladol. MARWOLAETH IARLL DERBY. Am saith o'r gloch boreu dydd Sadwrn, bu farw y pendefig enwog Iarll Derby, yn neuadd henafol Knowsley, yn agos i Liverpool. Yr oedd y pendefig hwn yn nodedig o boblog- aidd fel tirfeddianydd, ac yn meddu dylanwad rhyfeddol ar feddyliau ceidwadol, ac y mae .I- galar mawr ar ei ol trwy holl wersyll y Tori- aid. Yr oedd llawer o bethau wedi cydgyf- arfod i wneyd y diweddar Iarll Derby yn boblogaidd-yr oedd yn cynrychioli un o deulu- oedd mwyaf henafol a phendefigol Prydain Fawr, a gallwn olrhain ei linach cyn belled yn ol a dydd William y Cyntaf, a chyn hyny. Yr oedd yn un o'r tirfeddianwyr mwyaf yn y deyrnas. Yr oedd amryw o'i lienafiaid wedi chwareu rhanau pwysig yn hanes Lloegr. Yr oedd ei henafiaid wedi brwydro o blaid Pro- testaniaeth yn erbyn llawer o'u cymydogion yn N gogledd Lloegr. Ond afreidiol ydyw i ni ddywedyd ychwaneg am dano yn y golofn hon, gan fod erthygl helaeth arno mewn rhan arall o'n rhifyn presenol. Dydd Gwener y cleddir efheb na rhwysg na chyhoeddusrwydd, yn Knowsley. DR. TEMPLE A'l WRTHWYNEBWYR. Ymddangosai unwaith y byddai y gwrth- wynebiad i appwyntiad y Dr. Temple i esgob- aeth Exeter yn nerthol a phenderfynol. Ond fel arall y mae pethau yn argoeli yn bresenol, canys y mae y gwrthwynebwyr yn gostwng eu hadenydd, ac yn tynu i lawr eu banerau. Gwrthododd Arglwydd Shaftsebury ymsymud i faes y frwydr, ysgwydd yn ysgwydd a'r Dr. Pusey, a dywedai y Deon Close nad oedd gan- ddo resymau digonol dros ymuno a phwyllgor o gyfeiliornwyr er gwrthwynebu cyfeiliornwyr eraill. Mae yr holl "anwyl gariadus frodyr hyn, oil yn perthyn i'r un enwad, a'r enwad hwnw wedi ei gysylltu a'r llywodraeth er dy- ogelu unoliaeth barn ac ymarweddiad! eithaf trefa i cldwyn crefydd i warth a dirmyg, ac i fagu a meithrin anffyddiaeth a difaterweh. Yr oedd larll Derby wedi datgan dymuniad am i'w gladdedigaeth fod yn gyfyngedig i'w berthynasau agosaf, ac yr oedd wedi gadael y dymuniad yn ofalus mewn ysgrifen. Anfonodd y Frenhines at Arglwydd Stanley am ganiatad i anfon cynrychiolydd i'r angladd, a dangosodd Iarll Sefton, Maer Liverpool, a llawer eraill ddymuniad am gael bod yn bresenol ar yr ach- lysur. Ond atebai Arglwydd Stanley ei fod ef a'r teulu yn rhwym o barchu dymuniad yr ymadawedig. Bydd Arglwydd Stanley yn myned i Dy yr Arglwyddi mewn canlyniad i farwolaeth ei dad. Mae sedd wag yn King's Lynn, a dy- wedir fod Syr Fowell Buxton yn ymgeisydd ar ran y Rhyddfrydwyr. MR. LAYARD. Mae Mr. Layard, yr hwn a enillodd enwog- rwydd yn ei ymchwiliadau yn Ninife, wedi ei appwyntio i fyned yn Genad Prydeinig i lys Madrid. Bydd He gwag yn Southwark. Y mae eisoes haner dwsin o ymgeiswyr ar y maes, ac yn eu mysg Mr. J. S. Mill. GLAiSriAD Y PARCH. E. EVANS, NANTYGLO YN NEW YORK. Mae y newydd wedi ein cyrhaedd fod y Parch. E. Evans, wedi cyrhaedd New York yn ddyogel er dydd Sadwrn diweddaf. Cych- wynodd yn y Nevada dydd Mercher, y 14eg o'r mis hwn. Cafodd ef a'i gyd-deithwyr for- daith gysurus.