Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

SIR GAERNARFON.

News
Cite
Share

SIR GAERNARFON. ETIFEDDIAETH Y FAENOL, A'R DI- WEDDAR FEDDIANYDD, T. A. M SMITH, YSW. Oddiwrth y desgrifiad cynwysedig yn ein llythyr blaenorol, gallai y darllenydd gasglu, fod yn per- thyn i'r etifeddiaeth ion bob math, o diroedd, y gwyllt, y gwael, y rhagorol, a'r tra.-rhagorol; ac felly y mae, gan fod y rhan fwyaf o honi yn gor- ciaiddio rhai o'r gwastadeddau byfrytaf yn Arfon a Ueyn, y rhagorol wrth gwrs, sydd yn ffynu helaeth- af. T mae y ffermydd gan mwyaf, yn eang a godi- dog, ao oddiwrth ragoroldeb yr anifeiliaid a welir ar lawer o honynt, yn nghyda llawnder yr ydlanau, hawdd ydyw i ni gasglu eu bod wedi eu dwyn i gyftwr o ddiwylliad uchel. Yn ystod y desg neu y pymtheng mlynedd diweddaf, y mae cyfnewidiadau mawrion er gwell, wedi cymmeryd lie dros wyneb yr etifeddiaeth braidd yn gyffredinol. Yr ydys wedi gweled tynu i lawr yr hen adeiladau, a chodi rhai mwy cyfleus ac ardderchog yn eu lie yn mhob cyf- eiriad. Preswylia nifer mawr o denantiaid y Faenol ar hyn o bryd, mewn anneddau, a ystyriasid yn bal- asdai gwych yn yr hen amseroedd. Am y tai i'r anifeiliaid, y maent, fel rheol, yn gadarn a gwych. Gan fod y gwaitho adfer pethau, ynparhau i fyned rhagddo, gellid meddwl y bydd yr etifeddiaeth hon o ran ei hadeiladau ar fyrder, mor ragorol, os nad yn fwy felly, nag un etifeddiaeth arall o fewn y Dywysogaeth, oddieithr efallai, etifeddiaeth bryd- ferth a goludog y Penrhyn. A chyda rhagoriaethau y Penrhyn, gwelir fod gradd o felldith y Penrhyn hefyd wedi dyfod i mewn i rai cyrion o'r etifeddiaeth, mewn Dlynyddoedd diweddar, oblegid effeithir difrod ofnadwy ar gnydau rhai o'r tenantiaid, gan y mil- oedd cwningod a adewir i luosogi mewn cloddiau a choedwigoedd cyfagos. Cyfyngir y drwg pa fodd bynag i gylch lied fychan, a gwneir ychydig o iawn weithiau ar gyfer colledion trymion. Eithr onid yw yn bryd i beth fel hyn ddarfod yn llwyr o'r wlad bellach ? Er mwyn eu hanrhydedd eu hunain, dylai y bobl fawr roddi attalfa yn ddiattreg ar bla y cwn- ingod, canys fe welir nad yw Ydrwg yn beth anochel- adwy, tra y mae yn ofnadwy o orthrymus i luaws mawr o dir-ddeiliaid gonest a llafurus yma a thraw. Ax y cyfan, pobllled dda arnynt ydyw tenantiaid y Faenol wedi bod, ar hyd y blynyddoedd. Yr oedd y diweddar T. Assheton Smith, Ysw., yn hynod o garedig i'w ddeiliaid yn mhob mhob man. Ei ewyllys ef oedd i bawb o honynt gael byw, a byw hefyd yn well na chyffredin, os dewisent hwy eu hunain iddi fod felly. Nid oedd tiroedd neb drwy y gwledydd braidd, mor rad a'r eiddo ef. Hyd yma y mae pethau yn parhau mewn agwedd gyffelyb; ac os ydyw fod yr holl denantiaid yn awr dan warning yn argoeli fod rhyw gyfnewidiad gerllaw, ni a ddy- wedem oddiar ein hadnabyddiaeth o dynerwch a haelfrydigrwydd y teulu sydd yn awr wrth y llyw, na wneir dim yn amgen nag a ellid yn deg a rhes- ymol ei ddisgwyl, yn wyneb y