Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
3UDDUG OLIAETH RRYDDFRYDIAETH…
3UDDUG OLIAETH RRYDDFRYDIAETH T ETHOLIAD SIR GAERNARFON, 1868. Parcli, parch, i'n Imeliel Farehog,—ea'dd goncwest, Arwydd o orchest wnaetli Parry ardderchog. Anrhaith a wnaed o'r Penrhyn-a gostwng Ei Gastell wnaeth Madryn; A gwyrodd ei felch garyn," F, wnaed ef yn llai na dyn, Khwymau ei iati orthrymus-a dorwyd, A'i darian sydd dolcus; Daeth melldithion luon i'w lys, Yn gafod o fellfc digofus. i Yrwan y mae Toryiaeth-yn beth a fit, I, Ond byth i fod ysywaeth; Gwelwch uwch bro'i hargeliaeth inae Madryn Yn baeddu y g'elyn mewn buddugonaeth. RHYDD wyr, yw anyYdd-eiriau-ein Madryn, Mydrir byth ei glodan :NlaluTiodd--fe dorodd i I lul Yn hwn rhyddhawyd ninnau. Y Wyddfa falch gyThaeddfawr-a fo- Ar fedd gormes erfawr: Yn y llwch yn nyfnder llawr Bo ei gwyr yn mhob gorawr. u Na chodant i'n nychnu wed'yn, Neb yn eu hoes, medd ROBYN WYK.
ENGLYNION.
ENGLYNION Jedr Meirion, mab bychan pert Mr David Evans, oiner, Corwen. Mae Pedr Meirion yn dirionach-na neb, Ydyw'n wir, a challn.ch; Fu'r un eilun auwylach > Gan y byd na'r bachgen bach. Pwy na fola'r peifelyn-dolenog, A'r del wyneb purwyn- Creffwcli arno 'n mhen gronyn: Ceir elw siongc tan y cyrls hyn. Ha! Pedr.bach, delach dolen—o'i wallt aur Na holl dwf daearen; Cyflawn bwngc ei felyn ben Fydd gwea aur wean 'r awen. n Derfel Sant. Dmvr HAVIIEBP.
Y WRAIG ANNYNAD.
Y WRAIG ANNYNAD. 0 bob lief dan nef a nâd-y cantoedd, Er dydd cynta'r cread- Rhygn unodl gwraig annynad Yw'r licii lef oera'n y wlad. Cynnwysiad drycin oesol—swn rheieidr, Sy'n ei rhinge dragwyddol. Crea'i hod dafod deifiol Ufel o bla fel Bolol. DBWI HAVHESP.
ENGLYNION
ENGLYNION ddiolch i Mr E. Morris, Liverpool (genedigol o Hafod Lom), am ei ewyllys da tuag at orphen talu y gost o ail-adeiladu capel Pentre-llyn-cymer. I Morris anghydmarol-rhwym yn awr Ym ni'n gydwybodol Am help, yn yr hyn mae ol Liaw rhln o gell arianol. .if-* Addoldy heb ddyled hybiodd—ini— Ail fyw ynom gododd A'i GY-,ye-amom gwenodd Haul yngrym ei deilwng EODD.. • O'n myntfes dwym, hynaws dymher,—diolch Pr gwr da rown, lawer: Mewn tan mae ei enw ter Yn llanw cymoedd Llyn Cymer. ELIAS JONES (Llew Hiraethog.)
ANNERCHIAD PRIODASOL
ANNERCHIAD PRIODASOL tr John Davies a Miss Mary Nicholas, a briodwyd L y Plough, Aberhonddii, Rhag. 19, 18G8. TTnwyd heddyw ddau yn nghyd, Dauanwylaf feddai'r byd: Rhosyn glan a'r Lili wen, P'le bu bertiach dau is nen Mary 'n wir yw '1- fwyna 'n fyw, Personoliaetli cariad yw. John nid yw un iod yn ôl, [ Pr hawdSgar fun sydd yn ei gol. Bhos a'r Lili 'n awr sydd un, r Poll yn wrair¡, a John yn dd.ljil.. P'le bu 'rioed brydfei-thach dau, 'N dechreu 'u byd o fewn ein pau ? t Gwylied engyl nefoedd wen Tros y dclau tra is y nen, Rhag bod brad o fewn un bryd y At un o'r ddau na'r ddau ynghyd. Doed y gwlaw i lawr yn wlitli, Gwlith-wlaw tyner arnynt byth.. Troed y gwynt yn enwaon ter Cyn cusanu 'u gwefus per. Gwened haul Rhagluniaeth Duw Ar y ddau, tra byddont byw. Hedd a da yn ddiluw mawr, i Boed i'ch rhan tra ar y llawr. K Pch boed hyn o'i gariad Ef, Yn ernes fawr o fwy 'n y nef. Bweti'r briodaf,. CYLAILL.
;; TYSTEB CROMWELL.
