Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
YNYS MON BAGANAIDD.
YNYS MON BAGANAIDD. N a thramgwydded y Monwysiaid wrthym ^defnyddio y fath ymadrodd. Gwyddom sarhad ynddo. Synasom ein hunain pan arllenasom I The benighted island of Angle- Tl Gwyr ein darllenwyr oil fod yr wythnos Sy&taf yn mis Ionawr yn wythnos o weddio gan Grristionogion yn gyffredinol. Yn y cyf- °dydd hyny dygir achosion personau a lle- o¡¡dd neillduol ger bron gyda dymuniad am Gdiau drostynt. Mae yn digwydd yn ami fo4 liawer iawn o anmhriodoldeb ac annoeth- yn yr achosion a ddygir ger bron; ebf°d adnabyddiaeth helaeth, a a .^ymdeimlad cyffredinol rhwng cynnulleidfa P erson nnigol neu le neillduol cyn y byddo bliodol gofyn iddi weddio drosto. Yn y eyfarfodydcl gweddio a gynhaliwyd yr wythnos a* °'r flwyddyn hon yn y Freemason's ^avern, dygwyd amryw o'r fath achosion ger ac yn mtilith eraill daeth cais oddiwrth 141. Un yno am weddiau y cyfarfod dros 'the oe z ^ghted island of Anglesea? Ie, ynys dywyll —ynys baganaidd Mon!—ynys ofergoel- &id 011 a ddywedwch chwi y Wesley- hvn ^'250 o aelodau yn yr ynys, am k ^Uasai raid iddi fod yn dywyll iawn na buasai ond y ehwi o'i mewn. Beth a yblwch chwi y Bedyddwyr, gyd a'ch 2,282 ^miuiwyr, am beth felhyn? Ai nid ydych W^ilUl0 es»yrn Christmas Evans yn af- y du yn ei fedd wrth glywed am dywyllwch ynys y bu cyhyd yn Apostol o'i mewn ? bynwyr, pa Ie yr ydych chwi a'ch 3,500 yj, aeIodau eglwysig ? Ai yn y fagddu y mae ^enyc^' a -^ew^s Rees wedi bod yna Wu na c^wec^ uoa^n mlynedd yn efeng- V.air y bywyd ? Ai yn ofer y dyoddefodd Vyr lai11 -^chard, Clwchdernog, a'i gyd-oes- %]' Synneu y ganwyll yn nhywyllwch thI-e dd yr ynys? Beth a ddywedwch lO q' -Methodistiaid, yn enwedig, gyda o bobl y wlad yn eich cyfundeb ? Ai tl^a, ^agddu yr ydych wedi y cwbl? Ai J yn y diwedd gyflwr y wlad y treuliodd iwr hyawdl, John Elias, ei oes o'i tni i Arnoch chwi yn bennaf y gorphwys ^>a»aneiddiweh yr ynys, os felly y maf chwychwi ydyw yr enwad tydd 01 mewn; a'ch delw chwi yn bennaf t ar y trigolion. ,^s ifon baganaidd yn wir! Nid oes yr fw 0 ddaear Duw wedi ei ddwyn yn da.n awdurdod yr Efengyl nag Ynys 1 atf7 "W^lad amlaf ei chapelau yn ol ei maint D x'r boblogaeth—gwlad lie y ceir mwy d, i wrando yr Efengyl ar unrhyw awr kli Y d, nag a geir yn un wlad arall-gwlad 04 Ysgolion Sabbothol yn lluosog, a'i phobl OS. yn meddu Gair yr Arglwydd ac yn ddarllen—gwlad y mae ynddi 18,932 au eglwysig gyda'r gwahanol enwadau, ^}jei^ Ila hyny drachefn yn perthyn i'w cyn- a°edd fel gwrandawyr neu ddeiliaid q()a söohon Sabbothol, yn gwneud fod yn o 1 10,000 o'r trigolion mewn cyssylltiad ag Ymneillduaeth, allan o bob- 0 54,546; a phe gofynid i'r 14,000 uu Eglwyswyr ai Ymneillduwyr* Y tebygolrwydd yw y byddai mwy ht anuer am gael eu eyfrif yn Ymneilldu- ?