Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

-.I . YMWELIAD AG AMERICA.

News
Cite
Share

I YMWELIAD AG AMERICA. ]Beth I -Amei-ioa Yë, dd^BenytMlioff, nal ftawyched dy galon. Mae y testuxx, mor fawr fel nad yw yn debyg y dyhysbyddir ef eleni; ac er mor gyffredin ydyw, y mae ynddo swyn i galonau miloedd yn ein gwlad. I&Sae Cymru ac America yn cael eu cylymu yn nghyd gan y llinynau tyneraf; ac y mae y neb a wnelo ryw- beth er asio teimladau J Cytaty o boM;u i'r Werydd yn wir gymwynaswr ei genedl. Os gallaf, trwy y llythyrau hyn, wneud rhywbeth yn y cyfeiriad hwnw, bydd fy amcan wedi ei gyrhaedd. Mm yn y-d#wy *?A d(lynion- tra- haus, cynhenti&,n:htt br^& yn "v^stadol%r':wneud drwg. Gwelais rai felly yn America, ac yr wyf yn adnabod rhai o'r un ysbryd yn y wlad yma. i y ddwywlad-ad- nabod eu gilydd ynwell er Uadd y rhagfarnau cuBon sydd eto i raddau yn bodoli o'r ddau tu. Mae olrain neillduolion gwlad, ac elfenau cymmeriad ei phobl, yn orchwyl sydd yn gofyn cymhysderau arbenig yn y neb a ymgymero ag ef. Mae cydnabyddiaeth eang, sylw craff, barn uniawn, ac ysbryd diragfarn, yn angenrheidiol mewn trefn i'w wneud yn briodol. Nid ydwyf yn honi llawer o'r tri chymhwysder cyntaf ond am yr olaf, yr wyf yn sicr na chroesodd neb erioed dros donau y Werydd yn fwy diragfarn at America a'r Americaniaid. Aethum yno gyda meddwl rhydd ac agored i dderbyn argraff oddi wrth y pethau a welwn ac a glywn. Mae yn wir na bu fy arosiad yn y wlad ond byr iawn, yr rhy fyr o lawer i'w ddeaU yn llawn; ond y mae rhyw fanteision hyd yn nod gan ymwelydd -brysiog a gwlad i roddi adroddiad o boni, nad oes gan drigianydd arosol ynddi. Mae pethau bychain dibwys, o berwydd en newydd-deb, yn tynu sylw yr ymwelydd dyeithriol, nad yw y bobl sydd wedi hir gynnefino a hwynt yn cael eu taro ganddynt; a thrwy y pethau lleiaf yn gyffredin y deallir cymeriad gwlad a chenedl, yn gystal a phersonau unigol. Nid wyf yn amcanu rhoddi hanes America a'i sefydliadau; cymerai hyny gyfrol fawr i'w gynwys; a gof- ynai gydnabyddiaeth llawer helaethach a'r wlad na dim y gallaf fi honi meddiant o hono. Yr oil a gynnygiaf wneud ydyw rhoddi adr- oddiad syml a dirodres o'r prif leoedd y bum ynddynt, y pethau hynotafa welais ac a glywais ar fy nhaith, a'r argraff a dderbyniais i'm meddwl oddiwrth y cwbl am America a'r Am- ericaniaid. Ac amcanaf wneud hyny yn y fath fodd na bydd neb yma yn drwgdybio fy mod wedi fy llwgrwobrwyo gan bobl America am eu canmol hwy yma; ac ar yr un pryd, heb ysgrifenu dim am danynt yn eu cefnau na ddy- wedaswn wrthynt yn eu hwynebau. Rhywbeth go swta fu fy mhenderfyniad i fyned i America. Prin ddigon o amser a gefais i wneud y parotoadau angenrheidiol i'r daith, rhwng adeg y penderfyniad a diwrnod YR