Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
29 articles on this Page
LLUNDAIN.
LLUNDAIN. fa ysgol Sabbathol Fetter Lane ei chy- r od llenyddol nosFawrth, yr wythnos ddiweddaf. to ~^011- Peirniad y farddoniaeth a'r Ap Vyclian yr adroddiaaau a'r areithio WjT '• "^r" Abertawe. Cafwyd cyfarfod yius iawn, a'r capel ynllawn o>vrandawyr astud. s 1 ^trwy docynau ewllt, a chredwn fod y are'f^ chwyddo i lawer o bunoedd. Cawsom. Str vaU a c^anu da,. Prif ganwyr y cyfarfod oedd Moses Davies-a'i ddwy ptqnl, Miss Jones a Miss :L, Gas odd Mies Lloyd '-Bedd Gelert," Miss Birds," a Mr. Davies The Vaga- v J'11 ardderchog. Wedi talu diolchgarwch i ddadl' wedi eu boddhau yn ddi~
RUABON.
RUABON. OdAr 01 cyffroadati yr etholiad, ac wedi hyny y def- t10 egIwy,si§' cyn ao ar ol y Nadolig, a phryder y Vto i°n am e^useiia'a y plwyf, y mae y lie hwn wedi ion awe*u- Gwynir fod yma amryw blant yn gleif- Wl8,0 am^e^ 1111 yn- marw. Y fatli wafianiaeth ^ai plant iacli rhagor rhai afiach! Tra mae mewn distawrwydd yn -dihoeni, y mae Civ 81 la^ *ac*1 yn r^iedeg'> yn dawnsio, ac yn canu. cani^'naWer 0 honynt mewn hwyl orfoleddus yn eil-> Osborne Morgan for ever and ever i ni.' Er Plant ^'n ymylnmriauparc Wynnstay, etto nid yw ail yn gofalu am wyn na du. Y fath addysgiad- j.JJ ^"yrwch a g-eir wrth edrycli ar liaws o blant egj, ren Mae y rhai hyn yn chwareu a'u holl a gailai un dybied wrth edrycli arnynt nas Qwa ^nt am yr hyn a e^wir gofid.' Byddai ein farcr Wr yn sylwi ar blant yn chwareu yn y J>u ^^dfa, a'r hyn a ddywedent wrth eu gilydd.' ^olentyn ei hun, a dangosir yn ei araeth ei fod tejI °, ° Want. Mae pob un o'r rhai hyn yn chwa- ^adej11 -?^ e§'nb ac mor *aan y niae y naill yn gy -i -eu i r Hall; ao os daw yr heddgeidwad, mor *V ydynt i rybuddio eu gilydd. Go debyg ^edi ^5^ plant pob gwlad, ac etto ychydig sydd tueddiadau plant, i droi eu dylanwad i ■fyydd111' paw yr amser pan y bydd plant, o her- Peth. 6U ni^er> eu bywiogrwydd, a'u zel gyda phob ^Wv "?* ymaflant ynddo, j'n meddu y dylanwad yat mewn cymdeithas. Tr- plda-n-t- mae ^uHer wedi enwogi ei hun gyda gjQl ap"idiiaid yn Bristol, felly daw rhyw un ^8-dol ° 1 8"all,10ecld plant i fod yn fwy dylan- Yn mlaen, yn mlaen,' yw ar- i hm. air~^ Llwyddiant fyddo i'r T"i'ST Gtjieeig 'yiwyculo hynj.-llen Gobler.
- MANION' O FFNWY.
MANION' O FFNWY. cV<id"t1,Ter lawn yw y sydd mewn angen yn y r6{j lau yma, ac y mae pawb sydd yn earu gweith- car 0 dm g-aredd yn cael digon o le i ddangos eu ^S^dd yn y rlifiri fwyaf o fanaa yn Sir Fyn- Bu y I), a. Davies, BISCA, °'anri°. i°^1,ec^%ion dynoliaeth yn y lie, yn gwneud yma 8ef °ra<^wy iawn un o'r wythnosau .diweddaf Prvd iV cas8'lu.'fce a siwgr, bara ac arian, er rhoddi Yraddi-Wllij dei ^o1:> dJ'n gwir dlawd trwy y lie. ^is-on pawb yn garedig dros ben, a chafwyd 0 bob petii, a chryn lawer dros ben hefyd. ctll Mr Davies yr un fath a o, v gwnaeth Job, cW/.TiV10 a^an y §rwyr na wyddai,' a'r rhai a fPr7 -,a i .an yw y rliai gwir dlawd yn gyffredin. ^e) ac Cf.1 T ° r ^aen pobl mor dlawd yn y ky^y y mae. yn inhob man am hyny. ^y°haTila0 11 ^Ua Pliedwar ugain y rhodd, ac nid ^a.fodfi 06 d eu diolchgarwch am y caredigrwvdd. ac yr yj^Wl ei wneud heb fod dim bias sect ar ddim, lojjj °6da hyn yn agwedd hyfryd iawn ar yr hael- 1) Yll Yll 11 "'tt 1. Dyma yc-, ritaf i beth fel hyn gael ei yr Bisca ond hyderwn mai nid hwn oedd ailgosodd Henry Phillips, Ysw., s. OASNEWYDD, W -^dd mawr dydd Mawrth, y 12fed cyflsol, 400 0 0lta pliob peth angenrheidiol gydag ef, i tua c^taf allan o waith. Nid dyma'r tro fl1 Phillips brofi ei hun yn dclyngarwr o'r i^ael yaena^- Cymmerodd ef a chyfeillion ereill ^io]1*^ cyfleusdra i roddi amryw gynghorion ro ^io]1*^ cyfleusdra i roddi amryw gynghorion v 1~r cannoedd oeddynt yn bresennol, a chred- liy^r0tla 0 lionynt am y prydnawn tra bydd- YVV. j^vor iawn o ddynion allan o waith yn Cas- I11 l'h\v a;wr> 0 herwydd fod y tywydd gwlawog rn-^S^r° iddynt weithio ar y docks newydd, ac Tll ae trueni llawer teulu yn fawr dros ben. %ag j 21R. EOMFFEAY ri0ji ei i b&xon o herwydd colli y dydd yn etholiad Brynbiga, a Mynwy, y mae ei g-yfeiilion la^y310 tysteb iddo, a digon tebyg y sebonir & ar yr ^10n gyfaiil wrth gyfiwyno yr an- „ Jl0 ac fe allai y par hyny iddo anghofio ei elly gall fyw am dipyn etto.—Gohebydd.