§oti 0 er hyn oll? yr oedd rhyw un yn i %e}j) ari^ybodus i ofyn i gyfarfod gweddi y r^avern i weddio dros the benighted ytM ^}l^enea-' Yn sicr y mae peth fel "digoli a pheri i ddyn syrffedu ar gyf- ^f^y f SWeddi o'r fath; ac edrych arnynt 6 1-hodrcs dynion hygoelus, nag fel ( 0^^ ^°nest dynion goleuedig. !ynfa yr arweiniwyd neb i'r fath 1 Qler/a(i dybryd? "Wei, mae yn ddigon feddyliem. Rhyw Sais o Eg- Z3 "aiaithog, mae yn debyg, a ddaeth ar K^le bry8i°g a'r wlad, ac a gyfarfu yn }V ynys a Chymro uniaithog fel °^dd y Cymro yn deall y Sais, ac D ^ae ^p^ai"'s yn deall y Cymro. Credodd y y C aSan tywyn oedd y Cymro; ac nid jji y Sajg5511,0 ^'n U1hell o gredu yr un peth i ^ys v y ^ais y Sabbath canlynol i va I Yr, a chafodd hono wedi syrthio 1 a.q Qr:ledd, a'r trigolion oil wedi troi eu QGNd fll "ad oedd ar ol ond y person a'r a u teuluoedd, ac ychydig o hen boblach oedd yn cyrchu yno fel disgyblion y torthau. Credodd y Sais ei fod wedi syrthio yn mysg Paganiaid—rhedodd adref, a'r cyfle r, cyntaf a gafodd, dygodd y 'bent* hted island of ,q Anglesea' ger bron y cyfarfod gweddi efengyl- aidd. Ond pe cymmerasai y creadur amser i edrych o'i gwmpas, cawsai fod y bobl wedi adeiladu temlau hardd iddynt eu hunain, ac yn eu cadw yn ofalns; a bod y trigolion wrth y miloedd bob Sabbath yn cyrchu iddynt i wrando ar ddynion yn pregethu ag y mae yn werth eistedd i'w gwrando;—ac mai yn y ffordd a eilw efe yn heresi y maent hwy yn addoli Arglwydd Dduw eu tadau. Cafwyd prawf ychwanegol o'r un ysbryd yn yr un cyf- arfod, yn y cais a anfonwyd i mewn am weddiau y cyfarfod d-ros yr Eglwys -Genedl- aethol erlidiedig yn yr Iwerddon.' Os troir y cyfarfodydd hyn yn gyfleusterau i Eglwyswyr penboeth a rhagfarnllyd i ollwng eu gwenwyn ar Ymneillduaeth ac Ymneillduwyr, goreu pa gyntaf y rhoddir pen arnynt.
Y FASNACH FEDDWOL.
Y FASNACH FEDDWOL. Mae y fasnach yn y diodydd meddwol yn dyfod bob dydd yn fwy o faich ar gymdeithas. Nis gellir troi y cwestiwn o'r neilldu yn hir eto. Dywedodd Mr Gladstone yn adeg yr etholiad diweddaf" pa weinyddiaeth bynag a fydd mewn awdurdod yn y Senedd newydd rhaid iddi gymeryd mewn llaw y cwestiwn pwysig o gyfundrefn y trwyddedi y rhai y mae yn rhaid gwneyd rhyw gyfnewidiad ynddynt." Mae cymaint a hynyna yn llawer oddiwrth un nad yw byth yn llefaru heb feddwl gweithredu. Ond y mae anhawsderau mawrion ar y ffordd. Mae dynion a chanddynt elw mawr yn y fas- nach yn llwyddo yn nerth y faril i wthio eu hunain i mewn i'r cyngorau trefol-i fyrddau y eorfforiaethau-ac i Dy y Cyffredin; a pha fwyaf o honynt hwy a fyddo yn y lleoedd hyn anhawddaf oil fydd pasio unrhyw fesur i atal y drwg. Aeth un o brif dafamwyr