YMADAWIAD A UTEEPOOL. Cychwynais o'r afon Mersey brydnawn dydd Mercher, Mai Slain, 1865, ar fwrdd yr agerlong odidog y City of London; yn nghwmni fy nghyfeillion hoff Mr C. R. Jones, Llanfyllin, a Mr J. Griffith, Liundain, neu, fel yr adna- byddir ef oreu gan bawb, Y Gohebydd.' Y riae y gohebwyr yn Reng) a dosparth pwysig ryfeddol ydynt, gwyliwch rhagddynt, y neb a fynont a laddant, a'r neb a fynont a gadwant yn fyw.' OndMr Griffith yw YGohebydd'- yr arcA-ohebydd. Rhaid i'r man ohebyddion oil swatio yn ei bresennoldeb. Efe sydd yn gosod anrhydedd ar yr urdd ohebyddol. Digon tebyg y bydd raid i mi dalu damage am y sylw byr yma. Wel, 'does dim help am dani, bydded felly. Beth bynag, C. R. Jones a'r Gohebydd oedd fy nghymdeithion; ac yn wir, pe cawswn fy newis o'm holl gyfeillion, buasai yn anhawdd i mi gael dau gyfaill mwy siriol, a bywiog, a chalonog i daith mor fawr. Diwrnod rhyfedd i mi oedd y diwrnod hwnw. Er fod ynof ddy- muniad cryf er's mwy nag ugain mlynedd am fyned i America; etto, yr oedd s-iarcid am fyned yn mlaen llaw, a myned pan ddaeth yr adeg, yn ddau beth pur wahanol. Rhyw deimlad rhy- fedd iawn a'm meddiannodd pan ddaeth myned Or America yn ffiaith. Daeth nifer o'n cyfeill- ion caredig in hebrwng i lan yr afon; ac yr oedd yn hawdd deall yn mhryder ambell i wyneb, a'r dagrau a welid yn diangc yn llad- radaidd o'u Ilygaid, fod yno galonau yn curo yn gyflymach na chyffredin, mewn pryder, mi wn, rhag na "welent ein hwynebau ni mwyach. Ac yn wir, yr oeddwn innau erbyn hyn yn teimlo tipyn o bryder, er fy mod yn ceisio ymddangos mor wrol byth ag y medrwn. A byddaf yn barnu bob amser fod llawer iawn mwy o wrol- deb ar wyneb y byd nag sydd yn ei galon-fod llawer o ddynion yn edrych yn wrol iawn oddi allan, ond yn teimlo yn ofnus iawn oddi mewn. Beth bynag, ac addef y gwir yn onest, felly y teimlwn i y prydnhawn hwnw. Daeth rhai o'n cyfeillion gyda ni yn y tender, ac i fwrdd y Hong; ac wedi cael cipdrem ar ein hystafelloedd, y maent yn brysio i fyned ymaith, a ninnau yn kwylio i'n mordaith. Mae eu cyfarchiadau yn ain clustiau; ac wedi i ni fyned yn rhy bell i glywed eu llais, yrydym yn eu gweled yn am- neidio a. llaw, yn chwyfio eu napcynau, yn troi eu hetiau o gylch eu penau, ac o'r diwedd yn ymgolli o'r golwg. Mae Liverpool a'i hadeil- adau-y porthladd a'i longau i gyd o'n hoi; ond yr ydym yn myned yn mlaen yn gysurus- yr awyr yn glir-y mor yn dawel—yr awel yn fleg-a ninnau yn cadw ein golwg ar siroedd Fflint a Dinbych trwy y prydnhawn wrth basio —a sir Gaernarfon a'i mynyddau ban ysgythrog yn codi eu hysgwyddau y naill uwchlaw y Hall, agahvg dywysogaidd arnynt-a Mon mam Gymru' a golwg oreurog ami fel y mae yr haul ar ei yrfa yn prysuro tua'r Gorllewin. A rhwng naw