Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
ABERTEIFI.
ABERTEIFI. CAPEL NEWYDD Yn ANNIBYNWYK.—Y mae'r adeilad hardd hwn yn dyfed yn mlaen yn gyflym. Y mae r oil o hono dan do yn bresenol; ae wrth bob rhagol- ygon sydd yn m, nid hir fydd y gynulleidfa cyn cael nqned yn ol i'w hen gartrefle, y rhai sydd yn bresenol yn addoli yn Neuadd y Dref. Wedi ei orplien, bydd yn un o'r capeli harddaf o ddigon a fedd yr en wad yn y parth hwn o'r Dywysogaeth. Bydd yn gofgolofn ardderchog i'r oesau a ddel am y llafur a'r ymdrech di-ildio a berthyna i'r gweinidog a'r gynulleidfa yn gyffredinol. Y mae y cynghor hwnw, sef Grweithiwc.h gartref,' i'w weled yn am- Iwg yma, gan fod yr eglwys wedi cyfraiau mor hel- aeth, heb fyned i }lHcfyn oymhorth gan neb hyd eto; ond diau na ddeuant i fyny a'r ddyled heb fyned i ymofyn cynorthwy gan rywrai, gan fod y gynulleidfa yn gynwysedig y rhan fwyaf o'r dos- barth gweithiol. PETH NEWYDD YN ABERTEIFI.—Da genym allu hysbysu fod ein cyd-drefwr Mr T. Thomas, Foundry, wedi llwyddo i gael breintlythyr ei Mawrhydi y Frenhines am ei ddyfais newydd yn gwneuthur melin tuag at falu llafur, yn gweithio wrth agerdd, neu gellir ei throi i weithio wrth geffylau. Y breintlythyr hwn ydyw y cyntaf a wyddom a gaf- wyd i Aberteifi a'r cymydogaethau. LLANDITDOCH.—Ifos lau, Hydref 14eg, cynhaliwyd cyngherdd yn nghapel y Bedyddwyr, o herwydd fod Capel Seion (T. C.), yn yr hwn y bwriedid ei gynal yn rhy fychan i gynwys y gynulleidfa. Gwasan- aethid ar y pryd gan wahanol gorau cymydogaethol, ac yn eu plithyr oedd cor byohan Henllys. Canodd y corau oil yn nodedig o dda; ond nid oeddynt i gyffelybu i'r cor hwn. Yr oedd yr elw deilliedig oddi wrth y cyfarfod yn cael ei roddi tuag at gy- northwyo capel bychan Glanrhyd, yr hwn sydd yn cael ei gyfodi o'r newydd.—D. J.
BIRKENHEAD.
BIRKENHEAD. Bu y Parch. W. E. Morris, mab y diweddar Barch. W. Morris, Llanfyllin, ar ymweliad a'i berthynasau yn y dref hon yr wythnos ddiweddaf. Cenhadwr ydyw Mr Morris yn yr India Ddwyreiniol, ac wedi profi ei hun yn weithiwr diflefl. yn y maes hwnw. Nos lau, cynhelid un o gyfarfodydd Cymdeithas Blodau yr Oes yn Ysgoldy Capel Oliver Street, a chydsyniodd Mr Morris yn garedig i roddi anerchiad i'r plant. Darluniai yn fywiog a hapus ddefodau ac arferion yr Indiaid. Daliai yn ei law un o eulun dduwiau y brodorion, o gareg wedi ei cherno yn gywrain, a alwent duw y rhwystrau.' Dangosai i ni hefyd ysgriflyfr tra chelfydd, wedi ei lunio o rusgl y coed. Anrhegodd ni ag engreifftiau difyrus O ddull yr Indiaid o ganu. Mae cryn debygrwydd rhwng oslef hiraethlawn eu cerddoriaeth hwy a'r eiddom ninau. Mae Mr Morris yn meddu ar lais mawr, per, a scniarus fel ei hybarch dad. Ewyllys Duw yw llais da.' Gellid meddwl yn sicrfod cerddor o'r iawn ryw yn wasanaethgar iawn dros Dduw gyda'r genhadaeth. Crybwyllai yn ei lith ei fod weithiau yn sefyll ar gongl yr heol i ganu un o hoff donau y wlad er mwyn enill sylw a chasglu pobl. Datgenid amryw ddarnau cerddorol gan y plant, dan arweiniad Mr Gray.I ga_pit.
CASTELLNEDD.
CASTELLNEDD. Mae Mr T. Lyke, diweddar fyfyriwr o Goleg Aberhonddu, wedi derbyn galwad unfrydol oddi- wrth eglwys Annibynol Seisnig, Wind Street, Cas- tellnedd, ae y mae yntau wedi ei hateb yn gadarn- haol, ac wedi dechreu ar ei weinidogaeth Sabbath, y lOfed o'r mis hwn. Gobeithio y bydd llwyddmnt mawr yn dilyn ei lafur yn ei faes newydd.
BLAENAU FFESTINIOG. i
BLAENAU FFESTINIOG. Bu y Parch. John Mills yn ymweded a m yma dros y Feibl Gymdeithas, nos Lun diweddat -C,g- lurodd sefyllfa a gweithrediadau y Fam &ymde^ as,' a darllenodd Mr Daniel Wxlliams yi hyn a wnaeth ei I phlant' yma i'w chynorthwyO. Drwg genym fod rhai dosbarthiadau, a dwy o a arferent gasglu yn rhagorol wedi esg fan heb wneud, y flwyddyn ddiweddaf. Ar J y^ cafwyd adroddiad ffafriol, a dangosai y y e-vnydd. Mae y Methodistiaid Calfinaidd yn adeiladu add- oldy eang ac ardderchog ar fryn mchus yCefafaes yn lie Bethesda. Bydd hwn eto yn ychwaneeiad pwysig at gyfle addoli yn einhardal-ac adlewyrcha mewn modd cyhoeddus haelioni a gweithgarwch di- flino y brodyr hyn-at y rhestr a feddent yn flaen- orol yma o addoldai.— Gohebydd.