Liverpool i mewn i'r cyngor trefol yr wythnos diweddaf yn erbyn un o'r dynion mwyaf defnyddiol yn y dref, yn unig drwy nerth y fasnach. Rhaid gwneyd y fasnach yn ysgymunbeth, a difreinio y rhai sydd ynddi o'r hawl i fyned i gylchoedd a swyddau anrhydeddus yn ein cynghorau trefol ac yn ein senedd. Mae y drwg yma yn sicr o fwyta cryfder y deyrnas os na wneir rhywbeth yn fuan i atal y dinystr. Yr ydym yn gweled fod gwledydd a thcyrnasoedd eraill yn dyfod allan yn ei erbyn. Mae gohebydd y Manchester Examiner o St Peters- burg yn rhoddi darbodion y ddeddf y mae Llywodraeth Rwssia wedi cytuno arnynt ar y mater. Yr oedd y drwg yn cynyddu mor gyflym yn y brif ddinas, a thlodi a throseddau yn ei ganlyn fel y gwelsant fod yn rhaid pasio mesurau llym er ei atal. Mae pris yd i wneyd brandy i gael ei godi i dri chymaint. Nid oes un dafarn i gael ei goddef yn y brif heol. Gwneir i bob tafarn a gwestu, dalu £70 y tal arferol ar Motels, ac nid oes un dafarn i gael ei goddef o fewn pedwar ugain llath i swyddfa y Llywodraeth. Daeth y drefn 'newydd i weithrediad y dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd, ac y mae canoedd o dafar- nau wedi eu oau. Mae yn debyg yr effeithia ar gyllid y Llywodraeth a sycha i fyny gyf- oeth lluaws o bersonau; ond nis gellir rhoddi drwg mawr i lawr heb fesurau llym. Bydd raid i'n Llywodraeth ninau wneyd rhyw beth yn fuan, onide gorfodir hwy i wneyd rhyw beth llymach. Gellir deddfu yn gymedrol ond gwneud hyny yn brydlon ond os oedir y canlyniad fydd i fesurau rhesymol a dderbyn- j iasid yn ddiolchgar unwaith gael eu gwrthod gyda dirmyg. Nid oes un ddadl nad all cyfreithiau uniawn a'u gweinyddu yn deg wneyd llawer er atal y drwg. Nid oes neb yn ddigon ffol i dybied y gellir crefyddoli na moesoli gwlad trwy gyfraith; ond gellir cyfnewid y (y Zreithiau syddo angenrheidrwydd yn eu hangrefyddoli ac yn ei hanfoesoli. Dywed y Parch W. Morley Punshon mewn gohebiaeth oi eiddo "fod sobrwydd a chad- wraeth ySabbath yn mhell yn mlaen yn Canada ar Loe. r "inunol a deddf a basiwyd yn 1864, ac sydd eto mewn grym, gall unrhyw gor- t fforiaeth atal gwerthiant diodydd meddwol o fewn ei derfynau; a gall perthynas agosaf, neu warcheidwad, neu feistr unrhyw ddyn, anfon rhybudd i wirod werthwr i'w wahardd i roddi diod i'r cyfryw ddyn dan boen cosp. Pe byddai i unrhyw ddyn farw o oerfel, neu foddi, neu ladd ei hun mewn cyflwr o feddw- dod gellir dwyn eyngaws yn erbyn y gwirod werthwr a roddodd y ddiod feddwol iddo, ac y mae yn agored i gael ei ddirwyo neu ei gospi. Dyma argraffu gwarth ar y fasnach, ac nis gellir lladd ei dylanwad nes y delo y rhai sydd ynddi i gael edrych arnynt gyda dirmyg fel rhai yn ymdecau ar lygredigaeth a thrueni y wlad.
LLYTHYR Y MEUDWY.
