Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Y DDIOD FEDDWOL.
Y DDIOD FEDDWOL. Y gwr call geir yn eolli-ei rinwedd Orenwog wrth feddwi; Was gwaelfron-nis gwela fri, Trwy'i einioes ond trueni. Dwfn erch nod y d(lioden,-ar waelion Wyr welir—heb amgen, Hi dyn y byd—ha dyna ben I fawr ing, i for o angen. Felin Gerig. IOAN GLAN CREWI.
PRIODASGERDD I'R PARCH. J.…
PRIODASGERDD I'R PARCH. J. H. JONES, PWLLHELI. Arosais yn ddireswm, (Haedd y tro yw cerydd trwm;) Heb un pill neu benill bach I'r gwr na fu'i ragorach. Maddeu ydy-w y 70aoddion Raid ei gael yr adeg hon; 0 maddeu, maddeu meddaf, Ac yna'n wir canu wnaf. Yn y daith bron nad aethost Yn dlawd iawn i ardal dost Hsnlancyddiaeth gaeth a gwyw,- Tir llwyd od trallod ydyw. Mwy hygar galon Maggie A'tli waredodd denodd di. Mae'n tynu serch y ferch fad- Ei denol serch ad-dyniad- A'th dynodd rhoddodd yn rhad O'rrfrwyd iti waxediad. — Aed gwae a plioenau ar So, A boed hedd i'eh bedyddio. ■ Difyr o hyd a fo'r oes, „ A haf heb anaf bywyd 1 chwi a fo a gwych fyd O'ch aelwyd o'ch a elo Diddan siriol fan a fo. Er enill addurn llwyddiant A chwbl hedd boed i chwi blant; Lie nad oes llai na dwsin 0 blant, heb fod yn blant blin Y mae poen; nid oes mwyniant I deulu hef lu o blant. Oh boad nef yn ein byd ni- Hen fyd och,-i fod i chwi 0 dir angau y dringoch Uwch y byd lle'n iach y b'och. PWY YDW' 1 MAE CAMP DWE'YD. ¡
PENILLION
PENILLION Cyfiwynedig i Mrs Davies, Fever-sham St., Middles- bro; a'r ymadawiad ei merch a'i hwyrion i'r Amerig.
BUDDTJGOL YN EISTEDDFOD GOGLEDD…
BUDDTJGOL YN EISTEDDFOD GOGLEDD LLOEGR NADOLIG, 1868. Hawdd cydymdeimlo gyda chwi Gariadus wraig, Pan yw eich merch a'ch wyrion cu Yn croesi'r aig; Y mae yn ergyd trwm i'r fam, I ollwng ymaith ferch ddinam, Ond dyna oedd raid a gwelir pa'm, Roedd hithau'n wraig. X Nid ail-archolli 'eh teimlad chwaith fb., Ddymunwn ni, Ond tywallt olew ar y graith, X c, Gwybyddwch chwi; s Mae gobaith etto, er yn wan, Y cewch fwynhau cyfeillach Ann, A doed y dedwydd ddydd ilch rhan, Yn ol eich cri. Byd cyfnewidiol ydyw hwn, Ni phery'n hir, Un byth barhaol geir mi wn, Ond cael y gwir; Nid rhaid ymado'r o'r byd a ddaw, Na chanu'n iach nae ysgwyd Ilawi Ac ni bydd gelyn, aeth na braw j r • 0 fewn y tir. i „- Bydd geiriau Jacob ar eich col. Yn f'erbyn i." A'u hadrocld hwy o dro, i dro, Y byddwch chwi. n I'eh calon nid oes memawr hedd, Ond dylech goflo nad i'r bedd, j; Yr aethant hwy yn wyw eu gwedd, Sto Na wylwch chwi. Mae eu darlun gyda chwi, Yn barchus iawn, Ond ni wna rheiny er eu bri, Eich boddio'n llawn Wrth syllu ambell dro, J. Daw'r sylwedd bywyn ol i'eh col, A chlywed chwiln dywedyd "0 Eu gwel'dna chawn." 0 ddydd i ddydd daw llanw a thrai, Yn ol ei drefn, Ac wedi'r gauaf awel Mai A chwyth drachefn Ond Richard Morgan ni ddaw'n ol, Na Howell etto i ben y stol, Ac ni chaf Edward bach i'm col, Och! arw drefn. s Mot mawr y Werydd rhyngom sydd, V, •»;.••• Enbydaf daith, Gorweddle hen drysorau eudd, A beddrod llaith, r. Ond diolch er mor enbyd yw, Ca'dd Ann a'i phlant ei groesi'n fyw. Fy nefol dad oedd wrth y llyw, r'-r A'u cadw wnaeth. Diolchaf iti Arglwydd lor, • > Am wrando'm cri, Yn fwynaidd bu holl donau'r mor, Trwy'th ofal di Er mado dan deimladau syn Os na chawn gwrdd yr ochlr hyn, Hyderwn gwrdd ar Seion fryn, Ein cartref fry. Stockton. lOAN GLAN TEES.