LLANDEFEILOG.
LLANDEFEILOG. YSGOLDY PEYDEIS-IG.—Cynhaliwyd y Ddarllenfa Geiniog gyntaf yn y lie uchod nos Fercher, Hydref 20fed. Cawsom yr anrhydedd o gael Mr R. Stephens, Coedybrain, i'r gadair, yr hwn a'i llanwodd yn dde- heuig, ac a ganodd amryw ddarnau, y rhai a enill- asant gymeradwyaeth yr holl dorf. Arweinydd y cyfarfod oedd Awstin, yr hwn a roddodd anerchiad barddonol i'r cyfarfod ac i'r cadeirydd. Canwyd a darllenwyd gan amryw yn wir dda.—Liange o'r lie.
LLANARTH.
LLANARTH. Yr oedd dydd Gwener diweddaf yn ddydd o gryn gyffro yn y lie hwn. Yr achos o hono oedd priodas Cadben Thomas, Castle House, a Miss Jones, Shop, Llanarth. Ar ol ciniaw, ymadawodd y cyfeillion ieuaingc am Caerdydd. Yn yr hwyr, goleuwyd y lie yn brydferth iawn. Felly y gwnelai y bobl i'r rhai yr oeddynt yn chwenych eu hanrhydeddu.— Glanllethydd.
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. Y BYEDDAU LLBOL. Yr wythnos ddiweddaf, dywedasom fod y Bwrdd Iechyd mewn helynt. Erbyn yr wythnos hon ym- ddengys fod rhyw bersonau, i ryw ddybenion, wedi taenu ar led fod Bwrdd y Gwarcheidwaid yn yr un cyflwr anffodus,-fod eu cyfrifon hwythau fel eiddo y Bwrdd Iechyd mewn cyflwr na ddylent fod. Pan ddaeth hyn i glustiau y Bwrdd, yn union, heb oedi dim, penodwyd Pwyllgor i archwilio y llyfrau. Nid am fod un o honynt am foment yn amheu cywirdeb y cyfrifon, na neb arall yn y dref, ond rhyw berson- au maleisddrwg, ond er mwyn rhoddi boddlonrwydd i'r teimladau anesmwyth sydd wedi codi yn meddyl- iau rhyw ddynion yn herwydd y fath chwedlau, ac er mwyn amddifyn ar dir teg gymeriad eu hysgrif- enydd. Yr ydym o waelod calon yn diolch iddynt am gymeryd y mater mewn llaw. Nid ydym yn petruso dim am y ddedfryd, oblegid braidd na ddy- wedwn y gwyddom mai dieuog fydd. Er hyny nid oes niwed yn y byd mewn gwneud archwiliad achly- surol i gyfrifon Byrddau cyhoeddus. Gelwir ar y Bwrdd hwn yn fuan i ethol Meddyg yn lie y diweddar Dr. Griffiths. Ymddengys fod amryw ymgeiswyr eisoes ar y maes. Da genym weled fod J. Jones Gabe, Ysw., yn un o honynt. Mae Mr Gabe yn enedigol o'r lie, ac wedi enill iddo ei hun radd dda yn ei arholiadau yn Llundain. Dechreuodd ei yrfa feddygol dan arweiniad Dr. Thomas, Gyfarthfa. Felly gallwn fod yn sicr fod y ground work yn dda. Er hyny y mae wedi cael blynyddoedd o ymarferiad yn Llundain yn y Meddygdy, yn Mountain Ash, ar ol hyny yn ymyl Wrexham. Y mae yn awr yn Dowlais. Nis gall neb fod yn fwy cymwys i lanw cylch fel hwn, nag un wedi ei fagu yn y lie. Gwyr am arferion y bobl, y mae yn gallu deall a siarad eu hiaith, yr hyn i'n tyb ni sydd gymwysder anhebgorol mewn meddyg. Credwn fod llawer meddyg wedi ei gamarwain, a thrwy hyny llawer claf wedi dyoddef anfantais os nid angeu, am nad oedd y claf a'r meddyg yn deall iaith eu gilydd. Gan fod Mr Gabe yn eithaf gallu- °§ i gyflawni y gwaith, ac yn ychwanegol at hyny yn enedigol o'r lie ac yn gallu siarad Cymraeg glan gloew, y mae ein gobaith yn gryf mai efe a ddewisir.
ABERHONDDU.
ABERHONDDU. Y COLEGDY COFFADWRIAETHOL. Mae y Parch. W. Williams, Abercwmboy, wedi anrhegu y sefydl- iad uchod ag Achromatic Telescope hardd at wasan- aeth y myfyrwyr. Mae Mr Williams yn hyn wedi dangos doethineb ynghyd a charedigrwydd mawr. Gobeithio y bydd i ereill eto ei efelychu, nid yn rhoddiad Telescope arall, ond yn yr ysbryd barodd hyny. SOIREE.-Prydnhawn dydd Mercher, cynhaliodd y brodyr y Bedyddwyr Soiree i athrawon a chyfeillion yr Y sgol Sabbothol yn benaf, yn y Town Hall, yr hon a drodd allan yn llwyddianus iawn. Ar ol gwneuthur cyfiawnder, ac fe allai peth cam hefyd, a'r darpariadau i'r dyn oddi mewn, cafwyd cyfarfod o natur arall. Cymerwyd y gadair gan y Pareh. J. Evans (B.); ac ar ol canu tonau acanthemau, chwa- reu ar y piano, ac areithio, terfynwyd cyfarfod hyf- ryd iawn trwy ganu y Doxology. Y PYSGOTWYR.—Bu cyfarfod pur gyffrous yn y Town Hall dydd Mawrth, er cymeryd i ystyriaethy rheolau yn nghylch pysgota yn yr afon Wysg. Cy- merwyd rhan ynddo gan Arglwydd Tredegar, Hon. Major Morgan, A.S., gwahanol foneddigion y dref a'r ardal, ynghyd a physgotwyr y lie. Dangoswyd cryn anghymeradwyaeth i'r deddfau caeth presenol, ac addawyd gwneuthur cyfnewidiadau mawrion yn- ddynt.