^ PEKMAENMAWE. '
PEKMAENMAWE. —Cyfarfyddodd dyn o'r enw Robert ^War,s'Llanfairfechan, a dam wain ofnadwy yn ^ral8"lwyd, dydd Mawrth, vr.wythnos ddi- ufwy i gareg tua thvi clwarter tunell, yel'y J S^O'mpo arno, fel y lladdwyd ef yn j fan. eQd tybio, yr oedd golwg sobr ar ei gorph. Sole wraig a lliaws o blant. Dywedir s, ^"Ql w weled yn y llecyn j cymmerodd y K flap 111 le o bentref Penmaenmawr rai wythnosau i ydv°t0^" Tys't'ia lliaws iddynt weled y goleuni., yn myned i ddyweyd fod i'r weledigaeth e8'U e°n§'^acl priodol. Yr ydys yn unig yn o diad. Y G--WBITH-FBYDD.—Drwg genym fod Setts ar hyn o bryd yn hynod o farw- fi\i y\VRU?ae 8'°styngiad yn y prisi.au wedi ei wneud <>e ^yr ^"n (l<llwecl(lar- Hyderus obeithir, pa ^ST. 5r cl-aw adfywiad yn fuan yn masnach j if'i 'i'lai-, E" GtLAdtonb stto.—Dywedasom air sv §T"V'f Ul' °'r blaen. Ymddengys fod teimlad ^0^ a rhai cylchoedd am gael cofgolofn i'r y^eddus ar ben y Penmaenmawr. Nid j. ^elli'j, e.^r^wynebiad neillduol i'r meddylddrych, Keeled allan yn deilimig'; ond nid ydym ^Ja i ll0j1 y g'ellir eyfodi cofgolofn iawn heb nid yn K kao- c^<la Penmaenmawr gyfranu yn hel- 4 ?),:fJ';d:lh, OIld hefyd i drigolion y Dywysogaoth Vi l edrv, ^neud yr un modd. Diammheu na J y§'Wyr Mr Gladstone weled colofn an- o-t^10110 yn cael ei t;hodi; ac mewn trefn i Vn '°HvTi>er^ Gringo i edrycli ami, a hyny gan y in? gystal a chyfeillion y gwladweinydd en- <ve J'111'haid yith Jiaws o gannoedd o bun- li- y fc v a 8'ydnebydd ein cydgenedl yn ti'v, ^r^°doldeb o gael cofgolofn o'r fath ar Gc<I 3Xia'Wr *ydd gwestiwn arall. Y mae lliaws b ^tiiad-i^' y^ poblogaidd eisoes wedi anfon. eu 1 Swyddfa y Mercury yn Liverpool. vv ^olbl p -11 y "wlad ydyw nmi amcanim Ueol sydd y-v^ei^lnaerima'wr wrth geisio cael y gofgo^fn Pe daioni i'r lie, yn enwedig yn 9ty '>ipfe profi. hyny, gwell fuasai rhoddi „Pj112! y gofgolofn ar unwaith oblegia A a6lil Hi j yiryw ond ffug-edmygedd. Yr hyn yr y (-acud ydyw casglu cymmaint a ellir,1 ^OoJ, -Wnxadau i'r drysorfa gyffredinol yn
ITRELYN.
TRELYN. Dakllbsiadau Cexhtiog.—NOS. Fercher, y 13eg cyfisol, cynhaliwyd y seithfed gyfarfod o'r darllen- iadau uohod am y tymhor hwn, yn Neuadd Ddir- westol y lie, o dan lywyddiaeth Mr. E. Jenkins, Maesycwnrwr.— Gfoh ebydd.
KHYDYMEIIlCIi.
KHYDYMEIIlCIi. Nos Lun, yr lleg cyfisol, anrhegwyd trigolion yr ardal hon a chyfarfod Cymreig perthynol i'r Feibl Gymdeithas. Trwy garedigrwydd Arglwyddes Llanover, cafwyd benthyg j-stafell yn y gwesty. Cymerwyd y gadair gan E. J. Griffith, Ysw., Aber- ca-rn, ac anerchwyd y cyfarfod gan y Parchn. Robt. Thomas, Llanover; E. Davies, Goytre; John Wil- liams, gynt cenhadwr cartrefol Oyinrcig yn Llun- dain. Anerchwyd y cyfarfod yn mhellach gan y Parch. D. Saunders, Abercarn, a'r Parch. Dr. Phil- lips, Henlford. Y mae cnwau y boiieddigiori edig yn ddigon o sicrwydd fod y cyfarfod o'r fath orcu.
HANLEY.
HANLEY. Nos Sabbath, y lOfed cyfisol, pregethodd Mr. R. Jones bregeth effeithiol ar yr achlysur o farwolaeth y Parch. Hugh Pugh, Mostyn, oddiar y geiriall Y gelyn diweddaf a-ddinystrir yw yr angau." Yr oedd Mr Pugh yn un o hpif bregethwyr Hanley, a da genym gofio am y gwleddoedd melus a gawsom i'n heneidiau y tro diweddaf y bu Mr. Pugh gyda ni yn mis Medi, 1868, a hyderwn na byddwn yn hir beb.ael conant teilwng o'r un ag y mae ei enw inor anwyl genym. Pleddwch i'w lwch, ac amddiffyn y nefoedd a fyddo dros ei blant hyd eu bedd.—Goheb- ydd.
GLANDAYR, SIR BENFRO.
GLANDAYR, SIR BENFRO. YIT YSGOI, Ramadegol.—Cynhelir yr ysgol hon yn wyti nosol. Dygir hi yn mlaen dan ofal y Parch. D. T. Thomas, y gweinidog. Bu yma y gauaf llyn- edd o'r blaen, a rhyfedd y cynydd y mae wedi wneud i buro yr hen iaith Gymreig, a da genyf ddeall eu bod wedi penderfynu cynal cyfarfod y nos Fawrth cyntaf yn Chwcfror i ddangos ffrwyth ei llafur, a chydnabod yr athraw ag anrheg fechan am ei lafur, gan ystyried fod teilyngdod yn galw am gydnabyddiaeth.—Dosbarthwr.
RIIOSYMEDRE.