symiau a wariwyd yn y blynyddoedd diweddaf, er effeithio y gwelliant- au hyny yr ydys newydd gyfeirio atynt. Os oes i'r etifeddiaeth hon ei gwyllt-leoedd, nid oes gan y perchenogion, megis y dangoswyd genym yn ein lfith diweddaf, yr un achos i gwyno oblegid »?SrLia.wr^{m^laXy4fl^l^vBanner o'r Wyddfa i'w meddiant, ond peth mwy fyth ydoedd fod yr ETITDTR wedi syrthio i'w rhan hefyd. Hen fynydd digon hagr yr olwg arno ydyw hwn, a saif ar gyfer y Wyddfa, yr ochr arall i Lyn Peris, ac yma, ar lechwedd hwn, y deuir o hyd i'r CHWABEL fawr, am yr hon y gwnaethom fyr-grybwylliad yn barod. Y mae hon yn gorchuddio arwynebedd dirfawr, ac yn sefyll mewn rhan yn mhlwyf Llanberis, ac mewn rhan hefyd fn mhlwyf Llanddeiniolen. Ar gyfer y cwr uchaf i'r chwarel, ac yn gysylltiol a hi, y gor- wedda y dreflan hyfryd a phoblog a adwaenir wrth yr enw Dinorwig. Gan gofio, oddiyma y cymerodd y pregethwr ffraethbert, a'r bardd toddedig PRICE yn awr o Newark, America, ei ffug-eaw; ac wrth yr enw hwn y dewisay bobl fwyaf i'r chwarel gael ei galw, a hyny yn ddiau ar gyfrif enwogrwydd traddodiadol y lie. Digon tebyg mai fel yna y safai yr enw ar y cyntaf, sef Din-ar-wig, yn golygu Dinas oddiar neu uwchlaw y Wig. Dywedir fod gan LLEWELYN olaf lys yn y fan yma, ac yn Nghastell Dolbodarn, a saif ar uchelfan Jiyfryd yr ochr arall i un o'r llynoedd sydd ar ein cyfer, y bu i Llewelyn garcharu ei frawd Owen, a elwid OWAIHT GOCH, am yr ysbaid maith o dair-blynedd-ar-hugain, sef o 1254 hyd 1277, oherwyddiddo mewn cysylltiad a'i frawd Dafydd, ymgeisio at ei ddifeddianu ef o'r Or- sedd. Beth bynag am hyny, prif hynodrwydd y fangre yn bresenol yw y gloddfa odidog yr ydym yn awr yn myned i roddi byr ddesgrifiad o honi. Er nad yw y chwarel hon yn cael ei gweithio yn orielau mor drefnus ag eiddo y Penrhyn, eto, i edr- ychydd oddidraw, y mae iddi ymddangosiad gor- uchel a gwir fawreddog. Ar ddiwrnod teg yn yr haf, ceir ami y fath olwg o ymyl yr hen Gastell yr ydys newydd fod yn crybwyll am dano, ag nas anghofir gan ddyn yn fuan. Tra yn sefyll yn y fath le, priodol fydd i ni gofio, mai nid dyna yr olwg a geid ar yr Elidir yn y dyddiau pan oedd Owain Goeh yn garcharor mewn rhyw gell gyfyng o fewn yr hen furiau pruddglwyfus yna, y rhai a daflant eu cysgodion mor hyfryd o'n deutu. Nid oedd mo'r creithiau dyfnion yna, wedi eu gwn- euthur gan ewinedd diwydrwydd, ar wyneb yr hen fynydd y pryd hwnw; ac i Owain druan, nid oedd i fesur oriau ei gaethiwed maith, ddim byd tebyg i swn bywiog y cyrn acw a genir bob awr yn rheol- aidd, er rhybuddio gwyr y creigiau i gilio o'r neilldu am nawdd, tra y rhoddir allan yr ergydion taranllyd hyny, a anfonant eu hadseiniau o glogwyn i glog- wTn yn iahob eyfeiriad, nes peri i un deimlo ar y foment fel pe byddai yr holl nentydd a'r brvniau o'u deutu ar fedr symmud i flfoi i rywle. Ac os newid- iwn ein safle, gan fyned i waered, ac amgylchu cwr isaf Llyn Peris, nes cyrhaedd hyd at odreu