CYMMAKFA TALYSARN. X' ■ .v v." Er fy mod yn preswylio ers rhai blynyddoedd yn Eryri, nid oeddwn wedi bod erioed yn Talysarn —lie sydd wedi ei anfarwoli yn ei gyssylltiad a'r enwog John Jones. Yr oedd cael gtvg V. y faugre gyssegredig, cyfarfod a llu o frodyr gwrando enwogion o wahanol barthau y byd yn pregethu fel I rhaff dair caingc,' yn fy nhynu i'r Gymmanfa. Gan fod awyddfryd cryf yn alluog i orcbfygu cryn rwystrau, cychwynais gyda phastwn yn fy llaw, gan benderfynu mesury clogwyni tuag yno bob cam os oedd raid; ond yn ffodus, cefais fy hun ar ddwy olwyn wedi cyrhaedd y pentref, a'm gWyneb ar orsaf y reilffordd, bum milldir neu ychwaneg odditanom wrth droed y bryniau, a chennym lai na deugain mynud i gyfarfod y train-yr unig un cyfleus mewn trefn i gyrhaedd yno erbyn dau o'r gloch. Pan mewn hwyl bendithio am ragolygon teithio mor hwylus, deallwyd fod un oedd i gyd-deithio rhan o'r ffordd a ni heb adael yr ystafell wely. Yn y brof- edigaeth lem, bu agos i ni droi y llecyn He y safai y cerbyd arno yn fynydd Ebal mewn eiliad. T reth ofnadwy ar amynedd boreu-godwr mewn amgylch- iad fel hyn oedd aros cysgadur, yn nghymydogaeth naw o'r gloch, i rwbio ei lygaid, lasio ei esgidiau, a llyngcu boreufwyd. Colli y train, ac mewn canlyn- iad gynhadledd y Gymmanfa yn Talysarn, wrth ddisgwyl cysgadur Gyrwch y cerbyd i grogi, hyd yn oed pe byddai raid iddo ymlwybro ar ein hoi ar ei draed a'i ddwylaw, yr hyn fyddai ddifai cosbed- igaeth ar ddyn iach am wastraffu oriau gwerthfawr y bore. Na, yn wir, dyma y pechadur yn dod ar redeg; rhaid cymmeryd trugaredd arno eto. All right, a ffwrdd a ni nerth camau y march, nes yw y perthi a'r cloddiau fel edafedd o'n cylch ond mawr yr interruptio sydd arnom ar hyd y ffordd. Y mae pawb a phobpeth megis wedi ymgyngreirio i daflu rhwystrau o'n blaen. Yr oedd gyrwyr y troliau glo lluosog a'n cyfarfyddent mor glustfyddar a digyffro yn troi o'r neilldu, nes yr oedd amom awydd i yru dros eu penau. Gyda hyn yr oedd y gelltydd yn rhy ami o lawer wrth ein bodd, gan y gorfodid ni, er mwyn yr anifail, i araf gerdded drostynt; ac yr oedd yn rhaid ffarwelio a'r cerbyd gryn hanner mill- dir o'r orsaf, a'i gwadnu i fynu ac i lawr ar hyd y rhiwiau serth, a thrwy y llwch a godid yn gymylau tew gan y tro awelon, nes oeddym yn debyeach o lawer i felinydd neu scavenger na phregethwr. Dis- gwyliem bob cam glywed chwibanogl y train yn cyhoeddi yn wawdlyd ein bod yn rhy ddiweddar i'w fawrhydi ein codi; ond fel bu goreu y lwc yr oedd- em yn yr orsaf o'i flaen. Cafwyd ticket, ac i fewn a ni. Yn awr am sychu chwys oddiar y talcen, a'r llwch oddiar y ffenestri, modd y gallom gymmeryd survey o bawb a phob peth. Mae gwaen y menai yn las fel arfer, ond y maesydd o gylch wedi llosgi yn goch. Saeson gan mwyaf yw y cwmni sydd yn y cerbyd gyda ni, a rhyfedd mor anwybodus am Gymru yw llawer o honynt. Dyna ddyn mawredd- og yr olwg gyda condescending look fan yna yn gofyn os oes railway communication rhwng North, a South Wales. Pe buasai wedi ei fagu o dan dwba, nis gallasai wybod llai na hynyna am ein gwlad. Dyna frawd iddo eto yn brathu y I gaseg wen' drwy holi os oes train i ben y Wyddfa, a rhyw hen wag o Gymro yn ei ateb y gallai gael y train dan' os ewyllysiai, fel pobl eraill, gan feddwl dan droed bid sicr. Pan gyrhaeddwyd Caernarfon, taerai un o'r frawdoliaeth mai Felinheli ydoedd, ond gobeithiwn ei fod yn gwybod yn amgenach erbyn hyn. Gwrando ar ryw ignoramuses o'r fath oedd ein gwaith, a chwerthin yn ein llawes yn achlysurol pan elai y demtasiwn yn rhy gref i'w gwrthsefyll, nes cyrhaedd Caernarfon. Newid train yno. Mawr y twrw, y taeru, a'r perswadio sydd wrth yr orsaf gan fechgyn yr omnibuses-pob un am gael ei gerbyd yn llawn i fyned i orsaf y Pant. Deallwn mai y taeraf a'r mwyaf ei impudence sydd yn llwyddo gyda hyn, fel pob peth arall yn y byd hwn. Arbedid llawer o anghyfleusdra a thrafferth, a pheth traul i'r teith- wyr, drwy ddwyn y llinellau reilffyrdd i'r un orsaf yn Caernarfon. Heb lawer o ymdroi, cawsom ein hunain, gyda brodyr eraill, wedi ein I baehu wrth gynffon dau geffyl Uosgfanus, y rhai dan garlamu a'n llusgent drwy y dref, heibio y castell, a thros y Seiont, ac yr oeddym mewn shiffiad, ys dywed pobl Morganwg, wedi ein trosglwyddo i linell Caernar- fon a Portmadoe. Yno daethom o hyd i lawer yn ychwaneg o frodyr. Nid ydym yn eofio gweled train er ys talm yn