LLYTHYR Y MEUDWY. (O'N MEUDWYDY RHWNG BRYNIAU GARTH MADRYN.) Yr ydym newydd ddarllen yn un o'r new- yddiaduron Saesonig, hanes cyfarfod sydd wedi cael ei gynnal yn nhy Newman Hall—sef cyn- nulliad o ychydig o weinidogion Ymneillduol Llundain, a wahoddwyd i gyfarfod a Deon Stanley. Mae Newman Hall yn bur hoff o wneud ei dy yn lie i bobl o wahanol olygiadau eglwysig i gyfarfod a'u gilydd er mwyn—cosi eu gilydd, neu, fel y dywedasai Brutus, i wablo eu gilydd, neu seboni eu gilydd. Sebon- wyd y Deon gan y pregethwyr, a sebonwyd y pregethwyr gan y Deon, a chwedi darfod a seboni, aeth pob un i'w ffordd yn bur sicr yn ei feddwl ei hun. Nid oes dim modd taflu un bont gysylltan dros y gagendor a rana rhwng Cydffurfiaeth ac Anghydffurfiaeth. Anghyd- marus ydynt, ac nid possibl ydyw eu hieuo. Byddai yr un mor hawdd priodi goleuni a thywyllwch, gwirionedd a chelwydd. Ofer ydyw cyhoeddi gostegion. Gall Newman Hall foddio ei uchelgais i ffurfio rhyw fath o gyd- nabyddiaeth a dysgedigion yr Eglwys Sefyd- ledig, a chwareu rhan y patron i'w frodyr yn y Brif-ddinas, trwy eu gwahodd i yfed te a choffi yn ei dy; ond am wneud un gwasanaeth i'r pyngciau mawr sydd mewn dadl rhwng Ymneillduwyr ac Eglwyswyr, byddai yr un peth iddo boeri ar flaen llygoden eglwys. Mae y Deon Stanley, wrth reswm, dros gys- ylltu crefydd a'r wladwriaeth, ac mor llydan ei olygiadau fel y dywed ei fod am i'r Eglwys Sefydledig gynnwys pawb o bob golygiadau, gan ei gwneud yn fath o arch Noah-nid yn yr ystyr o ddiogelwch-ond o ran amrywiaeth ei chynnwysiad—creaduriaid glan ac aflan, yn byw dan yr un to, a phawb yn byw yn gysurus a thangnefeddus ar gost y wlad. Mae yn awr gynnifer o sectau yn yr Eglwys, ac y mae ei gweinidogion yn cymmeryd eu llw eu bod yn credu yr un athrawiaethau, ag sydd yn mhlith y sectariaid proffesedig eu hunain-yr unig wahaniaeth, ac y mae yn un pwysig, sydd rhyngddynt yw, nad yw yr olaf yn proffesu eu bod yn unffurf eu syniadau. O'r tair plaid fawr sydd yn yr Eglwys Sefydledig yn bres- ennol, nid ydym yn credu fod llawer o chwant taflu eu hunain ar y gyfundraeth wirfoddol ar yr un o honynt. Talu pawb o bwrs y wlad wnai Deon Stanley, gan adael i bawl ddysgn pa beth bynnag ddewisent. Troi y defodwyr a gwyr o olygiadau y Deon o'r Eglwys wnai yr evangelical clergy, a theyrnasu eu hunain, gan ddiddymu Anghydffurfiaeth os byth y deuai ar eu dwylaw i wneud hyn. Pabyddu Eglwys Loegr wnai y defodwyr heb wneud eu hunain yn ddarostyngedig i'r Pab o Rufain, a hyny heb fod yn gyfrifol i'r esgobion na'r wladwriaeth, ond ar draul gwaddolion perth- ynol i'r Eglwys Sefydledig. Ond os oes un o'r pleidiau hyn yn barod i fyw ar ei chost'ei hun, plaid y defodwyr ydyw hono. Nid bydoldeb ac anghristedd cysylltiad crefydd a'r wladwriaeth sydd yn blino hwn, ond awdurdod a hawl y wladwriaeth i'w galw i gyfrif am chwareu pranciau teilwng o'r oesoedd tywyll pan y credid yn effeithioldeb gweithrediadau offeir- iaid i gau ac agor drws paradwys, a He arall nad oes dim eisiau ei enwi. Chwant gwaddol- ion yr Eglwys, ac heb fod yn gyfrifol i neb am y defnydd wnant o honynt, sydd ar y defodwyr. Mae yn debygol, yn ol y ddedfryd sydd newydd gael ei chyhoeddi yn erbyn eu harfer- iadau, yr arbedir iddynt