RIIOSYMEDRE. Cynhaliwyd cyfarfod llenyddol yn nghapel yr Annibynwyr, Rhosymedre, Ion. lleg, pry-d yr oedd y capel yn orlawn yn mhell cyn amser dechreu. Llywycld y cyfarfod ydoedd y Parch. D. Evans, gweinidog y lie beirniaid y traethodau, y Parchn. J. Rowlands (A.,) Rhos; E. Evans (A.,) Llangollen y farddoniaeth, y Parch. R. LI. Owen (M.,) Acre- fair y canu, Mr. Seth Roberts, Brymbo; yr ad- roddiadau, y darllen, a'r areithio, Mr. Owen, Acre- fair (brawd y Parch. R. LI. Owen), a'r Parch. J. A. Morris (B.,) Cefn.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. Undeb Oeeddokol Diewbstwye Aedudwy.—Nos Lun, yr lleg cyfisol, ymgasglodd nifer luosog o gefnogwyr y symadiad uchod yn nghapel yr Anni- bynwyr, er parotoi gogyfer a'r dyfodol. Dewiswyd yn unfryclol y Parch. John Jones, Rhydymain (ys- rl,1 grifenydd yr Undeb), yn arweinydd; Mr. G. Jones, draper, yn drysorydd; a Mr. D. Davies, Star, yn ysgrifenydd. Nos Wener, y 15fed, cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn yr Hen Ysgoldy Brytanaidd. Trefnu a pharo- toi oedd prif waith y cyfarfod hwn. Derbyniwyd dros driugain yn aelodau y noson gyntaf. LLADRAD.-Dydd Mawrth, y 12fed, o flaen yr ynadon, cyhuddwyd John Davies, bookbinder, hen wr oddeutu 70 mlwydd oed, o ladrata amryw barau o clastic boots o ystafell berthynol i'r Angel Inn. Gwadai y cyhuddiedig yr hyn a ddygid yn ei erbyn, a cheisiai ymesgusodi trwy ddyweyd mai myned i'w gwerthu yr oedd dros y perchenog. Taflwyd ei aohos i'r assizes. YR Ec-lwys Asrs'iBYsroi,.—Da genym allu hysbysu fody Parch. E. Jones (leuan Aeron), gynt o Lan- gadog, swydd Gaerfyrddin, wedi dechreu ar ei wei- nidogaeth yn y dref hon y Sabbath cyntaf o'r flwy- ddyn 1869. Hyderwn y gwelir ffrwyth toreithiog yn dilyn ei ymdrechion.—Tyst.
LLANFYLLIN.
LLANFYLLIN. UNDER YSGOLION SABBATHOL ANNIBYNOL MALDWYJT, DOSPAETH LLANFYLLIN. Cynhaliodd yr Undeb hwn ei gyfarfod chwarterol diweddaf yn Pendref, Llanfyllin, Sabbath, y lOfed cyfisol. Ymgyfarfu yr athrawon a chynrychiolwyr y gwahanol ysgolion yn y capel am ddeg o'r gloch y boreu. Agorwyd y cyfarfod gan gadeirydd yr Un- deb, sef C. R. Jones, Ysw., a galwodd ar yr ysgrif- enydd i ddarllen penderfyniadau y cyfarfod chwar- terol diweddaf, a gynhaliwyd yn Llansantffraid, yn Mechain, a phasiwyd yn nnfrydoI- 1. Fod y gynhadledd hon yn cadarnhau y pender- fyniadau a ddarllenwyd. 2. Fod y gynhadledd hon yn derbyn gyda llawen- enydd a sirioldeb mawr ysgol Sabbathol Hermon, Croesoswallt, i'r Undeb. Anogwyd y gwahanol ysgolion i dderbyn neu i fabwysiadu yr awgrymiadau canlynol:— 1. Fod pob ysgol i fabwysiadu cynllun o anfon ymwelwyr allan i gymhell plant a ph obl i gyfranogi o ragorfreintiau yr ysgol Sul. 2. Fod y gynhadledd hon yn erfyn mewn modd neillduol ar i bob ysgol anfon cynrychiolydd i g'yfar- fodydd chwarterol yr Undeb, ac i anfon gydag ef gopi eglur o'r ystadegau am y chwarter blaenorol, ae mor boiled ag y bydd yn bosibl i'r person hwnw fod y mwyaf cymwys. 3. Fod y gynhadledd hon yn cymhell aelodau eglwysig, y rhai nad ydynt eto yn mynychu yr ys- gol Sabbathol, i. ystyried y pwysigrwydd o iddynt wncyd hyny yn ddioed, ac ymdrechu troi mewn cylch o ddcfnyddioldeb yn y sefydliad bendithfawr hwn. Ofnir fod eu habsenoldeb yn gwneyd niwed anrhaethol i lwyddiant yr achos, ac fod eu hesiampl yn cadw lluaws o rai digrefydd allan. 4. Fod y gynhadledd hon yn anog yr ysgolion i sefydln cyfarfodydd ysgolion mor amled ag fyddo yn bosibl, a chael eu holi yn gyhoeddus gan eu gweinidog, ac i ddefnydclio y llyfr gwerthfawr hwnw, sydd yn cael ei esgeuluso, mwy neu lai, y dyddiau presenol, "Hyfforddwr" Dr. W. Rees. 5. Fod y cyfarfod chwarterol nesaf i fed yn Llan- rhaiadr, yr ail Sul yn Ebrill, os bydd y cyfeillion yno yn dymuno hyny. Buwyd yn ymdrin yn hir ar 11 Y pwysigrwydd i'r athrawon' gymhwyso gwersi y Beibl at ystyriaeth difrifolaf y bobl ieuainc. Cafwyd cynhadledd fyw- iog a gwir dda. Am ddau o'r gloch cynhaliwyd y cyfarfod cy- hoeddus, dan arweiniad y cadeirydd, ac anerchwyd y cyfarfod gan Mri. John Thomas, o ysgol Hermon, Groesoswallt; Thomas Bebb, o ysgol y Main; Evan Thomas, o ysgol Meifod Thomas Morgan, o ysgol Hermon; a'rllywydd. Am chwech o'r gloch hol- wyd ysgolion Pendref, Soar, a Siloh oddiar yr 8fed bennod o'r Hebreaid, gan C. R. Jones, Ysw. Cafwyd cyfarfodydd gwir dda a lluosog iawn ar hyd y dydd. Dechreuwyd a diweddwyd y gwahanol foddion yn ystod y dydd gan Mri. D. H. Evans, J. Thomas, T. Bebb, E. Thomas, a T. Morgan. Bwr- iedir dyfod a Chronicl yr Undeb allan yn gynar yn mis Chwefror, dan olygiaeth Mr. C. R. Jones. Dy- munir ar gyfeillion tiidc-b canolbarth y sir hon, Llanerfyl, Foel, &c., ein hysbysu pa nifer o'r Gronicl fyddant am gael yn chwarterol, ac anfon eu hystad- egau, &c., yn brydlon ar ddiwedd y chwarteri, set y y Sul olaf yn Mawrth, Mehefin, Medi, a Rhagfyr. Cafwyd eisteddfod lwyddianus yn Llanfyllin y mewn cysylltiad a'r Undeb rhyw dair blynedcl yn ol. Nid anfuddiol fuasai sefydlu un eto, i fyned ar gylch trwy yr Undeb. Gall wneud lies mawr. Hwyrach y cawn air ar hyn gun rai o gyfeillion y symudiad. —David Jones, Ysgrifenydd. The Green.
