Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

BETH A WNEIR ETTO ?

News
Cite
Share

BETH A WNEIR ETTO ? •^wriasom olwg yn ein rhifynau diweddaf at' Beth a wnaed; a phafodd y gwnaed y peth hWllW; y cwestiwn yn awr yw, Beth a wneir Canys nid ydym i feddwl y gallwn ^Wysiadu hen arwyddair Arg. J. Russell, Rest and be thankful—eistedd i lawr, plethu dwylaw, dylyfu gen, ac ymddiofalhau, fel pe n.a byddai dim yn ychwaneg i'w wneud. lthaid edrych yn ofalus am gadw a sicrhau o'r tir a ennillwyd yn yr etholiad ^eddaf, ac eangu terfynau y tir liwnw hefyd, s gwneud cynrychiolaeth Cymru yn drwyadl fyddfrydig, yn nnol ag egwyddorion a syn- lådau gwladyddol y mwyafrif dirfawr o'r eth- olWyryn mhob sir a bwrdeisdref yn y Dywys- ogeth. Y mae hi yn awr felly o fewn ych- Ydig; ond dylai fod, Nid o fewn ychydig, ond Yn gwbl oil. Y mae ein cyfeillion, y Toryaid (os caniatant 1 eu galw felly,) neu os gwell ganddynt, ein gvrthtvy-nebtvyr; ni ddywedwn ein gelynion, er ddarfod i un gwr mawr, yn eu cyfarfod di- ^eddar hwy yn Bangor, ein galw ni, dan yr eirv7 hwnw,—canys nid ydym yn proffesu nac yn teimlo gelyniaeth tuag attynt, mewn un Modd;-y maent hwy, meddwn, yn deffro atti o ddifrif eu calonau, ac yn benderfynol i d-dyblu eu diwydrwydd, a chyd-ymegnio i'r ethaf ar ol yr etholiad diweddaf, i adfeddiannu y tir a gollasant. Udganodd Arglwydd Esgob Bangor ei udgorn mawr i alw y gwersylloedd ughyd i gynllunio rhyfel-dymor yn erbyn -&hyddfrydiaeth ac Ymneillduaeth y wlad: ac Iii chanwyd yr udgorn yn y ddinas hono 'heb ddychrynu o'r bobl,' canys ymgasglodd tyrfa fawr o foneddion lien a lleyg yn nghyd, o bob gtadd ac urdd, o'r arglwydd, a'r yswain, a'r esgob, y deon, a'r periglor, a'r curad, i lawr hYd at yr hwn sydd yn Gwerthu pils i garthu pawb, O'r rascal hyd yr esgawb,' ys dywedai Clwydfardd, ac yno traddodwyd areithiau doniol, o bob math, rhai call iawn, thai canolig iawn, a rhai ffol iawn. Pasiwyd Yno hefyd benderfyniadau cryfion i adeiladu "glwysi ) a chapelau, ac ysgoldai newyddion, a chychwyn newyddiadur Cymreig newydd o'r iawn Doryaidd ryw, i'r dyben i argyhoeddi a goleuo y bobl, a'u troi o gyfeiliorni eu ffordd; h'il hennir i gorlan yr eglwys, eu gwreiddio a u seilio yn yr iachus ffydd Doryaidd ac eg- lwysaidd. Eitha da; pob chwareu teg i'n SWrthwynebwyr i arfer a defnyddio pob modd- 10n cyfreithlawn fel yna i daenu ac amddiffyn Egwyddorion eu hachos canys onid oes gan- ddynt gystal hawl i wneud felly ag sydd Senym ninau, a ninau cystal hawl a hwythau ? Olicl ein cred ddiogel ydyw, ei bod yn too late- Yn rhy ddiweddar ar achos Toryaetli,-nad oes 1111 feddyginiaeth iddi mwy. Y mae hi druan yn glaf o'r clefyd y bydd hi marw o hono. Y tnae wedi myned yn rhy bell yn y darfodedig- aeth, i unrhyw feddyginiaeth i'w hadferu. lfi all hyd yn oed pils Tremadoc wneud dim iles, ond yn hytrach llawer iawn o niweid iddi. Qyda phob dyledus barch i'r gwyr a