Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

LLYTHYR Y MEUBWY.

News
Cite
Share

LLYTHYR Y MEUBWY. (Q'N MEUDTVYDY RILWXG BRYNIAU GARTH MADKYK.) Annog- dy gi, ac na ddos gantho,' sydd un o'r hen ddiarebion Cymreig ao y tueddir ni i dybied iddi gael ei llefaru yn gyntaf gan ryw Scotyn hirben ac oergalon. Nid ydym yn ei hoffi. Mae gormod o yspryd hunan-g-ar awl, ahunan-arbedawlyn y ddiar- eb i beri i ni gredu iddi gael ei llefaru gan Gymro twymgalon. Wele yu awr am y cymhwysiad o'r ddiareb yma at bwnc neillduol y llythyr presenol, am yr hwn yr ydym yn rhwymedig i epistol brwdfrydig a hyawdl eich gohebydd Serber yn y rhifyn cyn y diweddaf o'r TYST. Nid oes dim eisieu pron taw prif arwein- wyr etholwyr Cymru yn ystod yr etholiad diweddaf ydoedd gweinidogion yr Anghydffurfwyr. Y tyst- ion goreu dros gyweirdeb yr haeriai hwn ydyw offeiriaid yr Eglwys Sefydledig. Gwnaethant hwy gii gbre-LL glts i ddylanwaclu ar y tirfeistri; ond o'r ¡obl nid oedd ganddynt hwy, druein tlodion, nemawr neb i ddylanwadu arnynt. Undodiaid ydynt hwy heb ond ychydig eithriadau, gan na chredant yn ffyddiog a gafaelgar ond mewn un pwnc, sef y dorth Maent yn proffesu, wrth adrodd y gredo ar y Suliau, eu bod yn credu amryw wirioneddau eraill,"ond'swm a sylwedd eu credo ydyw y dorth.. A chaD. y gwy- ddont werth hono, maent yn ddigon tebygol yn pron bias adnewyddol ar bob tafe;l o honi, pan yn ym- wybodol iddynt wneud a allent gyda'r tirfeistri i'w perswadio i amddifadu o honi y cyfryw rai o'u deil- iaid a ddigwyddasant bleidleisio yn groes i'w dy- inuttiadau a'u golygiadau gwleidyddol. Mae yn ychwanegiad cryfder iddynt ar y Sabbathau wrth ddarllen pwt o bregeth pren gwernen i gynulleidfa o ddefaid diarddel a llygod i wybod fod yr Ymneill- duwyr rhyddfrydol wedi gorfod talu costau cadw cydwybod lan a dirwystr. Da iawn. Dyma brofion ychwanegol eu bod yn ganlynwyr i'r apostolion, oblegid yr oedd y rhai hyny yn arfer llawenhau yn ngondiau'r saint. Yn awr, yn gymaint ac i'r gweinidogion anghyd- ffarfiol arfer eu doniau a'u dylanwad i berswadio eu cynulleidfaoedd i sefyll yn ddiysgog dros eu heg- wyddorion, ac ufuddhau i Dduw yn hytrach nac i ddynion,' gan adael y canlyniadau, gan nad pa beth bynag allent fod, yn llaw Rhagluniaeth, a chan fod rhif Iluosog o honynt eisioes wedi cael gwybod drwy bronad chwerw taw creulon ydyw tosturiaethau llawer o dirfeistri culfeddwl dan gyfarwyddyd dysg- eidiaeth Toryaeth ac offeiriadaeth, mae cyiiawnder a thrugaredd yn crocb-alw am i ddysgawdwyr y bobl ddyfod allan fel un gwr, a hwnw can gryfed a chawr wedi ei loni gan win, i amddiffyn a chysgodi y di- oddefwyr rhag cenllysg cynddaredd a dial y tirfedd- ianwyr. Os oedd eisiau holl adnoddau hyawdledd a dylanwad siaradwyr ac ysgrifenwyr cyhoeddus er tueddu yr etholwyr i gyflawni eu dyledswydd yn amser yr etholiad diweddaf, mae eisiau gwasanaeth yr unrhyw offerynau i berswadio pob perchen cein- iog i gyfranu a allo i ddiddosi a chysuro yr erledig- ion sydd wedi cael eu troi o'u cartren allan i'r ys- tormydd. Yn awr yw yr adeg i bron taw 'trech gwlad nac arglwydd.' Nid oes dim modd argyhoeddi Tory ac offeiriad eu poced ac yn ol pob argoel presenol, fe ddygir y gormeo „ » 7, • *eddiant or mymryn bach o synwyr sydd garxda^u h H J ^u^auffaa y Hogell a'r cylla. Hyd yma y mae cymaint o ymofynwyr am dyddynod fel y galluogir y meistri i wneud fel y mynont a'u deiliaid; ond y mae pob ymfudwr i'r America yn