y draul o losgi cym- maint o ganwyllau gwer a chwyr. Pe buasai tunell o'r rheiny yn cael eu danfon i ardaloedd mynyddig a diarJfoidd i oleuo ysgoldai i gynal } ysgolion nosawl y gauaf presennol, yn gystal a gauafau cyn hwn, buasai yn gymmwynas ac yn garedigrwydd, a thalasent am eu cynneu ond am losgi pedwar ugain o ganwyllau mewn Eglwys ar ddydd Nadolig, er mwyn arwydd- ddangos haul y Cyfiawnder, nis gallasai, de- bygem ni, ffolineb a gwastraff fyned ryw lawer yn mhellach. Mae rhai o'r defodwyr yn bwr- iadu ymostwng i ddedfryd y llys gwladol, gan roddi heibio losgi canwyllau a rhyw afradwaith o'r fath hyny, a gwneud y diffyg i fyny trwy Z5 bregethu Pabyddiaeth ar y Suliau. Mae yn bryd i ni Ymneillduwyr fabwysiadu y rhyfel- gri a'r blaid-gri Dim Pabyddiaeth—nid yn yr ystyr ag y defnyddir y ddau air hyn gan yr evangelical clergy, ond oddiar sefyllfa hollol wahanol oddi wrth yr eiddynt hwy, a chyda'r amcan o atteb dybenion cwbl wahanol i'r eiddynt hwy. Mae yr amrywiol bleidiau yn yr Eglwys Sefydledig yn sicr o ddwyn oddi amgylch ei dadgyssylltiad a'i diwaddoliad. Mewn -an ystyr, nid oes eisieu i'r Ymneilldu- wyr wneud dim ond gwyiio'r chwareu, ac yn fuan fe fydd y chwareu-y grttne-yn un an- rhaethol bwysig. Nid oes modd yn hwy i daflu o'r neilldu bynciau eglwysig, ac addysgiad y genedl. Yr ydym yn disgwyl yn awyddus ami'r Seneddiymgynnull, fel y gwybyddomyr oil sydd gan ein Seneddwyr, a fedrant siarad, i ddyweyd dros ac yn erbyn yr Eglwys Wydd- elig. Gwareder ni rhag dylanwad offeiriaid, fel y eyfryw, o bob enw, lliw a llun-hyny yw, gwareder ni rhag y grediniaeth y gall un offeiriad fod o fwy help i bechadur i gyrhaedd bywyd tragwyddol na rhyw fugail neu wadd- olwr duwiol fo'n gwybod trefn iechydwriaeth. Ac er mwyn bod yn eithaf diogel oddi wrth y tylwyth peryglus hyn, mae yn rhaid i ni gael cyfundraeth genhedlaethol o addysg fydol, ac yna fe fydd rhyw debygolrwycld y gwaredir yr oes sydd yn codi i fyny rhag syrthio i gaeth- iwed blin offeiriaid ac offeiriadaeth. Anwy- lodaeth, a dynion anwybodus sydd arnom ni eu hofh. Ni fu arnom erioed arswyd dynion call, gwybodus. Fe ellir byw gyda'r rhai hyny; ond am ddyn dwl, anwybodus, gwell fyddai genym dorPr raattar, ys dywed pobl Sir Aberteifi, a tharw drwg neu gi cynddeiriog. 0 mae ceiniogwerth o oleuni yn anrhaethol werthfawr. Wel, ynte, yn oleu gwyn mawr dynoethawl yr elo hi ar frys, a dyweded pawb ond adar y nos a gweithredwyr y nos, Amen.
Y GYNADLEDD YN ACHOS GROEG…
Y GYNADLEDD YN ACHOS GROEG A TWRCI. Mae lie i obeithio na bydd i'r Gynadledd a gyn- naliwyd yn Paris yn achos Twrci a Groeg, i droi allan mor siomedigaethus ag y mynai rhywrai i ni gredu, ychydig ddyddiau yn ol. Yn wir, buasai yn gywilydd mawr genym orfod addef, na allasai cyn- rychiolwyr doethaf galluoedd penaf Ewrop wneud dim er sicrhau heddwch. Buasai yn hen bryd rhoddi terfyn am byth ar draul, a rhwysg, a rhodres llys- genhadaeth. Tmddengys na bu a Avnelai Llywodr- aeth Groeg a'r Gynadledd, er pan fynegodd Rangabe, ei gweinidog, nas gallasai ef eistedd yn y Gynad- ledd o gwbl, ond ar yr un tir a gweinidog Twrci. Pan ystyriom nad allasai y Gynadledd ychwanegu at diriogaethau Twrci, a bod ar ei Haw i waredu Groeg o'i sefyllfa