[No title]
Mae Mr Charles Dickens i dderbyn 10,000p. gan Mr Chappell, am ei ddarlleniadau olaf, y rhai a bar- hant dros y Deyrnas Gyfunol am gant o nosweith- iau. Dywedir fod Tennyson wecli rhoddi hawl i Meistri Strahan a'i G-yf., i gyhoeddi ei weithiau barddonol am ddwy flynedd, am 8,000p. Dywed y Weekly Register fod dros 2,000"o befson- au wedi eu derbyn i'r Eglwys Babaidd yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. x eyfanswm a wnaed trwy arwerthiad eiddo y diweddar Marquis of Hastings ydoedd 7,55 Op. Hysbysir fod y Prif Weinidog ar gyhoeddi llyfr o dan yr enw, Juventus Mundi; Gods and Men of the Greek Historic Age.' Yn Providence, Rhode Island, America, ganwyd i wraig mewn un mis ar ddeg bump o blant—tri y tro cjmtar, a dan yr ail dro. Ychydig ddyddiau yn ol, cafwyd nyth bronfraith, yn cynnwys dau o wyau, yn Fordham, ger Cow- bridge, swydd Forganwg. >s> Cyfarlu partI 0 foneddigion yn nhy y Parchedig yr wythnos ddiweddaf, i gyfarfocl Mr Beverdy Johnson, y llysgenhadwr Americanaidd. Yr oedd yno nifer o weinidogion Ynmeiliduol ac adodau seneddol, ac yn eu plith Mr Samuel Morley, Mr M Arthur, a Mr Henry Richard. Datganasant y teimlad eynhesaf at Mr Johnson, oblegid ei ymdrechion i sicrhau heddwch rhwng- y ddwy wlad. Attebodd yntau mewn araeth hyawdl a dyddorol iawn. Jo, HAELIOXI AIR. PEABC)DY.-Hae .cyfraniadau Mr George Peabody yn llawar helaethach nag y tybir yn edin, fel y dengys y daflen a ganlyn: ly y Doleri. I dlodion Llundain 1,750,000 Sefydliad Baltim.ore 1,0.00,000 Addysg dynion duon a gwynion y De 2,000,000 Amgueddfa i gadw gweddillion Americ- anaidd yn Ngholeg Yale 150,000 Un arall yn N o-holeg Harvard. 150,000 At sefydliad ac addysg yn Danvers 250,000 Amgueddfa rydd yn Salem 50,000 I Dalaeth Maryland. 250,000 I Esgob Mcllvain at Kenyon College 25,000 Hynt forwrol Ogleddol Kain 10,000 Eglwys goffadwriaethol i'w fam 100,000 I aelodau ei deulu 2,000,000 7,735,000 Sef ychydig dros l,600,000p. o arian Lloegr.—New York$imes. I I
UNDEB CERDDOROL I DDOSBARTH…
UNDEB CERDDOROL I DDOSBARTH CONWY. -At Olygwyry TYST CYMEEIG. Foneddigion,—Y mae rhyw syniad yn ymgynnyg i'm meddwl er's tro bellach-yr hwn fel y mae yn dda genyf a gymmeradwyir gan amryw o wyr deallus-y byddai yn ddymunol ffnrfio undeb cerdd- orol yn nghymmydogaeth Conwy; cynnwysedig o gantorion perthynol i'r Annibynwyr yn Nghonwy, Llandudno, Colwyn, Llansantffraid, Penmaenmawr, a Henryd, &c. Credwyf y buasai ffurfiad a gweith- iad allan y fath undeb yn foddion effeithiol i wellau y rhan gerddorawl o'n gwasanaeth cysegredig. Y mae undeb o'r fath wedi ei ifurfio, ac yn cael ei ddwyn yn mlaen yn effeithiol gan y Methodistiaid, mewn rhanau o Feirion ac Arfon. Paham na all yr Annibynwyr weithio yn gyffelyb ? Hefyd, oni allem, fel cantorion yn y gwahanol lot- oedd a nodwyd, gael Cymmanfa Gerddorol rywbryd yn yr haf nesaf, a sicrhau gwasanaeth y Parch. E. Stephen a Mr J. D. Jones, fel arweinwyr ar yr achlysur? Gan hyderu y gwneir sylw o hyn o gais y gor- phwys, Yr eiddoch, Conwy, Ionawr 2, 1869. GOSTYNGEDIG.
LLYTHYR 0 PATAGONIA.
LLYTHYR 0 PATAGONIA. PATAGONES, Tachwedd 25, 1868. Anwyl Mr. Jones,-Yma derbyniais nodyn o'r eiddoch Mehefin 6ed. Cyrhaeddais wythnos yn ol, a byddaf yn hwylio yn ol yn mhen tridiau neu bed- war. Mae'r wladfa yn ddyogel i chwi yn awr. Onwd da o wenith gan bawb. Ymenyn mewn cyflawn- der o'r gwartheg newydd. Aiff tunell neu ddwy i B. Ayres yn Ionawr, a'r gweddill o'r llwyth yn wenith, os na ddaw rhyw anhap annisgwyliadwy iawn i'r cnydau. Daethum a gwerth 250p. o nwy- ddau Indiaidd i fyny y tro bwn, a bydd tua 30 o anifeiliaid (cesyg, gwartheg; a mulod) yn myned yn ol gyda mi, heblaw melin flawd (i droi hono y mae'r mulod) a thoraeth o goods eto. Y mae Mr D. Wil- liams, N. York yma gyda mi. Mae'n debyg y daw'r llong yma yn ol yn ebrwydd i .ymofyn llwyth o wartheg iddo ef, y mae wedi cael arian oddicartref. Arosaf fi yn y Wladfa i arolygu codi Plas Heddweh ar fy fferm, nes bo'r cynhauaf i fewn, a chaiff y llong fyned ar hynt i chwilio am for-loi yn y cyf- amser. Mae ein* pobl ni yn gefnog a chyfoethog. Yma (Patagones) y mae sychder wedi nychu Uawer o'r gwenith, a'r lodustiaid yn prysur fwyta'r gweddill. Y mae Edward Price (sydd i fyny'r afon Nigro yma) wedi colli ei holl wenith. Mri. Williams a John Jones yn weddol eto, ond yn heidio o locustiaid. Gwell i'ch cwmni aros yn llonydd nes clywed oddiwrthym o B. Ayres, ond byddwch yn barod i weithredu y pryd hwnw yn ebrwydd. Rhaid i ni wrth ragor o ymfudwyr. Pobl ag arian ganddynt, Mr Jones anwyl, ac nid tlodion i'r Llywodraeth dalu eu passage, yr hyn na wna fyth. Hwyrach y bydd fy Mrs Jones i yn cychwyn cyn i chwi glywed eto oddiwrthyf. Os felly, cyhoedd- weh yn y papurau ar i rai fo yn anfon sypynau eu hanfon i ryw rai yn Lerpwl a nodwch chwi, ac yno eu pacio mewn boxes i'r un steamer ag y bo fy mhriod yn dod. Purion cyfle hefyd i ymfudwyr, er mwyn cyfarwyddyd un brofiadol. Cofion, a llongyfarchiadau, a gobeithion cyn bo hir. Yn gywir, L. JONES. Anfoner sypynau i fyned i'r Wladfa i ofal Mr Owen Edwards, 22, Williamson Square, Liverpool. Bala, Ion. 20, 1869. M. D. JONES.
