Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

--LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD.

News
Cite
Share

LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD. Mae yn digwydd yn rhyfedd iawn, pan y mae ynof hwyl i ysgrifenu, nid oes yma ddim neillduol yn cymeryd lie a phan y mae rhywbeth. neillduol yn cymeryd lie, nid oes ynof fawr bias i ysgrifenu. Mae yma amryw bethau wedi cymeryd lie yn ddiweddar, ond'doedd dim hwyl arnaf i ysgrifenu, a dyna yrunig esgusawdsydd genyf i'wreddipaham y mae ambell i ddigwyddiad go bwysig yn myned heibio heb ei grybwyll, ond beth bynag y mae ynof dipyn o ysfa yr wythnos yma. Nos Fawrth, Ion 19, bu cyfarfod Tea y nghapel newydd PRINCES BOAD. Dyma deml fawr y Cymru yn y dref, ac y mae o ran gwyehder allanol yn deilwng i'w chydmaru a'r oreu o demlau y Saeson, yn Eglwyswyr ac Ymneill- duwyr. Nid oes genyf ddim rhyw lawer i'w ddyweyd am y Tea, gan nad aethum yno i gyfranogi o hono. Yn y cyfarfod cyhoeddus cymerwyd y gadair gan D Roberts, Ysw., Hope Street. Un o brif golofnau yr achos. Darllenodd ysgrifenydd y Building Commitce, Mr. John Lloyd, gyfrif o'r draul yr aed iddo gydag adeiladiad y capel. Costiodd yn ol yr adroddiad ychydig yn fwy na £ 17,000. Nid wyf yn rhoddi y swm yn fanwl. Daroganai llawer wrth weled y cynllun, y costiai ddwy neu dair mil ar hugain ond gyda gofal ac arolygiaeth ddarbodus, gwnaed ef am ychydig dros £ 17,000. Casglwyd gan yr Eglwys a'r gynulleidfa, gyda ychydig symiau oddiwrth gyfeillion oddiallan lawn jESOOO. Dywedai yr ysgrifenydd fod tua Y,500 o'r addewidion a gafwyd heb ddyfod i law ac y dis- gwylient gael am yr hen gapel yn Bedford Street o leiaf X2500, felly, erbyn caely gweddill o'r addew- idion i mewn, a chael gwerthu yr hen gapel, y maent yncyfrif y bydd £ 11,000 o'r ddyled wedi ei thalu; acnabydd yn arosond ychydigdros £ 6000. Ardderch- og onide? Mae gweithio fel hyn yn anrhydedd i'n cenedl; ond rhaid cofio fod yno gyfoethogion lawer yn bwrw llawer i'r drysorfa. Areithiodd y Parch H. Rees yn y cyfarfod a'r yr adroddiad; y Parch 0 Thomas, ar Ffyddlondeb Crefyddol; y Parch J. Hughes, ar Haelioni Crefyddol; ac ar y diwedd dygodd y Parch D. Charles, B.A., Trefecca (gynt), achos y Brifysgol ger bron. Cyfarfod da iawn ydoedd, ond fod yr areithiau braidd yn rhy bregethwrol i gyfarfod Tea ond yr oeddynt er hyny yn dra rhagorol. A thra yr ydwyf eisoes yn siarad am Dea Parties, gallaf grybwyll am Ilea Party o natur arall, sef, TEA. PARTY EGIWYSIG Y TABERNACLE. Mae Eglwys y Tabernacle, Netherneld Road yn arfer er's blynyddau bellach i gael Tea Party i'r holl Eglwys ynglyn, a darlleniad ei chyfrifon am y flwyddyn, a nos Lun diweddaf y cafwyd ef am y eleni. Ac yn ychwanegol at gyfrifon yr Eglwys am y flwyddyn, darllenwyd cyfrif y capel newydd yn cynwys y draul yr aed iddi, a'r oil a gyfranwyd ato. Daeth tua 150 ynghyd i Dea erbyn haner awr wedi chwech; ac yr oedd pawb mor gartrefol a phlant ar yr aelwyd, yn cydfwynhau yr arlwyadau. Wedi i bawb gael eu digoni, cymerodd y Parch J. Thomas, gweinidog y lie, y gadair, ac ar ol lawen gyfarch yr Eglwys ar yr amgylchiadau unol a