I AWDL Y BORE. i
AWDL Y BORE. (Far had.) Yn y borau Gwelir dorau Gloew'r dwyrain, Euraidd, ceinbryd, Yn agoryd Oil yn gywrain. O'i wely euraidd cwyd haul eirian, Heria d'wlllnveh, fel cawr daw allan; Ei fywiol wawr yu fuan-trwy wybrau, A bar wenau,—dadebra anian. A'r lleuad weithion, orllwyd deithia Hyd oer echwydd,—g-weddw edrycha; Ae hyd y wiwnef llesga Deiana,- Er ei diddanwch, trwy y dydd hun a: Dan orchudd ymsudda—mewn distawrwydd, Yn bur ddedwydd am y nos breuddwydia. Yn fyw, ar dan, forau y dydd--anian Adlona trwy'i gilydd; Crechwena, rhodda yn rhydd—fawl i'r Ion, Yn fwyn o'i chalon, heb ofri na chywilydd. Y ddaiar, o'i hagwedd wywol-egyr Ei llygaid yn siriol; I'w hiawn wedd hi ddaw yn ol, A hardd wena'n arddunol. 0 weled goleu'r heulwen, Ceir pob bro yn gwisgo gwen. Y blodau byw a ledant I gyd, sychu'u dagrau wnant: A'u gwenau pur ddadganant-alluln Rhi, Y gerddi eurog urddant. A theg faesydd, Ffrwythlon fronydd, A heirdd ddolydd, Iraidd hilianfc; Godrau'r myaydd, Gwylltion nentydd, Hawddgar weunydd A goronant. O'u nythod yn lion v,eithian-dawlr adar, Ehedeg wnant allan; Drwy y nwyfre, draw'n hofran, Ceir hwy'n awr, rai mawr a man. Ac o lawnion galonau-ugeiniau Ganant -,tlu telynau: Yr Ion a fynant fawrhau IN unol am ei fwyn wenau: Ar hoew aden yr ehedydd-frv â, Yntau abertha foliant i'w Borthydd. A'r gwenyn gweithgar ganant-foreu haf,— 1'1' ardd oyd-brysurant; Oil i'w digoll gell dygant Sug y blodau goreu gant. Hyd faes anifeiliaid fydd-y boreu'n Cyd-bori yn ddedwydd, Neu'n pranciaw, a rhodiaw'n rhydd A dilesg, hyd y dolydd. Heolydd y trefydd hilir--â phobl, A phawb yn fyw welir Ac o leoedd pell clywir Berw a swn parhaus, hir. Rhyw fawr dwrf foreu y dydd,-a chynhwrf, A'n cylchyna beunydd; Erch swn cerbydau meirch sydd—drwy ein tir,— Draw e'u gwelir yn chwyrnu drwy'u gilydd. Llenwir pob peth a llawenydd-a mawl Am oleu'r boreuddydd: Aberthir i'n Mawr Borthydd: Eithr y diawl felldithia'r dydd. Y gweithwyr-gwyr rhagoraf- Pan wawrio, yn gweithio gaf Hwy-rymus wyr—i'r maes âut- At eu gorchwyl eyd-gyrchant Yntau'r diail fugail fydd I'w weled hyd y moelydd, Pan wawrio, yn dringo drwy Anhydeg le ofnadwy, A'i braidd yn llwybro o'i ol— Adwaenant ei lais denol; A'u ha,rwain trwy'i deg eiriau Y boreu iyn i borfau. Hwyliaw at eu gorchwylion Y ceir pawb yr adeg hon: Cla'n ei gur rhyw gysur ga Weithion. a'i fron esmwytha. Deffroad, adfywiad fydd Drwy y wlad: ar aelwydydd Anwyl deuluoedd a wenant,— Ar ol nos sirioli wnant, A dont i gyfarch y dydd 0 galon gyda'u gilydd: Pob genau-pawb a ganant- Moli Ner am wawl a wnant. Y duwiol a'i anwyl deulu wenant— Ar eu haelwyd hyfrydawl siriolant; I Dduw gwir fawl yn rhwyddawl a roddant- Am ei haelioni hwy a'i melianant: Gyda gwen cyd-ganant,—Ion a'i rinwedd, A golud ei fawredd, a glodforant. Llangefni. IEUAN MON.
LLONG YN YR YSTORM.
LLONG YN YR YSTORM. Yn nghanol rhyfelthwy cynddeiriog y 'storm Mae'r Hong ar yrnsuddo i'r dvfnfor islaw; Mae dullwedd cynhyrfus y dwylaw truenus Yn dyweyd fod pob enaid yn orlawn o fraw! Y corwynt ymruthra o'i gudd ystafelloedd, Ymferwa gwyllt donau ewynawg yr aig: Y llong yn ddiarbed a ddryllir yn ddarnau, Fe'i teflir mewn digter i ddanedd y graig! Y mellt sydd fel gwylltion seirff tanllyd yn gwingo Drwy eang ororau yr awyr uwch ben, A'r daran rydd gragfloedd ofnadwy, ddychrynllyd, Nes crynu oil gedyrn golofnau y nen! Ymddua'r wybrenau, mae'r nefoedd mewn pryder, A digter yn amlwg i'w wel'd yn ei gwawr: Y eymyl gordduon yn llidiog ymrwygant, Gau arllwys eu dyfroedd yn ddilyf i Iawr; Mae'r mor mewn cynddaredd fel bwystfll gorwancus, Ei fwng a ysgydwa, ymruthra'n ddihedd; Ei lid a gynhyrfa ei holl ymysgaroedd, Ei fynwes ferwedig sy'n rhychio ei wedd! Alr llong sydd yn nghanol ei holl gynddeiriogrwydd, Fe'i teflir fel pluen gan don ar 01 tou: Pob gallu o eidcio meidroldeb sy'n methu,— Mae'n suddo, er arswyd dychryna pob bron! O Dduw, ai ymsudd i'r eigion cynddeiriog— Ai marw sydd iddynt yn mherfedd y lli' Ailn ebyrth i donau y weilgi 'sglyfaethgar Yr a y trueiniaid 1 O! gwrando eu cri: Erglyw, O Arglwydd, eu taerion weddiau! Maent fel yn safn angau! O! Arglwydd ein lor, Er mwyn eu heneidiau gostega'r ystorom, FfrwynWr corwyntoedd, Ilonydd&r gwyllt forl Carno, Rhymni. DAFYDD O WEliT.