LLYTHYRAU Y GYMRAES 0 GANAAN.
LLYTHYRAU Y GYMRAES 0 GANAAN. At Olygwyr y TYST CYMEEIG. Foneddigion.—Darllenais gyda phleser gymerad- wyaeth uehel Dr. Rees, Liverpool, i lythyrau tal- entog y Gymraes o Ganaan. Yn nghyda llythyr earediga theimladwy y Parch T. LI. Jones, Machen, yn y TYST o flaeny diweddaf, mewn perthynas i ddyfodiad y llytliyrau allan yn llyfr. Gwelais hefyd yn y TYST diweddaf fod y llyfr yn y wasg. Yn awr' am dderbynwyr, pa ffordd a gymerir ? A fyddai yn ormod i ni awgrymu y priodoldeb i ddosbarthwyr y TYSTyn mhobeymydogaeth dderbyn enwau am y Llyfr, a'u hanfon yn ol y cyfarwyddyd yn y TYST diweddaf i'r Swyddfa, neu i'w thad. Diameu nad oes neb a amheua deilyngdod Miss M. Jones i wneuthur o honom hyn iddi—Merch ieuanc, heb gael ond ychydig fanteision yn ysgrif- enu mor dda. Llythyrau fel y dywed Dr. Rees, "syddyn glod i'w phen a'i chalon." Llythyrau sydd wedi profi fod ganddi ben pnrianghyffredin, a chalon pur anghyffxedin hefyd. Clywsom un. yn amheu a'i y ferch ieuanc ei hun ydyw gwir awdures y llythyrau. Gallem sicrhau y rhai sydd yn amheu felly, -em bod ni wedi darllen y llythyrau yn ei llq,w- ysgrif hi ei hun, yn hollol bron fel y maent wedi ym- ddangos yn y TYST. Byddai yn dda genym ddeall fod digon o dderbyn- wyr wedi ei siorhau a osodai ei thad a hithau allan o bryder am lwyddiant y llyfr, gan nad yw ei thad ond dyn o sefyllfa gyffredin, ac ar hyn o bryd fel y mae yn ofidus genym ysgrifenu, gyda chystudd trwmyn ei deulu, ac wedicladdu dau o'ilblant bychain anwyl yr un dydd yn yr un bedd ychydig ddyddiau yn ol. Ac y mae ei ferch Miss Jones-fel y mae yn hysbys dan driniaeth feddygol yn Liverpool. Rhaid fod ynddi rhyw ysbryd uchel, gwrol, a phenderfynol, onide hi fuasai wedi rhoddi i fyny yr ysbryd cyn hyn, gan y pwysau y mae hi wedi ei ddioddef. Ddosparthwyr y TYST, yn mhob cymydogaeth drwy Gymry, Lloegr, a Llanrwst, derbyniwchyr awgrym yn garedig i gasglu enwau at y^ llyfr yn ddioed, a chwi a wnewch gymwynas fawr i rai sydd yn hollol deilwng. # Gan ddymuno adferiad iechyd buan a hir oes i Ohebyddes y TYST CYMEEIG o Ganaan. Rhosllanerchrugog. ROWLANDS.
ETHOLIADAU CYMRU A'R 'LIBERATOR.'
ETHOLIADAU CYMRU A'R 'LIBERATOR.' At Olygwyr y TYST CYMREIG. Foneddigion,—Rhyw ddiwrnod yn yr wythnos ddiweddaf, bu rhywun mor garedig ag anfon trwy'r post i mi y cyhoeddiad hwnw a elwir The Liberator. Edrychais ei gynwysiad yn y fan a'r hyn a dynodd fy sylw i'w ddarllen gyntaf ydoedd erthygl o dan y penawd'The Welsh Elections.' Yr oeddwn wedi aarJien lliawa o erthyglau ar hyn yn flaeiiorol yn y newyddiaduron Saesneg, yn gystal a'r newyddiadur- on Cymrelg. G-wn beth yw syniadau y wasg Rydd- frydol Saesneg a'r wasg Ryddfrydol Gymreig. Gwn hefyd beth yw syniadau y wasg Doryaidd o'r Stand- ard urddasol i lawr hyd at ddwy lygoden Eglwysig Bangor. Er fod syniadau y rhai hyn yn dra gwa- hanol i w gilydd, nid oedd eu syniadau y naill ochr na'r Hall yn pen 1 ni pynul llawer, canys yr oedd yr oil a ddywedent yn bur gyffelyb i'r hyn y disgwyl- iasem iddynt fod. Ond am yr erthyarl vn v Tihprntnr (er fy mod yn credu weithiau fod fy amynedd yn ail i amynedd Job), er hyny, gwnaeth darlleniad yr erthygl hon i'm gwaed Cymreig i gynhyrfu, bron iawn hyd at y hoiling point, ac fe'm cariwyd yn ddiar- wybod i mi fy hunan i ben mynydd Ebal; ac yno y bum yn bwrw allan felldithion a chelanedd, a hyny nid ychydig. Dywedwyd gan rai, o herwydd fy ym- ddygiad y dydd hwnw, fy mod wedi ychwanegu fy mhechodau yn ddirfawr. Ond pa fodd bynag am hyny, 'rwy'n meiddio credu fod imi esgusawd dros y pechod hwnw. Wrth ystyried- Fod yr erthygl yn y Liberator' yn un anheg yn ei honiddau digywilydd. Fe ddywed ysgrifenydd yr erthygl uchod fod y cyfnewidiadau pwysig a gym- merodd le yn Nghymru yn yr etholiad diweddaf i'w briodoli yn neillduol i'r gwaith blaenorol a wnaed gan Gymdeithas Rhyddhad Crefydd. Wrth reswm, y mae gweled neu glywed y fath honiad hyf a beidd- gar fel yna yn peri i ni ofyn, Beth oedd y gwaith a wnaeth ? I A pha fodd y gallodd yru elfen mor nerthol ac mor sydyn i genedl ? Mae yn wir i'r gymdeithas hon gynnal cyfarfod rhyw chwech neu saith mlynedd yn ol yn Abertawe, ac iddi gynnal, ryw ddwy neu dair blynedd ar ol hyny, gyfarfodydd o'r un natur yn Dre'newydd, Dinbych, Bala, ac Aberaeron, a