Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

LLYTHYR Y MEUDWY.

News
Cite
Share

LLYTHYR Y MEUDWY. (O'N MEUDWYDY RHWNG BRYNIAU GARTH MADRYN.) A oes gan ddarllenwyr y TYST ryw frith gof i ni geisio yn gyhoeddus gan ein cyfaill, y Parch. John Davis o Gaerdydd, i wahodd ei gydweinidogion Anghydffurfiol yn y dref i gynnal cyfarfod gweddi ar adeg dyfodiad gynnal cyfarfod gweddi ar adeg dyfodiad y Marquis of Bute i'w oed ? Yr oedd gwir angen mewn difrif am hyny. Ymddangosai i ni ar y pryd fod ysgwyddau un ar hugain oed ar y gwanaf i gynnal pwysau y cyfrifoldeb o iawn wario tri ehan mil o lJttmau yn flyn- eddol. Pwy nad yw yn gwybod am nerth arian: a neb yn well na'r Pabyddion ac eglwys y rhai y mae yr Ardalydd ifangc newydd ymuno. Dyma ysglyfaeth gwerth son am dani, ac nid llawenydd bychan sydd yn ngwer- syll cyfeillion eglwys Bufain oherwydd troed- igaeth pendefig ifanc a gor-oludog. Nid oes un ddadl nad yw Pabyddiaeth yn cynnyddu yn ffest yn Lloegr. Wel ynte, gwell peidio dadgyssylltu a diwaddoli yr eglwys Brotestan- aidd yn yr Iwerddon. Nage, mewn un modd. Mae yn ddigon tebygol nad oes gan y Pabydd- ion un gwrthwynebiad i'r cyfryw gyfnewidiad gymmeryd lie yn y chwaer ynys, ond gwyddom na chwenychent i hyny gymmeryd lle yn Lloegr; oblegid Eglwys Sefydledig y wlad hono ydyw prif fagwrle Pabyddiaeth. Pe byddai Mr Morley, yr hwn yw un o'n gwyr cyfoeth- ocaf ni fel Ymneillduwyr, yn troi yn Babydd, dyna lie byddai trin a thrafod Anghydffurf- iaeth. Yn Eglwys Loegr y cafodd y Traeth- odwyr eu dwyn i fyny ac o'r amser y daeth y traethodau allan yn Rhydychain, cynnyddu mae Pabyddiaeth o hyd yn yr Eglwys Sefydl- edig. Gwrthglawdd yn erbyn Pabyddiaeth ydyw ya Eglwys Sefydledig, medd ei phleid- wyr, yn enwedig y brodyr gweiniaid culfedd- wl hyny a adwaenir wrth yr enw evangelical clergy. Sut y beiddia pobl haeru'r fath beth. Y maent yn gwybod, neu fe ddylent wybod yn well. Pa beth yw y rheswm naclJ ydyw gweinidogion a lleygwyr Anghydffurfiol yn troi yn Babyddion ? Os ydyw Eglwys Loegr yn magu Pabyddiaeth, ac yn fradwrus werthu Protestaniaeth—ac nid oes dim yn hawddach i'w brofi na hyn-y mae yn llawn bryd iddi wneud gwaith o'r fath hyn ar ei chost ei hun, ac nid ar gost y wlad. Mae yn llawn bryd i 'r degwm mae Ymneillduwyr o leiaf yn orfod dalu i fyned at ryw ddybenion mwy gwasan- aethgar na'u dwyn yn gaeth i lywodraeth y Pab. Mae yn rhaid i Eglwys Loegr fwrw allan o'i chymmundeb y brodyr gau sydd o'i mewn, onide fe fydd yn rhaid ei dadgyssylltu a'i diwaddoli hithau yn gynt nac y meddyliai y rhai na chredant ynddi fel un sefydledig. Nid oes dim achos i Anghydffurfiaeth, er cymmaint a ddywedir yn ei herbyn, gywilydd- io a gostwng ei phen yn Lloegr; oblegid os ymffrostia y genhedlaeth bresennol o Saison yn eu rhyddid, y maent yn benaf yn ddyledus i'r Puritaniaid am dani. Gwawdio a dirmygu ei waredwyr