Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
... YSTAFEIX BYFED1). ,,:;1
YSTAFEIX BYFED1). ,1 (Par had.) Mae llawer afal melus i'w gael yn ymyl pen- trefiy weinidogaeth; afalau sydd yn gwneuthur y bwytawyr yn corpulent a conspicuous, ar gweinidogion mawr yma sydd yn eu cael. Mae yn eithaf gwir fod rhyw sprats dan oed ac o dan y standard height, yn rhyfygu dilyn y mawrion; ac ymdrechfa galed ydyw. ir byehain. Mae Mr yn codi dwrn ac yn maeddu poer yn ddychrynllyd, gan ordero y giwaid bach, i fyned gartref. Mae rhyw Mr arall yn rhoddi spercan mwlsyn i' rhwn y tybia ef na ddylasai eto ymadael a'i pinafore. Mae Mr hwn a hwn arall fyth yn estyn gwefl, yn codi ffroen, yn cibo aeliau, yn ysgwyd pen, ac yn cau llygaid, er mwyn amgrymu i'r chap bach sydd wedi an- turio i'w ymyl, y buasai yn llawn cystal iddo fod gartref yn bwydo ei blant ei hun a'i fara llaeth. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid myned i mewn i'r bywyd cyhoeddus. Ac hynaws ddarllenydd, ond i ti sylwi tipyn, nid ydyw yn anhawdd i ti ganfod- fod cryn lawer, oherwydd y dwrdio, a'r spercio, a'r diys- tyru yma yn tori eu calonau, ac yn troi yn eu holau fel cwn a'u cynffonau o'r golwg; ond y maerhyw ychydig o rai bach a mettle go dda yn- ddynt, yn diystyru y diystyrwch, yn ymsythu dan oruchwyliaeth fyth-boenus a thragywydd- ol-erledigaethus y spercio, ac yn mynu ambell i afal dan gawodau o boer-wlaw mae y mawrion yn ei fwrwpan yn vocifendio. Yr wyf yn credu dy fod ynbarod i waeddi "chwareu teg;" ac yr wyf finau am ddywedyd o eigion fy nghalon Amen. Darlun 2.-Gweli fod llawer iawn o ddynion ar y darlun hwn; ond gweli hefyd fod y dyn bach penfoel sydd yn y canol yn fwy prornsnent na neb arall arno. Y mae y dorf sydd ar y llaw ddehau yn wrywiaid i gyd, ac er eu bod yn am- rywio mewn maintioli ac oedran, eto, eglur ydyw wrth unrhywiaeth toriad a defnydd eu dillad eu bod yn dal perthynas agos a'u gilydd; nid yr un ffurf sydd ar farf pob un, eto mae claerwynder eu g-yddfau yn dangos yn eglur unrhywiaeth. Y mae y dorf sydd ar yr aswy i'r darlun yn arddangos mwy o amrywiaeth; mae menywod a gwrywod yn gymysg; mae defnyddiau a thoriad eu dillad yn dangos yr amrywiaeth mwyaf, ac nis gellir oddiwrth eu hagwedd allanol weled dim tebygrwydd rhwng y naill a'r Hall yn y dorf hon. Mae edrych arnynt yn dwyn i'n cof yr ymadrodd hwnw o eiddo Ezekiel, pob aderyn o bob rhyw asgell." :Mae y ddwy dyrfa yn wynebu eu gilydd; ac y mae'n eithaf amlwg eu bod yn gryn ffrindiau; :9 ond gwaith y dyn bychan penfoel, sarug, a theneu yna sydd yn sefyll rhwng y ddwy dorf ydyw ceiaio eu hysgaru; brws paent ydyw hwna y mae yn ddal yn ei law ddehau, a phaent du sydd yn y llestr bach acw mae yn ddal yn ei law aswy. Yn awr pan y mae y dyrfa ar y chwith yn nesu yn lied agos at rhyw un yn y dyrfa ar y dde, mae y dyn bach, neu y paentiwr bach yn hytrach, yn trawo ei frws yn ei lestr bach, ac yn paentio gwddw gwyn yr un hwnw yn ddu; ond yr wyt yn gweled nad ydyw y dyrfa ar y chwith yn pellhau nemawr oddiwrth yr un y mae'r paentiwr bach wedi bod yri cy- ffwrdd a'i wddf. Bydded hysbysol hyn i ti ddarllenydd ystyr- iol-bu gan y paentiwr bach yma baent gwyn yn Qilestr bach er's llawer dydd; ond nid ydyw yn Hiwio dim ond du er's blynyddau bellach. Fe fu ef unwaith yn siarad gyda'r dyrfa ar y chwith, ond y maent oil braidd erbyn hyn wedi diflasu ar ei siarad, ac yn ei chwerwder oher- wydd diflasdod y dorf, nid oes ganddo ddim i'w wneyd ond newid lliw ei baent. Ei amcan ydyw cael rhywun yn y dorf i alw arno i siarad, druan bach; ond gweli ei fod hyd yma heb gyraedd yr amcan mewn golwg. 