diau fod y cyfarfodydd hyny oil yn ddigon teilwng yn mhob ystyr. Etto beiddiwn ddy- wedyd, pe na buasai un o'r cyfarfodydd hyny wedi eu cynnal o gwbl, y buasai y chwyldroad etholiadol diweddaf wedi cymmeryd lie yn hollol yr un fath. Pwyyn yr holl greadigaeth ond ynfyttun dall a feiddia ddywedyd mai dylanwad y Gymdeithas Rhyddhad Crefydd a wnaeth i Doryaid Sir Feirion- yddi surrendio, ac i gilio o'r maes, a hyny yn anam- modol? A dyna Dinbych drachefn; gallaf ddy- wedyd, a hyny heb ofni gwrthwynebiad, na bu i'r cyfarfod a gynhaliwyd yno ychwanegu un vote i'r ymgeisydd Rhyddfrydig o gwbl. Ac am Sir Gaer- narfon drachefn, ni bu yr enwogion yno: er hyny, ni ennillwyd un frwydr yn yr etholiad diweddaf gyda mwy o anrhydedd. Nid oes yn fy mynwes un lid nac un math o deimlad cas at y Gymdeithas Rhyddhad Crefydd etto, ar yr un pryd, nis gallaf oddef yn dawel i un gymdeithas, nac i unrhyw bobl a fyddo mewn cys- sylltiad a chymdeithas, i gymmeryd mel llafurereill fel yr eiddynt hwy. Mae yn wir eu bod yn crybwyll enwau Dr. Rees, Dr. Thomas, a'r Parch. T. Levi fel rhai a fuont yn darllen rhyw bapurau yn y cyfarfodydd a gynhal- iwyd yn Abertawe; ond fe fu y gwyr mawr o Lun- dain mer garedig a gyru sylwedd y papurau hyny yn mhellach gyda mwy o nerth Ac am Mr Car veil Williams, fe wnaeth o wyrthiau ychwanegol, trwy ddatguddio truenusrwydd ein cynrychiolaeth, yr hyn oeddym yn ei wybod er's blynyddoedcl lawer yn llawn cystal ag yntau. Yn sicr, nis gall rhyw honiadau bombastic fel hyn lai na pheri iunrhyw ddyn eu ffieiddio a chasineb cyflawn. Y mae'r idea o fod rhyw ddau neu dri o ddieithriaid, trwy eu hymweliad a gwlad, yn gallu newid cynrychiolaeth y wlad hono yn afresymol i'r eithaf. Dylai ysgrifenwyr prif erthyglau y Liberator wybed mai araf yw mynediad pob egwyddor yn ei blaen. Nid gwaith a wnaed mewn byr amser ydoedd diorseddu Toryaidd tywysogaidd y wlad hon. Nid rhai a gymmerent eu dychrynu fel petris o flaen yr helwyr oedddynt. O nage, hen gedrwydd oeddynt, wedi hen wreiddio, ac wedi estyn eu cangau preiffion yn mhell, yn gysgodfawr, fel yr oedd ganddynt allu i ddal, nid un ystorm, ond ystormydd lawer. Mae' r Liberator yn ddigongostyrlgedig (ond hun- anol) i addef mai yr ail allic yn nghyflawniad y gwaith pwysig yma ydoedd 'y dull a ddangoswyd gan flaenoriaid Ymneillduol y wlad.' Mae 'n rhaid i'r Liberator oddef i mi ddywedyd mai nid yr ail allu, ond ygallupenaf, yn nghyflawniad y gwaith pwysig hwn oedd y gallu yna. Oni buasai fod y gallu hwnio wedi bod ar waith er's blynyddoedd lawer, buasai sefyllfa ein cynrychiolaeth ni heddyw yn union 'megis yr oedd yn y dechreu.' Mae ein sefyllfa gymdeithasol ni heddyw wedi ei hennill, nid o herwydd severe castigation un Sais. 0 nage, ffrwyth yr hadau hyny a hauwyd ddeg neu bymtheng mlynedd ar hugain yn ol gan ychydig o wyr a gyfrifid y pryd hyny yn ddistadl, ond erbyn heddyw mae eu henwau yn anwyl gan y genedl. Yr oedd cyssylltiyd Eglwys a Llywodraeth Wlad- ol yu syrflecl yn ffroenau yr hen Batriarch Morgan, Machynlleth, cyn geni Miall; ac ni bu yn ol yn ei zelnag yn ei allu yn cyhoeddi drygedd y fath gys- sylltiad trwy'r wlad yn gyffredinol. Byddai yn anhawdd gen i feddwl am eiliad fod y cyfarfod Liberation Society yn y Bala wedi gwneud mwy, at yru Toryieth oddiar ei sedd yn Sir Feir- ionydd nag a wnaeth holl ymdreebion ffyddlon y galluog Pugh o Fostyn (coffa parchus am ei enw o), tya nghyd a diysgogrwydd di-ildio Jones o'r Bala, ac ereill sydd ar y maes yn wyr cedyrn heddyw. Dig-. rif o beth fyddai ini fod mor ffol a thybied mai ail i'r ymhonwyr hyn yw y gorchwyl a wnaed yn Sir Gaernarfon ydoedd ymdrechion yr hen Ddoctor O. O. Roberts, Bangor, yn nghyd a'i gyfaill cadarn Caledfryn yn y blynyddoedd gynt—ddeng mlynedd ar hugain yn ol—llwybrau pa rai a ddilynwyd gan nifer helaeth o gedyrn diysgog dros eu hegwyddor- ion. A dyna Hiraethog drachefn (dyn a'i helpo), er ei lafur dirfawr, a'i' ymdrechion diflino, yn hau eg- wyddorion gwleidyddol, wedi ei yru yn ol i'r ail ddosparth gan ddisgleirdeb talentau rhyw Sais neu ddau. Y fath ynfydion oeddym ni, greaduriaid dylion, yn arfer meddwl yn wastad fod llafurHir- aethog wedi ei goroni a llwyddiant. Gresyn na fu- asai y Saeson hyn wedi rhoddi ymweliad a'r wlad hon ddeng mlynedd ar hugain