Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
x YR HEN DY A'R TY NEWYDD.
x YR HEN DY A'R TY NEWYDD. L. j ei Mawrhydi oruchwyliaeth y ar y senedd yr wythnos ddiweddaf, ac YInwasgarodd yr aelodau oddi wrth eu gilydd, aeth *'w ffordd ci Imn. Gweinidog- f° ddifrifol i lawcroedd o'r aelodau oedd ^_einitl0gaetll y datodiad. Teimlai lliaws yn bodaU groesi troth.wy Ty y Cyffrcdin eu odid fawr yn myned allan byth i ddy- hon ^Ilo mwy > ac yr °edd yr ystyriaeth «Uo» Un c^"werw ofidus i lawer un. Y mae pecliod Ogof Adulam yn dilyn am- iol e* Zys$od> ae Jn boeni fel drych- .yr • Yr oedd cymmaint o'i ofn ar dywysog v.. c* tun, Iarll Grosvenor, fel y ceisiai ft YBlO'ir bUio o faes y gystadleuaeth ctholiadol yn d f6.1^6011 yn y1" etholiad dyfodol, rhag y «[ ai i y^PTd euogrwydd yr Ogof gyfarfod' e 5 ond llwyddodd ei gyfoillion yn yddiaas sy«imud ei ofntlu i raddau, fel y mae yn barod aiitulio. m y mae Mr Horsman yntau mewn dychryn ^ychan rhag i'r camwedd hwnw droi yn a chwymp iddo yn yr etholiad nesaf yn s- l01ld> ae ymddengys fod sail dda i'w ofnau .1 *ys 7x1(1 yw y Stroudiaid wedi anghofio axn- l jytusedd yr Ogof. Trueni hcfyd fyddai cadw ^^orsm^ alhm 0'r Ty, eanys y mae yn ddyn j, dalentau a ehyinmhwysderau gwychion fel ^neddwv ac yn Rhyddfrydwr da ar y cyfan, ei fod yn agored i ryw ffitiau a strangciau tyn awr ac eilwaith. I. Dn arall sydd a'r gwewyr yn ci fola yn drwm ydyw Roebuck, yr hwn, os credir ei ystlolaeth am dano ei hun, ydyw y doetliaf, • y Sallllocaf3 y mwyaf eiddylanwad, °i'ol ydd%dwr mwyaf trwyadlac cgwydd- ^Iaen°f seneddwyr yr oes hon, a'r oesau o'r _yil J!" 0nd y drwg- yw, ni fyn yr etholwyr b ) Yn heff1eld, lawe1'oocld o honynt, ei gredu; a Thy11 erfyaa^t gael gwared o hono, a chael na» ef' 1 Symnieryd ei le wldynt, medd-vvn ni. Tiier^ton-'1 f s°kedd. ddiweddaf pi 'Dy Pal- llaW fa^ a'i gaiwodd ynghyd, ac yi- oedd ei gVf 1 d(1ylanwad ei enw ef yn ffurfiad yndd anSOddiacl; yr oc^ llawer o'i yspryd y uelf?0 0,i.ddelw arno- 0nd Ty i)wy fydd Ty Disraeli, yntau Ty Gladstone? 5" *>od yn arglwydd ar y Ty hwnw ? 5^1 yr etholiad nesaf sydd i atteb y a phedderfynu y. pwngc. Y mae au y ddau' yn awr o'i blaen, a gelwir ^erfJvf11 yr e^° flwyddyn hon heibio, i ben- PWv ai'n°" Y mae cysgodion y digwyddiad flaeu. ° e^10^ad cyfFredinol yn ymdaflu o'i a ^.r°s y wlad. Mawr ydyw y parotoadau 5" 8°Syfer a'r amgylchiad yn: mhob man. HerthC (Uwy ^lald ar eu Soreu y11 casglu eu *ydd°°«d> uc yn trefnu eu mesurau a chyn- liy^ a Wna y dyddordeb a'r egni o bob tu o adeg yr etholiad; a phan y daw, y mae poeth fl11 bydd yr ymdrech yn un o'r rhai Jxaues a c^fdctaf a ddigwyddodd eriocd yn Xlefgj. e^°^adau seneddol Prydain Pawr. > v a y Waid Ityddfrydig yn hyderus iawn I (ia^1yniad; disgwylia hi am fuddugoliaeth | o fe«8^ P^enderfynol; hydera y bydd hi yn fwy °'i bl 68 y senedd nesaf nac a fu yn yr un I aralj ^ld ymddengys fod ft'ydd y blaid J }iyd^n—5^ gref