TYSTEB CROMWELL. Ldroddwyd y pennillion canlynol mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Beaumaris, nos Fercher, Rhag. 23ain, 1868.] Mae dyddiau gwelt yn gwawrio Na dyddiau Mab y Dyn, i Mae prophwyd mewn anrhydedd 'Nawr yn ei wlad ei hun; j :•••;• Can's anrhydeddir Cromwell, i." A hardd wobrwyir ef, i 0.' Gan luaws o breswylwyr .j,. i. -< (I Ei enedigol dref. n: Mae dyddiau gwell yn gwawrio Na dyddiau'n teidiau coeth, Os myni glod bydd farw,' Oedd grym eu haddysg ddoeth; Can's gwelir Cromwell yma, Yn fyw, yn iacli, a chryf, V J f A ninnau yn ei gaumol, r, t Ali:foli'n ddigon hyf. Mae dyddiau gwell yn gwawrio „ Na'r br*ydro fuln y tir, •" Ehyw ymladd nes gorchfygu Trwy'r oesau ddarfu'r gwir; 'B athrawiaeth bleidiodd Cromwell Sy'n llenwi bro a bryn, Ceir ffrwyth y brwydrau hyny Y dyddiau hafaidd hyn. r Mae dyddiau gwell yn gwawrioi Caifl Cromwell wobr fwy, i Nid aur, a chlod, a mawredd, Ond ti-ysor bery'n hwy; i t I aros hyn cynnygiwn Mewn aur, y Dysteb hon, i 1 •' Arddengvs serch tuag atto Sy'n cnwyddo llawer bron. W. Ht"GJIE3.
==-YMWELIAT) AG AMERICA.
==- YMWELIAT) AG AMERICA. Teimlerri gryn ddyddordeb wrth feddwl cael eulio SABBATH AR Y MOB j jx oeddym wedi cynllunio i gael moddion. ymreig ar fwrdd y llong; ond erbyn boreu abbath, yr oedd yn oer iawn, a'r gwynt yn hu yn gryf ac yn uchel, a r rhan fwyafo'r KTOHL yn glaf iawn. Dyma y diwrnod garwaf c ei hyd a gawsom ar y fordaitli. Am banner svr wedi deg, awr y gwasanaeth arferol, yr oedd r. Massie i bregethu yn y saloosi. Ccisiais mlusgo i fyny, er saled oeddwn. Nid oedd no ond ychydig mewn cymhariaeth wedi dyfod n nghyd. Curai y gwyijt yn gryf, ac ymroliai Hong o'r naill ochr i'r llall, fel mai trwy gryn ahawsder yr oedd y pregethwr yn gallu sefyll ei draea. Safai ar yr ochr, yn agos i ganol r ystafell. Yr oedd dwy neu dair ogiustogau eu gilydd ar y bwrdd yn gwnend math o hak i ddal y Beibl. Eisteddai Caledonian, a Lanci, a C. R. yn ei ymyl. fel ei dri chedyrn' i gynnal ei freichiau; ac yr oedd y Gohebydd yn ex eisteddle arferol yn codi ei ysgwyddau',Ao yn gwthio ei fysedd i fyny o amgylch ei drwyn; ac yr oeddwn innau ar fy lied orwedd yn un pen i'r ystafell. Gwelwn lygad y Groheb- ydd yn troi weithiau tuag ataf yrj bur arwydd- ocaol; ac yr oeddwn yn deall mai at y tri brawd j oedd wedi dewis yr eisteddleoedd uchaf y mynai alw fy sylw. Yr oedd y peth: wedi fy nharo innau, a than amgylcliiadau cyffredin, buasai yn gryn brofedigaetb; ond yr oeddwn yn rhy sal i ddim gael fawr o effaith arnaf. Nid oedd dim yn hynod yn mhregeth yr hen Ddoc- toi, y boreu hwnw; ond gweddiodd yn nodedig 0 effeitliiol. Ni eblywais ddim erioed yn f\yy^ eyflawn a oHyfaddas i'r aingylebiad yr oedd^^t^ ynddo. Cydnabyddai law Duw yn ein dygiad yn ddiogel hyd hyny; erfynisji am améldifYh yr hw'n sydd yn dal y gwynt yn ei dclyniau; ac yr oedd y fath gyfeiriadau hapus dan y fath amgylchiadau yn taro pob ualon. G-wedd'iai yn fanwl dros lywydd y llong, y swyddogion, yr holl ddwylaw, a'r mordeithwyr, ac yri enwedig y 'cydymdeithion mewn cystudd.' Cofiai y wlad o'r hon y daethom, a'r wlad yr oedd ein hwynebau arni-y,cyfeillion a adawsom ar 01, a'r cyfeillion y disgwyliem eu cyfarfod; ac yr oedd y cyfeiriad a wnaeth at ein tirionaf Fren- hines yn llawn o deimlad. Nid oedd nemawr wyneb sych yn y lie. Gwn fod a fyno yr am- gylchiadau mewn rhan fawr a dwysder y teim- lad; ond yr oedd hefyd briodoldeb arbenig yn y weddi. Brysiais yn ol i'r gwely, ac yno y bum weddill y dydd. Aeth Mr C. E. J. a'r Gohebydd yn y prydnawn i gadw tipyno oedfa yn mhen blaen y llong i'r Cymry; a chawsant gyfarfod llewyrchus iawn, fel y clywais gan rai o'r morwyr oedd yno. Pregethodd Mr Jones, a bu y Gohebydd yn darllen ac yn esbonio rhanau o lyfr y Diarhebion. Ar ol yr oedfa, daethant ataf i edrych am danaf, ac i roddi hanes yr oedfa a gawsant. Er saled oeddwn, cefais dipyn o ddifyrwch wrth eu gwrando. Eistedd- ai y Gohebydd ar ryw portmanteau oedd genyf wrth