Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

-.I . YMWELIAD AG AMERICA.

DALEN 0 DDYDDLYFR GWYN VATJOHAIf.»

News
Cite
Share

DALEN 0 DDYDDLYFR GWYN VATJOHAIf. » DYDD MAWRTH.Angenrhaid amaf i ysgrif- enu nodyn at greadur alwai ei hun yn Neutral yn yr Etholiad diweddaf. Teimlo^ dipyn yn gythryblus o barthed i'r ffordd briodol i'w gyf- eirio. Penderfynu nad oedd wiw yn y byd dodi Mr. o flaen ei enw. Mrs. Vaughan yn fy nhyngedu yn enw ei rhyw a'i holl urddas na ddodwn Miss jna IMrs. o fewn llatheni iddo. Barnu mai goreu rhoddi John Jones (canys dyna y modd yjgeilw ei hun) yn foel ar lawr heb garn na chynffon, a'r preswylfod a'r plwy, &c., oddi tanodd. Wrthdroi a threfnuhen ba- purau a fuasai yn fy llogell tuag adeg yr Eth- oliad, daethum o hyd i'r llythyr canlynol, oddi wrth fasnachydd eyfrifol yn air Gaernarfou Glandwr, Tach. 30, 1868. Barch. ac Anwyl Syr,-Rhaid i mi eich com- plimentio am y fuddugoliaeth lwyr enillasoch yn- eich sir ar y Toriaid, ond yr wyf yn sicr na thybiwch fi yn ymffrostgar am ddyweyd mai yn amgylchoedd yr Wyddfa yr ymladdwyd Water- loo Etholiad 1868. Enillasom fuddugoliaeth ogoneddus yn erbyn fearful odds. Sir Gaer- narfon am byth Bravo, bechgyn y llechi yn Nantlle a Dinorwic! Dyma wroniaid yn ngwir ystyr y gair: byddai Garibaldi yn falch i gael ysgwyd llaw a nhw. Mae y Tories fel ellyllon wedi colli. Bu un o oruchwylwyr Chwarel Llanberis yn arllwys ei spleen ar ei weithwyr drwy rwystro y ceir gwyllt o gymmydogaeth Llanrug a Bethel i fyned gartref nes ydoedd wedi chwech o'r gloch yr amser hwn o'r flwydd- yn!! Dywedai dan grinio wrth yr ugeiniau gweithwyr oedd yn eu chwys yn disgwyl ffordd agored dros enyd, Os chwi oedd yn ben yn Caernarvon ddoe, V sydd yn ben yma heno.' Cerddodd ugeiniau gartref, os nid pawb, gan adael y cerbydau moelion dan ofal ei fawrhydi, yr hyn oedd brawf arall iddo o deimlad anni- bynol y chwarelwyr. Clywais fod clamp o gynffonwr yn un o'r melinau cerryg gerllaw mor groendeneu fel y gyrodd amryw hogiau bychain o'i wasanaeth, heb foment o rybudd, am ddim byd ond gwae- ddi Jones Parry for ever.' Duw drugarhao wrth ryw liliputiaid neu wybed o ddynion o fath yr uchod, &c., &c. DYDD Meecheb.—Gwneuthur fy meddwl i fynu, i roddi o hyn allan Congregational Clergy- man ar ol fy enw, ynlle Congregational Minis- ter, ac yn bwriadu anog fy mrodyr drwy y Dywysogaeth, a thrwy Loegr a'r byd yn gyff- redinol He mae Eglwys Sefydledig, i wneuthur yr un modd. Nid am yr ystyriwyf fod mwy o respectability yn perthyn i'r titl clergy na minis- ters, ond oherwydd fod offeiriaid yr Eglwys Sefydledig yn galw eu hunain yn clergy, ac yn ein gwahardd ni i'w ddefnyddio, ie, yn ein galw ni yn ministers fel pe byddem yn israddol idd- ynt, a bod rhywbeth yn yr enw hwnw yn dy- nodi hyny. Hyderu yn fawr y dwg Mr Davies o Lanfyllin y peth i sylw Cymdeithas y Dad- gyssylltiad rhag blaen, ac y gwna y gallu ar- uthrol hwnw chwyldroad drwy y wlad o ben bwy gilydd am fynu diddymu pob peth ag sydd yn rhoddi lliw o flaenoriaeth ac uchaflaeth yn ngolwg y bobl i offeiriaid yr Eglwys Sefydled- ig. Rhaid i ni gael hawl i briodi fel hwythau heb bresenoldeb y Registrar of Marriages, a chael yr un hawl i gladdu yn mynwent Eglwys y plwyf. Bydd y cam hwn yn fath o barotoi y ffordd i gyrhaedd cydraddoldeb crefyddol drwy ddadgyssylltu a dadwaddoli yr Eglwys oddi- wrth y Llywodraeth, ac hyd nes y dygir hyny oddiamgylch bydd yn help mawr i offeiriaid gadw eu balchder o fewn