Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

A.1LY. CYHOEDD. I,_{..

AT ETHOLWYR MON.

AT ETHOLWYR BWRDEISDREFI SIR…

Advertising

TYSTEB II PARCH. DAVID PRICE,,

[No title]

AT EIN GOHEBWril.

YR WYTHNOS.

[No title]

''''.' "m EISTEDDFOD GENHEDLAETHOL.'

News
Cite
Share

"m EISTEDDFOD GENHEDLAETHOL. (ODDIWRTH EIN GOHEBYDD NEILLDUOL.) Dyma yr Wyl Fawr Genhedlaethol am 1868 wedi ei hagor, ac yn ol cyhoeddiad ac archiad Gohebydd Pobman nid oes noeth arf i'w godi yn erbyn neb, ond heddwch perffaith i deyrnasu rhwng pawb yn gyffredinol. Cyrhaeddasom Rhuthyn prydnawn Llun, a chawsom y fraint o gyfarfod a rhai o enwogion Cymru, a mynych- 91 wyr yr Eisteddfodau, ar ein dyfodiad cyntaf. Cyfarchwyd ni ar ein hymweliad a'r dref a sain soniarus y clychau; gwelem faneri yn chwifiaw oddiar adeiladau cyhoeddus, a phontydd o ddail bytholwyrdd yn y manau mwyaf cyhoeddus, i gyd yn arwyddo fod rhywbeth o bwys i gym- meryd lie. Yr hyn a dynai ein sylw gyntaf wrth gwrs oedd Y BABELL. Adeiladwyd hon gan Mr J. Rhydwen Jones, Rhyl, ac yn wir y mae yn haeddu clod triphlyg am dani, o herwydd ei thlysni, ei chyfaddas- rwydd, a'i rhadlonrwydd. Y mae yn debyg o ran ei chynllun i Babell Aberystwyth. Mesura 56 llath wrth 38 llath, a chynnwysa oddeutu 4000 o wrandawyr. Y mae ei huchder yn y canol oddeutu 40 troedfedd. Y mae wedi ei gorphen yn gelfyddydgar, gyda ventilation priodol, a felt roof i atal y gwlaw rhag dylifo i mewn. Deil y stage oddeutu 400, ac y mae wedi ei threfnu yn y fath fodd fel y gallo pawb yn yr adeilad weled pob rhan o honi. Y mae arwyddeiriau priodol wedi eu gosod o amgylch, megys I lesu, na'd gamwaith,' God bless the Prince of Wales,' Cas gwr ni charo y wlad a'i maco,' Oes y byd i'r Iaith Gymraeg,' Duw gadwo'r Frenhines,' 'Hen wlad fy nhadau,' 'Tra mor tra Brython.' 0 amgylch yr adeilad chwifia baneri gwahanol genhedloedd, yn nghydag arwyddluniau sir Ddinbych a siroedd ereill, a phais-arfau pymtheg llwyth Gwynedd. Goleuir yr ystafell eang yn y dydd trwy gyf- rwng ffenestri yn y nenfwd, ac yn y nos gan nifer fawr o gas pendants., 0 bob tu i'r esgyn- lawr y mae man ystafelloedd, yn cynnwys office yr Ysgrifenydd, ac ystafelloedd gwisgo i'r can- torion. Cynhelid rehearsal yn y Babell nos Lun. Agorwyd hi gan recitation ardderchog o eiddo Talhaiarn, a chanwyd Hen Wlad fy Nhadau' gan Mr Moses Davies, yn unig er mwyn rhoddi prawf ar acoustics yr adeilad. Cafwyd digon o brawf y gellid clywed pob peth yn hollol ddi- drafferth oben pellaf y Babell. Y mae ychydig o godiad yn y tir o'r esgynlawr tua'r drws yn ysgafnhad mawr i edrych ac i wrandaw. Costia y Babell 400p. Pe adeiladasid Plwilions cyffel- yb yn Nghaerlleon a Chaerfyrddin, buasai gan yr Eisteddfod dros saith gant o bunau mwy mewn llaw nag sydd ganddi yn bresenol. Diwygiad pwysig iawn ydyw hyn. Disgwyliem gael cyfarfod o'r V SOCIAL SCIENCE SECTION, ond ni ddaeth y Llywydd yno, ac felly gorfu i'r ychydig frodyr a ddaethent yn nghyd ym- wahanu, heb gael ar ddeall beth oedd trefn y cyfarfodydd i fod am y dyddiau dyfodol. Nid oedd dim i'w wneud bellach ond cyfeirio ein camrau tua'r Town Hall i gael golwg ar YR EXHIBITION. Dyma arddangosfa ardderchog, na raid dim cywilyddio ei chydmaru a'r rhai goreu a fu gennym eto. Ni fu erioed arddangosfa yn Nghymru yn debyg iddi. Ni wiw son am nag Aberystwyth, na Chaerlleon, na Chaerfyrddin yn ymyl hon. Os oes eisiau ei chydmaru a rhywbeth teilwng o honi, rhaid i ni enwi y Manchester Art Treasures Exhibition, y Leeds Fine Arts Exhibition, neu y South Kensington Musenm. Gellid treulio diwrnodau meithion yn astudio uwchben ei thrysorau, ac eto heb gael allan eu gwerth a'u teilyngdod. Cynnwysa engreifftiau o ddarluniadaeth hen a diweddar; landscapes gan Wilson, Cnyp, a Raysdale; por- trait paintings gan