Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

y DIWEDBAE EARL DERBY.

News
Cite
Share

y DIWEDBAE EARL DERBY. Mewn oeclran teg, yn mynwes ei deulu, yn nghanol sylw pryclerus ei wlad, ac yn llwyth- og o anrhydedd, bu farw yr EARL OF DERBY. Ganwyd ef yn mis Mawrth, 1799; ac ym- adawodd a'r fuchedd hon dydd Sadwrn diweddaf, y 2:3ain o Hydref, 1869. Yr oedd felly wedi myned dros y terfyn a osodwyd gan y Salmydd, ac yn y 7lain flwyddyn o'i oedran. Blinid ef er's amser maith gan y gout, yr hyn a fygythiai gymeryd ei fywyd ymaith droion o'r blaen, ond profodd nerth a hydwythedd ei gyfansoddiad yn drech nag ef. Am y deng niwrnod diweddaf gwelid arwyddion amlwg fod ei hen elyn yn sicr o'i orchfygu, ac fod dydd ei ymddatodiad yn nesau. Mawr a dwys oedd y pryder a deimlid o ddydd i ddydd wrth ddarllen y newyddiaduron yn y boreu, a'r liysbysiadau pellebrol yn y prydnawn, yn ei gylch. Anfonai y Frenhines i ymofyn am dano yn fynych iawn, ac yr oedd cydymdeimlad ft'r amgylchiad gofidus wedi meddianu yr holl deyrnas. Ymollyngodd yn raddol i ddwylaw angeu, a bu farw yn ddiboen, ac mewn tang- nefedd. Yr oedd yn ddyn o dalentau naturiol ysblenydd, wedi derbyn y ddysgeidiaeth uchaf, yn un o ysgolheigion penaf ei oes, yn un o'r areithwyr goreu yn ein gwlad, ac eto ychydig iawn o'i ol a adawodd ar ei genhedlacth. Cafodd bob cyfleustra i enwogi ac i anfarwoli ei hunan. Nid oes un teulu yn y deyrnas hon yn sefyll yn uwch mewn bri na theulu hynafol Derby. Hanant o gyff a blanwyd yn ein gwlad yn nyddiau William y Conewerwr; ae nid rhyw eiddilod llegach a fuont, ond am I wyth can' mlynedd cyfododd y naill ar ol yjj llall o honynt yn arwyr grymus o gorff, ac| uchel o ysbryd. Bu yr Ieirll Derby o'r amsei | y dacthant i feddiant o'r teitl, rhyw bedwar can' mlynedcl yn ol, yn gymeriadau hynod yn ein hanesyddiaeth. Yr larll diweddaf oedd y I pedwerydd-ar-ddeg a wisgodd y teitl hwnw. j Ni cliyfyngasant eu hunain yn eu cyfathrachau j bob amser i'r bendefigaeth, a phriodolir cryn j lawer o'r nerth a'r bywiogrwydd a amlygent i'r ffaithhon. Priododd taicl yr larll dan sylw a. Miss Farren, chwareuyddes enwog, a dy- wedir ei bod hi wedi addysgu ei hwyr yn y gelfyddyd o siarad. Yr oedd rheoleiddiad ei lais, ystwythder ei leferydd, a naturioldeb ei arddull wrth areithio yn nodedig, a chysylltir ei lwyddiant yn hyn a'r gwersi a gafodd gan ei nain. Hynododd ei hun fel myfyriwr yn Eton, a chyn bod yn ugain oed, dyfarnwyd iddo y wobr yn Rhydy chain am y bryddest oreu yn Lladin ar Syracuse. Ymadawodd a'r Brif Athrofa yn nghanol clodydd uchelfri. Edrychid arno fel un o wyr ieuaingc mwyaf urddasol ei oes; a dywedid am dano mai efe oedd yr unig fab hynaf tra rhagorol a gynhyrchodd y