ymgyfar- fuant yn Bangor, dywedwn, yr ydych yn gwario eich amser a'ch arian yn gwbl ofer, foneddigion, mor belled ag y mae enill y bobl 1 gofleidio egwyddorion Toryaeth yn amcan raewn golwg genych. Ie, ac mor belled ag y tnae yn amcan genych i enill y genedl i'r yr un modd. Cafodd eich Eglwys Qynaru iddi ei hun am rai ugeiniau o flynydd- "oedd a pha beth a wnaeth? Pa beth a ^naeth ? < Bwytaodd y breision, ac yfodd y ^elusion,' ac esgeulusodd ei gwaith yn hollol. ^adawodd y bobl i fyned yn eu ffyrdd eu Unain; ie, cydredodd gyda hwynt i bob -rllllsedd ac oferedd. Cafodd Ymneillduaeth y ^lad 'yn dir diffaeth a gwyllt-yn anialwch jTvvag enbyd;' a thrwy lafur caled, a dioddef- *adau lawer, y llafuriodd, y diwylliodd, ac y ygodd hi ef i'r cyflwr y mae ynddo. Ym- rechodd yr Eglwys yn egniol am hir amser i atal y gwaith da, a bu ar y cyfan yn fwy o nlwed i'r Dywysogacth, o lawer hefyd, nag a fu o les moesol ac ysprydol iddi. Nid rhagfarn a gelyniaeth tuag atti, a bar i ni ddywedyd Seiriau caledion fel hyn am dani, ond pethau y inae ffeithiau anhyblyg yn eu profi ydynt. 1Cymru erioed yn meddiant yr Eglwys, a lneiddiwn ddyweyd na bydd hi byth chwaith: ac ni buasai yn golled iddi, os nad yn enill, pe na ddodasai yr Eglwys Wladol erioed ei throed i lawr ar ei thiriogaeth. Y mae y dystiolaeth hon yn wir yn un galed; er hyny I y dystiol- aeth hon sy wir;' ac ewyllysiem ofyn i'r boneddigion hyn, a aethom ni yn elynion i chwi wrth ddywedyd i chwi y gwirionedd ? Chwi a'n cyhuddwch yn fynych, ein bod yn anfoneddigaidd, a thrahaus yn ein cyfeiriadau atoch; gallem yn hawdd droi y byrddau ar- noch, a dangos pwy sydd yn anfoneddigaidd, isel a sarhaus mewn gwirionedd. Ni alwodd yr un o honom ni, yr un o honoch chwi erioed yn rascal ac yn 8camp, ac enwau cyffelyb, fel y galwyd rhyw un o honom ni gan fwy nag un Tori a chlerigwr, am yr hwn dywedai un yn ddiweddar, mai efe a Gladstone oedd y ddau rascal penaf yn y deyrnas,—ond gallwn yn hawdd ollwng peth felly heibio gyda gwen, ac ni buasem yn cyfrif y peth yn deilwng i wneud un sylw o hono, oni bai yr achwynion mynych a wneir yn erbyn y wasg ryddfrydig Gymreig ei bod yn isel ac anfoneddigaidd. ei thon, yn sarhaus ei hysbryd a'i hiaith tuag at ei gwrthwynebwyr. Ymgadwodd y wasg Gymreig o fewn terfynau boneddigeiddrwydd canmoladwy iawn, mewn cymhariaeth i'r wasg Doryaidd Seisnig. Papurau a chyhoeddiadau yr Eglwys,' meddai Goldwin Smith, ydyw y rhai iselaf, bryntaf, a mwyaf anfoneddigaidd eu hyspryd a'u hiaith, o holl bapurau y deyrnas.' Beth pe crynhoid yr holl enwau drwg, y gelanedd o ddifriaeth, y pentyrau o ddirmyg brwnt, anheilwng ac isel, a bentyrwyd ar Mr. Gladstone gan glerigwyr ac ereill yn eu hareithiau cyhoeddus, cyn, ac ar, ac wedi'r etholiad diweddar;—ie, yr holl anwireddau dybryd a ddywedwyd arno, ac a gyhoeddwyd am dano yn newyddiaduron Toryaidd ac Eg- lwysaidd Lloegr,—beth pe cesglid ac y cy- hoeddid