'Mae yn amheus genyf,' elai y deonglydd yn mlaen, mae yn amheus genyf a oes angen de- ongliad ar y darlun hwn; yr wyt wedi casglu yn ddiameu erbyn hyn mai y gweinidogion ydyw y dyrfa sydd ar y dde, ac mai'r lay party ydyw y dorf sydd ar yr aswy; gadawaf i ti ddyfeisio pwy ydyw y paentiwr bach gydai lestr bach o baent du, yr hwn sydd yn ymdrechu ysgaru y ddau oddiwrth eu gilydd. Yn wir, ddarllenydd, mae y dyn bach hwn yn sicr o fyned yn ddrewdod ac yn ffieidd-dod yn mhten ychydig amser; mae ei lestr paent yn myned yn dach ac yn llawnachboh mis. Mae llawer yn eu a ydyw yn sane; os gellid profi ei ima^ity ymae yn hen bryd cymeryd y llestr a'r paeat o'i law, yn lie gadael iddo ei blastro fel y dewiso ef ar hyd heolydd pentre'r weinidog- aeth. Fe ellid defnyddio y llestr yna i gario bwyd yn eithaf da pe glanheid tipyn arno, yn lie bod trwy'r flwyddyn yn llawn o baent du.' Yr eiddoch, YSTAFELLYDD. r [" =
Advertising
NOKKfls.—An "Wfeiches and Oocks hadk and by W. J. Parry (from Roskell's) areffuaxan^ eed for SEVEN YEABS. DBP6T for Alarmaocka ATFIS 9d., arftl -Lucky Wedding Kings and Keepers 137* London-road. [60—111 ]
_Y TYST CYMREIG. -r"
Y TYST CYMREIG. r" At y Golygwyr. Foneddigion,-Gwn mai peth annymunol genych yw caniattau i'r TYST i gael ei ganmol yn y TYST. Etto, hwyrach y caniattewch i mi ddwyn tystiolaeth o'r pleser a'r adeiladaeth yr wyf yn gael wrth ei ddarllen wythnos ar ol wythnos; ac yn sicr yr wyf fi yn credu taw y rhifyn diweddaf o hyd yw y goreu. Yr wyf yn derbyn papurau Seisnig yn ddyddiol ac yn wythnosol; ond rhaid i mi gyfaddef fod y TYST, yn ol ei faint a'i bris yn eu euro o ddigon. Mae ei erthyglau arweiniol yn fy nefEro ac yn fy symbylu— mae llytliyrau y Meudwy yn peri i mi wylo a chwerthin yn ol y tannau y byddo ef yn chwareu arnynt-mae y newyddion Cymreig yn gyfEredinol a dyddorol-y gohebiaethau yn rhagorol—a'r cwbl yn ymgasglu o gylch cwestiynau yr wythnos. Os ceidw teilyngdod unrhyw beth yn fyw, fe geidw y TYST. Ac os gwerth sy'n dyogelu cylchdaeniad, fe ga y TYST cyn hir, os nad yw yn. ei gael yn awr, ugain mil o dderbynwyr. Blwyddyn newydd dda i'r papur, y golygwyr, y cysodwyr, y dosbarthwyr, a'r darllenwyr. G-WEINIDOG SEISNIG.
LLYTHYRAU CYMRAES 0 GANAAN.
LLYTHYRAU CYMRAES 0 GANAAN. At Olygwyr y TYST CYMEEIG. Fortedcligion,-Gan fod Miss M. Jones, awdures y llythyrau doniol o Ganaan, wedi dyfod i'r wlad yma dan amgylchiadau mor hynod, yn awr yw yr adeg i gael y llythyrau allan yn llyfryn o fewn cyrhaedd pawb. Byddai yn galondid mawr iddi hi, yn ei gwendid presenol, ddeall eu bod yn gwerthu wrth y miloedd. Anfoner am dano ar unwaith yn ol y cyf- arwyddyd yn yr hysbysiad. "pe buasai rhyw Saes- ones mor alluog a Miss Jones, ac wedi cael ei man- teisiou hi i sylwi ar hen wlad y Beilel, prynasai ryw gyhoeddwr yn Llundain ei hysgrifau, a gwnaethai lyfr gwerth coron o honynt. Rhyw gyfieithiadau sydd gyda ni ar hanes Canaan hyd yn hyn; ond dyma gyfleu yn awr i gael llythyrau a darluniad gwreiddiol yn yr iaith Gymraeg. Hysbyser y pris yn ddioedi. Yr eiddoch, Foneddigion, Machen- •• T. L. JONES. -J f.t, <) rr'
Y TAIR EGLWYS A'R £ 3 3s.…
Y TAIR EGLWYS A'R £ 3 3s. Oc. At Olygwyr y TYST CYMREIG. Olygyddiori Hynaws,-Gwn y caniatewch i mi gongl fechan o'r TYST CYMEEIG er traethu ac egluro ychydig o barthed y penawd uchod. Mae hyn, yn sicr yn ddarllenadwy. Mae yr heading bob gair yn denu sylw; a bydd y darllenydd yn awyddus am eglurhad cyn hanner darllen hyn o linellau am y Tair EglWys a'r Tri Gini. Pa Eglwysi ? Tri gini at Babaeth ydynt ? A pha ham y tair Eglwys hyn mwy na rhyw dair eglwys arall ? Wel, ynte, awn atyi- esponio heddyw, wedi bod wrth yr hen bre- gethu anwyl am y bywyd ddoe. Yr ydym yn gosod yn y penawd y tair eglwys hyn, am eu bod dan ofal yr un gweinidog, acyn cydweithredu mor unol ar 3p. 3s., am ei fodyn gyf- raniad helaeth, ac at un o'r dibenion teilyngaf. Yr eglwysi ydynt dair o eglwysi y Bedyddwyr, ar gydiad Swyddi Trefaldwyn a Maesyfed, fel y mae dwy o'r eglwysi hyn yn yr olaf, a'r llall yn y blaen- af, a'r tair dan ofal y brawd anwyl a hoff y