erchwyn fy ngwely, a'i benelin ar ei lin, a'i law dan ei en, a phwysai C. E. ar ei ledor- wedd ar y gwely yr ochr arall. Yr oedd yn bur ystormus, a'r llestr yn ymrglio cryn lawer. Lied ddistaw oedd y ddau ar y dechreu. Gofynais pa fath gyfarfod a gawsoch F' O, go lew, go y lew,' ebe y Gohebydd,' yr oedda nhw yn holi yn arw am danoch chi. Mae yna rai o honyn nhw yn sal iawn—druain bach, mae nhw'n edrych yn sobr. Mae yna. ryw ferch o Dredegar neu Eymney—-poor thing, y mae hi yn sal-ond yr oeddwn i yn deyd wrthyn nhw y base nhw yn all right foru, ac y buasech chwithe wedi gwella 1 ddod i'w gwel'd.' A oedd yno dipyn ynghyd yn yr oedfa ?' ail ofynwn. Oedd yno mi wn i chi ddeuddeg neu bymtheg ar hugain o honom ni i gyd. Rhy goeth a chlasurol braidd oedd pre- geth y brawd C. R. yma i'r boys oedd yna- pregeth dda iawn, ond preach like a booh fasa yr hen Binney yn ei galw.' Beth pe buasech chwi yn ei glywed o yn esbonio ?' ebe C. R., oedd erbyn hyn yn gweled fod ei dro yntau wedi dyfod i roddi ei farn. Y benod yna yn Diarhebion 'Fy mab na ollwng fy nghyfraith dros gof, ond cadwed dy galon fy ngorchymyn- ion' a ddarllenodd o,' ac yna dynwaredaiy Go- hebydd yn ei hesbonio yn ei ddull rhydd, siar- adus ei hun. Mi ddaliai iti was fod y boys yna heddyw yn cofio mwy o nhipyn 'sponiad i, nag y mae nhw yn ei gofio o dy bregeth fawr, goeth, glasurol di; onte 'rwy'n foddlon i Mr Thomas i fyned heibio iddynt yforu i'w holi.' A chyn i'r Gohebydd gael amser i orphen dyna y gloch bedwar yn canu i'w galw i giniaw, a ffwrdd a hwy, gan anghofio y cwbl mewn eiliad' Cym- deithion ardderchog oeddynt—-unplyg a char- edig. Nid wyf yn meddwl iddynt golli pryd yr holl daith, er y sonient yn fynych am gosbi y corff.' Da i mi oedd eu bod hwy mor iach trwy yr holl amser. Cefais gyfle ddydd Llun i ymddiddan a dau neu dri o forwyr Cymreig oedd ar fwrdd y llong, ac oedd^wedi bod yn yr odfa, ac yr oeddynt wedi eu boddhau yn fawr iawn yn y ddau frawd. Ac am y steerage pas- sengers yr oedd y ddau yn favourites ganddynt, oblegid eu bod yh myned bob dydd i ymweled a hwy. 'Yr oeddynt yn fy esgusodi i am y gwyddent fy mod yn glaf. Dichon nad oes un man lie y mae y teimlad dosbarthol i'w weled yn amlycach nag ar fwrdd llong ymfudol rhwng t, 0 ZD y cabin a'r steerage passengers. Mae yno linell yn mhellach na'r hon nid oes gan y rhai o'r steerage hawl i fyned ond y mae yr holl long yn rhydd i'r rhai o'r cabin; ermai ychydig sydd yn ymgymmysgu a'r cenedlfiedd' fel y galwai y Gohebydd hwy; ond y mae y rhai a wna yn llawer parchusach yn eu golwg, na'r rhai sydd yn edrych i lawr arnynt, fel pe byddai perygl iddynt halogi eu hurddas wrth gyffwrdd a hwy, ond ni welais neb yn enill parch wrth sarhau y werin drwy gadw draw oddiwrthynt. Clywais yn ddiweddar am weinidog oedd yn croesi y Wer- ydd fel cabin passenger ac nad ymostyngodd un- waith i fyned i weled nifer o Gymry oedd yn y steerage; ond yr oedd yno weinidog Pabaidd yn dyfod bob dydd, ac yn ami ddwywaith yn y dydd i edrych am y Gwyddelod oedd yno. Yr oedd yn ddrwg genyf glywed y bobl yn rhoddi eubarn ar ymddygiad y ddau, ac ni fynaswn am lawer fod dan y cableddau a'r melldithion a fwrid ar y gweinidog Cymreig Nid yw caredig- rwydd a sirioldeb yn costio fawr i ddyn, ond y mae yn myned yn mhell gyda'r rhai sydd yn ei dderbyn. Dydd Llun, y mae y tywydd yn parhau yn oer a gerwin, yn debycach fel y dy- wedai pawb, i fis Chwefror nag i fis Mehefin. Treuliais y rhan fwyaf o ddydd Mawrth ar y deck yn dipyn gwell. Nid oedd dim neillduol yn tynu sylw yr holl ffordd. Os yn achlysurol y gwelid llong o bell, yr oedd hyny yn ddy- gwyddiad arigliyffredin. Yr oedd oerder yr awyr yn pron ein bod yn agoshau at fanciau Newfoundland; a dydd Mercher gwelem fyn- yddoedd o ia, fel ynysoedd gwynion disglaer fel y grisial' a'r olwg arnynt yn ardderchog. Yn ami y mae niwl tew yn gorchuddio yr awyr yn y terfynau hyn; ac y mae llongau wedi rhedeg i'r Icebergs mawrion yma weithiau, a phan