llawnach o efengyl. Cyrhaedd- wyd pen y daith yn ddigon prydlawn i gael llun- iaeth, a brwsio peth o'r haenan. llwch oddiar ein dilladj cyn y gynhadledd; oni bai am hyny buasem o ran ymddangosiad yn gynnulleidfa o felinyddion. Y mae amgylchoedd tra rhamantus i Talysarn, fel i'r rhelyw o'r lleoedd sydd yn nghyffiniau Eryri. Tynir sylw yr ymdeithydd a ddaw yma yn fuan gan y chwareli llechi, Caer Engan, Mynydd y Cilgwyn, clogwyni ysgyrnog Talymignedd, Dyffryn y Nant- Ue a'r ddau lyn ar ei waelod, a chaerydcl uchel, serth Drwsycoed yn ei flaen, a'r Wyddfa tuhwnt ac uwch- law ar ei sedd oesol yn teyrnasu ar y cwbl, ac heddyw gwisga y cwmwl fel talaith ar ei ben henafol. Mae yr olygfa mor ofnadwy o fawreddog, nes y cyn- nyrcha yn ein calon ysbryd addoli 'Yr Hwn a seil- iodd y ddaear ar ei sylfaeni, fel na symmudo .byth yn dragywydd. Toaist hi a'r gorddyfnder, megis a gwisg; y dyfroedd a safent goruwch y mynydd oedd.' Bydd y rhan olaf o'r geiriau yn dyfod yn ami gyda nerth mawr in meddwl wrth syllu ar gerbvdau yr Anfeidrol yn olwynaw yn drwmlwythog dros ysgwyddau a gwarau mynyddoedd Eryri. Beth am ystyr Nantlle? Os beiddiwn goelio y chwedl, cododd helgwn wrth chwilio carw coch yn nhiriogaeth Llyn y Gadair angenfil aurgydynog o ymddangosiad mor ddyeithriol na welsai neb o'r trigolion ei debyg erioed, a bu amo helfa ddigyffelyb o galed, o graig i glogwyn, ac o fynydd i gwm, yn 01 a gwrthol, i fynu ac i lawr, strim, stram, strellach, bendramwnwgl dros y creigfuriau i gymydogaeth y Bala Deulyn; yno, fel y bu fwyaf yr anffawd, plan- odd hen fytheuad cawraidd ei ddannedd llym drwy esgyrn yr angenfil nes eu chwalu yn ysgyrion, a phan yn mhorth marwolaeth, dywedir iddo roddi y fath lef dorcalonus, yr hon a rwygodd y creigiau yn yfflon, fel y gelwir y nant hono byth wedi hyny yn Nant y Ilef--h.y., Nantlle. Gweithiau llechi yw bywyd Talysarn. Y maoyn myned rhagddo yn gyflym mewn adeiladaeth y blynyddoedd diweddaf. Godir yma dai. da, ac am. bell un o agwedd balasaidd. Y mae gan y gwahanol enwadau.ia4doldai destlus, yr hyn a brawf fod gan ddylanw.ad grymus ar galonan y trigolion. Heb son am la. presenol brodyr parchus yn y weinidogaeth, dywedwn y buasai yn dra chwith gennyl-a welecl gwedd ysbrydol Talysarn yn wahanol i hyn, arol pregethan grymus, a'r traddocliad mwyaf angerddol o honynt gan yr arch-bregethwr John Jones, dros lawer o flynyddoedd. Cawsom gynhadledd lewyrchns, o dan lywydd- iaeth y Dr W. Rees, Liverpool, hanes pa Ni a ym- ddangosodd eisioes yn y TYST CYMREIG. PaAddaeth achos tir capel fwriedid gael yn Chwarel Goch, rhwng Tregarth a Bethesda, ger bron, cododd hyny steam y frawdoliaeth i raddan anghyfiredin. Ai gwir fod Arglwydd Penrhyn hyd yma yn gwrthpd gwerthn darn o dir i adeiladu capel Ymneillduol i'w weithwyr ei hunan, er fod y cenhadon fn gydag ef wedi sicrhan fod oddeutu pedwar ugain yn barod i gychwyn achos yno, a thalu am y tir a'r capel drwy nerth yr egwyddor wirfoddol P Tybed fod ei arglwyddiaeth yn ofni y gwnai capel yn Chwarel Goch waghan yr eglwys newydd gyfododd gerllaw? Ai gwir,y si ar hyd y byd i'r Noble Loi-d ofyn i'r brodyr aeth ato o barthed i'r tir, os buont hwy yn nghyfarfod Cymdexfhas Rhyddhad Crefydd a gy- nhaliwyd yn Dinbych fisoedd yn ol, ac i Ap Fychan ddyweyd yn wynebgaled wrtho ei fod ef yn bleidiwr o galon i'r Gymdeithas, er nad oedd yn y cyfryw gyfarfod ? A ddarfu i dwrne rybnddio ysgrifenydd Cyfarfod Chwarterol Arfon i beidio ar berygl cosb- edigaeth a chyhoeddi yr ymdrafodaeth am y tir a fu rhyngddo a'r Noble Lord? Pwy ddaw i'r maes i ateb y cwestiynau uchod ? Hwyrach mai mab y pendefig urddasol, oddiar yr hustings yn adeg yr etholiad cyfEredinol sydd yn yr ymyl. Ai nid oes defnyddian seriw iawn yn y pethau a nodwyd pe byddent yn wirionedd ? Ac onid gwirionedd ydynt ? Gydwladwyr anwyl, 'does dim i wneud ond codi ati o ddifrif i fynu rhyddfrydwyr i'n cynnrychioli yn y Senedd, ac yna cawn gyfraith i orfodi gormeswyr crefyddol i roddi tir i adeiladu capelau, fel eu gor- fodir yn awr i oddef reilffyrdd i fyned drwy en heti- feddiaethan. Pan mae naw o bob deg yn y dywys- ogaeth yn Ymneillduwyr, y mae yn warth i ni fel cenedl fod neb yn ein cynnrychioli yn y Parliament all omedd tir i adeiladn capel enwadol arno. bar ha u.) .1" — -1