Sir Joshua Reynolds, Lin- nie, a Coats, a chan Titiens a Tintoretto; yn nghyda pigion darluniau mewn olew, o gasgl- iadau Sir Watkin W. Wynn, Mr Hughes, Kin- mel, a'r South Kensington Museum, ac ereill. Ceir yno hefyd gerfluniau mewn mynor, ala- bastr, clai, coed, pres, a haiarn. Y mae yma rai engreifftiau nodedig o waith Gibson. Heblaw hyny, deuir o hyd i gases o'r llestri mwyaf drudfawr mewn aur, arian, bronze, a defnyddiau ereill. Ceir yno lestri pridd o China, Majolica, Swiss, Dresden, a'r parthau. dwyrein- iol, yn amrywio yn holl ddullweddau y porce- lain, parian, a'r enamel, yn nghyda gwydrau o Yenetia, Ffrainc, ac Itali. Ceir hefyd gywreinion o bob, math-addum- iadau o'r India, hen lestri gydag arwyddluniau hynod, cwpanau a blychau, dysglau a phadelli o bob lliw a llun a defnydd, yn perthyn i hen deuluoedd pendefigaidd, neu i gorphoriaethau trefol, neu i'r llys breninol ei hun. Mae y Jewellery yn hynod. Hen ororiau rhyfedd yn grynion fel maip neu yn sgwar fel blwch tybaco. Hen seliau ar fodrwyau. Dar- luniau bychain ar ifori. Gwddf-gadwynau— ser ac ysnodenau—brondlysau, a thlysau ereill nad ellir eu henwi. Mae yma hefyd grynhoad o hynafiaethau Prydeinig a Rhufeinig, ac yn eu plith y mae darnau o feini cellt ar lun arfau. Ac yn ddi- weddaf oil ceir yma hen gofnodion dyddorol. Cynysgrif wedi ei hysgrifenu yn dlws a'i rhwymo yn ardderchog o Bryddest Seisonig ar Uywelyn ein Llyw Olaf.' Copi o'r Gododin gan Aneurin, wedi ei gasglu gan W. O. Pughe. Hen argraffiad o'r Bibl. Copi mewn ysgrif o'r Cyhoeddiad yn nghylch Eisteddfod Caerwys, a I gynhaliwyd yn y 15fed flnvyddyu oaeyrnas, Harri yr wythfed. Ysgrif o eiddo y 13rO Charles I. Hen achau teuluoedd Cy:ror Charters i hen drefyid, a lluaws o bethau er rhy faith i'w henwi. Yn ystod yr h agorwyd Y CONVERSAZIONE. qo Rhyw hen air ItaViiclcl ycl)-w hwn yn goll Cyfarfod rhydd i rodio bddiamgylch, ac ymddi1 ddan, ac areithio. Ar yr esgynlawr a'r 9 mydogaeth gwelem SyrW. W. Wynn, Bar Mr W. Cornwallis West, Miss West, a 30 Florence West, o Gastell Rhuthyn. Mr Lloyd, Maer y dref, a Mr J. Jenkins, y oyn Faer. Mr James Maurice, Mr a Mrs Salisb Major a Mr Thelwall, a'r Parch. J. W. FreebQ o Euthyn. Mr a Mrs Coltart, a'u teulu, o Ehr y-bill. Mr John Jesse, o Llanbedr Hall. a Mrs Sandbach, o'r Hafod-unos. Mr a Newcombe, o Eyarth. Mr a Mrs Crewe Re^ o sir Drefaldwyn. Mr R. G. Johnson, o Lis" rhudd Hall. Cadben Cloxton, Mr Woolley,, Mr Haigh, o Lundain, ac eraill. Agorwyd y cyfarfod gan Mr West, yr hwB aeth dros y cychwyniad a dygiad yn mlaen J1 arddangosfa. Ehoddodd ddesgriflad o'r trf orau oedd yn y lie, ac o'r lies a effeithid trw yr arddangosiad o honynt ar feddyliaU chalonau y bobl. Cynnygiodd y Maer ddiolchgairwch y Cy^ fod i Mr West am ei lafur mawr yn casglu i nghyd y fath gronfa werthfawr o gelfyddy^ waith. Iddo ef yr oeddynt yn ddyledus aB11 llwyddiant oedd wedi eu dilyn hyd yma. I heb ei farn, a'i chwaeth, a'i ddylanwad ef gyd phendefigion ein gwlad ac awdurdodau y So, Kensington Museum, buafai golwg wahanol weled ar yr adeilad hono yn awr. Cododd Syr Watldn i eilio y cynny Canmolodd yr arddangosfa yn fawr. Dywe ei bod yn rhagori ar ddim a gafwyd o'r blao Soniodd am Wilson a Gibson wedi eu geni b o fewn ergyd careg i'r lie, ac am orchestwa1 Cymry yn y dydd hwn mewn cerfwaith coed cheryg. Gobeithiai weled ysgol gelfyddyal wedi ei sefydlu yn y gymmydogaeth. Dywedai Mr James Maurice yn mhellach ein rhwymedigaeth i Mr West. Fel yr oedd o'i hynaflaid, sef Syr Hugh Middleton, dyfod a dwfr o'r wlad i gyflenwi dinas LlundO felly yr oedd Mr West wedi dyfod a gorches celfyddyd o Lundain i gyflenwi ein diffyo ninnau yn Nghymru. Wedi ychydig o ymddiddan pellach B, pawb adref. Dichon y bydd genym air eto 1 ddweyd ar yr Arddangosfa.

BOREU DDYDD MAWRTH.