Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

--Y GYMDETTTTAS DDIWYGIADOL…

News
Cite
Share

Y GYMDETTTTAS DDIWYGIAD- OL GYMREIG. P J ————— 8 ychydig yn llai na blwyddyn yn'ol, eysieraSom ein rhyddid i alw sylw ein cyd- ^ladwyr parchus y Meistri W. Williams, ac • Williams, dau o aelodau Cyngor Trefol Llverpool, at yr angenrheidrwydd i ffurfio ymdeitlias o ryddfrydwyr Cymreig y dref. oedd ein hamcan ar y pryd yn ddim mwy ffurfio Cymdeithas i Liverpool, yn unig y S^yliem oblegid cysylltiad agos Liverpool iddi gario dylanwad anuniongyrch- yno. Cymerwyd yr awgrym i fynu yn ^ioed; a chyfarfu nifer o gyfeillion brwd- g 1 Wneyd y parotoadau. Barnai amryw ar Y pryd na ddylasid mewn un modd ei chy- i Liverpool, ond buasai yn llawer gwell gosod ar seiliau digon eang i gynwys holl "yttiru. Yr unig anhawsder a deimlid i hyny b y buasai hyny yn ymddangos yn rhy debyg i wthio eu hunain i fod yn arweinwyr y genedl mewn gwleidiadaeth, a hyny heb gael eu hawdurdodi na'u galw ganddi. Cafwyd ^yfarfod cyhoeddus i osod yr amcanion ger y rhai a gymeradwywyd yn unfrydol; c ennilIodd y cyfarfod hwnw hynodrwydd lrlawr, oblegid bu yn werth gan Brifweinidog Y dydd gyfeirio ato yn y Senedd. ■^lewn cyfarfod a gynnaliwyd ar ol hyny, yfonwyd ar nifer o reolau, y rhai fel y gwelir eglur sydd yn gwneyd y Gymdeithas yn 0 gyffredinol i'.n eenedl yn Nghymru a °eSr > er mai yn Liverpool yr oedd, ac y lllae Corff mawr ei haelodau, eto nid Cymdeith- 1 Liverpool ydyw mewn un modd, ond ^eithas Ddiwygiadol Gymreig. Daeth i Sytoeddusrwydd neillduol trwy iddi fod yn ^yddianus i gael John Bright i un o'i chyf- al'fodYdd, yr hwn a dduetlb ar y dealldwriaeth r fod y gymdeithas nid yn lleol, ond yn genedl,ethol., Rhoddodd ffurfiad y Gymdeith- gaf^ eawediS y cyfarfod a'r gynnadledd a ^yd yn nglyn ag ymweliad Mr Bright, yni a bYwYd newydd yn holl garwyr rhyddid trwy y^ysogaeth a bu ei dylanwad anunion- Phol o bosibl yn fwy na'i dylanwad union- mewn anfon allan anerchiadau, a ^arwyddiadau gydag amcan i gyffroi yr _^°l\vyr at eu gwaith; ac o bob lie yr anfon- at Gyngor y Gymdeithas am help i gynal CYfarrodydd rhoddwyd ef gyda'r parodrwydd Nid ydym mewn un modd yn tybied i, k°ll glod am yr hyn a ennillwyd gan y u ryddfrydig yn yr etholiad diweddaf yn dYledus i'r Gymdeithas Ddiwygiadol Gy- Glg" °nd yr ydym yn tybied iddi wneyd ei Yn ganmoladwy; a hwyrach y buasai yn hoibl i gymdeithas a oddiweddwyd gan -U-ad cyffredinol mor fuan wedi ei ffurfiad Yd yn well. Mae y Wasg Gymreig yn abod ei -gwasanaeth gwerthfawr—teimlad °'r aelodau rhyddfrydig a ddychwel- oedd eu bod yn ddyledus iawn iawn iddi edrycha lluaws mawr o'n cydwladwyr fel gallu pwysig iawn o blaid egwyddor- 1011 rhYddfrydiaeth. :N. ydym wrth ddyweyd hyn am awgrymu ed yn n°d holl ryddfrydwyr Cymru yn tych. yn ffa £ r £ 0x ami. Dichon fod rhai o'r "Wv • nigiaid yn ofni ei bod yn rhy eithafol— fod ambell un o ysbryd lied ben- edrych ami yn rhy werinol—nid j yn amheu nad all rhagfarnau lleol beri fed rai edrych yn gilwgus arni-a chlywsem fod ambeU un o wyr y gyfraith yn awgrymu y m^ryaf o'r elfen glerigol yn nglyn a mae pethau fel yna