CYMANFA BRYNMAWR. r Mr. TYST,—Mae yn beth syn gan gymanfawyr na baech chwi yn trefnu i anfon reporter ir cymanfaoedd a'r cynnadleddau. Pe gallasem reportio buasem yn cynnyg ein gwasanaeth i chwi ar yr amod ein bod i gael ein talu yn dda; oblegid yr ydwyf yn sefyllyn dyn iawn dros i bob dyn gael ei dalu yn dda am waith da. Wrth gwrs pe buasem yn reporter da gallaswn wneud gwaith da. Nid ydwyf yn perthyn, fel y gwyddoch yn dda, i restr 'Ein Gohebwyr,' o'r De na'r Gogledd-a rhyng- och chwi a finnau, yr ydwyf yn credu llai yn y frawdoliaeth hono nag ydwyf yn berthyn iddi. Ond rhaid i chwi addaw ar eich gwirionedd goreu i beidio dyweyd pwy ydwyf onide gwae ni-a ninau nid ydym ond gwan ac eiddil. A pheth pwysig yw i un gwan fel ni i dynu locustiaid fel' ein gohebwyr,' am ein pen. Gwell genym o lawer syrthio i'ch bachau chwi, Mr. TYST, nac i'w dwylaw hwynt. Ond gwyddom y diangwn y tro hwn am fod genym berffaith hyder yn eich galln chwi i beidio dyweyd cyfrinach. Wel, bellach at y pwnc. Cymama Brynmawr, onide, sydd uwch ben ein llith? Cymanfa bedair 801 Annibynwyr y Deheudir yw hon. Cynhaliwyd 'hi ar y 29ain a'r 30ain o Gorphenaf. Lie go fawr a ptoblogaidd yw Brynmawr, ar derfynau Brychein- iog a Mynwy, heb fod yn mhell o Cwmtellery, lie y tybir i achos Ymneillduaeth gael y cychwyniad cyntaf yn y Deheudir, drwy offerynoliaeth milwyr a berthynai i fyddin yr anfarwol Oliver Cromwell. Ond nid awn i olrhain pethan fel yna ar hyn o bryd. Mae pob peth yn arwyddo fod ardal y Brynmawr ar ei gwaeth. Gall ei bod felly yn grefyddol.—Yr ydym yn sicr ei bod felly yn dymhorol. Mae y gweithian yn y He hwn yn myned ar eu gwaeth bob blwyddyn; mae gweithian y Blaenau i'r De o Bryn- mawr wedi llwyr sefyll, a chanoedd o deuluoedd wedi eu taflu allan o waith. Felly hefyd mae ,gwaitl1 Llanelli i'r Dwyrain o Brynmawr. Ond y mae gwaith Nant y Glo, perthynol i Crawshay Bailey, hyd yma yn cerdded yn weddol, er fod pob peth yn yr olwg ar y gwaeth fel Crawshay ei hunan, yn dangos ei fod yn myned ar ei waeth wrth hen- eiddio. Golwg wywedig iawn gawBomni ar waith Nant y Glo, a theimlem braidd wrth, edrych arno fod yn llawn bryd iddo gael retiro o fysg gweithian y wlad, fel ei berchenog yn retiro o fod yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Newport. Daeth lluaws mawr o frodyr yn nghyd i'r gyman- fa, yn wyr lleyg a gwyr lien. > Derbyniwyd hwynt gyda phob dyledus garedigrwydd gan weinidog parchus Rehoboth, a'r eglwys o dan ei ofal. Gyda Uaw, deallwn fod eglwys Rehoboth wedi enill gradd dda ym mysg yr eglwysi am ei charedigrwydd; ac nid yw yn ymddangos y cyll ei henw da y tro hwn. Yn wir yr oeddy derbyniad i'r dieithriaid yn llawn o garedigrwydd brawdol, ac yn llewyrchu clod ar Mr. Jones, ei gweinidog; oblegid ymddangosai i ni wedi taflu ei galon i'r achos ac yn llawn bywyd a sirioldeb. Cynhaliwyd cynhadledd am 10 o'r gloch y dydd cyntaf. Galwyd Daniel S. Lewis, Ysw. i'r gadair.— Ac mewn llawer ystyr nid oedd neb yn fwy teilwng. Yr oedd efe wedi bod flynyddoedd lawer yn aelod ffyddlon ac yn ddiacon gweithgar yn Rehoboth, er ei fod wedi symud yn ddiweddar i Mynyddislwyn. Dyn rhyfedd ydyw Daniel Syse Lewis. Dyn ar ei ben ei hun yn gwbl. Mae ei ddonian fel y mor yn dygyfor, a'i ffraethineb fel tonau tryohionog yn ym- dori ar draws rhyw un, neu rywbeth yn barhans. Nid oes waelod i dro-bwll ei ddyweyd. Wrth gwrs, mae cynyg darlunio dyn ag sydd yn gwbl ar ei ben ei hun yn ormod gorchwyl i m"-ao yn wir, ni bnom ni yn ceisio gwneud peth felly erioed, ac y mae gen- ym reswm digonol dros teidio-a hyny yw ein bod yn gwybod cyn deehreu mai failure fyddai. Ond gallwn ddyweyd rhyw beth am dano. Dyn yw o faintioli canolig—yn tueddu at y llydan a'r corfforol o ran ffurf, ond heb fod yn mhell o gyfartaledd Cymry yn gyfiredin o ran taldra. Mae o ymddang- osiad boneddigaidd-ei wynebpryd fel rheol yn siriol, er ar rai adegau yn gallu fflachio digter. Mae o yn ddyn fedr wneud gelynion a chyfeillion: efallai ei fod yn byw yn gyffredin rhwng y ddau. Gall gad- eirio yn dda os ewyllysia,—er i'n bryd ni y byddai yn well cadeirydd i Eisteddfod nag i gynnadledd 6 weinidogion a diaconiaid yn ymgyfarfod i ymdrin a phethau cysegredig crefydd. Er o droi at y cellweir- us os yw hyny yn ganiataol o gwbl mewn cyfarfod o'r fath, ar y cyfannid oes neb a all ei gario allan yn fwy humorous na D. S. Lewis. Eto rhaid i ni gyfaddef ein bod yn hollol gydymdeimlo a'r sylw a wnaed gan gan un o'r gweinidogion—y buasai yn dda pe buasai mwy o