iawn; ond hi a ymladda Hodd arW.dros hachos. Dwg allan holl ad- iall all ei Chyfooth, ei dyfeisiau, a'i hystryw- cadwa 1 scriwiall, hyd y byddo'n bossibl, er ielaltu yr awdurdod wladol yn ei medd- llIlt. ae ac y mae ganddi gyflawnder mawr o'i 1S:idall hynYýn wastad wrth ei llaw. ^dol tl0d £ wahaniaethol y ddwyblaid sen- y ^eil0ed fwy sy™! ac amlwg gel* broil vydd nag ydyw yn awr. Dyna'r ddau ddyn Oadaij. Se^ cydymgeiswyr am brif llall ap. ^wduxdod, mor wahanol y naill i'r ^eb°J a dlc^on da^ ddyn fod. Un yn ddiar- e^Tddm gyfnvysedd> eudeb, ei ddiffyg JJJQ,0^' a i ddiffyg eydwybod a'r llall yr am ei symledd, ei J" ddau a'^ f?ydwy^0d°lrwydd: ac y mae yn SorP^o:riad o ddwy egwyddor ^od-d^ gwrthw5Tne'bus i'w gilydd mewn ^israev yRg'- Personola, a chynnhiychiola ^yddel' Samwri a thrawsder yr Eglwys a dyrehafa ei faner i alw ar holl garedigion y trawster hwnw i ymladd dani dros ei barhad ar ddydd brwydr fawr yr ethol- iad nesaf. Personola a chynnhrychiola Glad- stone yntau egwyddorion rheswm a chyfiawn- der a chydwybod, fel un a fynai ddileu y cam- wri, a symmud ymaith anwiredd a gwarth I y Ty hwnw'-Eglwys Iwerddon, oddiar y wlad. Gydwladwyr Beth a ddywedwch-both a wnewch chwi ? Dewiswch pa un a wasan- aethoch-pa un a bleidiwch Ai ochr evf- iawnder, a gwirionedd, a rhyddid, ynte o du trawster a chamwri, y rhydd Cymru ei Ilais ? Rhanedig yn ddiau fydd ei llais hi eto yn yr etholiad nesaf; ond yr ydym yn hyderus obeithio, oddiar seiliau da, y bydd yn uwch ac yn gryfach nac erioed o'r blaen o blaid yr hyn a ddyrehafa genedl.'
MYFYRWYR CENHADOL.
MYFYRWYR CENHADOL. Da genyf hysbysu fod dau o'r myfyrwyr ooddynt yn N gholeg Aberhonddu y ilwyddyn ddiweddaf, sef Meistri E. C. Davies, a W. M. Davies, wedi penderfynu cyssegru eu hunain fel cenhadon i waith Duw yn mhlith pagan- iaid. Eu bwriad cyntaf oedd cynnyg eu hun- ain i Gymdeithas Genhadol Llundain; ond wedi derbyn hysbysiad am y Medical Mission- ary Institute yn Edinburgh, cynnygiasant eu hunain yn fyfyrwyr yno, er cymmhwyso eu hunain i fyned allan i'r maes fel cenhadon meddygol. Bydd yn llawen gan eu cyfeillion ac ereili glywed eu bod wedi myned drwy yr arholiad ynllwyddiannus, ac wedi cael derbyn- jad croesawgar i'r sefydliad a nodwyd. Rhydd hyn iddynt fanteision gwerthfawr yn ystod y ddwy flynedd ddyfodol, gan fod yr Institute mewn cyssylltiad a'r Royal College of Surgeons a'r University, a diau genyf y gofalant wneyd I zn defnydd priodol o'u breintiau. Gallaf eu sicr- hau, drwy brofiad personol, mai po fwyaf a baratont cyn cychwyn eu gyrfa genhadol, mwyaf defnyddiol y byddant yn eu gwaith, a mwyaf i gyd fydd y cysur iddynt eu hunain. Goddefer i mi ddyweyd gair yn y cyssylltiad hwn, gany tybiwyf fod cryn gamsynied yn bodoli o barthed y eymmhwysderau angen- rheidioli fod yn genhadwr at baganiaid. Pan yn siarad, yn ddiweddar a. diacon parchus mewn eglwys Annibynol, yn un o drefydd mwyaf goleuedig