CEENCOEDCYMER,
CEENCOEDCYMER, Nos Eercher, y 13eg cyf., yn y Neuadd Ddirwest- ol, traddododd Mr G. Roberts, ddarlith ar Wybod- aeth.' Llywyddwyd y cyfarfod gan W. Jones, Ysw., Goruchwyliwr gwaith y Gyfarthfa. Yr oedd y Neuadd yn orlawn, a phawb yn ymddangos wrth eu bodd.—Prydderch.
GWERNOGLE.
GWERNOGLE. Ymdkbchfa Aebbig.— Bu ymdrechfa o'r natur hon ar ddol i Mr J. Evans, Gwernogle, y 13eg o'r mis hwn. Y beirniaid oeddynt D. Hughes, Mas- nachydd, G-fferiio le, a J. Griffiths, LIwyn-Griffith, Brechfa. New Isx.—Cynhaliwyd y Ddarllenfa Geiniog, yn y lie hwn, nos lau, y 14eg o'r mis presenol. Llywyddwyd gan Mr Jones, o Blaenblodau.—Silin (/0,/7/
jBETHESDA.
BETHESDA. Ciiwa.eel CAE Beaich Y CAFN. — Cymmerodd darnwain ofidus le yn y Chwarel uchod, ddydd Gwener, lonawr 15eg. Eel ac yr oedd dyn o'r enw Richard Griffiths, Braieh y Gwair, yn gweithio ixiewn rhaff yn y graig, torodd y rliaff, fel y syrth- iodd i lawr oddeutu deg Hath, a.derbyniodd y fath niwed fel ag y bu farw yn rnheu ychydig funudau. Gadawodd wraig, a thri o blant, a chylch eang o berthynasau a chyfeillion i alaru ar ei ol.—Deviceu-. Veld. U
TREYOR, CLYNNOG.
TREYOR, CLYNNOG. PLWYB EHYDDEEYDIG. Mae yn deg i'r byd mawr gael gwybod fod plwyf Llanaelhaiarn wedi rhoddi lluosocach mwyafrif i'r gwron o Eadryn, ar ddydd yr Etholiad, nag ond odid nemawr blwyf yn y wlad. Dangosodd y Parch. John Williams Ellis, person y plwyf, gefnogaeth wresog iddo. Mae yboneddwr parchedig hwn, yr hwn sydd yn meddu llawer o dir mewn tair o'r siroedd fuont yn faesydd ymryson- feydd poethion rhwng rhyddid a chaethiwed yn yr Etholiad sydd newydd fyned heibio, wedi ymddwyn yn y fath fodd ac i deilyngu parch ac edmygedd cyffredinol. Clywais fed rhywrai rai o'r gymmydogaeth hon wedi cynnyg yn gyhoeddus ar fod i ryw arwydd o barch gael ei ddangos i Lord Newborough, oblegid iddo ymddwyn fel y gwnaeth mewn cysylltiad a'r Etholiad. Nid oes genyf y radd leiaf o wrthwyneb i anrhydeddu Lord Newborough, diamheu ei fod yn haeddu ei ganmol a'i anrhydeddu. Eto i gyd er mwyn bod yn deg, dylem son am gydnabod y teil- yngdod agosaf atom i ddechreu. Ymddygodd Mr Ellis yn llawn mor deilwng a'r boneddwr enwog o Glynllifon. Clywais fod yr ymgeisydd aflwyddianus am gyn- nrychiolaeth bwrdeisdrefi y wlad hon, wedi brelld," wydio fod Etholiad eto yn lied agos. Byddai hen bobl er's talm yn dweyd mai yn y gwrthwyneb y dylid dehongli breuddwydion, os felly, ni welwn Etholiad eto am y rhawg-ar-hugain. Ond os daw un yn fuan, gwybydded holl Doriaid y wlad o Lord Penrhyn i lawr hyd Owen Jones, Plasgwyn, a Daf- ydd Hughes, y Clogwyn, y bydd Rhyddfrydwyr Llanaelhaiarn yn lluosocach a dewrach y tro nesaf nag hyd yn nod y tro diweddaf.
CYTTDDELW YN DBCHEBXJ El CHAEL…
CYTTDDELW YN DBCHEBXJ El CHAEL III. Yn yr Herald diweddaf, yr oedd rhyw un yn cwyno yn enbydus fod Esboniad Cynddelw mor an- niben yn dyfod allan o'r wasg. Mewn cwr arall o'r un papur y mae rhyw fod arall yn ymosod ar Cyn- ddelw am ryw arnddiffyniad a wnaeth i Eedyddwyr Arfon. Swagro, a phigo, a chlowcian yn echrydus y mae o hefyd. Yr wyf inau yn credu yn fy nghalon mai taelwriaid yw y ddau uchod. Marcied yr hen frawd nad wyf wedi hitio yn fy lie. Buasai yn well iddo fo gymmeryd fy nghyngor i, ac edrych ,,y ati beth i ysgrifenu i'r TYST am daelwriaid.
TEO TEWSTAN.
TEO TEWSTAN. Mae awdwr Gostwng Steam' mewn rhyw lythyr neu ddau wedi gostwng ei steam mor isel nes y methodd ysgrifenu dim pwt byth ar eu holau. Mae'r calla yn colli weithiau.' Gan ei fod yn ys- grifenwr mor ddoniol, cynghorwn ef i dreio codi steam.-I. G. JEigion.
TROEDYRHIW.