TRI PHENILL
TRI PHENILL I briodas Mr D. P. Davies, Pumpsaint, a Miss Kees, Llwynieir, Llanbedr, Sir Gaerfyrddin. Boed llwyddiant fyrdd i'r ddau urddasol I fyw ynghyd heb groes na chur, Tra yma yn y dyrus anial, Yn teithio tua'r gwynfyd pur: O! frwd gariad Dafydd tfyddlon Ddenodd serch ei anwyl fun; A thrwy hyny rhaid oedd c'lymu, A'r fodrwy aur yn arwydd-lun. O boed i'r ddau i fyw yn Hawen, Heb dqiilr addunedau wnawd: Cysuron rif y gwlith fo iddynt, Heb un geniigen, Hid, na gwawd: Duwies cariad fo'n gofalu Am y par urddasol hyn: Ty yn llawn o blant fo iddynt, A'u henwau'n swyno ar bob bryn. Hedd a llwyddiant a'u dilyno, Nodded lor a'u cadwo'n iach: Sir oes i'r ddau i fyw yn swynol Tra'n aros yn hen Bumpsaint fach: Ac yu mhob man Crist fo'u Ceidwad, Tra yn yr anial fyd yn byw, Nes cyrhaeddant berffaith wynfyd, Trwy gymorth yr anfeidrol Dduw, Caerdydd. IEUAN GLYli COTHI.
Advertising
YMAE GWIR DDOSBARTHIAD -JL LIAEUB AC ELW BYCHAN Yn cyfansoddi undeb digon i ostwng pris- iau oeddynt bron wedi eu sefycllu trwy hen arferiad. Ni chafodd hyn ei brofi erioed yn fwy grymus na chan MYERS, YJT HI LODRAU 13s. 6c., y rhai a warautir eu bod wedi eu gwneu- thuroll o WLAN yn mhob ffurf, patrwm, a gwead, yn ffasiynol a boneddigaidd mewn ymddangosiad, wedi eu tori yn gelfydd, eu gwneuthm- gan y gweithwyr goreu, ac wedi eu gorphen yn ysplenydd. Y mae y Llodrau hyn yn cael gwerthiad helaeth yn Liverpool, ac yn gyffredinol ad- nabyddus fel rhai na cheir eu cyffelyb mewn gwerth, heb fod yn llai gwerthfawr i drig- olion trefydd llai, lie y mae prynwyr yn cael eu dal gan absenoldeb cydymgeisiaeth. Ceir esiampl ar dderbyniad ei gwerth mewn P. O. O.-cludiad yn ddidraul. J. MYERS, 44 a 46, LONnON ROAIJ, LIVEliFOOL. SMOKERS BEWARE!—Don't poison your- kj selves by smoking out of deleterious and injurious compounds, commonly manufactured into pipes, and sold as Meerschaum of inferior quality. All doctors and analysts have agreed that smoking out of a Meerschaum Pipe is the least injurious method ot using tobacco; but (say they) it must be real Meerschaum, not the abominable and deleteri- ous compound ordinarily palmed off for profit's sake upon unsuspecting persons who are not competent to judge be- tween the real and the spurious article, which, however cheap the latter may appear, the customer actually pays more than ought to be paid for the real and pure Meerschaum, and this simply by reason of the enormous profits charged upon Meerschaums of best quality. &c., by the wealthier and larger shoppkeeers in the trade, who usually charge cent. per cent. profit upon the sale of every pipe. Intending purchasers should inspect our (real sea scum) Meerchaums, at 4s. and 6s. eah, with best amber mouth- pieces, enclosed in beautifull cases. lined with silk. Imported direct from Switzerland. Those at a distance can have them sent, carefully packed, and free of carriage, upon receipt of stamps for payment i.e., 48 or 72 stamps). NOTE Tiiic ABDKESS: ZAMBRA AND ARMSTRONG, Importers of Meerchaums, 472, ROCHDALE ROAD MANCHESTER. N.B.-Sale agents in England for MAHAMOID'S TURKISH PURKAEES, for preventing the smell of Tobacco after smoking, and for sweetening the breath, &c., &c— Sold in boxes at 12s. per dozen; sample box sent free by post 12 stamps.—Address as above. CALFARIA, CLYDACH, GER ABERTA WE. C Y N F, L I R EISTEDDFOD GERDDOROL YN Y CAPEL UCHOD BYDD NADOLLG NESAF. PRIF DDARNAU. zC S. d. 1. I'r Cor heb fod dan 40 mewn rhif, a gaiiont ynoreu "Mai," o'r Cerddor Cymreig. 9 0 0 2. I'r Cor heb fod dan 25 mewn rhif, a ganont yn oreu See the Chariot at hand," o'r Musical Times. 