yn ol; buasai hyny yn arbed y llafur, y drafferth a'r gost i gychwyn yr hen Amserau. Buasent yn arbed i Hiraethog y dra- fferth o ysgrifenu erthyglau afrifed. Cawsai or- phwyso a chysgu yn dawel yn lie pendroni wrth ymdrechu cynnal anadl einioes yn ffroenau ei newyddiadur. Amser a ballai i ni son am liaws ereill a fuont yn gedyrn ar y maes. Dyna yr hen S. R., yntau hefyd wedi ei daflu i'r cysgodion. Llawer brwydr a ym- laddwyd ganddo. Bu ei ysgrifbin lem yn dynoethi twyll a gormes yn ei wahanol ffurfiau; ond y mae yn rhaid iddo yntau sefyll o'r neilldu, canys mwy effeithiol yw severe' castigation Carvell Williams na holl ymdrechion y gwyr hyn a lliaws yn nghyd Gan fod gan y gymdeithas hon y fath allu pan yn dyfod trwy'r wlad ond yn unig dro neu ddau drwy ei chynrychiolwyr, beth mewn gwirionedd nad all wneuthur yn ei gwlad ei hunan ? Ie, beth a wnaeth? Hawdd iawn yw atteb y cwestiwn yna ag un gair, sef dim. Ie, dim, ddarllenydd. Ni bu yn offerynol i ychwanegu cymmaint ag mi vote o du a thros eg- wyddorion Mr Gladstone. Mae'r oil o'r ychwaneg- iad sydd gan Mr Gladstone wedi eu cael o Ysgotland, Iwerddon, a Chythru. Y tri hyn, a'r mwyaf o'r tri yn ol y cyfartaledd ydyw Cymru II Byddai yn burion i Gymdeitnas Rhyddhad Cref- ydd o hyn allan droi ei golwg gartref. Byddai yn burion i Carvell Williams ddarparu severe eastigations etto er codi y Saeson at eu gwaith, canys y mae iddynt hwy dir lawer i'w feddiannu. Ni feddant hwy, yn holl hanes eu helyntion etholiadol, un helynt i'w gymmharu, na buddugoliaeth mor ogon- eddus ag amryw a ennillwyd yn Nghymru. Ym- laddwyd math o Waterloo o frwydrau yma mewn cymmhariaeth i ddim a ymladdwyd yn Lloegr. Na tbybied neb o ddarllenwyr y TYST mai gelyn i'r Gymdeithas Rhyddhad Crefydd- a ysgrifenodd y llinellau uchod. Nage, eithr cyfaill. Un sydd yn hoffi ei hegwyddorion, un a gyfranodd ychydig yn y blynyddoedd diweddaf i'w thrysorfa, ac un na ddymunai i erthyglau o'r fath a'r un a ymddangos- odd yn y Liberator i ymddangos etto, gan y byddent yn rhwym o wneuthur niwed dirfawr iddi. Yr eiddoch, &c., J. AP T.
ADGOFION AM HEN GENEDL CYMRY…
ADGOFION AM HEN GENEDL CYMRY LIVERPOOL. -9 LLYTHYB VIII. (Parhad o'r rhifyn diweddaf.) YSGOLION DYDDIOL Y CYMRY. Dangosais mewn llythyr blaenorol na fedd Cymry Liverpool y dyddiau hyn yr un ysgol ddyddiol i addysgu plant y gweithiwr tlawd yn rhad, namyn un a berthyn i Eglwys Gymraeg St. Davids. Ac er fod gan y Cymry Ymneillduol dros ugain o Gapelau yn y dref a'i chyffiniau, a'r rhan fwyaf o honynt y rhai mwyaf prydferth ac eang yn y dref, a rhyw ychydig o honynt nad oes ail iddynt gan unrhyw sect. Y mae gandd|Tit Ysgolion Sabbathol yn mhob un o honynt i addysgu y genedl; eto, nid oes yr un ysgol ddyddiol; tra y mae gan y Gwyddelod—y Pabyddion-nid yn unig eu hysgolion dyddiol, o ba rai y mae ganddynt naw neu ddeg, end hefyd y mae ganddynt dri neu bedwar o Golegau uwchraddollle y dysgir y genedl hono yn mhob gradd o ddysgeid- iaeth, o'r isaf hyd yr uwchaf. Dangosais hefyd fod y Cymry yn ymddibynu yn hollol ar genedl y Saeson, a sectau eraill, yn enwed- ig y Trefnyddion Calfinaidd gan nad y w y sect hono i'w chael yn mhlith y Saeson. Sect yw hono gen- edigol a brodorol hollol i Gymru, ac nid tebyg ar hyn o bryd, yr ymdaenir ac y gwreiddir hi ond i raddau bychan yn Lloegr, nac unrhyw wlad arall, ond yn unig lie yr ymfuda y Cymry. Y blaid hon yw y gryfaf yn y dref, ac efallai y cyfoethocaf o barth aelodau a gwrandawyr, ac eto heb yr un ysgol ddyddiol i'w plant! Nid yn unig y maent yn hael- ionus dros ben yn eu casgliadau at y Feibl Gym- deithas, a'r Gymdeithas Dramor, fel y casglant gan- noedd o bunnau yn flynyddol tuag atynt. Nis gwn pa fodd y mae yn awr, ond yr wyf yn cofio fod y blaid hono yn rhoddi mwy o arian fel rhad roddion i Gymdeithas y Beiblau, na holl sectau y Saeson a phob enwad arall tu fewn i'r dref, a hyny fel gwe- ddill ar ol rhoi digon o Feiblau yn eu hysgolion Sabbathol; ond nid oes ganddynt yr un ysgol ddyddiol i'w plant! Gyda'r arian a gasglant i'r Gymdeithas Dramor y maent yn anfon Cenhadon i'r India, ac i Lydaw, ac yn codi ysgolion dyddiol i ddysgu plant Paganiaid India Ddwyreiniol, a Phab- yddion Llydaw; ond ysgol ddyddiol nid oes gan- ddynt i ddysgu eu plant eu hunain! Ai tybed nad oes