ddifrifoldeb yn cael ei daflu i weithrediadau y gyn- nadledd. Ond y peth oedd yn ein taro ni yn fwyaf anghydnaws a rheolau y gadair oedd, fod gormod o arwyddion perthynu i ddyn plaid yn awgrymiadau y cadeirydd. Nid am nad oedd efe yn rhoddi eithaf chwareu teg i bawb i siarad a dyweyd ei feddwl, nao am ei fod chwaith yn dangos un pleidgarwch yn rhoddiad penderfyniadaujjy gynnadledd i'r cyfarfod. Nid oedd yn bosibl i gadeirydd i weithredu yn fwy teg yn hyny na chadeirydd y gynnadledd hon. Eto, pan y Uefarai, yr- oedd yn amlwg ei fod yn perthyn i blaid, a'i fod ef a'i blaid yn deafi. eu gilydd yn dda. Nid ydym yn ei feio am fod yn perthyn i blaid, oblegid pa wyr na cheir yn perthyn i ryw blaid pan y byddo ymbleidio yn bod. Gwell genym ni ddyn a ddangoso ei ochr pa beth bynag a fyddo na'r llwfr- ddyn a fedr fod yn ddyn pob plaid. 'Eto, yn ol ein syniad ni am bethau, buasai traethu llai ar achos ei blaid mewn cyfarfod lie yr oedd mwy nac un blaid yn fwy cydweddol ag awdurdod ac anrhydedd y gadair. Ac i'n bryd ni nid oedd yn bosibl i achos y symud- iad dau canmlwyddol yn neillduol, yn ei berthynas a'r rhai sydd wedi bod yn fwyaf llafurus gydag ef, gael ei ddangos mewn goleu mwy anheg ac anghywir na'r modd y dangosid ef gan y cadeirydd. Yr ydym ni yn gwadu yn yr iaith gryfaf gywirdeb ei awgrym- iadau. Ac yn dal allan—ie, yn dyweyd ar goedd gwlad fod y symudiad hwnw wedi cael ei gychwyn a'i ddwyn yn mlaen mewn ffordd mor deg a chyfan- soddiadol ag y dygir un symudiad yn mlaen gan yr enwad Annibynol. Aeth drwy holl gwrs sefydliadau yr enwad. Bu yn destun ymddiddan ac ymddadleu a phleidleisio yn rhydd a theg bron yn holl gyfun- debau a chyfarfodydd chwarterol a chymanfaoedd yr enwad. Yr oedd y cymanfaoedd fu yn pasio pen- derfyniadau arno, yn gwneud hyny mor gyfansodd- iadol o dan lywyddiaeth dynion wedi eii galw i'r gadair drwy bleidlais y gynnadledd, ac felly yn meddu ar lawn gymaint o awdurdod—dim mwy na dim llai na chadeirydd cymanfa Rehoboth, Bryn- mawr. Mae yn beth syn genym ni fod y brodyr sydd wedi bod ychydig yn flaenllaw gyda'r symud- iad hwnw, yn goddef yr holl erlid a'r trin a'r cablu sydd wedi bod amynt. Ac yn wir, yr ydym ni yn amheus iawn o degwch a boneddigrwydd ensyniad- au y cadeirydd i'r gweinidogion. Gallesid meddwl nad ydynt yn gwneud dim yn eu cynnadleddau ond pasio penderfyniadau i dynu yr eglwysi ar diacon- iaid i ofid. Ac yr ydym yn llwyr gydymdeimlo a'r sylw y gwron o Bangor, sef, fod y gweinidogion wedi bod ac eto yn bod a'u hysgwyddau yn llawn mor dyn o dan yr achos ag ydyw ysgwyddau ein diaconiaid. Nid oes un dosbarth yn yr eglwysi yn ol eu hamgylchiadau yn gwneud mwy, nac yn fwy parod i fyned o dan gyfrifoldeb arianol mewn cys- sylltiad ag achos y Gwaredwr na'r gweinidogion, er eu bod, fel yr awgrymai y cadeirydd, yn cael llai o arian na braidd neb yn yr eglwysi. Heblaw hyn oil, nid ydym yn sicr fod rhoddi rhyir lectures ysgab- rivth i'r gweinidogion yn gweddu un o safiad ac urddas y cadeirydd—yn enwedig pan y gwneir hyny o flaen rhai nad ydynt feallai wedi talu gormod o sylw i'r gorchymyn—'parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus.' Heblaw hyny yr ydym ni yn amheus iawn o'r hyn a ddywedai y cadeirydd o barth i hawliau y gwein- idogion i anturio ar yr eglwysi yn achos yr Efengyl. Ai gweision y Duw goruchaf ydyw yr unig rai na allant anturio ? Onid ydyw pob rhan o'r weinidog- aeth yn anturiaethol? a raid i weision Crist ofni anturio dyweyd wrth yr eglwysi, a chymell ar yr eglwysi gynlluniau i weithio allan yr Efengyl tu allan iddynt eu hunain, yn gystal a'i gweithio yn- ddynt eu hunain. Onid yw y naill yn anturiaeth fel y Hall? Yn wir, y mae genym ni i ddysgu ei bod yn ddyledswydd amom i ofyn i'r eglwysi pa un a wnant hyn neu arall yn ngweithiad allan achos cyhoeddus yr Efengyl, mwy na gofyn iddynt pa un a wnant weddio neu beidio. Mae pob gweinidog neu o leiaf dylai pob gweinidog fod yn gorfforiaeth byw o bob peth sydd yn tueddu i weithio yr Efengyl allan. Dylai ddyweyd wrth yr eglwys am wneud un peth a phob peth a famo efe yn angenrheidiol er dwyn achos mawr y Gwaredwr yn mlaen. Ni ddylai orfodi yr eglwys i'w gynllun ei hun pe y gallai. Ond byddai yn gamwedd ynddo beidio dyweyd wrthi. Digon iddi yw fod ganddi ryddid i beidio gwneud ond fel yr ewyllysio ei hun.