Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

"A THRWY GYNGOR DIESGEULUS…

News
Cite
Share

"A THRWY GYNGOR DIES- GEULUS DOS I RYFELA." Ni rocldodd y gwr doeth ei hun erioed gyngor doethach, pwysicach, a mwy priodol na'r cyngor uchod. Nid oes un anturiaeth dan haul yn gofyn mwy o ystyriaeth ddifrifol a chyngor diesgeulus,' cyn penderfynu arni, na myned 'i ryfela;' a phe gwrandawsai brenhinoedd a llywodraethau y ddaear ar y cyngor hwn, ac y gwnaethent yn ei ol, arbed- asid afonydd o'r gwaed dynol a dywalltwyd arni o bryd i bryd. Ond y mae llawer o ry- fela a rhyfeloedd heblaw rhyfel y cleddyf, yn y byd rhyfelgar hwn, yn wastad; cynhenau a rhyfeloedd y tafod-rhyfeloedd y pin a'r pap- ur-rhwng gwahanol bleidiau gwladwriaethol, gwyddonol, a chrefyddol. Y mae cyngor tes- tyn ein herthygl hon yn un eithaf priodol gyda golwg ar bob un o'r rhyfeloedd hyn, a phe cymerasai pob un ef, buasai llawer llai o eiriau chwerwon wedi eu hatal, a llawer iawn o inc a phapur wedi eu harbed, ac o deimladau digofus a dolurus wedi eu rhagflaenu. Rhyfel eglwysig yw rhyfel mawr y dyddiau presenol drwy holl wledydd cred. Y mae pob gwlad yn Ewrop yn dyheu am ymwared oddi- wrth iau ei heglwys sefydledig, yn Babaidd a Phrotestanaidd fel eu gilydd. Yr wythnos cyn y ddiweddaf bu amlder o gynghorwyr, dysgedig a doeth, perthynol i'r Eglwys Luth- eraidd, yn eistedd mewn cyngor yn Berlin, i gydystyried y ewestiwn, a chytunasant ar farn a rhaith unfrydol yn erbyn eglwys sefydledig. Nid sain anhynod a roddodd udgorn y cyngor hwnw ar y pwnc, ond datganiad cryf a chroew dros ddadgysylltu a gwahanu yr eglwys ar llywodraeth oddiwrth eu gilydd. Golygai fod ymyriad y llywodraeth wladol ag achosion llywodraeth yr eglwys yn atalfa fawr iawn ar ffordd llwyddiant yr eglwys a dadleuent yn gryf dros y drefn eglwysig annibynol, fod i lywodraeth pob cynulleidfa fod yn gwbl a hollol yn ei Haw hi ei hunan heb fod gan un llys gwladol nag eglwysig oddiallan iddi ddim a wnelai a'i hachosion. Y mae yspryd y dadgysylltu yn cryfhau bob dydd yn Awstria, a Ffrainc, a gwledydd Pabaidd eraill. Pa beth a wna Pio Nono a'i gyngor mawr, mawr, yn Rhufain, yn mis Rhagfyr nesaf o'r yspryd hwn, ychydig amser eto a ddengys; y mae yn un o'r ysprydion sydd yn peri arswyd a blinder nid bychan i feddwl yr hen dad, a'i gardinaliaid, a'i off- eiriaid; rhyw yspryd cyndyn ystyfnig [ydyw, wedi iddo unwaith ddyfod i mewn, nid a. efe allan er ei regu, ei felldithio, a'i esgymuno a holl nerth ac awclurdod yr eglwys sanctaidd. Bydd yn gynulledig yn y cyngor hwnw luaws mawr iawn o Aiitopheliaid yn dodi eu penau yn nghyd i lunio mesurau yn erbyn yspryd rhyddfrydig yr oes. Druain o. honynt, ni fyddai waeth i ddallhuanod y coedydd alw cyngor i drefnu mesurau i atal i'r haul godi ar y ddaear. Ni ellir mwyach atal ymledaeniad a chynydd goleuni gwybodaeth yn mysg dynion mwy nac y gellir atal ymledaeniad a chynydd goleuni naturiol y bore. Am ein heglwys sefydledig ni ein hunain, y mae rhyfeloedd ac ymladdau noethion' o'i mewn hi ei hunan druan. Ei chyngor doethion yn methu cydweled a'u gilydd beth i'w wneud iddi, fel y gwelsom yn hanes y cyngor diweddar yn Liverpool. Mynai un wneud cyfnewidiadau pwysig yn llyfr cyfraith ei chredo a'i gwasan- aeth, ac os na wneid hyny yr elai hi a'i llyfr i ddinystr gyda'u gilydd; ond