y chwar- el, daw yr olwg o'r fan hono i fod yn rhywbeth erchyll ac arswydol iawn. Ymddyrchaif clogwyni oddiar glogwyni, a chreigiau oddiar greigiau, ac ymddeng- ys rhai o honynt fel pe yn eithaf parod i ddymchwe1 i lawr am ein penau ac wrth graffu o honom, can- fyddwn luoedd yn gweithio yn nannedd y clogwyni oddiarnom-rhai ar bethau cyfyng yn rhydd, eraill wrth raffau yn rhwym, a'r cyfan o honynt uwchben y fath ddyfnderoedd, ac yn cael eu cylchynu gan y fath beryglon, fel mai peth rhyfedd iawn yn wir, a fydd gweled y fath ffrwd o fodau dynol, yn ymdy- wallt allan o'r gwaith ar fin nos yn fyw, ac yn gyff- redin heb un anafus chwaith yn eu plith. Ni wyddis yn mha gyfnod y dechreuwyd cloddio am.^ec'^ yn 7 fangre yma gyntaf, ond ymddengys maa. oddeutu deng mlynedd a thriugain yn ol y de- chreuwyd gweithio y chwarel wrth reol ac i bwrpas. Cynnyddai o'r pryd hwnw allan yn raddol hyd y ftwyddyn 1828, pryd y gwawriodd arni gyfnod o lwyddiant ac eangiad anghyfEredin. Hono oedd y flwyddyn yn mha un y daeth y diweddar Mr Asshe- ton Smith 1 feddianu yr etifeddiaeth ar ol ei dad. Yr oedd ef yn meddu ar ddigon o graffder i weled ar unwaith y gallesid gwneud gwell byd o honi tua Chwarel Dinorwig; a chyda hyny yr oedd yn meddu ar ddigon o ysbryd anturiaethus i ymgymmeryd ag unrhyw beth y digwyddai efe osod ei feddylfryd arno. Yn gaulynol, parodd eangn. yr hen glodd- feydd, ac agor rhai newyddion, fel y rhoddwyd bywyd adnewyddol yn yr hollwaith, ac ylleshawyd y wlad o amgylch, i raddau pellach nag yr amcan- wn yn awr ddarlunio. Nis gwyddom yn sicr, pa faint o amser cyn y flwyddyn rag-grybwylledig y gafaelodd y diweddar Mr Griffith Ellis yn ei swydd fel goruchwyliwr y chwarel, ond hysbysir ni yn yr 'Adgofion' sydd ar y ford o'n blaen, mai 300 o weithwyr oedd yno y pryd hwnw. Erbyn 1858, sef y flwyddyn yn mha un y bu Mr'Smith farw, yr oeddynt yn rhifo 2,400, rhwng dynion a bechgyn, a gwerid rhwng eyfiogau a threulion eraill yn nglyn a'r gwaith, uwchlaw NAW MIL o bunnau bob mis! Megis yn chwarel y Penrhyn, felly yma hefyd, y mae eangder y wythien werthfawr hono a ddyrydd foddion cynhaliaeth i gyhnifer o bobl, yn rhyfedd, fel ag i lenwl y meddwl a syndod. Gall un na chaf- odd y fantais o'i gweled, ffurfio rhyw ddirnadaeth am hyn, pan ddywedom fod cloddfeydd y wlad dan sylw, yn gorchuddio mwy na milldir ysgwar, ac mewn rhai manau, gweithir y graig i'r dyfnder unionsyth o 300 o droedfeddi. Ond na feddylier mai dyna yw gwir a phriodol ddyfnder y llech-graig. Y mae pob sicrwydd agos ei bod bump neu chwech o weithiau yn ogymmaint a hyny. Dyna waelod y chwarel yn gydwastad o fewn dim, ag arwyneb y llynoedd cyfagos, a pha faint yn ddyfnach na hyny y mae y graig yn myned nid oes neb a all ddweyd; ac am gwr uchaf y chwarel, y mae agos a bod yn nghrib y mynydd, uchder pa un oddiar wyneb y llyn- oedd sydd oddeutu 1,500.0 droedfeddi, a 1,800 oddiar lefel y mor. Er fod y graig hon ar gyfrif ei medd- alwch