mae y byd drwg hwn wedi arfer wneud, ac a barha i wneud, ac mae yn ofynol i gymmwynaswyr penaf dynoliaeth ddisgwyl am daledigaeth y gwobrwy' y tu draw i'r lien. Ac yr ydym yn sicr fod y tasg o wrthwynebu Pabyddiaeth i ddisgyn ar ys- gwyddau Ymneillduwyr o bob enw. Ychydig wythnosau yn ol, dywedodd Mr Gladstone nad oedd dim eisieu dadgyssylltu Eglwys Loegr a'r Hywodraeth, oblegid ei bod yn parhau i atteb holl ddybenion un sefydledig: .q a dywed prif awdurdodau y Pabyddion yn y wlad hon fod eu gwaith hwy o broselytio Pro- testaniaid yn cael ei gario yn mlaen yn Ilawer mwy llwyddiannus yn Eglwys Loegr, a chan ei gweinidogion hi ei hun, na phe buasai yn cael ei gynnyg ganddynt hwy o'r tu allan iddi. Gelynion gwaethaf Eglwys Loegr ydyw tylwyth ei thy ei hun. Mae presennoldeb un bradychwr mewn amddiffynfa yn fil mwy per- yglus na phe gwersyllai llu i'w herbyn. I Bro- dyr-gau' sy'n gwneud y drwg. Gwaded Colenso ysprydoliaeth y Beibl-dysged Pusey fod y bara a'r gwin yn yr ordinhad o Swper yr Arglwydd yn cael eu troi yn wir gorph Crist -ac nid ofnwn ddim niwed ond i'r dysgedig- ion hyn heresia ar eu cost eu hunain. Yn hytrach na goddef i Brotestaniaid, mewn enw ac er mwyn bara, fradychu Protestaniaeth a dwyn Pabyddiaeth i mewn, ar gost y bobl, ys- garer rhyngddynt a'r gwaddolion, a chyssegrer (yr ydym yn arfer y gair yn bwyllog-ddigon) hwynt at sychu cor sydd Mochno a Theifi, gwisgo llymiaid, porthi newynogiaid, a dysgu anwybodusiaid, ie, eu dysgu mor effeithiol fel na byddo un perygl iddynt gael eu gwneud yn gaethion gwasaidd i offeiriaid Rhufain nac un man arall. Na, na, nid oes dim i ni blanu coed bedw er mwyn cael defnyddiau i'n chwipio. Safed pob credo ar ei gwaelod ei hun, ac yna nid ofnwn ddim. Nid ofn heresiau, fel y cyfryw, sydd arnom, ond ofn y givaddol- ion sydd o'r tu cefn iddynt. Ein hegwyddor I ni ydyw hon-Pwy bynag ag sydd am grefydd, taled am dani o'i boqed ei hun, ac nid o bocedi dynion ereill: a gadewch i ni gael brwydr deg rhwng gwirionedd a chyfeiliornad, ac nid ofn- Airn y canlyniadau. Gadewch i ni gaelgwybod yn gywir pwy ydyw ein cyfeillion, a phwy ein caseion. Mae un gwahaniaeth pwysig rhwng Pab- yddiaeth a phob cyfundrefn arall. Hona hi anffaeledigrwydd, ac felly nid gwiw cynnyg rhesymu a hi: a dyna y rheswn oedd gan yr enwog John Foster dros gyfyngu rhyddid y Pabyddion hyd nes rhoddi fyny yr erthygl hwn yn ei chredo—yr hyn ni wna tra byddo Pabyddiaeth yn gamp-waith tad y celwydd. Y ffurf uchaf a mwyaf beiddgar o uchelgais ydyw dyweyd wi-th y meddwl dynol -I Hyd yma yr ai ac nid yn mhellach.' Mae gormes- wyr erlidgar wedi rhwystro y dynion goreu a fendithiodd ein byd ni a'u prcsenoldeb a'u dylanwad i siarad ac ysgrifenu, ond y mae Tad tirion, mawr di-ugarogyr ysprydiod, wedi, yn amlder anfeidrol ei dosturiaethau, gwneud enaid dyn yn anweledig. Beth dclywed yr henHudibras?