yn ddigon naturiol ^es ond os arhosir heb wneyd dim ^yo\bydd° yn canm°l ac yn cymerad- ^asa" I'yth heb ei wneyd. Pe l>Uasa. s^r yn addfed i wneyd ei gwaith ni ailgen cymdeithas gyffredinol i' w sym- Mae bodolaeth cymdeithas i gyrhaedd Yw amcan, yn rhagdybied anaddfedrwydd yn y lluaws ato a rhaid i'r ychydig sydd yn addfed wthio eu gwasanaeth ar y Iluaws sydd yn anaddfed. Y cwestiwn neillduol y dymunem ei gyf- lwyno i sylw Cyngor y Gymdeithas Ddiwyg- iadol Gymreig ydyw pa fodd i drefnu ar gyfer y dyfodol ? Yr ydym wedi ennill buddugol- iaethau ardderchog, ond rhai i ni edrych yn ddyfal rhag colli y tir a ennillasom ac nid hyny yn unig ond gweithio a'n holl egni at ennill y tir lawer sydd eto heb ei feddianu. Er nad oes ond deg eisteddle gan y Toriaid yn Nghymru, eto y mae hyny ddeg yn ormod. Ni bydd ein gwlad wedi ei chyflawn waredu nes y byddo pob un o'r deg wedi eu dwyn oddiarnynt. Ond y pwnc ydyw pa fodd i wneyd hyny. Digwyddodd i ni yn ddamweiniol weled hanes cyfarfod a gynnaliwyd yn y Westminster Palace ddiwrnod agoriad y Senedd, lie yr oedd nifer o'r aelodau Cymreig newyddion ac eraill; ac iddynt yno benderfynu y dylid ffurfio cym- deithasau sirol yn ISTgogledd Cymru i edrych ar ol y cofrestriad, ac y dylesid ethol cyngor eyffredinol cynwysedig o lywyddion ac is-lyw- yddion y cyfryw gymdeithasau sirol yn nghyd ag eraill; a bod y Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig i gael ei gwahodd i gydweithredu a hwy. Nid ydym yn gwybod dim am yr am- gylchiadau dan ba rai y galwyd y cyfarfod hwnw. A ohebwyd a swyddogion y Gym- deithas Ddiwygiadol Gymreig yn flaenorol iddo i ofyn eu cydweithrediad ? neu a anfon- wyd atynt ar ol hyny yn ol y penderfyniad ? Os na ddo—ar bob cyfrif dylesid gwneyd. Pa ddyben pasio penderfyniadau a'u gadael i farw yn y fan ? Ac ymddangosai i ni yn hynod iawn i'r cyfarfod gael ei gyfyngu i Ogledd Cymru. Nid yw Cymru i gyd ond fel cledr llaw gwr, a pha raid son am ogledd a de ar bob achos? Paham bellach nad allem gael rhywbeth cyffredinol i'r genedl oil ? Ond pa esgeulusiad bynag a fu yr ydym yn bur sicr yn ein meddwl wedi y cwbl nad oedd un bwr- iad i ddirmygu neb. Na fwriadid un sarhad ar y De wrth ei gyfyngu i'r Gogledd-nac un amharch ar y Gymdeithas oedd eisioes mewn bodolaeth, ac yn cael ei chydnabod yn allu pwysig, trwy beidio gohebu a'i swyddogion na chyn nac wedi y cyfarfod. Ond y mae hyn oil yn dangos y mawr bwys i gael personau i ymgymeryd a symudiadau cenedlaethol sydd yn deall Cymru yn dda, a'u cydymdeimlad yn drwyadl a phob cwr o'r Dywysogaeth. Pa fodd bynnag, yr ydym yn mawr gym- meradwyo yr amcan o gael Cymdeithasau Sirol yn mhob sir yn N ghymru, a chymdeithasau Ileol yn mhob cymmydogaeth hefyd dan nawdd y Cymdeithasau Sirol hyny. Dylai fod gennym dair-ar-ddeg o gymdeithasau o'r fath yn nhair sir ar-ddeg Cymru, ynghyd a chymdeithas leol hefyd yn Liverpool, He y mae y boblogaeth Gymreig yn lluosocach nag yn rhai o siroedd y Dywysogaeth. Mae yr elfen Gymreig mor gref yn Liverpool, ond ei gweithio yn briodol, y gallai droi yr etholiad yn hawdd yn ffafr y rhyddfrydwyr. Gwnaeth y Gymdeithas