Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

BANGOR.

SIR GAERFYRDDIN.

BRO MORGANWG.

CLYDACH, DYFFRYN TAWE.

..LLANNON.I

LLANYMDDYFRI.

SIOls, GER TREFFYNNON.

BETHLEHEM, LLANHARAN.

BLAENAU FFESTINIOG.

CANOLBARTH PENFRO.

CARMEL, FOCHRIW. I

,DOWLAIS.

_';./: ■ TOWYN. ' ' ■

YSTRYDGYNLAIS. r,"

News
Cite
Share

YSTRYDGYNLAIS. r, Y mae i bob ardal eu digwyddiadau, ac nid yw yr ardal uchod yn eithriad i rhyw le arall. Y peth sydd mewn mwyaf o fri yn y lie hwn yn bresennol ydyw y Co-operative Stores. Mae siarad wedi bod gan weithwyr y lie hwn er's misoedd bellach am gael sefydliad hwn, a da genyf allu dyweyd ei fod wedi dyfod i weithrediad, ond nid heb lawer o rwystrau. Yr ydym fel ardal dan rwymau i dalu ein diolch- garwch gwresocaf i Mr John Powell, arolygydd gwaith glo Ynyscedwyn, a Mr Rees Williams, ysgolfeistr, am eu gweithgarweh a hymdrechion diflino gyda y sefydliad hwn. Yr wyf yn sicr oni buasai iddynt hwy ymaflyd yn y gwaith, na fuasai wedi dyfod i weithrediad na gobaith am iddo ddyfod 'chwaith. Gan fod gweithfaoedd y lie hwn yn myned yn mlaen mor araf, a'r cyflogau mor isel, a chribddeil- iaeth wedi dringo i'w phinnaclau uchaf, yr oedd yn bryd i ni edrych am rhywbeth er ein cysur tymhorol. Ond da genyf allu dyweyd fod y pechod gwarthus hwn yn dechreu cael ei ddarostwng, trwy fod y masnachwyr yn gorfod gostwng prisiau eu nwydd- au; a rhai o honynt yn cadw rhai ar hyd yr heol- ydd i wahodd y dynion fydd yn digwydd pasio i mewn atynt, eu bod yn gwerthu yn rhatach na neb yn yr ardal. Onid effaith y Co-operative Stores ydyw hyn? Gan fod y sefydliod hwn wedi gwneyd daioni eisioes, nawr fy nghydweithwyr, a gawn ni gydweithredu? A chwithau sydd heb dalu eich addewidion, goreu i gyd po gyntaf y deuwch yn I mlaen. Rhag ei blaen yr elo, a llwyddiant a'i dl- lyno, yw fy nymuniad.—■Juvenile.