Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

PWY GAIFF Y LLAWRYF?

News
Cite
Share

PWY GAIFF Y LLAWRYF? (Parkad o'r Rhifyn tliweddaf.) V ,< Hynafgwr parehedig yr olwg arno ydyw o daldra uwch na'r cyffredin, a chnwd go dda o wallt gwyn ar ei ben. Dywedai:— Mr. Cadeirydd,—Yr wyf yn diolch i chwi am y dull parchus y crybwyllasoch fy enw; ae i'r cyfarfod hwn am y modd caredig y derbynwant -of ;er. y gwn yn dda nad wyf fi mewn un modd yn haeddu hyn oddiar eich llaw chwi- na hwythau. Mae yr achos a alwodd am y cyfarfod hwn yn rhoddi i mi y llawenydd puraf (elywch, clywch). Buddugoliaeth- au gogoneddus yr Etholi&fWiiweddaf$roddoddfod- oliaeth i'r drychfeddwl o wobrwyo a r llawryf aur- aidd hon y corphoriaeth etholiadollle yr enillwyd yr oruchafiaeth bwysicaf, (uchel gymmeradwyaeth). Mae yn anhawdd i mi allu ffurfio barn i bwy y dylid ei dyfarnu. Ond mi ddeyda i chwi beth; pe buasai sir Ddinbych wedi troi Syr Watkin allan, ni buaswn yn gofyn cenad yr un o honoch i ba Ie i fyned a hi oblegid mi aethwn a hi yno ar fy union, ac mi fuas- wn yn ei gosod yn y man amlyeaf ar hen fynydd Hiraethog (chwerthin mawr, a chymmeradwyaeth uchel). Gwnaeth pobl y mynydd-dir yn ardderchog. Aeth yn agos i chwech ugain o etholwyr Llansanan i Ddinbych, a hyny heb roddi dim traul ar yr ym- geiswyr; ac yr oedd gweled eu cerbydau o bob llun a maint yn dylifo i'r dref yn llenwi calonau y Tori- aid a dychryn; a phleidleisiasant yn ddieithriad -dr- yr ymgeiswyr Rhyddfrydig (uchel gymmerad- wyaeth); ac yr oedd y dylifiad o'r ochr arall i Lan- rwst i bleidleisio yn dangys fod y mynydd-dir eto fel cynt yn noddfa ac yn lloches i garwyr a chefhogwyr rhyddid (cymmeradwyaeth). Ond trodd parthau eraill ynanffyddlon,fel y mae eto am ryw ys- baid yn ngafael y cryf arfog; ond y mae Syr Watkin wedi cael notice to quit, a rhaid iddo chwilio am ryw dy mwy anghyfrifol na Thy y Cyffredin i'w dderbyn, canys y mae sir Ddinbych wedi llefaru mewn iaith pur ddealladwy nas gall fod yn hir eto yn oruchwyl- iwr iddi hi yn y Ty hwnw (chwerthin mawr). Ond y mae hyny eto heb ei wneud, felly nis gall sir Ddin- bych y waith hon, hawlio llawryf goruchafiaeth. Byddai yn hawdd i mi ddyweyd llawer Sir, a llwer Bwrdeisdref a weithiodd yn rymus; ond gwybod wrth ba un i ddyweyd ti a ragoraist arnynt oil" sydd anhawdd. Nid gorchwyl hawdd oedd cadw sir Aberteift yn meddiant y Rhyddfrydwyr (clywch, clywch) yn erbyn holl ddylanwad Trawsgoed a Nanteos, a hoR foneddwyr y sir oddieithr teulu Go- gerddan a dau neu dri eraill. Ac nid oes feallai yr un sir yn Nghymru Ue y mae y man foneddigion yn amlach nag yn sir Aberteifl. Gorchest fawr oedd dwyn un eisteddle o ddwylaw y Toriaid yn sir Gaerfyrddin (uchel gymmeradwyaeth). Bu raid ysgwyd y sir drwyddi i wneud hyn. Un frwydr gyffelyb eto a wareda y sir yn hollol o'u gafaelion. Yn sir Feirionydd dychrynodd y gelyn cyn diwrnod y frwydr, ac enillodd y Rhyddfrydwyr yr oruchaf- iaeth heb dynu cleddyf (uchel gymmeradwyaeth). Am sir Gaemarfon