—Ond iddi gofio ei bod hi a'r gweinidog i roddi cyfrif i Feistr y gwaith. Yr ydym ni yn credu fod gan unrhyw berson neu rifedi o bersonau hawl ac awdurdod ddwyfol i alw sylw yr eglwysi at unrhyw fesur a farnant yn fanteisiol i weithiad allan yr Efengyl heb fod achos iddynt aros i ofyn cenad neb i hyny. Ac o'r braidd yr ydym ni yn gallu cydolygu a'r cadeirydd yn.ei syniadau ar gynnrychiolaeh eglwys- ig. Mae cynnrychiolaeth o'r fath a awgrymai efe yn fwy cydweddol a henaduriaeth nac ag Annibyn- iaeth. Ein cred ni am yr eglwysi Annibynol yw y byddai cynnrychioli eu gallu i gynnadledd yn angeuol i'w hannibyniaeth. Gallant, os byddant yn ewyllysio, anfon eu teimlad ar unrhyw achos drwy unrhyw berson i unrhyw gynnadledd. Ond nis gallant oddef i neb wneud dim fyddo yn eirhwyino heb roddi i fynu ei hannibyniaeth. Nid pender., fyniadau mwyafrif cynnrychiolwyr mewn cynuacl, ledd, sydd yn gosod rhwymau ar eglwys Annibynol i weithredu, ond penderfyniad y mwyafrif ynddi hi ei hun. Ni ddarfu i ni erioed godi ein llaw gydag un penderfyniad mewn cynnadledd a ystyriem yn rhwymedig ar yr eglwys y perthynem iddi. Ac yn wir nid fel gweinidog eglwys yr ydym yn aelod o gynnadledd o gwbl, ond fel aelod o gorif dirgeledig Crist. Yr ydym yn edrych ar bob penderfyniad'ag y rhoddwn einllais ynddo yn beth i'w weithio genym ni ein hunain yn yr eglwys ac allan o'r eglwys, yn ni ein hunain yn yr eglwys ac allan o'r eglwys, yn ol fel y cynnorthwyir ni gan yr Arglwydd. Tra byddom ni yn credu yn y peth, dylem arfer pob moddion teg i'w weithio allan. Ond os na bydd yr eglwys yn credu ynddo, nis gallwn—ac nid ydym yn credu mewn gorfodi yr eglwys iddo o gwbl. Eto, yr ydym yn credu fod gan unrhyw nifer o bersonau hawl i gymell ar yr eglwysi bob peth a farnant yn wirionedd mewn egwyddor ac ymarferiad. Mae yn go debyg yr ystyria y cadeirydd fod y penderfyniad- au y cydunwyd amynt yn nghynadledd Rehoboth, o dan ei lywyddiaeth ef ei hun, yn gyfansoddiadol, ac mewn grym ac awdurdod-ac eto, yr ydym ni yn gymaint o Annibynwyr ag i haeru nad oes un eglwys Annibynol yn Nghymru yn rhwym o weithio y pen- derfyniadau allan os na bydd yn ewyllysio, er eu bod yn dwyn gyda hwynt awdurdod mor uchel ag eiddo^ y cadeirydd o'r gynnadledd anrhydeddus o dan ei lywyddiaeth. Yr oeddynt yn benderfyniadau rhwymedig yn unig ar y rhai fu yn eu gwneud, Eto, mae y rhai a'i gwnaethant yn meddu ar ber- ffaith hawl i fyned allan i ofyn i, a chymell y byd a'r eglwys eu cynnorthwyo i'w cario allan. Fel hyny, ac fel hyny yn hollol, y gweithredwyd yn yr achos dau canmlwyddol. Ac yr oedd gan y rhai a wnaethant hyny lawn gystal hawl i hyny ag oedd gan gynnadledd o dan lywyddiaeth ein parchus gadeirydd yn Rehoboth. Ond yn unig iddynt gofio fod eu penderfyniadau yn rhwymedig amynt hwy eu hunain ac nid ar yr eglwysi, hyd nes gallant enill yr eglwysi iddynt. Wrth hyny nid oes dim yn gam- weddus mewn bod cynnadledd yn cytunno ar ben- derfyniadau.—Mae hyny yn hawl gynhenid person neu nifer o bersonau fel dynion crefyddol. Gwn- elai y cadeirydd yn dda i chwilio i mewn yn mhell- ach i annibyniaetli yr eglwysi, a hawliau cynnadl- eddau. I'n bryd ni, mae y naill a'r llall yn hollot annibynol. Nid yw y gynnadledd yn rliwym o (■aros am ganiatad yr„ eglwysi i wneud y pewt a farn- ant yn angenrheidiol i gario allan achos yr efengyl —ac nid yw yr eglwysiyn. rhwym i gario allan ben- derfyniadau cynnadleddol. Ond dichpn Mr. TYST, eich bod yn dechreu edrych am y gwellaif gael tori, ymaith hanner ein llith.— Ond rhaid i ni erfyn afrioch i fod yn amyneddgar. Pe y gallai ein cynnadleddau^dcieaM eu gilydd yn well, diau y gweithient yn well. A byddai llai o alw "clique ar eu gilydd yn mysg ein gweinidogion. Hyderwn na feddwl neb ein bod mewn un modd am awgrymu gair yn anffafriol i'n cadeirydd parchus fel dyn; Nid oes ei garedicach ef yn Ngwent na Morganwg na Mon. Ac y mae o ar hyd ei oes wedi bod yn Ymneillduwr trwyadl. Felly, hynyna ar y cadeirydd. Fel yr awgrymasom, yr oedd eynhulliad lluosog yn y gynnadledd o weinidogion a diaconiaid; ac ar y cyfan yr oedd yr ysbryd goreu yn llywodraethu. Bu yno siarad brwd ar Goleg newydd yr enwad. Ond y pwnc mawr oedd pa fodd i gael arian i'w gario yn mlaen. Wrth y cyfrif a roed gallem feddwl fod rhai o'r siroedd heb wneud ond yn nesaf i ddim ato. Wrth gwrs, chwiliwyd achos y Coleg i'r gwael- odion. Awgrymwyd rhyw beth am y trust-deed, pryd y dywedwyd gan Mr. Thomas, Glandwr, nad oedd dim wedi ei