— Nature has made man's breast No windores (windows) To publish what he does within doors, Nor what dark secrets there inhabit, Unless his own rash folly blab it.' Gall yr erlidiedig mewn ogfeydd, ar fynydd- oedd, neu yn y difFaethwch feddwl fel y myno, ac nis gall un gelyn dori wires y telegraph sydd yn cyrhaedd o fewn i'r lien.' Wel, ni ddychwelwn at Ardalydd Bute. Nid y bachgenyn un ar hugain oed hwn ydym yn ofni, ond ei dri chan mil punau y flwyddyn, a'i safle cymdeithasol, a'r dylanwad iydd y pethau hyn iddo i effeithio ar y dosparth hyny 0 bobl LIoegr ag sydd yn addolwyr rank and fashion. Mae rhif pobl digon gwrol i farnu teilyngdod pyngciau cyhoeddus ar wahan oddi wrth bersonau yn llawer llai na feddylid. 'A gredodd rhai o'r llywodraethwyr iddo ?' yw hi etto. Dychweledigion goludog mae pob sect yn hoffi, ac y mae mwy o lawenydd am ddych- weliad un cyfoethog na mil ond un o rai tylod- ion; ac y mae felly yn neillduol gyda'r Pab- yddion yn y wlad yma, oblegid math o genadau ydynt, ac yn gorfod byw ar y gyfundraeth wirfoddol. A medrant hwy wneud i'r dych- weledigion cyfoethog hyn dalu yn gampus am y drafferth o'u troi o oleuni i dywylliceh. Caffaeliad dirfawr i unrhyw enwad ydyw gwr yn werth tri chan mil o bunau'r flwyddyn. Nid oes dim mwy o ofn Ardalydd Bute arnom fel Protestariiaid, nag sydd o ofn Will Ellis ar yr Wyddfa, ond y pres-y pres sydd arnom ei ofn. Polyglott yw hwnw; ac y mae bol a chefn gan bob dyn a dynes. Mae gan Eglwys Rufain ei chynllun gyda golwg ar Loegr. Golyga y bydd y wlad yn eiddo iddi os llwydda i gael y mawrion goludog a'r offeiriaid yn Eglwys Loegr o'i phlaid,—yna gobeithia y geill trwy ddylanwad y rhai hyn, bob yn dipyn, ddychwelyd i'r Senedd Babyddion, ac os byth y ceir mwyafrif o'r rheiny yno, ffarwel ryddid a goleuni. A ydyw hyn yli bossibl ? Nac ydyw, ni obeithiwn, ond mae yn ofynol i ni fod yn effro, a gwneud ein goreu i oleuo y bobl, fel na oddiwedder hwynt gan elynion, ac nad ydynt byth yn cysgu heb fod un llygad yn agored. At eich gwaith, bregethwyr anwyl, er i chwi gael eich rhegu yn frwmstanaidd yn ystod yr etholiad diweddaf-at eich gwaith, chwi ddisgynyddion gwyr y I prif-ffyrdd a'r caeau,' pan na chaent bregethu yn yr hen eg- lwysi ag yr oedd eu dirfawr eisiau ynddynt- at eich gwaith, oblegid fe fydd mawr angen am danoch yn fuan i amgylchu arch y dystiol- aeth a'i diogelu rhag y gelyn-at eich gwaith —Gloewch eich harfau: dysgwch eu harfer; ac yn mlaen a chwi fel llu banerog yn erbyn cestyll anghrist, gan, yn enw eich Cadben, eu gwneud yn gydwastad a'r llawr. At eich gwaith, athrawon yr ysgol Sabbothol. Chwiliwch yr Ysgrythyrau, a dysgwch eich dosparth i wneud yr un peth; hyfforddwch hwynt yn ffyrdd dysgedigaeth Ysgrythyrol fel yr arfoger hwynt yn erbyn pob twyll, gau grefydd, a gau phil- osophi.

CYFARFOD CHWARTEROL UNDEB…

CYFARFOD CHWARTEROL MALDWYN.

BETH ETTO?