Cymru, cyfeiriais at genhad- wr Cymreig sydd wedi gweithio yn galed a llwyddiannus yn China am flynyddoedd, atteb- odd y cyfaill yn ddibetrus — "Ni ddylasai hwnw adael Cymru; yr oedd yn bregethwr rhy dda i fyned at baganiaid-gallasai rhai ereill nad oes euheisieu yn N ghymru wneyd y tro yn genhadon.' Clywais awgrymiadau cyffelyb mewn mannau ereill; ac ofnwyf fod y syniad isel, gwael, ac afresymol, y gwna unrhyw un fyddo wedi methu gweithio ei ffordd gartref y tro i fod yn genhadwr, yn ffynu yn rhy gyff- redin o lawer. Nid wyf yn petruso dywedyd fod y syniad yn afresymol, er nad ydyw mor hawdd dangos ei afresymoldeb i'r rhai na wyddant fawr am baganiaid, ag ydyw ei deimlo pan yn eu canol. Credwyf fod camsynied mawr yn cael ei wneyd yn y wlad hon mewn cyssylltiad a'r genhadaeth gartrefol. Y mae genyf bob parch i'r efengylwyr a ddefn yddir gany gwahanol gymdeithasau i bregethu i'r dosbarthiadau paganaidd yn y wlad h on. Lla- furia llawer o honynt yn galed, a choronir eu hymdrechion a. llwyddiant. Ond ami y ceir yn eu plith ddynion fyddant wedi methu cael Lie fel gweinidogion sefydlog. A thybir gan lawer mai y peth goreu ellid wneyd a dynion wedi methu ydyw eu cynnyg i ryw gymdeithas genhadol, pan mew-n gwirione dd mai rhai felly' ddylent fod y diweddaf i ymgymmeryd a'r fath waith. Os oes eisieu galluoedd naturiol ac addysgiadol mewn un man, y mae eu heisieu i lafurio yn mhlith paganiaid, pa le bynag y byddont. A thybiwyf hefyd y byddai yn fendith nid bychan pe byddai rhai o'r dynion galluocaf, coethaf, a dysgedicaf yn ymwrthod mwy a'r cynnulleidfaoedd parchus, ac yn ym- ostwng weithiau i wneyd y gwaith a adewir yn brcsennol i ddosbarth arall o bobl. Hyderaf y darfydda yr arferiad. annheilwng hyny cyn hir o bjrswadio dynion ieuaingc fyddant yn siarad am fyned yn genhadon eu bod hwy yn bre- gethwyr rhy dda a galluog i fyned at bagan- iaid—fod yn drueni gwastraffu talentau mor ddisglaer—fod eu heisieu yn y wlad hon—fod digon o rai llai cymmhwys i fod yma ag a allant fyned yn genhadon, a phethau felly. Diau fod gwrando sylwadau o'r fath yn cael eu cymmhwyso attynt eu hunain yn hyfryd iawn deimlad dynion ieuaingc yn nghychwyniad en taith weinidogoethol. Ond cofied y rhai a'u defnyddiant eu bod yn gosod magi ar ffordd t) Z7) y cyfryw, a'r fath fagl ag a all fod yn attalfa i ddefnyddioldeb mawr yn y byd. Yr wyf yn gwneyd y sylivadau hyn, am fy mod yn gwy- bod fod sylwadau cyffelyb yn cael eu gwneyd, aClllai anwybodaeth y rhai a'u gwnant ydyw yr achos o honynt. Gwylicd dynion ieuaingc ag ydynt yn meddwl am waith cenhadol rhag gwrando ar eu hudoliaeth. Os oes ganddynt alluoedd cryfion, ac addysg eang, cant ddigon o le i'w defnyddio yn y maes cenhadol. A pho fwyaf dysgedig a galluog ydynt, cryfaf i gyd y rheswm am iddynt fyned. Y mae ymddygiad y ddau frawd o Aber- honddu yn dangos nad ydynt hwy yn ystyried llawer o addysg yn ddiangenrhaid er bod yn