chalonog yr oeddynt wedi cyfarfod ynddynt, galwodd ar ysgrifenydd yr Eglwys Mr John Davies, Great George Street, i ddarllen rhestr cyfraniadau yr aelodau am y flwyddyn. Dangosai y rhestr fod yno rai wedi cyfranu yn rhagorol, a rhaid fod y lluaws wedi cydweithredu cyn y buasai y cyfanswm o fwy na 1175 wedi ei dderbyn yn unig oddiwrth gyfraniadau wythnosol yr aelodau. Yr oedd hyny meddai y cadeirydd, yn agos i S20 yn fwy nag a gasglwyd yr un flwyddyn o'r blaen. Yna darllen- wyd cyfrifon yr eisteddleoedd gan y casglyddiori, ac yr oedd y cyfanswm am y flwyddyn yn ychwaneg na zE 118 oddiwrth eisteddleoedd. Yr oedd hyny yn ddau cymaint arswm a arferant gael am eisteddle- oedd yr hen gapel. Yr oedd y casgliadau cyhoeddus nos Sabbothol hefyd yn rhyw C63 neu ragor. Nis gallaf roddi yr exact figure, ond yr wyf yn gofalu bod is-law i'r hyn ydoedd. Yr oedd hyn yn agos i un ran o dair yn fwy nag y byddai y casgliad- au nos Sabbothol yn arfer bod yn yr hen Dabarnacle, dengys y cynydd mawr sydd wedi bob yn y gyn- ulleidfa wedi ei symudiad i'r capel newydd, ac ar yr un pryd dengys hefyd ddoethineb y cam a gym- erwyd. Yr oeddynt wedi casglu hefyd at y Genhad- aeth, ac at golegau Aberhonddu a'r Bala, a rhyw bethau eraill, yr hyn a wnai tua zC420, yn unig oddiwrth gyfraniadau rheolaidd yr Eglwys. Ond y flwyddyn ddiweddaf hefyd, casglasant at eu capel newyadY,550,yrhynachwycldaigyfanswmeasgliadau yr Eglwys a'r gynulleidfa am un, flwyddyn i fwy na £ 970. Gwnaed hyny nid am fod yno gyfoethogion i roddi llawer, ond am fod yno lawer o bobl gyffred- in yn cydweithredu yn unol ac yn siriol. Yr oedd cynydd wedi bod hefyd yn rhif yr aelodau, fel yr oeddynt yn niwedd yflwyddyn yn 322, ac yr oedd yno tua 22 o ymgeiswyr am aelodaeth ond heb eu derbyn. Wedi gorphen gyda chyfrifon yr Eglwys, galwyd ar Mr Josiah Thomas, ysgrifenydd y Drysorfa Ad- eiladu, i ddarllen cyfrif y capel. Ymddengys fod y tir a'r capel, a phob pethfel y saif,wedi costio £6,366 Is. 2-1d. Mae y swm yn fawr, mae yn wir, ond y mae pawb a welodd y capel yn cydnabod ei fod yn werth yr arian. Darllenwyd y swm a gyfranwyd gan bob aelod at y capel newydd, er dechreu yr ym- drech yn niwedd 1866, yn nghydfa'r swm a gasgl- wyd gan bob un, a dangosai yr adroddiad fod rhai a llawer wedi gweithio a'u holl egni. Dywedai y gweinidog fod rhai wedi meddwl y ccid swm mor fawr am yr hen gapel fel mai o'r braidd y tybient y buasai eisiau casglu dim. Ond y mae yr hen gapel eto heb ei werthu, fel y mae y ddyled sydd yn aros yn£5,295 10s. Disgwylient, os gwella masnach ychydig, gael o leiaf S3000 am yr hen gapel; yna ni bydd y gweddill ond baich ysgafn i'w gario, gan y bydd arian yr eisteddleoedd yn fwy na digon i dalu y llogau. Cynygiodd Mr. Robert Davies fod diolchgarwch gwresocaf yr Eglwys i gael ei gyf- lwyno i Mr Josiah Thomas, yr ysgrifenydd, am ei wasanaeth, a dywedai y buasai yn dda ganddo pe buasai eu diweddar frawd, Mr Evan Owens, y try- sorydd, yno i dderbyn eu diolchgarwch hefyd. Cefn- ogwyd ef gan Mr Morris Jones, a chariwyd ef yn frwdfrydig. Yr unig gwmwl ar y cyfarfod siriol oedd fod Mr Owen yn eisiau, yr hwn yr oedd ei