Parch. D. Davies, cydweinidog a'r hen dad ansvylaidd y Parch. J. Pugh, yr hwn sydd bellaoh yn dra anallu- og at unrhyw ran o waith y weinidogaeth. Mae y tair eglwys at en gilydd ychydig islaw dau cant o ran rhif eu haelodau. Mae yr eglwysi hyn er's blynyddau yn arfer bod yn gynnorthwyol iawn i Drysorfa y Gweddwon; ond eleni, maent wedi tori tir newydd, trwy wneuthur y gini yn mhob un o'r eglwysi, sef Nantgwyn, Bwlchsarnau, a Beulah, fel y byddai gan bob un o'r eglwysi bleidlais yn achos- ion y gymdeithas, yn gystal ae estyn cynnorthwy iddi yn ei hamcan clodfawr i gynnorthwyo gwedd- won ac amddifaid brodyr a ymadawsant a'r byd wedi bod o fawr ddefnydd ynddo. Ddarllenydd, dyna fi wedi myned dros hyny o egluro ac esponio ag sydd eisieu ar fater fel hwn yna. Ond yn awr at yr annog; ac O! am wneuthur hyny hyd yn oed trwy y wasg yn y fath fodd ag y teimla llawer calon, nes y byddo iddynt beri i ereill deimlo a gweithredu yn egniol o blaid cymdeithas ag sydd o flwyddyn i flwyddyn yn danfon tua saith can punt er cynnorthwyo. gweddwon ao amddifaid gweinidogion fu o ddefnydd mawr yn Nghymru. Dyma esiampl o gydweithrediad a haelionusrwydd tair eglwys fechan, pell dan ddau cant o aelodau rhwng y tait, yn danfon tri gini, sef un o bob eglwys, at Drysorfa'r Gweddwon. ) Pa sawl eglwys o'r tri chyfenwad sydd yn Nghym- ru yn rhifo dros ddau, tri, pedwar, pump, ïe, hyd yn oed saith cant o aelodau, ar nad yw yn gwneuthur un gini at y gymdeithas, tra mae y tair eglwys hyn, o'r ddau cant, yn gwneuthur tri gini. Mae amryw eglwysi ereill yn y parthau hyny yn gwneuthur yn rhagorol. Bontnewydd, eleni, a'r ddau weinidog yn aelodau, trwy gyfranu dau gini. Porthydwfr, Aberhonddu, a'i dau gini yn flynyddol. Maesyberllan, hefyd, a'r Rock Presteigne, a'r Dref- newydd yn rhagorol. Ond y mae y tair eglwys a'r tri gini' ar y cwbl wedi dangos y ffordd, trwy gym- meryd y blaen ar holl Gymru. Ond yn yr wythnosau dyfodol, daw ugeiniau a channaedd allan yn egniol, ac Edith' fach odid yn eu plith. Bydd galwad pwysig arnom eleni o Gym- ru-dim llai na chant o weddwon yn gofyn am gyn- morth. Tri chase, yn y rhai ynghyd y mae ugain o blant heb dad-deg o blant mewn un teulu wedi colli tad ag iddo air da gan bawb, a chan y Gwirionedd ei hun,' pedwar yn y teulu arall, a chwech yny llall. Pwy na theimla. Pwy na wna ei oreu er ymgeleddu y rhai hyn. Pa weinidog, pa ddiacon all ddarllen hyn, a'i daflu heibio a.'i anghofio. A phwy eglwys all omedd gwneuthur at y fath gymdeithas gasgliad glew a buan. Cofier etto y tair eglwys a'r tri gini.' Goddefer etto ychydig eiriau. Cyn y gallom gyf- arfod a'r galwadau sydd arnom o Gymru eleni, bydd yn rhaid cael o'rfund tua 900p. mewn grants ac er ■mcrhan hyny, yr ydym yn awyddus am ddanfon Op 1 Lundain, a hyny ni fydd yn faich o gwbl i'r tn chyfenwad. Da genym ddeall fod ugeiniau o'r "hynol wedi casglu, ac ereill yn parotoi eglwysi y tri chyfenwad gofio a y '^ir eglwys a'r tri gini,' fe fydd y ^wenydd a chysur o'r diwedd i'r weddw aramddifad. Byddai yn dda genym hefyd weled cyfeilhon da a pherthynasau gweddwon yn derbyn grants blynyddol ya efelychu ymddygiad ^r eiddo Mrs Jones, gweddw y diweddar Bafch. S. Jones, Presbytenad, Clydach a Llansamlet, y rhai a gyfranant l»unt yn flynyddol at y gymdeithas. Hefyd, gwneled yr eglwysi ag y mae gweddwon eu cyn-weinidogion yn derbyn grants gymmeryd y mater dan eu hystyriaeth, a chredwn ybyddynhyf- rydwch ganddynt y ddyledswydd o gynnorthwyo, yn gystal a'r llawenydd fod y cyfryw weddwon yn cael cynnorWiwy yn flynyddol. Yn awr, frodyr hoff o'r tri chyfenwad, at y gwaith yr wythnosau nesaf. Gwneled pob eglwys fechan a mawr gasgliad buan a chalonog, a clanfoner y cwbl o Gymru a Mynwy i mi. L ( Wyf, heb flino ar y Ilafur, Dros y weddw a'r amddifad, LEWIS EVANS, Iii; Red House, Nadolig, 1868. Newport, Mon.
;ABERI)AR. ; :ff!