a. deg o'r gloch nos Fercher, a'r haul wedi maehltdo, a'r 'rrõ'èr yP;Airiantf y lli,' dyma yr olwg olaf i ni ar dir Cymru, ar Sir Fon, yr Ynys Lawd, y Southstach, yn ymgolli draw ynypell- afoedd; ac wrth gael yr olwg ddiweddaf ar dir Cymru, teimlwn yn barod i ddyweydyn ngeir- iau y bardd, 'Nos ddB" fy ngwla(l,' gan obeith- io gweled adeg y cawswn edrych ar ei gwyneb, a.dywedyd, Boreu d,a, fy ngwlad.' Ac erbyn hyn. yr oedd yn bryd myned i'r gwely. A dyna wely 1 Gwely; yn w Rhyw shilff i roddi dyn i orwedd ami. Yr oddd yno bedair shilff felly mewn ystafell fechan, ychydig fwy na dwy lath 'sgwar. Yr oedd fy ng^ely i ar y shilff isaf ar y llaw chwith wrth fyned i'r ystafell; Mr C. R. Jones ar y shilff trwch fy mben i. Ar yr ochr arall, yr oedd rhyw Gadben Prydeinig yn gorwedd ar y shilff isaf-—^un orr dynion mwyaf trahaus ac uchelfrydig oedd yn mysg yr hoU &ntaa-a.r fwrdd ei ben yntau y gorweddai Americaniad gelynol iawn i'r hen wlad. Druan o hwnw, bu yn glaf yr holl ffordd; ni chododd o'i wely o'r diwrnod y gadawsom Liverpool hyd y boreu yr oeddym yn ngolwg New York. Efe, ac un arall a wel- ais, yn mysg ein cwmni, yn waedwyllt am ryfel a Lloegr. Yr oedd y Gohebydd ar y shilff am y pared a ni; ac yr oeddym yn deall yn bur ddigamsynied wrth ei besychiad bob boreu ei fod yn gallu anadlu. Yr oeddwn yn edrych ar fyngwely yn yr ystafell gyfyng hono ynlle dif- rifol i feddwl gorwedd. am ddeg neu ddeuddeg o nosweithiau; ond cysgais yn gwbl gysurus am y noson gyntaf i mi yn fy mywyd i fod ar y mor. Ac erbyn codi boreu dranoeth, yr oedd- ym yn ngolwg tir yr Iwerddon; a chyn deg o'r gloch, yr oeddym wedi cyrhaedd porthladd Queenstown. Buom yno am oriau lawer yn disgwyl y mail. Daeth cryn nifer yn ychwan- egol i mewn yno, steerage passengers gan mwyaf. Trodd yn ddiwrnod gwlawog iawn, a gorchudd- iwyd yr awyr gan niwl tew, fel yr oedd yn agos i chwech o'r gloch prydnhawn dydd Iau cyn i ni hwylio in ffordd: a thua yr un awr ag y collasom yr olwg ar dir Cymru nos Fercher, collasom yr olwg ar dir yr Iwerddon nos Iau. Bellach, nid oes ond y mor mawr llydan o'n blaen; ac erbyn hyn, dechreuais deimlo clefyd y mor yn ei nerth, fy ymysgaroedd a gyffroi- sant,' 'pan glywais, fy mol a ddychrynodd.' Hwyliais i'r gwely cyn gynted ag y gallwn. Yn ffodus, yr oedd y Cadben trahaus oedd yn ein hystafell wedi ein gadael; ac yr oedd cael un yn llai mewn lie mor gul yn iechyd mawr. Dydd.Gwener, yr oeddwn yn sal iawn, a'r un fath ddydd Sadwrn. Nis gallaswn fwynhau y cwmni na chyfranogi o'r arlwyadau a ddygid i'r bwrdd. Yr oedd yno lawer math o honom, a rhai cymmeriadau pur hynod. Yr oeddym ni ein tri wedi sicrhau ein lleoedd wrth y bwrdd, ochr yn ochr, mewn man cyfleus iawn i weled a chlywed pob peth oedd yn