TROEDYRHIW. CYFUNDEB GOGLEDDOL MOEGANWG. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y cyfundeb uchod yn Saron, Toedyrhiw, ar y dyddiall Mawrth a Mer- cher, Ion. 12fed a'r 13eg. Yn y gynhadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf, y Parch. W. Williams, Hir- waen, yn y g-adair, pasiwyd y penderfyniadau can- lynol 1. Fod y cyfarfodydd i'w cynal yn ymisoedd lon- awr, Ebrill, a Medi yn mhob blwyddyn. 2. Fod y gynhadledd yn agored i holl aelodau rheolaidd yr eglwysi, ond y disgwylir i bwy bynag a ddewiso bleidleisio ar bob mater gyfranu rhyw gyfran yn flynyddol tuag at dreuliall y cyfundeb. 3. Fod yr ysgrifenydd i ohebu a'r Parch. J. Tho- mas, Taf Foollan, yn nghylch ymuno a'r cyfundeb hwn. 4. Fod gweinidog yr eglwys yr ymwelodd y cyf- arfod a hi ddiweddaf i bregethu'ar bwnc neillduol, dewisedig gan y gynhadledd, yn y cyfarfod can- lynol. 5. Fod y Parch. W. Morgan, Troedyrhiw, i bre- gethu ar Mabwysiad" yn y cyfarfod nesaf. 6. Fod y Parch. J. C. Griffiths, Pontlottyn, yn cael ei dderbyn yn aelod o'r cyfundeb yn wresog a llawen. 7. Eod y Parch. T. Llewelyn, Mountain Ash, i ddarllen papur yn y cyfarfod nesaf ar Hanes Ad- fywiadau Crefyddol," a'r Parch. P. Howell, Ynys- gau, ar A oes Cyfatebiaeth rhwng Adfywiadau Crefyddol a Threfn Natur." 8. Gall unrhyw aelod geisio gohiriad mater hyd y cyfarfod canlynol, os na bydd dau o bob tri o'r rhai fydd yn bresenol wedi pleidleisio drosto. 9. Eod y gynhadledd yn teimlo yn llawen wrth glywed gan y trysorydd fod dros 300p. wedi dyfod i law oddiwrth eglwysi y cyfundeb at Golegdy Newydd Aberhonddu er y cyfarfod diweddaf, ac yn taer ddymuno ar yr eglwysi sydd heb dalu eu cyf- ran, i wneyd hyny gyda brys. 10. Fad y cyfarfod hwn yn mawr lawenhau yn llwyddiant egwyddorion Rhyddfrydig yn yr ethol- iad diweddaf, ac yn neillduol yn ffyddlondeb Ang- hydffurfwyr bwrdeisdrefi. Merthyr ac Aberdar i'w hegwyddorion, a'u llwyddiant i ddychwelyd mor anrhydeddus yr ymgeiswyr Anghydffurfiol. 11. Fod y gynhadledd hon yn dymuno datgan ei chydymdeimlad llwyraf ag amcan teilwng "Cym- deithas yr Achosion Seisnig," ac yn cymhell ei hawl- iau i ystyriaeth yr eglwysi, gan y disgwylir i am- ryw eglwysi newyddion gael eu sefydlu yn fuan, mewn canlyniad i gynyg haelionus Mr. Morley. Am 7 o'r gloch pregethwyd gan y Parch. J. Davies, Soar, Aberdar, a'r Parch. J. Price, Siloa, Aberdar, ar y pwnc ^gosodedig, « Santeiddhad." Am 10 dra- noeth pregethodd y Parchn. J. Jones, Brynsioii, Dowlais, a T. Llewelyn, Mountain Ash. Am 2 cynaliwyd oyfeillach grefyddol. Darllenwyd papur gwerthfawr gan y cadeirydd, y Parch. W. Williams, Hirwaen, ar" Grefydd Y s- brydol." Traddodwyd anerchiadau byrion, bywiog, a gwresog, gan amryw o'r brodyr, gan gymhell yr angenrheidrwydd o dalu mwy o sylw i, a meithrin mwy ar, yr elfen ysbrydol mewn crefydd. Gwnaed sylwadau cryfion iawn yn erbyn Penny Headings, Pie-nics, &c., gan anog yr eglwysi i osod eu gwyn- ebau yn bendant yn eu herbyn. Am 7 pregethodd y Parchn. J. Morgan, Cwmbach, a W. Williams, Hirwaen. Cawsom gyfarfod dy- munol a bendithiol, yr eglwys a'r gweinidog ar eu heithaf i'n croesawu, a diau genym fod yr Arglwydd wedi ein bendithio drwy y cyfarfod.-D. Jones, grifenydd.
BRYN SALEM, GER ST. CLEARS.
BRYN SALEM, GER ST. CLEARS. Dosbaeth y Tonic SOL-FA.-Nos Fercher, y 13eg o'r mis hwn, yn y lie uchod, yn i-iiiaresenoldeb lluaws o Avrandawyr, arholwyd amryw berson'au gan Mr. James Davies, St. Clears, am yr Elementary Certifi- cate, a buont oil yn llwyddianus. Ar ol i'r arholiad fyned drosodd, cafwyd anerchiadau tra pwrpasol gan amryw bersonau ar fuddioldeb y Tonic Sol-fa. Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu ton gynulleidfaol. —■Gohebydd.
PENTRE LLYN-CYMER.