ABERI)AR. ff! EBYCHIADAtr THOMAS PUGH A'I GWMNI. -■ At Olygwyr y TYST CYMEEIG. Foneddigion,-Y mae Thomas Pugh yn parhau yn ei berffeithrwydd i dywallt ei ddygasedd ar aelodau y Bwrdd Iechyd. Yn ol ei addefiad ei hun yn y Merthyr Telegraph am Rhagfyr 26ain, dywed ei fod, oddiar Tachwedd 3ydd, 1866, wedi gwneud pob peth yn ei allu er cael diwygiad; ond druan o hono, nid oes dim yn tycio. Oes, y mae ugeiniau o lythyrau o bob rhyw a math wedi ymddangos, gan gynnwys y cyhuddiadau mwyaf beiddgar, a'r ensyniadau mwyaf bustlaidd ar aelodau y bwrdd; ac etto, mae y trethdalwyr mor dawel a digyffro a baban ar fynwes ei fam, gan am- lygu yr ymddiriedaeth lwyraf yn noethineb a di- dwylledd y bwrdd! Y mae fod y trethdalwyr yn cyfrif my letters in the press fel gwegi, a'u cy- huddiadau fel clindarddach drain dan grochan, yn oruchwyliaeth chwerw, ac anhawdd i farwolddyn hunandybus o fath Thomas Pugh gymmodi a hi. Ond y mae yn cydymddwyn a hyn oil, a hyny mewn natur dda, gan edrych yn mlaen at daledigaeth y gwobrwy, sef cael eisteddle ar y bwrdd. Coming events cast shadows before them.' Nid oes neb hyd yn hyn wedi ymostwng i wneud y sylw lleiaf ar ei ysgrifau-caiff Thomas Pugh ddyweyd y peth a fyno. Y mae hynsynddo ei hun yn myhed yn mhell i brofi fod y trethdalwyr yn barnu fod yna sillgoll tua chymmydogaeth y pen. Y mae distawrwydd y Bwrdd Iechyd fel saeth yn trywanu ei fynwes. Beth, Mr Pugh, yn nghyd a'i ysgrifau, yn caeljedrych ar- nynt yn salach nag islaw sylw .?' Nid ydyw yr oil a nodwyd yn ddim, absolutely nothing, mewn cymmhariaeth i wrfchod derbyniad iddo i ystafell y bwrdd The most daring of all,' ebe fe, 'was that of the 23rd April last, when I was refused admittance into the Board-room.' Mae- y pechod yma o eiddo y bwrdd fel y mor, yn llyngcu pob peth ynddo ei hun. I Mewn gair, dyma y pechod anfaddeuadwy. Beth allasai fod neges Mr Pugh nid wyfyn gwybod, oddi- gerth ei fod yn awyddus i wneud yn hysbys i'r ael- odau pa fodd yr oeddynt i wario yr ychydig gein- iogau ag oedd ef wedi gyfranu at y pare. Y mae Mr Pugh yn gosod eilawyndromar goryn Mr Rhys, Plas newydd, cadeirydd y Bwrdd Iechyd, am geisio dyfalu ei neges at y bwrdd. At Mr R. 'H. Rhys y bydd Thomas Pugh yn cyfeirio ffroen ei pop gun. Pe gallai gael gwaredigaeth ar Mr Rhys, tybia y buasai rhyw obaith iddo ef gael el weled. Diwrnod tywyll i Aberdar fydd y diwrnod hwnw pan fydd Mr Rhys yn gadael y llyw. Yr ydym yn fwy dyledus i Mr Rhys am iselder trethi plwyf Aber- dar nag i neb arall. Y mae wedi ein gwasanaethu am yn agos i ugain mlynedd, gan wylied dros ein cysur a'n ffyniant. Ac nid dyn eyffredin ydyw Mr Rhys, yn neillduol mewn parish matters. Cyssegra gyfran helaeth o'i amser i wasanaethu y plwyf; ac yn ad-daliad am ei lafur anghymmarol, beir a di- fenwir ef gan eiddilod dibrofiad o fath Thomas Pugh a'i gwmni. Ffei o honoch! Cuddiwch eich gwyn- ebau mewn cywilydd a gwarth, chwi ebychwyr an- niolchgar. Y mae Thomas Pugh yn gwneud mynydd mawr o'r llwythi cerig a gludwyd o'r pate i'r Gadlys trip. Yn hytrach na'u beio am hyn, y mae y ceffylau, ac hyd yn oed yr asynod ag sydd yn cludo llwythi dros y trip uchod, yn barod i roddi teyrnged o ddioleh- garweh iddynt. Gwyr pawb ag aydd wedi talu ond ychydig sylw i'r mater fod y cerig calch yn ym- glymu, nes ydynt yn y man fel palmant, ac felly yn beryglus i geffylau ac asynod pan yn cludo llwythi trymion dros drip fel eiddo y Gadlys. Y Cyfiawn a fydd drugarog wrth ei anifail.' Darbod ar gyfer yr anifail yn benaf yr oedd y bwrdd wrth gludo eerig y'patc;,ynhytrachna gosod lime stone ar y Gadlys