3 0 0 3 I'r parti o 12 a ganont yn oreu "Gwen- ynen Fach yr Haf," o Greal y Corau 1 G 0 Beirniad,-Mr. T. Davies, (Eos Rhondda). Y Programme yn cynwys y manylion i'w gael ar ol Medi laf, trwy anfon dau stamp at Mr. J. B. Jones, Clydach, near Swansea. People's Hall, Pontypridd, and General Furnishing Warerooms. JOHN CROCKETT, Clock, Watch, and Cabinet Maker, Millpuff, Feather, and Iron, Bedstead Warehouse, TAFF & MILL STREET, PONTYPRIDD. HAYE you been to J. Crockett's Furnishing H Warehouse, People's Hall, PoRtypridd? If not, go and buy for CASH ONLY, A good Iron Bedstead 0 14 0 A good Millpuff Bed and Bolster 0 16 0 A good Palliasse for ditto 0 10 0 A good Mattress 0 18 0 A solid Mahogany Front Chest of Drawers 3 5 0 A good useful Pembroke Table 1 2 d A good Eight-day Timepiece 150 A good American Clock 0 16 0 A good Kitchen Chair 0 3 € A good Mahogany Bottom Chair 050 Observe this particularly,— A Patent Lever Watch, Warranted.. 4 4 0 Do. Do. J. C. best make 5 5 0 Silver and Gold Chains & Alberts equally low. Good Geneva Watches .150 Do. strongly recommended I 15 0 Furnishing Department,—Saucepans, Tea Kettles,Fen- ders, Fire Irons, Brushes, &c., &c. UNDERTAKING DEPARTMENT. Men's Full Sized Coffins 1. 1 2 0 Children's lined with Blue outside 0 6 Õ Clothcovered, Pall and attendance 3 5 0 A beautiful coffin. Carpets, Floor Cloths, Hearth Rugs, Pianos and Harmoniums. All goods delivered home for 12 miles round. Sewing Machines 3p. 3s.; 4p. 4s.; to 25p., by the best makers. Ready Money Only.-Arian Parod yn Unig. A R I A N MAE Swyddfa a sefydlwyd yn 1853 ag arian wrth law yn foddlon i'w benthyca i bersonau parchus ar y sicrwydd canlynol:— 50p. i 2,000 ar Wystl ar eiddo freehold, leasehold, neu copyhold, eiddo dros fywyd, a policies bywyd-diogeliad, &c., i'w talu yn ol mewn o un i bedwar ar ddeg o flyn- yddoedd. Mewn symiau o 25p. i 200p. ar sicrwydd personol, i'w talu yn ol yn esmwyth mewn rhan-daliadau misol neu chwarterol. 0 50p. i 2,000p. wystliad ar hawl-weithredoedd, cyf- ranau mewn Jwit Stock Companies, neu bolicies bywyd- diogeliad sydd wedi cyrhaedd gwerth swyddegol, ar delerau o un i saith mlynedd. 5Gp. i l,000p. ar sicrwydd o life-policy, gydag un neu. ychwaneg o feichnion, i'w talu yn ol mewn o un i bump o flynyddau. Yr ysweiriad i fod yn unig am y tymhor y mae y benthyciad yn rhedeg, ac am swm y benthyciad ya unig yn lie yu ddwbl, fel a godir yn gyffredin. Ymofyner. yn bersonol neu trwy lythyr, gan amgau stamp ac envelope wedi ei gyfeirio i MEISTRI MORRISON, 39, High Street, Tredegar, Mon. I'R GWEINIAID A'R EIDDIL. Darllenwch "Y Cyfail Meddygol." FE ddengys y cyfarwyddwr meddygol uchod, nid yn unig yr achos, ond y dull a'r modd i gael gwellianfe trwyadl oddi with wendid, iselder ysbryd, ofnau, methiant ya y golwg a'r cof, poen yn y cefn, a phob math o afiechyd braidd heb arfer y mercury. Y mae Doctor Barnes yn fedd- ianol ar brofiad helaeth iawn fel meddyg, ac wedi gwella amryw y naill dro ar ol y Hall. Rhydd y cyfaill meddygol lawer o brofion oddiwi th rai sydd wedi cael gwellhad. Mae yn werth ei ddarllen gan bob dosbarth, anfonir ef i ryw gyf- eiriad am ddau stamp. Cyfeirier, DR. BABNES, 30, Thornhill Crescent, Caledonian Road, London, N. PWYSIG I RAI ALLAN 0 LUNDAIN. Gellir ymgynghori a Doctor Barnes drwy lythyr neu yn bersonol, ac er mwyn y rhai nad yw yn f aateisiol iddyrit fyned ato ef yn bersonol, bydd iddo roddi cynghor drwy anfon llythyr, os anfonir envelope wedi ei stampio, yn nghyda chyf- arwyddyd o'u hafiechyd. Anfonir traethawd ar Rybudd i ddynion ieuangc am ddau stamp. Cyfeirier, Dr. Barnes, 30, Thornhill Crescent, Caledonian Road, London. N,
FERRY HILL, GOGLEDD LLOEGR.
FERRY HILL, GOGLEDD LLOEGR. Nos Sadwrn, yr 16eg o'r mis hwn, cyflwynwyd Tysteb i Mr a Mrs Davies, yn y lie uchod. OynJaai- gan y cadeirydd, cafwyd ychydig ganu ac a Yna galwyd ar Mr Robert Roberts i p-flwyno^ M/« hardd i Mr Davies, yr hyn a wnaeth yn ng cymeradwyaeth. Yn nesaf, cyflwynoad Bethel, Mount Pleasant, bwrs yn cynwys awiJUrs Davies. Cawsom amryw anerchiadau gan gy y lie, yn eu mysg y Parch. R. Jones (W), Newfield. Yna diolchodd Mr a Mrs Davies 1 r • „IT1 eu caredigrwydd. Cafwyd cyfarfod difyru Vit oedd yno.
GWAEN-CAEGURWEN.