PENTRE LLYN-CYMER. Dywedodd y Parch. J. Thomas, Liverpool, ar ddydd agoriad ein capel newydd, pan yn anog y bobl i roi yn y casgliad, 11a wyddai pa faint ein dyled, a'i fod yn meddwl nad oeddym yn rhyw foddlawn iawn i wneud hyny yn hysbys gan nad oedd end ychydig. Ond yn bresenol mae genyf yr hyfrydwch i hysbysu fod y ddyled oil wedi ei thalu, a hyny cyn pen mis ar ol Gydel ei agoriad. Mae y gweinidog a'r eglwys yn teimlo en rhwym- au i ddiolch yn gyhoeddus i bawb fu mor garedig yn eu helpio i ddwyn y baich. Bu'r eglwys a'r gymmydogaeth yn cydweithredu fel un gyda'r amcan pwysig o gael y ty addoli yn g-ysurus a di- ddyled. Cawsoin help gan gyfeillion o ardaloedd era-ill, a llawer o honynt yn proITesu gydag enwadau eraill ond yn anghofio pob gwahaniaeth dibwys gan ddangos eu caredigrwydd i achos y Cyfryngwr trwy gyfranu yn haelionus i'n -helpio i dalu ein dyled. Yr ydym yn y modd mwyaf gwresog yn diolch o'n calon iddynt. Buasai arnom heddyw Hanner Can' Punt o ddy- led, oni buasai i fonedclwr genedigol o'r gymmydog- aeth, ond yn bresenol o Liverpool, ein hannog a'n cymhell i wneud ymdrech i glirio y ddyled. Ag addawodd, os gwnaem ein goreu erbyn yr amser pennodedig, y byddai yn bleser ganddo" ein helpu i gyrhaedd yr amcan, yr hyn a wnaeth gyda'r siriol- deb mwyaf, er ei fod wedi rhocldi rl/odd i ni o'r blaen pan oeddym yn dechreu adeiladu. Yr ydym yn diolch iddo am ein cymhell, a thanio ein sel dros dalu y ddyled, a chyflawni ei addewid yn y diwedd. Lied anfynych y gwelsom un tebyg iddo. Gwelsom rai we di eu magu yn nghanol mynyddoedd Cymru, ond w edi myned i un o dref ydd Lloegr, a chasglu cyfoeth, yn anghofio ei wlad, ei iaith,"a'i grefydd, ond nid felly y boneddwr hwn. Mae yr hyn a wnaeth ef yn profi tu hwnt i bob dadl ei fod yn caru y Cyfryngwr, Ja llwyddiant ei deyrnas gyda phob enwad, oblegid proifesu gydag enwad arall y mae ein cymwynaswr haelfrydig; eto, y mae yn cofio ac yn caru lies a chysur Eglwys Crist yn ei gymmydogaeth enedigol. Yr hwn sydd yn ^dyfrhau, dyfrheir yntau hefyd.' Yr ydym yn dymuno llawer o lwyddiant a chysur iddo ef a'i deulu, a hir oes iddo i wneuthur daioni. —J. Jones, PCendre Ucha, Fjrithoedd. [Yr ydym yn cyhoeddi yr uchod yn llawn. Ar- dderchog oedd cael y capel yn rhydd mewn llai na blwyddyn wedi dechreu ei adeiladu. Gweithiodd cyfeillion Pentrellyncymer yn rhagorol, ac wrth eu gweled yn gwneud mor dda, yr oedd bias gan eraill i'w cynnorthwyo.—Gol.]
BRO MORGANWG.\
BRO MORGANWG. G-WLYBAKIAETH YE I-IIX. Tebyg ei bod drwy y Dywysogaeth megis y mae yma yn y Fro, yn anarferol wlyb y dyddiau hyn. Er syched y bu am fisoedd y llynedd, mae hin-gof- nodwyr yn dywedyd, i ni gael mwy o wlaw yn y flwyddyn 1868 nag arferol, o gryn dipyn. Swm y gwlaw a ddisgynodd ar y wlad drwy ei deuddeng mis ydoedd oddeutu 40i 0 fodfeddi, yr hyn sydd 4 modfedd yn fwy na'r cyfartaledd am y 30 mlynedd diweddaf. Er cymaint yw hyny o wlaw, nid yw ddim mewn cyxnariaeth a'r hyn a geir mewn rhai parthau o'r byd yn yr India Ddwyreiniol, er eng- raifft. Ar barthau o draethau gorllewinol y wlad fawr hono dywedir fod dyfnder o I i). troedfedd o wlaw yn disgyn mewn blwyddyn. Mae yn ddigon 11 cl i olchi y pridd yinaith yn hollol o'r tiroedcl oleddog a llethrog, fel nad oes yno waelod i fywycl llysieuol.
DAMAVBINIAXJ A^GEUOL.
DAMAVBINIAXJ A^GEUOL. Yr wythnos ddiweddaf gwireddwyd hen englyn ddysgais o hen almanac pan yn hogyn, yn yr ardal- oedd hyn; sef, J)Iarw wna, carw In y coed—a marw \Vna'r feinwen ysgafndroed; 1Iarw pawb, marw pob oed, Marw'rhyna', Ir ieuanga' 'rioed.' DyddLlun, lladdwyd hen wraig-o'r enw Mary Jones, gynt o Bwllygath, Mynydd Cynffig, gan agerbeir- iant ar gleclrffordd Llyfnwy ac Ogwy. Yr oedd wedi crwydro i'r gledrffordd i ryw ddyben. Yr oedd yn dra byddar, ac felly ni chlywodd y gerbyd- res yn dynesu, er cilio ymaith. Tybid unwaith iddi fyned ar ei ffordd yn fwriadol; ond ni allwyd barnu ei bod yn euog o hunan-leiddiad. Dedfryd y treng- holiad ydoedd—Marwolaeth ddamweiniol. Dydd Mercher, cyfarfu dyn a'i angeu pan yn gweithio mewn lie a elwir Pare Slip, yn ngwaith glo Tondu. Ei enw oedd Thomas Williams. Yr oedd yn briod a thri o blant ganddo. I Yr un diwrnod, yn Maesteg, lladdwyd bachgenyn 9 oed, o'r enw William Rees. Yr oedd wedi dringo i gert diod-werthwr oedd yn myned drwy y lie. Wrth fod y gert yn croesi "cledrfFordd, tarawyd hi ga,n agerbeiriant nes yr oedd yn yfflon. Taflwyd y barilau oedd ynddi i bob cyfeiriad, ac yn y sarnfa collodd y llanc ei fywyd. Diangodd y gyrwr a'r ceffylau yn ddiogel; gallasai yr oil gael eu lladd. Ni ddylid goddef i gledi-ff-ordd groesi ifordd gyhoedd- us heb fod pont i un o honynt; o leiaf dylai dwydi fod yn y lie, a cheidwad neillduol iddynt. Ond yma nid oedd na phont, clwyd, na cheidwad. Mae hyn yn rhy ddrwg. Dengys ddibrisdod noeth o fywyd dyn, a gormod brys i wneud arian.
MAEWOLABaTE ALAETJS.
MAEWOLABaTE ALAETJS. lonawr 6ed, bu farw, yn 30 oed, Mrs. Lloyd, Eroglands, ger Bethesda-y-fro, o'r darfodedigaeth, gan adael priod a phlentyn ar ei hoi. Merch ydoedd i Mr Thomas, Tymawr, Llanelltyd-fawr ac y mae Mr Lloyd yn fab i'r diweddar Mr Lloyd, Frompton Fawr o'r un plwyf—dau deulu sydd yn gymorth mawr i eglwys Annibynol Bethesda,, ac adnabyddus iawn i, ac anwyl gan, weinidogion yr enwad. Mae angau wedi bylchu y ddau yn drwm yn ddiweddar. Gwened y Nef ar y galarwyr lluosog, a chrefyddol, gan y mwyaf.