ni fynai yr un arall newid na brawddeg, na gair, na sill, nac iod yn y llyfr yr oedd efe yn barod i roddi ei fywyd i lawr fel merthyr dros y llyfr, a phob peth yn y llyfr, os b'ai raid. Cyngorai un arall eto i fyrhau y gwasanaeth, gadael rhyddid i weddio heb lyfr,—agor drysau pwlpudau yr eglwys i bregethwyr lleygol, &c. Safai llyg- aid eraill allan gan ddychryn rhag y fath syniad, gan y credent y byddai y fath beth yn ffieidd-dra anrhaethol i gael ei osod yn y lIe santaidd. Ymadawodd y cyngor heb gy- tuno ar ddim, ond ar bwne y difyrion a'r chwarae. Tra y mae rhyfeloedd ac ymladdau fel hyn o'i mewn hi ei hun, y mae ei gelynion (fel eglwys sefydledig) oddiallan yn ami a chryfion, ac yn benderfynol i barhau eu hymosodiadau arni. Y mae y fuddugoliaeth a enillasant yn y senedd-dymhor diweddaf, pan y cymerasant feddiant o un o'i hamddiffynfeydd, wedi eu calonogi a'u gwroli yn fawr i fyned rhagddynt yn eu hymosodiadau, ac ni fynant roddi eu harfau i lawr nes y byddo'r amddiffynfa olaf wedi ei chymeryd. Y pwne i'w ystyried gan- ddynt yn awr ydyw, Pa fodd, pa bryd, ac ar ba gwr o'r ddinas gaerog y gwneir yr ymosod- iad nesaf ? Y mae yn anhawdd atal y milwyr wedi eu twymno yn ngwres y fuddugoliaeth ddiweddar, rhag rhuthro yn mlaen rywsut, i rywle, i wneud yr ymosodiad. Myn eraill ddilyn cyfarwyddyd y gwr doeth yn ein tes- tyn, a chymeryd 'cyngor diesgeulus,' ar y mater. Collwyd llawer brwydr ar faes rhyfel y cleddyf, ag oedd yn mron wedi ei henill, drwy i'r milwyr ruthro yn mlaen, heb yn waethaf eu blaenoriaid, gan ddisgwyl y gallent gario y cwbl o'u blaenau, yr hyn a droes yn orthrechiad a dinystr iddynt. Gyda golwg ar yr eglwys yn Nghymru, an- ogai un cynghorwr mewn cyfarfod cyhoeddus yn ddiweddar, fod i'r fyddin ruthro ar y ddinas yn ddiaros, na waeth yn y byd pwy a gymero y flaenoriaeth, pe byddai naill ai hen wraig neu hen lane, dim gwahaniaeth, ond rhuthro. Yr oedd mwy o'r Rehoboam o lawer nac o'r Solomon yn y cyngor yna. Cydnebydd byddin y dadgysylltiad yn lied unfrydol, Edward Miall fel ei phenciwdawd, ei fod ef yn deall holl dactics y rhyfel hwn yn well na neb arall. Edrycha Miall ar yr amser hwn fel y cyfnod pwysicaf yn hanes y Gymdeithas a'r aehos mawr sydd ganddi mewn llaw; a dywed fod mwy o ofal a gochelgar- wch, gyda'i symudiadau, yn angenrheidiol yn awr nac erioed; y gellid taflu yr achos yn ol am flynyddau, trwy un cam anwyliadwrus ac annoeth. Na ddylid ar un cyfrif wasgu ar y llywodraeth i ddadgysylltu yn Scotland, neu Gymru, ar wahan oddiwrth Loegr; y byddai ymgais o'r fath yn sicr o fod-yn atalfa ar ffordd llwyddiant yr achos. Bod achos Iwerddon yn wahanol ar lawer o ystyriaethau. Na wna y llywodraeth byth wrando ar y fath gais; a gwneud y gwaith o ddarn i ddarn, ac felly gadw y wlad mewn cyffro parhaus ar y cwes- tiwn am flynyddau, &c. Mai y gwaith yn awr ydyw meithrin a chryfhau argyhoeddiad meddwl y wlad ar y pwnc, nes y delo mor gryf, a'r llais cyhoeddus mor uchel a phenderfynol arno, ac y gwel y llywodraeth bod yn rhaid ei benderfynu ar unwaith ac am byth yn ei ber- thynas a'r deyrnas yn gyffredinol. Dyna o ran sylwedd, yw barn a chyngor Miall, ac y mae beth bynag yn deilwng o sylw ac ystyr- iaeth ddifrifol holl bleidwyr a charedigion achos y dadgysylltiad.

Y BARWNIAID NEWYDDION. -

- YR UNDEB CYNULLEIDFAOL.