GWAEN-CAEGURWEN. Cynhaliwyd cyngherdd, nos Lun, HydreflBfed, yn ysgoldy Brytlnaidd y lie, gan GJonesgara^ ig), a W. Phillips (Gwilym Oynon), Aberdar, yn cael eu cynorthwyo gan J. Rowlan s ( p Dyfi), Ystalyfera, yn nghyda Glee Party y lk • Canwyd amryw ddarnau rhagorol y uchod, yn Gymraeg a Saesneg, a chanoddv Wee Party yn rhagorol dda dan arweiniad Mr H. Hop • Llywydd, J. Jones, Ysw., Tirbach. Cafwyd cyng- herdd da. Bernir fod ei gynyrch yn ag<OBI1 hyn sydd, ar ol talu y costau, i fyned at ddiddyledu yr ysgoldy. Y GWEITHIAU.-—Mae y Gweithiau o-c^l mlaen yma yn bresenol gystal ag y g ? yn neillduol Cloddfa GAvacn-Cacgurwcn- gwaith hwn yn myned yn rhagorol fe^I y H^ cael gweithio bob dydd er's rhai misoe argoelion da am y gauaf dyfodol. Iwmi.
BRO MORGANWG.
BRO MORGANWG. Gwelais mewn newyddiadur yn ddiweddar fod ceidwad helwriaeth rhyw foneddwr wedi ei ddirwyo o ddwy bunt am saethu cath. Gwnaeth hyny i am- ddiffyn game oedd ef i ofalu am danynt. Bydd llawer yn y parthau hyn yn Uawen o glywed y gellir cospi y tylwyth hyny am saethu cwn a chath- od: canys y mae llawer o'r creaduriaid angenrheid- iol hyny yn cael eu dyfetha yma, er colled a gofid dirfawr r'w perchenogion. Ni chymerai llawer am- aethwr ddim pum punt am gi da; a pheth digon annymunol iddo ydyw cael ei gelain yn farw ar ei faes yn y borcu, a gwybod mai shots ceidwad helwr- iaeth ei dirfeddianydd ei hun roddodd derfyn ar ei hoedl. A phwy fedr ddirnad teimlad ambell weddw a hen ferch unig ar ol y gath laddodd y ceidwad P Mae deddfau helwriaeth yn galw yn uchel am eu gwella. Nid ydynt ond yn rhoddi chwareu teg a difyrwch i'r givr maivr, ar draul gormes a cholled i'r gwr bach. Clywais a ganlyn yn ddiweddar gan un sydd wedi goroeei ei gyfoedion. Yn amser y rhyfel rhwng Lloegr a Ffrainc, yn niwedd y ganrif o'r blaen a dechreu yr un bresenol, arferai y Trefnyddion Calfin- aidd drwy Gymru gynal cyfarfod gweddi misol i ddymuno ar y nefoedd Iwyddo arfau Prydain yn erbyn Bonaparte. Am 9 y boreu, ar un o ddyddiau yr wythnos, y cynelid y cyfarfod drwy y dywysog- aeth. Ar un achlysur cafwyd buddugoliaeth fawr mewn brwydr a'r gelyn yn union ar ol y cyfarfod- ydd, a phriodolid y fuddugoliaeth i weddiau y Trefnyddion. Nid rhyfedd i arfau Lloegr orchfygu ei gelynion gan fod gweddiau Cymru o'u tu. Yr oedd Lloegr yn talu symiau anferth fel subsidies i alluoedd y Cyfandir y pryd hyny, i'w galluogi i gy- meryd rhan yn y rhyftl. Faint gafodd y Corph Trefnyddol am gynal eu cyrddau gweddio ? Os na chawsant ddim am hyny, nid yw yn rhy ddiweddar eto i anfon eu bill i mewn i Ganghellydd y Trysor- lys. Ni wrthoda ei dalu ar gyfrif y Statute of Lim- itation. Tybiaf y dylid cofnodi y ffaith uchod fel y byddo yn gymorth i ryw Hanesydd Eglwysig dyf- odol yn Nghymru i gael golwg gywir ar arweddiad crefyddol ein cenedl y tymor y cyfeirir ato. Yr wythnos o'r blaen, cynhaliodd yr eglwys An- nibynol yn MHENYBONT-AE- OGWY eu cyfarfodydd. Cynhaliwyd odfaon pregethu am 7 yn yr hwyr bum noswaith yn olynol. Bu y brodyr canlynol yn pregethu ynddynt: Parchn. L. Probert, Bodringallt; W. J. Morris, Pontypridd J. Davies, Caerdydd; J. Jones, Maesteg; D. Lewis, Bryn- menyn, (yn Saesneg); D. Richards, Caerphili; a W. Thomas, Rock, Cwmavon. Cafwyd hin ragorol, a llawer o fwynhad ysprydol. Cesglid yn yr odfaon oil at y ddyled sydd ar y Tabernacl a'r ysgoldy hardd a chyfleus a adeiladwyd yn ddiweddar yn nglyn ag ef. Er y colledion trymion a gafodd yr eglwys hon yn ddiweddar, ac er bod yr iath Seisnig yn prysur ymlid yr :hen Gymraeg o'r dref, y mae golwg ddymunol ar yr achos goreu yn y lie. Ond y mae hiraeth mawr am ddylanwadau mwy grymus ar bob enwad yn y lie. Buan, buan y delont.— Gohebydd y Fro.
CAERDYDD A'I CHYLCHOEDD.