ben- defigaeth am gan' mlynedd. Rhoddodd ei sefyllfa urddasol, a'i dalentau coethedig gyfl-e iddo yn fuan i ddyfod allan fel dyn cyhoeddus. Aeth i mown i'r Senedd yn aelod dros Stock- bridge yn 1821, cyn bod yn 22 oed. Siarad- odd an. y tro cyntaf yn Nhy y Cyffredin yn 1824, t gwnaed sylw ffafriol iawn o'i maiden speech. Dech-euodd ei yrfa boliticaidd fel Rhydd- frydwr ond yr oedd yn hawdd gweled yn ei gyflawniadau cyntaf nad oedd yn barod i frned yn mlaen gyda'r ysbryd ag ydoedd yr adeg hono yn dechreu cynhyrfu ein gwleidyddwyr. Perthynai i'r hen WMg party, a mynai aros yn ei unfan a glynu wrth hen draddodiadau y I tadau, yn hytrach na bod yn un o gynarloes- wyr diamodol tir rhyddid gwladol a chrefydd- ol. Pan ddygwyd yn mlaen gwestiwn yr Eglwys Wyddelig gan yr hen Joseph Hume, ac y cynhygiwyd chwilio i mewn i'r anghyf- artaledd a'r annhegwch a fodolai ynddi, gwrth- wynebwyd ef gan Mr Stanley y pryd hyny a'i holl egni. Ac y mae yn ffaith hynod i'w | chofnodi mai gweithred gyhoeddus olaf Iarll | Derby oedd gwrthwynebu a holl nerth ei| ddawn a'i ddylanwad y mesur hwnw o gyf-1 '1 lawnder i genedl orthrymedig a gychwynwydl rhyw bum mlynedd a deugain yn ol, a'r hwn a wrthwynebwyd ganddo ar ddechreuad ei yrfa gyhoeddus. Mae yn wir iddo gynorth- wyo gyda Reform Bill 1832, a chyda mesur. rhydd-had y caethion yn 1833, pan yr oedd yn Ysgrifenydd y Trefedigaethau; ond prin y 0 cysylltir ei enw byth a'r naill na'r llall o hon- ynt. Gyda'r cyntaf cysgodir ei enw gan enw- au mwy cyhoeddus Lord Grey a Lord John Russell, a chyda'r olaf cleddir ef o'r golwg gan ogoniant mwy disglaer Clarkson, Brougham a Wilberborce. Mae enw Mr Stanley hefyd mewn cysyllt- iad a Threfn Addysg yn yr Iwerddon, yr hon a ddygwyd yn mlaen ganddo tua'r un amser, tra yr oedi yn Ysgrifenydd Gwyddelig. Am dros bum mlynedd a deugain, y mae y drefn hono wedi gweithio yn ardderchog, ac ni fyn- em er dim ysbeilio yr Iarll ymadawedig o'r clod a deilynga iddo mewn cysylltiad a'r mesur. Gallai gario allan unrhyw gynllun a roddid iddo, ond nid oedd yn gynlluniwr ei hun. Anaml y ceid neb gwell nag ef i draethu drychfeddyliau, ond nid oedd yn feddyliwr gwreiddiol ei hun. Yr oedd yn rhy danbaid, yn rhy fyrbwyll, ac yn rhy anochelgar i fod yn wladweinydd. Rhagorai fel dadleuwr. Safai yn erbyn Daniel O'Connell yn ei ddydd- iau goreu, a dywedir ei fod wedi enill budd- ugoliaeth oddiar y pencampwr medrus hwnw mewn llawer ymdrech deg. Yr oedd ei bar- odrwydd, ei gof, a'i yni yn ddiarebol. Pigai ZD allan y manau gweinion yn ymresymiad ei wrthwynebydd, ac anelai ei saethau gwen- wynig atynt yn ddiwyrni. Ymddangosai yr elfen ryfelgar yn gref ynddo. Fel y Llynges- ydd Nelson, ni wyddai beth oedd ofn. Gallai r