wneud eto yn ffordd y trust-deed, -ac mai tegwch yn cil ei farn ef oedd gadael yr achos hwnw heb ei wneud nes y byddo yr arian wedi dyfod i mewn,—ac yna cael cyfarfod cyhoeddus a rhydd i bawb fydd wedi cyfranu at y Goleg newydd i gael llais yn ngwneuthuriad y weithred fydd yn diogelu yr eiddo i'r enwad fydd wedi talu am dano. Gallem ni feddwl fod' yn amhosibl bod dim yn fwy teg na hyny. Ac yr oedd yn dda genym weled y peth yn cael ei dderbyn mor esmwyth gan y gyn- nadledd. Pwy ddylai gael llais yn niogeliad y Coleg ond yr eglwysi a'r personau fydd wedi talu am dano ? Hyderwn y bydd i'r ymddiddan rhydd fu ar achos y Coleg fod yn foddion i gael gwell dealltwriaeth yn ei achos. Gallem feddwl wrth swn y gynnadledd, fod y Coleg newydd yn rhoddi perffaith foddlon- rwydd i'r wlad. Bu amryw faterion eraill o dan sylw yn y gyn- nadledd, ac oni buasai fod ein llith eisoes wedi rhedeg yn faith buasai yn dda genym wneud ychydig sylw- adau arnynt. Ymddengys i ni y gellir gydag ychydig iawn o drafferth, wneud ein cynnadleddau yn allu llawer mwy pwysig nag ydynt wedi bod hyd yma. Eto, nid ydym yn cytuno a'r personau sydd byth a hefyd yn eu rhedeg i lawr, ac yn taeru nad ydynt wedi gwneud dim lies. Ond cyn y deuant mor effeithiol ag y dylent fod rhaid yn 1. Eu cael yn gynnadleddau cwbl rydd oddiwrth ysbryd plaid. 2. Rhaid cydnabod eu hawdurdod fel corfforiaeth- au annibynol i rwymo y rhai sydd yn cymeryd rhan yn eu gweithrediadau, a neb ond y rhai hyny. 3. Rhaid i'r rhai sydd yn cymeryd rhan yn eu gweithrediadau deimlo eu bod yn rhoi llais mewn penderfyniadau i'w cario allan, er nad ydym ni yn credu dim yn hawl y gynnadledd i rwymo yr eglwysi i'w chynlluniau. Eto, mae pob peth yn dangos y dylai y rhai sydd yn pasio y penderfyniadau eu gweithio allan hyd eithaf eu gallu. Dichon mai bai mawr ein cynnadleddau ydyw pasio penderfyniadau i'r wasg ac nid i'w gweithio allan. Hyderwn fod amser gwell yn eu haros. Yr ydym hyd yma yn gadael digon o le i wella. Ar y cyfan dygwyd gweithrediadau y gynnadledd hon yn mlaen mewn ysbryd hynod o dangnefeddus. Siaradwyd yn hynod o rydd. Fel arferol yr oedd yr opposition yn opposition, a'r weinyddiaeth yn weinydd- iaeth. Gallasai, a dichon y dylasai fod mwy o ddif- rifoldeb yn nodweddu ei gweithrediadau, fel yr aw- grymwyd gan un o'r brodyr ar y pryd. Eto, yr ydym ni yn credu i waith mawr gael ei wneud, a chawn ein siomi os na. bydd effeithiau daionns yn ei dilyn. Yr oeddym wrth gychwyn ein llith yn bwriadu gwneud ychydig o sylwadau ar y gymanfa a'r pre- gethu, ond rhaid i ni ymatal.—Yn unig awgrymwn ein bod yn credu yn ddwfn yn mhregethu ein cy- manfaoedd. Mae ein cenedl ni yn ddyledus iawn i bregethu y gymanfa am y peth yw hi mewn ystyr grefyddol. Eto, credwn y gellir gwneud y pregethu yn llawer mwy effeithiol. Ymddengys i ni fod ab- senoldeb cynllun yn ein dull o gario yn mlaen ran bregethwrol ein cymanfaoedd. Dichon fod rhy fach o gyfartalu y pregethwyr yn y cyfarfodydd; aco'r braidd y gallwn ni ddyweyd ein bod yn credu yn y trioedd pregethwrol. Hefyd mae llawer rhy fach o arwyddion llafur a meddwl yn y pregethau. Gor- mod o edrych am hwyl. I'n bryd hi byddai yn well- iant ar ein trefn bregethwrol pe yr ymddiriedid trefnu y pregethu i bwyllgor appwyntiedig gan y gynnadledd na'i ymddiried i weinidog y lie. Nid pob gweinidog sydd yn meddu ar y cymhwysder gofynol at beth o'r fath. Ond cofier nad ydym yn cyfeirio dim at gymanfa Rehoboth mwy na phob cymanfa arall. Nid ydym ni o'r rhai a ddymunai weled ein cymanfaoedd wedi eu troi yn gynnadledd- au. Colli bywyd cymanfaoedd Cymru fyddai colli eu pregethu. Eto, yr ydym o'r fam y gellir yn y naill beth a'r llall ddwyn gwelliantau pwysig i mewn'. Cyn terfynu goddefer i ni ddyweyd i ni deimlo lies dirfawr. Os na chawsom bethau mawrion cawsom bethau da-os nad oedd y pregethau o'r first class, yr oeddynt yn efengyl. Hyderwn y bydd bendith y Goruchaf yn dilyn gweithrediadau y gymanfa hyd byth. Arhosed ei heffeithiau daionus ar eglwys Rehoboth a'r eglwysi cylchynol a'r wlad. Bedydd- ier y gweinidogion a'r diaconiaid ag Ysbryd Sant- aidd yr efengyl oeddynt yn bregethu. UN OEDD YNO. [Gymmanfa LI(tityefni-gevel tudalen 6.]