trip. Working men. I class myself with you, and am proud to be so.' Y fath ddarostyngiad 4 Work- ing men,' y mae Thomas Pugh yn barod i wneud ei hun yn bob peth i bawb o honoch ond cael seat ar y Bwrdd Iechyd. Da genyf gael ar ddeall nad ydyw Mr Pugh wedi llwyr anghofio y graig y naddwyd ef o honi. Yr wyf wedi gweled llawer yn fy oes o bersonau uchel- geisiol o fath Mr Thomas Pugh—eu prif orchwyl ydyw beio a drwgliwio pobl ereill-y mae bai yn y faIt hon, diffyg pwysig yn y fan draw, a gwastraff cywilyddus yn y fan acw. Y cwbl sydd eisieu er caely byd i'wle yw rhoddi trwydded i'r Solomon- iaid hyn eistedd yn y prif gadeiriau, ac yna bydd yr haul, y lloer, a'r mor yn ysgogi wrth eu hamnaid! Nid wyf yn ammheu didwylledd dgmuniadau Thomas Pugh, ond yr wyf yn ammheus iawn o barthed ei f a ro^a<* i wneud dim trosom fel trethdalwyr. Hwyrach mai y wers anhawddaf ei dysgu o bob gwers yw i Adnebydd dy hun.' Gan fod Mr Pugh yn cyfeirio mor ami at Mr Wm. Davies, Gadlys, caniataed i mi ei adgofio o'r hyn a gymmerodd le ar y bwrdd yn fuan wedi etholiad Mr Davies, os cywir yr adroddiad a ymddangosodd yn em papurau lleol. Rhoddodd Mr Davies rybudd i ostwng cyflogau swyddogion y bwrdd, yn nghyda dwyn oddi amgylch ddiwygiadau ereill. Yn y cyfamser, ceisiodd y bwrdd gan Mr Hollier, y clarc, i ysgrifenu i wahanol drefydd yn Nghymru a Lloegr, er cael allan nifer y swyddogion, eu cyf- logau, poblogaeth, rateable value, yn nghyda phethau ereill cyssylltiedig a'r Bwrdd Iechyd. Wedi i Mr William Davies ddarllen ei benderfyn- iad, a thraethu ychydig arno, darllenodd Mr Hollier dros ugain o adroddiadau a dderbyniodd mewn ateb- iad i'w gais, oddi wrth wahanol Fyrddau Iechyd yn Lloegr a Chymru. O'r holl fyrddau hyn, nid oedd yr un o honynt yn cadw can lleied o swyddogion, nac yn talu can lleied i'w swyddogion a Bwrdd Iechyd Aberdar. Ond y mae yn gyfleus i Mr Thomas Pugh ollwng y ffaith bwysig hon dros gof pan yn tywallt ei ddy- gasedd a'i enllib ar aelodau y bwrdd. Gan fod y cyhuddwr yma yn siarad cymmaint am wastraff y Bwrdd Iechyd-gwastraff nad oes ei gy- ffelyb yn y byd crwn, yn ol ei honiadau ef-onid ydyw yn naturiol disgwyl fod y trethi yn uchel, ao yn uchel iawn yn mhlwyf Aberdar P Gallwn feddwl fod y casgliad yn deg. Ond beth ydyw y ffaith ? Disgwylir fod Mr Pugh yn gyfarwydd iawn yn ngweithrediadau byrddau cymmydogaethol, gan ei fod yn honi nad oes yr un bwrdd yn y byd yn gwas- traffu cymmaint a Bwrdd Iechyd Aberdar. Beth ddywedaf am Abertawe, Merthyr, Caerdydd, Cas- newyddP Os inetha a chael lie i orphwys yma, cymmered ei daith i Loegr-aed o dref i dref, a ga- dawed i ni gael result ei visit. Dyma sydd arnom ni eisieu, yn hytrach na gwran- daw y naill wythnos ar ol y llall ar i An Oracle within an empty cask,' yn baldorddi-Gwastraff! Gwastraff!! Gwastraff! Os gwir a ddywedir gan Pugh fod ein Bwrdd Iechyd yn gwastraffu arian y trethdalwyr, pa fodd y cyd- saif hyny a'r ffaith fod y dreth yn llai yn Aberdar na nemawr fan, nid ynunigyn Nghymru, ond hefyd yn y Deyrnas Gyfunol! Dyma ffaith ag yr ydym yn herio Thomas Pugh a'i gwmni i'w gwadu, os meiddiant. Nid wyf yn gobeithio yn y radd leiaf i argyhoeddi Thomas Pugh a'i gwmni eu bod yn gwneud cam ag aelodau y Bwrdd Iechyd. Ofnwyf fod hyny yn orchwyl ano- beithiol. Llywodraethir hwy gan amcanion cwbl deilwng o honynt eu hunain. Fy amcan yn benaf ydyw symmud ymaith ddrwgdybiaeth a ddichon gael lie yn meddyliau yr anwybodus a'r dibrofiad gan haeriadau beiddgar, ond disail, y tylwyth yma yn erbyn aelodau y Bwrdd Iechyd. Yr eiddoch, Skinner Street. TOMOS Y GWAS.