angen ar blant tlodion Cymry am hyny P Oes, meddaf, lawn cymmaint a'r Indiaid a'r Llydawiaid, ac yr wyf fi yn dyst o hyny er pan ydwyf yn cofio am Gymry Liverpool. Tua deng mlynedd ar hugain yn ol, cymmerais y mater hwn yn ddifrifol dan fy ystyriaeth, i edrych a oedd modd cael ysgol ac addysg uwchraddol i'r genedl, heb fyned ar ofyn neb plaid na chenedl arall, fel y gallent ymgystadlu yn deg gyda phawb ar faes y byd a dysgeidiaeth. Gan fy mod rai blynyddau cyn hyn wedi astudio athroniaeth dysg, a'r modd goreu i gyfranu addysg i blant, cymmerais fantais lawer gwaith i wrandaw ar Welderspin, sefydlydd ysgolion babanod, yn darlithio ac yn cyfranu addysg i'r plant, nes y daethum yn lied hyddysg a'i ddull ef yn y gwaith. Cefais ganddo ef roddi darlith i'r Cymry yn Rose Plaee, ond ni wnaed un defnydd o honi, ond yn unig yr hyn a ymarferais i gyda phlant ysgol Sabbathol Rose Place. Tua'r pryd hwn, yr oedd genyf blant fy hunan yn myned i ysgol y Mechanics; a chan i mi benderfynu yn fy meddwl y caent hwy well addysg nag a gefais fy hunan, yr hyn nad oedd ond gallu darllen ac ys- grifenu, a'r pedair egwyddor cyntaf mewn rhifydd- iaeth, a hyny yn ;ddigon anmherffaith; cymmerais yn orchwyl i fyned unwaith neu ddwy bob wythnos o leiaf i ymweled a'r ysgol, ac i ymofyn pa fodd yr ymddygai fy mhlant, a'r cynnydd a wnaethent. Cymmerodd y meistradoedd hyn yn garedig oddiar ,fy llaw, a gwahoddasant fi i aros faint a fynwn i edrych a chwilio i fewn pa fodd y cyfrenid addysg i'r ysgolheigion. Yroèdd fy ngwaith yn gwneuthur felly yn gwasanaethu yn dda mewn dwy ffordd, sef, cadw fy mhlant mewn ofn rhag troseddu yn yr ysgol, ac hefyd yn fanteisiol i mi eu cyfarwyddo gartref. Trwy hyn fe gafodd pob un o honynt ddysgeidiaeth ddigonol i lenwi yn gyflawn y galw- edigaethau pennodol yr aethant iddynt. Tra yn- gwneuthur hyn o orchwyl dros fy nihlant fy hun, a gweled y manteision anrhaethol yr oedd plant jjgweithwyr yn gael, ac mor llwyddianus yr oeddynt yn cael eu dysgu yn yr ysgol hono, ac am cyn lleied o gost, tarawodd i fy meddwl gan nad oedd gan y Trefnyddion Calfinaidd fath yn y byd o ysgol ddyddiol, mai dyma yr ysgol a ddylent fab- wysiadu yn anad un arall tu fewni gyfliniau y dref. Gwyddwn yn brofiadol eu bod hwy yn ddigon hael- ionus, ac y gallent gasglu digonedd o arian i dalu y gost, heb brinhau fawr ddim ar un achos arall. Gwyddwn hefyd lawn cystal a hyny, nad oedd yn eu plith y pryd hyny allu digonol i lywodraethu a chyfarwyddo yn llwyddianus yr un ysgol o'r eiddynt eu hunain, hyd yn nod pe yr elent ati o ddifrif, gorph a chalon, o leiaf ysgol gyffelyb i'r Mechanics. Nid oedd y pryd hyny yn y deyrnas well ysgol am addysg fuddiol a defnyddiol, at bob crefft a phroffes yr elai bechgyn iddynt; ac feallai nad oes yr un a drodd allan well ysgolheigion. Yn YR YSGOL BABATOAWL, dysgir i'r plant yr egwyddor, darllen, ysgrifenu, a rhifyddiaeth, i baratoi y plant Ueiaf i'r YSGOL ISAF. Yn hono aent rhagddynt i ymberffeithio mewn darllen, ysgrifenu, rhifyddiaeth, nes myned ymlaen at Mathematics, French, Drawing, Natural Philoso- phy, Chemistry, English and French Literature, Composition, Elocution, a Mental Calculation. I bob un o'r gwahanol ganghenau hyn o ddysgeid- iaeth yr oedd o leiaf un athraw cyfarwydd yn bennodol atynt, ac i bob un o honynt ei ystafell briodol a phwrpasol at y gwaith. Rhag i'r plant gael e1.]. blino yn ormod gan yr un peth, symmudir hwynt yn rheolaidd bob awr o'r naill ystafell i'r llall i gael gwersi gan y gwahanol athrawon. Ac fel gwobr i'r plant ragori ar eu gilydd mewn dysg- 9 eidiaeth, y mae yr ysgolhaig goreu, ac o ymddyg- iad da, yn cael ei symmud unwaith bob blwyddyn i'r ysgol uchaf, am yr un bris ag y bydd efe yn dalu yn yr isaf, os bydd efe wedi bod yn yr isaf am dair blynedd. YR YSGOL UCHAF. Nid yw yr ysgol hon yn uchaf mewn dim ar yr ysgol isaf, ond yn unig yn y pris, yr hwn sydd tua phum gwaith yn uwch, fel ag i godi clawdd terfyn rhwng plant y boneddwr arianog, a phlant y werin. Ni ddysgir ynddi fwy o bethau nag a ddysgir yn yr isaf, ac nid ydyw yr athrawon yn fwy cyfarwydd i gyfranu addysg. Y mae yjnaill yn ogystal a'r llall, ond yn unig fe ddysgir ynddi y clasuron Lladin a Groeg; a gall y neb a fyno yn awr, nid cynt, ddysgu y rhai hyny neu beidio, a threulio