pa beth a ddywedaf ? Pe byddai ar fy llaw yr wyf bron meddwl mai ar ei phen hi y torwn y corn olew (uchel gymeradwyaeth). Mae y gormeswr wedi.ei f tvrw allan—Toriaeth wedijei thori wreiddyn a changen-a sir Gaernarfon yn bolitic- aidd wedi myned :trwodd o farwolaeth Toriaeth i fywyd Rhyddfrydiaeth.' (Uchel gymmeradwy- aeth.) Erbyn iddo eistedd i lawr dyna y pwt, byr, cryf, roddwyd i lawr ychydig fynudau yn ol ar ei draed eto; ac nid cynt y cafodd ar ei draed na chyferchid ef gan gawodydd o bwtiadau, edliwiadau, a hisiad- au; ond y mae yn penderfynu sefyll yr ystorm. Os eisteddodd i lawr y tro o'r blaen y mae am ddal ei dir y tro yma; ond y mae un o'r tyrau mwyaf tua'r canol yn llawn mor benderfynol i'w roddi i lawr. Mae ambell air yn cael ei waeddi, nad wyf yn deall ei ystyr, ond y mae y lluaws yn y lie yn deall yn burion, oblegid dilynir yr edliwiadau hyny a chwerthin mawr. Ychydig o gydymdeimlad y mae neb yn ei ddangos ag ef, er mai tua chanol yr ystafell yr ymddengys fod y gwrthwynebiad mwyaf iddo. Mae y Cadeirydd yn edrych fel un mewn petrusder heb wybod pa beth i'w wneud. Gwna ei oreu i lonyddu y cythryfwl trwy amneidio a'i law ond nid yw, ychwaith, am ei wthio ar y eyfarfod yn groes i'w teimlad. 'Eisteddwoh i lawr,' meddai crochlef o un ochr. 'Pwy fradychodd P' meddai rhyw lais o'r ochr arall. 'Beth yw pris — ?' meddai y trydydd; a rhes o of- yniadau cyffelyb a'u gwaeth, y rhai a ddilynid gan chwerthiniad mawr; ond safai y gwr ar ei draed fel hero. Dywedodd rywbeth ond nis gallaswn wneud allan gydag un cysondeb beth a ddywedodd; ond clywais ef yn dyweyd fod y boneddwr anrhydeddus y pleidleisiodd ef drosto yn Rhyddfrydwr trwyadl- yn barod i fyned mor bell ag un Ymneillduwr yn y Senedd; a i fod yn adnabod y bobl oedd yn terfysgu ac yn aflonyddu, aemai nid dyma y tro cyntaf iddo weled eu cilddanedd, am na buasai yn swnio eu shi- boleth hwy-ond ei fod yn barod i gydmaru pum mlynedd ar hugain o fywydpolitieaidd a'r gwr goreu o'i aflonyddwyr.' Collais y gweddill yn nghanol y cynwrf, a chyn hir eisteddodd i lawr, ond aid cyn dyweyd llawer yn tchwa-eg o bethau pur gyffrous fel y gallaswn feddwl wrth olwg y rhai oedd yn ddigon agos ato i glywed y cwbl. Dyma yr unig derfysg a fu, ac yr oedd yn ormod o lawer. Parhaodd am fwy na deng munyd fel y mor yn dygyfor. Wedi i'r twrf lonyddu, a chael hanner munyd i bob un gymmeryd ei anadl, a threfnu ei hun ar ei eisteddle; y mae y Llywydd yn ymunioni ar ei gadair, ac yn parotoi i symio y cwbl i fynu. Mae y distawrwydd mwyaf trwy yr holl le. Mae, hawliau y siroedd a'r bwrdeisdrefi wedi eu gosod ger eich bron yn f edrus a hyawdl; ac ar y cyfan yn ddoeth a chymhedrol gan foneddigion cwbl gyfarwydd a'r amgylchiadau dan ba rai yr ymladd- wyd y brwydrau ynddynt. Yn yr ychydig ol-sylw- adau wyf yn fwriadu wneud, fy amcam fydd eich cynnorthwyo i ddyfod i benderfyniad trwy ddedfryd .*A*'ro".T -.If'oqp.