Y DR. PRICE AR YR ETHOLIAD…
Y DR. PRICE AR YR ETHOLIAD DIWEDDAF. At Olygwyr y TYST CYMEEIG. Foneddigion,—Y mae y Dr. Price wedi bod wrth y gorchwyl o draethu ei fam ar yr etholiad diwedd- ar. Hwyrach fod amryw ganoedd o'ch darllenwyr heb fod yn gwybod am fodolaeth Seren fach Caer- fyrddin. Gelwir hi yn Seren Cymru, a golygir hi gan y Dr. Price, Aberdar. Gellir ffurfio rhyw ddir- nadaeth am y Uewyrch a rydd oddiwrth y ffaith mai y Dr. Price sydd yn ei goleuo! Am hyny os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch.' Nid fy amcan ydyw beirniadu cynwysiad Seren Gymru, ond adolygu ychydig ar adolygiad y Dr. ar yr ymdrechfa fawr sydd newydd derfynu. Dywed, 'Mae yr etholiad yn Merthyr ac Aberdar wedi rhoddi buddugoliaeth fawrecldog i Mr Henry Rich- ard.' Digon gwir, mae y penbwl mwyaf yn y fwr- deisdref yn dywedyd yr unpeth. Gresyn na buasai y Dr. mawr yn rhagwele(I hyn cyn i'r etholiad fyned trosodd. Cafwyd 'buddugoliaeth fawreddog' ar waethaf y Dr. Price. Ni fu yr un person yn y fwr- deisdref yn gweithio yn fwy egniol yn erbyn dy- chweliad Mr Henry Richard na'r Dr. Price,—er cywilydd iddo yr ydwyf yn dywedyd hyn. I, Yr ydym yn mawr lawenhau yn nychweliad Mr Fothergill-mae y peth ag ydym wedi bod yn edrych am dano er ys mwy nag un-ar-bymtheg o flynydd- au.' Tua blwyddyn yn flaenorol i'r adeg uchod, nid oedd gelyn ffyrnicach a mwy dialgar gan Mr Fothergill ar y ddaear na'r Dr. Price. Do, gwar- iodd arian lawer o'i logell ei hun i gosbi Mr. Fother- gill am gadw truck shops. Rhywbeth tua mis yn flaenorol i'r etholiad y gwelodd Mr Fothergill yn addas i gau i fynu y siopau hyn. Nid oes neb yn gwybod fod cyfnewidiad er gwell wedi cymeryd lie yn Mr Fothergill o'r adeg yr oedd y Dr. yn ei erbyn yn llys yr ynad heddweh, hyd ei ddychweliad i'r Senedd. Yr oedd y siopau'a'u safnau rhwth mor agored ag erioed yn llyncu pobpeth iddynt eu hun- ain. Pa reswm ellir roddi dros fod y Dr. wedi cyf- newid mor fawr yn ei farn am Mr Fothergill-ac yntau yn parhau yn ei gamwedd ? Nid wyf yn gwybod ond am un rheswm, a dyma fe,—tuag 'un- ar-bymtheg ofiynyddau; yn ol, derbyniodd y Dr. Price lythyr oddiwrth Mr Fothergill yn cynwys, cheque am haner cant punt at ei gapel. Os medr y Dr. fathu rhyw reswm arall heblaw yr uchod, gwnaed hyny A'r dwthwn hwnw yr aeth Pilat a Herod yn gyfeillion, canys yr oeddynt 9'r blaen mewn gelyniaeth a'u gilydd.' i awr • Dywed y Dr. ei fod wedi gweithio yn: ddystaw a didrwst o blaid Mr Fothergill. Gweithio dystaw' ydoedd y llythyrau hyny a ysgrifenodd y Dr. Price at Mr Bruce, i geisio ganddo uno a Mr Fothergill i 'scriwio' gweithwyr Dowlais, Plymouth, ac Aber- nant, er mwyn gwasgu Mr Richard i gilio o'r maes. Dealler fod y llythyrau hyny wedi eu marcio private,' felly nis gall Mr Bruce eu cyhoeddiheb ganiatad y Dr. Price. A rydd y Dr.*hyny o gan- iatad i Mr Bruce, ac a fydd iddo yntau hefyd gy- hoeddi llythyrau y Gwir Anrhyd. H. A. Bruce mewn atebiad, modd y gallo Cymru weled pa un ai yr Ymneillduwr proffesedig neu yr Eglwyswr a ym- ddygodd yn fwyaf teilwng o Ymneillduwr. Mae y cais yn eithaf teg a rhesymol, gan fod y Dr. yn trin cymaint ar Mr Bruce am ddiystyrit ei gynghor iddo -ac i hyn y mae yn priodoli ei afiwyddiant. Os rhydd y Dr. ganiatad, yr wyf yn. siorhau mai darllenwyr y TYST gaiff yr, anrhydedd o'u gweled gyntaf yn argraffedig. Nid wyf yn dewis crybwyll ychwaneg am y llythyrau hyn yn brestool. 'Am Mr Bruce mae o'r dechreu wedi camsynied ei sefyllfa, ac nid oedd foddlon i gymeryd ei argy- hoeddi.' Ni fu neb erioed yn fwy camsyniol na'r Dr. Price, mewn perthynas i'r etholiad. Nid ydym eto wedi llwyr anghofio yr hyn a ddywedai yn nghapel Siloa, Am Mr Bruce,' ebe y Dr. y mae mor sicr o gael ei ethol a'i fod yn bresenol yn aelod Seneddol, a byddai yn drueni aflonyddu ei sedd-yr aelod goreu o ddigon a fedd Cymru. Ac am Mr Fothergill, bydd ef mor sicr a hyny o fod yr ail aelod, ac yna pa ddiben siarad am Mr Henry Richard —gan hyny peidiweh a gwneyd ffyliad o honoch eich hunain fel Ymneillduwyr drwy ddangos eich gwendid.' Dyna ran o araeth y Dr. Yn hytrach na dangos ein gwendid, cafodd ein gelynion, a'n cyfaill proffesedig y Dr. Price flaen brawf o'n nerth, —pedair mil a chwarter 0 bleidleisiau a gafodd Mr Richard yn fwy na Mr Fothergill—eilun y Dr. Price! Na ddo yn wir, ni chyflawnodd dyn erioed flunders mwy enbyd na'r Dr. O'r cychwyn hyd ddiwrnod yr etholiad parhaodd y Parch. Tomas Price yngymaintanghredadyn a'r un Tomas