mwy o amser gyda'r pethau ereill. Wrth ystyried y manteision tra rhagorol yr oedd yr ysgol isaf hon yn ei roddi am bris o fewn cyr- aedd llawer o'r gweithwyr cynil a sobr, penderfyn- ais nad oedd modd i'r Trefnyddion godi YS601 yn eu plith eu hunain i roddi manteision cyffelyb i blant tlodion nad oedd eu rhieni yn gallu: talu^trostynt. Gwir fod llawer o rieni a berthynent i'r Corph yn gallu talu ac anfon eu plant i'w dysgu ynddi, a hyny o bellder o ffordd, ddwy neu dair milldir, haf a gauaf, drycin ac hindda. Gwelais felly nad oedd pellder ffordd yn un rhwystr pan y byddo y manteis- ion yn gordalu am yr anfanteision. Ond am y tlod- ion druain, ymdaro goreu gallant raid iddynt hwy er cael eu plant i ryw ysgol agosaf at eu cartrefle- oedd, heb neb i ofalu am ansawdd na gwerth y ddysgeidiaeth a roir ynddynt. Ystyriais hefyd, y dylid gofalu am fechgyn tlod- ion Cymru llawn cystal a phlant yr Indiaid a'r, Llydawiaid; ac felly cynlluniais yn fy meddwl, ffordd ddigon rhwydd, debygwn, i gael manteisioa ysgol yn y Mechanics, neu y Collegiate Institution, yr hon erbyn hyn sydd yn rhoddi yr un manteision i'r 'werin; gyda hyn o wahaniaeth, ei bod yn sect-, aidd yn perthyn i Eglwys Loegr, ac y dechreuir » therfynir yr ysgol gyda ffurf o weddi a mawl hot) boreu a hwyr, ac y dysgir Catecism Eglwys Loegr i'r ysgolheigion sydd yn aelodau o honi, gan adad i'r rhai nad ydynt, ryddid i'w hebgor neu beidio. Codwyd yr ysgol hon yn benodol er coleddu egwydd- orion yr Eglwys. Y Mechanics sydd yn hollol ati- sectaraidd. Yr Undodwyr a'r Crynwyr yn benaf 801 sefydlodd, ac a ffurfiodd ei rheolau, yn y fath fodd ag i alluogi pob plaid fel eu gilydd, Protestant 3 Phabydd, i gydgyfarfod a chael eu dysgu gan yr na athrawon, heb ymyraeth dim a'u daliadau crefyddol* Caniatawyd ar gychwyniad yr ysgol ac am y ddwy flynedd cyntaf, i'r Beibl gael ei ddarllen ynddi, ona fel arferol, cododd y Pabyddion derfysg ynghylci hyny, gan fynu dileu yr arfer yn hollol o'r ysgol- Caniatawyd eu cais, ac o hyny allan nid yw y LIO sanctaidd yn cael ei ddarllen ynddi. Felly ddi- fadwyd tua phum cant o'r ysgolheigion Protestaa* aidd o'r fraint, er mwyn boddhau rhyw gant o Bab- yddion. Cymaint a hyna am ryddid Pabyddiaetk A dyma y diolch a gafodd y Protestaniaid ganddynt am ildio i'w cais, sef, mor gynted ag y cawsant y cyfleu i godi ysgol yn eu plith eu hunain, tynasant gymaint ag a allent o'u plaid o'r ysgol, ynghyd 8 phob cynorthwy blaenorol a roddasant iddi. On» heb ymdroi yn mhellach, awn at y CYNLLUN YSGOL I'B CYMRY TLODION. I'r dyben o gael gwybod pa sawl un o'r plant berthynant i'r Trefnyddion nad all eu rhieni dalu am eu dysg yn ysgol y Mechanics, anfonais gylch- lythyr at brif athraw pob un o'r ysgolion Sabbothol# er cael gwybod eu nifer, a'u henwau. Wedi cael- hyny, aethum yn bersonol i ymofyn yn eu cyleh, 3 chefais fod oddeutu 80, rhwng y rhai nad allent dallk o gwbl, neu ran o hyny. Cyfrifais y gost o'u dysgJ1 yn ychydig dros ddau gant o bunau yn y flwyddyA yr hyn nid oedd fawr i'w codi gan rai sydd rnot haelionus eu easgliadau. Yr oedd amryw yn barod i dalu y gost am un neu ddau o fechgyn, ereill YO barod i ymuno yn ddau neu yn dri, i gynal nB; Erbyn hyn nid oedd eisiau ond casgliad blynyddol I wneuthur y gweddill penodol i fynu, er dwyn y cy»* llun i berffeithrwydd. Wedi hyny, aethum at firl- arwyddwyr yr ysgol i ofyn a wnaent hwy i'r iaith Gymraeg i gael ei dysgu yn ramadegol y? yr ysgol, mew-n closparth ag athraw pwrpasol, act hyny beidio ag ymyraeth dim ar y pethau a ddysg wyd eisioes. Caniatawyd y cais; ac yr oedd un 0ft, athrawon yn ddigon galluog y pryd hyny yn it ysgol i fod yn Professor of Welsh, sef Mr Jobit Ambrose Lloyd, y llenor a'r cerddor. Y pethau h sydd wedi eu croniclo yn llyfr yr ysgol, i'w gwelea, y dydcl hwn. Wedi parotoi pob peth fel uchod, gelwais, dr«y ganiatad, gyfarfod yn nghapel Rose Place, o't brodyr mwyaf dylanwadol a thebycaf o gario allaf y cynllun. Yr oedd yno y Parch. H. Rees, a'r ft weddaf Barch. John Hughes, yr hwn a gynygi ei wasanaeth i roddi pob cymhorth i ddysgu yn bsf. sonol y dosparth Cymraeg; Mr William William9' Town Councillor; y diweddar John Jones, dr-O Homer Street; David Price, Great Mersey Street Robert Pierce, ac amryw eraill, o blaid y cynllun* Ond fel y ceir yn fynych mewn cyfarfodydd cyØ elyb, rai dynion yn gwrthwynebu pob peth ond J* hyn a ddygir i'r bwrdd ganddynt hwy; ac felly f bu yn hwn. Cododd un tra nodedig am gael io peth yn ol ei feddwl a'i gynllun ei hun, ac a gynlJ' iodd 'Fod i ni gael ysgol o'n heiddo ein hunain, ao arolygiad a chyfarwyddyd ein hunain.' 