- deg a diduedd i bwy y mae y llawryf hon i'w rhoddi. Rhaid i chwi yn gyntaf oil gofio mai nid y cwestiwn ydyw pwy a ddychwelodd yr aelod goreu. Hwyrach na buasai anhitwsder mawr gan ymwyafrif o honoch i benderfynu hyny, ond nid i farnu rhwng aelod ac aelod y gelwir arnoch; y mae yr aelodau a ddych- welwyd genych oil wedi gwystlo eu hunain yn ffafr y blaid fawr Ryddfrydig dan arweiniad y Prifwein- idog (uchel gymmeradwyaeth). Nid y cwestiwn ychwaith i'w benderfynu, ydyw pa le y gellir cael yr engraifft dduaf o ormes a bygythiad; a'r eng- raiffi; amlycaf o wroldeb a chydwybodoirwydd yn ei gwyneb. Mae yn ddrwg genyf ddeall fod engreifft- iau o'r blaenaf yn ami mewn llawer sir a bwrdeis- dref; oud y mae yn dda genyf ddeall hefyd o'r ochr arall fod yn mhob lie rai engreifftiau gogoneddus o'r olaf (uchel gymmeradwyaeth)! Wrth bender- fynu mater fel hyn rhaid cymmeryd golwg ar beth- au yn gyffredinol; ao nid edrych ar engreifftiau neillduol y rhai a all fod yn eithriadau. Sicrhawyd buddugoliaethau i rai siroedd heb frwydr-ni alwyd ar yr etholwyr i brawf, er fy mod yn lied hyderus yn fy meddwl y daethent allan yn fuddugoliaethus pe gorfodasid hwy i fyned i'r maes, eto yn y rhyfel y mae profi gwroldeb y milwyr (cymmeradwyaeth). Mewn un engraifft yr oedd y cydymgais rhwng Rhyddfrydwyr ac er y gall fod y genedl wedi cael enill mawr trwy fuddugoliaeth a enillwyd—(uchel gymmeraclwyaeth) -eto nis gellir ystyried yrorchest yn gymmaint a phe buasai eisteddle wedi ei chym- meryd oddiar y blaid wrthwynebol (clywch, clywch). Mewn un sir a rhai o'r bwrdeisdrefi y cwbl a wnaed oedd cadw meddiant o eisteddleoedd oedd eisioes yn eiddo y Rhyddfrydwyr. Costiodd hyny ymdrech galed; peryglodd llawer eu hamgylchiadau i'w sicr- hau; ac er nas gellir ystyried cadw meddiant, yn gymmaint o enill, a sicrhau tir newydd, eto gorchwyl a brofodd yn galed i lawer He oedd dal yr hyn oedd ganddynt, rhag i neb ddwyn eu coron (uchel gym- meradwyaeth). Mewn dwy o'r siroedd, a thri o'r bwrdeisdrefi, enillwyd eisteddleoedd i'r Rhyddfryd- wyr y rhai oedd o'r blaen yn ngafael ein gwrthwyn- ebwyr (uchel gymmeradwyaeth). Ac er nas gellir edrych ar oruchafiaeth mewn bwrdeisdref yn gyfar- tal a goruchafiaeth mewn sir, oblegid mai yn y sir- oedd y mae mawr gryfder y gelyn, eto nid gorchwyl bychan oedd dwyn tri o fwrdeisdrefi Cymru o law y cadarn yn ychwanegol at y rhai oedd o'r blaen yn rhydd. Yn wir ymae holl fwrdeisdrefi yDywysog- aeth ond dau yn eiddo y Rhyddfrydwyr (uchel gym- meradwyaeth); ac y mae profion lied eglur mai trwy lwgrwobrwyaeth yr enillwyd un o'r ddau hyny (cy- wilydd). Ac y mae yn dda genyf gymmeryd yeyfle hwn i ddatgan fy llawenydd na chynhygiwyd dwyn deiseb yn erbyn unrhyw aelod Rhyddfrydig Cym- reig am frawychiad na llwgrwobrwyaeth yn nglyn a'r Etholiad diweddaf (uchel gymmeradwyaeth). Am y siroedd lie yr eninwyd yr eisteddleodd new- yddion oddiar y Toriaid; yn un o honynt enillwyd un eisteddle oddiarnynt gan adael y llall yn eu meddiant, mewn gobaith y gwaredir y sir yn llwyr yn yr Etholiad nesaf— (cymmeradwyaeth)—tra yn y