beryglus, gallesid disgwyl i Lyw- odraeth Groeg fod yn ystwyth, ac yn foesgar tuag at y Prif Alluoedd. Modd bynag, pan nacaodd Groeg fyned i'r Gynadledd, aeth y gweinidogion cynulledig at eu gwaith, a gellid gweled ar unwaith, nad oeddynt yn honi unrhyw awdurdod dros y pleidiau a gwerylent a'u gilydd, eithr ymorphwys- ent yn hollol ar ddylanwad gwladyddol a moesol y Galluoedd a gynrychiolid ganddynt. Er na fabwys- iadodd y Gynadledd y cynygion olaf a wnaed gan Twrci i Groeg, y mae yn bur debyg y bydd i'r Gynadledd gyngori Groeg i gydymffurfio a phrif delerau y cynygion hyny. Cyngorir Llywodraeth Groeg, yn gyntaf, i chwalu y gwirfoddolwyr y rhai a gydymfyddinasant mewn gwahanol ranau o'r deyrnas, a rhwystro ffurfiad rhai eraill; yn ail, i ddiarfogi yr agerlongau y rhai a fuant yn ddiwedd- ar yn rhedeg y blockade, neu o leiaf, eu cau allan o borthladdoedd Groeg; ac yn drydydd, rhoddi can- iatad i'r Cretiaid sydd wedi ymfudo, i ddychwelyd i'w cartref, a'u cynorthwyo i wneud hyny. Wrth reswm, nis gallasai y Galluoedd gynghori Groeg i leihau ei byddin a'i llynges heb addaw iddi amddi- ffyn, fel iawn am wneud hyny. Disgwylir y bydd i Groeg dderbyn y cynygion hyn, ac y bydd i Twrci alw yn 01 ei chynygion diweddaf, ac ymrwymo i beidio cyhoeddi rhyfel yn erbyn Groeg. Fel yna y mae y cwestiwn diflas a pheryglus hwn yn sefyll yn bresenol, ac fel yna y gobeithir am ei derfyniad heddychol.
CYFARFOD MAWR Y BALLOT.
CYFARFOD MAWR Y BALLOT. Nos Wener diweddaf, Ionawr 15ed, cyualiwyd cyfarfod mawr yn ffafr pleidleisio drwy'r tugel, yn Neuadd Fawr Arundale Street, Llundain. Yr oedd y cynulliad yn lluosog iawn. Y Gwir Anrhyd. T. Milner Gibson jay gadair, yn cael ei gynorthwyo gan nifer fawr o aelodau Seneddel, yn cynwys yn mysg llawer ereill, Mr Henry Richard, yr aelod dros Ferthyr, a Mr Sartoris, yr aelod dros Sir Gaerfyrdd- in. Darllenwyd llythyrau oddiwrth fwyna deugain o aelodau Seneddol eraill y rhai a gymeradwyent yn hollol ddyben y cyfarfod. Dywedai y Cadeirydd fod y cyfarfod wedi ei alw gan Gymdeithas y Tugel (Ballot Society), a bod yr adeg bresenol yn hynod bwrpasol i alw sylw at y mater, a bod yr etholiad diweddaf wedi enill llawer iawn o bleidwyr i'r tugel yn mysg aelodau Seneddol. Cynygiwyd y pender- fyniad cyntaf gan Mr Charles Reed, A.S., yr hwn oedd i'r perwyl a gaulyn: 'Fod yr etholiad cyffredinol diweddar wedi profi. nad ydyw y cynydd yn rhifedi y pleidleiswyr, mewn Ilawer o Siroedd a Bwrdeisdrefi lie y bu cyd-ym- drech, wedi bod fel ydisgwylid ganlawer, yneffeith- iol i leihau brawychiad ac arferion llygredig, y rhai sydd wedi bod bob amser i raddau mwy neu lai, yn dilyn ein cyfundrefn bresenol o bleidleisio yn agored.' Eiliwyd y cynygiad gan ein cydwladwr Mr Henry Richard, yr hwn a ddywedai nad oedd yr un cwestiwn ar yr hwn yr oedd y rhesymau oil mor unochrog a chwestiwn y tugel. Yr oedd y gwrthddadleuon a ddygid yn eu herbyn yn nodedig o wan, ac yr oedd llawer o'u gwrthwynebwyr yn sefyll yn hunan-gon- demniedig trwy wneyd mewn cyfeiriadau eraill yr hyn a effeithiai y tugel yn y byd politicaidd. Mewn trefn i ochelyd ychydig o anghyfleusdra cymdeith- asol, y rhai nid oeddynt ond fel man lwch y clorian- au i'w cydmaru a'r hyn y mae yn rhaid