rhybuddiwr i ormeswyr fod eu dyddiau yn y weithred o gael eu rhifo, ac y gorfodir hwynt i drin dynion fel creaduriaid rhesymol ac nid fel eaethweisiaid. Nid oes dim mor sicr o lwyddo i gael gan ychydig belydrau o oleuni i weithio eu ffordd trwy yr haenau tewion o dywyllwch yn yr hwn y triga tirfeistri a chasglu digon o arian tuag at gy- northwyo yr erledigion er mwyn cydwybod ac eg- wyddor. Gwna hyn bylu min ac awch yr erledig- aeth, ac argyhoeddi yr erlidwyr o'r ffolineb o geisio gwrthsefyll syniadau a gogwyddiadau y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Os ydym mewn gwirionedd a gweithred yn ed- mygu gwroldeb a chydwybodolrwydd ein dioddef- -os wyr gwleidyddol, dangoser hyny trwy gyfraniadau haelionus tuag at ddiwallu eu hangenion a darbodi ar gyfer eu dyfodol. Cofier mai trwy ebyrth eraill y mae i ni yr etifeddiaeth deg sydd yn ein meddiant: ond nid ar ein hedmygedd a'n canmoliaeth ni y gall rhieni a phlant ymgynal. Pe dangosai gweinidog- ion anghydffurfiol y mymryn lleiaf o yspryd Laodi- ceaidd yn ngwyneb yr erledigaeth a ddioddenr mewn canlyniad i weithredu yn ol eu cyfarwyddyd, teil- yngent golli ymddiried eu cynulloidfaoedd a thy- walltiad melldithion holl offeiriaid y Dywypog.ieth: a gallwn fod yn sicr mai nid yn ddyf^r--nati ond yn gyrwlaw y disgvnent. G-allent yn gyiinwn eu dar- lamo fel cassi^u y Lobl, gan iddynt en gwahodd a'u hannog i wrthwynebn pob trais a gormes, a herio bygythion eu meistri a chwedi iddynt lwyddo gan- ddynt i wneud hyn, i'r llwfriaid hunan-garawl dir- mygedig i'w gadael i drengn yn eu tlodi. Dyma lie I e Z!1 byddai gwledd i grach-ormeswyr a chlerigwyr. Ond ni chant gyfranogi o honi. Nid ydym yn ofni dim na wna arweinwyr y bobl, ynghyd a'r bobl eu hun- ain, ran diogelwyr ac ymgeleddwyr tuag at ein laerthyron. Trwy drugaredd nid yw y mater hwn yn perthyn i un enwad o Ymneillduwyr yn fwy na'i gilydd a gall Undodiaid Ceredigion ymuno am unwaith o leiaf a Methodistiaid Sir Foil i wneud casgliadau yn eu capeli tuag at loni calonau y gorthrymedigion ac ysgafnhau pwys eu beichiau. Achos pob enwad trwy hyd a lied y Dywysogaeth ydyw actios rhydd- ii a dyma un pwnc o leiaf y gall pawb Ymneill- duwyr gydweled yn ei gylch. Can diolch i'r dynion gwrol gwladgarol a rhyddid- garol hyny a safasant i fyny fel gwir dystion dros iawaderau dinasyddol a gwladol, a chredu yr ydym y cyfarfyddant a chymaint o gydymdeimlad a ünymhorth sylweddol fel yr unig amlygiad allanol 'n boddhaus o hono ac a bair i ereill mewn amgyloh- iadau cyffelyb-os byth y cyfleuir hwynt ganddynt -i ddilyn eu hesiampl dan ddylanwad y grediniaeth drwyadlaf na chant eu gadael yn ddisylw a aiym- pan yr amddiffynant freiniau dyn. Yr ydym yn credu hefyd y goruwch-lywodraethir yr erledigaeth hon yn y pen draw i ddryllio llyfyth- eiriau gormes ac i sicrhau i ni y ballot, heb yr hon, yr ydym yn ofni, na bydd i ni byth yn y wlad yma ryddid i ddewis ein dynion ein hunain i'n cynrych- ioli yn Senedd Prydain Fawr. (j-wnaer ycte gasgliad yn mhob capel o Gaergybi i Graerdydd, 0 Lan Andras i Dy Ddewi; yna fe ychwanega rhyddfrydwyr Lloegr at y drysorfa symian teilwng o bwrs 11awn a chalon- gyawys bawb gorthrymedig y Sais.

YB HEN DOlVIOS JONES, PANTGLAS,

Advertising

Y GO FAINT. !

SYNWYR CYFFREDIN.

MANTOL Y BEIRDD.

Advertising

CYFARFOD CHWABTEROL SEt GrlER-FYRDDIN…

UNDEB CERDDOROL YR AX! BY…

=,"U UNDEB DIRWESTOL CYMREIQ…

Advertising

! HWNT AC YMA YN YR AMERICA.