terfynau priodol yn nghyda rhoddi dyledus barch i weinidogion Ymneillduol. Gyru at Ingram & Co. i ymofyn casgenaid o Portland Cement tuag at ddodi Eglwys Gynnull- eidfaol ar dalcen yr addoldy yn He Capel Cyn nulleidfaol fel sydd yn bresenol. Rhoddi hysbysleni gymmaint a drws ysgubor allan fod ein cynnulliadau Sabbathol oddigerth yr ysgol i gyfarfod hanner awr yn gynt nag y byddent arferol, oherwydd mai wrth gloch yr eglwys wladol y cychwyna y bobl i'r oedfa yn bresenol. Mae yu bryd goelia i idtlynt dalu gwarogaeth i awrlais y capel, a hyny raid wneuthur yn y dyfodol neu wadu pob perthyn- as a'r capel a'i goncern. DYDD Iau.—Gwrando Mr. Symons yn tra- ddodi pregeth heno am y tro cyntaf erioed. Eisteddwn yn y gadair fawr o dan y pwlpud pan ddechreuodd. Cael start ofnadwy wrth glywed Mr. E. o LI—n—r yn siarad yn y pwl- pud, a minnau fel pawb eraill yn disgwyl am leferydd Mr. Symons. Nesu yn mlaen at y bwrdd, a llygad rythu drach fy nghefn tuag i fynu er mwyn bod yn sicr pwy oedd yn ein hannerch. Wele ben Mr. Symons yn dod i'r golwg, a gwyneb Mr. Symons yn chwareu, a gwefusau Mr. Symons yn symmud, ond parabl a swn y Parchedig o LI—n—r sydd yn dyfod allan o'r machine. Eistedd dipyn yn synfyfyr- -ioH^ae aflonydd dros enyd. Yn ddisymmwth dyma :I\k. T. o B-n-r yn arllwys geiriau Julian. Ysbio i fynu we^ hanner gwylltiogan ddis- gwyl gweled ei ben gWyn patriarchaidd, ond Symons yn unig sydd yn weledig i'r gynnull- eidfa, ac i gocli ein syndod i gywair uwch fyth gallwn wneuthur fy llw fod Mr. T. o L—r—1 yn cael ei lusgo yno i orgfcen ajnbell frawddeg. Mae y creadur yn pregetliu yn reit,dda, ie, yn dda iawn hefyd, ond pa ryfedd ys deydodd y pen diacon pan y mae tri o gedyrn yr fareithfa yn ei helpio, os nid yn gwneuthur y owbl dros- to. Y pwnc mawr oedd yn puslio fy meddwl i 'ac eraill, beth bedd o ei hun yn wneuthur hefo nhw, heblaw eu dwyn i'r stage yn eu ti:o i chwaxeu y rhanau penn@^edig iddynit.. Nid wyf yn sicr i mi glywed ei lais naturiol unwaith. Gwir eifod yn rhoddi aiiibell lef ddieithr-llef na pherthynai i un o'r parchedigiori a nodwyd, ond meddwl yr oeddym mai perthyn i rywrai nad adwaenem yr oeddynt, yn mhlith yr enw- adau eraill, &c. Darllenais am Critic mewn oedfa-yu Lloegr unvaith yn gwrando gwr a gyfrifid yn lied ddysgedig a galluog. Yr oedd erbyn y tro hwnw wedi casglu gemau o ddrych- feddyliau gwahanol awduron enwog yn nghyd i'r bregeth, yr hon feddyliwn oedd fel rhaffed o leads gwerthfawr; eithr ni chai ef y credit o fod yn berchen hyd yn nod ar y llinyn main a'u daliai wrth eu gilydd, os gwir y stori. Gyda bod y frawddeg gyntaf yn diferu dros wefusau y pregethwr, gwaeddai y Critic dros bob man, Dyna Chalmers.' Am ddrychfeddwl cryf arall a'i dilynai, 'Dyna Calfin.' Taflai y pregethwr gwlff o dduwinyddiaeth eilwaith oddiwrtho; Dyna Dr. Owen,' ebe y Critic fel o'r blaen. Gyrwch y dyn yna allan,' ebe y pregethwr. Dyna fo ei hun yn awr,' ebe y Critic. Teiml- en ninnau yn ddiolchgar wrth wrando Mr. Symons am fodd i ddyweyd gyda sicrwydd yn rhywle yn ystod yr awr y bu yn Uefaru Dyna fo ei hun yn awr.' 0 mor ridiculous a phechad- urus mewn pregethwr ywtraddodi geiriau Duw i gynnulleidfa o anfarwolion yn lleferydd pobl eraill! Gan Richard Baxter yr oedd y motto iawn- I'd preach as though I ne'er should preach again, And as a dying man to dying men.' GWYN VAUGHAN.

CAERDTDD.

FELINHELI.'r

CWMTAWE.

BRYNLLYWELYN, GER GWERNOG,LE.

.,'BRYNMAWR.

SIR GAERFYRDDIN.

MANION'O FYNWY.. " J