CAERDYDD A'I CHYLCHOEDD. Gan fod masnach y Ile hwn yn effeithio yn bwysig ar y rhan amlaf o weithfeydd Morganwg, yn gystal ag amryw o weithfeydd Mynwy, bydd gair o'i hanes yn ddyddorol i lawer. Marwaidd a marwaidd iawn yw wedi bod er ys hir amser-masnachwr ar ol mas- nachwr yn syrthio, a marsiandwr glo ar ol marsiand- wr glo yn methu. Mae yma amryw a yrent yn eu cerbydau, ac abreswylient balasau braf, wedi gorfod dysgu ail ddefnyddio y traed a boddloni o'r newydd ar dy bychan. Ceir eraill yn colli cwsg y nos er ceisio dyfeisio moddion i gadw y gweithiau yn rhyw lun rhag syrthio. Naturiol gofyn y rheswm o hyn; ond nid rhwydd ateb. Mae gan y pethau canlynol rhywbeth yn ddiau i ymwneud a'r marweidd-dra 1. Hyder mewn cwsmeriaid wedi ei golli drwy anonestrwydd. Gwerthwyd ;ilawer ar goel, a phan ddaeth amser talu yr oedd wedi myned heb ddim. Par hyn fraw rhag trystio eraill. 2. Diffyg arian parod. Mae digon o arian yn y wlad; ac eto y mae masnach wedi myned yn fas- nach am bapur ac nid am arian parod. Gellir gwerthu, ond bills geir am y peth a werthir, ac nid aur melyn na biliau ariandy. 3. Mae gormod o lo i ateb y galw wedi ei yru i'r farchnad nes gostwng pris y glo, fel y mae yn rhy isel i dalu yn iawn i feistr na gweithiwr. Gwnaeth rhai meistri glo arian mawr ac fe demtiodd hyny ormod i droi allan yn feistri glo, ac fe demtiodd y meistri haiarn i surffedu marchnad y glo a'r eyfan- swm anferth a anfonent iddi. 4. Mae y tywydd yn ddiweddar wedi bod yn an- fanteisiol i longau i fyned i mewn ac allan. Eto, y mae arwyddion gwella graddol ar fasnach, ac heb honi gallu prophwydol, gellir dweyd yn dra sicr fod amser gwell gerllaw. A yw drygau yn getshin' ? Y Sul wythnos i'r diweddaf, gwnaeth un o weision Ardalydd Bute ddiwedd arno ei hun drwy ymgrogi yn ystafell ei wely a nos Sul diweddaf, yn mhen yr wythnos yn lied gywir, crogodd Cymro, o'r enw Thomas James, ei hun. Yr oedd yn ddyn tawel, mewn amgylchiad- au da, ac wedi treulio blynyddau yn Nghaerdydd, er yn enedigol o Denis Powys. Claddodd ei wraig er ys ychydig amser yn ol. Yr oedd gand.do ddwy ferch mewn ysgol fyrddiol, yn Taunton, y rhai ydynt yn awr heb dad na mam. Ymddengys Ardalydd Bute fel yn benderfynol i wneud Caerdydd yn brif artref iddo, o'r hyn lleiaf yma y mae yn treulio y rhan fwyaf o'i amser. Er ei fod yn Babydd, nid yw yn ymyraeth a chrefydd neb arall; ond y mae ei swyddogion ar eu goreu yn ymyraeth a rhyddid gwleidyddol y lie. Aeth un o honynt o lys i lys drwy yr holl sir i geisio taflu Rhyddfrydwyr allan o'r cofrestrlyfr a dodi Toriaid arno. Gan fod y Rhyddfrydwyr yn haner cysgu, taflodd allan dri chant o bleidleiswyr yn Nghaer- dydd. Mae yn benderfynol o geisio cael yr eisteddle i Dori. Ceisio gobeithio y mae pawb nad yw yr Ardalydd yn gwybod dim am hyn, ac eto rhyw obaith yn erbyn gobaith ydyw peth fel hyny. Bu yma gynhadledd bwysig yn ddiweddar gan holl Ymneillduwyr y lie er cydmaru syniadau a goleuo eu gilydd ar bwnc pwysig addysg. Bwriedir yn fuan galw cynhadledd gyffredinol yn nghyd o holl Ymneillduwyr Morganwg a Mynwy, os nid o holl Ddeheudir Cymru, er ceisio dyfod i gyd-ddeall- twriaeth mewn pryd o barthed y llwybr i'w gymer- yd gyda golwg ar y gwahanol fesurau a ddygir o flaen y Senedd. Bu cyfarfod blynyddol ardderchog yn Ebenezer. Cynulliad da, pregethu da, gwrandaw da, a chasglu da. Mae eglwys Mount Stuart wedi rhoddi galwad i'r Parch. B. Davies, Glandwr, i'w bugeilio, nid yw eto wedi ateb y naill ffordd na'r Hall. Cynhaliodd eglwys fechan Llaneiriog ei chyfarfod blynyddol yr wythnos ddiweddaf, ac yr oedd yn rhagori ar un cyfarfod a gafodd er ys blynyddau. Ymddengys yr achos fel yn ymgodi o'r pant, ac yn cyflym esgyn i fryn yn y lie prydferth hwn.
HENRYD.