dori, a rhwygo, a chwalu yn effeithiol; ond nid oedd ynddo fawr o gymhwysderau at gy- sylltu a pherffeithio mesurau a dueddent at leshau y wladwriaeth. Ymadawodd a'i hen blaid wleidyddol yn 1834, ar yr achlysur o ddygiad yn mlaen fesur er gwella llywodraethiad yr Eglwys yn yr Iwerddon, ac o hyny allan perthynai i'r blaid Doffaidd. Cymerodd swydd o dan Syr Robert Peel yn 1841, a phan orfodwyd i'r Prif Wein- idog ddileu deddfau yr yd gan hyawdledd an- il orchfygol Cobden, Bright, ac eraill, yn nghyd- ag amgylchiadau gorfodol o'r tu allan i'r Sen- edd, arosodd Barwn Stanley, erbyn hyn, yr un mor elynol i Fasnach Rydd. Gadawodd ei gydswyddwyr Peel a Gladstone, a thrwy gyngor a chymhelliad y Due "Wellington, cy- merodd y blaid Dorïaidd i'w ddwylaw ei hun. Am chwe blynedd, sef o 1846 hyd 1852, ym- laddodd yn ddewr ar yr oehr wrthwynebol, gyda Disraeli a Lord George Bentinck i'w gy- northwyo. Tua diwedd y tymhor hwnw, dis- gynodd y teitl o Earl Derby i'w ran, ac yn fuan wedi hyny galwyd arno i ffurfio Gwein- yddiaeth. Gwnaeth hyny, a bu ef a'i gyfeill- ion yn y mwynhad o'i swyddi am ychydig fis- oedd, pan y gorfu arnynt ymadael er rhoi lie drachefn i'r Rhyddfrydwyr. Yn 1858, galwyd arno eilwaith i gymeryd awenau y Llywodr- aeth, a dyna'r pryd y bu Disraeli ac yntau yn ceisio patchio Reform Bill rhyngddynt, yr hwn a wrthodwyd gan y wlad. Wedi bod am flynyddau lawer allan yn yr oerni, penderfyn- odd y blaid pan ddaeth Earl Derby i mewn i swydd y drydedd waith, i basio Reform Bill mwy rhyddfrydig nag un a gynhygiasid erioed gan y Diwygwyr eu hunain. Galwai Derby y mesur yn Z naid yn y tywyllwch.' Ofnai y canlyniadau yn fawr, a diau mai nid efe oedd ei awdwr. Wedi taflu bras-olwg fel hyn dros yrfa wleidyddol Earl Derby, ychydig a welwn o ffrwyth oddiwrth ei waith. Er ei fod yn ddi- ildio fel ymroddwr, nid oedd ynddo ddigon o ¡ wroldeb i gynllunio mesurau newyddion. Er fod ynddo gydgyfarfyddiad o ragoriaethau ysblenydd, nid oedd ynddo elfenau gwir fawr- edd. Yr oedd ei feddwl yn rhy chwareus i sefyll yn sobr uwchben unrhyw fesur o bwys, ac yr oedd difrifoldeb ac ymlyniad diysgog dynion fel Peel a Gladstone yn annioddefol iddo. Hawliai ufudd-dod oddiwrth ei blaid i yn fwy o herwydd edmygedd personol nag o gydnabyddiaeth o'i allu i lywyddu. Yn lie | r cael y fraint o arwain y bobl i fwynhad o fwy I o ryddid a llawnder, dewisodd sefyll yn atalfa ac yn rhwystr, gan bersonoli ynddo ei hunan I ysbryd uchelfrydig ei ddosbarth, ac ewyllys anhyblyg ei blaid. I I Yn wahanol i Gladstone, yr hwn a ddech- Ireuodd ei yrfa fel Tori, ac a ddilynodd ysbryd 1 gyr oes nes dyfod yn Rhyddfrydwr cyson, i |andwyodd Iarll Derby ei gymeriad politicaidd| trwy sefyll yn erbyn iawnderau