myned yn mlaen. Yr oedd Dr. Massie o Lundain yn mysg einc yr oedd ef, fel ninnau, yn cyfeirio tua Boston i'r gynhadledd. Bu i ni yn gydymaith dyddan yr holl amser. Yr oedd ef yn holliach yr holl amser, ac yn dadleu yn frwd a rhyw rai bob dydd ar gwestiwn rhyfel America. Gogleddwr trwyadl ydoedd, ac yn deall y cwestiwnyndda. Trechai hwy bob un. Eisteddai dau foneddwr gerllaw i mi, Americaniaid o genedl, wedi bod drosodd yn Ewrop, ac yn dychwelyd gyda'u teuluoedd. Yr oeddynt, yn ol pob tebygol- rwydd, wedi bod yn gaethfeistri; ac er eu bod yn gynnil iawn i ddyweyd beth oeddynt, yr oedd eu cydymdeimlad a'r De yn dyfod allan er eu gwaethaf. Dynion hynaws, boneddigaidd iawn, ond fod dylanwad caethwasiaeth wedi pylu eu syniadau moesol ar y cwestiwn. Yr oeddJno wr ieuangc deallgar a!gwybodus iawn yn dychwelyd, wedi bod yn teithio Ewrop. Caethfeistr oedd ei dad; ond ofnodd fod tynged y fasnach yn ymyl, a gwerthodd ei blanhigfa, a daeth i New York i fyw. Yr oedd y gwr ieu- angc yn selog dros y Gogledd, a thros yr undeb, ond nid oedd ynddo ddim cydymdeimlad a'r Negro. Unodd a'r fyddin; ac yr oedd yn un o'r rhai fu yn rhedeg am eu bywyd yn mrwydr Bull's Run. Gofynai y Gohebydd iddo, 'Did you run ?' Run, yes, as fast as I could.' But was there any real danger?' ail ofynai. Oh! I don't know, I had no time to inquire-; I saw others running, and I ran.' Ciliodd y llangc i Ewrop, ac yma y bu yn teithio nes yr aeth y rhyfel drosodd. Yr oedd yno un hen gyfaill, nad oedd neb yn gwybod dim pwy na pheth ydoedd. Cadwai yn wastad ar ei ben ei hun. Nid wyf yn coflo i mi ei weled yn ymddiddan a neb unwaith. 'Ceisiai pawb ddyfalu beth a allai fod. Bwytawr digydwybod ydoedd. Byddai wrth y bwrdd bum waith bob dydd, ac yn bwyta mwy nag unrhyw ddau yn y lie bob tro. Yr oedd yn dda i'r cwmni fod yno rai fel finnau yn rhy sal i fwyta odid ddim, onide, pa le cawsid digon i ni i gyd ? Yr oedd yno ddau ddyn ieu- angc llawen a siriol, a fuont yn iach yr holl am- aer, ac yn bur garedig i mi. Yr oedd un o hon- ynt o Lancashire, yn myned drosodd i weled y wlad; a'r llall o Scotland, yn dal cyssylltiad a firm yn New York. Galwai y Gohebydd y cyntaf yn Lanci, a'r llall yn Caledonian. Gal- wyd hwy felly ar y dechreu am na wyddem eu henwau; ac y mae rhywbeth yn fwy gweddus mewn gofyn i ddyn o ba, le y mae yn dyfod, na gofyn iddo ei enw. Yr oedd yn y steerage gryn nifer.o Gymry, ond yr oeddwn yn rhy sal i gael fawr o gyfeillach a neb o honynt. Treuliais yr oIl o ddydd Gwener a dydd Sadwrn yn y gwely, neu yn gorwedd aryr esmwythfaingc yn y saloon. (Tv) barhatt.) s

DALEN 0 DDYDDLYFR GWYN VATJOHAIf.»

CAERDTDD.

FELINHELI.'r

CWMTAWE.

BRYNLLYWELYN, GER GWERNOG,LE.

.,'BRYNMAWR.

SIR GAERFYRDDIN.

MANION'O FYNWY.. " J