GWLEDD CEIDWADWYE YN NGIIAERDYDD.
GWLEDD CEIDWADWYE YN NGIIAERDYDD. Hysbysir y cynelir, yn mis Chwefror, wledd yn Nghaerdydd, er anrhydeddu Giffard, yr ymgeisydd Toriaidd aflwyddianus yn yr etholiad diweddaf. Y mae Mr Gathorne Hardy ac Arglwydd Stanley i fod o nifer y gwahoddedigion ac i lefaru ar yr achlysur. Gwneir yingais i gael Disraeli hefyd yno. Ond nid wyf eto yn credu y bydd y cad-naw liirbbn hwnw mor ff'ol a dangos ei drwyn yno. Sut araeth fedr wneud yn y fath gyfarfod! Rhaid ei fod yn teimlo yn rhy siomedig ar ol cael ei orchfygu mor llwyr a therfyn- 01 yn yr etholiad cyntaf dan y Mesur Diwyo-iadol a hawlia fel ei eiddo ei hun, i ddangos ei fod vn o-alon- og dan y canlyniadau. Dywedai ychydig yn ol y tybiai fod haenau isaf cymdeithas yn coleddu syn- iadau Ceidwadol, ond erbyn hyn map vn dpall ei ganaynied. Ori y Cdd,4v,r vn jr yi- oedd 'Dim Pabyddiaeth,' ac wele! ardalydd Bute, asgwrn cefn Toriaeth Caerdydd yn yr etholiad, a'u gobaith penaf am seddu Giffard, wedi troi yn Bab- ydd ei hun cyn pen dau fis. Wrth feddwl am yr holl drafodaeth, a'r wledd fwriadedig, ymddengys i mi fod y Ceidwadwyr wedi gwallgofi, ac yn ymyl myned i'r dim. Gwir yr hen air Lladsti—'Quern Deus vult pcrdere, prius dementat.'—Gohebydd y Pro.
CASTELLNEDD.
CASTELLNEDD. IIaesyehae.—Cynhaliodd yr eglwys hon ei cliyf- arrod Calan eleni ar y dyddiau Mercher a lau, y 6ed a'r 7fed o'r mis presenol. Dechreuwyd y cyfarfod- ydd nos Fercher, am 7 o'r gloch, a dydd Ian am lC, 2, al3^. Darllenwyd a gweddiwvd gan y Parchn. Evans, Briton Ferry Stephens, Brychgoed Mor- gans, Llwyni a Pritchard, Sciwen a ]>hregethwyd gan y Parchn. Dr. Rees, Abertawe; Thomas, Ys- tradfellte; Griffiths, Alltwen; Price, Aberda-re; Thomas, Glandwr; Morgans, Glynnedd; Samuel, Abertawe; Stephens, Brychgoed; a'r hen batriarch pedwar ugain a deg oed—Mr Williams, Troedrhiw- dala-r. Cafwyd cynnulleidfaoedd llnosog, pregethau grymus ac effeithiol iawn. Yr oedd dylanwad a -I-wa nerth neillduol yn dilyn y Gair, gwelsom filoedd o ddagrau yn cael eu tywalit. Gobeithio y bydd yr effeithial1 vn barhaol, ac y gwelir yn y dyfodol ffrwyth lawer er gogoniant i'n Tad yr hwn sydd yn y nefoedd. Gallem grybwyll fod Mr Williams wedi bod yn pregethu yn hen gapel Maesyrhaf dri ugain a chwech o ilynyddau yn ol. O'r rhai oedd yn fyw yr amser hwnw, ac yn perthyn i'r gynnulleidfa, nid oes end odid un neu ddau vn aros, ac nid oedd y rhai hyny. ot-icl plant pan y bu ef yma gyntaf. Yr oedd yma ddisgwyliad mawr am dano, ac ni siom- wyd neb, yr oedd ei bregethau yn cario effeithiau grymus a nertliol anarferol ar v o-wrardawvr.—
RHYMNI.
RHYMNI. Eistbi-deoi) Nabolig.—Cynhaliwyd hi yn addoi- dy Annibynol Moriah. Llywyddion :—y Parchn. A. Davies, Pontlottyn; E. C. Jenkins, Moriah; a G. Owen, Trifil. Beirniaid :-yr oil end y Gerddcr- iaeth, y Parch. W. Thomas (Islwyn); y Gerddor- iaeth, Mr W. Parry, Birkenhead. Enillwyd ar y prif destynau cyfansoddiadol fel y canl:nl :-lYIarw- nad i Mrs. Jonldns, diweddar briod y Parch. E. C. Jenkins, gwobr Öp.; 12 yn ymgeisio; goreu, Gwilym Elian. Dywedodd Islwyn fod 0 neu 6 o gyfansodd- iadau rhagorol i mewn ar y testyn hwn. Gwobr- wyodd, meddai, rai anheilyngach mewn Eisteddfod- au Cenedlaethol. Pryddest ar Gwymp Theodore, gwobr 25s; 3 yn ymgeisio; goreu, Brythonfryn. Diamheu y cawsid gwell cystadleuaeth ar y testyn hwn pe buasai y pwyllgor ychydig haelionusach gyda'r wobr. Yr oedd braidd yn fechan i destyn mor rhamantus. Can i'r Etholiad Cyffredinol, givobr los; goreu, Irlwyn Hughes, Rhymni. Trae- tliawd, Dyn a'i .Ddylanwad, gwobr 25s cydfudd- ug-ol John Freeman, Nanty^glo; a John Davies, Rhymni. Hanes Ysgrifeniaeth, gwobr 15s; goreu, R. Davies, Rhymni. Englyn i'r Fegin, goreu, T. Probert, Rhymni. Araeth, Defnvddioldeb y Glowr, goreu, Miss M. A. Roberts (Arianwen), Rhymni. Y. prif ddarnau Corawl a wobrwywyd fel y canlyn, Clywch fe dyr y Wawr, i Gor o blant, goreu, Cor Moriah. Caniad, Yr Alarch, i don o un gynnulleid- fa, gwobr 4p.; 4 yn ymgeisio canu da; goreu, Cor Moriah. Caniad, Y Ffrwd, gwobr 8p.; 3 yn cys- tadlu canu rhagorol bron yn gyfartal; goreu, Cor Brynhyfryd. Yr oedd hon yn im o'r Eisteddfodau mwyaf llwyddianus a gynhaliwyd erioed yn Rhymni. Cafwyd c-ynnulliadau lluosog i'r tri chyfarfod. Cyfabfod Chavabteeol Gosen.—Cynhaliwyd ef y Sabbath diweddaf, am hanner awr wedi deg, dau, a chwech o'r gloch. Gweinyddwyd gan y Parch. R. Hughes, Cendl. Yr oedd ei bregethau yn nodedigo rymus a chymhwysiadol. Cafwyd cynnulleidfaoedd Iluosog drwy'r dydd. DIAYGFA Ryeedd.—Ychydig ddyddiau yn ol, tra yr oedd Mr Joseph Price, Llechryd, Rhymni, wrth ei inaith yn coedio yn mhwll Nower, ymollynsodd careg fawr tua dwy ctunell o bwysau a syrthiodd yn ddisymwth ar ei goes, dadgymmalwyd. ei droed, trodd ei blaen tua chyfeiriad ei sawdl. Bu raid tori y gareg cyn rhyddhau ei droed. Cyn gynted ag y symmudwyd hi ymaith, y dyn anffodus, drwy hun- anfeddiant hynod, a ymaflodd yn gad am yn ei droed a throdd hi yn ol i'w lie. Yn mhen ychydig funud- au yr oedd ei boon yn arteithiol. Mae yn llawen genym ddeall y disgwylir na-fydd yn hir eyn adferu. Pe digwyddasai fod yn angeuol iddo cawsai eglwys y Graig golled drom ar ei ol, oblegid ni fu Blaenor mwy gofalus ac ymdrechgar erioed yn eu gwasan- aethu.—Gohebydd.