genhadwyr defnyddiol. Da gcnyf ddywedyd fod yr angenrheidrwydd o roddi addysg holaeth i genhadon yn cael ei gydnabod yn bresennol yn fwy nag y byddai flynyddoedd yn ol. Pen- derfyna cyfarwyddwyr Cymdeithas Llundain na ddanfonant neb allan heb iddynt gael addysg golegawl mor helaeth ag a roddir i t3 ZD weinidogion cartrefol. Hyderaf y cadwant at y penderfyniad hwn. Mewn gwledydd fel India a China, lie y preswylia lliaws o Saeson dysgedig, teimla y cenhadwr dan anfantais fawr os na fydd wedi derbyn addysg briodol i'w alwedigaeth. Ac nid yn unig hyny, ond y mae dosbarth helaeth iawn o frodorion y gwledydd hyn yn gracldol ym-odi mewn addysg, ac nid gwiw i genhadwr feddwl y gall ymwneyd a hwy yn effeithiol os na fydd yn alluog i sefyll ar yr un tir, os nid yn uwch, na hwy mewn addysg. Peth naturiol iawn i ddyn ieuangc a'i fcddwl ar dan am fyned at ei waith ydyw tybied ei bod yn drueni iddo wastraffu amser i ddysgu Groeg a Lladin, a phethau felly, yn lie bod wrth ei waith yn pregethn i'r paganiaid sydd yn meirw o eisieu gwybodaeth. Cof genyf glywed un felly yn siarad yn ddoniol am werth amser, byrdra oes, a gallu Duw i ddefnyddio offerynau gwael i achub eneidiau. Ymddengys hyn yn bur naturiol a dymunol; ond camsyn- ied dybryd ydyw meddwl fod meithder bywyd i'w gyfrif yn ol rhif y blynyddoedd y byddis yn gweithio, ac o ganlyniad y dylid dechreti ar unwaith. Tori pren ag offeryn difin ydyw hyny, rhag colli amser i'w awchlymu. Gwna llawer un gymmaint o'i ol ar y byd mewn blwyddyn, ar ol ymbarotoi at ei waith, ag a wnaethai mewn deng mlynedd pe buasai yn rhuthro ati heb gymmhwyso ei hun yn gyntaf. -Os bydd ar unrhyw ddyn ieuangc o Gymru awydd myned yn genhadwr-a hyderaf y bydd ar lawer awydd-y cynghor goreu ar y pen hwn a allwyf roddi iddo ydyw:—Ceisied gym- maint o addysg ag a allo gael cyn cychwyn. Na ystyried yr amser a dreulia i ymbarotoi yn wastraff. Gwell treulio pedair neu bum mlyn- edd yn y dechreu i gymmhwyso ei hun at ei waith, na theimlo anfantais am ei oes o her- wydd y diffyg, pan yn rhy ddiweddar i wneyd i fyny y gwall. Am y ddau frawd sydd wedi myned i Edin- burgh, addysg feddygol yn benaf a dderbyniant yno. Y mae galwad mawr am genhadon meddygol mewn llawer man yn bresennol; ac y mae bod yn feddyg yn gystal ag yn bregeth- wr yn fantais fawr. Gorchymynodd yr Iesu i'w ddisgyblion nid yn unig i bregethu, ond hefyd i iachau y cleifion. Ac y mae y teimlad yn dyfod yn gryfach bob dydd fod genym ni Gristionogion nid yn unig i ddwyn eneidiau dynion i afael iachawdwriaeth, ond hefyd i hyrwyddo yn mlaen bobpeth er gwella cyflwr, a lleihau trueni dynion yn mhob ystyriaeth. Arwydd dda ydyw gweled y cenhadon medd- ygol yn lliosogi. Dymunaf i'r ddau Gymro hyn lwyddiant mawr. Ac na ddigied y dar- enydd am i mi ddefnyddio eu derbyniad i'r coleg yn achlysur i wneyd y sylwadau uchod. W. JONES.
LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD. .
LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD. COXIEKEXCE Y WESLEY All) ydyw digwyddiad mawr yr wythnos yn y dref. Mae nifer luosog o weinidogion wedi dyfod yn nghyd. Pery y gynhadledd am y rhan fwyaf o dair wythnos. Mae prif ddynion yr e-liwad yn bresenol, yn weinidogion a lleygwyr, ac ym- ddengys fod pob peth yn cael ei ddwyn yn Z!,y mlaen yn drefnus a rheolaidd. Cyflwynir i sylw adroddiadau y gwahanol gymdeithasau sydd yn perthyn i'r corpli. Ni welais erioed well engraifft o effeitliiolactli '■division of labour Cynhelir y cyfarfodydd oil yn Brunswick Chapel, Moss-street. Nis gallaf roddi i lawr el yma y gwahanol faterion sydd wedi bod ger bron Y Parchedig S. N. Hall ydyw Llywydd y Conference am y flwyddyn nesaf, a'r Parch. J. Farrar yw yr Ysgrifenydd. Ethol- wyd hwy gyda mwyafrif mawr, yn enwedig yr olaf. Y mae y eynnulleidfaoedd Cymreig yma wedi sicrhau gwasanaeth y gweinidogion o Gyulru sydd yn y dref am dri Sabbath, ac y mae ein cydwladwr parchus, Richard Roberts, i roddi darlith yn Shaw-street yr wythnos gyntaf yn Awst. Os bydd modd yn y byd mynaf ei glywed, a chewch yr hanes. Bu STOWELL BROWN yn pregethu yn nghapel Park Road am ddau o'r gloch Sabbath, Gorph. 26ain. Cafodd gynnull- eidfa dda iawn, a phregethodd yn rhagorol. Yr oedd yn Sabbath casglu gan y gynnulleidfa yno at euccLpel newydd; a pliregethodd Mr Roberts yn y boreu, a Mr Stephens yn yr hwyr. Casgl- wyd yn dda iawn, yn enwedig pan gofir eu bod wrthi o hyd. Ond, o ran hyny, y rhai sydd yn arfer rhoddi o hyd ydynt y parotaf i gyfranu. ,y Mae rhyw sibrwd gan GYKNXrLLEIDFA GREAT GEORGE-STREET eto am weinidog. Ar y Parch. Mr Bartlett, o Worcester, y maent yn llygadu yn awr. Nis gwn a lwyddant i'w gael ai peidio. Mae gwir angen rhyw un arnynt. Dywedir gan rai o honynt fod Mr Thomas, Berkley-street, yn edi- farhau iddo adael y dref hon, ac y deuai yn ol pe gelwid arno. Nis gwn pa faint o wir sydd yn hyny. Nid oes genyf ond dyweyd fel y dywedir yn gyffredin. Mac right wir i mi ei glywed.' Mae DR M'NEILE wedi gwneud ei hun yn hynod eto. Mae niedr rhyfedd ganddo i gadw ei hun yn y golwg yn wastad. AnfonWyd ato i geisio ganddo arwyddo y cais i Mr Gladstone i ddyfod yn ymgeisydd dros ran o Swydd Lancaster. Anfonodd yn ol ei fod yn gwrthod arwyddo y cais; ond nid oedd hyny yn ddigon ganddo heb ysgrifenu llythyr maith yn ymosod ar Mr Gladstone a'r blaid ryddfrydig yn. gyffredin ar faterl yr Eglwys Wyddelig. Cystal Pab ag a fu yn Rhufain erioed o ran ei ysbryd gormesol ac anffaeledig ydyw Dr M'Neile. Bu yn ceisio gwenieithio i'r Ymneillduwyr er's tro yn ol, ond nid oedd y cwbl ddim ond abwyd i geisio ein dal er mwyn ein cael i wasanaethu ei amcanion ef a'i blaid. IECHYD Y PARCH. D. PRICE. Bydd yn dda gan filoedd ddeall fod Mr Price bron wedi llwyr wella, ar ol bod yn beryglus wael. Disgwylia allu dechreu ar ei waith eto y Sabbath nesaf yn Portdinorwc. Gwelsom ef neithiwr, ac yr oedd mor siriol ag erioed.