ddygwydda hyny, y mae yn fwy peryglus na rhedeg ar graig. Gallai y graig fod yn ym- n wared i'r neb a gai arni; ond byddai oerder naynyddoedd yr ia yn sicr o fod yn angeu yn fuan i'r neb a ddisgynai arnynt. Ond yr oedd yr awyr yn lIed glir pan aethom ni heibio ac er em bod yn rhyw hanner milldir neu fwy o bepder oddiwrthynt, yr oeddym yn cael golwg glir arnynt. Mae yn worth croesi y Werydd pe na byddai dun ond er gweled y darnau mawrion yma o ia yn nofio ar wyneb y dyfnder mawr. Maent yn disgyn i'r mor tua diwedd Ebi-ill a dechreu Mai, ae erbyn diwedd IMeliefixibyddaiit yn gyffrodin wedi toddi o'r golwg. Ond y maent yn fwy peryglus pan yn ymgolli o'r gol- wg i fyned i'w herbyn. Mae mordeithwyr yn wastad yn eu hofni, er fod pawb yn hoffi eu gweled o bell. Dydd lau, yroeddwn ynllawec iawn gwell. Ac weda bod hir ddirwest,' boreu Gwener aethum at y bwrdd yn gysurus am y tro cyntaf wedi gadael Queentown. Ac o hyny i'r diwedd ni fwynhaodd neb ei hun yn well. Ac waeth i mi ddweyd yn awr, dychwelais yn ol heb deimlo dim oddiwrth glefyd ymor, oddi- eithr ychydig un boreu yn mhen yr wythnos agos wedi gadael New York. Os oedd y pas- sage wrth fyned yn un o'r rhai garwaf, ac ys- tyried yr adeg o'r flwyddyn; yr oedd j-pussage wrth ddychwelyd yn un o'r rhainiwyaf dy- munol. Mae rhagluniaeth yn ddoeth iawn yn gwneud y iiaill, beth ,ar gyfer y llall. Mae y tebygolrwydd o gael tywydd o'r fath ag .a g,efais wrth fyned yn creu arswyd ynof ed&v,tl Inyne(I eto; ond y mae y .posibl- fwyifd o gael tywydd o'r fath ag a gefais wrth j ddychwelyd yn gwneud na byddai arnaf ddim rdyw lawor o ofn myned etope byddai galwad. On(I i ddychwelyd at y fordaith, Sadwrn a'r Sabbath", yr oedd yn dywydd dymunol dros ben. Cadwyd y gwasanaeth arferol yn y saloon yn y boreu, a'r prydnawn. pregecfhais inaa dipyn i'r Cymry ar y deck, yn yr awyr agorod; ac ar ol i mi orphen, pregethodd Dr. Massie yn yr un i man i'r Saeson. Yr oedd y gwrandawiad yn astud iawn, oddigerth rhai Gwyddelod difoes oedd yno na thalent sylw i ddim. Prydnawn Sabbath, daeth y pilot i'r bwrdd, ac yr oedd hyny yn arwydd ein bod yn nesau i ryw wlad. Ac yn foreu ddydd Llun, dacw olwg ar dir America. 0 r y llawenydd sydd trwy yr holl le. Mae yma bawb ar y bwrdd; y cleifion, druain, na welwyd eu hwynebau er y ga dawsom Liverpool yn dyfod allan o'u celloedd, a'u llyg- aid yn perlio o lawenydd; ac y mae ein cydys- tafellwr, yr Americaniad rhyfelgar yntau yma, ac o gryn dipyn yn fwy hyf fel y mae yn agos- hau i'w wlad ei hun. Mae golwg ar dir wedi rhoddi bywyd newydd yn mhawb, a gwedd newydd ar wyneb pawb, a dillad newydd am bawb. Ni welais neb erioed wedi gwisgo yn well nag ymac yr holl cabin passengers ar gyfer glanio. Prin yr ydyra yn adnabod ein cwmni gan faint y cyfnewidiad. Yr oeddwn yn meddwl ar y pryd, os oedd ein llawenydd ni yn gymmaint wrth weled tir pannad oeddym wedi bod ond prin ddeuddeg niwrnod ar y mor, beth oedd raid fod llawenydd Columbus a'i wyr pan ddarganfyddasant dir America am y waith gyntaf, wedi bod 'yn hwylio yn anniben' am yn agos i chwech ugain o d,dyddiau i chwilio am y byd newydd. Nid rhyfedd eu bod yn syrthio ar y ddaear ac yn ei chusanu o lawen- ydd. Mae y fynedfa i borthladd New York tu hwnt i ddim a welais erioed. Derbyniais yr argraff yn y fan fod yn rhaid fod rhyw fawredd ac eangder yn y wlad ag yr oedd natur wedi rhoddi, iddi entrance mor ysplenydd. Os yw y lodge gystal beth raid fod y palas! Mae y pOrthladd yn bum milldir ar hugain o amgylch- edd yn ddigon eang fel y gall holl lyngesoedd y byd orwedd ynddo gyda chysur a diogelwch. Gorchuddir ei ymylon gan balasau gwychion y rhai ydynt fel ymlwaith hardd iddo. Addurnir ef yma a thraw gan fan ynysoedd o'r fath bryd- ferthaf; a nofir ef gan longau bychain a mawr- ion-y rhwyflong a a drwyddo, a'r llong odidog a a drosto ac y mae y cwbl gyda'u gilydd yn ei gwneud yn un o'r golygfeydd arforol mwyaf swynol y disgynodd llygaid dyn arni erioed. (I'w barhau.J s;=.