y bobl; a throdd o fod yn Ddiwygiwr tanbaid i fod yn Geidwadwr, ac o fod yn Geidwadwr i fod yn Dori rhagfarnllyd. Gwrthwynebodd ddilead deddfau yr yd, yr hwn fesur a wnaeth gymaint er gostwng pris bara y gweithiwr. Gwnaeth gymaint fyth ag a allai i atal symudiad y dreth oddiar bapur, yr hyn a ddechreuodd gyfnod newydd ar lenyddiaeth ein gwlad, ac a ddygodd y newyddiaduron o fewn cyrhaedd dwylaw y tlodion yn gystal a'r cyfoethogion. Daliodd i ryfela yn erbyn y French Treaty, sydd wedi helaethu cymaint ar fasnach y deyrnas yn nghorff y blynyddau diweddaf. A phan y gorfodwyd iddo gymeryd rhan yn yr Ysgrif Ddiwygiadol ddiweddaf, addefai fod eisieu atal llanw gweriniaeth; ac mae yn amlwg mai yr amcan ar y pryd oedd, nid lies y bobl, ond peri dyryswch yn rhengau yr ochr wrthwynebol. Ond er ein bod yn gorfod condemnio Earl Derby fel gwleidyddwr, nid oes genym ond gair da i ddyweyd am dano fel dyn ac fel din- esydd. Saif yn uehel fel ysgolhaig a lienor. Siaredir yn uchel am ei gyfieithiad o I Iliad Homer. Cyhoeddodd lyfr hefyd yn cynwys cyfieithiadau o'r Groeg, Lladin, Pfrancaeg, Eidalaeg, a Germanaeg; a dywedir iddo pan yn ieuanc gyhoeddi cyfrol dduwinyddol o dan y teitl o Ymddiddanion ar y Damhegion.' Etholwyd ef yn Ganghellydd o Brif Athrofa Rhydychain yn 1852, pan ytraddododd araeth ragorol yn Lladin. Yr oedd yn hoff iawn o ymarferiadau corff- orol. Rhedai ffrydlif bywyd yn gryf trwy ei gyfansoddiad, a pharai hyn iddo fod bob am- ser yn hoff o chwareu. Ystyrid ef yn sports- man diwyd. Cadwai geffylau i redeg mewn gyrfaoedd, a threuliodd lawer o'i oriau ham- ddenol yn nghymdeithasiockeys a thrainers, yr 11 y u UCllO. J n. ~tt~OXX<Jx<31 CKO T- cvrni. j J^wuvtlcl. Fel dyn elusengar, saif ei enw yn uchel yn nglyn a'r Relief Fund yn Lancashire. Cyfran- odd 5,000 o bunau at y drysorfa, areithiodd yn gampus ar gychwyniad y mudiad, a gweith- iodd ar y pwyllgor yn Manchester yn ddiflino am flsoedd nes gorphen y gwaith yn ganmol- adwy. Bydd ei goffadwriaeth yn fendigedig gan filoedd yn Lancashire am y cynorthwy amserol hwnw, a maddeuir iddo lawer o'i gam- weddau gwleidyddol o herwydd ei ragoriaeth- au personol. Bu ei fywyd priodasol yn ddedwydd iawn. Priododd yn 1825 ag ail ferch i Lord Skelmers- dale, ac y mae iddo yn awr yn fyw ddau fab ac un ferch. Priododd y ferch Colonel Talbot. Priododd yr ail fab, Captain Stanley, a merch i Lord Clarendon, ac i'w linach ef y disgyn nesaf y teitl a'r etifeddiaeth. Adnabyddid y mab hynaf dan yr enw Lord Stanley. Y mae eisioes wedi enill clod uchel fel gwladweinydd, a disgwylia y wlad lawer oddiwrtho fel medd- yliwr gwreiddiol a rhyddfrydig. !=g:=i-!ë.rJ,t'J",I'I!t":C".t,Q:i

YR UNDEB CYNULLEIDFAOL.

[No title]

Advertising