0 i'e, y»^ 'rwan, hyny fyddai oreu,' meddai un. I Debyg law$ yn wir ynte 'rwan,' meddai y llall, heb un rhithyJI o reswm ond hyny. Dadleuwyd y peth gan amr^ er dangos gymmaint rhagorach fyddai y iaeth a geid yn yr ysgol hono rhagor yr un a fyddf bosibl i godi yn eu plith, a hyny heb y drafferth ° harolygii. Dangoswyd y byddai costau ysgol cynllun hwy, rhwng cost yr adeilad, a'r pethau ereiil angenrheidiol iddo, yn nghyd a chyflog yr athrW", bron Ilawn cymaint o arian ag ysgol y MechanIcS, heb dderbyn yr ugeinfed ran o'r manteision. law y coll amser, y gofal, a'r drafferth a gaffo y sonau hyny a'i harolygant. bendant, os codant yr ysgol y byddai yn sicr o a darfod cyn pen deng mlynedd; nid o ddiffyg ond o allu cyfarwyddol yn fyw. Ond er hyn oil, ni thycia dim i droi meddw un o'r rhai a fynent ysgol o'r eiddynt, a'i plaid ? hunain; ac felly y cyfarfod hwn a esgorodd ar > YSGOL PRINCE EDWIN STREET. Agorwyd yr ysgol hon mewn llawn hwyl tua p mlynedd ar hugain yn ol, mewn adeilad eithaf hwys ac eithaf anrhydeddus i'r rhai a'i cod Ffurflwyd cyfeisteddiad o'r dynion mwyaf cymh"^ a galluog i'w dwyn yn mlaen. Cafwyd un meis^*t y^goreu a allent am y pris, ac un feistres. hi a phlant Cymry, ond nid ei hanner gyda phlaD- rhai a dalent y draul, ond a phlant pleidiau ereill0 • Cymry. Y cyfnod hwn, nid oedd capel Fitzclartgce' na Netherfield Road, nac Everton Brow gan yr neillduwyr. na Shaw Street y Wesleyaid. Y*1* gymmydogaeth, y nesaf oedd Rose Place, ton, y Taberriace, Great Crosshall Street, a Bedyddwyr ac felly, nid oedd y Cymry mor ag y maent yn awr. Yr oedd y ffordd yn rhy blant y rhan Ddeheuol o'r dref i ddyfod o Bedf^ Street a Mulbery Street. Dechreuwyd yn ryfeddol ar y cyntaf—yr ymwelwyr y, ffyddlou.)o eu tro yn bwrw eu golwg yn wythnosol ar y a'r plant. Ond o dipyn i beth, oerodd zel pawb, °L yn unig Mr John Jones, Great Homer Street (G°^ da am dano rhaid cael llythyr cyfan i draethvfz ei rinweddau ef). Gadawyd yr ysgol dan of/.I>J ctÕJ meistr yn unig ac yn y diwedd, aeth yn y8" hollol i blant Saeson, Gwyddelod^ a Scotiaid Ffaelodd yn hollol yn ei brif ddiben, sef dysgu pjp tlodion yr Hen Gorph. Bu farw o nychdow^ chladdwyd hi er's amryw flynyddoedd bellach, j fel y prophwydwyd am dani cyn ei geni. Ow! 0 Gymry Liverpool! Pe gwneuthesid yn ol y cynllun uchod. ul t unig buasai genych ysgol yn awr i'c 1? ute, tlodion, ond buasai genych yn y Liverpool Instlt i dros ugain o athrawon, ac ystafelloedd CYDlInh roddi gwell addysg, a mwy amrywiol ddeg & ar hugain, ie, ganwaith, ac amyr un bris bron dalasoch am un athraw ac un ystafell i'w d, gynt. Gallaf dystio a phrofi hyny drwy o fechgyn a addysgwyd yno, ac yn eu plith ugeVyji o fechgyn Cymru ag sydd yn adnabyddus i 101 L- bersonol, a'r rhan fwyaf o honynt ydynt rhydedd i'r rhieni a'u magodd, yr ysgol a'u dysg0 ac i'r wlad a'r genedl y perthynant. Ydwyf, Foneddigion, ¡ Yr eiddoch yn gywir, ROBT. HERBERT W Corfandy, Pont Menai, Ion. 12, 1869.
Advertising
dove lop, THE MANUFACTURE OF JEWELLERY.—The strlkw" dusttl ment of Fine Art productions in this branch of the trades since the period of the great Exhibition is J, T,ed exemplified in a most interesting little work just jj. tM Mr. J. W. Benson, who holds the appointment to o> Prince of Wales, and H.H. the Maharajah of Burcw Cjty 25, Old Bond Street; 99, Westbourne Grove; ana jilu3' Steam Factory, 58 and 60, LudgateHill. It isprof'l^oclifj trated with the most beautiful designs of Bracelets, J*$0? Earrings, Lockets, &c., &c., in every conceivable ,ijager ? with*prices attached; and thus the intending have* enabled to make a selection suited to his taste, afl 0r forwarded to any part of the United Kingdom, l11^ 'pe»c.f' Colonies. The price of this most useful guide is J- l0o^ for which it is forwarded post free, and to any one a templates a purchase, either for personal wear or x ding, birth-day, Christmas, or other present, it Win of the very greatest service..