PENNAL.
PENNAL. Cymmerodd dau beth newydd dan yr haul ie yn v lie uchod yn ddiweddar. Y11 gyntaf, cynhaliwyd Eisteddfod yma ar y 29ain o Ragfyr. Beiriiiad y z, traethodau, y farddoniaeth, datganu, darllen, ad- rodd, areithio, &c.—Mynvddog. Trodd yr Eistedd- fod allan yn llwyddiannus. L
PENXILL AM YB EISTEDDFOD.
PENXILL AM YB EISTEDDFOD. Ni gawsom Eisteddfod ai-dderchog Yn Mhennal, medd cannoedd heb frol, Fn'n g-wrando Mynyddog dalentog- Beirniadai bob peth yn ddilol; A clianai'n soniarus gaueuon, A sciniai yn eglur bob gair, Nes d'wedai pob Cvmro t.wymgalon, Un enwog yw Bardd Llanbrjaimair. Yn ail, cafodd llong o'r enw Catherine' ei lounrfi- ln i Afon Dyfi lonawr 13eg, eiddo Mr Richard Owen, Machynlleth. A dyma englyn a. gyfansoddwyd cyn ei gwthio allan— Caeth 'rwan yw Cathi ina-g zLo,tN,, a Gydfl brys fan yma: I'r dwfn lanw Dyfi T ii, IMyn nwyfan, mwy a nofia. Dyna ddau beth newydd dan yr haul yh Pennal, na fu erioed o'r blaen. sef Eisteddfod a launch >0 llong.— TV. Perkins.
BLAENAU. FFESTINIOG.
BLAENAU. FFESTINIOG. Cjoninerodd damwain ofidus le ar y lai o'r mis hwn, wrth odreu yr inchne B} n arwain i'r gloddfa gancl. Ymddengys fod amryw weitliwyr yn bwr- iadu cael eu cludo ar hyd-ddi, er arbed y drafferth o gerdded y llwybr arferol; ac i'r dvben hvurw, aeth- ant i'r wageni oeddynt yn ngodreu yr allt, serth, mewn disg-wyliad am y rhai oeddynt ar ei phen uchaf i'w tvnu i fyny. Ond yn anffodus, vr oedd y ddolen a gyssylltai y wageni y,Tth y rhaff wedi tori a'r canlyniad fu iddynt fyned beiclra.inwilwgl i I.Wrl a goddiweddyd dau o'r dynion ar amrantiad yr hyn a achlysur odd farwolaeth y ddau cyn pen vchvdig oriau. Yr oedd amryw ereill gyda hyyy o frodorion yr ardal, ac yn gynnefin a'r peryglon a'r lie i ffoi. Bu Hugh Lewis, oacli yma, mor ifodus a chario un allan o'r perygl. Deallwn mai dieithriaid oeddynt y personau a laddwvd o'r enw Roberts a Rowlands, genedigol o ardal Bethesda. Wythnos fu un o hon- ynt yn ein plith, a bu farw'r ddau vn 22 oed. De- allwn mai llangc ieuangc oedd Tin, a'r Hall yn wr priod a phlentyn i alaru ar ei ol. Hwyrach y dylem fel chwarelwyr ystyried fod llai 0 ddiogelwch i draniwy fel hyn yn awr nag er- ioed, er fod rhaffau cryfach ar yr inclines, o herwydd fod agerbeiriannau y ffordd haiarn yn ysgytio a hyrddio cymmaint arnynt yn fwy nag 0 dan hen drefn y ceffylau; ac er pob gofal o eiddo y cwinni, nis gallant sicrhau yr oil mewn diogelwch. u Mae peth cwyno yn mhob cyfeiriad o'r ardal nad yw trysorfa addysg yr Ysgolion Frytanaidd yn cael eu rhan. Ofnir fad y trens, meddwdod, a balchder yn cael gormod, a hwythau rhy fach. Mae sefyilfa foesol gyiffredinol yr ardal rywbeili yn mhell iawn oddi wrth yr hyn fu rai blynycldoedd yn ol, rhaid i mi gyfaddef, er cymmaint y pregethu, a'r cyrchu i addoldai. Deallwn nad yw ein Penny Readings o fawr wcrth myned iddyrnt os na cheir y di-chwaeth a'r chwer- thin. Os fel hyn y maent, ofnwn fod y seifydfiadau a fwriadwyd i'n gwella wedi ein gwneud yn waeth. Cadwed gorenron yr ardal wrth lyw y cyfarfodydd hyn, a ni a obeithiwn felly weled y llestr yn hwylio rywle allan o gyfeiriad y 'mor ma-r-w.'—Gohebydd.