AR FWRDD Y 'CARNATIC' YN YN…
AR FWRDD Y 'CARNATIC' YN YN Y MOR COCH. II Ragfyr 21ain, 1868, Dyma ni ar y Mor Coch unwaith eto. A chan ei bod yn ddiwrnod tawel, a dymunol, eisteddaf yn y saloon i adrodd ychydig o'm helynt yn yr Aifft. Ni chefais ond ychydig amser y tro hwn -ac o, ganlyniad ychydig sydd genyf i'w ddy- wedyd. Cefais ddiwrnod cyfan yn Alexandria, ac ychydig o oriau yn Suez. Yn Cairo yr ar- hosais y tro o'r blaen y bum yn yr Aifft, ond nid aethum yno o gwbl y tro hwn, gan fod cledr- ffordd newydd wedi ei gwneud lawer yn agosael-i na myned trwy Cairo. Pan y terfynais fy llythyr diweddaf yr oedd- ym ar For y Canoldir, yn agos i Alexandria, mewn tywydd blin. Daethom i olwg y porth- ladd tua haner nos, a gorfu arnom aros hyd doriad gwawr dydd Sadwrn cyn myned i mewn, gan fod y fynedfa i mewn yn gyfyng a pherygl- us. I'r gorllewin gwelir rhestrau o felinau gwynt yn malu yd yr Aifft, ac i'r ochr ddwyr- einiol gwelir y dref yn dryblith o dai o'r fath fwyaf amrywiol-yn arddangos tlodi a chyfoeth y trigolion. Glaniasom tua naw o'r gloch. Sylwais fod liawer llai o anrhefn a dadwrdd yn mhlith yr Arabiaid o gylch y llong nag a welais un mlynedd ar ddeg yn ol. Nid wyf yn gwy- yr achos. Fe allai fod gwareiddiad yn cynyddu yn eu plith. Aethom ar unwaith mewn omnibus i'r Hotel, lie y cawsom foreufwyd da, mewn dull Fraincaidd, hyny yw, cawsom saith neu wyth o wahanol fwydydd y naill ar ol y llall, a dis- gwylid i ni gymeryd ryw gymaint o bob un o honynt. Os na byddis yn deall hyn ar y dech- reu, y mae perygl i gymeryd gormod o'r peth cyntaf, a chan fod y pethau goreu yn ami yn ddiweddaf, gallai fod yn brofedigaeth i rai i gymeiyd mwy nag sydd briodol. Tra ar frec- wast cawsom rybydd i fod yn y Railway Station am saith yn yr hwyr i gychwyn i Suez. Y peth nesaf oedd cynllunio y dull gbreu i weled y dref a'r wlad o'i chylch. I ddechreu, aethum drwy y rhanau hyny o honi lie y prynir ac y gwerthir fwyaf. Bodola cryn lawer o ryw fath o drefn yn nhrefydd y Dwyrain; er engraifft, ceir ynddynt fanau neill- duol i werthu a phrynu pethau penodol, ac ni cheir yn y manau hyny ond y pethau penodol a werthir yn y rhanau hyny o'r dref. Aethum trwy farchnad y cig, marclinad y ffrwythau, marchnad y coed, marchnad y dillad, &c. Mewn heolydd culion iawn y cynhelir y rhai hyn. Ac nid siopau a ffenestri gwydr iddynt a welir, ond ryw fath o loches, ddwy neu dair Hath o hyd, a chymaint a hyny o led, yn agored.i'r heol, a'r siopwyr yn eistedd fel taelwriaid ar y llawr, ac yn gyffredin yn smocio yn hynod dawel. Prin y gall dau gerbyd fyned heibio i'w gilydd heb daro yn erbyn y byrddau ar ba rai y cedwir nwyddau y siop. Ond gwaith anhawdd ydyw myned ar draed trwy heolydd Alexandria heb suddo yn awr ac eilwaith chwe modfedd i'r llaid. 0 bob lie y bum ynddo erioed ni welais un man haner mor aflan ag Alexandria. Gwelais lawer o bentref- ydd a threfydd yn Nghymru ag y buasai yn fendith iddynt gael eu carthu yn awr ac eilwaith. Gwelais yn America hefyd fanau a allasent fod yn lanach nag oeddent. Ac am India, yr oedd- wn yn tybied nad oedd man yn y byd yn aflan- ach na rhai o'i threfydd, ond rhaid i mi ofyn maddeuant gan India am wneud cam a hi, gan Alexandria yn anrhaethol aflanach na dim a welais hyd yn od yn India. Nid wyf yn gwneud cam a hi wrth ddywedyd fod yno chwe modfedd o fwd ar hyd ei heolydd goreu, ac am y lleill ni feiddiaf ddyweyd faint oedd ei ddyfn- der. Ac nid mwd eyffredin oedd, ond mwd o'r fath aflanaf, mwd a'i arogl yn gwneud i ni deimlo yn glaf pan yn agos ato. Mewn rhai manau yr oedd yn dew fel uwd, ac yn glynu wrth bob peth, mewn manau eraill yn wlyb a meddal, yn cael ei luchio gall draed y ceffylau ac olwynion y ceirbydau I ar draws pob peth o'i gylch. Gan mai olwynion bychain," ryw ddwy droedfedd o uwchder, sydd i wageni Alexandria, gwelid hwy yn suddo at y bothauyn y Ilaid, a gallesid meddwl nad oedd ganddynt olwynion 0;gwbl. Ac ami y gwelid y gyrwyr, y rhai ydynt bob a-mser yn droednoeth, yn llusgo at haner eu coesau yn y mwd i gynorthwyo eu hanifeiliaid i gael y wagen trwy y baw. O bob Ochr Ceir llwybr ychydig yn lanaeh na