llall y mae y sir wedi ei chwbl waredu fel na fedd y gwrthwynebwr le i osod troed i lawr yn y bwr- deisdrefi^nac yn y sir—cafwyd goruchafiaeth drwyadl a hollol arno (uchel gymmeradwyaeth). Gadawaf y cwbl bellach i'ch dedfryd mewnperffaith ymddiried y bydd boddlonrwydd cwbl i benderfyniad y cyfarfod i bwy bynag y dyfernir y llawryf auraidd hon gan y mwyafrif. Daw pedwar o gylch i dderbyn y pleidleisiau; a rhodded pob un ar y tocyn a dder- byniodd yn y drws enw y He a fernir ganddo yn deilwng o'r wobrwy hon. (Uchel gymmeradwy- aeth). Aeth pedwar o ddynion heibio a bagiau bychain yn eu dwylaw, i'r rhai y gollyngasant y tocynau, fel y gwneir weithiau ag arian i'r box wrth gasglu mewn cynnulleidfa; ac wedi iddynt fyned o gwmpas pawb yno, y maent yn dychwelyd a'r cydeidiau ychain-llawnion erbyn hyn i'r Cadeirydd; yrhwn a alwodd ar ddau foneddwr o ganol yr ystafell i i fyned o'r neilldu gyda'r pedwar fu yn eu casglu i agor y bagiau, ac i ddychwelyd a chyfrif cywir o nifer y pleidleisiau dros bob He. Wedi iddynt fyned y mae y distawrwydd mwyaf trwy y lie am ryw haner munyd, a'r Cadeirydd yn plygueiben fel i orphwys; ond cyn pen y munyd y mae yn siarad distaw cyfEredinol trwy yr hon le; pob un yn troi at ei gyfaill, a'r cwestiwn cyntaf ydyw pwy caiff hi-a phawb yn ceisio dyfalu-a rhwng ofn a gobaith yn disgwyl yn awyddus. Mae pob un y mae oriawr ganddo yn edrych ami, ac y mae yr, amser yn edrych yn hir; oblegid 'hir yw pob ym- aros.' Gallwn feddwl fod ambell un wedi edrych ei oriawr ddwsin o weithiau. O'r diwedd dacw y chwech yn dychwelyd, a'r cyntaf a sheet fawr yn ei law, ac yn ei hestyn i'r Cadeirydd. Mae distaw- rwydd y bedd trwy yr holl le ar darawiad amrant; a phawb yn gwrando am eu bywyd. Ar hyny dy- wedai y Cadeirydd, Saif y pleidleisiau fel y canlyn:— Sir Fon 23 Bwrdeisdref Caerdydd 37 Bwrdeisdref Hwlffordd. 41 Bwrdeisdref Casnewydd 49 Sir Feirionydd 63 Bwrdeisdref Dinbych 67 Sir Aberteifi 93 Bwrdeisdref Merthyr. 107 Sir Gaerfyrddin 123 Sir Gaernarfon 182 Felly gwelir mai i Sir Gaernarfon y mae y cyfarfod wedi dyfarnu y llawryf trwy fwyafrif o 59 (uchel gymmeradwyaeth). Yr wyf gan hyny yn galw ar y boneddwr a ddadleuodd hawliau y Sir mor alluog ar y dechreu i ddyfod yn mlaeni gymeryd meddiant, o honi.' Daeth yntau yn mlaen gan edrych yn fwy llawen a chalonog nag ydoedd ar y dechreu, yn nghanol bloeddiadau cymmeradwyol y gynnulleidfa, a dy- wedodd,— 'Mr. Cadeirydd, a Chydwladwyr Rhyddfrydig, yr wyf o waelod fy nghalon yn diolch i chwi oil. Gwyddwn o'r goreu o'r dechreu mai fel hyn y gwn- aech, canys nis gallasai dynion teg a synwyrol wneyd dim yn amgen (cymmeradwyaeth mawr). Hwyrach i mi yn fy mrwdfrydedd dref; fy sir fy i: hun, ddyweyd rhywbeth a allasai ymddangos yn bychanu ymdrechion, aberthau, a buddugoliaethau siroedd eraill; yr wyf yn mhell Syr, o deimlo felly (clywch; clywch). Gweithio yn ardderchog ddarfu pob sir; ond yn unig fod sir Gaernarfon wedi gweithio yn well na hwynt oil (chwerthin mawr). Pe na buasai gorchestion wedi eu gwneyd mewn siroedd eraill ni buasai ein hanrhydedd ni yn gym- maint. Curo cynifer o siroedd a bwrdeisdrefi a wnasth mor ardderchog, sydd yn gwneyd eiWgor- uchafiaeth yn un ogeneddus (uchel gymmeradwy- aeth). Gwnaeth Mon yn deilwng o I fam Cymru' wrth anfon Cymro, ac Ymneillduwr, a blaenor Methodus i'w chynrychioli (cymmeradwyaeth). <6afodd bwrdeisdrefi sir Ddinbych yn mab petson Llansanan Ryddfrydwr wrth fodd eu calon. 