hwynt oil yn gyfrol ar eu penau eu hunain, meddwn, ie, beth hefyd ? Oni fyddai y gyfrol hono yn waith i'r oes hon hyd ddiwedd oesau amser ? Taflai Billingsgate ei hun i'r cysgod am byth. Na soniwch am foneddig- eiddrwydd mwy, nes dysgu boneddigeiddrwydd eich hunain, yn gyntaf. Ond beth a wneir etto ydyw y cwestiwn. Yn gyntaf, ac yn benaf oil, cadw llygaid craffus ar, a gofal manwl am y cofrestriad o flwyddyn i flwyddyn: ymdrechu, hyd y bo modd, na adawer un Rhyddfrydwr yn y sir- oedd a'r bwrdeisdrefi heb fod ei enw ar restr yr etholwyr. Esgeulus iawn fuwyd yn hyn hyd yma. Dylid trefnu goruchwylwyr medrus a ffyddlawn yn mhob sir, ar hyn o orchwyl, a thalu iddynt am eu hamser a'u llafur. Ai ni ellid cael un Arolygwr Cyffredin tros Gymru oll, i fyned o amgylch i draddodi darlithiau, ar byngciau gwladyddol y dydd, cynnal cyfarfod- ydd cyhoeddus, &c., er cadw yr achos yn bar- haus o flaen llygaid y wlad ? a gofalu am fod y cofrestriad yn cael edrych ar ei ol ? Gallai ein cyfaill gor-ddoniol Kilsby wneyd gwasan- aeth anmhrisiadwy yn y ffordd hon, pe gellid ei berswadio i ymgymmeryd a'r gwaith. Y mae ei lythyrau dihafal yn y TYST wedi cyn- nyrchu effeithiau daionus ar laweroedd; ac y mae yn, drueni fod un Cymro heb eu gweled a'u darllen. Ni ysgrifenwyd dim erioed mwy miniog ac effeithiol ar y pyngciau yr ymdrinir a hwy ynddynt, yn yr iaith Gymraeg, na Saesoneg chwaith, na'r llythyrau hyny. Y mae pob un yn cynnwys gwerth arian o addysg a difyrwch-yn fyw o athrylith ac ar- abedd, ac yn fodelau o gyfansoddiad Cymreig- ieithol, llawn gyfartal i Bardd Cwsg, a Brych y Prif Oesoedd, mewn talent ac arddull: o ran hyny, ni raid dyweyd hyn i ddarllenwyr deallus y TYST. Cyn terfynu, y mae i ni air a'n cyfeillion Seisnig, pe gallem gyrhaedd eu clustiau. Bu gan Ryddfrydwyr Swydd Gaerloew (Glouces- ter) wledd fawr y dydd o'r blaen, i gydgyf- arch a chydlawenhau yn muddugoliaethau yr achos Rhyddfrydol yn y swydd hono, yn yr etholiad diweddaf. Yr oedd Canghellwr y Trysorlys, Mr Lowe, yn bresennol yn y cyfar- fod fel genau y llywodraeth. Diolchasant yn wresog iddynt eu hunain, am y gorchestion a wnaethent, a diolchodd y Canghellwr iddynt dros y weinyddiaeth. Cynnygiwyd, cefnog- wyd, a phasiwyd diolchgarwch calonog iawn hefyd, i Ryddfrydwyr Scotland, am eu gor- chestion hwythau o blaid yr achos; ond ni soniwyd un gair am Gymru! Cynhelid y cyfarfod ar gyffiniau Cymru, ac yn bendi- faddeu Cymru a wnaeth y gorchestion penaf yn yr etholiad, o un ewr o'r deyrnas. Ond ni fynai Mr Sais gydnabod hyny: ewyllysiai ef ignorio Cymru, a throi ei lygaid draw yn mhell tua Scotland, fel y. dywed y gwr doeth, am rywun, y bydd ei lygad nid yn ei ben, ond yn ddigon pell ynghyrau'r byd yn rhywle.' Cymmerwn ein cenad i awgrymu y dylai rhyw un o'n haelodau newydd etholedig wneud sylw ar hyn yn y Banquet a fwriedir ei rhoddi iddynt yn Llundain ar y 24ain o'r mis hwn.

LLYTHYK Y MEUDWY.-