HENRYD. MAB.WOLAETH MISS JANE ROBERTS, BRYNGWENDDER. Bydd yn drwm gan ganoedd o weinidogion An- nibynol Gogledd Cymru, y rhai fa yn ymweled a Henryd o bryd i bryd, weled fod yr un arferai wisgo yr enw uchod yn mysg y meirw. Byddai pob gweinidog a phregethwr ddeuai i Henryd yn rhwym o alw yn Bryngwendder, gan mai dyna hen gartref mwyaf neillduol gweinidogion a phregethwyr yn y gymydogaeth. Dyna lie y bu gweinidogion Hen- ryd bron i gyd yn lletya, gyda yr un teulu,—y Parchn. L. Lewis, R. Rowlands, J. Davies, a J. Rowlands. Cafodd Miss Roberts y fraint (fel yr ystyriai hi) o weinyddu i gysuro pob un o'r gwyr da a enwyd. A gallent hwythau, fel y gwnaethent, ddwyn tystiolaeth fod Bryngwendder, trwy ei char- edigrwydd a'i sirioldeb hi a'r teulu, yn hollol deil- wng o'r enw cartref.' Derbyniai pob pregethwr a gweinidog ddeuai at y drws mor siriol a'u gilydd. Ac yr ydym o'n calon yn dymuno, tra y byddo un o'r hiliogaeth yn aros ar y ddaear, ar iddyat fod dan fendith yr Arglwydd, fel teula Obed-Edom, er mwyn yr Arch. Braidd nad ydym yn awr yn dychymygu ei gwel- ed, fel y gwelsom hi lawer gwaith, yn eistedd yn hen gongl gysegredig cegin Bryngwendder, wedi gorphen ei gwaith teuluaidd, gyda chanwyll frwyn yn ei Haw (nid am nad oedd canwyll well i'w chael, ond am na fynai ganwyll well) yn darllen ei Beibl. Credwn ei bod yn ddidwyll grefyddol—yn ddistaw a thawel, ond yn hynod ffyddlawn. Nis gwelsom hen ferch erioed yn galla bod mor motlierly-mor debyg i fam. Yn y flwyddyn 1867, cawsant rybudd i ymadael, oblegid fod y tirfeddianwyr yn gwerthu yr etifedd- iaeth. Yr oedd ei brawd a'i deulu wedi dod ati i fyw er's rhai blynyddau; ond trwy rhyw gamddeall- dwriaeth, ddiwrnod yr arwerthiad, aeth eu cartref i feddiant un o enwad arall; ac yn ddiamheu genym i hyny effeithio i brysuro eu hangau. Nid peth bychan oedd iddi hi a'i brawd a'i deulu orfod gadael Bryngwendder i un arall-hen gartref y teulu er's oesau a chenhedlaethau. Ond fe drefnodd Rhaglun- iaeth iddynt gartref cysurus arall, a chredwn fod yr Arglwydd yn sicr o ofalu am danynt rhagllaw. Bu farw Miss Roberts boreu Sabboth, Hydref ITeg, yn dra disgmwth, yn 63 oed a thorf fawr o wyr a gwragedd bucheddol a ddaethant i'w chladdu y dydd Meroher canlynol yn mynwent y Gyffin, ger Conwy. Yr ydym yn cyflwyno llwch a beddrod yr un fu mor ffyddlawn yn gweini ar weision Duw i ofal angylion hyd foreu yr adgyfodiad.-Galat-wr.
JERUSALEM, SWYDD FFLINT.
JERUSALEM, SWYDD FFLINT. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol yr eglwys uchod ar y dyddiau lau a Gwener, Hydref 21aina'r 22ain. Pregethwyd y noson gyntaf gan y Parchn. E. Tho- mas, Rhesycae; a J. Roberts, Brymbo. Boreu dranoeth, am 10, pregethodd y Parch. R. Thomas, Bangor. Am 2, E. Thomas, a J. Roberts. Am 6, J. Roberts, ac R. Thomas.- Un oedd yno.
MOELFRO A RHOSFAWR.
MOELFRO A RHOSFAWR. GAXWAD.—Yr ydym ni fel eglwysi yn Moelfro a Rhosfawr wedi rhoddi galwad unfrydol i un W. V. Davies, diweddar o Goleg Aberhonddu, i ddyfod i'n plith. Y mae yntau wedi ein hateb yn gadarnhaol, ac wedi dechreu ar ei weinidogaeth gyda ni dydd Sabboth, y I7eg o'r mis hwn.—Dros yr eglwysi, GRIFFITH THOMAS, Diacon, Moelfro.
Y BWRDD IECHYD.
Y BWRDD IECHYD. Mae y Bwrdd hwn druan hyd yn hyn heb ddyfod i ddyfroedd llonydd. Diwrnod caled iawn oedd diwrnod yr eisteddiad diweddaf. Yn hwnw rhaid oedd ethol dau swyddog, sef Clerk a Book-keeper. Am y swydd flaenaf yr oedd naw o ymgeiswyr, am yr olaf saith ar hugain. Nid gwaith bychan oedd darllen tystebau cynifer o ymgeiswyr, yn neillduol gan fod cynifer o honynt gan bob un. Aethant drwy y gwaith fel dynion wedi penderfynu y myn- ent y dynion goreu, a chymeryd pob peth at en gilydd. Da genym ddeall fod eu hethoHad y tro hwn wedi boddhau y cyhoedd yn fwy na'u hetholiad o gasglydd y tro diweddaf. Etholwyd T. Williams, Ysw., yn Clerk, a Mr Harries yn Book-keeper. Credwn fod gan y dref yn gyffredinol ymddiriedaeth yn y ddau. Ofer i'r Byrddau Ileol fyned yn erbyn teimlad y treth-dalwyr mwy na'r senedd yn erbyn y wlad. Y mae un o'r aelodau newyddion wedi deall fod ei berthynas ef a'r treth-dalwyr yn gyffelyb i eiddo aelodau y senedd a'u hetholwyr; fel y mae wedi mynegu ei fwriad i ymddangos o flaen y treth- dalwyr ar ddiwedd y flwyddyn i roddi cyfrif o'i oruchwyliaeth. Gwyliwch arnoch eich hunain, y boys ereill, rhag y gelwir arnoch chwithau i wneud yr un peth. Bydd hi yn helynt ar rai o honoch os digwydd y fath anffawd. Y mae ein disgwyliad yn angherddol am adroddiad-o archwiliad y llyfrau. Hyderwn y ceir ef cyn hir, oblegid anmhosibl fydd casglu llawer o'r dreth newydd hyd nes y ceir gwybod pa faint o'r hen dreth, a'r rhai cyn hyny, sydd heb eu casglu. Nid dymunol gan neb ydyw talu y trethi yn gyson tra yn credu fod eraill, gallu- ocach na hwy feallai, yn cael eu pasio. Caiff ein darllenwyr wybod y manylion pan ddont allan.
ENGLYN
ENGLYN Ar briodas y Parch. D. G. Morgan, Stockton-on- Tees, a Miss Prothero, Llanfaes, Aberhonddu. Unwyd gan dyner anian-ddau anwyl, Ddau hynod o ddyddan: Pob rhyw lwydd fo'n rhwydd i'w rhan, A Duw lor fo'u gwir darian. Coleg Aberhonddu. RHYSODYN.