i'r gweith- wyr a'rllafurwyr fyned clanynt, os cynygiant weith- redu ar eu hargyhoeddiadau eu hunain. Yr oedd y gwrthwynebwyr penderfynol yma i'r tugel, yn ei arfer i ethol aelodau eu clybiau. Nid oedd yn siwr na welid y dydd pan yr etholid esgobion drwy y tugel (chwerthin). Yr oedd clerigwr Gtfyddelig newydd ysgrifenu llyfr pur alluog, yn yr hwn y ey- mhellai fod yr arfer yn esgobaeth New York, o ddews Esgob, i gael ei mabwysiadu, a'r tugel ei ddem. yddio. Yr oedd rhai pobl yn haeru fod y tugel yn ddinystriol i urddas y natur ddynol (chwerthin). Pe gwelai y rhai oedd yn dal syniadau felly y golyg- feydd a welodd ef yn Nghymru yn ystod yr ethol- iad diweddaf, cydnabyddent fod yno y fath arddang- osiad o ddiraddiad adianrhydedd a ddylai eu rhoddi allan am byth o'r coegdyb am y drefn bresenol o bleidleisio yn agored. Yr oedd ef yn dadleu yn gryf dros Gymru am y tugel, oblegid nad oedd yr un ran o'r Deyrnas Gyfunol lie yr oedd cymaint o alw am dano. Yr oedd corph mawr y Cymry yn Anghydffurfwyr, ac o ganlyniad yn Rhyddfrydwyr. Yr oedd y tirfeddianwyr mawrion yn Eglwyswyr, ac yn Doriaid, ac yn dal golygiadau uchel iawn yn y ddau gymeriad. Gyda golwg ar grefydd, yr oedd pobl Cymru, unwaith am byth, wedi ysgwyd ym- aith iau arglwyddi y tiroedd, ar ol dau can mlynedd o erledigaeth. Nid oedd felly mewn gwleidiadaeth, er iddynt yn ystod yr etholiadau diweddaf ddychwel- yd 23 o aelodau Rhyddfrydig allan o 33 a anfonir i Dy y Cyffredin gan y Dywysogaeth. Enillwyd y buddugoliaethau yn nanedd gormes a dioddefiadau mawrion: ac yr oedd ef yn credu pe buasai perffaith ryddid mewn etholiadau na buasai i un Tory na Rhyddfrydwr anmheus gael ei ddychwelyd o Gymru. Gan hyny, yr oedd yn dymuno gweled y tugel wedi ei sefydlu (cymeradwyaeth). Gobeithiai nad oedd hyn ond dechreuad cyffroad buddugoliaethus trwy yr holl wlad. Cariwyd y penderfyniad gydabrwdfrydedd mawr. Cynygiwyd yr ail benderfyniad gan Mr Charles Buxton, A.S., ■l' ,t7farfod bwn yn llongyfarch cyfeillion rhydd-bleidleisiad yn mhob rhan o'r Deyrnas Gyf- UR. ar yr ychwanegiad mawr sydd wedi bod at nifer Gefnogwyr y tugel yn Nhy y Cyffredin, ac yn galw ar y gwahanol siroedd a bwrdeisdrefi i barotoi deisebau i'r Senedd, a chofebau at y Prif Weinidog, yn cymell mabwysiad dioed o'r mesur, fel yr unig foddion i ragflaenu parhad y drygau hyny y mae pob plaid yn awr yn proffesu gofid o'r herwydd.' Eiliwyd ef gan Mr Onslow, A.S., a chefnogwyd ef gan Mr Edmund Beales. Cynygiwyd y trydydd penderfyniad gan Mr Holmes, A.S., sef 'Fod y cyfarfod hwn o'r farn y dylai Cymdeithas y Tugel, ar unwaith gychwyn y trefniadau angen- rheidiol er cynal cynhadledd yn Llundain o holl gyf- feillion y tugel o bob parth o'r Deyrnas ar yr adeg fwyaf cyfleus i'r rbai a ddewiso fod yn bresenol, a mwyaf ffafriol i helaethiad yr achos.' Darllenai Mr Holmes lythyr oddiwrth gyfaill iddo, yn cynyg 500p. tuag at gorphori cymdeithas i ddadleu dros y tugel. Cefnogwyd y penderfyniad gan Mr Arnold. Siaradodd Mr Handel Cosham, a Mr Fowler, A.S., wrth gynyg a chefnogi deiseb a basiwyd gan y cyfarfod i'w hanfon i'r Senedd yn t, cynwys sylwedd y penderfyniadau blaenorol. Yr oedd y cyfarfod yn un bywiol iawn, a phawb yn ymddangos yn yspryd y pwnc.