erioed. Ac o'r diwmod hwnw hyd heddyw y mae yn rhwbio ei lygaid fel pe newydd ddeffroi ofreuddwyd,—Beth, a oedd yn ddichonadwy i Ymneillduwyr Aberdar a Merthyr gyflawni y fath wrhydri,—ddwyn oddiam- gylch y fath 'fuddugoliaeth fawreddog' tra yr oedd- wn I, ie y Fi, yn oynllunio i'w herbyn ? Dig-on gwir Mr Price. Cawsom flaenoriaid ag oeddym yn rhoddi ymddiried yn eu didwylledd q.'u gonestrwydd. A phe gallai y Dr. Price ond canfod ei hun a llygaid pobl eraill nis gall y byddai ar delerau mor dda ag ef ei hun. Mae yn achos o ofid i mi am rai ereill sydd, fel Mr Bruce, allan,' ebe y Dr. Gellid disgwyl rhyw gymaint o onestrwydd, gwirionedd, a chydwybod gan olygydd papyryn hyd yn nod o rywogaeth Seren Cym.ru. Maey, Dr. yn ffugio cydymdelmlad a Mr Bruce, wedi bod fisoedd lawer yn enyn digofaint y werin yn ei erbyn drwy lunio anwireddau diorch- udd yn erbyn Mr Bruce. Yr oedd y Dr. yn dal ar bob cyfleusdra i hau yn mhlith y glowyr fod Mr Bruce yn bleidiol i'r double shift system. Nid oedd yr un dyn byw yn gwybod yn well na'r Dr. Price, nad oedd cysgod gwirionedd i'r cyhuddiad hwn. Dyma wir achos aflwyddiant Mr Bruce. Wedi i'r Iuddewon ladd y proffwydi, nid oedd dim mwyach i'w wneyd ond gwyngalchu ru beddau. Mae y 'parch tywysogaidd' a ddangoswyd i Mr Fothergill yn dwyn llawer o ddelw tystebau y Dr. Price. Yr oedd llawer iawn o'r 'goleuo' yn amodol -sef fod y canwyllau yn dyfod o rywle iddynt. Dywed y Dr. na fu yn gweithio gyda 'chydwybod fwy argyhoeddedig na'r tro hwn.' Bydd llawer- oedd fel fy hunan yn teimlo yn falch fod y Dr. Price wedi dyfod o hyd i'w gyawybod. Nid wyf am ddyweyd dim ychwaneg am gydwybod y Dr. Price- ei eiddo ef ydyw, ond bydd genyf rywbeth i'w ddy- weyd yr wythnos nesaf, am rai pethau ag y mae y Dr. wedi bod yn ysgrifenu wedi dyfod o hyd i'w gydwybod. Hyd hyny yn wych y bo Yr eiddooh CYDWYBOB EEPSO.
LLYTHYRAU CYMRAES. YN NGHANM#-0*
LLYTHYRAU CYMRAES. YN NGHANM#-0* XXI. SJM BEYEOUT, Hydref 22ain, Anwyl Rieni,—Gwelwch fy mod wedi symWM J hen Jerusalem anwyl. Gadewais hi ar y 24a^°f j* mis diweddaf; cariwyd fi mewn gwely ar hydjf ffordd. Yr oedd y boen yn fawr mewn ambell ar y llwybrau.culion lie nas gallent beidio fy ysg^y^ Pan gyrhaeddaia yma, croesawodd Mrs. yn y modd mwyaf caredig—pe buaswn yn nis gallai ddangos mwy 0 serch a chroesaw. fonodd am ddau o'r doctoriaid goreu yn y dref) rhai pan ddaethant ac edrych a theimlo P6^ nglun, a ysgwydasant eu penau gan ddyweyd fofr?'0 doctor yn Jerusalem wedi gwneud cam mawr a nid o bwrpas wrth gwrs, ond trwy anwyboda^|, ac nas byddaf yn alluog i godi o'm gwely am 0 haner blwyddyn yn rhagor, ac am i mi bei^J*) thori fy nghalon hyd yn nod pe bawn am heb godi, oherwydd gallai hyny fod, ond gob^i$^, os gwel yr Arglwydd yn dda fy ngalluogi i i°Wv cyn hyny; ond ei ewyllys Ef a wneler. Yr yd^J? fi yn gallu eistedd i fynu i wnio am rai orian dydd. Mae y doctor yn dweyd fod yn rhaid gael y bwyd goreu sydd yn bosibl ei gael, a.ll: 0 win. Felly gwelwch y byddai 3m rhaid i tlawd weithio am ddau ddiwrnod i fy nghadw un. Yr wyf yn meddwl fod yn drugaredd fawr fy nghoelbren wedi disgyn yn y man lie mae, ac?1 wyf fi yn teimlo yn fy lie yma> am fy mod yn cTe\t fod Duw yn ei garedigrwydd wedi fy anfon yni% « fod y doctoriaid yn dyweyd fod yn well i mi i'r Ysbytty yn Lloegr, am fod y doctoriaid yn" fwy galluog ebent hwy. Bum i yn crefu yn arnynt newid fy nghoes am un gork gan nad eto ond ieuanc, ac os (feallai hyny fod) caf i driugain mlynedd yn hwy a cbario yr hen goes i'm canlyn ar hyd yr amssr, ni welaf fi fawr o oba$r iddi hi fy ngha'rio i fel y dylai—gweli o lawer yn marn i fyddai ei thori ymaith, gan nad yvfO ^-J defnydd i mi, ond ni wnant ei thori, am y byddai beryglus am fy mywyd i wneyd hyny yn y boeth hon. Os eu gonestrwydd sydd ynperi iddy?| ymddwyn tuag ataf yn y modd hyn, y mae yn S < iddynt; ond gobeithio y gwellha rywdro. 1 Yn awr, dywedaf i chwi ychydig o hanes y ty a i breswylwyr. Y mae agos i bob un o'r fawr a chapel y Methodistiaid Ponieypa faint ystafelloedd sydd yma nis gwn, y mae y plant YSW- wedi addaw fy nghario i weled y Ilofftydd un di nod. Y maent yn fy nghario o amgylch yr ardd fo i bijr ami mewn gwely rhywbeth yn debyg i railings o'i chwmpas a dwy handl yn mhob pen> hwn y cariwyd fi yma o Jerusalem. Yr wyf A meddwl fod y bobl hyn ,yn bur garedig wrthyf» yn cymeryd llawer iawn o drafferth gyda nii, byd^e- 1 Dduw eu bendithio a'u gwobrwyo hwy. Y Mrs. Thompson yn ferch i General Lloyd, buontT? « byw yn Ngwrecsam am flynyddoedd; yr oedd& nain yn Gymraes bur, ond nis gwyr Mrs. yr un gair o Gymraeg. Y mae wedi gwneyd i 10 1 ysgrifenu llythyr maith ateichwaer, (dynes ig bur gyfoethog) i ddweyd iddi holl hanes pep V ji lg bur gyfoethog) i ddweyd iddi holl hanes pep V ji nghlun. Wn i ddim beth feddylith hi o'r HytHF' M nid wyf yn hoffiysgrifanuatbobl fawr. r Diolchwch i fy ewythr, Joseph Griffiths, am grifenu ataf, a chofiwch fi yn garedig ato. /J Fy anwyl Dad, byddai yn bur dda genyf pe chwi yn ysgrifenu llin neu ddwy ambell dror?