Cyfarfod Dhvygiadolyn Harlech. AREITHIAU Y GOHEBYDD A DR. REES. Derbyniwyd y Gohebydd gyda sirioldeb mawr. Dywedai—'Does gen i am wn i ddim newydd i ddy- weyd wrthych. Mae gan y rhan fwyaf o honom ni yma votes, ac mae'n bwysig iawn i ni ddeall cwes- tiwn mawr yr etholiad. Ni bu erioed gwestiwn a mwy o eisieu ei ddeall yn drwyadl. Yr oeddwn i yn myn'd trwy'r Bala bore heddyw, a gwelais, rhyw hen frawd, yr, hwn a ofynai i mi—'Wei, y Gohebydd, bethpe buasai dim ond Tories yn myn'd i'r Parla- ment yn y lecsiwn nesa yma ?' Wir,' meddwn innau; buasai yn beth sobr ofnadwy! (Chwerthin mawr, ond y Gohebydd mor ddifrifol a phe byddai ar farnu'r byd.) 'Rhoswch chi rwan, mechgyn i, nid peth i chwerthin yn ei gylch ydyw hwn. Y mae o yn fater pur bwysig-pwysig i'r deyrnas. Yr ydan ni oil yn cyttuno y.dylid gwneyd rhywbeth i'r Irish Church. Fel y dywedai Lord Russell—' It has be- come a national crisis of tlte greatest importance. Nid peth newydd ychwajth ydyw y owestiwn yma. Dy- wedodd Cobden, ugain mlynedd yn ol—dyn craffiawn oedd Cobden—dywedodd Cobden, ugain mlynedd yn ol, fod yn rhaid cael dadgyssyiltiad yn yr Iwerddon. Ddaru ni ddim meddwl fawr am y Gwyddelod dan yn ddiweddar yma. Yr oeddan ni yn gwybod mai rhyw hen scoundrels anfoddloil oeddan nhw yn myn'd trwy'r wlad. (Chwerthin mawr.) Ond dyma eiriau Cobden ugain mlynedd yn ol-darawais arnyn nhw ymysg rhyw hen bapurau oedd gen i—' There cannot be prosperity for Ireland until the temporal position of the two Churches are put on an equal footing^ (Clywch, clywch.) Y Mae pawl) bron o'r un fam a Cobden ■erbyn hyn. Yr oeddwn i yn Cinoinnatti flwyddy*a hanner yn ol, ac yr oedd yno Fenian demonstratiM'l Yr oedd un o'r Priests yn rhoi pregeth ar The wrott§5 of Ireland? Euthum i wrando arno, o blegid P oeddwn yn awyddus am wybod beth oedd y wrongs <f stand point y Gwyddel. Soniai am y Tenant LtiyhU* > &c.—ond cwyn y boy hwnw (chwerthin mawr) yr Eglwys Sefydledig. Dywedodd Lord Stanley 7",j Bristol—■' Ireland is the question of the day. hoeddodd Lord Russell bamphlet ar y pwngc—s$$^| fellow ydyw Russell—a'i blanef i'w benderfrntt oed" jqtts equality (cydraddoldeb crefyddol), trwy ranæ\ y degwm rhwng yr 1illwadau yn ol eu lliosogrwydw sef 15s y bunt i'r Pabyddion, a 2s 6c y bunt i'rPr^J byteriaid, a 2s 6c y bunt i'r sawl sy'n cael y cv^'i yrwan. (Chwerthin mawr.) and fe roes Lord R1l8" J sel ei bolicy i fyny pan welodd y gwynt yn ei erb,J11; Yna daeth Disraeli ymlaeri with a truly liberalpolic-Ui a chododd y minister for Ireland, Lord Mayo, i ago ei siop ar y mater (chwerthin mawr) gyda'i measures for Ireland.' Gwaeddai hen frawd wedi colli tipyn arno ei —Whigs yda ni i gyd yma! (Chwerthin ofnadwy-/ Y Gohebydd-Un ar unwaith, machgen. Y lei':J. illgup policy oedd gan Disraeli. I We are not gott to destroy,' ebe Disraeli, I bitt to create.' hyny ? Wel hyn-fod yr Eglwys yn yr Iwerddon1 aros fel y mae hi, a chodi Pabyddionj'r un sefyllffj ychwanegu cryfder arianol at Babyddiaeth i'w wnej" yn gydstad a'r Eglwys Sefydledig. Ond dyma hot Gladstone a Bright—gosod pob plaid ar yr un titl, trwy beidio rhoi cymmhorth i'r naill na'r llall-' gadaeli bob dyn fyw ar ei bupur ei huu.' (Chwet' thin a banllefau.) Troes y gwynt yn erbyn yjevelltft up policy. Dyna oedd policy yr hen Beel; ar yr egwyddor y telir 30,000p. at gynnal y Mayn College, nid allan o bocet Disraeli, 'does gan hwnl, druan fawr o bocet (chwerthin), ond y ni sydd y? eu talu -bob blwyddyn. A beth feddyliech chi fyddØ cost y levelling up policy. Yr wyf yn ei ddyweyd awdurdod Earl Russell—y mae hwnw bellach o'r farn a Gladstone—costiai dair miliwn o bunnau gynnal Pabyddiaeth, a 300,000p. at gynnal Presbf teriaeth. Pa beth a wnewch chwi ? A ydych chi foddion i dalu tair ceiniog yn y bunt o Income Tax, swllt y pwys yn fwy am de ? Os ydych chi, pleid, iwch y levelling up policy.' (Bloeddiadau,' Na wna# ni.') O'r goreu. A fedrweh chi votio i ddyn pleidia ? (I Na wnawn!') Purion. Peth sobr iaØ i'n gwlad ni fyddai i Disraeli gael y mwyafrif yn ft etholiad. Ymrowch ati hi, frodyr. Os am neutrals, ewch attynt i'w hargyhoeddi cyn my»'^ i'ch gwelyau heno, os yn bossibl. Mynwch argy hoeddi pob etholwr difraw mai ei ddyledswydd ydft cefnogi y gwr a gefnoga Gladstone. Yr hen frawd ysgafn-ben etto-Da machgen K Da iawn. (Chwerthin mawr.) Y Gohebydd—Rhaid i mi dewi yrwan, ac mae gefJ i bob hyder y llwyddwn i ennill y fuddugoliaeth f tro hwn. (Banllefau hirfaith.) Dr Rees a alwyd nesaf, a derbyniwyd ef gy& hwre! daranllyd. Nis gwn pa awdurdod, meddak sydd gennyf i sefyll yma, oblegid I dyeithriad 