yn fwy hydrin o lawer na'r creigiau sydd o'u hamgylch; eto, rhaid meddu cryn egni a medr cyn y gellir ei gweithio i bwrpas. Y mae yn rhaid wrth ddwylaw cywrain i hollti a naddu yn y sheds, ac wrth ewynau cryfion i ddringo i'r ian i ebirno a thanio, er symmud y clogwyni oesol o'u He. Gwir y dymchwelir darnau anferth o'r graig weithiau, heb ond ychydig drafferth. Dywedir i fwy na Dau Can Mil o dunelli gael eu bwrw i lawr ar unwaith ryw ddiwrnod yn 1857, a hyny gyda yr ychydig lleiaf yn mron o draul,—dim ond un blast oedd yn ofynol er effeithio y chwalfa aruthrol. Ond rhyw dro oedd hwn, na ddigwydda ei gyffelyb o bosibl eto yn oes neb o honom ni a rhaid cofio y bydd yr un faint o lafur ac ymdrech yn ofynol er cael y talp- iau o lechfeini i'w priodol leoedd, allan o ryw garn- eddau ofnadwy fel hyn, a phe buasai raid eu dym- chwel yn uniongyrchol o grib y graig. Y fantais oddiwrth ddymchweliadau mawrion fydd, fod mwy o waith yn cael ei wneud, a llai o bylor yn cael ei wastraffu. Cynnyrchir yma wahanol fathau o gerrig, fel mewn chwarelau eraill, ac o ran llito, dichon eu bod yn fwy amrywiog na chyffredin. Holltir a thrinir y llechi at doi yn y teiau bychain, neu y sheds cry- bwylledig am danynt yn barod, y rhai a welir yn rhesi hyd benau y tomenau rubbish a ymestynant o gylch ystlysau y chwarel yn mhob cyfeiriad. Gweithir y slabs i ffurfiau priodol, mewn melinau cryfion a yrir gan ager a chan ddwfr. Y mae y man gledrffyrddperthynol i'r gwaith yndralluosog, a phe byddent yn mhenau eu gilydd, gwnaent ffurf- io llinell a ymestynai am bum milldir ar hugain o ffordd, os nad rhagor. Y mae yr inclines, neu y ffyrdd gogwyddol, gan mwyaf yn serth iawn. Y maent oddeutu ugain mewn nifer, ac ar gyfartaledd, mesurant tua 600 o droedfeddi o hyd. Rhedai y gwageni llwythog p lechi toi a slabs hyd |y man gledrffyrdd y soniasom am danynt, tua'r inclines, ac oddiyno fe'u gollyngir i lawr wrth raffau cryfion o wyfr, tua chychwynfa y gledrffordd fwyaf, hyd yr hon y cludir y llechi o bob math i waered i Borth Dinorwig. Yn yr I Adgoflon,' hysbysir ni fod eyf- answm y cerryg a anfonir i lawr bob blwyddyn, yn cyrhaedd ar gyfartaledd i 1,200,000 o dunelli. Ond y mae hyn yn ormod o gryn lawer. Tebyg ydyw fod, srwagnod wi: naill ax gan yr ysgriienydd neu y cysodydd, ac mai 120,000 y meddylid i'r cyfanswm fod. Hyd yn nod pe felly, buasai braidd ar y mwyaf, yn ol fel y myn- egwyd i ni, gan un sydd yn meddu pob mantais i wybod am y peth hyd gywirdeb. Nid oes genym ofod y waith hon i son am ymwel- iadau Mr Smith a'r chwarel, ei dyb uchel am y gweithwyr, ei gynlluniau er lleshau amgylehiadau y rhai teilyagaf yn eu plith, ynghyda'r feirniadaeth a roddir arnynt yn gyffiredinol gan ei gofiantydd urddasol, am hyny rhaid i ni adael y materion hyn, ynghyda phethau eraill, heb sylwi arnynt yn fanwl hyd y tro nesaf.—Macaulay.

.-.'....,,1'c BANGOR.'

YSTAFELL RYFEDD.

AR FWRDD Y 'CARNATIC' YN YN…

Advertising