ewyllys mor llwyr at dy ei Dduw yn y lie. Cynyg- iwyd diolchgarwoh i Mr Richard Jones, trysorydd yr Eglwys, a Mr John Davies, yr ysgrifenydd, ac i gasglyddion arian yr eisteddleoedd, gan Mr William Morris, yr hyn a gefnogwyd gan Mr Robert Wil- liams, ac a basiwyd gyda'r brwdfrydedd mwyaf. Anaml y cafwyd cyfarfod mor unol a brawdol. Siaradodd amryw o'r brodyr, yn amlygu eu Ilawen- ydd yn sefyllfa gysurus yr achos, a'i cydweithred- iad cyffredinol oedd yn yr Eglwys; a thystiai y gweinidog na threuliodd, er y mae yn eu plith, flwyddyn mor gysurus a'r flwyddyn ddiweddaf- na chlywodd air gan neb yn ddirgel na chyhoedd allasai beri dolur i neb yno-iddo weled pethau yn wahanol flynyddau yn ol; ond fod y dynion croes a checrus hyny, trwy drugaredd, wedi myned, ac wedi ymadael heb hiraeth am danynt. Bydd yn dda genyf, os caf gyfle, i glywed yr Eglwysi eraill yma yn darllen eu cyfrifon, neu roddi yr hanes trwy y TYST. Yr wyf yn clywed eu bod yn brysur yn eu parotoi, a gwn fod ganddynt adroddiadau fydd yn werth eu darllen. Ni bu Annibyniaeth Gymreig yn Liverpool ar y cyfan erioed mewn cystal gwedd ag y mae yn bresennol. Mae genyf un path arall i'w grybwyll, a waeth i mi wneud hyny yn y fan yma. Mae Y PARCH. H. E. THOMAS,. BIRKENHEAD, wedi hysbysu ei eglwys nos Sabbath diweddaf eifod wedi derbyn galwad oddi wrth eglwys gynnulleid- faol Pittsburgh, Pennsylvannia, America ac er nad oedd wedi ei hatteb yn gadarnhaol etto, dywedodd ei fod yn gogwyddo yn ei feddwl i fyned, ac y caent wybod yn benderfynol yn fuan. Os a Mr Thomas ymaith, fel y mae y tebygolrwydd yn gryf, bydd yn chwithdod mawr ar ei ol. Mae wedi bod yma am fwy na 16 mlynedd, ac nid oes yr un dyn gan un enwad yr un ochr i'r afon ag y mae yn well gan bawb ei weled. Mae yn wastad yn siriol, ac wedi cydweithredu gyda phob achos cyhoeddus braidd heb wneuthur dolur i neb erioed. Nis gallasai wneud mwy yn Birkenhead nag y mae wedi ei wneud, ac nid wyf yn meddwl y gallasai neb arall wneud mwy yno; ac er fod yr achos wedi gwella yn ddirfawr rliagor pan y daeth yma, nid ydyw y lie mewn un modd yn dyfod y peth y disgwyliai pawb y deuai. Mae y boblogaeth yn nodedig o symmud- ol; a'r aelodau, o ganlyniad, yn myned ac yn dyfod yn ddibaid. Ni bu gweinidog erioed yn cael ei garu yn fwy gan ei bobl nag y mae Mr Thomas, ac y mae y gofal y mae wedi ddangosam danynt yn haeddu hyny oddiar eu llaw. Mae y cynnyg da y mae Mr Thomas yn ei gael, a chyda'i deulu cynnyddol, y fath ag y byddai yn anhawdd genyf ei annog i'w wrthod, ped ymostyngai i ofyn fy nghyngor, er ei fod yn un o'r dynion diweddaf y buaswn yn ei hebgor. Go- beithio, pa fodd bynag, y bydd dan arweiniad a ben- dith Rhagluniaeth pa fodd bynag y penderfyna. Da genym fod ein cydwladwr parchus a'r meddyg galluog Dn. H. 0. THOMAS wedi llwyr wellhau ac yn mysg y cleifion a ddis- gwyliant wrtho, caiff y Gymraes o Ganaan ei ofal tyneraf.

Y TAELWRIAID.

MARWOLAETH TYWYSOG BRENHINOL…

FFRWYTH YR ETHOLIADAU YN YR…

TERFYSG YN IT ALL

TWRCI A GROEG.

ST. CLEARS.

Family Notices

Y FASNACH YD.

ANIFEILIAID.

MASNACH METTELOEDD, &a.

MASNACH MARCHNADOEDD CYMREIG.

YR WYTHNOS. ^