0 dydi Lansanan! bendigedig wyt yn inysg miloedd pen- trefi Cymru, canys o honot ti y cyfododd dynion Sydd yn dywysogiom y natur ddynol (banllefau o gymmeradwyaeth). Cymerodd sir Feirionydd gastell y Jebusiaid (y's dywedai Y Gohebydd) 'heb drwst rhyfel na dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed.' Gwelodd y gelyn ei berygl, ac efe a redodd, a waedd- odd, ac a ffodd (chwerthin mawr). Mae sir Aber- teifi yn haeddu parch y genedl oil am weithio mor ddiflino yn ngwyneb ysgriwiau holl fawr a man foneddigion y sir, a sicrhau yr eisteddle i ryddfryd- wr fydd yn anrhydedd i'n cenedl yn y Senedd (uchel gymmeradwyaeth). Nid oes yma neb parotach na mi i gydnabod llafur ac ymdrechion bwrdeisdrefi Hwlffordd, a Chaerdydd, a Chasnewydd; a gallant fod yn sicr nad ydynt wedi colli y llawryf oblegid nad oedd ganddynt friends in court, oblegid nis gall- asai neb byth ddadleu eu hawliau yn well nag y mae y brodyr doniol sydd ganddynt yma wedi gwneyd, er fod rhai o honynt hwy wedi awgrymu mai gan rywrai eraill y mae y dawn i gyd (chwerthin mawr). Yr ydym oil yn teimlo ein bod dan ddyled i Merthyr ac Aberdar am ddychwelyd yr Ymneillduwr cyntaf erioed dros Gymru i'r Senedd, a hyny gyda mwy nag un fikar ddeg a haner o bleidleisiau (uchel gym- meradwyaeth). A pha beth a ddywedaf am sir Gaerfyrddin a ddringodd agosaf atom ni o bawb ? Ac addef y gwir, pan welais y cawri oedd wedi eu danfon yma i ddadleu hawliau sir Gaerfyrddin, a gwybod rhywbeth am yr ymdrechfa galed y buont ynddi, nid oeddwn heb grynu rhag mai yno yr aeth- ai y llawryf; a phe buasent, Syr, wedi anfon dau Ryddfrydwr i'r Senedd, ac felly lwyr waredu y sir o grafangau Toriaeth, ni buaswn yn grwgnach llawer serch iddynt fyned a changen y fuddugoliaeth (uchel gymmeradwyaeth). Ond y mae llawryf buddugoliaeth yr etholiadau Cymreig yn 1868 wedi ei henill yn deg gan sir Gaernarfon. Yn awr, lanc- iau Eryri deuwch yn mlaen-cymerwch hi adref mewn gorfoledd-gosodwch hi i fynu ar binacl uchaf Twr yr Eryr yn hen gastell Caernarfon-ac yn enw y dewrion a ymladdodd y frwydr hon, yr wyf yn eich tynghedu i gadw y sir byth yn feddiant i'r Rhyddfrydwyr (uchel gymmeradwyaeth.) Brysiodd rhyw ddeuddeg o ddynion cryfion yn mlaen, a chariasant y llawryf allan yn nghanol ban- llefau o gymmeradwyaeth unol, cyffredinol, a hir barhaol—ac yn y twrf deffroais, a chefais fy hun yn dawel yn fy hen gadair freichiau-ac wele breudd- wyd oedd.. HEN WYLIWE.

CYFARFOD CHWARTEROL mm. ^…

[No title]

RICHARD COBDEN.

LLOEGR A'R AMERICA.

CWMTAWE. i

DINAS MAWDDWY.