^ (. oedd yn ddrwg genyf fod cymaint o'r teulu, afiach, gobeithio eich bod oil yn gwella. Cychwynais o Jerusalem ar Sadwrn y boreu, i heb un gwall ynddi. Merch yw i j. Germany, Baronet yw ei' ;ffl*ad,- ond: SnidWmWf'* falchder ynddi na phe bai hi wedi el goni a'i nia mewn bwthyn ar y mynydd. Y mae hi yn wir fa^f'.r< Ei holl ofal ar y ffordd yma oedd am danaf fit J1? gadawai fi o'i golwg am funud rhag ofn y byd arnaf eisiau rhywbeth, a phan y byddwn mewn P,<f1 a il rhoddai phisig i mi; pe buaswn i yn farwnes hithau yn forwyn nis gallai fod yn fwy gwasanae^J gar i mi. Y mae hi yn ddoctores first rate, wneyd pob peth—o roddi addysg i dywysoges i hyd i ddysgu cook i wneyd bwyd a glanhau y geï, ac nid yn unig y gall hi wneyd y pethau hyn, ond (j' mae yn eu gwneyd. Y mae pob un yn y ty hwn t dan ei llywodraeth—y hi ydyw y nesaf yn y deyrt$j i Mrs.. Thompson. Ei henw yw Miss Sack, yn ben ar ei holl accomplishments eraill, y dirwioldeb. Dyma y peth harddaf ar foned Rhyngom ni a phlant yr ysgol bydd yma dros g I, o gynulleidfa, a phan na bydd yr un gweinidogytJ y ty, y mae yn darllen, gweddio, a phregethu ei ac yn ardderchog y gwna hyny hefyd. Drwy y gwneir pob peth yma. Pe gwelai Miss anwyl y ganmoliaeth hon, edrychai yn swil 0f1 yn sarug. Ydwyf, anwyl rieni, Eich anwyl ferch, J M.
[No title]
O.Y. Dechreuais ddyweyd ein bod wedi cychv^ 0 Jerusalem ar ddydd Gwener gyda' Miss Sackt ? hon a welodd ddyn claf ar y ffordd, aeth i lawr 0 cerbyd i roddi lie i'r dyn druan, yr hwn oedd bur ddiolchgar am y fath garedigrwydd. Yr °e%L. ja r Plant i ddyfod i'n cyfarfod i ddydd Mawrth, erbyn pa amser y byddwn gorphwys digon i'm galluogi i gychwyn i A phan ddaethant a gwaeddi fod bwndel wedi (}IJ'f' o Loegr, mi synais yn fawr, ac agorais ef ar Neidiau y plant o lawenydd pan welsant bwySl .ei fottymau gwynion a chochion.a cough lozenyerh phob math o pherins, a dechreuasant eu b^T, gyda r hyfrydwch mwyaf. Daethant gyda phetTi^ eraill oddiwrth fy nghefnder, Daniel Phillips. diolch yn fawr i chwithau oil am y pethau da, defnyddiol a airfonasoch i mi; daethant i law meistr bum munud cyn iddo gychwyn o J E)rua1ejt1. JF. J* J.
Advertising
A STRCCESSPDX EXPBRDmNT.- The Civil 8 Gazette has the following: There. are vory if simple articles of food which can boast so valuable and important dietary properties a8 co00?! While acting on the nerves as a gentle stimulant provides the body with some of the purest » 01 nutrition, and at the same time correots invigorates the action of the digestive organs. beneficial effects depend in a great measure up manner of its preparation, but of late years close attention has been given to the growth treatment of cocoa, that there is no difficulty? securing it with every useful quality fully The singular success which Mr Epps attained his homoeopathic preparation of cocoa has been surpassed by any experimentalist. wide the reputation of Epps's Cocoa has sprefl^P? !^he_ simple force of its own extraordinary 111 3 Medical men of all shades of opinion have agreed.j recommending it as the safest and most benefiGjv* article of diet for persons of weak consti This superiority of a particular mode of prePara^A over all others is a remarkable proof of tfie results to be obiained from little causes. thorough knowledge of the natural laws govmi the operations of digestion and nutrition> by a careful application of the fine properties^ well-selected cocoa, Mr Epps has breakfast tables with a delicately flavoured bever»^j which may save us many heavy doctors' bills* by the iudicious use of such articles ol diet constitution may be gradually built up until enough to resist every tendency to disease. dreds of subtle malacues are floating around us to attack wherever there is a weak point. escape many a fatal shaft by keeping ourselv68.. fortified with pure blood and a properly frame," 199-