Ddi- wygiadol Gymreig lawer yn yr Etholiad di- weddaf ond trwy ei bod wedi gwasgaru ei nerth mewn rhan ar Gymru ac mewn rhan ar Liverpool, nid yw wedi gallu gwneud ei gwaith mor effeithiol a phe ceid cymdeithas i weithio yn uniongyrchol ar Gymry Liverpool. Wedi cael y cymdeithasau sirol hyn trwy Gymru, a chymdeithas leol yn Liverpool, gallai y Gym- deithas Ddiwygiadol Gymreig droi ei holl sylw at y pethau sydd yn pfflrthyn yn gyfartal i'r holl siroedd; a bod cadeirydd, a thrysorydd, ac ysgrifenydd yr holl gymdeithasau sirol, yn rhinwedd eu swydd, yn aelodau o'i chyngor gweithiol. Gellid yn bur hawdd, gydag ych- ydig o gyfnewidiadau, gyfaddasu cyfansoddiad presenol y Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig i wasanaeth yr holl gymdeithasau Cymreig yn gyffredinol. Dylai fod gan y Gymdeithas gyffredinol drysorfa gref at ei Haw, fel y gallai, drwy ei swyddogion, gynnal gohebiaeth reol- aidd a'r holl gymdeithasau—anfon cynlluniau o ddeisebau pan y mae rhyw achos yn gofyn cydweithrediad—cyhoeddi traethodau byehain ar gwestiynau pwysig fyddo yn tynu sylw— estyn cynnorthwy trwy anfon areithwyr ar adeg o etholiad—dynoethi y camwri a ddyodd- efir gan ddynion oblegid pleidleisio yn gyd- wybodol-ac yn mhob modd i wasanaethu achos rhyddfrydiaeth yn mysg ein cenedl. Dylid sicrhau gwasanaeth ysgrifenydd a gyf- hvynai ei holl amser i'r gwaith, ac a ymwelai yn achlysurol a'r holl gymdeithasau sirol er gweled eu trefn, a symbylu yn mlaen y rhai a ddigwyddai fod yn hwyrfrydig i symud. Cyn y gellir gwneud dim yn effeithiol rhaid cael cydweithrediad yr holl blaid ryddfrydig, ac ni ddylid gadael i gulni ac eiddigedd personol na lleol fod yn attalfa i wneud y gwaith yn eff- eithiol. Ni byddai raid i'r cyngor fod yn un- rhyw fan yn sefydlog; ac er mwyn dileu pob rhagfarn, dylai gyfarfod yma ac accw fel y t,Y I gwna Cyngor yr Eisteddfod; neu fel gwna Cymdeithasfa y Methodistiaid, yr hwn y mae ei symmudiadau yn ddigon adnabyddus yn Nghymru ond byddai yn ddigon hawdd trefnu iddo gyfarfod amlaf yn y lie y byddo yn fwyaf eyfleus i'r rhan fwyaf o'r aelodau. Ond pa fodd y ceir hyn oddi amgylch ? Nid oes gennym ond ei gyflwyno i sylw Cyngor y Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig; ac oddiar ein hadnabycldiaeth bersonol o'r boneddigion a'u cyfansoddant, yr ydym yn teimlo yn bur sicr y byddant yn barod i wneud pob peth yn eu gallu at gael yr amcan i ben. Os ceir Banquet yn rhyw le, dylid ar bob cyfrif gael cynhadledd mewn cysylltiad ag ef i gydym- gynghori pa fodd i weithio yn y dyfodol. Ni roddem ddiolch am dano yn unig i foli ein gilydd am y peth a wnaed; os na bydd hefyd yn is-wasanaethgar i gael cyfle i gynllunio at waith yn y dyfodol. Os na cheir Banquet, ai ni ellir cael hanner dwsin o brif ddynion pob sir at eu gilydd i ryw fan, i gyfarfod nifer o aelodau cyngor y Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig, er cael ymgynghoriad doeth a phwyll- og pa fodd i ddal yr hyn sydd gennym, ac ennill y tir sydd ar ol ? Gadawn hyn yr wyth- nos hon i sylw y Gymdeithas; a dichon y dychwelwn atto mewn rhifyn dyfodol.

LLYTHYR Y MEUDWY.

[No title]