YMADAWIAD P. M. WILLIAMS,…
YMADAWIAD P. M. WILLIAMS, YSW., A MIDDLESBRO-ON-TEES. Nos Sadwin, Gorph. y 25ain, cynhaliwyd cyfarfod o ymadawiad a (Mr Williams (Pedr Mostyn), yn School Croft, Middlesbro-on-Tees, o dan lywyddiad Mr Morgans, Ystradgynlais, gynt o Goleg Aber- honddu. Daeth Mr Williamsyma bddeutu blwyddyn yn ol, ac er nad oedd wedi hollol ymgartrefu yn ein plith, teimlem yn falch o'i ymweliadau mynych a ni, a disgwyliem y buasai Rhagluniaeth yn trefnu iddo wneud ei drigfa arosol gyda ni. Gofidiem yn fawr pan glywsom gyntaf am ei fwriad i fyned yn ol i Manceinion. Yr oedd y cyfarfod hwn wedi ei alw i'r dyben o ddadgan iddo ein syniadau parchus am dano, a'n cariad dwfn tuag ato, yn nghyd a'r golled ddirfawr a deimlem wrth ei golli. Dechreuwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau.' Yna cafwyd areithiau gan Mri Thomas Thomas, North Ormesby, Thomas Thomas (Gwernllwynfab), Thomas a John Clarke, a W. Aubrey, o'r dref hon a chan Mri D. Davies (Dewi Alaw), John Hopkins (loan Glan Tees), a Daniel Stephen, o Stockton. Darllenwyd llythyr hefyd oddiwrth Mr Rhys Etna Jones, yr hwn a ofidiai yn fawr am na allai fod yn bresenol. Dadganent un ac oil y teimladau mwyaf dwys a hiraethlawn. Yr oedd yn ddigrif eu clywed yn son am ymweliad cyntaf ein cyfaill a'r Capel Cymreig fel dyeithrddyn hollol anadnabyddus. Traethent yn y modd mwyaf diolchgar am y gwas- anaeth gwerthfawr a wnaeth iddynt yn ystod ei arosiad, trwy bregethu iddynt bob tro y gofynid iddo, pan y byddai mewn cyfleusdra i wneud hyny. Yr oedd ei weithgarwch parhaus, ei bregethau grymus, a'i gymmeriad da, wedi ennill serch cySred- inol, ac wedi gadael argraff na ddileir ar bob Cymro fu yn ei wrando. Teimlentfod y golled yn anadfer- oncl adwy, nid yn; unig i achos crefydd yn y ll o hefyd i lenyddiaeth a ifaoesoldeb y genedl. Dynnuud Yd iddo hir oes a nerth ac iechyd i ennill mwy o ddy. lanwad eto yn ei gvlch newydd, ac i fod o iwy defnydd nag erioed. Darllenwyd amryw annerchiadau gan y beirdd, a ehanwyd amiyw ganau swynol gan Miss Clarke a Miss Griffith-, a chan Mri J. H. Davies a Thomas Thomas (Gwernllwyiifab). Ar y diwedd, cafwyd araeth wresog gan Mr Wil- liams ei hun. Dywedai nad oedd yn cymmeradwyo yr holl bethau ffafriol a ddywedwyd am dano. Hyderai fod ganddo synAvyr i wahanu yr us oddi- wrth y gwenith. Ond er yr holl ddiffygion, gwertb- fawrogai y teimladau mwyaf brwdfydig-, a madd- euai yn rhwydd bob gormodiaeth. Yr oedd yn earn y Cymry yn ei galon, ac yn arfer gwneuthur cym- maint a allai drostynt, heb ofyn. dim cydnabydd- iaeth am ei lafur. Yr oedd yn llawen ganddo feddwl ei fod yn ymadael Y11 eu serch, ac y caffai gToesaw calon i ddn-fod yn ol pan y mynai. Cynghorai hwynt i lynu yn ffyddloll wrth y gwaith, a dymunai iddynt bob daioni.—Gohcbydc!.
I)A3r\V.AIN ALAETHUS. 1. r.