chanol yr heol, ond mor gul fel mai anaml y gall dau berson fyned heibio i'w gilydd heb berygl i'r un agosaf allan gael ei daflu i'r llaid, a'r llall gael ei wasgu i'r mur, neu i'r siop wrth ei ochr. Peth hynod ddyddorol oedd edrych :ar ladies, Saeson a Ffrancod, wedi gwisgo mewn fall style yn myned trwy y strydoedd, ac yn ceisio cadw eu traed a'u gwisgoedd lleision o'r mwd, parodd i mi chwerthin wrth edrych arnynt weithiau, ac nis gallwn lai na thybied nad oedd fater am danynt, gan eu bod yn ddigon ffol i ymddangos mor fawreddog mewn lie mor annghymwys; ymddangosent fel allan o'u lie yn nghanol y fath fudreddi. Ond mewn gwirionedd, y syn- dod i mi ydyw fod neb yn gallu byw yn Alex- andria o gwbl. Gyda'r fath aflendid dan draed, a phelydrau tanbaid yr haul yn tywallt arno bob dydd, nid wyf yn deall pa fodd na byddai heintiau a chlefydau wedi ysu y wlad. Fe allai nad ydyw bob amser mor aflan a phan y gwel- ais i hi dydd Sadwrn diweddaf, ond nid oes genyf ond dywedyd beth a welais. Wedi yiulwybro tua dwy awr yn y marchnad- oedd, aethum yn ol i'r Hotel i orphwys ychydig, yna aethum ar gefn mul i weled ychydig o ry- feddodau y gym'dogaeth. Gan nad oedd fy anifail yn un mawr iawn cyrhaeddai fy nhraed bron hyd y llawr, ac weithiau nid ychydig oedd fy nhrafferth i'w cadw o'r mwd, gan y sudclai y mul bach iddo yn lied ddwfn mewn rhai manau. Chwareu teg iddo, cadwai ohono tra gallai, a phan y teimlai ei draed ar dir diogel carlamai yn ardderchog, prin y gallai ybachgen a'i gyrai ei ddilyn er ei fod yntau yn rhedegwr da. Yn mhen rhyw haner awr cyrhaeddais Pompey's Pillar, rhyfeddod fawr Alexandria. Colofn an- ferth o drwch ac uwchder, oil yn un gareg ydyw. Ni welais ei chyffelyb mewn un man. Y mae yn syndod pa fodd y gellid ei chludo i'r fan, a'i gosod i fynu wedi ei chael. Saif ar fan uchel, a wnaed yn dra thebyg i'r pwrpas. O'i chylch gwelir carneddi o hen adfeilion o'r Catacombs, neu feddau tanddaearol; nid oedd genyf amser i fyned i mewn i'r rhai hyn. Ac un ochr iddi y mae mynwent fawr y Mahometaniaid—lie y gorwedd miloedd o honynt heb enw neb ar ei gareg fedd, gan fod hyn yn waharddedig iddynt. Aethum oddiyno ar hyd lan afon y Nile i weled tai a gerddi y pendefigion, ac y maent yn werth eu gweled. Ond y perllanau o balmwydcl a welir yn y gym'dogaeth ydyw yr olygfa hardd- af. Wedi gadael glan yr afon aethum tu cefn i'r dref, trwy ganol hen adfaelion y ddinas a sylfaenwyd gan Alexander Fawr, ac a hardd- wyd gan y Ptolmeys. Y maent yn gwneuthur ffordd lydan trwy ganol yr hen adfeilion hyn, a chloddiant i fynu lawer o bethau henafol. Ond nid ydynt yn prisio llawer am danynt, defnydd- iant hwy i adeiladu tai newyddion ac i wella y ffyrdd; gallant wella y strydoedd a hwy, pe ceisient, ond nid ydynt yn teimlo yr angen, mae yn debyg. Ar ochr ddwyreiniol i'r dref saif nodwydd Cleopatra-cofgolofn anferth ei maint, a cherf- luniau, hyeroglyphics, yn ei gorchuddio o'r gwaelod i'w phen. Gelwir hi ar enw y Frenhin- es Cleopatra, a lywodraethai yn yr Aifft ychyd- ig cyn dechreu y cyfnod Cristionogol. O'r fan hon aethum i'r dref ar hyd lan y mor trwy y rhan a feddianir gan Ewropeaid. Ceir yma adeiladau mawrion, o ddull Italaidd a Groeg- aidd, gan fod y dulliau hyny yn fwy cymwys i hinsawdd boeth. Y prif fan ydyw y Grand Square, darn'agored wedi ei blanu a rhestrau o goed cysgodol, ac yn cael ei gylchynu gan ad- eiladau gwychion o bob ochr. Ond hyd yn oed yma hefyd, prin y gellid symud gan y mwd ar bob llaw. Yn y rhan yma o'r dref gellid cael ymdrochfau ardderchog pe cedwid y traeth yn lan. Y mae yn debycach i Aberystwyth, os wyf yn cofio yn dda, na dim un man a welais. A cheir ar y lan amryw dai godidog-ond baw, baw, baw heb ddiwedd a geir hyd yn oed yma hefyd. Teflir tomenau o bob sothach a budr- eddi ar y traeth nes llygru dwfr y mor am bell- der oddiwrth y lan. Ac ar y tomenau hyn y gorwedda ciwdodau o gwn a golwg bleiddiaid arnynt; ysgyrnygant eu danedd ar eu gilydd, ac ar ymdeithwyr a ant heibio iddynt. Gwelais ugeiniau o honynt mewn gwahanol ranau o'r dref, ni pherthynant i neb, ac y maent yn byw ar y budreddi a deflir allan gan y