0 dyfodiad' wyf yn eich plith, heb gennyf bleidlais f y Sir o gwbl; ond gallaf ddyweyd hyn wrthych, pØ. buasai gennyf gant chwi a'u cawsech gyda chroeo a llawenydd calon. (Banllefau.) March of the oO of Harlech'—the men of Harlecll-Ardudwyr-ch wyddoch yn dda am y don yna sydd wedi gwneu4 ei hun a Harlech yn enwog trwy'r byd cerddoroli a'r hyn a ewyllysiwn wneud fyddai codi ar wy1 Meirion lonaid eu calon o ysbryd yr hen don filvm aidd ac arwraidd yna erbyn yr ymdrech fawr sydd gerllaw. (Banllefau.) Yr ymdrech fwyaf pwysig i'n gwlad yn ein oes ni; ac fel y cyfeiriwyd ganf Gohebydd, y mae'r pwngc yn un difrifol—ac y roaØ arnom angen meddwl difrifol, a theimlad difrifol wrth ei drafod. Y mae'r amser hwn yn bwysig-1 mae dygwyddiadau pwysig yn ymyl, ac y mae 0r pwys mwyaf i bob un lenwi ei gylch fel dinesydd-^ fel aelod o'r wladwriaeth. (Banllefau.) Amsef pwysig ydyw i'r wlad—i'r genhedlaeth bresenol, 3G i'r cenhedlaethau dyfodol; amser pwysig mewo perthynas a holl deymasoedd y byd; y mae llygail teyrnasoedd ar Brydain Fawr y dyddiau hyn-1 maent ar flaenau eu traed yn edrych ac yn gwranao pa bryd y daw dydd y frwydr i ben, a pha beth fyio. y canlyniadau. Y mae gan bob un rhywbeth i'* wneud—ie, pob un sydd heb bleidlais-dros yr achog pwysig hwn, i helaethu terfynau y wybodaeth so amgylchiadau ein gwlad, ac i geisio ennill eraill rit hystyried yn briodol-i greu yr ysbryd gwrol ø phenderfynol hwnw-ysbryd na bydd dyn yn foad, Ion iddo ei hun heb deimlo ei fod yn ddyn. (Ba. llefau.) Y mae'r Gohebydd wedi dangos i chwi '1 eglur natur y pwngc dan sylw—yr Eglwys Wyi elig-ac ni ymhelaethaf arno, oddigerth i ddyweyd ei fod yn bwngc y mae'r byd yn edry^ arno fel gwaradwydd i'n gwlad; byddai JTI iech?J i'n gwlad, i Brotestaniaeth ein gwlad, pe y gwarthrudd yna oddiarnom. Y mae arnom$ eisieu gweled yr Eglwys Sefydledig yn llwyddo x bell ag y mae a fyno hi a'r gwirionedd, ond lwyd$ hi byth tra y bydd yn y gefynau—rhaid rhwymau eu gwddf, ae ymysgwyd o'r cawynøtJ sydd wedi ei chaethiwo am yspaid tri chan' mlp edd. Pa beth a wnaeth hi erioed? Y xnae hi fD darfod o ran ei dylanwad! Y mae hi yn llai ei gryf yn awr na phan y sefydlwyd hi gyntaf. Wei oes achos' am y peth yma ? Y mae'r pwngc we# dyfod i Fexrion fel y bu yn Nhy y Cvffredia—rhm iddo fyn'd trwy'r Ty eto, a dymVyr a ofS chwi—A roddweh chwi eich hysgwvddau i'W wfb# drwy'r Ty. (' Gwnawn,' a banUefauf) Na fyddeT Sir Feirionydd rhag ei chywilydd a'i gwarth trtf gywyddol roddi llais croes i'w chydwv'ood cynrychiolydd wedi myn'd i'r Sened<i drosti'hvd yn groes i w chred a'i chydwybod; ond beM myner xddx hi gydwybod iach, rydd,-4attode' rhwymau xau yr hen Sir anwyl, fel y gall godi f sythu, ac edrych 1 fynu a gwyneb agored. (Banllft .) Uwnewch yr oil a fedroch i symmud vmai^' arswyd y scriw. (Banllefau.) 0 ran hyny loose scA ydyW mwyach (chwerthin); nis gall byth eto wfi^v yr nyn y mae wedi arfer wneud. Y mae hi ws'r myn'd yn ormod o'r dydd arno. Y mae public opiltiO yn rhy gryf yn ej erbyn. Bu y scriw fel llew, erbyn hyn y mae ef wedi myn'd yn gath. (Chwerthiw Ac yn sicr nid oes arnoch ofn cath (ChwerthiiK Dywedir yn hanes John Williams, y cenhadwr, cath ar un amgylchiad wedi diangc i'r lan o'r llo»| genhadol, pan wedi angori yn ymyl un o'r gwledy^ paganaidd. Nid bedd y brodorion erioed wedi gwe^ cath cyn hyny. Creodd y fath ddychryn fely ty* xwyd fod rhyw fwystfii ofnadwy we^ dyfod W gwiad. (Chwerthin ) Dygwyd y peth dan syl*1 11 j s brenhxnol, a phenderfynwyd i anfon arfog ar ol y gath. (Chwerthin mawr.) Aeth t fyddin allan, a ehafwyd fod y gath wedi diang" rhyw gastell. Aeth y nulwyr i fewn yn grynedig^ hwy yn ofrn r gath, a'r gath yn eu hofni hwytb> Gwelwyd ygath mewn cilfa^ ac o r diwedd mentrodd rhai o r milwyr gyfeirio J\ ° pUf4u hi druan; ond gyda hytff ti-hw! ti-hw! ebe r gath, a ffwrdd a nhw—ffois^ ar draws eu gilydd am eu bywyd! (Chwerthin .0,1 fawr.).; Ond pe buasai'r ffyliaid wedi dywe^ l- TV touisai'r gath yn eithaf dyogel a berygl. W l, cath bellach yw y scriw, ac nid o, angen i chwi y tro nesaf yma ond gwaeddi ti-h' ac efe a fly yn ddigon pell oddiwrthych. (Chwertb^1 a chymmeradwyaeth.) Dyma'r trydydd tro, trydydd tro y bydd y goeV—gwnewch ef yn g°e penderiynweh ennill y gamp. Danfonwch y gw"r 0 Gastell Deudraeth i St. Stephen, i ddangos aUf farn a chydwybod pobl Meirionydd yn y Senedd (Banllefau hirfaith a thrystfawr.)