I)A3r\V.AIN ALAETHUS. 1. r. PEDWAR-AR-HUGAIN WEDI EU LLADD, AC AMRYW WEDI EU HAN AFT". J Cymerodd damwaiu ddifrifol iawn le yn y Music. Hall, Manchester, nos Wener diweddaf, lleyr oedd yn agos i 2,000 wedi dod yn nghyd, bechgyn a genethod o 12 i 20 gan mwyaf. Yn niysg amryw gampiau ddygid yn mlaen er di- fyrwch y gwyddfodolion, yr oedd rhedeg mewn sachau yn myned yn mlaen, a chan eu hawydd i weled hyn, dringodd amryw fechgyn i fyny y gaspipe, a thorodd hwnw. Wrth arogli y gas yn lied gryf, gwaeddodd rhyw un allan yn gyfirous iawn, 'Tan! tan!' fel y dechreuwyd rhuthro tua'r drysau. Aeth Mr. Clifford, (er' budd yr hwn yr oedd elw y iloson) i'r esgpilawr, i geisio darbwyllo pawb i fod yn llonydd, nad oedd un perygl ond iddynt wneyd hyny. Nid oedd yn un dyben dyweyd dim. Rhuthtid at bob ch-ws a ffenestr yr oedd gobaith gallu myned allan rywfodd o afael y tan fel yr ofnid. Yr oedd yr olygfa yn ofnadwy. Gwaeddai cannoedd yn ddolefus. Gwesgid rhai i farwolaetb, a sethrid eraill o dan draed. Yr oedd gwaedd y dioddef- wyr yn dorcalonus i'r pen. Trwy fod yno amryw gabs yn ymyl galwyd am en gwasanaeth, i gario y trueiniaid i'r Royal Infirmary. Caed fod yno 23 wedi eu lladd, ac amryw wedi eu hanafu- (leudde(r o ba rai a adawyd yn yr Infirmary, a bu un o honynt farw yno. Wedi y trengholiad, cymerwyd amryw o'r cyrff i'w gwahanol gar- trefi. Nid oeddis wedi cael allan pwy a roddodd y false alarm am y tan, ond cynhygir 20p. o wobr am wybod pwy ydoedd. r ?
NODION A NIDIA-U.
NODION A NIDIA-U. Fy nghyfaill Arthur yn gwrido yn enbyd, ae yn enweian pysychu yn ddyeithr iawn wrth i mi ei gyfarch y dydd o'r blaen. Methu deall beth oedd y mater arno, nes i mi glywed iddo briodi yn yr Eg- lwys Wladol yn ddiweddar. Beth ddaeth dros yr iolyn anghyson? Clywais i'w nam roi lwrnj) o halen yn ei de am ei gast. Cafodd effaith ryfedd arno, fel na phrioda byth yn yr eglwys eto, pe pri- odai saith o wragedd. Nid arna' i y mae y bai na ddeuai y bara i lawr, tra y mae y blawdyn gostwng o hyd.—Y mae peth bai ar y ffarmwyr, a pheth bai ar y melinwyr, a pheth bai ar y pobwyr, a thrwy y cwbl y mae bai mawr enbydus. Cwrdd a hogyn bach yn Dean-street, Bangor, yn crio yn groch wrth ddod o gapel y Methodistiaid, wythnos i'r Sabbath diweddaf. 'Beth sydd arnat ti fy machgen i?' meddwn wrtho, 'Bradford House, (hii, hy,) sydd yn dyweyd (hu, hy,) mai pagan bach o Affrica ydw' i (hu, hy, hy,) a Tom 'y mrawd, a Huw ty. nesa', a lot ohonon ni, (hu, hy.') Pam yr oedd o yn dyweyd hyn wrthoch chwi fy machgen bach Ïi" 'Y fo oedd yn bocsio 'n holi ni, ac yn gofyn, "Beth yw pechodl" ".Anghyfraith," medd- en ninau yr un fath a'r Llyfr Bach, ond yr oedd arno fo eisio i iii roi ei gyflog iddo cyn dyweyd beth oedd o.' Na hidia mono machgen i, mi to i ar dy dalcen di na fuost ti erioed yn AfMca,—dyma i ti g-einiog, a phaid a chrio.' Newidiodd ei dmr yn union, a bygythiai f'Il' d i holi Bradford House pan â] yn I iwr. Nid oeddwn yn y station pan yr oedd Disraeli yn gadael Llundain, ond yr wyf yn deall nad oedd yn cymmeryd fawr o bwysau o onestrwydd gwladol na duwioldeb yn mysg ei k^ggage. Cydgerdded a churedyn denfis. oed-creadur dini- wed iawn. Son am ei orchestion gyda 'Simeon's Skeletons of Sermons.' Danghosais gwch gwenyn arall iddo, ond y mae arnaf ofn y caiff ami golyn cyn cael dim o'r mel. Nid tro Rechabaidd iawn ydyw cymniysgu diod 'Ty Farri,' a llaetli Ty^'nybryn. 0 Wedi gofalu am fy -votes yn mhob man gogyfer a'r etholiad nesaf. Gobeithio fod pawb wedi gwneyd yr on fath. G ellir disgwyl fy ngweled i a Gw- eirydd fel ysprydion gwasanaethg-ar trwy y wlad, yn malu y scriics yn chwilfriw man. Nid NOCHTIVAGUS-Dvw CWSG.