trigolion— scavengers y dref ydynt, ac fe allai eu bod yn fendith. Rhyw gymysgeddydyw trigolion Alexandria o bob cenedl o bobl dan haul y nefoedd. Syl- faenwyd hi gan Alexander Fawr i fod yn brif farchnadfa yr ymerodraeth gyffredino1 a fwr- iadai ei ffurfio. A chyfaddefir gan bawb iddo ddewis man ardderchog i'r perwyl. Wedi ei farw ef, rhanwyd ei lywodraeth, ac am hir am- ser llywodraethwyd yr Aifft gan y Ptolmeyaid, y brenhinoedd Groegaidd, a llwyddasant i wneud Alexandria am hir amser yn farchnadfa gyfxredinol rhwng y gorllewin a'r dwyrain. Yn nechreu y cyfnod Cristionogol, gwelid marsiandwyr y byd yn cydgyfarfod yn heolydd Alexandria. A diau i Gristionogaeth gymeryd meddiant o feddyliau rhan luosog o'r trigolion. Nid oes amheuaeth na chymerodd Alexandria ran helaeth yn lledaeniad boreuol ein crefydd. Mawr a lluosog ydynt y cyfnewidiadau a gy- merasant le yn Alexandria yn ystod y pymtheg canrif diweddaf, ond ceidw eiphwysigrwydd i raddau helaeth fel man cyfarfyddiad i'r dwyrain a'r gorllewin. A chpir yma yn awr fel yn ei dyddiau boreuol bob cenedl o bobl yn cymysgu a'u gilydd, Aifffciaid, Turkiaid, Arabiaid, Groeg- iaid, Italiaid, Ffrarlcod, a Saeson, ydynt y rhai mwyaf lliosog. Ymddengys fod y Ffrancod yn llawer mwy dylanwadol yn yr Aifffc na'r Saeson. Y Ffrancaeg a siaredir fwyaf o un d'afodiaitli ddieithr, ac enwau Ffrancaidd a welir ar lawer o'r heolydd, a'r prif adeiladau. Y mae y canal rhwng Mor y Canoldir a'r Mor Coch wedi ychwanegu dylanwad y Ffrancod yn fawr iawn, ac os try y gamlas yn llwyddiaxvs cynydda lawr eto. < ..— W. JONES. fVw barhau.)
CYMMANFA DDIRWESTOL AC. 'ATTALIADOL…
CYMMANFA DDIRWESTOL AC. 'ATTALIADOL GWENT A MOBGANWG. Daeth i'n llaw adroddiad o weithrediadau y manfa am y ilwyddyn ddiweddaf. Dengys yr ad- roddiad fod pwyllgor y gymmanfa wedi bodyn wcithgar ac egniol iawn. Llawen genym weled e bod wedi helaethu eu terfynau, fel ag i gymmeryd-i mewn holl siroedd Deheudir Cymru. Araeth y llywydd am y flwyddyn, Mr John Williams, Tre- eynon, Aberdar, ydyw y prif beth yn yir adroddiad- Traddodwyd hi ga,ndddo yn y gymmanfa ddiweddai yn Dowlais, yn-ol yr arier i lywyd y gymmarifa a y flwyddyn roddi yr araeth agoriadol. Mae araeth Mr Williams yn rhagorol iawn. Dengys gyclna- byddiaeth helaeth a'r cwestiwn yn ei holl agwedd" ion, a byddai darllen yn ystyriol y ffeithiaxi oyifroUS a ddygir yn mlaen ganddo yn rhwym, ni feddylie111* o gynhyrfu ysbryd dyn-i wneud ymdreeh ac abertb yn erbyn y drwg. Buasai yn dda genym weled o ddynion cyhoeddus y gwahanol enwadau yn eys- sylltu eu hunain a'r gymmanfa. Nis gwyddom at bwy y mae y bai eu bod yn sefyll draw, ond yr ya yn dyfod yn fwy argyhoeddedig bob dydd fod Y" adeg yn ymyl y bydd raid i Grristionogion yngyff- redinol ddyfod allan yn unol yn erbyn diotta, cyi*. eddach, a meddwdod. Mae ein cyfeillion yn Lloe^ eisoes wedi teimlo hyn, ac yn parotoi i'r ynigV^' Mae Gymmanfa Grwent a Morganwg wedi yn ganmoladvvy, ac yr ydym yn gwbl liyderus dyddiau gwell etto yn ei^ haros. Dengys yr adrodd- iad eu bod yn mhob ystyr mewn cyflwr iachus pharod i waith. I
CENHADAETHAU PEYDEINI^ A CHEISTIOXOGAETH.…
CENHADAETHAU PEYDEINI^ A CHEISTIOXOGAETH. Gobeithir na bydd i'r cyfarfyddiad anhap diweddar rhwng y boblogaeth Chineaidd Yanchow a "chenhadon y Plymouth Brethren,J* dan Mr Taylor, alw allan appeliadau i wt^, Cristionogaeth trwy nerth y cleddyf, y fath a godwyd gan rai Cristionogion proffesedig 1857, Er engliraifft, dywedodd un areithlwr mewn cyfarfod cenhadol, trwy dy wallt tanb^ enau i Canton dygwyd y Chineaid i'w synwyra^' Cliriodd ein drylliau. y ffordd, o dan Baylunia$' dda Duio (!), i'n derbyn i'r ddinas lygredig. CJ yn yr amser priodol, adeiladwyd ein heglwySl fewn ei muriau, a phlanwyd yn eu mysg safo« y Groes.' Attebwyd y wag-fost yma ar y prjl| gan Mr Henry Eicharcl, A.S., mewn traetiiodyA'f o'r hwn ni bydd y dyfyniad a ganlyn allan 018; ar yr adeg brosoiiiiol: A- ydyw yn debyg y gellir helaeth a crefy^i 0 heddwch, a thrugaredd, a chariad brawaid trwy gelanedd a gwaed ? A ydyw yn' grsso', ag unrhyw beth a wyddom ni am y natur Y" ol, oddi wrth ein hymwybyddiaeth ein unO, neu oddi wrth ffeithiau hanesiaeth, y bydd n"! rhyw bobl yn dueddol i edrych yn ffafriol 'j grefydd rhai sydd yn dilyn yn Ihvybrau byddi»'j oedd lanwodd eu cartreli a dychryn ac anghp^i anedd-dra A ydyw yn debygol i Hindoo Chinead dderbyn gyda pharch Feibl sydd ||J diferu gan waed ei dad neu ei fab, neu fod dueddol i wrando gyda diolchgarwch arlais f- dyn y gwyr ei fod wedi taro calonau ei wlad ing, a diliwio ei aelwyd a gwaed ? 'Yr wyf yu a-iiturio gofyn yn mhell nid yw ein holl brohad ein hunain yn myned 1 anghymmeradwyo yr athrawiaeth atgas sydd cyssylltu buddugoliaethau arfau Prydain a Ue aeniad yr efengyl ? I ba ranau o'r maes hadol yr ydych yn cyfeirio gyda'r boddl^i rwydd mwyaf fel cof-golofnau o Iwyddiant ? M nid i lafur Williams a'i gydweithwyr yn Y&flp oedd Mor y De, a Moffatt ac eroill yn Nghaxi0*'| barth Affrica, i genhadon yr Eglwys Sefydle^f i yn New Zealand, i genhadon y Wesleyaid ynjj, Fiji Islands, i genhadon y Bedyddwyr 11 India Orllewinol ? Yn yr holl en-hrei hyn, aeth y dynion cyssegredig, yn llafur y rfl" yr ydych yn llawenliau, allan i biitn y creal^ y barbaraidd, a'r diraddiol, heb fagnelau ain, o'u blaen i agor y ffordd i'r efengyl', ac eu noddi yn nghyflawniad eu dyledswyd^J uchel gan un llysgenhadwr Prydeinig i war^'j nodi eu bygythion, a thynu rhagorfrcin^1^ oddi wrthynt a min y cleddyf. A ydych ChWl ø, barnu, pe buasai y dynion hyn yn appelio at Civis hontaHUB Sum, yn lie rhoddi eu hymddi, ied yn y Duw byw, yr hwn a wasanaetiieiA buasai eu llwyddiant yn gyfartal i'r hyn y wedi bod Gofynwch i unrhyw un o hony1^ sydd yn lyw yn awr, pa un a ydynt yn creduJ tueddai i dderbyniad eu cenhadwri pe bu»s^' llong ryfel Prydain yn hwylio o gylch glana^l lleoedd a fynychent, neu pe buasai amdcliffytJ feydd gorchuddiedig gan ddrylliau a bidog^ wedi eu planu dros bob gorsaf genhadoli barod i ddial unrhyw sarhad a gynnygicl iddJP r ac yn achlysurol roddi i'r prcswyhvyr flaeo" brawf o'r nodwedd, drwy danio ar wersyllfal brodorion, neu warchae ar bentref, mewn ti-ej 1 ddwyn y bobl i'w synwyran ? Oni ddywcd^- ag un llais—Na ato _y Nefoedd Pe mynas^ roddi attalfa effeitliiol ar eich gwaith dylas^v! wneud hyny. Pe mynasech selio calona^J' Paganiaid yn effeithiol yn erbyn gwirioO^ Cristionogol, dylasech anfon ein cydwlad^'J arfog yno i gyflawni dinystr a lladdedigaeth Tj eu plith yn eu henw, neu gyda'n sel a'u c) meradwyaeth.'
[No title]
A SUCCESSFUL Expebimeot. —The Civil S f Gazette has the following:—" There are very A staple articles of food which can boast so valuable and important dietary properties as 00 While acting on the nerves as a gentle stimul831 provides the body with some of the purest eleU^ of nutrition, and at the same time corrects! A invigorates the action of the digestive organs. beneficial effects depend in a great measure UPOP manner of its preparation, but of late years close attention has been given to the growth -p treatment of cocoa, that there is no difficulty securing it with every useful quality fully develop The singular success which Mr Epps his homoeopathic preparation of cocoa has been surpassed by any experimentalist. wide the reputation of Epps's Cocoa has spre»°^ the simple force of its own extraordinary Medical men of all shades of opinion have agr recommending it as the safest and most beO^U, article of diet for persons of weak constitt1 This superiority of a particular mode of prep^^jf: over all others is a remarkable proof of tlhl" I t results to be obiained from little causes, f&fll thorough knowledge of the natural laws jjK! govern the operations of digestion and nutritio^' by a careful apphcation of the fine Q$ well-selected cocoa, Mr Epps has breakfast tables with a delicately flavoured beV QV which may save us many heavy doctors' bill3- r by the judicious use of such articles of diet constitution may be gradually built up 'antil enough to resist every tendency to disease. ^9$, dreds of subtle maladies are floating around to attack wherever there is a weak point. W escape many a fatal shaft by keeping ourselv fortified Virith pure blood and a properly i frame," x 0